Dechrau'n Deg: adroddiad ansawdd
Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r egwyddorion cyffredinol a'r prosesau sy'n arwain at gynhyrchu ein hystadegau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw’r ystadegau hyn?
Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Ei nod yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Pwrpas y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn pob awdurdod lleol arall yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd yn ehangach am ddarpariaeth rhaglen Dechrau’n Deg.
Mae’r datganiad ystadegol blynyddol hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach
Rhaglen Dechrau’n Deg
- dyma brif agweddau Dechrau’n Deg:
- gofal plant rhan-amser am ddim i blant 2 i 3 oed
- gwell gwasanaeth gan ymwelwyr iechyd (lle mae baich achosion yr ymwelydd iechyd wedi’i gapio ar 110 o blant)
- mynediad at gymorth magu plant
- mynediad at gymorth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (Datblygiad Iaith Cynnar yn flaenorol).
Mae’r gwasanaethau hyn ar gael yn gyffredinol i bob plentyn o dan 4 oed a’u teuluoedd yn yr ardaloedd lle mae’r rhaglen ar waith.
Un o ofynion Dechrau’n Deg yw bod yn rhaid cael un ymwelydd iechyd cyfwerth ag amser llawn ar gyfer pob 110 o blant dan 4 oed yn yr ardaloedd targed. Pwrpas hyn yw sicrhau bod cymorth dwys yn cael ei ddarparu i blant Dechrau’n Deg a’u teuluoedd. Prif swyddogaeth ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg yw cefnogi’r teulu yn y cartref, gan asesu’r plentyn (gan ddefnyddio teclyn asesu datblygiad priodol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru), a’r teulu (o ran risg uchel, canolig ac isel). Mewn rhai awdurdodau lleol, caiff bydwragedd eu cyflogi fel rhan o dîm craidd Dechrau’n Deg. Pa un ai yw hyn yn digwydd yn lleol ai peidio, mae ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn gweithio’n agos gyda bydwragedd cyffredinol sy’n gweithio gyda rhieni Dechrau’n Deg. Rhoddir pwyslais ar weithio gyda’r grwpiau mwyaf agored i niwed, gan gynnwys rhieni yn eu harddegau, y rheini sy’n dioddef, neu a allai fod mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig ac iselder cyn/ar ôl geni.
Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i rieni pob plentyn 2 i 3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2½ awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos. Hefyd, dylai fod darpariaeth hyblyg o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol.
Mae Dechrau’n Deg yn ategu Rhaglen Plant Iach Cymru.
Cymorth magu plant
Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn Dechrau’n Deg gael cynnig cymorth ffurfiol ar gyfer magu plant o leiaf unwaith y flwyddyn. Gall hyn fod mewn grwpiau neu un-i-un yn y cartref gyda chymysgedd o gymorth ffurfiol ac anffurfiol, yn dibynnu ar angen. Yn ogystal â’r cynnig magu plant ffurfiol, gellir darparu rhaglenni magu plant eraill, fel cymorth magu plant anffurfiol, sesiynau un-i-un manylach, wedi’u teilwra’n arbennig a sesiynau galw-heibio anffurfiol.
Diffinnir cyrsiau magu plant ffurfiol strwythuredig fel rhai sydd â chwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol, fel y rhestrir isod (ond cofiwch fod penderfyniadau ynghylch pa gyrsiau i’w cynnig yn cael eu gwneud yn lleol):
- Y Blynyddoedd Rhyfeddol: Rhaglen Rhieni a Babanod
- Y Blynyddoedd Rhyfeddol: Rhaglen Rhieni a Phlant Bach
- Triple P: Standard
- Triple P: Stepping Stones
- Parenting Plus Early Years (PPEY)
- Parenting Positively
- Y Blynyddoedd Rhyfeddol: Rhaglen Paratoi ar gyfer yr Ysgol
- Family Links Nurturing Programme (FLNP)
- Y Blynyddoedd Rhyfeddol: Rhaglen SYLFAENOL Cyn Ysgol
- Grŵp Rhianta Dull Solihull
- Trin Ymddygiad Plant.
- Kaleidoscope Chwarae a Dysgu
- Partneriaeth Addysg Gynnar Rhieni (PEEP)
- Strategaethau Chwarae a Dysgu (PALs)
Mae gan gyrsiau magu plant anffurfiol strwythuredig gwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol hefyd.
Yn y ddau achos, diffinnir ‘lle’ ar gwrs fel un a ddyrannir i un rhiant. Os bydd lle yn cael ei dyrannu i ddau (neu ragor) o rieni ar gwrs, byddai hyn yn cael ei gofnodi fel dau le (neu ragor). Ni fyddai unrhyw blentyn sy’n mynychu gyda rhiant am unrhyw reswm yn cael ei gyfrif fel unigolyn sy’n cael lle ar y cwrs.
Diffinnir y nifer sy’n ‘manteisio ar’ le ar gyrsiau fel nifer y bobl a fynychodd y sesiwn gyntaf.
Diffinnir pecynnau cymorth priodol, manylach a phwrpasol fel cyfres o sesiynau wedi’u hamserlennu a’u cyflwyno ar sail un-i-un, sydd wedi’u nodi’n ofynnol drwy atgyfeiriad penodol o’r rhaglen Dechrau’n Deg mewn perthynas â magu plant. Fel arfer, bydd pecyn o’r fath yn cael ei gyflwyno i uned deulu berthnasol yn y cartref neu yn rhywle arall ac yn para am o leiaf bedair sesiwn benodol.
Ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar
Cafodd rhaglen Dechrau'n Deg ei hehangu yn dilyn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn 2 oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae Cam 2 rhaglen ehangu'r blynyddoedd cynnar yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed ledled Cymru yn ystod 2023-24 a 2024-25, ac fe ddechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023.
Mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth reoli a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru o'r awdurdodau lleol i fonitro cynnydd Cam 2 y rhaglen ehangu.
Mae'r ystadegau hyn yn ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Rydym yn gweithio i wella ansawdd yr ystadegau hyn ar gyfer fersiynau o'r erthygl hon yn y dyfodol. Dyma'r amcangyfrif gorau sydd gennym ar nifer y lleoedd gofal plant a gynigiwyd ac y manteiswyd arnynt ym mis Ebrill 2023 i 24 Mawrth. Casglwyd data at ddibenion monitro'r broses o gyflwyno Cam 2 y rhaglen ehangu. Rydym yn ceisio mireinio a gwella'r casgliad hwn o ddata fel ei fod yn unol â Ffurflen Monitro Data Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Gwerthuso Dechrau’n Deg
Mae cyfres o adroddiadau Gwerthusiad Cenedlaethol o Dechrau’n Deg wedi cael eu cyhoeddi ers 2014. Cyhoeddwyd adroddiad ymchwil ‘Ymchwil Ansoddol gyda Theuluoedd Dechrau’n Deg: Cam 3’, ar 18 Gorffennaf 2018. Mae’n adrodd ar brosiect ymchwil hydredol a oedd yn cynnwys tri cham o gyfweliadau manwl â 72 o deuluoedd rhwng 2015 a 2017. Ei nod yw rhoi cipolwg ar sut mae teuluoedd wedi ymgysylltu â gwasanaethau cymorth i deuluoedd a sut brofiad oedd hynny ar gyfer y rheini sydd heb fynediad at y rhaglen.
Cafodd adroddiad ymchwil ‘Gwerthusiad proses o ehangu graddol Dechrau’n Deg’ ei gyhoeddi ar 13 Mehefin 2024. Mae'r adroddiad hwn yn werthusiad sy'n archwilio llwyddiannau a heriau'r broses o ehangu Dechrau'n Deg yn raddol, gan gynnwys yr effeithiau ar randdeiliaid, ac mae'n cynnwys enghreifftiau o arferion da. Argymhellodd yr adroddiad hwn ddull safonol o fonitro casglu data, gan ddilyn yr un diffiniadau ledled Cymru i ganiatáu cymharu data ar draws awdurdodau lleol ar gyfer derbyn cynigion a manteisio arnynt.
Maint rhaglenni awdurdodau lleol
Er bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru raglen Dechrau’n Deg, maent yn amrywio’n sylweddol o ran niferoedd absoliwt y plant sy’n derbyn gwasanaethau. Dylai defnyddwyr nodi effaith y dosbarthiad hwn ar yr ystadegau. Lle mae nifer a chyfran absoliwt fawr o blant Dechrau’n Deg wedi’u crynhoi mewn awdurdodau lleol penodol, gall tueddiadau yn yr ardaloedd hyn gael effaith anghymesur ar ffigurau Cymru gyfan.
Gall awdurdodau lleol lle mae maint y rhaglen yn fach, o ran llwyth achosion, weld mwy o amrywiadau o un flwyddyn i’r llall. Mae llawer o’r ardaloedd sydd â llwythi achosion bach yn rhai gwledig lle gallai fod heriau ychwanegol o ran cael mynediad at wasanaethau a’u dosbarthu, a allai effeithio ar batrymau a thueddiadau.
Ffynonellau data
Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Cynhaliwyd y casgliad data hwn rhwng mis Ebrill 2012 a mis Mawrth 2013. Gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar ôl ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fonitro'r cynnydd. Daw’r data ychwanegol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER). Defnyddir amcangyfrifon canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer dadansoddi poblogaeth.
Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Yn ystod y cam cyntaf roedd disgwyl i tua 2,500 o blant ychwanegol (0-4 oed) elwa ar bob un o'r pedair elfen o raglen Dechrau'n Deg. Roedd Cam 2 y rhaglen ehangu yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed ledled Cymru yn ystod 2023-24 a 2024-25, a dechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023. Mae'r datganiad ystadegol hwn yn adrodd ar wahân ar y plant o dan Gam 2 rhaglen ehangu Dechrau'n Deg sy'n cael cynnig elfen gofal plant, ac sy'n manteisio arni.
Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
Sefydlodd gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru waith monitro data’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rheolaidd yn 2012 ac ar ddechrau 2013. Roedd y data cyntaf yn cael eu casglu ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13. Mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu dair gwaith y flwyddyn gan awdurdodau lleol ac mae’n cynnwys data a ddefnyddir i reoli’r rhaglen.
Mae’r ystadegau hyn yn y datganiad blynyddol yn berthnasol i bob blwyddyn ariannol gyflawn ar sail y data terfynol a gasglwyd bob blwyddyn.
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Yn y datganiad ystadegol, defnyddir y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol i ganfod data ar nifer y plant a aned mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ar gyfer bwydo babanod.
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac fe’i sefydlwyd yn 2004. Mae’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer pob plentyn a gafodd ei eni, a fu’n byw neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ac a gafodd ei eni ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol (BILlau). Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o’r adeg y caiff ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol.
Mae’r ystadegau ar fwydo babanod a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn yn golygu cyfran y babanod sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg a’r rhai nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, y cofnodwyd eu bod yn derbyn unrhyw laeth o’r fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed. Mae hyn yn cynnwys babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn unig, sy’n cael cyfuniad o laeth (llaeth y fron yn bennaf) a chyfuniad o laeth (llaeth y fron yn rhannol). Nid yw babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn unig yn cael dim byd arall heblaw llaeth o’r fron a dŵr o bosibl; bydd babanod y cofnodir eu bod yn cael cyfuniad o laeth yn cael llaeth o’r fron a llaeth artiffisial.
Sylwch fod gwaith dadansoddi data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn seiliedig ar ddaearyddiaeth. Felly bydd nifer fach o blant sy’n byw yn yr ardaloedd hyn nad yw eu teuluoedd wedi manteisio ar gynigion gwasanaethau Dechrau’n Deg, ac felly byddant wedi cael eu cynnwys yn anghywir fel plant Dechrau’n Deg.
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)
Yn y datganiad ystadegol, defnyddir y CYBLD i gael data ar nifer y plant ar gofrestri ysgolion a gynhelir pan fyddant yn 3 oed.
Casgliad electronig o ddata ar lefel disgyblion ac ysgolion a ddarperir gam bob ysgol a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn yw’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae ysgolion yn cofnodi data am ddisgyblion a’r ysgol drwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Reoli (MIS). Cydgesglir y data mewn ffurflen CYBLD electronig a chyflwynir y ffurflen i Lywodraeth Cymru drwy DEWI (Menter Cyfnewid Data Cymru), system trosglwyddo data ar-lein yn ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ffurflenni’n cael eu hawdurdodi gan benaethiaid ac yn cael eu dilysu gan awdurdodau lleol.
Mae canran y ‘Plant ar gofrestri ysgolion a gynhelir pan fyddant yn 3 oed’ yn cyfrif plant a oedd yn 3 oed ar 31 Awst ac a gafodd eu cofnodi ar gofrestri ysgolion ar y CYBLD yn y mis Ionawr dilynol. Mae’r rhifiadur yn cael ei gyfrifo drwy gyfrif nifer y plant sydd wedi’u cofnodi ar y CYBLD gyda chodau post mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. Mae’r enwadur yn cyfrif nifer y plant sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg ar y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, ac y mae eu cod post preswyl mewn ardal Dechrau’n Deg ar y 31 Ionawr canlynol.
Sylwch fod gwaith dadansoddi data’r CYBLD yn seiliedig ar ddaearyddiaeth. Felly bydd nifer fach o blant sy’n byw yn yr ardaloedd hyn nad yw eu teuluoedd wedi manteisio ar gynigion gwasanaethau Dechrau’n Deg, ac felly byddant wedi cael eu cynnwys yn anghywir fel plant Dechrau’n Deg.
Rhaglen Mesur Plant
Yn y datganiad ystadegol, defnyddir y Rhaglen Mesur Plant (Iechyd Cyhoeddus Cymru) i ganfod data ar nifer y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg sydd â phwysau iach pan fyddant yn 4 a 5 oed.
Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn rhaglen cadw gwyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Pwrpas y rhaglen yw ymgymryd â rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth o sut y mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 a 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.
Cyfrifwyd cyfradd nifer yr achosion (iach (gan gynnwys nifer fach o blant o dan bwysau), dros bwysau neu ordew) gan ddefnyddio’r canraddau mynegai màs y corff (BMI) sy’n benodol i oedran a rhyw a gyfrifwyd gan ddefnyddio cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90) (o ddull a gynigiwyd gan Cole et al (1995)). Defnyddiwyd dull a gynigiwyd gan Keys et al (1972) i gyfrifo mynegai màs y corff. Mae'r categorïau pwysau canlynol wedi'u pennu:
- dan bwysau: llai na’r 2il ganradd, ond heb ei chynnwys
- pwysau iach: yr 2il ganradd hyd at yr 85ed ganradd, ond heb ei chynnwys
- dros bwysau: yr 85ed ganradd hyd at y 95ed ganradd, heb ei chynnwys
- gordew: 95ed ganradd ac uwch
Cole, T.J. et al (1995) Body mass index reference curves for the UK. Archives of Disease in Childhood, 73: 25‐9. Dyfynnwyd yn Dinsdale H, Ridler C, Ells L J. A simple guide to classifying body mass index in children. Oxford: National Obesity Observatory, 2011.
Keys, A. et al (1972) Indices of relative weight and obesity. Journal of Chronic Diseases, 025:329- 343.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfuno categorïau pwysau iach ac o dan bwysau er mwyn gallu cael gafael ar gyfrif a chyfran y nifer sydd dros bwysau ac yn ordew gyda’i gilydd ac ar wahân.
Cynhwysir cofnodion yn Rhaglen Mesur Plant Cymru os ydynt yn bodloni pob un o’r meini prawf canlynol:
- mae modd pennu’r man preswylio
- byw yng Nghymru
- ysgol yng Nghymru
- wedi cael ei eni yn y cyfnod rhwng Medi 2017 ac Awst 2018 ar gyfer data 2022/23
- rhyw wedi’i gofnodi
Pennir bod cofnodion cymwys yn ddilys, a chânt eu cyfrif yn y nifer a fesurir, os ydynt yn bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:
- mesur uchder wedi'i gofnodi ac nid yw'n fesur annhebygol
- mesur pwysau wedi'i gofnodi ac nid yw'n fesur annhebygol
- caniatâd heb ei dynnu’n ôl
- mesur wedi’i gasglu yn ystod blynyddoedd academaidd 2022/23
Rhoddwyd y Rhaglen Mesur Plant ar waith yn y flwyddyn dderbyn ledled Cymru am y tro cyntaf yn ystod blwyddyn academaidd 2011/12. Gan fod y rhaglen wrthi’n cael ei datblygu yn ystod y cyfnod hwn, ystyrir y flwyddyn gyntaf hon yn flwyddyn drosiannol.
Cyn pandemig COVID-19, cyfunwyd data dwy flynedd academaidd i gynyddu maint y sampl. Tarfodd y pandemig ar y gwaith casglu data hwn gan olygu nad oedd yn bosibl darparu data dwy flynedd wedi’u cyfuno fel yr arfer cyn y pandemig. Felly adolygwyd niferoedd rhanbarthol a phennwyd eu bod yn foddhaol ar gyfer dadansoddiad seiliedig ar flwyddyn unigol o 2021/22 ymlaen.
Sylwch fod gwaith dadansoddi data’r Rhaglen Mesur Plant yn seiliedig ar ddaearyddiaeth. Felly bydd nifer fach o blant sy’n byw yn yr ardaloedd hyn nad yw eu teuluoedd wedi manteisio ar gynigion gwasanaethau Dechrau’n Deg, ac felly byddant wedi cael eu cynnwys yn anghywir fel plant Dechrau’n Deg.
Adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER)
Yn y datganiad ystadegol, defnyddir adroddiad COVER (Iechyd Cyhoeddus Cymru) i gael data ar nifer y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg a oedd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn pan oeddent yn 4 oed.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi adroddiadau COVER bob chwarter, ac mae adroddiad blynyddol hefyd yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill a mis Mawrth. Mae’r adroddiadau’n manylu ar nifer y plant sy’n cyrraedd pen-blwyddi allweddol yn ystod y chwarter adrodd (neu’r flwyddyn ar gyfer adroddiadau blynyddol COVER) sydd wedi cael eu himiwneiddio yn unol â’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant yn y DU (Iechyd Cyhoeddus Cymru).
Mae ystadegau imiwneiddio’n cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol a gaiff ei diweddaru unwaith bob chwarter gan ddefnyddio’r data diweddaraf a roddwyd yng nghronfeydd data Imiwneiddio’r Adran Iechyd Plant rhanbarthol. Anfonir data Imiwneiddio o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol i Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle byddant yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio trefn ystadegol safonol (yn seiliedig ar adroddiad blaenorol KC51 Llywodraeth Cynulliad Cymru).
Mae canran y rhai sy’n manteisio ar gyfle i imiwneiddio yn adroddiadau COVER yn rhoi syniad faint o blant 4 oed sy’n byw yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol sydd wedi cael eu brechu yn unol â’r amserlen imiwneiddio rheolaidd yn y DU.
Mae data a geir o adroddiad COVER yn dibynnu ar ddychwelyd hysbysiadau am imiwneiddio (ffurflenni wedi’u trefnu a heb eu trefnu) i Swyddfeydd Iechyd Plant Ymddiriedolaethau GIG lleol a’u cofnodi yn eu cronfa ddata. Ni fyddai unrhyw ddata a roddir ar Systemau Iechyd Plant lleol ar ôl i’r ffigur blynyddol gael ei gymryd yn cael eu cyfrif yn ystadegau adroddiad COVER.
Mae data adroddiad COVER yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer plant byw sy’n byw yng Nghymru, ac felly mae’n cynnwys plant sy’n byw yng Nghymru ond sydd wedi’u cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr.
Sylwch fod gwaith dadansoddi data’r adroddiad COVER yn seiliedig ar ddaearyddiaeth. Felly bydd nifer fach o blant sy’n byw yn yr ardaloedd hyn nad yw eu teuluoedd wedi manteisio ar gynigion gwasanaethau Dechrau’n Deg, ac felly byddant wedi cael eu cynnwys yn anghywir fel plant Dechrau’n Deg.
Poblogaeth
Defnyddir amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn y datganiad hwn. Ar gyfer 2023-24, mae amcangyfrifon canol-blwyddyn 2023 wedi cael eu defnyddio. Cyhoeddir yr amcangyfrifon ar StatsCymru: awdurdod lleol.
Cwmpas
Cwmpas rhaglen Dechrau’n Deg
Mae Dechrau’n Deg yn targedu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r rhaglen wedi’i thargedu at ardaloedd yn ôl mesurau amddifadedd cymharol gan gynnwys Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), prydau ysgol am ddim a chyfran y plant o dan 4 oed sy’n byw mewn cartrefi sy’n derbyn budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm.
Map 1: Lleoliad ardaloedd Dechrau’n Deg ar ddechrau’r rhaglen (ar 31 Mawrth 2012)
Mae Map 1 yn dangos lleoliad ardaloedd Dechrau’n Deg ar ddechrau’r rhaglen ym mis Mawrth 2012. Cafodd yr ardaloedd eu diffinio yn ôl codau post a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan gydlynwyr Dechrau’n Deg. Mewn nifer fach o godau post, nid yw pob un o’r anheddau yn yr ardal wedi’u cynnwys yn y rhaglen.
Gwelwyd y rhaglen yn ymestyn rhywfaint i ardaloedd ychwanegol yn 2012-13. Ond, gwelwyd twf mwyaf y rhaglen hyd yma yn ystod 2013-14 a 2014-15. Y disgwyl oedd y byddai 36,000 o blant yn elwa o’r rhaglen erbyn diwedd 2015-16, ond llwyddwyd i gyrraedd y ffigur hwn erbyn diwedd 2014-15.
Map 2: Lleoliad ardaloedd Dechrau’n Deg ar hyn o bryd (ar 31 Mawrth 2020, heb newid ers 2016)
Mae Map 2 yn dangos lleoliad yr ardaloedd Dechrau’n Deg presennol, ac nid yw’r rhain wedi newid ers 2016. Cyflwynir data ar gyfer ardaloedd Dechrau’n Deg fel y’u diffinnir ar yr adeg honno, pan fo hynny’n bosibl. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y bydd data ar gyfer 2012-13 yn seiliedig ar ardal ddaearyddol ychydig yn wahanol i ddata 2019-20.
Casglwyd data rheoli ar gyfer rhai agweddau ar y rhaglen ar wahân ar gyfer ardaloedd cyn-ehangu ac ar gyfer ardaloedd ehangu. Pan nad yw’n bosibl rhannu, dylid ystyried ychwanegu’r ardaloedd sy’n datblygu at yr ystadegau wrth ddehongli’r data.
Cwmpas y data
Mae Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru a gyflwynir gan awdurdodau lleol yn cynnwys gwybodaeth reoli sy’n cynnwys yr holl blant sy’n derbyn Gwasanaethau Dechrau’n Deg.
Mae'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi pob plentyn a gafodd ei eni, sy’n byw neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ar ôl 1987. Cesglir data am fwydo ar y fron pan fydd y plentyn yn 10 diwrnod oed drwy Raglen Plant Iach Cymru. Os nad yw rhiant yn derbyn cysylltiad ag ymwelydd iechyd pan fydd y plentyn yn 10 diwrnod oed, yna ni fydd statws bwydo ar y fron y plentyn hwnnw yn cael ei gofnodi. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data chwarterol ar fwydo ar y fron ac mae’r cwmpas wedi bod dros 90% ers Ebrill-Mehefin 2015 yn ystod y rhan fwyaf o'r misoedd.
Mae’r CYBLD yn cynnwys pob plentyn mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi ar Dechrau’n Deg
Cyhoeddir datganiad ystadegol blynyddol llawn a’r holl ddiweddariadau bob tymor ar wefan Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir y datganiad blynyddol diweddaraf ar ffurf crynodeb wedi’i fformatio mewn html gyda data manylach wedi’u cynnwys mewn tablau StatsCymru.
Gall nifer o allbynnau eraill ategu’r wybodaeth a geir yn natganiad ystadegol Dechrau’n Deg. Mae'r rhain yn cynnwys:
Beth yw’r ffyrdd posibl o ddefnyddio’r ystadegau hyn?
Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd amrywiol. Dyma rai enghreifftiau:
- cyngor i Weinidogion
- llywio trafodaeth yn Senedd Cymru a thu hwnt
- darparu data i'r cyhoedd am Dechrau’n Deg yng Nghymru
- monitro’r modd y darperir gwasanaethau
- datblygu polisi
Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?
Dyma’r prif ddefnyddwyr:
- gweinidogion, aelodau o Senedd Cymru, a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn Senedd Cymru
- sefydliadau’r GIG, gan gynnwys byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
- timau Dechrau’n Deg lleol
- Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
- rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
- y gymuned ymchwil
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
Os ydych chi’n defnyddio’r data ac nad ydych chi’n teimlo bod y rhestr uchod yn eich cynnwys chi’n ddigonol, neu os hoffech i ni ychwanegu eich enw at ein rhestr ddosbarthu, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Cryfderau a Chyfyngiadau’r data
Cryfderau
- Mae’r allbynnau’n rhoi trosolwg ystadegol o’r rhaglen Dechrau’n Deg yng Nghymru a lefelau’r gwasanaeth a ddarperir ym mhob awdurdod lleol.
- Mae gan y data gwmpas rhagorol a dylent gynnwys yr holl blant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yng Nghymru.
- Mae allbynnau’n canolbwyntio’n glir ar Gymru ac maent wedi cael eu datblygu i ddiwallu anghenion defnyddwyr mewnol ac allanol yng Nghymru. Nod y datganiadau hyn yw cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru ar gynllunio a darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg.
- Mae’r wybodaeth yn cael ei phrosesu a’i chyhoeddi’n rheolaidd ac mewn modd trefnus er mwyn i ddefnyddwyr allu gweld yr ystadegau pan fyddant yn gyfredol ac o’r diddordeb mwyaf.
- Mae ffynonellau data gweinyddol wedi cael eu defnyddio’n effeithlon i gynhyrchu allbynnau.
- Mae cronfeydd data sydd wedi’u hen sefydlu fel y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol a’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, wedi cael eu defnyddio i roi gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen Dechrau’n Deg.
- Mae ystadegau manwl ar gael mewn tablau StatsCymru sydd wedi’u cyhoeddi ochry n ochr â’r datganiad ystadegol sydd wedi’i fformatio mewn html
Cyfyngiadau
- Mae data ar gael ar lefel awdurdod lleol, ond nid ydynt yn cael eu cyhoeddi ar lefel gydgrynhoi is.
- Mae data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, adroddiad COVER a’r Rhaglen Mesur Plant yn seiliedig ar ffiniau daearyddol. Golyga hyn y bydd unrhyw blentyn sy’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg yn cael ei gyfrif, yn hytrach na phlant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn benodol. Yn ymarferol, bydd y gwahaniaeth hwn yn fach.
- Mae Dechrau’n Deg yn rhan o faes polisi sydd wedi’i ddatganoli ac felly gall gwahanol lywodraethau wneud penderfyniadau polisi gwahanol am raglenni yn y maes hwn. Felly, nid yw’n bosibl cymharu â gwledydd eraill y DU.
Cylch prosesu data
Casglu data
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar gyfer Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae ffurflenni casglu data ar ffurf Excel yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru 2-3 wythnos ar ôl diwedd Tymor 1 a Thymor 3. Mae awdurdodau lleol yn llenwi’r ffurflenni ar sail y data sydd wedi’u storio ar eu systemau TG priodol ac yn dychwelyd y ffurflenni i Lywodraeth Cymru ar ôl iddynt eu llenwi, a hynny drwy gyfrwng Objective Connect, system ar gyfer trosglwyddo data ar y we yn ddiogel.
Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau dilysu ac yn cyfeirio ymholiadau at awdurdodau lleol lle bo angen. Bydd yr archwiliadau dilysu hyn yn cynnwys camau fel:
- gwneud yn siŵr bod pob maes data wedi’i lenwi
- fflagio data lle mae lefel llwyth achosion 10% yn fwy na’r cap
- sicrhau bod nifer cronnus pob maes data yn cynyddu rhwng Tymor 1 a Thymor 3
- tynnu sylw at ble mae canran y cynigion newydd 10% yn fwy na nifer y plant cymwys
- sicrhau bod y nifer sy'n manteisio ar gynigion gofal plant yn is na nifer y cynigion a wneir, neu'n hafal i hynny
- gwirio am unrhyw rifau negatif
Er bod y Ffurflen Monitro Dechrau’n Deg wedi cael ei dilysu, gofynnir am ddata o bob ffynhonnell arall. Yna, mae’r datganiad ystadegol yn cael ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar y golofn dibynadwyedd (Awdurdod Ystadegau'r DU) yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Bydd yn cael ei gyhoeddi yn yr haf/ hydref fel arfer, ar wahân i gyhoeddiad 2019-20 a gafodd ei ohirio tan fis Chwefror 2021 oherwydd pandemig COVID-19.
Ar hyn o bryd, cyhoeddir ystadegau ar dudalen we html gyda sylwadau a dadansoddiad byr, yn ogystal â thablau cryno atodol a gyhoeddir ar StatsCymru.
Effaith COVID-19
Effeithiodd y pandemig COVID-19 ar y gwasanaethau a gynigir drwy'r Rhaglen Dechrau'n Deg ac efallai na fydd data wedi'u cofnodi mor gywir ag yr oeddent cyn y pandemig gan fod adnoddau wedi'u heffeithio'n ddifrifol. Er nad oedd y pandemig wedi effeithio ar y rhan fwyaf o 2019-20, daeth y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth 2020, felly mae'r gwasanaethau a gynigiwyd a data a gasglwyd ar gyfer y mis hwnnw wedi cael eu heffeithio mewn amrywiol ffyrdd gan gynnwys:
- roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu ddim yn gallu cael eu cwblhau
- roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd dewisiadau rhieni ac yn ddiweddarach yn y mis, y cyfnod clo gorfodol
- cafodd rhai ymwelwyr iechyd eu hadleoli i wahanol rolau i helpu gyda'r pandemig
- byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
- mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.
- ni chaniatawyd cynnal ymweliadau cartref na chlinigau o’r wythnos yn dechrau 16 Mawrth 2020
- materion TG cyffredinol yn yr awdurdod lleol nad oeddent yn flaenoriaeth i’w datrys yn ystod camau cynnar y pandemig
Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 hefyd yn sgil y pandemig COVID-19. Mewn blynyddoedd cyn y pandemig, yn gyffredinol dim ond cysylltiadau wyneb yn wyneb gafodd eu cofnodi fel cysylltiadau Dechrau'n Deg. Nododd canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 y dylid, fel rheol gyffredinol, cofnodi unrhyw weithgaredd wedi'i dargedu drwy wahanol ddulliau yn ystod y pandemig (hy cysylltiadau rhithiol drwy Skype neu Whatsapp) yn yr un modd ag y cofnodir cysylltiadau wyneb yn wyneb o'r blaen. Roedd y canllawiau hefyd yn dweud y dylai awdurdodau lleol arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu a oedd cyswllt rhithiol yn ddigon ystyrlon i gael ei gofnodi.
Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:
- roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
- roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
- dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
- byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
- mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.
Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23, ond dychwelwyd i weithredu fel arfer yn 2023-24. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws. At hynny, cadwyd rhywfaint o ddarpariaeth rithwir cyrsiau magu plant, lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwasanaethau ymwelwyr fel rhan o waith cyflawni rhaglenni ar gyfer 2022-23, naill ai oherwydd dewis personol neu oherwydd yr ystyriwyd bod honno’n ffordd effeithiol o gyrraedd rhai teuluoedd gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol. Mae angen gofal felly wrth gymharu data 2022-23 gyda ffigurau cyn y pandemig.
Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf
Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data rhwng 2020-21 a 2023-24 yn cael eu casglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn olygu y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wahaniaethau gydag ardaloedd awdurdodau lleol eraill fod oherwydd y model darpariaeth gwasanaethau gwahanol. Byddai’n ddoeth felly bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2022-23.
Datgelu a chyfrinachedd
Mae’r data sy’n cael eu casglu a’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wedi’u cydgrynhoi ar lefel awdurdod lleol a lefel genedlaethol, ac nid oes llawer o risg o ddatgelu gwybodaeth am unrhyw unigolyn. Mae archwiliadau’n dal i gael eu cynnal a bydd niferoedd bach yn cael eu hatal yn benodol os bydd angen.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â manylion fel enw cyntaf, cyfenw neu ddyddiad geni yn y set ddata hon.
Symbolau a chonfensiynau talgrynnu
Os yw’r ffigurau wedi’u talgrynnu, fe all fod anghysondeb amlwg rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a’r cyfanswm. Defnyddir y symbolau canlynol yn y tablau:
.. Nid yw’r eitem ddata ar gael
. Nid yw’r eitem ddata’n gymwys
- Nid yw’r eitem ddata yn union sero, ond fe’i hamcangyfrifir yn sero neu lai na hanner y digid terfynol a ddangosir
* Mae angen datgelu’r eitem ddata neu nid yw’n ddigon cadarn i’w chyhoeddi
Gwybodaeth allweddol am ansawdd
Datganiad cydymffurfedd â'r Cod Ymarfer Ystadegau
Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. Mae hyn yn berthnasol i'r holl ystadegau yn y datganiad hwn ar wahân i'r rhai sy'n ymwneud â Cham 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg sy'n ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (OSR).
Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer yr ystadegau cyn belled ag y bo modd tra byddant yn cael eu datblygu.
Ymddiriedaeth
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau. Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuwyd casglu'r data hyn ym mis Ebrill 2012 i fis Mawrth 2013. A gofynnwyd am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar Gam 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg. Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER). Defnyddir amcangyfrifon canol-blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer dadansoddi'r boblogaeth.
Ansawdd
Mae'r ffigurau sydd wedi'u cyhoeddi yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddi. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.
Daw’r rhan fwyaf o’r data a gynhwysir o ffynonellau gweinyddol a ddefnyddir i reoli gwasanaethau Dechrau’n Deg. Mae’r data’n dibynnu ar awdurdodau lleol yn cadw cofnodion cywir ond mae’r systemau wedi’u hen sefydlu ac yn ddibynadwy. Mae data atodol o gronfeydd data cenedlaethol eraill hefyd o ansawdd uchel ac yn cael eu hystyried yn ddibynadwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar gyfer Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn llenwi’r ffurflenni ar sail y data sydd wedi’u storio ar eu systemau TG priodol ac yn dychwelyd y ffurflenni i Lywodraeth Cymru ar ôl iddynt eu llenwi, a hynny drwy gyfrwng Ojective Connect, sef system ar gyfer trosglwyddo data ar y we yn ddiogel.
Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau dilysu ac yn cyfeirio ymholiadau at awdurdodau lleol lle bo angen. Yna, mae’r datganiad ystadegol yn cael ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar y golofn dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae'r data ychwanegol a gasglwyd ar gyfer Cam 2 ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg hefyd yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol, gan ddefnyddio data sy'n cael eu storio ar eu systemau TG eu hunain. Gan mai 2023-24 oedd blwyddyn gyntaf Cam 2 yr ehangu, bu rhywfaint o amrywiad yn y diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer 'manteisio ar y cynnig' ac ar gyfer ‘lleoliad cyfrwng Cymraeg’. Roedd tua hanner yr awdurdodau lleol yn diffinio 'manteisio ar y cynnig' fel 'derbyn y cynnig' gofal plant, tra bo eraill yn defnyddio presenoldeb mewn lleoliad gofal plant fel mesur o dderbyn y cynnig. Yn yr un modd, mae amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol o ran sut y diffinnir lleoliad cyfrwng Cymraeg – hynny yw i ba raddau y mae angen defnyddio'r Gymraeg i fod yn lleoliad cyfrwng Cymraeg. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod diffiniad unffurf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer casglu data yn y dyfodol.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn pob awdurdod lleol arall yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd yn ehangach am ddarpariaeth rhaglen Dechrau’n Deg. Mae’r datganiad ystadegol blynyddol hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn darparu'r diweddariad mwyaf cyfredol gan ddefnyddio data dibynadwy. Mae sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael ar y ffurf hwn yn darparu un ffynhonnell ddiffiniol o ddata ar weithgarwch a darpariaeth rhaglen Dechrau'n Deg a'r nifer sy'n ei defnyddio.
Hygyrchedd
Mae’r ystadegau’n cael eu cyhoeddi mewn modd hygyrch, trefnus ac wedi’i gyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae crynodeb RSS yn tynnu sylw defnyddwyr cofrestredig at y cyhoeddiad hwn. Hefyd, mae’r datganiadau’n cael eu cyhoeddi ar yr un pryd ar yr Hyb Cyhoeddi Ystadegau Gwladol.
Rhoddir sylw i ddatganiadau ystadegol ar X ac mae modd llwytho pob datganiad i lawr am ddim.
O 2021 ymlaen, cyhoeddir y datganiad ystadegol ar ffurf html. Darperir testun amgen ar gyfer pob siart a thabl er mwyn gallu eu darllen gyda rhaglen darllenydd sgrin.
Mae tablau data yn cael eu cyhoeddi yn Excel ac yn cael eu cysylltu â thudalen y datganiad ystadegol.
Defnyddir iaith glir yn ein hallbwn cymaint ag y bo modd ac mae’r holl allbynnau’n cadw at bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru.
Mae holl benawdau ein tudalennau gwe ac allbwn html yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Lledaenu
O ystyried y cryfderau a’r cyfyngiadau a restrir uchod, mae data Dechrau’n Deg o ansawdd digonol i gyfiawnhau eu cyhoeddi. Cyhoeddir datganiad ystadegol gyda chrynodebau lefel uchel ac fe’i cysylltir â thablau data manwl ar StatsCymru.
Gwerthusiad
Rydym bob amser yn croesawu adborth ar unrhyw rai o’n hystadegau. Os hoffech wneud unrhyw sylwadau, anfonwch e-bost atom yn: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Paratowyd gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 2024