Neidio i'r prif gynnwy

Ni fydd yn rhaid i safleoedd gofal plant cofrestredig dalu ardrethi busnes mwyach, gan arbed miliynau o bunnoedd bob blwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Amcangyfrifir y bydd yn arbed £3.4 miliwn y flwyddyn i'r sector, a bydd y rhyddhad ardrethi annomestig sydd bellach yn barhaol ar gyfer safleoedd gofal plant yn cefnogi darparwyr gofal plant i fuddsoddi mewn staff, creu swyddi newydd a lleihau codiadau ffioedd i rieni.

Diolch i'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, nid yw safleoedd fel meithrinfeydd dydd wedi talu ardrethi busnes yng Nghymru ers 2019 - gan helpu llawer i fynd i'r afael â chostau cynyddol a pharhau i weithredu.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae lleoliadau gofal plant yn darparu gwasanaeth hanfodol yng Nghymru, gan gynnig amgylcheddau sy'n meithrin ein plant a helpu rhieni i gael mynediad at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Ond ry’n ni'n gwybod bod y sector dan bwysau sylweddol ac angen cymorth parhaus i dalu eu costau.

Bydd gwneud rhyddhad ardrethi busnes yn barhaol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig yn hwb enfawr i'r sector, gan roi sefydlogrwydd a helpu darparwyr i ail-fuddsoddi'r arbedion yn ôl yn eu busnes er mwyn parhau i ddarparu gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel.

Dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein plant, ein rhieni a'n darparwyr nawr, ac i'r dyfodol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn rhan o'n buddsoddiad blynyddol o £100 miliwn a'n hymrwymiad hirdymor i gynnal a thyfu gofal plant o ansawdd uchel.

Ry’n ni am i'r sector gofal plant fod yn gynaliadwy yn ariannol a bydd y cynllun hwn yn helpu i leihau'r risg y bydd safleoedd yn cau, gan olygu y gall lleoliadau gofal plant cofrestredig barhau â'u gwasanaethau hanfodol a bod o fudd i deuluoedd ledled Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, Purnima Tanuku OBE:

Yn dilyn lobïo gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru a phartneriaid eraill Cwlwm, rydym wrth ein bodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y rhyddhad ardrethi hwn ar gyfer meithrinfeydd yn un parhaol.

Mae darparwyr gofal plant ar draws Cymru wedi wynebu costau cyflenwi cynyddol gan ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw aros yn gynaliadwy wrth ddarparu lleoedd blynyddoedd cynnar a ariennir.

Mae dileu baich ardrethi busnes yn barhaol yn gam cadarnhaol tuag at helpu meithrinfeydd a rhoi sicrwydd iddynt. Wrth wneud y penderfyniad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth cefnogi'r sector blynyddoedd cynnar.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Daisy Day Nursery, Abeer Bafaqih:

Mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn ystyried sefyllfa darparwyr gofal plant.

Mae'r penderfyniad i ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes yn gam pwysig. Mae'n rhyddhad inni glywed na fydd angen i'r sector gario'r baich hwn o ystyried eu bod eisoes dan bwysau.

Ar adeg pan ry'n ni'n gweld pwysau ar incwm teuluoedd, ry'n ni'n ddiolchgar bod y rhyddhad yn golygu y byddwn ni'n gallu parhau i gynnig strwythur ffioedd rhesymol iddyn nhw.

Ry'n ni'n edrych ymlaen at gael cefnogaeth ac eiriolaeth barhaus Llywodraeth Cymru i'r sector Blynyddoedd Cynnar a'r teuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn.