Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
“Yn dilyn fy natganiad llafar ddydd Mawrth a’m hymrwymiad i rannu gwybodaeth cyn gynted â phosibl, mae’r sefyllfa yn newid yn gyflym ac mae yna rai datblygiadau yr wyf bellach mewn sefyllfa i roi mwy o wybodaeth yn eu cylch.
Yn gyntaf oll, mewn perthynas â phrofi samplau o flociau tŵr yng Nghasnewydd, cyflwynodd Cartrefi Dinas Casnewydd samplau o gladin Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) o flociau Milton Court, Hillview a Greenwood i’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE). Bellach, mae canlyniadau’r profion wedi dod i law a chyhoeddodd y landlord ddatganiad ddoe.
Mae canllawiau Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU, a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin, ac a anfonwyd at bob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, yn rhoi cyngor clir ar amryw fesurau y mae angen eu cymryd lle bydd samplau yn methu profion cychwynnol, gan gynnwys yr angen i gynnal asesiadau brys o’r risg tân, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch y trigolion. Mae Cartrefi Dinas Casnewydd wedi cadarnhau wrthyf fod pob mesur diogelwch tân interim a argymhellir yn y cyngor wedi’i roi ar waith. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi arolygu’r darpariaethau diogelwch tân sydd yn eu lle ac mae wedi adrodd bod y rhain yn ddigonol pan gynhaliwyd yr archwiliad. Nodwyd bod y safleoedd dan sylw yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a orfodir gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i gefnogi Cartrefi Dinas Casnewydd a’u trigolion.
Rwy’n falch bod y gweithgarwch hwn yn rhoi’r lle canolog i anghenion y tenantiaid a bod Cartrefi Dinas Casnewydd yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol iawn gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r ffaith y bydd swyddogion diogelwch tân ar y safleoedd hyn heddiw ac yfory i ateb cwestiynau tenantiaid yn gysur.
Mae Cartrefi Dinas Casnewydd, fel landlord, hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod holl fanylion y sefyllfa yn hollbwysig, a bod cefnogaeth briodol ar gael iddynt. Rwy’n falch o weld bod Cartrefi Dinas Casnewydd a’u partneriaid wedi mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod tenantiaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd a’u bod yn cymryd camau i dawelu eu hofnau.”
Byddwch wedi gweld y datganiad ddoe gan Ddinas a Sir Abertawe. Cadarnhaodd hyn fod mwy o brofion wedi’u gwneud ar ddeunydd tebyg i’r hyn a welir mewn adeiladau yn Abertawe. Comisiynwyd y prawf pellach yn annibynnol gan weithgynhyrchydd o’r Almaen sy’n creu cynnyrch o’r enw Alucobond Plus. Roedd y prawf hwn yn brawf system lawn, nid dim ond ar sampl o’r cladin. Rydym ar ddeall i’r prawf hwn ddangos bod y system yn cydymffurfio â chanllawiau Dogfen Gymeradwy B y Rheoliadau Adeiladu, Cyfrol 2 – Diogelwch Tân ar gyfer profion llawn (Atodiad A BR135 – sy’n ymwneud â pherfformiad deunydd inswleiddio thermol allanol mewn waliau adeiladau aml-lawr mewn tân).
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o’r datganiad gan Gyngor Sir Dinbych ar y penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd y Rhyl heddiw ac yfory. Mae hon yn ysgol newydd a gefnogwyd gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac mae lefelau diogelwch tân uchel iawn i’r adeiladau. Rhoesom ganllawiau i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach ddoe yn cadarnhau mai dim ond ysgolion a cholegau addysg bellach oedd yn cynnig llety dros nos neu a oedd yn uwch na 18 metr yr oedd angen ystyried eu profi mewn perthynas ag ACM.
Yn olaf, rydym yn croesawu cyhoeddiad panel arbenigwyr y DU heddiw mai eu cam nesaf fydd cynnal nifer o brofion ‘system gyfan’ er mwyn helpu i gadarnhau sut mae gwahanol fathau o baneli cladin ACM, o’u cyfuno â mathau gwahanol o ddeunydd inswleiddio, yn ymddwyn mewn tân. Mae’r profion hyn yn debyg i’r rhai a gynhaliwyd ar ran gweithgynhyrchydd y cladin a ddefnyddiwyd yn Abertawe. Byddant o fudd wrth ystyried a ellir yn ddiogel ddefnyddio paneli sy’n methu’r prawf cychwynnol fel rhan o system wal allanol ehangach, ac felly a ellir eu gadael ar adeilad o dan amgylchiadau penodol a gymeradwyir.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn ôl yr angen.