Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Cadeirydd

Gyda theimlad o frys y cyflwynaf yr adroddiad hwn ar iechyd democrataidd cynghorau cymuned a thref. Dyma haen y llywodraeth sydd agosaf at y bobl ac mae mewn cyfnod tyngedfennol. Mae ein canfyddiadau’n tynnu sylw at heriau sylweddol sydd, os na roddir sylw iddynt, yn bygwth union sylfaen democratiaeth leol.

Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi gweld newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol a thechnolegol sylweddol. Ac eto, mae ein cynghorau cymuned a thref wedi aros yn ddisymud yn ddiwylliannol ac yn drefniadol ar y cyfan. Mae’r datgysylltu hwn wedi arwain at argyfwng mewn iechyd democrataidd, a nodweddir gan ymgysylltiad isel, cyfranogiad etholiadol gwael, a diffyg amrywiaeth ymysg cynghorwyr. Mae’r materion hyn yn tanseilio dilysrwydd, effeithiolrwydd a pherthnasedd ein cynghorau ym mywydau beunyddiol pobl ledled Cymru.

Mae’r grŵp wedi bod yn ymwybodol o waith annibynnol blaenorol, fel gwaith y panel adolygu annibynnol yn 2018 a edrychodd ar fodelau llywodraethu cymunedol mewn gwledydd fel Denmarc, yr Iseldiroedd, Seland Newydd a’r Almaen. Roedd y modelau hyn yn dangos bod yr haen lywodraethu fwyaf lleol yn effeithiol pan fydd ganddo bwrpas clir a’i fod wedi’i integreiddio i’r gymuned. Gwnaed bron i 40 o argymhellion a oedd yn cynnwys cynyddu amrywiaeth a sgiliau cynghorwyr, gwella hyfforddiant a chefnogaeth i gynghorau, cryfhau atebolrwydd a thryloywder y sector, egluro rolau a chyfrifoldebau cynghorau, hyrwyddo cydweithio a phartneriaeth â haenau eraill o lywodraeth a chymdeithas sifil, ac annog arloesi a thrawsnewid digidol.

Fodd bynnag, er bod yr argymhellion yn gynhwysfawr ac yn berthnasol, ymddengys nad ydynt yn cael yr effaith a ddymunir. Mae’r gwaith o weithredu’r argymhellion gan bartneriaid wedi bod yn dameidiog. 

Mae llawer o resymau posibl dros yr anghysondeb hwn, ond fe’n harweiniodd i ofyn cwestiynau sylfaenol: a yw’r model presennol o lywodraethu cymunedol yng Nghymru wedi dyddio? A yw’r model presennol o gynghorau cymuned a thref, sy’n seiliedig ar ffiniau tiriogaethol a chynrychiolaeth etholiadol, yn dal yn addas i’r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Roedd yr ateb i’r cwestiynau hyn y tu allan i gwmpas yr adolygiad hwn, ond rydym wedi cynnig opsiynau i edrych yn ddyfnach ar hyn gyda chymunedau.

Mae ein tystiolaeth yn awgrymu, er bod rhai eithriadau, yn gyffredinol, na ellir ystyried bod y sector cynghorau cymuned a thref yn ffynnu I grynhoi:

  • mae iechyd democrataidd yn wael iawn, gyda dim ond 22% o gynghorwyr yn sefyll mewn seddi a ymleddir
  • nid yw’r llywodraethiant yn ddigon da yn ôl Archwilio Cymru. Mae’r sector yn cymryd dros £50 miliwn mewn praesept, ond nid yw’r dystiolaeth o’i effaith a’i werth am arian yn glir. Yn gyffredinol, cafodd tua 50% o gynghorau farn archwilio amodol yn 2022 i 2023
  • mae’r diben yn aneglur ac yn anghyson. Nid oes gweledigaeth na strategaeth glir ar gyfer diben sector, a sut y mae’n cyd-fynd â phartneriaid eraill megis prif gynghorau neu’r trydydd sector
  • nid yw’n syndod felly nad yw’r sector yn mwynhau perthynas iach gyda’i gymunedau a’i bartneriaid. Nid yw’r rhan fwyaf o aelodau’r cyhoedd yn gwybod beth mae cynghorau cymuned yn ei wneud, na phwy yw eu cynghorwyr. Cawsom drafferth cael ymateb gan y cyhoedd, sefydliadau’r trydydd sector, y prif gynghorau a’r cynghorau cymuned eu hunain ar y materion hyn. Credwn fod y difaterwch yn ganfyddiad ynddo’i hun ac yn un sy’n peri pryder mawr
  • yn gyffredinol, mae integreiddio neu weithio gyda phartneriaid yn wael, gan gynnwys rhwng cynghorau. Mae enghreifftiau o weithio gyda chynghorau eraill neu nifer sylweddol y gwirfoddolwyr cymunedol yn rhy brin. Collir cyfleoedd i harneisio egni, sgiliau ac adnoddau’r bobl sy’n poeni am eu cymunedau ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth

Nid yw hyn yn gynaliadwy ac ni ddylid ei ddiystyru mwyach. Nid yw hyn yn ymwneud â chynghorau’n methu â bodloni disgwyliadau yn unig; mae’n ymwneud â’r perygl o golli haen hanfodol o gynrychiolaeth ddemocrataidd os methwn â gweithredu’n awr. Nid yw’n sicrhau’r canlyniadau gorau i gymunedau lleol, na’r gwerth gorau am arian cyhoeddus. Nid yw’n cynnwys pobl leol, nac yn adlewyrchu eu hamrywiaeth a’u dyheadau. Nid yw’n addasu i anghenion a heriau newidiol yr 21ain ganrif, nac yn manteisio ar y cyfleoedd a’r datblygiadau arloesol y mae’n eu cynnig. 

Barn y grŵp yw bod dau lwybr clir ar gyfer dyfodol y sector:

Y cyntaf yw buddsoddi’n helaeth mewn ailadeiladu, gwella llywodraethu, tryloywder a chynrychiolaeth. Bydd y llwybr hwn yn gofyn am ymrwymiad ariannol a gwleidyddol sylweddol, ond mae’n gam angenrheidiol os ydym am adfer ymddiriedaeth a chyfreithlondeb. Mae democratiaeth yn costio arian, sy’n golygu talu am etholiadau a digolledu cynghorwyr am eu hamser a’u hymdrech. Y rhagdybiaeth yw, gyda mwy o ymwybyddiaeth, y daw mwy o ymgysylltu ac felly iechyd democrataidd. Yng nghyd-destun heriau democrataidd ac ariannol ehangach, bydd hyn yn gostus ac yn cymryd amser. Bydd angen i’r gwerthusiad fod yn gadarn i brofi a yw’r ymyriadau’n cael yr effaith a fwriadwyd. 

Mae’r ail lwybr yn fwy radical. Mae’n galw arnom i ailddychmygu sut y dylai llywodraethu cymunedol edrych yn yr 21ain ganrif, gan ddatgysylltu ein hunain oddi wrth strwythurau a ddyluniwyd yn y 1970au. Dylai fod yn rhywbeth sy’n seiliedig ar bwrpas yn gyntaf, a’i ffurf yn seiliedig ar swyddogaeth. Ni ddylai golli elfennau gorau’r model presennol – mewn gwirionedd dylai ddysgu ohono – ond byddai’n diosg yr agweddau hynny sy’n cael eu hystyried yn wannach. Os cytunir, dylid gwneud hyn gan ddilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chynnwys y bobl y mae’n ceisio eu helpu. Er mai’r llwybr hwn yw’r un mwyaf ansicr efallai, gallai hefyd fod yr un gorau.

Fel grŵp, ni chawsom gonsensws. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymlyniad i’r model presennol a’r gydnabyddiaeth bod dechrau o’r dechrau yn beryglus ac yn gymhleth, yn enwedig mewn perthynas â’r cyd-destun llywodraeth leol ehangach. Mae risgiau ynghlwm wrth y ddau lwybr, ond nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn. Mae angen newid ar frys a does dim modd gwadu hynny. Rhaid i’n cynghorau cymuned ddod yn fwy cynhwysol, wedi’u llywodraethu’n well, ac adlewyrchu amrywiaeth a deinameg cymunedau Cymru yn well. 

Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd eu hamser, eu harbenigedd a’u hangerdd i’r gwaith pwysig hwn, yn enwedig aelodau’r grŵp a’r Ysgrifenyddiaeth. 

Mae Cymru’n uchelgeisiol ar gyfer ei dyfodol. Mae angen camau beiddgar arnom i adfywio democratiaeth leol a sicrhau bod ei sylfeini’n addas i’r diben ac i’r unfed ganrif ar hugain. Rwy’n gobeithio bod yr opsiynau rydym wedi’u cyflwyno yn llywio’r camau diwygio nesaf ac yn ysbrydoli ymrwymiad o’r newydd i lywodraethu lleol.

Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau, casgliadau ac opsiynau arfaethedig Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2023 gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd. 

Cylch gwaith y Grŵp oedd ymchwilio i’r hyn sy’n achosi ymgysylltu a chyfranogiad isel mewn cynghorau cymuned a thref, a nodi opsiynau ar gyfer camau gweithredu i gynghorau cymuned, cyrff sy’n cynrychioli’r sector a’r Llywodraeth eu cymryd i:

  • wella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned
  • cynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol ar gynghorau cymuned

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth gan gynnwys adolygiad llenyddiaeth, arolygon, cyfranwyr arbenigol a grwpiau ffocws rhanddeiliaid. Roedd y Grŵp yn cydnabod bod nifer y rhanddeiliaid perthnasol a oedd yn fodlon ymgysylltu ar y pwnc hwn yn gyfyngedig, a oedd yn awgrymu rhywfaint o ddifaterwch. Roedd gwahanol grwpiau o randdeiliaid yn cynnwys pobl ifanc, y cyhoedd, cynghorwyr cymuned a thref a chlercod a mudiadau trydydd sector. 

Cafwyd nifer o ganfyddiadau allweddol o bob un o’r grwpiau rhanddeiliaid hyn.

Yn achos pobl ifanc:

  • ymwybyddiaeth gyfyngedig o gynghorau cymuned a thref oedd ganddynt, ac roeddent yn aml yn drysu rhwng eu swyddogaethau â swyddogaethau prif gynghorau
  • roeddent yn llai tebygol o gysylltu â chynghorwyr eu cyngor cymuned neu fynychu cyfarfodydd. Roedd yn well ganddynt gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol yn hytrach na rolau ffurfiol yn y cyngor
  • roeddent eisiau bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau yn eu cymunedau
  • fe wnaethant nodi sawl rheswm pam nad oeddent eisiau bod yn gynghorwyr. Roedd hyn yn cynnwys diffyg diddordeb, dim digon o amser, a diffyg gwybodaeth am y rôl. Roeddent hefyd yn sôn am ddiffyg amrywiaeth a phryderon ynghylch effaith gyfyngedig cynghorwyr

Yn achos y cyhoedd:

  • Ymwybyddiaeth gyfyngedig o gynghorau cymuned oedd ganddynt hwythau hefyd, ac roeddent yn aml yn drysu rhwng eu swyddogaethau â swyddogaethau prif gynghorau. Roedd y cysylltiad â chynghorau cymuned yn gyfyngedig hefyd.
  • Soniwyd am rwystrau i ymgysylltu, fel ymholiadau heb eu hateb neu gael ymateb ar ôl oedi hir. Roedd canfyddiad bod cynghorau’n gweithredu’n gaeedig.
  • Soniwyd am faterion yn ymwneud â hygyrchedd, arferion cyfethol, a’r canfyddiad o gynghorau fel cliciau nad ydynt yn croesawu pobl o’r tu allan, sy’n eu hatal rhag bod eisiau sefyll fel cynghorwyr.

Yn achos y trydydd sector:

  • Soniwyd am ymwybyddiaeth a llwyth gwaith. Roedd 75% o grwpiau’r trydydd sector yn ymwybodol o gynghorau cymuned. Fodd bynnag, roedd llwyth gwaith a biwrocratiaeth yn cael eu gweld fel rhwystr sylweddol i sefyll fel cynghorydd, ac yna cyfrifoldebau gofalu a diffyg tâl.
  • Trafodwyd rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithio gyda chynghorau cymuned – fel ansawdd gwael ceisiadau cynghorau cymuned am gyllid prosiect, diffyg ymgysylltu â’r gymuned, a gwahanol ganfyddiadau o rolau a chyfrifoldebau rhwng cynghorau cymuned a grwpiau cymunedol.
  • Ystyriwyd y potensial ar gyfer cydweithio yn y dyfodol a oedd yn cynnwys gwella perthnasoedd gwaith, mwy o dryloywder, a mwy o gymorth a hyfforddiant cydgysylltiedig. Fodd bynnag, nodwyd rhwystrau a oedd yn cynnwys cyfathrebu gwael, diffyg dealltwriaeth, a diffyg adnoddau canfyddedig.

Yn achos clercod a chynghorwyr cymuned a thref:

  • Trafodwyd y rhwystrau i etholiadau. Roedd diffyg dealltwriaeth o gynghorau cymuned, eu gwelededd a'u diffyg effaith canfyddedig yn arwain at niferoedd isel o ymgeiswyr mewn etholiadau. Roedd angen cymell pobl ifanc i gymryd rhan. Nid oedd cynghorau cymuned yn dda am estyn allan at grwpiau amrywiol yn eu cymunedau. 
  • Soniwyd am y cam-drin gan aelodau eraill o’r cyngor neu’r cyhoedd a oedd yn gyffredin, yn enwedig drwy gyfryngau cymdeithasol. Disgrifiwyd y llwyth gwaith fel cyfarfodydd, digwyddiadau, rhoi prosiectau ar waith ac ysgrifennu adroddiadau.
  • Trafodwyd hefyd heriau a manteision eu rolau. Roedd yr heriau’n cynnwys tâl cyfyngedig, diwylliant biwrocrataidd a diffyg effeithlonrwydd. Fodd bynnag, roedd darparu digwyddiadau a phrosiectau cymunedol yn rhoi llawer o foddhad.

Daeth yr Adroddiad i’r casgliadau canlynol:

  • Ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad isel: Mae diffyg ymwybyddiaeth sylweddol ynghylch pwrpas a gweithgareddau cynghorau cymuned, yn enwedig ymysg pobl ifanc, lle gwelir dryswch rhwng rolau llywodraeth leol a llywodraeth ganolog.
  • Canfyddiad y cyhoedd ac amrywiaeth: Mae cynghorau cymuned yn aml yn cael eu hystyried yn amherthnasol, ddim yn ddeinamig, a ddim yn adlewyrchu’r amrywiaeth yn eu cymunedau. Nid yw pobl ifanc yn teimlo bod ganddynt lais mewn cynghorau cymuned.
  • Diwylliant a strwythur: Mae angen i’r diwylliant mewn cynghorau cymuned newid gan fod cynghorau’n aml yn gweithredu fel cliciau, sy’n ei gwneud yn anodd i newydd-ddyfodiaid gymryd rhan. Ceir hefyd faterion yn ymwneud â rheolaeth ariannol, llywodraethu, a seilwaith hen ffasiwn.
  • Uchelgeisiau amrywiol cynghorau: Mae uchelgeisiau gwahanol gynghorau yn amrywio, gyda rhai’n adweithiol ac eraill yn rhagweithiol o ran darparu gwasanaethau a rheoli prosiectau.
  • Biwrocratiaeth: Mae natur fiwrocrataidd cynghorau cymuned, gan gynnwys fformatau cyfarfodydd a thrafodaethau, yn datgymell unigolion y mae’n well ganddynt gyfleoedd gwirfoddoli mwy hyblyg.
  • Niwed i enw da: Mae adroddiadau am achosion pan oedd ymddygiad cynghorwyr yn disgyn islaw’r safonau disgwyliedig, cam-drin cynghorwyr a staff, a rheolaeth ariannol wael wedi niweidio enw da’r sector.

Opsiynau a gynigir ar gyfer y cam(au) gweithredu

Nid yw llawer o’r casgliadau hyn yn newydd. O’r herwydd, mae opsiynau’r Adroddiad yn cynnwys dau lwybr ar gyfer gwella. 

Mae’n debygol y bydd angen rhywfaint o ymchwil bellach i bynciau arbenigol, sy’n gorgyffwrdd â’r ddau lwybr. Credwn y bydd yr ymchwil sylfaenol hon yn berthnasol pa bynnag un o'r ddau lwybr a ddewisir. 

Mae’r llwybr cyntaf yn edrych ar set o opsiynau ar gyfer ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned a thref. 

Mae’r ail lwybr yn cynnwys un opsiwn cyffredinol, moderneiddio’r model ar gyfer yr haen hon o lywodraeth leol, gan gydnabod y gallai’r model presennol fod yn hen ffasiwn a bod angen fersiwn newydd o lywodraethu cymunedol. 

Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen o’r farn y dylai Gweinidogion Cymru ddewis un o’r ddau lwybr hyn a bwrw ymlaen ar y sail honno.

Llwybr 1: ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned

Mae’r llwybr hwn yn canolbwyntio ar gynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad rhwng cymunedau a’u cynghorau i wella iechyd democrataidd. Mae’n cynnwys gwella canfyddiad y cyhoedd, hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth, gwella sgiliau, a chreu llwybrau ar gyfer cynghorwyr y dyfodol.

  • Gwella canfyddiad y cyhoedd: mae’r opsiynau’n cynnwys darparu hyfforddiant ac adnoddau i gynghorwyr ymgysylltu ag ysgolion, grwpiau ieuenctid a chymunedau. Cyd-ddatblygu adnoddau cwricwlwm gydag athrawon ac ymgysylltu â cholegau a phrifysgolion. Rhannu arferion da i godi ymwybyddiaeth o gynghorau cymuned.
  • Hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth: mae camau i gynyddu amrywiaeth yn cynnwys creu prosesau ar gyfer casglu data demograffig, datblygu canllawiau ar gyfer seddi cadw ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, a digolledu cynrychiolwyr nad ydynt yn gynghorwyr o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys pobl ifanc.
  • Gwella sgiliau: cefnogi dyheadau cynghorwyr drwy hyfforddi a mentora, edrych ar fodelau ar gyfer darparu gwasanaethau clercio, a mynd i’r afael â methiannau llywodraethu mynych i wella sgiliau a llywodraethiant cynghorau.
  • Creu llwybrau ar gyfer cynghorwyr y dyfodol: mae’r opsiynau’n cynnwys datblygu fframwaith ar gyfer eglurder, tryloywder a safoni costau etholiadau cynghorau cymuned. Cynnig bod cynghorau cymuned yn sefydlu cronfeydd wrth gefn wedi’u neilltuo drwy gynnydd bach mewn praeseptau, er mwyn gallu cynnal etholiadau. Hyrwyddo cynrychiolaeth heb fod yn gynghorwyr a chyfyngu ar gyfethol tymor hir drwy gyfyngu hyn i un tymor yn unig. Dylai Polisi Cymunedau Llywodraeth Cymru hefyd roi sylw penodol i sut y gall mudiadau cymunedol weithio gyda chynghorau cymuned. Dylid annog y Bwrdd Rheoli Etholiadol newydd i gefnogi gwybodaeth a chyngor i ymgeiswyr drwy ei lwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr. 
  • Newid y diwylliant: mae’r opsiynau’n cynnwys adolygiad, a gynhaliwyd gan Gadeiryddion Pwyllgorau Safonau a Rhwydwaith y Pwyllgorau Safonau i edrych ar ba mor dda y mae’r fframwaith moesegol a’r broses cod ymddygiad wedi cael eu rhoi ar waith. Ystyried gydag Archwilio Cymru a all chwarae rhan fwy sylweddol a chyfrannu at ddatblygu meini prawf, gyda’r nod o fynd i’r afael â materion amrywiaeth a thanberfformiad ymddangosiadol. Dylai adolygiad o dystiolaeth i hysbysu polisïau pennu maint gael ei gynnal gan gorff megis Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Llwybr 2: moderneiddio

Mae’r llwybr hwn yn cynnwys edrych ar fodelau newydd ar gyfer llywodraethu cymunedol, gan gynnwys ailddiffinio pwrpas, perthnasoedd, swyddogaethau, a modelau gwahanol ar gyfer ethol neu ddethol i’r cyrff hyn, gyda phroses glir ar gyfer adlewyrchu amrywiaeth cymunedau. Dylid hefyd cael dealltwriaeth glir o feini prawf llwyddo a methu, a phroses ar gyfer ymyrryd.

Ni chafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen y dasg benodol o nodi modelau eraill, ac nid ydynt ychwaith yn arbenigwyr ar gyfer yr ymarfer hwnnw. Fodd bynnag, cynigiwyd bod grŵp Gweinidogol penodol yn cael y dasg o edrych ar yr opsiwn hwn.

Pennod 1: cyflwyniad

Y sector cynghorau cymuned a thref yw’r lefel o lywodraeth leol sydd agosaf at gymunedau. Mae 875 o gymunedau yng Nghymru, ac mae gan 732 o’r rheini gyngor cymuned neu dref. Mae cynghorau cymuned a thref yn cael eu gwasanaethu gan ychydig o dan 8,000 o gynghorwyr.

Mae maint cynghorau cymuned yn amrywio ledled Cymru. Mae cyngor cymuned nodweddiadol yn cynrychioli tua 1,500 o drigolion. Mae cynghorau cymuned llai sy’n cynrychioli llai na 500 o drigolion. Y Barri yw’r boblogaeth fwyaf a wasanaethir gan gyngor tref, gyda dros 50,000 o drigolion.

Yn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf ym mis Mai 2022, roedd canlyniadau etholiadau ar gyfer cynghorau cymuned yn dangos bod y gystadleuaeth am seddi yn gyfyngedig. Roedd bron i ddwy ran o dair o’r seddi yn rhai na ymleddir, sy’n golygu na chynhaliwyd etholiad, a gadawyd 1 o bob 6 sedd yn wag, i’w llenwi drwy etholiad pellach neu gyfethol.

Ym mis Ebrill 2023, sefydlodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, Rebecca Evans AS, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd. Penodwyd yr aelodau i ddod ag amrywiaeth eang o safbwyntiau o’r tu mewn a’r tu allan i’r sector. 

Aelodau

  • Shereen Williams (Cadeirydd), Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
  • Y Cynghorydd Mike Theodoulou, Cadeirydd Un Llais Cymru a Chadeirydd Shelter Cymru
  • Dr Leah Hibbs, Darlithydd Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
  • Sue Leonard, Prif Swyddog Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (Cyngor Gwirfoddol Sirol Sir Benfro) (*tan 31 Awst 2024)
  • Sue Husband, Cyfarwyddwr BITC Cymru (*tan Chwefror 2024)
  • Tilley Rees, Myfyriwr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Pennod 2: y cyd-destun

Cefndir yr adolygiad

Cynhelir etholiadau arferol llywodraeth leol i bob sedd ym mhob prif gyngor a phob cyngor cymuned a thref ar yr un pryd, bob 5 mlynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau hyn ddiwethaf ym mis Mai 2022. Dangosodd y canlyniadau ar gyfer cynghorau cymuned ganran isel o bleidleiswyr, sef oddeutu 40%. Ar ben hynny, o blith 7,883 o seddi cynghorau cymuned a thref, dim ond 22% oedd yn cael eu herio. Roedd 62% o’r seddi heb eu hymladd, sy’n golygu na chynhaliwyd etholiad, ac roedd 16% o’r seddi heb eu llenwi ac felly’n wag. Byddai seddi gwag yn cael eu llenwi naill ai drwy etholiad pellach neu gyfethol. 

Wrth gymharu etholiadau mis Mai 2022 ag etholiadau blaenorol llywodraeth leol ym mis Mai 2017, gwelwyd bod nifer y cynghorau cymuned gyda seddi wedi’u herio ar ddiwrnod yr etholiad wedi gostwng o 19% yn 2017 i 15% erbyn 2022. Roedd nifer y seddi gwag ar ddiwrnod yr etholiad wedi codi o 17% yn 2017 i 23% erbyn 2022 (gweler atodiad 1). 

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol bryd hynny Ddatganiad Ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2022 yn ymateb i ddata cynnar o ganlyniadau’r etholiad. Tynnodd y Gweinidog sylw at bwysigrwydd pobl yn cael dewis go iawn ynghylch pwy sy’n eu cynrychioli a’u gwasanaethu a’u bod yn teimlo y gall cyfrannu at y lefel fwyaf lleol hon o ddemocratiaeth wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. 

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Ddatganiad Ysgrifenedig pellach ynghylch sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd, a ffurfiwyd i edrych ar yr hyn sy’n achosi ymgysylltu a chyfranogiad isel mewn cynghorau cymuned a thref. Nodau craidd y Grŵp oedd nodi opsiynau ar gyfer camau gweithredu ar gyfer cynghorau cymuned a thref, cyrff sy’n cynrychioli’r sector a’r llywodraeth i:

  • wella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned
  • cynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol ar gynghorau cymuned a thref

Penodwyd aelodau’r Grŵp i ddod ag amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys rhanddeiliaid, cymunedau, a safbwyntiau annibynnol sy’n cael eu harwain gan dystiolaeth. Gyda’n gilydd, gwnaethom ymdrin â sawl safbwynt allweddol, e.e.:

  • cynghorau cymuned a thref
  • prif gynghorau
  • mudiadau cymunedol
  • y sector busnes
  • dealltwriaeth academaidd a her
  • pobl ifanc
  • cynhwysiant/amrywiaeth
  • newid ymddygiadol/system

Yn ogystal â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, sefydlwyd Grŵp Cynorthwyol o Swyddogion a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Un Llais Cymru, CLlLC a swyddogion Llywodraeth Cymru. Pwrpas y grŵp hwn oedd darparu cymorth ychwanegol i ni mewn perthynas â chymorth ysgrifenyddol, casglu tystiolaeth, cynnig cyngor arbenigol a helpu i ddrafftio’r adroddiad.

Natur newidiol Cymru a llywodraeth leol

Ceir llinell amser o newidiadau ac adolygiadau deddfwriaethol allweddol yn atodiad 2. Nodir rhai o’r prif newidiadau wedi’u nodi isod.

Mae rhagor o wybodaeth gefndir am y sector cynghorau cymuned a thref ar gael yn atodiad 3.

Llywodraeth Leol cyn 1972

Cyn Deddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”), rhannwyd Cymru yn 13 sir weinyddol a 23 bwrdeistref sirol. Cafodd y siroedd eu rhannu ymhellach yn ardaloedd trefol a gwledig llai, pob un â’i gynghorau plwyf etholedig ei hun. Roedd oddeutu 850 o gynghorau plwyf yng Nghymru.

Roedd Deddf 1972 yn disodli’r system hon gydag 8 sir a 37 dosbarth, a ddaeth i rym yn 1974. Cafodd cynghorau plwyf yng Nghymru eu diddymu a’u disodli gan gynghorau cymuned gyda gwahanol ffiniau a swyddogaethau. Roedd Deddf 1972 yn bwriadu y byddai’r ardaloedd newydd yn fwy effeithlon, rhesymegol a chynrychioladol o bobl Cymru.

Newidiadau i strwythurau awdurdodau lleol 1996

Ym mis Ebrill 1996, disodlwyd strwythur llywodraeth leol 8 sir a 37 rhanbarth gan 22 ardal awdurdod lleol (Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994). 

Adolygiadau o gynghorau cymuned a thref 

Cynhaliwyd sawl adolygiad o gynghorau cymuned a thref. Yn 2003, cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth ymchwil i rôl, swyddogaethau a photensial cynghorau cymuned yng Nghymru yn y dyfodol.  Dilynwyd hyn gan astudiaeth bellach yn 2014 i ddiweddaru’r canfyddiadau hyn a darparu dadansoddiad o strwythur, gweithrediad a newidiadau mewn cynghorau cymuned ers hynny. 

Yn 2006, cynhaliwyd Adolygiad Beecham o Ddarparu Gwasanaethau Lleol. Ei nod oedd asesu a gwella’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er nad oedd yn cyfeirio’n uniongyrchol at gynghorau cymuned, pwysleisiodd yr adolygiad yr angen i gyrff llywodraeth leol weithio’n agosach, mabwysiadu arferion gorau ar gyfer darparu gwasanaethau’n well a chanolbwyntio ar y dinesydd. 

Ym mis Gorffennaf 2017, sefydlodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol bryd hynny y Panel Adolygu Annibynnol i edrych ar rôl bosibl llywodraeth leol sy’n fwy lleol na phrif gynghorau, diffinio’r model(au)/strwythur(au) mwyaf priodol i gyflawni’r rôl hon ac ystyried sut y dylid cymhwyso’r modelau a’r strwythurau hyn ledled Cymru. Roedd yr adolygiad hwn yn adeiladu ar yr ymchwil flaenorol. Adroddodd yr adolygiad annibynnol yn 2018 a gwnaeth gyfres o argymhellion a oedd i’w gweithredu gan yr holl bartneriaid.

Cafodd llawer o’r argymhellion eu rhoi ar waith, er enghraifft:

  • cefnogaeth i gynghorau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
  • mynediad i’r pŵer cymhwysedd cyffredinol
  • nodi hyfforddiant craidd
  • darparu bwrsariaethau hyfforddi
  • cefnogi cynghorau llai i’w helpu i gyflawni gofynion archwilio

Mae nifer o faterion nad ydynt wedi cael sylw. Er enghraifft:

  • mae budd mewn diffinio gwasanaethau a fyddai'n cael eu darparu gan gynghorau cymuned a thref
  • dylai cynghorwyr allu eistedd ar gynghorau cymuned a phrif gynghorau
  • dim ond am uchafswm o un tymor y dylai cynghorwyr allu cael eu cyfethol
  • dylai fod yn ofynnol i bob clerc fod yn gymwys
  • dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru gael pwerau ymyrryd cymesur

Nid ydym wedi ailadrodd gwaith y Panel Adolygu Annibynnol, ac rydym wedi ceisio ymgysylltu ymhellach â grwpiau y tu allan i waith uniongyrchol cynghorau cymuned a thref. 

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Roedd cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethu, gan gynnwys pŵer cymhwysedd cyffredinol newydd ar gyfer cynghorau cymuned cymwys. Mae’r pŵer hwn yn caniatáu i gynghorau cymwys wneud “unrhyw beth y gall unigolion ei wneud yn gyffredinol” ar yr amod nad yw cyfreithiau eraill yn cael eu torri. Roedd hyn yn dileu cyfyngiadau blaenorol ar bwerau gwario i gynghorau cymuned cymwys. 

Comisiwn Annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru 2024

Yn 2024, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad. 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i gryfhau democratiaeth yng Nghymru. Roedd ei argymhelliad cyntaf yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau newydd ar gyfer addysg mewn democratiaeth leol fod yn flaenoriaeth ar gyfer y gwaith hwn, ac yn destun adolygiad rheolaidd gan y Senedd. 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Mawrth 2024. Adeg ysgrifennu ein hadroddiad ar iechyd democrataidd cynghorau cymuned a thref, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar ei gwaith ar fwrw ymlaen â’r argymhellion. Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau i gyfrannu at y gwaith hwn.

Rheolaeth a llywodraethiant ariannol

Rhwng 2017 a 2020, ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nifer o adroddiadau a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ar reolaeth a llywodraethiant ariannol cynghorau cymuned a thref.  

Mae Archwilio Cymru yn dilyn rhaglen o archwilio cynghorau tref a chymuned i roi sicrwydd rhesymol – ond nid absoliwt – bod y cyfrifon wedi eu paratoi'n iawn, a bod trefniadau ar waith i sicrhau gwerth am arian. Mae'r rhaglen yn dilyn cylch tair blynedd: bydd pob cyngor cymuned yn cael archwiliad gweithdrefnau cyfyngedig wedi'u diffinio mewn dwy o'r tair blwyddyn ac archwiliad manylach yn y drydedd flwyddyn.

Yn ôl gwybodaeth gan Archwilio Cymru roedd nifer yr archwiliadau amodol a roddwyd i gynghorau cymuned yn 2022 i 2023 yn 49% (o’r 681 o archwiliadau a gwblhawyd). O gynnal archwiliad manylach, fe wnaethant ganfod bod 58% o'r archwiliadau 'llawn' hynny (yr oedd 216 ohonynt) wedi cael barn archwilio amodol. Disgwylir yr adroddiad nesaf ar reolaeth ariannol a llywodraethiant y sector yn ddiweddarach yn 2024.

Ers 2018, mae 30 o adroddiadau budd y cyhoedd wedi’u rhoi i gynghorau cymuned. 

Cod ymddygiad

Yn 2021, cynhaliwyd adolygiad annibynnol gan Richard Penn ar y fframwaith safonau moesegol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y fframwaith yn dal i fod yn addas i’r diben ac awgrymodd rai diwygiadau i helpu i atal cwynion a gwella’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion a gwella safonau moesegol ymhellach. 

Rhaid i bob cynghorydd cymuned gytuno i lynu wrth god ymddygiad statudol cynghorwyr pan fyddant yn derbyn swydd. Ac eithrio mân gwynion, gellir mynd i’r afael â nhw drwy weithdrefnau datrys lleol, lle mae’r ddau barti’n cytuno, dylid cyflwyno achosion honedig o dorri’r cod i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

Ystyrir achosion honedig o dorri’r Cod gan yr Ombwdsmon sy’n cyfeirio’r gŵyn at y pwyllgor safonau lleol neu Banel Dyfarnu Cymru os byddant yn penderfynu, ar sail eu prawf budd y cyhoedd, bod achos posibl i’w ateb. Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae’r Ombwdsmon wedi delio â rhwng 100 a 200 o gwynion bob blwyddyn ynghylch ymddygiad moesegol cynghorwyr cymuned. Dangosodd yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf gan yr Ombwdsmon ei fod wedi derbyn 176 o gwynion Cod Ymddygiad newydd am gynghorwyr cynghorau cymuned, cynnydd o 11% ers y flwyddyn flaenorol.

Iechyd digidol y sector

Yn 2022, cynhaliodd Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol (LGCDO) Brosiect Darganfod Digidol ar gyfer cynghorau cymuned a thref i asesu parodrwydd digidol y sector. Nododd yr adroddiad amrywiad sylweddol ar draws y sector a’i gwneud yn glir bod angen gweithredu i alluogi cynghorau cymuned i weithio’n hyderus drwy ddulliau digidol. 

O ganlyniad, gofynnodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd i Un Llais Cymru arwain y gwaith o gyflawni cynllun gweithredu i wella parodrwydd digidol y sector, gyda chefnogaeth o hyd at £150,000 y flwyddyn yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025. 

Cymorth Llywodraeth Cymru i’r sector

Mae cynghorau cymuned yn gyrff corfforaethol, sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau a’r swyddogaethau a roddir iddynt gan ddeddfwriaeth ac sy’n atebol yn uniongyrchol i’w hetholwyr. Nid ydynt yn atebol i brif awdurdodau nac i Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu amrywiaeth o gymorth, cyllid ac arweiniad i helpu’r sector i feithrin ei gapasiti a’i allu, ac i allu cyflawni ar gyfer ei gymunedau. 

Mae ffocws penodol wedi bod ar helpu’r sector i wella ei reolaeth a’i lywodraethiant ariannol. 

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid yn y sector i ddatblygu amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys:

  • cyllid Llywodraeth Cymru ar gael drwy Un Llais Cymru, i gymell a galluogi cynghorwyr i ymgymryd â hyfforddiant, gyda phwyslais penodol ar reolaeth ariannol, llywodraethiant a chod ymddygiad
  • cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi hyfforddiant cyffredinol i gynghorau llai, gan gyfrannu 50% tuag at gost anghenion hyfforddi eraill
  • cyllid Llywodraeth Cymru drwy’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, i ddarparu clercod cyngor i ymgymryd â chymhwyster CiLCA (Tystysgrif mewn Gweinyddu Cynghorau Lleol) sy’n benodol i’r sector
  • arolwg Hyfforddi Cenedlaethol dan arweiniad Un Llais Cymru, i bennu anghenion hyfforddi a datblygu’r sector
  • pecyn Cyllid a Llywodraethiant i Gynghorau Cymuned a Thref. Mae’r pecyn cymorth yn cefnogi cynghorau i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol a sicrhau rheolaeth a llywodraethiant ariannol cadarn
  • cyllid craidd ar gyfer Un Llais Cymru i helpu ei rôl fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan aelodau
  • cynllun peilot y Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig, drwy’r rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth

Pennod 3: methodoleg

Mabwysiadodd y grŵp dulliau gwahanol i’w helpu i ddeall safbwyntiau amrywiaeth eang o randdeiliaid. Fel rhan o’r gwaith, casglwyd gwybodaeth feintiol ac ansoddol ar yr hyn yr oedd y cyhoedd, pobl ifanc, y trydydd sector, cynghorau cymuned a thref, a phrif gynghorau yn ei feddwl am ymgysylltu a chynrychiolaeth ar gynghorau cymuned a thref lleol. 

Casglwyd tystiolaeth o wahanol ffynonellau:

  • chwilio drwy lenyddiaeth ac adolygu papurau academaidd perthnasol (Tachwedd i Mai 2023)
  • arolwg a gynhaliwyd gan YouGov ar ran Llywodraeth Cymru (Rhag 2022)
  • cyfranwyr arbenigol (Allanol a Llywodraeth Cymru) (Gorff 2023 i Mai 2024)
  • arolygon galwad am dystiolaeth (Hydref i Tachwedd 2023)
  • grwpiau ffocws (Tachwedd 2023; Ebrill i Mai 2024)
  • arolwg dilynol a gynhaliwyd gan YouGov (Mai 2024)

Chwiliad llenyddiaeth

Cynhaliodd y grŵp swyddogion adolygiad bwrdd gwaith o lenyddiaeth berthnasol i’n helpu i nodi themâu cychwynnol i’w harchwilio. Y themâu hyn oedd: 

  • Thema 1 Canfyddiad: sut oedd cynghorau cymuned a thref yn cael eu gweld gan eu cymunedau lleol. 
  • Thema 2 Gwrthdaro: safbwyntiau pegynol gan aelodau’r cyngor a oedd mewn rhai achosion wedi arwain at ddrwgdeimlad a gelyniaeth, a phryderon am effaith ar y berthynas yn lleol o ganlyniad i weithredu fel aelodau o’r cyngor (pryder i fenywod yn arbennig). 
  • Thema 3 Strwythurau: strwythurau llywodraethu lleol ac a oedd y rhain yn effeithio ar gynrychiolaeth a chyfranogiad mewn penderfyniadau ar gyfer cymunedau lleol.
  • Thema 4 Cyfathrebu: cyfathrebu aneffeithiol rhwng cynghorau cymuned a’u cymunedau.
  • Thema 5 Ymgysylltu a chyfranogi; sut oedd cymunedau’n cymryd rhan yng ngwaith cynghorau cymuned a thref a’u penderfyniadau.

Arolwg

Comisiynodd Llywodraeth Cymru arolwg a gynhaliwyd drwy YouGov ym mis Rhagfyr 2022. Cyrhaeddodd yr arolwg rhanbarthol hwn 1,000+ o bobl 16 oed a hŷn a gofynnodd gwestiynau am yr hyn yr oedd y cyhoedd yn ei wybod am gynghorau cymuned a thref. 

Cyfranwyr arbenigol

Gwahoddodd y grŵp nifer o gyfranwyr arbenigol i ehangu ar bynciau allweddol fel ymchwil academaidd i wella ymgysylltiad mewn cynghorau plwyf, y Cwricwlwm newydd i Gymru, pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth, diwygiadau etholiadol a llywodraethiant cynghorau cymuned. Roedd hyn yn help i benderfynu ar y meysydd yr oedd angen ymchwilio iddynt ymhellach (Rhestr yn atodiad 4). 

Galwad am dystiolaeth

Lansiodd y grŵp alwad am dystiolaeth drwy arolygon a’r wasg gyffredinol.

Gwahoddwyd cyfraniadau gan bleidiau gwleidyddol er mwyn deall sut y maent yn mynd ati i gefnogi llif o ymgeiswyr posibl ar gyfer cynghorau cymuned. Gofynnwyd hefyd am farn pobl nad oeddent yn ymwneud â chynghorau cymuned ar hyn o bryd, drwy ddefnyddio papurau lleol yn gyfrwng i wahodd cyfraniadau (atodiad 5).

Ym mis Hydref 2023, lansiwyd nifer o arolygon, wedi’u hanelu at grwpiau rhanddeiliaid penodol i ddeall ymwybyddiaeth, canfyddiad ac agweddau tuag at gynghorau cymuned.

Grwpiau ffocws rhanddeiliaid

Nodwyd themâu allweddol drwy’r cais am arolygon tystiolaeth, a arweiniodd at lunio cyfres o feysydd i’w harchwilio yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein i randdeiliaid. Y themâu allweddol oedd ymwybyddiaeth ac ymgysylltu, yn benodol:

  • profiad / cyfradd ymateb gwael wrth wneud ymholiadau gyda chynghorwyr cymuned neu dref (ymatebwyr cyffredinol yn y sector cyhoeddus/trydydd sector)
  • dryswch ynghylch ymwybyddiaeth o ddemocratiaeth, ddim yn deall strwythurau llywodraeth a haenau llywodraeth leol, gan gynnwys cynghorau cymuned (pobl ifanc)

A chyfranogiad yn y dyfodol:

  • baich gwaith cynghorwyr (cynghorau cymuned; prif gynghorau; y cyhoedd; ymatebwyr o’r trydydd sector)
  • ofn cam-drin (cynghorwyr cynghorau cymuned; prif gynghorau; y cyhoedd yn gyffredinol)
  • diffyg diddordeb (cynghorau cymuned; prif gynghorau; y cyhoedd; pobl ifanc)
  • yr argraff fod y broses etholiadol yn gymhleth (y cyhoedd)
  • ar y llaw arall, roedd diddordeb mewn gwaith gwirfoddol y gallai cynghorau cymuned ei wneud (y cyhoedd); a diddordeb mewn gwaith gwirfoddol cymunedol (pobl ifanc)

Rhwng Mawrth a Mehefin 2024, cynhaliwyd 15 o grwpiau ffocws ac un-i-un. Mae atodiad 6 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y dull gweithredu yn y sesiynau hyn.

Arolwg dilynol

Cynhaliwyd arolwg dilynol drwy YouGov, a oedd yn adeiladu ar y themâu a ddeilliodd o’n harolwg. Cynhaliwyd ail arolwg YouGov rhwng 1 a 6 Mai 2024. 

Cyfyngiadau ymgysylltu

Mae’n bwysig nodi nad cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen oedd efelychu gwaith y Panel Adolygu Annibynnol ar gynghorau cymuned a thref a gynhaliwyd yn 2017/18. Roedd cylch gwaith y Panel yn eang ac yn edrych ar rôl bosibl llywodraeth leol o dan brif gynghorau, gan ddefnyddio arferion gorau, diffinio’r modelau a’r strwythurau mwyaf priodol i gyflawni hyn, ac ystyried sut dylid defnyddio’r modelau a’r strwythurau hyn ledled Cymru. 

Pennod 4 : canfyddiadau

Isod ceir crynodeb o’r canfyddiadau o wahanol agweddau ar ein gwaith casglu tystiolaeth.

Chwilio drwy lenyddiaeth

Adolygwyd ystod eang o lenyddiaeth o’r 10 mlynedd diwethaf, yn seiliedig ar astudiaethau cenedlaethol a rhyngwladol o’r haen fwyaf lleol o lywodraeth, h.y. strwythurau sy’n agosach at gynghorau cymuned na phrif gynghorau. Nodwyd pum thema allweddol:

Thema 1: canfyddiad

Roedd nifer o bapurau’n tynnu sylw at y ffaith bod pobl yn ddrwgdybus am eu cynghorau ar ôl cael, neu glywed am, brofiadau negyddol, gan arwain yn aml at y gred bod cynghorwyr yn bennaf gweithredu er eu lles eu hunain.

Nododd ymchwil sy’n seiliedig ar gynghorau plwyf Lloegr, er bod rhywfaint o ymwybyddiaeth leol o fodolaeth y cynghorau, bod ymwybyddiaeth o’r hyn a wnânt yn isel, yn enwedig ymysg pobl ifanc. 

Yn gyffredinol, roedd demograffeg cynghorwyr yn cael ei nodi fel pobl hŷn, ‘hen ddynion wedi ymddeol’ ac roedd cynghorau’n ‘rhy hen’ ac nid oeddent yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned. Roedd angen i bobl iau gymryd rhan a gwneud cynghorau’n fwy cynrychioladol a hygyrch.

Daeth ymchwil gan Lywodraeth Cymru ar gynghorau cymuned (Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2014), i gasgliad tebyg. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am fodolaeth cynghorau cymuned ond nid am eu rolau na sut roeddent yn wahanol i brif gynghorau. 

Thema 2: gwrthdaro

Roedd cynghorwyr newydd yn aml yn teimlo bod eu gwerthoedd a’u diddordebau’n gwrthdaro â’r cynghorwyr hŷn, gwrywaidd a mwy dosbarth canol. Achosodd hyn wrthdaro rhwng blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd ac sy’n groes i’w gilydd ac a oedd yn herio’r hierarchaethau presennol.

Pan oedd gan gynghorau safbwyntiau pegynol, nid oedd cynghorwyr â safbwyntiau gwahanol yn debygol o ddod o hyd i gefnogaeth, gan greu drwgdeimlad a gelyniaeth. 

Canfu ymchwil yn seiliedig ar gynghorau plwyf Lloegr fod gwrthdaro o fewn cynghorau yn aml yn gysylltiedig ag amharodrwydd y cyngor ei hun i newid. Teimlid nad oedd croeso i syniadau newydd.

Thema 3: strwythurau

Roedd adolygiad rhyngwladol yn cymharu gwahanol systemau llywodraethu lleol a’u heffaith ar gyfranogiad dinasyddion. Canfu fod cynghorau hyperleol yn gyffredinol yn anghynrychioliadol o'u poblogaethau lleol, ac nad oedd ganddynt fawr o awdurdod na dylanwad gwirioneddol ar lywodraethu lleol.

Dylid rhoi sylw nid yn unig i faint a dyluniad strwythurau, ond hefyd i berthnasoedd a sut y cefnogwyd dinasyddion a chymunedau i gymryd rhan yn y system.

Nid oedd datganoli’r broses o wneud penderfyniadau’n lleol yn anochel yn arwain at fwy o gyfranogiad. 

Roedd sut roedd llywodraeth ganolog yn rheoli, yn grymuso neu’n arwain llywodraeth leol (e.e. drwy bolisi; rheoleiddio) yn effeithio ar sut roedd penderfyniadau lleol yn cael eu gwneud.

Roedd angen strwythurau ffurfiol o ddemocratiaeth gynrychiadol ar gyfer prosesau agored, cynhwysol a thryloyw, ond roeddent yn effeithio ar bobl yn wahanol. Roedd rhai pobl yn teimlo bod rheolau a rheoliadau llywodraeth leol yn llestair. Roeddent yn aml yn hoffi ymuno â grwpiau gweithredu cymunedol a oedd yn gyffredinol â lefelau is o fiwrocratiaeth. Roeddent hefyd yn hoffi gweithio gyda phrosiectau neu fudiadau cyfranogol eraill a oedd yn eu galluogi i fod yn fwy hyblyg gyda’u hamser.

Roedd prosesau’r Cyngor yn defnyddio ieithoedd a strwythurau a oedd yn gwneud cyfranogiad yn anodd i newydd-ddyfodiaid. Roedd cyfarfodydd, cofnodion a nodiadau yn aml yn anghyfarwydd i’r gymuned ehangach. 

Thema 4: cyfathrebu

Roedd materion yn ymwneud â chyfathrebu yn thema gyffredin ac yn llinyn drwy’r rhan fwyaf o’r themâu eraill. Roedd dulliau cyfathrebu traddodiadol, e.e. hysbysfyrddau cymunedol a hysbysiadau yn y wasg leol sy’n cael eu defnyddio’n aml gan gynghorau plwyf, yn cael eu hystyried yn annigonol ac yn aml ddim yn cael eu gweld gan lawer o aelodau o gymunedau lleol. 

Roedd cyfathrebu’n aml yn teimlo’n weithred un ffordd, gydag ychydig o ymgysylltu neu adborth yn cael ei geisio ar unrhyw gynigion gan gymunedau. 

Roedd cynghorau lleol yn aml yn cael eu hystyried yn araf, aneffeithiol neu’n rhwystrol, yn hytrach na bod yn agored i awgrymiadau ar gyfer newid cadarnhaol. Roedd ymatebion y cynghorau yn effeithio ar sut roeddent yn cael eu gweld. 

Roedd cyfyngiadau oedran a phleidleisio yn aml yn golygu bod pobl ifanc yn cael eu heithrio o brosesau gwneud penderfyniadau, ond roedd pobl ifanc yn aml yn teimlo mai nhw oedd y rhai a dreuliai y rhan fwyaf o’u hamser yn y gymuned leol. Er enghraifft, bod y tu allan gyda ffrindiau, defnyddio cyfleusterau fel parciau chwarae a mannau gwyrdd.  

Roedd etholiadau’n cael eu hystyried yn bwysig ar gyfer gwell democratiaeth ac yn hanfodol er mwyn i gynghorwyr a chymunedau newydd (o bosibl) gael sgwrs. Er bod cynghorau’n ffafrio cyfethol cynghorwyr i osgoi cost etholiadau (yn enwedig isetholiadau) a’r gost gysylltiedig, ni chafodd hyn ei brofi’n gadarnhaol gan eraill ac roedd yn cael ei ystyried yn annemocrataidd ac yn rhwystr i amrywiaeth. 

Roedd yr adborth bod yn well gan gynghorau gyfethol yn hytrach na thalu am gost cynnal isetholiadau yn bryder penodol i’r grŵp. Nodwyd cost fel prif reswm, ond bydd hyn yn effeithio ar amrywiaeth a chynrychiolaeth. Fe wnaethom nodi argymhelliad Panel Adolygu Annibynnol 2018 i gynghorau cymuned a thref sef “dylid galw etholiadau ni waeth a yw seddi’n cael eu herio ai peidio”.  

Thema 5: ymgysylltu a chyfranogi

Edrychodd un astudiaeth berthnasol iawn ar gynghorau plwyf Lloegr. Roedd yr astudiaeth wedi cynllunio a phrofi ymyriadau (e.e. llythyrau, papur briffio a digwyddiad hyfforddi) i helpu cynghorau i fynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogiad ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Fodd bynnag, nid oedd yr ymyriad wedi cael effaith sylweddol ar recriwtio ymgeiswyr na chanlyniadau etholiadau, y tu hwnt i gynnydd yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol ar gyfer recriwtio. Roedd yr astudiaeth yn awgrymu nad oedd perswâd a gwybodaeth, h.y. ymyriadau hwyluso, yn gweithio. Yn hytrach, efallai y bydd angen strategaethau mwy radical, er na chafodd y rhain eu diffinio.

Dangosodd adolygiadau rhyngwladol, pan ddefnyddiwyd dulliau arloesol i ddinasyddion gael mwy o lais, nad oedd hyn yn effeithio llawer ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ac yn gwneud i ddinasyddion deimlo’n ddi-rym, gan arwain at golli diddordeb.

Mewn adolygiad rhyngwladol a gynhaliwyd gan Lywodraeth yr Alban yn 2021 (Systemau llywodraethu lleol a sut mae dinasyddion yn cymryd rhan: adolygiad rhyngwladol), cynigiwyd bod cyfranogiad gorfodol, gyda chanlyniadau rhwymol, yn fwy tebygol o gynyddu lefelau ymgysylltu. Roedd y canfyddiadau, drwy astudiaethau achos, yn dangos bod y rhan fwyaf o gyfranogiad yn ddewisol, ac y gallai llywodraeth leol benderfynu a ddylid gweithredu ar ganlyniadau ei hymgysylltiad â dinasyddion. Roedd hyn yn aml yn dadrymuso, ac awgrymodd yr adolygiad y gallai hyn arwain at ymddieithrio dinasyddion. Roedd ymgysylltu’n fwy tebygol o wella os oedd dinasyddion yn teimlo bod eu mewnbwn yn cael effaith uniongyrchol ar wneud penderfyniadau, gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gorfod gweithredu ar ganlyniadau cyfranogiad. Teimlwyd hefyd y byddai cyfranogiad gorfodol yn sicrhau bod dinasyddion yn dylanwadu’n systematig ar benderfyniadau, ac y gallai hyn fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirsefydlog. 

Nodwyd materion yn ymwneud ag ymdrechion llywodraeth leol i wella cyfranogiad a chyfranogiad gwirioneddol. Roedd hyn yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o’r cyfle; canfyddiadau bod cyfranogiad yn symbolaidd; diffyg ymateb gan gynghorau; pobl yn teimlo eu bod wedi’u hallgáu’n gymdeithasol a defnydd gwael o fecanweithiau cyfranogi. Roedd y cynigion yn cynnwys mwy o gyfleoedd electronig; yr angen am baneli dinasyddion a chyfranogiad ‘o’r gwaelod i fyny’. 

Ystyriwyd gwahanol fathau o gyfranogiad dinesig, e.e. anffurfiol (grwpiau cymunedol) a ffurfiol (pleidleisio, sefyll mewn etholiad). Gallai cyfranogiad anffurfiol helpu i ddatrys problem leol, ond roedd pryderon ynghylch atebolrwydd a chynrychiolaeth y gymuned gyfan.

O ystyried canfyddiadau’r chwiliad llenyddiaeth, gwahoddwyd ystod eang o gyfranwyr i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau ynghylch y themâu a nodwyd. 

Arolygon YouGov*

Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd YouGov arolwg ar ran Llywodraeth Cymru. Cafodd yr arolwg hwn ei ailadrodd ym mis Mai 2024 a chanfu ganlyniadau tebyg lle cafodd yr un cwestiynau eu hailadrodd.

Roedd yr arolygon yn holi am ymwybyddiaeth y cyhoedd o’u cynghorau cymuned lleol; a oedd ymatebwyr wedi cysylltu â’u cynghorau cymuned lleol yn ystod y 12 mis cyn hynny. Gofynnodd yr arolwg hefyd a oedd gan bobl ddiddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith cynghorau cymuned, gan gynnwys ceisio sefyll fel cynghorydd. Yn olaf, gofynnodd am farn ynghylch a oedd pobl yn credu eu bod yn cael eu cynrychioli ar eu cyngor.

Canfu’r arolwg y canlynol:

  • yn 2022, nid oedd 72% o'r ymatebwyr yn gwybod llawer, os o gwbl, am gynghorau cymuned a thref. Yn 2024, roedd hynny'n 68%
  • yn 2022, nid oedd 83% o'r ymatebwyr wedi cael unrhyw gysylltiad â'u cyngor cymuned neu dref yn ystod y 12 mis diwethaf. Yn 2024, roedd hyn yn 84%
  • yn 2022, roedd 45% o bobl yn teimlo nad oedd pobl fel nhw yn cael eu cynrychioli ar y cyngor cymuned a thref. Yn 2024, roedd hyn yn 54%
  • yn 2022, o'r rhai a ddywedodd fod ganddynt gyngor cymuned/tref, roedd gan 16% o'r ymatebwyr ddiddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith cynghorau cymuned neu dref. Ni chafodd y cwestiwn hwn ei ailadrodd yn 2024

Y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd dros beidio ag ystyried bod yn gynghorydd cyngor cymuned oedd diffyg diddordeb, diffyg amser, anfodlonrwydd â system y cyngor cymuned, teimlo eu bod yn rhy hen, neu ddiffyg ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’r sector yn ei wneud. 

Dywedodd 28% o’r rheini a holwyd yn 2022 (32% yn 2024) 024 eu bod yn gwybod llawer iawn neu eithaf tipyn am gynghorau tref a chymuned. Yn arolwg 2024, dadansoddwyd hyn ymhellach. 

  • Roedd mwy o ddynion na menywod yn ymwybodol (37% o’i gymharu â 27%)             
  • Pobl dros 65 oed oedd yn fwyaf ymwybodol (38%). Mae hyn o’i gymharu â 29% o’r rheini sy’n 16 i 24 oed
  • Roedd y rheini yn y demograffeg cymdeithasol ABC1 yn fwy ymwybodol na’r rheini yn nemograffeg cymdeithasol C2DE (38% o’i gymharu â 26%)
  • Roedd y rheini a oedd yn siarad Cymraeg yn fwy ymwybodol o gynghorau cymuned na’r rheini nad oeddent yn siarad Cymraeg (roedd 40% o’r rheini a oedd yn siarad Cymraeg yn ymwybodol, o’i gymharu â 27% o’r rheini a oedd yn siarad dim Cymraeg).     

*Mae’r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, gan YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,041 o oedolion yn 2022 a 1,113 o oedolion yn 2024. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 1-6 Rhagfyr 2022 a 30 Ebrill i 7 Mai 2024. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli’r holl oedolion yng Nghymru (16 oed a hŷn).

Galwad am dystiolaeth

Roedd y dystiolaeth flaenorol yn sail i’r arolygon galwad am tystiolaeth, a oedd yn cael eu rhannu yn ôl rhanddeiliad, h.y. y cyhoedd, pobl ifanc, sefydliadau’r trydydd sector, cynghorau cymuned a phrif gynghorau. 

Cafwyd 753 o ymatebion i’r arolygon galwad am dystiolaeth gan unigolion a grwpiau. Yn gryno, gwelsom:

Y Cyhoedd

Thema gyffredin drwy gydol y dystiolaeth gynnar gan aelodau o’r cyhoedd oedd diffyg ymwybyddiaeth o fodolaeth a rôl cynghorau cymuned. Yr oeddent yn aml yn drysu rhwng cynghorau cymuned â’r gwasanaethau a ddarperir yn fwy cyffredin gan brif gynghorau. Roedd ymwneud â chynghorau cymuned yn gyfyngedig hefyd, ac roedd gwirfoddoli’n fwy deniadol. Nodwyd ganddynt fod gwirfoddoli’n cael ei ystyried yn fwy hyblyg o ran ymrwymiadau amser, yn aml yn golygu gweithredu’n fwy uniongyrchol, a’i fod yn fwy penodol i’w diddordebau.

Derbyniwyd 18% o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth gan aelodau o’r cyhoedd.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

  • Roedd ymgysylltiad y cyhoedd â chynghorau yn aml yn gyfyngedig oherwydd profiadau blaenorol – er enghraifft, negeseuon e-bost ac ymholiadau ddim yn cael eu hateb gan gynghorwyr, neu ymatebion yn cymryd gormod o amser. 

Rydw i wedi ystyried cysylltu â nhw am fy niddordeb mewn adeilad lleol rydw i wedi clywed bod ganddyn nhw rôl ynddo, ond rydw i’n wyliadwrus ar ôl clywed eu bod nhw’n gweithredu’n ‘gaeedig’, nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn bod yn agored nac ymgysylltu â’r cyhoedd. Aelod o’r cyhoedd

Does ganddyn nhw ddim pŵer i helpu Aelod o’r cyhoedd

Y thema gyffredinol oedd nad yw aelodau o’r cyhoedd yn clywed gan eu cyngor cymuned neu dref. 

O ran y cwestiwn pam na fyddai aelodau o’r cyhoedd yn dymuno sefyll fel cynghorwyr, yr oedd themâu cyson ynglŷn â diffyg hygyrchedd, cynghorau’n aml yn cyfethol ymgeiswyr a ffefrir, a chanfyddiad bod ganddynt gliciau nad oeddent yn croesawu eraill. 

Nid yw’n ymddangos bod y cyfarfodydd yn cyflawni unrhyw beth. Mae’n ymddangos bod y gweithgorau pwnc yn gwneud hynny, a gwaith 1 neu 2 o gynghorwyr yn unig yw hynny. Pe bai’n rhaid i bob cyngor cymuned yng Nghymru sefydlu gweithgorau ar bob un o’r pynciau allweddol y maent yn gyfrifol amdanynt neu y gofynnir iddynt am gyngor ar eu cyfer, yna byddai’n werth cymryd rhan. Aelod o’r cyhoedd

Rwyf yn y demograffeg anghywir h.y. dyn wedi ymddeol a symudodd o Loegr. Mae angen cynrychiolwyr iau o gefndir amrywiol ar y cyngor cymuned. Aelod o’r cyhoedd

Diffyg mynediad i bobl anabl i siambr y cyngor. Aelod o’r cyhoedd

Mae’n ymddangos bos y cyngor tref yn glic o unigolion sydd â throsiant uchel o gynghorwyr, i gyd yn cael eu cyfethol. Ni allaf gofio etholiad yn y blynyddoedd diwethaf. Aelod o’r cyhoedd

Pobl Ifanc (hyd at 25 oed)

Roedd thema gyson yn y dystiolaeth drwyddi draw bod ymwybyddiaeth pobl ifanc o gynghorau cymuned yn gyfyngedig. Yr oeddent yn aml yn drysu rhwng y swyddogaethau a gyflawnir gan gynghorau cymuned a phrif gynghorau h.y. bod cynghorau cymuned yn darparu gwasanaethau megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol, a ddarperir gan brif gynghorau.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

  • Nid oedd dros 46% o’r ymatebwyr yn deall pwrpas a swyddogaethau llywodraeth genedlaethol, awdurdodau lleol a chynghorau cymuned.
  • Er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi dweud eu bod yn gwybod beth oedd prif gyngor a chynghorau cymuned, dywedodd chwarter yr ymatebwyr hynny nad oeddent yn gwybod beth mae’r cynghorau hyn yn ei wneud. 
  • O’r bobl ifanc hynny a oedd wedi ymgysylltu â chynghorau cymuned, roedd yr ymgysylltu hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ddigwyddiadau cymunedol – er enghraifft, diwrnodau hwyl mewn parc; arddangosfeydd noson tân gwyllt; goleuo goleuadau Nadolig (81%). 
  • Roedd pobl ifanc yn llai tebygol na grwpiau oedran eraill o gysylltu â chynghorwyr eu cyngor cymuned neu fynychu cyfarfodydd cynghorau cymuned. 
  • Dywedodd 41% o bobl ifanc nad oeddent yn gwybod sut i gysylltu â’u cyngor lleol neu gynghorwyr, dywedodd rhai ‘nid yw hyn yn cael ei hysbysebu yn y cyfryngau.’
  • Atebodd 57% na fyddent eisiau bod yn gynrychiolydd ieuenctid ar eu cynghorau cymuned lleol. 
  • Atebodd 74% na fyddent eisiau bod yn gynghorydd ar eu cynghorau cymuned.
  • Dywedodd 62% y byddai ganddynt ddiddordeb mawr neu eithaf diddordeb mewn cymryd rhan yng ngweithgareddau eu cynghorau cymuned lleol er enghraifft, rhandiroedd, ardaloedd chwarae, a gweithio gyda chynghorau cymuned a chwmnïau lleol ar brosiectau lleol, ond nid fel cynghorwyr. 
  • Y prif resymau pam nad oedd pobl ifanc eisiau bod yn gynghorwyr oedd dim diddordeb, dim digon o amser ac nid ydynt yn gwybod digon amdano. 
  • Roedd rhesymau eraill yn cynnwys diffyg amrywiaeth, gan gynnwys oedran ac ethnigrwydd cynghorwyr, a phryder ynghylch yr effaith gyfyngedig ymddangosiadol a gafodd cynghorwyr ar faterion allweddol.

Roedd gan grwpiau ieuenctid, a oedd wedi cymryd rhan yn yr alwad am dystiolaeth, yr un diffyg ymwybyddiaeth. Roedd y sylwadau’n cynnwys ‘ddim yn teimlo y bydden nhw [cynghorau cymuned] yn gwneud llawer/y byddai ganddyn nhw ddiddordeb ynom ni’ a ‘dydw i ddim yn gwybod amdanyn nhw na beth maen nhw’n ei wneud alla i ddim cysylltu â rhywun nad ydw i’n gwybod eu bod yn bodoli’. Pan ofynnwyd i’r grwpiau a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn bod yn gynrychiolydd ieuenctid ar gyngor, dywedodd un ymatebydd, ‘Roeddwn i’n arfer bod yn un roedd yn dda i mi ond efallai nad oedd yn helpu llawer a bobl ifanc eraill, roedd yn peri syndod a chodi ymwybyddiaeth ymysg cynghorwyr eraill.’

Roedd y sylwadau eraill yn cynnwys: ‘yn lleol mae llawer o sylw gwael yn y wasg am rai o gynghorwyr y dref o ran: dadleuon a phobl yn ymddiswyddo drwy’r amser. Dydyn nhw ddim yn ymddangos fel lle cadarnhaol i fod ynddyn nhw,’ a

Rwy’n teimlo ei bod yn lefel o ddemocratiaeth nad oes ei hangen ac rwy’n credu y byddai’n well annog pobl i sefydlu grwpiau gweithredu lleol er mwyn sicrhau newid.

Roedd mater diffyg amrywiaeth demograffig hefyd yn codi, gydag un ymatebydd yn dweud ‘Dim ond hen ddynion gwyn yw llawer o aelodau’r cyngor.

Y Trydydd Sector

Thema gyffredin yn y dystiolaeth drwyddi draw oedd y berthynas rhwng gwirfoddolwyr a chynghorau cymuned. 

  • Roedd 75% o grwpiau’r trydydd sector a ymatebodd i’r arolwg yn ymwybodol o gynghorau cymuned
  • Llwyth gwaith oedd y rheswm pwysicaf a roddwyd dros beidio â dymuno sefyll fel cynghorydd. Yn cael ei ddilyn ar y cyd gan gyfrifoldebau gofalu a diffyg tâl.

Mae profiad wedi dangos fy mod yn cael fy ngweld fel rhywun sy’n codi twrw oherwydd fy mod yn siarad am bethau sydd, yn fy marn i, yn deg ac felly fel arfer, yn cael fy niystyru gan glerc y dref, felly ni fyddaf byth yn cael trafod â chynrychiolydd etholedig. Y trydydd sector

Cynghorau cymuned a thref a phrif gynghorau

Ar gyfer prif gynghorau, roeddem am ddeall faint roeddent yn ei ddeall ac yn ymgysylltu â chynghorau cymuned, yn ogystal â’r rhwystrau sy’n atal ymgysylltu. Thema gyffredin drwy gydol y dystiolaeth gynnar oedd canfyddiad y prif gynghorau bod cynghorau cymuned yn ‘gwneud dim’. Y prif faterion oedd rhwystrau a oedd yn atal pobl rhag sefyll fel cynghorwyr a’r diwylliant mewn cynghorau cymuned. Thema arall a gododd dro ar ôl tro oedd y berthynas waith rhwng cynghorau cymuned a phrif gynghorau. 

  • Clywsom fod 30% wedi nodi mai llwyth gwaith oedd y rhwystr mwyaf arwyddocaol i sefyll i gael eu hethol yn gynghorydd yn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf. Dilynwyd hyn gan ofn camdriniaeth (20%) a diffyg diddordeb (16%).
  • Roedd diffyg tâl (13%) a chyfrifoldebau gofalu (10%) hefyd yn amlwg fel ffactorau pwysig o ran penderfyniadau cynghorwyr cynghorau cymuned ynghylch sefyll i gael eu hethol eto. 
  • Y prif faterion i gynghorau cymuned wrth ymgysylltu â phrif gynghorau yn eu hardal oedd: diffyg ymateb prydlon i ymholiadau a phrif gynghorau nad ydynt yn ystyried barn cynghorau cymuned.

Nid yw’n werth sefyll, clwb dynion yw e. Mae’r cyfan yn wleidyddiaeth bleidiol....plaid yn gyntaf, pobl, cymuned, tref yn olaf. Dydyn nhw ddim yn gwrando arna i fel menyw ac aelod annibynnol. Cyngor cymuned

Ar gyfer prif gynghorau, y prif resymau nad oedd ganddynt ddiddordeb mewn sefyll fel cynghorydd cymunedol oedd llwyth gwaith (40%), ofn cam-drin (11%), dim diddordeb (11%) a phatrymau gweithio anghydnaws.

Grwpiau Ffocws Rhanddeiliaid

Roedd yr arolwg galwad am dystiolaeth yn rhoi mewnwelediad i ni a oedd yn sail i drafodaeth ddyfnach gyda rhanddeiliaid drwy grwpiau ffocws wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Isod ceir crynodeb o’r adborth o’r grwpiau ffocws rhanddeiliaid ar gyfer pob grŵp. 

Y cyhoedd

Er eu bod wedi’u hanelu at y cyhoedd yn gyffredinol sef prif fuddiolwyr cynghorau cymuned, roedd y rhan fwyaf a oedd yn bresennol wedi ymwneud yn flaenorol â chynghorau cymuned naill ai fel cynghorydd neu glerc. Er bod nifer o ymatebion cychwynnol yn mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r gwaith hwn, canfu’r grŵp fod lefel isel o ymgysylltu cyffredinol ymysg y cyhoedd.

O ran y rheini nad oeddent wedi ymwneud â chynghorau o’r blaen, roedd y canfyddiadau allweddol yn adlewyrchu tystiolaeth gynharach mewn perthynas â drysu rhwng prif gynghorau a chynghorau cymuned a thref, a materion yn ymwneud â’r cyswllt â chynghorau cymuned. Mynegodd y cyfranogwyr anfodlonrwydd gydag ymatebion gan gynghorau cymuned, neu ymgysylltiad â nhw. 

roedd cynghorwyr wedi bod yn y swydd ers gormod o amser ac yn rhy amharod i newid, aelod o’r cyhoedd

mae’n ymddangos nad yw llawer o gynghorwyr yn deall eu rolau. Mae’n well ganddynt fynd i gyfarfodydd na thrafod â’r trigolion.aelod o’r cyhoedd

Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr ddiddordeb mewn ymwneud mwy â chynghorau cymuned, naill ai fel gwirfoddolwyr neu fel cynghorwyr. Roeddent yn nodi rhesymau fel: aneffeithlonrwydd y cyngor, gelyniaeth, cliciau ac ‘agwedd uchel ael’ cynghorwyr. Roedd nifer o’r cyfranogwyr yn ffafrio gwirfoddoli drwy grwpiau eraill a oedd yn fwy rhagweithiol, ac yn canolbwyntio ar faterion.

Cafwyd ymateb cymysg ynghylch a oedd y broses o sefyll fel ymgeisydd yn gymhleth. Nid oedd yn glir a oedd hyn yn ganfyddiad neu wedi ei seilio ar brofiad.

Mynegodd rhai mynychwyr bryder ynghylch cynghorau cymuned yn defnyddio cyfethol i rwystro pobl o’r tu allan rhag ymuno â’r cyngor. Cafodd eraill eu dychryn gan y costau personol a’r ymrwymiad amser sy’n gysylltiedig â sefyll mewn etholiad. Roedd y rhan fwyaf yn credu ei bod yn anoddach sefyll etholiad fel ymgeisydd annibynnol heb gymorth gan swyddogion plaid wleidyddol.

mae diffyg democrataidd oherwydd nad yw pobl leol yn gweld manteision na thystiolaeth o waith cynghorau cymuned. aelod o’r cyhoedd

Pobl ifanc

Yn y sesiynau hyn, buom yn edrych yn fanylach ar farn pobl ifanc am gynghorau cymuned a sut y gallai cynghorau cymuned wella cyfranogiad pobl ifanc yn eu cynghorau cymuned. 

Yn ogystal â chadarnhau canfyddiadau blaenorol, clywsom:

bod teimlad cyffredinol nad oedd cynghorau cymuned yn effeithio ar fywydau pobl ifanc yn eu cymunedau, oherwydd nid oedd y materion yr oedd cynghorau cymuned yn canolbwyntio arnynt yn berthnasol iddynt nac yn eu cynnwys: 

nid yw cynghorwyr yn deall materion sy’n effeithio ar bobl ifanc. person ifanc

Y pethau oedd yn bwysig i bobl ifanc yr oeddent am i gynghorau cymuned ymgysylltu â nhw oedd:

  • gwella ansawdd bywyd a’r amgylchedd i bobl ifanc
    (e.e. lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol; gwella’r stryd fawr leol; darparu mannau cymunedol glanach a mwy diogel; gwell cysylltiadau trafnidiaeth/trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc dan 16 oed)
  • creu mwy o gyfleoedd a gweithgareddau i bobl ifanc (e.e. digwyddiadau cymdeithasol; darparu mannau a lleoedd i bobl ifanc yn eu harddegau, nad ydynt yn costio arian; prosiectau bioamrywiaeth; cadw llyfrgelloedd, canolfannau a chanolfannau hamdden ar agor)
  • gwella ymgysylltiad a chynrychiolaeth pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau cymunedol (e.e. prosiectau y gallai pobl ifanc gymryd rhan ynddynt)
  • hyrwyddo iechyd, lles a chynhwysiant pobl ifanc

Roedd pobl ifanc am i gynghorau cymuned wrando arnynt, a gweithio gyda nhw. Roeddent yn dweud bod angen i gynghorau cymuned fod yn fwy gweledol a hyrwyddo eu hunain, a dangos ac egluro beth maent yn ei wneud. Roeddent hefyd eisiau iddynt fod yn fwy hygyrch, agored a chroesawgar a gwneud pethau’n fwy hwyliog.

Gwnaeth y bobl ifanc yr awgrymiadau canlynol hefyd:

  • cael cynrychiolwyr ieuenctid neu gyngor ieuenctid/grwpiau ieuenctid/ysgolion y mae cynghorau cymuned yn cysylltu â nhw i gynrychioli pobl ifanc
  • gwella cyfathrebu â thrigolion a defnyddio systemau i gyrraedd pobl ifanc y maent yn eu defnyddio (e.e. TikTok; BeReal; Instagram). Dydy llawer o bobl ifanc ddim eisiau defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cyswllt
  • darparu gwefannau cliriach, gyda phrosiectau wedi’u cyfeirio’n dda a ffyrdd hawdd o gysylltu (e.e. sgwrsio ar y we)
  • cefnogi darpariaeth a chynlluniau ieuenctid a chynnwys pobl ifanc e.e. helpu i wella materion trafnidiaeth, diogelwch a’r amgylchedd

Rhoi cydnabyddiaeth i bobl ifanc am eu cyfraniad.

Cafwyd ymateb cymysg pan ofynnwyd i bobl ifanc am eu diddordeb mewn bod yn rhan o gyfarfodydd cynghorau cymuned. Doedd y rheini a oedd â diddordeb ddim yn gwybod sut i gymryd rhan, â phwy i gysylltu na beth mae’r cynghorau cymuned yn ei wneud. 

Y rheswm pam eu bod eisiau bod yn rhan o gyfarfodydd cynghorau cymuned oedd er mwyn helpu i wella eu cymuned leol a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Roeddent hefyd eisiau gallu dylanwadu ar benderfyniadau. Cyfeiriwyd at gydnabyddiaeth ariannol am eu cyfraniad a’u hamser.  

Hoffwn gael llais yn yr hyn sy’n digwydd yn fy ardal i 

Dywedodd grwpiau eraill nad oedd ganddynt ddiddordeb, eu bod yn meddwl y byddai’n ‘sych’, ‘diflas’, ‘amherthnasol’. 

Mae gen i ddiddordeb ond dydw i ddim yn siŵr a oes gan y lle rydw i’n byw gyngor cymuned, ac mae cymryd rhan mewn gweithgareddau tebyg yn y gorffennol wedi bod yn brofiad negyddol lle roedden ni’n teimlo nad oedden ni’n cael croeso.

Byddai’n golygu ceisio delio â phobl nad ydyn nhw’n fodlon gwrando ar opsiynau eraill, ‘dyma sut rydyn ni’n ei wneud fel arfer, felly fyddwn ni ddim yn ei newid

Dydyn ni ddim yn cael bod ynddyn nhw. pobl ifanc

Y Trydydd Sector

Yn y sesiynau hyn, buom yn edrych yn fanylach ar farn y trydydd sector ar gynghorau cymuned a natur eu cysylltiad â hwy. Edrychwyd hefyd ar y cyfleoedd a'r rhwystrau i weithio yn y dyfodol, a'r hyn y byddai'n ei gymryd i fudiadau'r trydydd sector weithio gyda chynghorau cymuned. 

Yr oedd yn syndod i’r grŵp nad oedd y trydydd sector, yn gyffredinol, yn ystyried cynghorau cymuned yn bartneriaid gwerthfawr o ran cefnogi pobl leol.

Dyma brif ganfyddiadau’r rhai a oedd yn bresennol yn y grŵp ffocws:

  • Roedd llawer o’u hymwneud â chynghorau cymuned yn seiliedig ar geisiadau am gyllid, ceisiadau a rhywfaint o weithio mewn partneriaeth. 
  • Roedd eu profiad o weithio gyda chynghorau cymuned yn creu heriau a rhwystredigaethau e.e. ansawdd gwael ceisiadau cynghorau cymuned am gyllid, diffyg tystiolaeth o ymgysylltu â’r gymuned a chydweithio gan gynghorau cymuned. Nid oedd unrhyw eglurder ynghylch y meysydd o wahaniaeth neu ddiddordeb cyffredin rhwng cynghorau cymuned a mudiadau trydydd sector. Yn sicr, nid oedd cysondeb rhwng meysydd neu drefniadaeth y rhain. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn debygol o arwain at gydweithio llwyddiannus. 
  • Teimlai’r rhai a oedd yn bresennol mai gwella’r berthynas waith rhwng y 2 sector oedd y prif gyfle a fyddai’n arwain at:
    • gweithio’n well ac yn fwy cydweithredol
    • mwy o dryloywder
    • mwy o gefnogaeth a hyfforddiant cydgysylltiedig
    • cynnwys y gymuned ehangach yn well
    • dysgu o arferion da a modelau eraill o gynllunio a arweinir gan y gymuned
  • Tynnodd y rhai a oedd yn bresennol sylw at rwystrau rhag gweithio yn y dyfodol, a oedd yn cynnwys:
    • cyfathrebu ac ymgysylltu gwael
    • diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o rolau a manteision cynghorau cymuned
    • diffyg adnoddau a chapasiti ymddangosiadol nid yw pob cyngor cymuned yn cydweithio i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau
    • gwrthwynebiad i weithio’n wahanol gan rai cynghorau cymuned o ran sut maent yn ymgysylltu â phobl, hyblygrwydd cyfarfod a biwrocratiaeth. Mae'r gwahaniaethau hyn yn achosi rhwystredigaethau wrth ystyried sut i gydweithio
    • ofn colli rheolaeth neu rym. Roedd hyn yn berthnasol i gynghorau cymuned a chyrff trydydd sector
    • diffyg sgiliau a gwybodaeth, gan gynghorau cymuned i gwblhau ceisiadau am gyllid
    • roedd y broses etholiadol a’r system etholiadol yn datgymell o ran sefyll fel cynghorwyr
    • ofn cam-drin drwy gyfryngau cymdeithasol
    • materion yn ymwneud â llwyth gwaith a chydweithio
    • cystadleuaeth am yr un cyllid
    • gwahaniaethau a chanfyddiadau a allai greu rhaniadau neu ddrwgdybiaeth. Roedd hyn yn cynnwys sut yr oedd cynghorau cymuned a mudiadau gwirfoddol yn gweld eu rolau yn y gymuned, gyda safbwyntiau gwahanol ar bwrpas pob un
  • Amodau ar gyfer gweithio yn y dyfodol. Roedd cyrff y trydydd sector o’r farn y byddai angen cael y canlynol er mwyn cael perthynas fwy cynhyrchiol â’r sector cynghorau cymuned:
    • datganiad clir gan Un Llais Cymru am bwrpas cynghorau cymuned a’r disgwyliadau o ran gweithio gyda’r trydydd sector
    • mwy o brosiectau a chyfathrebu diddorol ac atyniadol
    • mwy o astudiaethau achos ac enghreifftiau o weithio ar y cyd (cynghorau cymuned; trydydd sector; awdurdodau unedol)
    • mwy o amrywiaeth a chynrychiolaeth mewn cynghorau cymuned a dulliau mwy cyfranogol a chydgynghorol (e.e. fforymau cymunedol)
    • cyfranogi at a datblygu cynlluniau llesiant ar y cyd
    • mwy o gydweithio â chymunedau lleol i greu mannau cymunedol sy’n gwella lles unigolion a chymunedau
    • cyllidebu cyfranogol sy’n cynnwys y gymuned leol, wrth wneud penderfyniadau cyllido 

Cynghorau cymuned a thref

Roedd y sesiynau hyn yn edrych ar farn cynghorwyr a swyddogion cynghorau cymuned ar draws 4 thema:

  • etholiadau a hyrwyddo’r sector
  • eu profiadau o gam-drin
  • llwyth gwaith ac amser
  • a oeddent yn teimlo bod y rôl yn un werth chweil

Dywedodd y cyfranwyr wrthym

Dylanwadwyd ar y penderfyniad ynghylch a ddylid sefyll mewn etholiad gan:

  • diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl o gynghorau cymuned a’r gwahaniaethau rhwng cynghorau cymuned a phrif gynghorau
  • nid yw cynghorau cymuned yn weladwy i’w cymunedau ac nid ydynt yn gweld eu bod yn gwneud fawr ddim drostynt
  • cynghorau cymuned ddim yn estyn allan at amrywiaeth eang o drigolion yn eu cymunedau; 
  • roedd angen cymell neu wobrwyo pobl ifanc i gymryd rhan
  • diwylliant cynghorau cymuned, y teimlid ei fod yn hen ffasiwn ac angen ei newid. Roedd y ffordd yr oedd cynghorau’n gweithredu yn hanesyddol yn golygu dadlau diflas a diffyg cyflawni, a strwythurau biwrocrataidd o hen ddeddfwriaeth. Holodd yr aelodau a oedd y ddeddfwriaeth yn addas i’r diben
  • nid oedd y tâl yn cymharu â chynghorwyr prif gynghorau
  • diffyg sgiliau a hyder i fod yn gynghorydd
  • canfyddiad o ddiffyg pwerau
  • negyddoldeb a gwenwyndra am gynghorau a chynghorwyr
  • anhawster i ymgeiswyr annibynnol heb gefnogaeth plaid

Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn teimlo mai’r adnoddau a fyddai’n cael yr effaith fwyaf oedd: 

  • ymgyrch genedlaethol ar y cyfryngau  er enghraifft, straeon newyddion da o Wobrau Un Llais Cymru, hyrwyddo etholiadau ac esboniadau am y Senedd, prif gynghorau a chynghorau cymuned a sut maen nhw’n gweithio 
  • cefnogaeth i bobl annibynnol heb unrhyw gysylltiad â phlaid, i gymryd rhan mewn democratiaeth; 
  • cefnogaeth ac anogaeth i gynghorwyr uchelgeisiol a chefnogaeth i gynghorwyr newydd a oedd eisiau bwrw ymlaen â mentrau newydd ar gyfer eu cymunedau
  • trefniadau absenoldeb arbennig i weithwyr i’w helpu i weithredu fel cynghorwyr a rheoli eu hamser; 
  • cynghorau cymuned yn cael eu gwerthfawrogi gan awdurdodau lleol i’w galluogi i gynrychioli eu cymunedau ynghylch pryderon/materion 

O ran cam-drin, roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr y grŵp ffocws wedi gweld aelodau eraill o’r cyngor neu’r cyhoedd yn cam-drin cynghorwyr, ond nid oeddent wedi cael eu targedu eu hunain. Nodwyd sut yr oedd negyddiaeth yn effeithio ar gynghorwyr a staff, gan arwain weithiau at ymddiswyddiadau. 

Yn aml, cyfryngau cymdeithasol oedd y brif ffynhonnell o gam-drin ac nid oedd gan gynghorau’r adnoddau i helpu cynghorwyr i reoli cam-drin drwy gyfryngau cymdeithasol. O ran cam-drin gan gynghorwyr, roedd y grwpiau ffocws yn credu’n gyffredinol nad oedd penderfyniadau lleol yn effeithiol. Roeddent hefyd yn teimlo bod cam-drin rhwng cynghorwyr yn fwy tebygol gan fod llawer o gynghorwyr wedi dewis peidio â mynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad. Roedd safbwyntiau gwahanol o fewn y grwpiau ar yr hyn a oedd yn cynrychioli dadl briodol o’i gymharu ag iaith amharchus. Ar adegau, arweiniodd hyn at gwynion yn cael eu gwneud i’r Ombwdsmon yn hytrach na cheisio datrys yr hyn yr oedd rhai’n ei ystyried yn anghytundebau lleol. Teimlai’r grwpiau ffocws hefyd nad oedd gan yr Ombwdsmon bob amser y capasiti na’r pwerau i ymyrryd yn yr achosion hyn. 

Fodd bynnag, dylid nodi mai rôl yr Ombwdsmon yw ymchwilio i achosion posibl o dorri’r cod, ac os oes achos i’w ateb, ar sail budd y cyhoedd, yna bydd yn cyfeirio’r gŵyn at y Pwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru. 

Rhannodd cynrychiolwyr enghreifftiau gyda ni o’u llwyth gwaith a sut y treuliwyd eu hamser. Teimlent y bu cynnydd yn nifer y cyfarfodydd, y pwyllgorau a’r gweithgorau gyda chynghorau yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau. Treuliwyd llawer o amser yng nghyfarfodydd y cyngor, yn trefnu ac yn mynychu digwyddiadau, yn rhoi prosiectau ar waith ac yn ysgrifennu adroddiadau. Fodd bynnag, roedd y cyfranogwyr yn gyffredinol yn ystyried bod llwythi gwaith yn hawdd eu rheoli ac yn dibynnu llawer ar yr hyn yr oedd cynghorwyr yn ei wneud. 

Nodwyd y sylwadau canlynol hefyd:

  • Nid oedd pob cynghorydd yn gweithio i fwrw ymlaen â phrosiectau ar gyfer cymunedau, ac roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo bod y cynghorwyr hynny eisiau’r statws yn unig.
  • I lawer o gynghorwyr, cafwyd boddhad o gyflawni prosiectau a digwyddiadau ar gyfer y gymuned yn hytrach na delio â busnes y cyngor. 
  • Y meysydd a oedd yn atal cynghorwyr rhag sefyll yn y dyfodol oedd: tâl cyfyngedig; diffyg effeithlonrwydd a chydweithredu’r cyngor; y diwylliant y fiwrocratiaeth ynghylch sut roedd y cynghorau’n gweithredu; diffyg canlyniadau difrifol pan oedd cwynion yn cael eu gwneud am achos tybiedig o dorri’r Cod Ymddygiad, a arweiniai’n aml at barhad ymddygiad gwael gan gynghorwyr; distawrwydd/apathi cynghorwyr eraill. 
  • Cafwyd ymatebion cymysg ynghylch a oedd y rôl yn un werth chweil roedd rhai’n teimlo eu bod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, roedd eraill yn teimlo’n rhwystredig oherwydd diffyg uchelgais y cyngor, cam-drin, biwrocratiaeth a chynnydd araf. 

Roedd y gyfradd ymateb gan y grwpiau ffocws yn gymharol fach. Roedd hyn er gwaethaf ceisiadau cychwynnol gan bron i 200 o ymatebwyr i’r arolwg galwad am dystiolaeth i gymryd rhan yn y trafodaethau dilynol. Dim ond tua 30 a ymatebodd i wahoddiadau pellach. 

Drwy gydol ein sesiynau ymchwil a thystiolaeth, fe wnaethom hefyd nodi bod corff sylweddol o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar sail materion yn hytrach na seiliedig ar le. O ganlyniad, gellir ystyried bod mudiadau cymunedol yn fwy hyblyg, yn fwy gweithredol, ac yn llai biwrocrataidd na chynghorau cymuned. Mae’r rhain yn gyfleoedd a gollwyd, nid yn unig o ran cydweithio, ond hefyd llif o gynghorwyr cymuned a thref yn y dyfodol sydd â phrofiad o ddarparu ar gyfer pobl leol.

Roedd yr ymchwil i gynghorau plwyf a gynhaliwyd gan Brifysgol Southampton o ddiddordeb arbennig i ni. Nodwyd gennym nad oedd perswâd a gwybodaeth wedi gweithio, ac y gallai fod angen strategaethau mwy radical. Fe wnaethom wahodd yr Athro Ryan i siarad â ni am yr ymchwil hon a pha ddulliau a allai fod yn fwy effeithiol. Awgrymwyd y gallai fod angen dulliau mwy gorfodol, er enghraifft, digolledu, cyflwyno cwotâu a phwerau gwell, er mwyn gweld gwelliannau. 

Pennod 5: casgliadau

Nod y grŵp oedd datblygu opsiynau a fyddai’n helpu i wella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned, a chynyddu nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol ar gynghorau cymuned.

Mae’n amlwg fod materion hanesyddol yn parhau:

  • Diffyg ymwybyddiaeth ar draws sectorau a’r cyhoedd o bwrpas cynghorau cymuned a’r hyn y maent yn ei wneud i’w cymunedau. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer pobl ifanc, a oedd hefyd yn ddryslyd ynghylch llywodraeth leol a chanolog. 
  • Mae cynghorau cymuned yn aml yn cael eu hystyried yn amherthnasol ac nid yn ddeinamig. 
  • Yn aml, ystyrir nad yw cynghorau cymuned yn adlewyrchu amrywiaeth eu cymunedau.
  • Nid yw pobl ifanc yn teimlo bod ganddynt lais yn eu cynghorau cymuned, naill ai fel cynrychiolwyr ieuenctid neu fel cyfranogwyr mewn prosiectau a gweithgareddau sy’n digwydd yn eu cymunedau.
  • Mae barn am a phrofiadau o ddiwylliant o fewn y sector yn awgrymu nad yw llawer o gynghorau yn croesawu newid. Rydyn ni wedi clywed am gynghorau sy’n gweithredu fel clic o unigolion, sy’n ei gwneud hi’n anodd i newydd-ddyfodiaid gymryd rhan. Mae hyn, ynghyd â phryderon cynghorau ynglŷn â chostau etholiadau, yn arwain at ystyried cyfethol weithiau yn ffordd o arbed arian ac nid yw cynnal isetholiad yn cael ei annog. Ar ben hynny, mae cyfethol yn tueddu i ffafrio pobl o fewn y rhwydweithiau presennol, sy'n arwain at ddiffyg amrywiaeth.
  • Mae dyheadau cynghorau yn amrywio ar draws y sector. Roedd rhai cynghorau’n adweithiol, yn gweithredu i gynrychioli eu cymunedau ond heb ymgymryd â phrosiectau eraill. Roedd cynghorau eraill, a oedd yn fwy rhagweithiol, yn darparu asedau a gwasanaethau ac yn rheoli prosiectau drwy wahanol weithgorau ac is-bwyllgorau. Roedd y prosiectau’n amrywio o drefnu a mynychu digwyddiadau i gynnal ac adnewyddu adeiladau.
  • Mae’r ffordd y mae cynghorau cymuned yn gweithio, fformatau cyfarfodydd, cofnodion a thrafodaethau ‘diflas’ yn datgymell, ac yn aml byddai’n well gan unigolion wirfoddoli, heb y lefel o fiwrocratiaeth, gyda mwy o hyblygrwydd a ffocws ar eu meysydd diddordeb.
  • Materion yn ymwneud ag ymddygiad cynghorwyr a chlercod o fewn cynghorau. Mae hyn yn cynnwys diffyg eglurder ynghylch pryd y byddai’n briodol defnyddio gweithdrefnau datrys lleol, oedi ymddangosiadol wrth i’r Ombwdsmon ddelio â chwynion a’r canfyddiad o ddiffyg sancsiynau a cham-drin cynghorwyr a staff a effeithiodd ar ddenu a chadw cynghorwyr a staff cynghorau. Roedd y materion hyn yn niweidiol i enw da.
  • Mae nifer yr archwiliadau ac adroddiadau amodol er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd ynghylch rheolaeth a llywodraethiant ariannol gwael, sydd mewn rhai achosion yn ymwneud â sgiliau a galluoedd cynghorwyr a staff, ac mewn achosion eraill, materion mwy difrifol, fel twyll, yn niweidiol i enw da’r sector. 

Wrth gasglu tystiolaeth, gwelwyd bod rheolaeth a llywodraethiant ariannol yn amrywio’n fawr ar draws y sector. Mae nifer yr archwiliadau amodol yn ystyfnig o uchel. Mae hyn yn effeithio ar lwyth gwaith Archwilio Cymru, sydd angen mwy o amser i fynd ar drywydd ac ymchwilio i gyfrifon archwiliedig. Ar ben hynny, mae materion ymddygiad a chod ymddygiad hefyd yn effeithio ar reoleiddwyr y fframwaith moesegol. Mae swyddogion monitro’n treulio llawer o amser yn rhoi sylw i faterion ynghylch cynghorau cymuned. Mae pob un o’r rheoleiddwyr hyn hefyd yn gweithredu fel rheoleiddwyr ar gyfer gweddill y sector llywodraeth leol ac felly mae’r materion hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system bresennol.  

Mae diffyg cysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau. Gall natur fiwrocrataidd cyfarfodydd y cyngor, gyda gweithdrefnau ffurfiol ac anhyblyg, fod yn frawychus ac yn annymunol i’w cymuned leol. Gall hefyd olygu bod cynghorau cymuned weithiau’n araf yn ymateb i faterion y gallai dinasyddion fod wedi’u codi, gan arwain at rwystredigaeth ac ymddieithrio. 

Mae llawer o newidiadau cymdeithasol wedi bod ers cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar draws pob sbectrwm bywyd, newidiadau i ddiwylliant, technoleg a democratiaeth, gan gynnwys ad-drefnu llywodraeth leol. Nid yw cynghorau cymuned yn defnyddio offer digidol modern yn gyson i rannu dogfennau, cynnal cyfarfodydd aml-leoliad nac annog cyfranogiad. Mae cyfarfodydd y Cyngor eu hunain yn aml yn cael eu cynnal ar adegau sy’n cyfyngu ar gyfranogiad y rhai sydd ag ymrwymiadau teuluol neu gyfrifoldebau gofalu.  

Pennod 6: opsiynau ar gyfer gweithredu

Gofynnwyd i’r grŵp gorchwyl a gorffen ddarparu opsiynau ar gyfer camau gweithredu tymor byr a thymor hir i wella iechyd democrataidd y sector. Ystyriodd y grŵp ystod eang o opsiynau posibl. Wrth ddatblygu’r opsiynau sy’n dilyn, y nod yn y pen draw oedd sicrhau hyder mewn cynghorau cymuned a thref ledled Cymru. Mae’r grŵp, yn ogystal â’r cymunedau, am weld cynghorau effeithiol, medrus, croesawgar, agored, bywiog ac amrywiol yn cyflawni ar gyfer eu cymunedau. 

Rhagor o ymchwil

Roedd materion penodol yn galw am ragor o ymchwil yr oedd y grŵp yn teimlo bod angen i’r rheini sydd â’r arbenigedd perthnasol ei archwilio. Ni waeth beth fydd y dull gweithredu ehangach ar gyfer cynghorau cymuned yn y dyfodol, mae’r grŵp o’r farn y bydd yr ymchwil isod yn llywio’n well sut y bydd llywodraethu cymunedol yn cael ei gefnogi yn y dyfodol.

  • Dylai’r sector cynghorau cymuned a CLlLC sefydlu prosiect â chyfyngiad amser i edrych ar fodelau ar gyfer darparu clercio i ddarparu cadernid llywodraethiant a sicrwydd. Gallai hyn fod drwy glercio a ddarperir gan brif gynghorau a/neu archwiliadau mewnol a ddarperir drwy brif gynghorau.
  • Ar gyfer cymunedau presennol, dylai adolygiad o dystiolaeth i hysbysu polisïau pennu maint gael ei gynnal gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Byddai hyn yn cyfrannu at ddull gweithredu sy’n gyson yn genedlaethol ar gyfer adolygiadau cymunedol sy’n cael eu harwain gan y prif gynghorau. 
  • Dylai adolygiad, dan arweiniad cadeiryddion pwyllgorau safonau a Rhwydwaith y Pwyllgorau Safonau, gan weithio gydag Un Llais Cymru, edrych ar ba mor dda y mae’r fframwaith moesegol a’r broses cod ymddygiad wedi cael eu rhoi ar waith. 
  • Ystyried gydag Archwilio Cymru a all chwarae rhan fwy sylweddol a chyfrannu at ddatblygu meini prawf, gyda’r nod o fynd i’r afael â materion amrywiaeth a thanberfformiad ymddangosiadol, fel rhan o atgyfnerthu’r broses archwilio. Os nad yw’n ymarferol fel rhan o'r archwiliad rheolaidd, edrych ymhellach ar hyn fel astudiaeth genedlaethol.

Dyfodol tymor hir y sector cynghorau cymuned

Yn realistig, mae 2 lwybr i sicrhau llywodraethu cymunedol iach a chynrychioladol yng Nghymru. Y cyntaf yw adfer iechyd democrataidd y sector cynghorau cymuned a thref fel y mae ar hyn o bryd. Yr ail yw moderneiddio llywodraethu cymunedol yn fwy radical. 

Rydym wedi dadansoddi’r rhain ymhellach ac wedi darparu rhagolygon o’r costau a’r effaith. Mae rhagor o fanylion ar gael yn atodiad x. 

Llwybr 1: ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned

Mae’r llwybr hwn yn rhagdybio, os gwneir ymdrech i gynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad rhwng cymunedau a’u cynghorau, y bydd cynrychiolaeth yn cynyddu, a bydd iechyd democrataidd yn gwella. Mae opsiynau hefyd o fewn y llwybr hwn i wella trefn lywodraethu cynghorau, gan wella hyder cymunedau a threfi yn eu cynghorau, gwella ymgysylltiad ac arwain at ddemocratiaethau iachach.

Rydym wedi categoreiddio’r opsiynau hyn gan eu bod yn cwmpasu ystod eang o themâu.

Thema 1: gwella canfyddiad y cyhoedd o gynghorau cymuned

Fel y nodwyd yn ein casgliadau, mae ymwybyddiaeth o waith cynghorau cymuned yn amlwg yn isel. Mae’r opsiynau i godi ymwybyddiaeth ar draws cymunedau – gyda chynghorau a hebddynt – wedi’u crynhoi isod:

  • Hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi cynghorwyr cymuned i estyn allan at ysgolion, grwpiau ieuenctid a chymunedau i feithrin cysylltiadau a dod o hyd i gyfleoedd i gyflawni gyda’i gilydd.
  • Cyd-ddatblygu (gydag athrawon) adnoddau cwricwlwm i gefnogi dysgwyr i ddeall strwythur a dibenion llywodraeth leol e.e. The Democracy Box. Ymgysylltu â cholegau a phrifysgolion i ymgysylltu â myfyrwyr a’u cynnwys mewn democratiaeth leol. 
  • Darparu adnoddau i helpu cymunedau sydd heb gynghorau i ddeall manteision cynghorau, ac i annog creu rhai newydd.
  • Rhannu arferion da ar draws cynghorau cymuned a chymunedau i godi proffil cadarnhaol y cynghorau ac ysbrydoli gweithgareddau lleol cadarnhaol. 

Yn gyffredinol, rydym yn asesu y byddai’r gweithgareddau hyn yn costio hyd at £75,000 ac yn cael effaith isel i ganolig yn y tymor hir.

Thema 2: cynhwysiant ac amrywiaeth

Nid oes gennym wybodaeth ddemograffig gywir am gynghorwyr cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn wendid. Fodd bynnag, y canfyddiad o'r dystiolaeth yw nad yw cynghorau’n ymwneud â phobl o gefndiroedd amrywiol nac yn apelio atynt. Mae angen camau i ddarparu llwybrau a chymorth gweithredol i bobl sydd â phrofiadau gwahanol, er enghraifft pobl â nodweddion gwarchodedig neu o amrywiaeth o grwpiau economaidd-gymdeithasol. 

Mae’r opsiynau i gynyddu’r amrywiaeth bosibl o gynghorwyr ac ymgysylltu yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Creu proses ddibynadwy ar gyfer casglu a rhannu data ar ddemograffeg cymunedau a chynghorau cymuned, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl grwpiau a dangynrychiolir. 
  • Datblygu canllawiau anstatudol i annog a chymell cynghorau cymuned i neilltuo seddi ychwanegol ar gyfer grwpiau cynrychioladol, a chyfethol yn briodol.
  • Cydbwyso cynrychiolaeth drwy gyfethol, ac adrodd ar hyn bob 2 flynedd drwy’r adroddiad blynyddol. 
  • Ystyried cael seddi cadw ychwanegol ar gyfer pobl ifanc a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol ar gynghorau cymuned. Byddai effaith hyn yn cael ei hadrodd yn adroddiadau blynyddol cynghorau cymuned.
  • Ystyried taliadau cynghorwyr cymuned a lwfansau mynychu rhai nad ydynt yn gynghorwyr ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, drwy adolygiad a gynhelir gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. 
  • Cefnogi gwahanol ffyrdd o annog grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, e.e. drwy ymgysylltu ag ElectHer, WEN Cymru a sefydliadau tebyg, drwy feysydd gwaith eraill yn Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu democrataidd. Mae hyn yn cynnwys Amrywiaeth mewn Democratiaeth a'r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.
  • Ystyried trefniadau absenoldeb arbennig i weithwyr i’w helpu i weithredu fel cynghorwyr a rheoli eu hamser.

Yn gyffredinol, rydym yn asesu y byddai’r gweithgareddau hyn yn costio hyd at £75,000 ac yn cael effaith isel i ganolig yn y tymor hir. Nid yw’r costau hyn yn cynnwys unrhyw ganlyniadau yn y dyfodol sy’n deillio o edrych ar dâl, seddi cadw a lwfansau mynychu rhai nad ydynt yn gynghorwyr.

Thema 3: sgiliau

Daethom i’r casgliad y dylid parhau i gefnogi cynghorwyr i gynyddu eu sgiliau i ehangu potensial cynghorau unigol. Ar ben hynny, gan fod llywodraethiant cynghorau’n amrywio, mae’r grŵp yn cynnig opsiynau i ddarparu cymorth mwy cyson ar gyfer llywodraethu da a bod camau’n cael eu cymryd os bydd methiant dro ar ôl tro. Mae’r opsiynau’n cynnwys:

  • cefnogi dyheadau cynghorwyr drwy gyfleoedd hyfforddi a mentora/cysgodi, e.e. dysgu gan gynghorau dylanwadol eraill a haenau eraill o lywodraeth
  • mae cynghorau cymuned yn dod yn gynigion mwy deniadol pan welir eu bod yn cael eu rhedeg yn dda. Dylai’r sector a CLlLC edrych ar fodelau ar gyfer darparu clercio sy’n darparu cadernid o ran llywodraethiant a sicrwydd. Gallai hyn fod drwy glercio a ddarperir gan brif gynghorau a/neu archwiliadau mewnol a ddarperir drwy brif gynghorau
  • mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried dull cymesur o fynd i’r afael â phryderon ynghylch methiannau llywodraethiant dro ar ôl tro mewn cynghorau cymuned. Byddai angen datblygu hyn gyda chyfraniad cymunedau, cynghorau cymuned a phrif gynghorau y bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan newid o’r fath

Yn gyffredinol, rydym yn asesu y byddai’r gweithgareddau hyn yn costio hyd at £35,000 ac yn cael ganolig yn y tymor hir. Nid yw’r costau hyn yn cynnwys unrhyw ganlyniadau yn y dyfodol sy’n deillio o edrych ar wahanol fodelau clercio a phrosesau ymyrryd Llywodraeth Cymru. 

Thema 4: llwybrau i gynghorwyr y dyfodol

Yn gyffredinol, disgwylir i gynghorau cymuned, fel haenau eraill o lywodraeth, dalu am gost eu hetholiadau eu hunain. Dyma’r pris y mae cymdeithas yn ei dalu i sicrhau bod barn ei phobl yn cael ei chynrychioli mewn llywodraeth. y grŵp yn teimlo bod hwn yn bris rhesymol er mwyn sicrhau democratiaeth.

Trafododd y grŵp ai prif gynghorau neu Lywodraeth Cymru ddylai dalu am gost etholiadau ond, ar y cyfan, y teimlad oedd ei bod yn annheg disgwyl i lywodraethau eraill dalu am gostau’r sector cynghorau cymuned. Fodd bynnag, cytunwyd bod angen mwy o eglurder, tryloywder a safoni ar gost etholiadau.

Mae’r opsiynau i gynyddu’r gronfa bosibl o gynghorwyr yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Dylai’r Bwrdd Rheoli Etholiadol weithio gyda phrif gynghorau a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu fframwaith ar gyfer eglurder, tryloywder a safoni costau etholiadau cynghorau cymuned, gyda’r bwriad o sicrhau cysondeb. 
  • Dylai cynghorau cymuned ystyried sefydlu cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi, drwy gynnydd bach mewn praeseptau, er mwyn gallu cynnal etholiadau. Ni ddylai cost fod yn anghymhelliad i gynnal etholiadau a dylai cynghorau cymuned, fel arweinwyr cymunedol lleol, fod yn annog eu cymunedau i arfer eu llais democrataidd.
  • Yn aml, mae gan gynghorau cymuned is-bwyllgorau a gweithgorau i ddarparu gweithgareddau penodol, a byddai’r rhain yn elwa ar gael cynrychiolwyr nad ydynt yn gynghorwyr. Dylid cynyddu’r gwaith o hyrwyddo’r cyfleoedd hyn yn genedlaethol (ar gyfer cynghorau a chymunedau) yn enwedig yn y flwyddyn cyn etholiadau. 
  • Dylid datgymell cyfethol fel opsiwn tymor hir. Ni ddylai cynghorwyr allu cael eu cyfethol dros ddau dymor etholiadol, h.y. os yw cynghorydd yn cael ei gyfethol am dymor llawn neu ran o dymor, ni ddylai gael ei gyfethol o gwbl yn y tymor etholiadol cyffredin nesaf (mewn unrhyw gyngor cymuned hyd yn oed pan fydd sedd yn digwydd dod yn wag)  ond gall sefyll i gael ei ethol.
  • Fel rhan o’r adolygiad o daliadau o dan Thema 2, mae’r grŵp yn awgrymu ei fod yn ystyried cyfraniad cynghorwyr cymuned i’w cymuned.
  • Dylai’r gwaith o ddatblygu Polisi Cymunedau Llywodraeth Cymru roi sylw penodol i sut y gall mudiadau cymunedol weithio gyda chynghorau cymuned a thref. Mae gweithio ar y cyd yn rhoi synergedd amlwg ac mae’r corff o arweinwyr medrus a galluog mewn mudiadau cymunedol yn darparu llif amlwg o gynghorwyr cymunedol i’r dyfodol.
  • Dylid annog y Bwrdd Rheoli Etholiadol newydd i gefnogi gwybodaeth a chyngor i ymgeiswyr drwy ei lwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr ar gyfer etholiadau 2026. Gyda gofyniad i gynghorau cymuned a phrif gynghorau helpu i hyrwyddo’r llwyfan, ac i Un Llais Cymru gael ei gynnwys yn y gwaith o ddatblygu porth democratiaeth yn y dyfodol.

Yn gyffredinol, rydym yn asesu y byddai’r gweithgareddau hyn yn costio tua £500,000 i £1 miliwn wedi’i rannu ar draws pob cymuned sydd â chyngor cymuned yng Nghymru. Effaith ganolig fyddai i’r opsiynau hyn.

Thema 5: newid diwylliannol

Yr oeddem yn bryderus ynghylch nifer y storïau am ymddygiad gwael mewn cynghorau, a dim ond cyfran fach ohonynt a’i gwnaeth cyn belled â chwynion ffurfiol i bwyllgorau safonau’r prif gynghorau neu’r Ombwdsmon. Fe wnaethom nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi cyflwyno gofynion ychwanegol yn y maes hwn, ond ni dderbyniwyd tystiolaeth o weithgarwch neu effaith systemig. 

Ar bwynt ehangach, cyfeiriwyd at ddiben cynghorau cymuned a thref yn rheolaidd. Teimlai rhai o’r grŵp fod cynghorau cymuned i bob pwrpas yn 2 sector:

  • Y cyntaf oedd cynghorau cymuned a oedd yn gweithredu fel llais y gymuned ac a oedd yn darparu nifer fach o weithgareddau ond yn cynrychioli ac yn cefnogi pobl ar lefel hyperleol. Yn gyffredinol, cynghorau bach oedd y rhain gydag incwm praesept bach.
  • Yr ail oedd cynghorau â’r gallu a’r incwm i ddarparu mwy i’w cymunedau. 

Nododd y grŵp waith yr Athro Matt Ryan o Brifysgol Southampton a oedd yn nodi’r ystod maint gorau ar gyfer cynghorau plwyf (yn ogystal â’i Bapur Gwaith ei hun ar wella iechyd democrataidd cynghorau plwyf).

Felly, mae’r grŵp yn awgrymu’r opsiynau hyn i fynd i’r afael â’r heriau diwylliannol craidd i gynghorau cymuned a thref presennol: 

  • Dylai adolygiad, dan arweiniad Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau a Rhwydwaith y Pwyllgorau Safonau, gan weithio gydag Un Llais Cymru, edrych ar ba mor dda y mae’r fframwaith moesegol a’r broses cod ymddygiad wedi cael eu rhoi ar waith.
  • Ystyried gydag Archwilio Cymru a all chwarae rhan fwy sylweddol a chyfrannu at ddatblygu meini prawf, gyda’r nod o fynd i’r afael â materion amrywiaeth a thanberfformiad ymddangosiadol, fel rhan o’r gwaith o atgyfnerthu’r broses archwilio boed hynny fel rhan o archwiliadau rheolaidd neu fel astudiaeth genedlaethol.
  • Ar gyfer cymunedau presennol, dylid cynnal adolygiad o dystiolaeth i hysbysu polisïau pennu maint. Byddai hyn yn cyfrannu at ddull gweithredu sy’n gyson yn genedlaethol ar gyfer adolygiadau cymunedol sy’n cael eu harwain gan y prif gynghorau. Byddai corff megis Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru mewn sefyllfa dda i gynnal adolygiad o’r fath.
  • Fel rhan o’r adolygiad hwn, dylai CLlLC ac Un Llais Cymru gytuno ar ddiffiniad cyson o ddiben(ion) cynghorau cymuned a’u perthynas â phrif gynghorau. Mae hyn yn rhoi eglurder i bob partner gan gynnwys cymunedau a mudiadau cymunedol. 

Yn gyffredinol, rydym yn asesu y byddai’r gweithgareddau hyn yn costio hyd at £25,000 ac yn cael effaith isel i ganolig yn y tymor hir.

Llwybr 2: moderneiddio

I ddechrau, aethom i’r afael â’r adolygiad hwn gyda’r rhagdybiaeth mai’r model llywodraeth leol presennol sy’n gwasanaethu iechyd democrataidd orau. Yn ystod yr ymarfer hwn, heriodd rhai aelodau’r rhagdybiaeth honno. 

Gan nodi’r newidiadau cyfansoddiadol yng Nghymru ers 1972, a’r heriau ehangach o ran y nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau ac ymgysylltiad a llythrennedd democrataidd, holwyd a allem wneud pethau’n wahanol. Gallai hyn gynnwys ystyried gwahanol strwythurau yn ogystal â gwahanol fathau o ddemocratiaeth. Byddai hefyd yn adolygiad mwy sylfaenol o bwrpas, gan ddechrau o’r egwyddorion sylfaenol, yn hytrach na cheisio egluro’r dibenion presennol.

Ni ofynnwyd yn benodol i’r grŵp nodi modelau eraill, ac nid oeddent yn teimlo eu bod yn gymwys i wneud hynny. Serch hynny, teimlai’r rhan fwyaf o’r aelodau fod angen gofyn y cwestiwn sylfaenol hwn. Roedd corff sylweddol o dystiolaeth yn dangos nad yw’r system yn cael ei chymell i newid ac nad yw’r pwerau a’r dyletswyddau presennol yn cael yr effaith a ddymunir. Yn wir, gellid dweud na chynlluniwyd y model i fodloni’r gofynion presennol ar yr haen fwyaf lleol o lywodraeth. 

Dim ond un opsiwn a awgrymir ar gyfer y llwybr hwn. Mae’r llwybr hwn yn rhagdybio y gallai’r model presennol o lywodraethu cymunedol fod yn hen ffasiwn. Dylai grŵp Gweinidogol penodol gael y dasg o edrych ar hyn. Dylid profi a mireinio’r cylch gwaith gydag Un Llais Cymru, CLlLC, CGGC, a dylai Cadeirydd y grŵp hwn fod yn annibynnol. Daeth y grŵp i’r casgliad y dylai’r cylch gwaith gynnwys:

  • Pwrpas strwythurau llywodraethu cymunedol, gan ddefnyddio arferion rhyngwladol a’u cymhwyso i gyd-destun Cymru.
  • Y berthynas rhwng y rhain a’r trafodaethau ehangach, gyda gwaith parhaus yn dilyn y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
  • Swyddogaethau, pwerau a dyletswyddau strwythurau o'r fath.
  • Y berthynas â phrif gynghorau a'r trydydd sector (gan gynnwys grwpiau gwirfoddol a chymunedol) e.e. dealltwriaeth glir o bwy sy'n gwneud beth.
  • Y berthynas rhwng y trigolion a'r strwythurau llywodraethu cymunedol.
  • Adnoddau (cyllid a staff) y strwythurau hyn.
  • Modelau gwahanol sy'n galluogi trigolion i gymryd rhan mewn penderfyniadau cymunedol, gyda phroses glir ar gyfer adlewyrchu amrywiaeth eu cymunedau. 
  • Dealltwriaeth glir o feini prawf llwyddiant a meini prawf methiant (yn ogystal â phroses ar gyfer ymyrryd os bodlonir y meini prawf hynny). 
  • Sicrhau cysondeb â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a datblygu Polisi Cymunedau wedi'i ddiweddaru.

Yn gyffredinol, rydym yn asesu y byddai’r gweithgareddau hyn yn costio tua £90,000 i gefnogi gwaith grŵp Gweinidogol newydd i gynnal yr adolygiad, gydag effaith ganolig. Pe bai’n cael ei reoli mewn ffordd gynhwysol a thraws-bleidiol, credwn y byddai’n cymryd tua 10 mlynedd i sicrhau newid. 

Atodiad 1: crynodeb o’r opsiynau amcangyfrif o’r effaith a’r costau

Llwybr 1: ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned  (Thema 1)
Thema 1: gwella canfyddiad y cyhoedd o gynghorau cymunedAmcangyfrif o'r effaithAmcangyfrif o’r gost
THyfforddiant ac adnoddau i gefnogi cynghorwyr cymuned i estyn allan at ysgolion, grwpiau ieuenctid a chymunedau i feithrin cysylltiadau a dod o hyd i gyfleoedd i gyflawni gyda’i gilyddUchel£15,000
Cyd-ddatblygu (gydag athrawon) adnoddau cwricwlwm i helpu dysgwyr i ddeall strwythur a dibenion llywodraeth leol. Ymgysylltu â cholegau a phrifysgolion i ymgysylltu â myfyrwyr a’u cynnwys mewn democratiaeth leolIsel£20,000 to £55,000
Darparu adnoddau i helpu cymunedau sydd heb gynghorau i ddeall manteision cynghorau ac i annog creu rhai newyddIselAd hoc. I'w negodi o fewn dyfarniad grant Un Llais Cymru yn ôl yr angen
Rhannu arferion da ar draws cynghorau cymuned a chymunedau i godi proffil cadarnhaol cynghorau cymuned ac ysbrydoli gweithgareddau lleol cadarnhaolIselLlai na £5,000
Cyfanswm cost Thema 1 £40,000 to £75,000
Llwybr 1: ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned  (Thema 2)
Thema 2: cynhwysiant ac amrywiaethAmcangyfrif o'r effaithAmcangyfrif o’r gost
Creu proses ddibynadwy ar gyfer casglu a rhannu data ar ddemograffeg cymunedau a chynghorau cymuned, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl grwpiau a dangynrychiolirCanoligLlai na £5,000
Datblygu canllawiau anstatudol i annog a chymell cynghorau cymuned i neilltuo seddi ychwanegol ar gyfer grwpiau cynrychioladol, a chyfethol yn briodolCanoligLlai na £5,000
Cydbwyso cynrychiolaeth drwy gyfethol, gan adrodd drwy adroddiadau blynyddol bob 2 flyneddIselamh
Ystyried cael seddi cadw ychwanegol ar gyfer pobl ifanc a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol ar gynghorau cymuned. Byddai effaith hyn yn cael ei hadrodd yn adroddiadau blynyddol cynghorau cymunedCanolig/
Uchel
Llai na £5,000
Ystyried taliadau cynghorwyr cymuned a lwfansau mynychu rhai nad ydynt yn gynghorwyr ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, drwy adolygiad a gynhelir gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau CymruUchel£15,000 
Cefnogi gwahanol ffyrdd o annog grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, e.e. drwy ymgysylltu ag ElectHer, WEN Cymru a sefydliadau tebyg, drwy feysydd gwaith eraill yn Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu democrataidd. Mae hyn yn cynnwys Amrywiaeth mewn Democratiaeth a'r Gronfa Mynediad i Swyddi EtholedigCanoligamh
Ystyried trefniadau absenoldeb arbennig i weithwyr i’w helpu i weithredu fel cynghorwyr a rheoli eu hamserIselamh
Cyfanswm cost Thema 2 £30,000 (heb ystyried canlyniadau adolygiad)
Llwybr 1: ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned  (Thema 3)
Thema 3: sgiliauAmcangyfrif o'r effaithAmcangyfrif o’r gost
Cefnogi dyheadau cynghorwyr drwy gyfleoedd hyfforddi a mentora/cysgodi, e.e. dysgu gan gynghorau dylanwadol eraill a haenau eraill o lywodraethCanoligLlai na £5,000
Dylai’r sector a CLlLC edrych ar fodelau ar gyfer darparu clercio sy’n darparu cadernid o ran llywodraethiant a sicrwydd. Gallai hyn fod drwy glercio a ddarperir gan brif gynghorau a/neu archwiliadau mewnol a ddarperir drwy brif gynghorauUchelCost ymchwil £15,000
Cost yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau ymchwil
Mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried dull cymesur o fynd i’r afael â phryderon ynghylch methiannau llywodraethiant dro ar ôl tro mewn cynghorau cymunedUchelYmchwil/ymgynghori £15,000 
Cost yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau ymchwil
Cyfanswm cost Thema 3 £35,000 
Llwybr 1: ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned  (Thema 4)
Thema 4: llwybrau ar gyfer cynghorwyr y dyfodolAmcangyfrif o'r effaithAmcangyfrif o’r gost
Dylai’r Bwrdd Rheoli Etholiadol weithio gyda phrif gynghorau a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu fframwaith ar gyfer eglurder, tryloywder a safoni costau etholiadau cynghorau cymuned, gyda’r bwriad o sicrhau cysondebCanoligamh
Dylai cynghorau cymuned ystyried sefydlu cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi, drwy gynnydd bach mewn praeseptau, er mwyn gallu cynnal etholiadau. Ni ddylai cost fod yn anghymhelliad i gynnal etholiadau a dylai cynghorau cymuned, fel arweinwyr cymunedol lleol, fod yn annog eu cymunedau i arfer eu llais democrataiddUchel£500,000 to £1 miliwn ar draws y sector
Yn aml, mae gan gynghorau cymuned is-bwyllgorau a gweithgorau i ddarparu gweithgareddau penodol, a byddai’r rhain yn elwa ar gael cynrychiolwyr nad ydynt yn gynghorwyr. Dylid cynyddu’r gwaith o hyrwyddo’r cyfleoedd hyn yn genedlaethol (ar gyfer cynghorau a chymunedau) – yn enwedig yn y flwyddyn cyn etholiadau. UchelLlai na £5,000
Dylid datgymell cyfethol fel opsiwn tymor hir. Ni ddylai cynghorwyr allu cael eu cyfethol dros ddau dymor etholiadol, h.y. os yw cynghorydd yn cael ei gyfethol am dymor llawn neu ran o dymor, ni ddylai gael ei gyfethol o gwbl yn y tymor etholiadol cyffredin nesaf (mewn unrhyw gyngor cymuned – hyd yn oed pan fydd sedd yn digwydd dod yn wag) – ond gall sefyll i gael ei ethol.UchelCaiff ei adlewyrchu yng nghost isetholiadau
Fel rhan o’r adolygiad o daliadau o dan Thema 2, mae’r grŵp yn awgrymu ei fod yn ystyried cyfraniad cynghorwyr cymuned i’w cymuned.Canoligamh
Dylai’r gwaith o ddatblygu Polisi Cymunedau Llywodraeth Cymru roi sylw penodol i sut y gall mudiadau cymunedol weithio gyda chynghorau cymuned a thref. Mae gweithio ar y cyd yn rhoi synergedd amlwg ac mae’r corff o arweinwyr medrus a galluog mewn mudiadau cymunedol yn darparu llif amlwg o gynghorwyr cymunedol i’r dyfodol.Canoligamh
Dylid annog y Bwrdd Rheoli Etholiadol newydd i gefnogi gwybodaeth a chyngor i ymgeiswyr drwy ei lwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr ar gyfer etholiadau 2026. Gyda gofyniad i gynghorau cymuned a phrif gynghorau helpu i hyrwyddo’r llwyfan, ac i Un Llais Cymru gael ei gynnwys yn y gwaith o ddatblygu porth democratiaeth yn y dyfodol.Canolig/
Uchel
amh
Rhoi sylw i sut y gall sefydliadau cymunedol weithio gyda chynghorau cymuned a thref (rhan o bolisi cymunedol)Uchelamh. tybio y bydd hyn yn rhan o waith parhaus i ystyried polisi cymunedol
Cyfanswm cost Thema 4 tua £500.000 i £1 million
Llwybr 1: ailadeiladu’r sector cynghorau cymuned  (Thema 5)
Thema 5: newid diwylliannolAmcangyfrif o'r effaithAmcangyfrif o’r gost
Ystyried gydag Archwilio Cymru a all chwarae rhan fwy sylweddol a chyfrannu at ddatblygu meini prawf, gyda’r nod o fynd i’r afael â materion amrywiaeth a thanberfformiad ymddangosiadol, fel rhan o'r gwaith o atgyfnerthu’r broses archwilioUcheli'w gadarnhau
Dylai CLlLC ac Un Llais Cymru gytuno ar ddiffiniad cyson o ddiben(ion) cynghorau cymuned a’u perthynas â phrif gynghorau. Mae hyn yn rhoi eglurder i bob partner – gan gynnwys cymunedau a mudiadau cymunedolCanoligamh
Cyfanswm cost Thema 5 £25,000 
Llwybr 2: moderneiddio
Llwybr 2Amcangyfrif o'r effaithAmcangyfrif o’r gost
Sefydlu grŵp Gweinidogol sydd â'r dasg benodol o adolygu llywodraethu cymunedolUchel£50,000 i gynorthwyo adolygiad
Y gost yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau ymchwil
Rhagor o waith ymchwil i lywio llywodraethu cymunedol yn well yn y dyfodolCanolig/
Uchel
£40,000 
Cyfanswm y gost ar gyfer Llwybr 2 £90,000 (costau adolygu)
Gwaith ymchwil pellach
YmchwilAmcangyfrif o'r effaithAmcangyfrif o’r gost
Ar gyfer cymunedau presennol, dylid cynnal adolygiad o dystiolaeth i hysbysu polisïau pennu maint. Byddai hyn yn cyfrannu at ddull gweithredu sy’n gyson yn genedlaethol ar gyfer adolygiadau cymunedol sy’n cael eu harwain gan y prif gynghorau. Byddai corff megis Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru mewn sefyllfa dda i gynnal adolygiad o’r fathCanolig/
Uchel
£20,000 
Dylai’r sector a CLlLC edrych ar fodelau ar gyfer darparu clercio sy’n darparu cadernid o ran llywodraethiant a sicrwydd. Gallai hyn fod drwy glercio a ddarperir gan brif gynghorau a/neu archwiliadau mewnol a ddarperir drwy brif gynghorauUchelCost ymchwil £15,000
Cost yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau ymchwil.
Dylai adolygiad, dan arweiniad Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau a Rhwydwaith y Pwyllgorau Safonau, gan weithio gydag Un Llais Cymru, edrych ar ba mor dda y mae’r fframwaith moesegol a’r broses cod ymddygiad wedi cael eu rhoi ar waithCanolig£5,000
Ystyried gydag Archwilio Cymru a all chwarae rhan fwy sylweddol a chyfrannu at ddatblygu meini prawf, gyda’r nod o fynd i’r afael â materion amrywiaeth a thanberfformiad ymddangosiadol, fel rhan o'r gwaith o atgyfnerthu’r broses archwilioUchelI'w gadarnhau

Atodiad 2: data etholiadau

Newid mewn wardiau cynghorau cymuned a ymladdwyd rhwng etholiadau llywodraeth leol arferol 2017 a 2022

Wardiau a ymladdwyd (Cymru)
20172022Newid ers 2017
323281-13%
Wardiau na ymladdwyd (Cymru)
20172022Newid ers 2017
1,232 1,275 3%
Cyfanswm wardiau (Cymru)
20172022Newid ers 2017
1,555 1,556 0%

Newid mewn seddi cynghorau cymuned a ymladdwyd rhwng etholiadau llywodraeth leol arferol 2017 a 2022

Seddi a ymladdwyd (Cymru)
20172022Newid ers 2017
1,498 1,256 -16%
Seddi na ymladdwyd, wedi'u llenwi (Cymru)
20172022Newid ers 2017
5,109 4,857 -5%
Seddi gwag (Cymru)
20172022Newid ers 2017
1,347 1,770 31%
Cyfanswm seddi (Cymru)
20172022Newid ers 2017
7,954 7,883 -1%

Atodiad 3: amserlen

  • 1972: Deddf Llywodraeth Leol y dod i rym, gan sefydlu, ymysg pethau eraill, gynghorau cymuned a thref, yn lle’r system flaenorol o gynghorau plwyf.
  • 1973: ymunodd y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
  • 1992: roedd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn galluogi cynghorau cymuned i godi arian drwy braesept tâl a wnaed i’r dreth gyngor o dan adran 41 y Ddeddf.
  • 1994: diwygiodd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972. Arweiniodd hyn at newidiadau i sefydlu neu ddiddymu cynghorau cymuned ac ymhlith pethau eraill, cyfansoddiad a phwerau cynghorau cymuned. Roedd y Ddeddf hon hefyd yn lleihau nifer yr awdurdodau lleol i 22.
  • 1997: cynhaliwyd refferendwm datganoli yng Nghymru a throsglwyddwyd rhai o swyddogaethau Llywodraeth y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Sefydlodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 y Cynulliad Cenedlaethol.
  • 1999: sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 
  • 2000: Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 drefn safonau newydd ar gyfer cynghorau cymuned. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau cynghorau cymuned a chânt gyhoeddi cod ymddygiad enghreifftiol y mae’n rhaid i aelodau ei ddilyn.
  • 2006: sefydlodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 Gynulliad Cenedlaethol newydd, gyda deddfwrfa lawn, a gweithrediaeth ar wahân a enwyd i ddechrau yn ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’ (a newidiodd yn ddiweddarach i ‘Llywodraeth Cymru’). 
  • 2008: mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 yn darparu cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau o gynghorau cymuned. 
  • 2011: Rhoddodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (a oedd yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000) y pŵer i gynghorau cymuned wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried sy’n debygol o gyflawni’r gwaith o hyrwyddo neu wella llesiant economaidd, llesiant cymdeithasol neu lesiant amgylcheddol eu hardal. 
  • 2014: Estynnodd Deddf Cymru 2014 gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ar rai materion treth, ac roedd hyn yn cynnwys llywodraeth leol. 
  • 2015: Cyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddyletswydd cynaliadwyedd ar gyfer cynghorau cymuned neu dref mwy yng Nghymru. 
  • 2016: ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd y DU dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • 2017: newidiodd Deddf Cymru 2017 y system ar gyfer pennu pwerau Senedd Cymru o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau, yn unol â’r modelau a fabwysiadwyd ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. 
  • 2017: Ym mis Gorffennaf 2017, sefydlodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y Panel Adolygu Annibynnol. 
  • 2018: Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd y Panel Adolygu Annibynnol ar gynghorau cymuned a thref yng Nghymru ei adroddiad. 
  • 2020: 31 Ionawr 2020 y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
  • 2021: cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethu.
  • 2022: ym mis Mai 2022 cynhaliwyd etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. 
  • 2024: ym mis Ionawr 2024 cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad.

Atodiad 4: gwybodaeth am y sector Cefndir cynghorau cymuned a thref

Mae cynghorau tref yn cael eu creu gan gynghorau cymuned sy’n penderfynu dod yn gynghorau tref. Y prif wahaniaeth rhwng cyngor cymuned neu dref yw ei enw a phenodi maer neu ddirprwy faer yn hytrach na chadeirydd a dirprwy gadeirydd.

Caiff cynghorwyr cymuned eu hethol gan bobl yn y gymuned leol, ac maent yn dal swyddi am gyfnod o 5 mlynedd. Caiff y cadeirydd ei ethol yn flynyddol gan y cyngor o blith y cynghorwyr. 

Nid yw cynghorau cymuned yn darparu gwasanaethau statudol fel prif gynghorau (h.y. Cynghorau Sir neu Fwrdeistref Sirol) ond maent fel arfer yn darparu gwasanaethau ac amwynderau dewisol fel neuaddau pentref, caeau chwarae, goleuadau stryd a llwybrau troed.

Mae cynghorau cymuned yn gyrff corfforaethol yn eu rhinwedd eu hunain ac maent yn atebol i bobl leol, gyda dyletswydd i gynrychioli buddiannau gwahanol rannau’r gymuned yn gyfartal.

Beth mae cynghorau cymuned a thref yn ei wneud?

Mae cynghorau cymuned a thref yn gyrff etholedig sy’n rhan o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl. Fe’u sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac maent yn gwasanaethu’r ardaloedd lleiaf ac yn gyfrifol am y materion mwyaf lleol. Yn bwysig iawn, gall y cynghorau hyn bennu “praesept” codi swm a gesglir gyda’r dreth gyngor bob blwyddyn i wella gwasanaethau a chyfleusterau i bobl leol. Mae’r praesept yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan drethdalwyr y Cyngor sy’n byw yn y gymuned neu’r dref.

Yng Nghymru, maen nhw’n cael eu galw’n gynghorau cymuned neu’n gynghorau tref ac maent yn gyrff llywodraeth leol etholedig y mae eu gweithgareddau’n cael eu rheoli gan Ddeddfau Senedd Cymru a Senedd y DU. Maent i gyd yn gweithio’n agos gyda’r prif gyngor ar gyfer eu priod ardaloedd gan fod cysylltiad rhwng agweddau ar eu gwaith. 

Mae gan y sector gorff aelodaeth o’r enw ‘Un Llais Cymru’ sy’n gweithredu i lobïo Llywodraeth Cymru ac i gefnogi ei aelodau gyda hyfforddiant, cyngor ac arweiniad. Mae’n gweithredu i rannu arferion da ar draws y sector ac yn ceisio dod â’r sector at ei gilydd mewn nifer o gynadleddau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.  

Prif gyfrifoldebau cynghorau cymuned a thref

Mae gan gynghorau cymuned a thref nifer o gyfrifoldebau sylfaenol i wneud bywydau cymunedau lleol yn fwy cyfforddus, y mae llawer ohonynt yn aml yn cael eu cymryd yn ganiataol. Yn ei hanfod, mae’r pwerau hyn yn perthyn i’r 3 phrif gategori: 

  • cynrychioli’r holl etholwyr yn y gymuned
  • darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol
  • ymdrechu i wella ansawdd bywyd yn y gymuned

Mae gan rai cynghorau mwy yng Nghymru ddyletswydd cynaliadwyedd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae llawer o Gynghorau hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb dros ystod o wasanaethau datganoledig gan gynnwys trosglwyddo asedau o brif gynghorau. 

Mae’r pwerau unigol yn cynnwys darparu a chynnal cynlluniau trafnidiaeth gymunedol, mesurau tawelu traffig, prosiectau ieuenctid lleol, gweithgareddau twristiaeth, cyfleusterau hamdden, meysydd parcio, meysydd pentref, toiledau cyhoeddus, biniau sbwriel, goleuadau stryd, glanhau strydoedd, claddfeydd, rhandiroedd, cysgodfannau bysiau, tiroedd comin, mannau agored, llwybrau cerdded, llwybrau ceffylau a mesurau lleihau troseddu.

Roedd y pecyn mawr o ddiwygiadau’n cynnwys diwygio etholiadol, pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned cymwys; cydweithio a chydweithredu mwy cyson a chydlynol; uno gwirfoddol a chynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn llywodraeth leol. 

Demograffeg cynghorwyr

Mae ychydig o dan 8,000 o gynghorwyr cymuned a thref yng Nghymru. Nid oedd gan y Grŵp wybodaeth ddemograffig am y sector yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, o Cydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr ac ymgysylltiad dinasyddion â chynghorwyr: arolwg o gynghorwyr, a gynhaliwyd yn 2022, rydym yn gwybod, o blith y 1,100 o bobl a ymatebodd:

  • roedd 61 y cant yn ddynion
  • roedd 76 y cant dros 55 oed, ac roedd 49 y cant o’r rheini yn 65 oed a hŷn
  • roedd 97 y cant yn wyn

Mae’r data hwn yn adlewyrchu llawer o’r dystiolaeth anecdotaidd a gafodd y Grŵp gan wahanol randdeiliaid yn ystod trafodaethau. 

Sut mae’r sector yn cael ei ariannu

Roedd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn galluogi cynghorau cymuned i godi arian drwy braesept – tâl a wnaed i’r dreth gyngor o dan adran 41 y Ddeddf. Mae’r praesept presennol a godir gan y sector yn ei gyfanrwydd yn oddeutu £50 miliwn. Yn ogystal, gall cynghorau cymuned hefyd dderbyn cyllid o grantiau a ffrydiau incwm eraill, ac mae ganddynt hefyd y pŵer i fenthyca. Roedd y ffynonellau cyllid eraill hyn yn cyfateb i tua £17 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Maint cynghorau cymuned a thref yng Nghymru 

O’r 732* cyngor cymuned a thref yng Nghymru:

  • Mae 485 yn gynghorau sydd fel arfer â chymunedau o 999 o anheddau neu lai (mae hyn yn cynnwys 322 o gynghorau sydd â llai na 500 o anheddau
  • Mae 200 yn gynghorau sydd fel arfer â chymunedau o rhwng 1,000 a 4,999 o anheddau
  • Mae 37 yn gynghorau sydd fel arfer â chymunedau gydag anheddau o rhwng 5,000 a 9,999
  • Mae 10 yn gynghorau sydd fel arfer â chymunedau sydd ag anheddau o 10,000 ac uwch

(*Gwybodaeth a ddarparwyd o gronfa ddata Un Llais Cymru, yn seiliedig ar nifer yr aelwydydd, fel yr hysbyswyd gan brif gynghorau).

Fel arfer, ystyrir bod cynghorau mawr yn rhai sydd ag incwm o dros £200,000, a gesglir drwy ei braesept. Mae data sydd ar gael ar gyfer 2022 i 2023 yn dangos bod 71 o gynghorau cymuned a thref yn codi dros £200,000 mewn praeseptau.

Atodiad 5: cyfranwyr arbenigol

Cyfrannwr/Testun

  • Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru/Amrywiaeth mewn Democratiaeth
  • Is-adran Cymunedau Cydlynus, Llywodraeth Cymru/Datblygu Polisi Cymunedau
  • Jessica Blair, Cyfarwyddwr a Matthew Mathias a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru/‘Our Voices Heard’ syniadau pobl ifanc ar gyfer addysg wleidyddol yng Nghymru
  • Clercod o’r sector cynghorau cymuned/Profiadau clercod o gynghorau cymuned a thref bach, canolig a mwy
  • Dr Matt Ryan, Prifysgol Southampton/Gwersi a rannwyd o arbrofi i annog etholiadau a ymleddir a mwy o gynrychiolaeth mewn cynghorau lleol yn Lloegr  
  • Chris Llewellyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)/Cyfraniad WLGA at waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen
  • Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru/Cwricwlwm newydd: disgwyliadau a chyfyngiadau
  • Frances Duffy, Cadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol/Trosolwg o rôl a dull y panel o bennu lefelau tâl ar gyfer aelodau etholedig
  • Yr Is-adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru/Trosolwg o’r Bil Etholiadau a Chyrff etholedig (Cymru) a Bil Diwygio’r Senedd (Cymru)
  • Tom Moses, PLANED a Phrosiect Ieuenctid Lles a Gwydnwch Cymunedol (CWBR)/Rhannu profiadau Prosiect Ieuenctid CWBR a datblygu cymunedol fel cynghorydd tref
  • Sheree Ellingworth, Swyddog lles cymunedol a’r trydydd sector (CGS Ynys Môn ac Alwyn Rowlands)/Myfyrdodau ar rôl cynghorau tref a chymuned yn y gwaith o lunio lle
  • Neil Prior, aelod o Gabinet Cyngor Sir Penfro, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac aelod o’r cyngor cymuned/Gweithredu dan arweiniad y gymuned a chynnwys dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau lleol a’r rôl y gall cynghorau cymuned a thref ei chwarae
  • Deryck Evans, Rheolwr Technegol, Archwilio Cymru/Trosolwg o reolaeth a llywodraethiant ariannol y sector
  • Y Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru/Adroddiad Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Atodiad 6: erthyglau a ddefnyddiwyd yn y wasg gymunedol, Hwb, bwletinau rhanddeiliaid a llythyrau at bleidiau gwleidyddol

Y Wasg Gymunedol

Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn gynghorydd cymuned neu'n gynghorydd tref? 

Efallai'ch bod wedi bod yn gynghorydd, ond ichi benderfynu rhoi'r gorau iddi?

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Iechyd Democrataidd er mwyn adolygu iechyd cynghorau cymuned a chynghorau tref yng Nghymru. 

Mae'r grŵp yn archwilio ffyrdd o:

  • wella'r ymwneud rhwng cymunedau a'u cynghorau cymuned
  • chynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n sefyll i gael eu hethol i gynghorau cymuned

Bydd eich barn a'ch profiadau yn helpu'r grŵp i ddeall y materion go iawn a chynnig camau gweithredu cadarnhaol. I gymryd rhan, anfonwch eich ymatebion i'r 3 chwestiwn a ganlyn erbyn 27 Tachwedd 2023:

  1. Ydych chi eisiau sefyll, neu ydych chi erioed wedi sefyll i fod yn gynghorydd cymuned?
  2. Os ydych chi eisiau sefyll i fod yn gynghorydd cymuned, ydych chi'n gwybod sut i fynd ati?
  3. Os nad ydych chi'n dymuno sefyll i fod yn gynghorydd cymuned, pam hynny? (rhowch eich rhesymau yn ôl trefn pwysigrwydd).

Gallwch anfon eich ymatebion i: GrwpIechydDemocrataidd@llyw.cymru neu eu postio i:
Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Iechyd Democrataidd
Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays, Caerdydd
CF10 3NQ

Testun llythyrau at bleidiau gwleidyddol

Rwy’n ysgrifennu ar ran Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Gorchwyl Gorffen Iechyd Democrataidd ar gyfer cynghorau cymuned a thref. 

Nodau allweddol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yw:

  • gwella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned
  • chynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol ar gynghorau cymuned a thref 

Cyfarfu’r Grŵp yn ddiweddar ac mae’n adolygu tystiolaeth yn ogystal â dechrau sefydlu sut i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Mae’r thema benodol yr hoffent ei harchwilio gyda chi yn ymwneud â llwybrau i fod yn gynghorwyr. 

Er mwyn helpu i hysbysu eu gwaith, mae ganddynt ddiddordeb mewn deall dull eich plaid o ddenu aelodau. Hefyd, sut yr ydych yn hyrwyddo ac yn cefnogi aelodau ar hyd llwybr tuag at ddod yn gynghorwyr llywodraeth leol, yn enwedig ar lefel cynghorau cymuned a thref. 

Buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu ymateb ysgrifenedig ar ddull gweithredu eich plaid, erbyn 18 Awst 2023, cyn cyfarfod nesaf y grŵp ar 22 Awst 2023. 

Hwb a Bwletinau Rhanddeiliaid

Ymwybyddiaeth, ymgysylltu a chynrychiolaeth ar gynghorau cymuned a chynghorau tref: galwad am dystiolaeth 

Cyfle ichi ddweud eich dweud!

Mae cynghorau cymuned a thref yn cael eu hethol yn ddemocrataidd ac yn gweithredu ar y lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth. Yng Nghymru, mae dros 730 o gynghorau cymuned a thref ac ychydig o dan 8,000 o gynghorwyr. Maen nhw'n darparu amrywiaeth o wasanaethau ar ran cymunedau. 

Yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022, dim ond 38% o bobl wnaeth bleidleisio. Roedd 85% o seddi cynghorau cymuned a thref yn rhai na safodd yr un ymgeisydd ar eu cyfer neu'n rhai na chafodd eu llenwi. 

Er mwyn ymateb i hynny mae Llywodraeth Cymru wedi creu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Iechyd Democrataidd i adolygu iechyd cynghorau cymuned a chynghorau tref yng Nghymru. 

Mae'r grŵp yn archwilio ffyrdd o:

  • wella'r ymwneud rhwng cymunedau a'u cynghorau cymuned
  • chynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n sefyll i gael eu hethol i gynghorau cymuned

Bydd eich barn a'ch profiadau yn helpu'r grŵp i ddeall y materion go iawn a chynnig camau gweithredu cadarnhaol. Mae arolwg wedi'i lansio, ac rydym yn eich annog chi i'w lenwi, i helpu i feithrin cymunedau cryfach a mwy cynhwysol ledled Cymru. 

Os gwelwch yn dda ymateb.

Dyddiad cau yr arolwg yw 27 Tachwedd 2023.

Atodiad 7: methodoleg

Arolygon 

Daeth themâu'r canfyddiadau yn gliriach i ni o drafodaethau gyda chyfranwyr arbenigol a thystiolaeth ysgrifenedig (e.e. papurau academaidd drwy chwiliad llenyddiaeth; arolwg cychwynnol a gynhaliwyd gan YouGov).  Arweiniodd hyn at gyhoeddi arolygon Ceisiadau am Dystiolaeth ar-lein ar y cyd ag aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, swyddogion Llywodraeth Cymru ac ymchwilwyr cymdeithasol. Cafodd y cwestiynau eu dadgyfuno ar gyfer gwahanol randdeiliaid ar sail themâu ein gwaith o gasglu tystiolaeth yn gynharach (Ymwybyddiaeth, ymgysylltu a chynrychiolaeth ar gynghorau cymuned a thref: galwad am dystiolaeth).

Datblygwyd arolwg o bobl ifanc ar y cyd â chynrychiolydd pobl ifanc y Grŵp. Ymatebodd wyth deg a saith o bobl ifanc.

Cynhaliwyd yr arolygon rhwng 16 Hydref 2023 a 27 Tachwedd 2023. 

Roedd gan ymatebwyr a oedd yn dymuno cymryd rhan mewn sgyrsiau dilynol am ganfyddiadau’r arolwg yr opsiwn i ddarparu manylion cyswllt ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau i randdeiliaid yn y dyfodol. 

Gwnaed cysylltiadau hefyd â phobl ifanc ar Brosiect Ieuenctid CWBR (Lles a Chydnerthedd Cymunedol), yn dilyn cyswllt gan gydlynydd y prosiect. Cynhaliwyd nifer o grwpiau ffocws pobl ifanc wyneb yn wyneb rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2023. Datblygwyd templed i helpu ymatebion grwpiau, gan alluogi cwestiynau i ddilyn fformat yr arolwg a darparu cysondeb, pan gafodd yr adborth ei ddadansoddi a’i ystyried yn erbyn ymatebion unigol i’r arolwg.

Dulliau dosbarthu

Datblygwyd erthyglau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r arolwg galwad am dystiolaeth. Dosbarthwyd yr arolwg yn electronig yn fras drwy rwydweithiau a oedd ar gael drwy aelodau’r Grŵp, gan gynnwys Un Llais Cymru, CGGC a Rhwydwaith Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru. 

Dosbarthodd Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol a CLlLC wybodaeth drwy eu sianeli, gan ddefnyddio pecyn o erthyglau a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Rhoddwyd erthyglau hefyd mewn papurau bro i helpu i gyrraedd pobl nad ydynt efallai’n ymgysylltu â gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu digidol, ond a oedd naill ai â diddordeb mewn bod yn gynghorwyr cymuned neu dref neu a oedd wedi bod yn gynghorwyr o’r blaen ond a oedd wedi ymddiswyddo. Roedd opsiynau i ymateb drwy e-bost neu drwy’r post.  

Defnyddiwyd rhwydweithiau canlynol Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o gyrraedd ystod eang o randdeiliaid hefyd:

  • Sianeli’r sector addysg
  • Erthyglau ar Hwb ac mewn cylchlythyrau
  • Cyfathrebu â rhieni drwy X (Twitter gynt) a Facebook drwy sianeli Addysg
  • Sianeli cyfathrebu i Addysg Bellach ac Uwch i gyrraedd colegau a phrifysgolion
  • Hyrwyddo drwy rwydwaith y consortia Addysg
  • Comisiynydd Plant Cymru
    LDHTC+, rhwydweithiau hawliau anabledd a rhwydweithiau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol drwy’r tîm Cydraddoldeb. Roedd hyn yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol ac erthyglau ar gyfer bwletinau. 
  • Arweinwyr Cyfryngau Awdurdodau Lleol
  • Sianeli Cymunedau.

Grwpiau ffocws

Datblygwyd cyfres o grwpiau ffocws ar-lein ac wyneb yn wyneb i ymateb i themâu’r arolwg galwad am dystiolaeth.

Anfonwyd gwahoddiadau drwy Un Llais Cymru, gyda’r nod o gyrraedd cynrychiolwyr ieuenctid ar draws cynghorau cymuned a thref yng Nghymru. 

Anfonwyd gwahoddiadau’n uniongyrchol hefyd at ymatebwyr i’r arolwg a oedd yn dymuno cymryd rhan mewn sgyrsiau pellach. 

Defnyddiodd yr aelodau eu rhwydweithiau hefyd i estyn allan gan arwain at grwpiau ffocws gyda chyfranogwyr y trydydd sector a phobl ifanc. 

Cafodd templed y grŵp a ddefnyddiwyd i ddechrau i ymgysylltu â grwpiau Prosiect Ieuenctid CWBR fel rhan o’r alwad am dystiolaeth, ei deilwra ar gyfer pob un o’r grwpiau ffocws rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau cysondeb wrth gasglu gwybodaeth gan bob un o’r grwpiau ffocws. 

Crynodeb o’r digwyddiadau gyda chyfranogwyr

Pobl ifanc

  • 5 grŵp ffocws yng Ngholeg Sir Benfro, gan gynnwys yn ystod Wythnos Gwleidyddiaeth a Gweithredu. Gwahoddwyd aelodau o Brosiect Ieuenctid CWBR i gyfrannu hefyd
  • 1 grŵp ffocws gyda Chyngor Ieuenctid Conwy
  • 1 grŵp ffocws gyda’r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol a’r grŵp Addysg ôl 16 (a ddarparwyd drwy Blant yng Nghymru)

Cynrychiolwyr cynghorau cymuned a thref

  • 3 grŵp ffocws ar-lein

Y cyhoedd

  • 3 grŵp ffocws ar-lein/1-i-1

Cynrychiolwyr y trydydd sector

  • 2 grŵp ffocws ar-lein

Cyfyngiadau o ran ymgysylltu

Roedd cyfyngiadau o ran yr ymgysylltu yr oeddem yn gallu rhoi sylw iddynt Y cyfranogwyr a ddaeth ymlaen ar gyfer sgyrsiau dilynol fel rhan o grwpiau ffocws ar-lein oedd y rheini â rhywfaint o ddiddordeb ac ymwybyddiaeth mewn cynghorau cymuned a thref. 

Yn gyffredinol, roedd cyfranogiad pobl ifanc wedi’i gyfyngu i grwpiau a ddewisodd ymateb i’r alwad am dystiolaeth a grwpiau ffocws dilynol. Er ein bod hefyd wedi gallu cynnal grŵp ffocws gyda Chyngor Ieuenctid Conwy, roedd nifer o grwpiau ffocws yng Ngholeg Sir Benfro a Phlant yng Nghymru hefyd wedi cynnal arolwg a grŵp ffocws ar-lein. Cafodd tri grŵp ffocws ar gyfer pobl ifanc eu canslo oherwydd diffyg ymateb. Roedd hyn yn cynnwys grŵp ffocws gyda chynrychiolwyr ieuenctid cynghorau cymuned.

Fe wnaethom ysgrifennu at Senedd Ieuenctid Cymru i ofyn i gynrychiolwyr gwrdd â ni i rannu eu profiadau o gynghorau cymuned a thref. Yn anffodus, nid oedd unrhyw gynrychiolwyr yn gallu cwrdd â’r Grŵp. 

Ni chafwyd unrhyw ymatebion gan unrhyw un o’r pleidiau gwleidyddol yr oeddem wedi cysylltu â nhw. 

Dim ond 1 ymateb a dderbyniodd yr erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau bro lleol.

Cafodd dau grŵp ffocws ar gyfer cynrychiolwyr cynghorau cymuned a thref eu canslo, ynghyd ag 1 grŵp Trydydd Sector, oherwydd diffyg ymateb.

Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad gan fusnesau lleol. 

Atodiad 8: cyfeiriadau