Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi croesawu Cyngor Sir y Fflint i fod yr awdurdod lleol cyntaf i gyhoeddi dechrau'r broses statudol ar ffyrdd lle y gellir gwneud newidiadau i'r terfyn cyflymder o 20mya.
Mae awdurdodau lleol bellach wrthi'n adolygu adborth gan bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod 20mya wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir. Daw hyn yn dilyn cyhoeddi canllawiau diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf i'w cefnogi.
Mae Cyngor Sir y Fflint bellach wedi dechrau cyhoeddi eu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO) ar gyfer ffyrdd y maent wedi'u hasesu y gellir eu newid i 30mya o bosibl yn ddiogel trwy ddechrau gyda chynnig i newid y terfyn cyflymder ar ddwy ffordd yn Sir y Fflint.
Dyma nhw:
- A5026 Lloc
- Rhan o'r A548 Bagillt/Mostyn Road
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi ffyrdd pellach yn wythnosol rhwng nawr a'r Nadolig a bydd unrhyw ffyrdd sy'n weddill yn cael eu hysbysebu ym mis Ionawr 2025. Bydd y Cyngor yn ymgysylltu eto â'r cyhoedd drwy'r broses Gorchymynion Rheoleiddio Traffig cyn gwneud penderfyniad terfynol ar ffyrdd yn y sir.
Er mai Cyngor Sir y Fflint yw'r cyntaf i ddechrau'r broses Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, disgwylir y bydd Awdurdodau Lleol eraill yn dilyn yn yr un modd dros y misoedd nesaf.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rwy'n falch o weld Cynghorau'n gwrando ar farn pobl ac yn gwneud cynnydd o ran adolygu'r ffyrdd yn eu hardaloedd y maen nhw'n credu y gellid eu newid yn ddiogel yn ôl i 30mya. Cyngor Sir y Fflint yw'r awdurdod lleol cyntaf i ddechrau'r broses statudol i wneud newidiadau ar lefel leol a bydd mwy o Awdurdodau Lleol yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses wrando hon hyd yn hyn, ac mae'n gadarnhaol gweld pethau'n symud ymlaen
"Rydyn ni'n gwybod bod consensws mai 20mya yw'r cyflymder cywir ar lawer o'n ffyrdd ger ysgolion, ysbytai, ardaloedd chwarae ac ardaloedd adeiledig. Rydym wedi gwrando ac wedi grymuso cymunedau lleol i wneud penderfyniadau fel bod gennym y cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir i wneud 20mya yn llwyddiant i Gymru."