Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rôl rheolwr data ar gyfer unrhyw wybodaeth a rowch mewn ymateb i'r cais hwn am adborth. Bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) 2025. Bydd unrhyw wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio'n ddienw, ac ni fydd modd ei phriodoli yn gyhoeddus i chi oni bai ein bod yn gofyn am eich caniatâd.

Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu gan ddefnyddio SmartSurvey. Mae SmartSurvey wedi sicrhau eu bod yn bodloni gofynion GDPR y DU. Efallai y byddwch hefyd am ddarllen y polisi preifatrwydd ar SmartSurvey.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich cyfeiriad e-bost, ac unrhyw wybodaeth bersonol a rowch fel rhan o'ch ymateb, am hyd at flwyddyn, a dim ond os bydd angen i ni gysylltu â chi y bydd yn defnyddio'r wybodaeth honno er mwyn deall yr ymatebion a ddarparwyd gennych ymhellach. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon. 

Bydd unrhyw wybodaeth nad oes modd eich adnabod ar ei sail (megis crynodeb o'r ymatebion a gynhyrchwyd gan yr holl ymatebwyr) yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol.

Hawliau unigolion

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i'r canlynol:

  • i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data ‌(o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau) 
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Tîm Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru 

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru):

Churchill House
17 Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

E-bost: wales@ico.org.uk 
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru