Rydym yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig a diwygiadau technegol i Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn am:
- Dileu Dad-ddynodi Awtomatig ar ôl pum dosbarthiad ‘gwael’ yn olynol.
- Diweddariadau i feini prawf dynodi safleoedd ymdrochi
- Dileu dyddiadau penodol ar gyfer y tymor ymdrochi
Rydym hefyd angen eich barn ar ddiwygiadau technegol arfaethedig, yn ogystal â diwygiadau posibl yn y dyfodol ar y canlynol:
- y diffiniad o ‘ymdrochwyr’
- cyflwyno pwyntiau monitro lluosog mewn safleoedd ymdrochi
Gall Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru ymateb yn wahanol i ganlyniadau’r ymgynghoriad.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar DEFRA.GOV.UK