Sut rydym yn trin unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn ystod ein hymchwil ynghylch defnyddio GOV.UK One Login i gael mynediad at eich cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru.
Cynnwys
Pwrpas yr ymchwil hwn
Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn i ddatblygu a lansio GOV.UK One Login ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.
Bydd GOV.UK One Login yn disodli gwasanaeth dilysu Porth y Llywodraeth. Dyma'r gwasanaeth a ddefnyddir gan ddefnyddwyr Cynnig Gofal Plant Cymru i fewngofnodi i'w cyfrif. Bydd GOV.UK One Login yn eich galluogi i fewngofnodi i wasanaethau lluosog y llywodraeth gan ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair.
Hoffem eich gwahodd i brofi GOV.UK One Login ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru mewn sesiwn ymchwil ar-lein. Ein nod yw dangos i chi sut mae GOV.UK One Login yn gweithio gyda llwyfan Cynnig Gofal Plant Cymru.
Byddwch yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon ar sail gwbl wirfoddol. Bydd eich adborth yn ein helpu i sicrhau bod y broses ddilysu newydd yn hawdd ei dilyn i bawb.
Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi yn y dyfodol ynglŷn â datblygiad ehangach llwyfan Cynnig Gofal Plant Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Kainos Software Ltd. Gyda'i gilydd, dablygwyd llwyfan digidol Cynnig Gofal Plant Cymru, ac ers hynny maent wedi'i gynnal.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer hyn ac unrhyw ymchwil yn y dyfodol. Bydd enwau a manylion cyswllt cyfranogwyr yn cael eu dileu cyn rhannu allbwn yr ymchwil â Kainos.
Pa ddata personol sydd gennym
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol Llywodraeth Cymru (e.e. Awdurdodau Lleol a chyrff ymbarél gofal plant) i gysylltu â YCynnigGofalPlant@llyw.cymru os ydynt yn dymuno cymryd rhan.
Bydd enwau a manylion cyswllt cyfranogwyr yn cael eu rhannu o fewn tîm Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn unig, a dim ond at ddibenion trefnu cyfarfodydd a chynnal yr ymchwil.
Fel rhan o'r gwaith ymchwil, bydd angen i Lywodraeth Cymru gasglu'r wybodaeth bersonol a'r wybodaeth categori arbennig ganlynol:
- enw
- manylion cyswllt
- pa gategori o randdeiliaid rydych yn perthyn iddo (rhiant / gofalwr neu ddarparwr gofal plant)
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac, os nad ydych yn dymuno cymryd rhan, peidiwch ag ateb yr e-bost sy’n eich gwahodd i wneud hynny. Os ydych wedi cytuno o'r blaen i gymryd rhan ond nad ydych am wneud hynny mwyach, rhowch wybod i swyddog cyswllt Llywodraeth Cymru, a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion ymchwil ar y defnydd o wasanaeth Cynnig Gofal Plant Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.
Os byddwch yn dewis rhoi rhagor o ddata personol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch enw â'r ymatebion hynny. Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn, ac yn rhoi data personol er mwyn ichi allu cael ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw, ac yna bydd yn eu dileu o ddata’r ymchwil.
Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal dros Microsoft Teams. Bydd tîm Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y trafodaethau i ofyn y cwestiynau a chymryd nodiadau. Bydd y nodiadau yn cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru a byddant yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd prosiect y gwasanaeth digidol wedi'i gwblhau.
Ni fydd data personol yn cael eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a gaiff eu paratoi yn dilyn y sesiwn.
Sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae gwaith ymchwil ac ymgysylltu fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth, a thystiolaeth y gall weithredu arni, ynglŷn â'i gallu i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, yn cael ei defnyddio i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaeth digidol i sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch i ystod amrywiol o randdeiliaid. Bydd hyn yn sicrhau bod rhieni, darparwyr gofal plant a gweinyddwyr Awdurdodau Lleol yn gallu ymgysylltu'n hawdd â Chynnig Gofal Plant Cymru.
Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data personol ar weinydd diogel mewn ardal sydd wedi'i chyfyngu i dîm y prosiect. Dim ond nifer cyfyngedig o bobl sy’n gweithio ar y prosiect fydd yn cael gweld y data. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod achos o dorri rheolau diogelwch data wedi digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol yn ôl y gyfraith inni wneud hynny.
Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymgysylltu hwn drwy ddefnyddio fformat dienw. Ni fyddant yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod unigolyn yn cael ei dileu. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a allai gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw gyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data personol yn ystod y prosiect, a bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi'u tynnu yn cael eu dileu gan Lywodraeth Cymru o fewn 12 mis i'r adeg yr aiff GOV.UK One Login yn fyw ar lwyfan y Cynnig Gofal Plant. Bydd unrhyw ddata a rennir rhwng Kainos Cyf. a Llywodraeth Cymru yn ddienw ac ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth a allai ei gwneud yn bosibl eich adnabod. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r wybodaeth ddienw fel rhan o'r llwybr archwilio ar gyfer datblygu'r system ddigidol a dilyn ein polisi cadw cofnodion.
Eich hawliau o ran eich data
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r prosiect hwn:
- cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
- gofyn inni ddileu’ch data (o dan amgylchiadau penodol);
- i gyflwyno cwyn i’r rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data yn ico.org.uk
Cysylltwch â ni am help
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch sut y bydd y data a ddarparwyd fel rhan o’r ymchwil hwn yn cael ei ddefnyddio, neu i arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â Sarita Marshall (Cynnig Gofal Plant Cymru, Llywodraeth Cymru) drwy:
- e-bost: sarita.marshall4@llyw.cymru
- ffôn: 03000 256 583
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy:
- post: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
- e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Os oes angen i chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gallwch wneud hynny drwy:
- post: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
- eu gwefan: ico.org.uk