Neidio i'r prif gynnwy

Mae Care & Repair yn elusen ledled Cymru sy'n gweithio i sicrhau bod gan bobl hŷn gartrefi sy'n addas i'w hanghenion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r elusen yn helpu pobl hŷn yng Nghymru i atgyweirio, addasu a chynnal eu cartrefi, gan ganiatáu iddynt fyw'n fwy annibynnol a lleihau derbyniadau i'r ysbyty.

Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, ar ymweliad â chartref Gillian Arnold, cleient Care and Repair ym Mhont-y-pŵl.

Cafodd Gillian ei derbyn i'r ysbyty ddechrau'r flwyddyn hon ac o ganlyniad, roedd angen addasu ei chartref.

Gosododd Care and Repair rheiliau drwy gartref Gillian, gan sicrhau y gallai symud o gwmpas yn ddiogel a dychwelyd i'w chartref.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

Roedd hi'n hyfryd cwrdd â Gillian i glywed am ei phrofiad a gweld drosom ein hunain sut mae Care and Repair wedi ei helpu.

Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn nid yn unig yn helpu i wneud cartrefi'n fwy diogel i helpu pobl i ddychwelyd adref yn gynt, ond maent hefyd yn dileu'r straen a'r pryder sy'n gysylltiedig ag addasu eich cartref.

Mae’r math hwn o gamau gweithredu llai, wedi'u targedu’n fwy, yn cael effaith go iawn yn ein cymunedau a hoffwn ddiolch i staff Care and Repair am eu gwaith caled a'u hymroddiad.

Mae mor bwysig ein bod yn parhau i gefnogi mwy o bobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi yn ddiogel a heb ofni syrthio, cwympo na gorfod dychwelyd i'r ysbyty.

Yn ddiweddar, mae Care & Repair Cymru wedi datblygu strategaeth bum mlynedd newydd a fydd yn eu helpu i gyflawni eu dyhead i 'helpu cymaint o bobl hŷn ag y gallwn i fyw'n annibynnol mewn cartrefi diogel, cynnes a hygyrch'.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru:

Daw'r strategaeth bum mlynedd newydd ar adeg dyngedfennol wrth i ni ymateb i anghenion cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio yng nghanol heriau argyfwng costau byw. Mae'n tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i lles pobl hŷn, leihau derbyniadau i'r ysbyty, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleddfu'r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Bob blwyddyn rydym yn cefnogi tua 40,000 o aelwydydd, gan drefnu addasiadau ac atgyweiriadau sy'n gwella iechyd a lles. Mae'r newidiadau hyn i gartrefi yn atal damweiniau a salwch ac yn cadw pobl hŷn ac anabl allan o'r ysbyty. Y llynedd yn unig fe wnaethon ni arbed £24 miliwn i GIG Cymru drwy leihau derbyniadau i'r ysbyty.

Rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd newydd y Cabinet am ei chefnogaeth fel y gallwn barhau i ddatblygu ein gwaith o sicrhau bod gan bobl hŷn yng Nghymru gartrefi sy'n addas ar gyfer eu hanghenion.