Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022') yn darparu ar gyfer sefydlu model cofrestru newydd i ddarparwyr addysg drydyddol, gan ddarparu mecanwaith hyblyg ar gyfer goruchwyliaeth atebol, ond cymesur, o'r sector addysg drydyddol yng Nghymru.
Mae Deddf 2022, ynghyd â Rheoliadau o dan y Ddeddf, yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trefn reoleiddio a gaiff ei datblygu gan Medr – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - a fydd yn cydweithio â'r sector a Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei disgwyliadau ei hun o ddarparwyr i fodloni'r gofynion rheoleiddiol.
Bydd y gofrestr yn disodli'r drefn flaenorol o oruchwylio addysg bellach, a weithredwyd gan CCAUC, a bydd yn darparu'r mecanweithiau cyfreithiol i reoleiddio darparwyr addysg uwch sy'n derbyn cyllid grant gan Medr a chymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Pleser yw cael cyhoeddi fy mod wedi gwneud y ddau offeryn statudol cyntaf sy'n ofynnol er mwyn galluogi Medr i barhau â'i waith i sefydlu'r gofrestr, sef:
- Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024 ("y Rheoliadau cofrestru")
- Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) (Cymru) 2024 ("y Rheoliadau dynodi")
Mae'r Rheoliadau Cofrestru yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dau gategori cofrestru – categori craidd addysg uwch a chategori amgen addysg uwch, ac yn nodi bod darparwyr sydd wedi'u cofrestru yn y categori craidd addysg uwch yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan y Comisiwn at ddibenion addysg uwch, ymchwil neu arloesi.
Mae'r Rheoliadau cofrestru hefyd yn darparu ar gyfer amodau cofrestru cychwynnol pellach, amodau cofrestru parhaus mandadol pellach, gwybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr, ac amgylchiadau eraill pan fo rhaid i'r Comisiwn ddileu darparwr cofrestredig o gategori o'r gofrestr.
Mae'r Rheoliadau dynodi yn darparu'r sail i ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru nad yw'n 'sefydliad', allu gwneud cais i Weinidogion Cymru i gael ei ddynodi'n sefydliad at ddiben Deddf 2022.
Er mwyn gwneud cais i gofrestru, bydd rhaid i ddarparwr fod yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, sy'n golygu 'sefydliad' sy'n darparu addysg drydyddol, gan gynnwys addysg drydyddol a ddarperir ar ei ran, y cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
Ni fydd dynodiad yn "sefydliad" ynddo'i hun yn rhoi unrhyw fuddion i ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru ac eithrio ei alluogi i fodloni'r gofyniad i fod yn "ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru" er mwyn gwneud cais i gofrestru.
Y bwriad yw y bydd Medr yn sefydlu'r gofrestr yn ystod 2026, gyda nifer o'r amodau cofrestru mewn perthynas ag ansawdd, llywodraethiant, rheolaeth ariannol a lles staff a myfyrwyr yn berthnasol o adeg cofrestru darparwr. Yna bydd y system gofrestru, gan gynnwys ei rhyngwyneb â chymorth i fyfyrwyr, ar waith yn llawn ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28.
Mae'r dull hwn yn caniatáu amser digonol i wneud yr is-ddeddfwriaeth angenrheidiol; i Medr ymgymryd â'i weithgareddau gweithredu, ac i ddarparwyr wneud cais a chael eu cofnodi ar y gofrestr mewn modd amserol. Yn ogystal, bydd yn caniatáu i Medr ddarparu eglurder i'r sector ehangach, darparwyr unigol a dysgwyr wrth gwrs ynghylch yr hyn sy'n cael ei weithredu a'r disgwyliadau ar ddarparwyr cofrestredig.
Er bod y system gofrestru yn darparu ar gyfer rheoleiddio addysg uwch yng Nghymru, bydd rheoleiddio addysg bellach a hyfforddiant yn parhau trwy delerau ac amodau cyllido gyda Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022 yn darparu synergedd rhwng yr amodau cofrestru a'r telerau ac amodau cyllido.