Dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC): 2025
Adroddiad yn disgrifio dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 gydag arolwg adborth cysylltiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach. Bwriedir iddo nodi'r ardaloedd bach hynny lle mae'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd.
Cyhoeddwyd y mynegai diwethaf yn 2019. Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio ar gyfer cyhoeddi mynegai wedi'i ddiweddaru tua diwedd 2025. Y dangosyddion unigol sy'n sail i MALlC yw'r elfennau sy'n ffurfio'r mynegai cyfan ac, yn dilyn adolygiad o'r data sydd ar gael, rydym yn bwriadu diweddaru'r rhan fwyaf o'r dangosyddion, ac ychwanegu rhai dangosyddion newydd o bosibl, ar gyfer MALlC 2025. Rydym yn ceisio barn defnyddwyr ar y cynigion hyn ar gyfer dangosyddion.
Ers y cyfnod cyn cyhoeddi'r mynegai diwethaf yn 2019, mae'r cyd-destun a'r ffynonellau data ar gyfer mesur amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru wedi newid yn sylweddol. Gwnaeth ein hadolygiad o'r dangosyddion ystyried effaith pandemig y Coronafeirws (COVID-19) ar argaeledd a thueddiadau data, yn ogystal â newidiadau i'r dirwedd bolisi sy'n sail i rai dangosyddion penodol, megis cyflwyno Credyd Cynhwysol a'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mewn meysydd eraill, mae datblygiadau o ran data gan gynnwys canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi ein harwain i gynnig gwelliannau neu ychwanegiadau i MALlC ar gyfer 2025.
Rydym hefyd eisiau gwybod pa un o'n hallbynnau (adroddiadau, setiau data ac offer dadansoddol eraill) oedd y mwyaf defnyddiol ar gyfer ein mynegai diwethaf, a pha allbynnau yr hoffech eu gweld ar gyfer MALlC 2025.
Bydd yr arolwg yn dechrau ar 11 Tachwedd 2024, ac yn dod i ben ar 16 Rhagfyr 2024, a bydd ar agor i bob unigolyn a sefydliad. Caiff crynodeb o'r ymatebion i'r arolwg hwn ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2025.
Mae'r cwestiynau rydym yn ceisio adborth arnynt ar wefan SmartSurvey, a chânt eu cyflwyno yn y mannau priodol yn yr adroddiad hwn a'u rhestru gyda'i gilydd yn atodiad 3. Nid oes angen i ymatebwyr ateb pob cwestiwn. Dylai'r ymatebion gael eu cyflwyno drwy SmartSurvey. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i ymateb, cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Caiff gweminar (seminar ar-lein) ei chynnal ar 20 Tachwedd a 3 Rhagfyr. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad ar y cynigion ynghyd â chyfle i ofyn cwestiynau. Ewch i wefan MALlC i gofrestru.
Cefndir
Beth mae MALlC yn ei fesur?
MALlC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n Ystadegyn Swyddogol achrededig, a chaiff ei lunio gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru. Bwriedir iddo nodi'r ardaloedd bach hynny lle mae'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Fel y cyfryw, mae MALlC yn mesur amddifadedd lluosog ar sail ardal yn ogystal â mesur amddifadedd cymharol. Caiff y termau allweddol hyn eu diffinio'n fanylach isod.
Diffyg mynediad at gyfleoedd ac adnoddau y gallem ddisgwyl eu cael yn ein cymdeithas yw amddifadedd. Ar hyn o bryd, mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) ar wahân o amddifadedd, ac mae pob un yn seiliedig ar amrywiaeth o ddangosyddion gwahanol. Bydd amddifadedd lluosog mewn ardal os bydd gan yr ardal grynodiad o bobl sy'n wynebu'r math o amddifadedd sy'n perthyn i fwy nag un o'r meysydd hyn:
- incwm
- cyflogaeth
- iechyd
- addysg
- mynediad at wasanaethau
- diogelwch cymunedol
- yr amgylchedd ffisegol
- tai
Mae'r mynegai'n dangos amddifadedd cymharol, sy'n cynnig ffordd o restru ardaloedd yn eu trefn o'r lleiaf i'r mwyaf o amddifadedd, yn hytrach na mesur lefel absoliwt yr amddifadedd cyffredinol mewn ardal. Mae hyn hefyd yn golygu na ddylid cymharu safleoedd ardaloedd mewn gwahanol fersiynau o'r mynegai, oherwydd gallai safle cymharol ardal newid heb i lefelau absoliwt amddifadedd yn yr ardal honno newid.
Ffyrdd o'i ddefnyddio a chyfyngiadau
Mae gwybod sut mae amddifadedd wedi'i ddosbarthu ledled Cymru yn bwysig i lawer o sefydliadau wrth ddatblygu polisïau, rhaglennu a chyllid sy'n seiliedig ar ardaloedd. Gellir defnyddio MALlC (yn aml ar y cyd â gwybodaeth arall) i lywio'r penderfyniadau hyn a rhoi gwell dealltwriaeth o batrymau amddifadedd yng Nghymru. Caiff MALlC hefyd ei ddefnyddio'n eang fel adnodd ymchwilio er mwyn dadansoddi anghydraddoldeb o ran canlyniadau, a hynny gan amlaf drwy ddadansoddi setiau data eraill gan gynnwys lleoliad yn ôl degradd neu gwintel o amddifadedd ardal.
Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio nad MALlC yw'r unig ffordd o fesur amddifadedd. Mae MALlC wedi cael ei ddatblygu at ddiben penodol, sef mesur crynodiadau o amddifadedd ar lefel ardaloedd bach. Yn hollbwysig, nid yw'n nodi'r holl unigolion sydd ag amddifadedd. Gall fod unigolion mewn ardaloedd o amddifadedd na fyddai'n cael eu hystyried yn unigolion ag amddifadedd, ac mae'n bosibl y bydd hefyd unigolion a fyddai'n cael eu hystyried yn unigolion ag amddifadedd yn yr ardaloedd â'r lleiaf o amddifadedd.
Ar y cyfan, nid oes modd cymharu safleoedd a sgoriau MALlC â mynegai amddifadedd lluosog o wledydd eraill y DU. Rydym yn parhau i weithio gyda'r llywodraethau a'r adrannau perthnasol er mwyn archwilio cyfleoedd i gysoni lle bo modd.
Sut y caiff y mynegai ei lunio
Caiff MALlC ei gyfrifo ar gyfer pob Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) yng Nghymru. Fel rhan o ddiweddariad Cyfrifiad 2021, gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) rai newidiadau i ddaearyddiaeth Ardaloedd Cynnyrch, a byddwn yn llunio MALlC 2025 ar y sail newydd. Erbyn hyn, mae cyfanswm o 1,917 o AGEHIau yng Nghymru o gymharu â 1,909 o AGEHIau ar ôl cyfrifiad 2011 (ac a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019). Mae 1,837 o'r AGEHIau yng Nghymru wedi aros yr un fath, mae 45 wedi cael eu cyfuno i ffurfio 22 o AGEHIau newydd, ac mae 27 wedi cael eu hollti i ffurfio 58 o AGEHIau newydd.
Tair prif elfen y mynegai
- Y dangosyddion sylfaenol, sy'n uniongyrchol fesuradwy, ac a gaiff eu cyfuno i greu safleoedd y meysydd.
- Safleoedd yr wyth math o amddifadedd, neu'r meysydd, sy'n sail ar gyfer llunio'r mynegai cyffredinol.
- Y mynegai ei hun, sy'n gyfres o safleoedd.
Cyfrifir pob un o'r elfennau hyn ar gyfer pob un o'r ardaloedd bach (AGEHIau) yng Nghymru. Caiff safleoedd cyffredinol MALlC, safleoedd yr wyth maes amddifadedd, a setiau data'r dangosyddion eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru.
Y dull a ffefrir ar gyfer cyfuno dangosyddion o fewn meysydd, sy'n berthnasol pan fydd tri dangosydd neu fwy, yw defnyddio techneg ystadegol o'r enw dadansoddi ffactorau. Mae'r dechneg hon yn ceisio canfod un lluniad neu ffactor sylfaenol ar gyfer y maes drwy ddadansoddi'r cydberthyniad rhwng dangosyddion.
Ceir rhagor o fanylion am y ffordd y caiff meysydd eu cyfuno i ffurfio'r mynegai cyffredinol, gan gynnwys y dull cyffredinol a gynigir ar gyfer MALlC 2025, yn yr adran ar bwysoliadau'r meysydd.
Datblygu'r cynigion
Ceir tri grŵp cyffredinol sy'n ffurfio'r cynlluniau ar gyfer MALlC 2025. Grŵp llywio o uwch-swyddogion polisi Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r cyfeiriad polisi. Mae bwrdd prosiect o uwch-ddadansoddwyr yn goruchwylio'r cynlluniau a'r ffordd y caiff y mynegai ei lunio a'i ddosbarthu. Mae grŵp cynghori allanol yn rhoi cyngor arbenigol ar y cynigion.
Er mwyn archwilio dangosyddion ar gyfer MALlC a sicrhau eu hansawdd, rydym wedi sefydlu saith grŵp maes arbenigol ar wahân, gydag incwm a chyflogaeth wedi'u grwpio ynghyd. Mae pob grŵp maes yn cynnwys arbenigwyr dadansoddol o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus eraill (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)) ac academyddion ynghyd â chynrychiolwyr polisi o Lywodraeth Cymru lle bo hynny'n briodol.
Gwnaeth pob grŵp ystyried dangosyddion MALlC 2019 ar gyfer y maes, y materion a godwyd yn ymgynghoriad 2019, a ffynonellau data newydd posibl. Mae rhestr lawn o ddangosyddion MALlC 2019 i'w gweld yn atodiad 2, gyda gwybodaeth dechnegol fanwl yn adroddiad technegol MALlC 2019.
Mae'r grwpiau maes wedi ystyried a yw'r dangosyddion arfaethedig yn bodloni rhestr o feini prawf ar gyfer dangosyddion. Rhoddir manylion hyn yn llawn yn atodiad 1 ond, yn gryno, mae angen i ddata dangosyddion MALlC fod yn gadarn ar lefel ardaloedd bach (AGEHIau) a chwmpasu Cymru gyfan. Yn ddelfrydol, dylai dangosyddion fesur yn uniongyrchol fath o amddifadedd sy'n effeithio ar nifer rhesymol o bobl, a dylid gallu ei ddiweddaru'n rheolaidd.
Mae gwaith i ddatblygu dangosyddion ar gyfer MALlC 2025 wedi cynnwys ystyried y dangosyddion cenedlaethol a ddiffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y dangosyddion cenedlaethol yw asesu cynnydd cenedlaethol tuag at gyflawni'r saith nod llesiant a roddwyd ar waith gan y Ddeddf honno. Mae eu diben yn wahanol i ddiben dangosyddion sy'n sail i fynegai amddifadedd, ac mae llawer ohonynt yn seiliedig ar arolygon neu'n anaddas fel arall ar gyfer mesur ar lefel ardaloedd bach. Fodd bynnag, lle y gellir ffurfio cysylltiadau rhwng y dangosyddion cenedlaethol a dangosyddion MALlC, cyfeirir at hyn yn yr adrannau sy'n dilyn.
Cynigion ar gyfer meysydd a dangosyddion
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi crynodeb o'r cynigion presennol ar gyfer pob un o'r wyth maes ac yn gofyn y cwestiynau arolwg a gaiff eu crynhoi er mwyn ymateb iddynt ar SmartSurvey, ac a restrir gyda'i gilydd yn atodiad 3. Rydym yn croesawu ymatebion i gwestiynau mewn rhai o'r meysydd hyn neu ym mhob un ohonynt.
Mewn rhai mannau, rhown ddisgrifiad o waith sy'n mynd rhagddo i archwilio addasrwydd dangosyddion posibl ar gyfer MALlC 2025, yn hytrach na disgrifiadau cyflawn o'r dangosyddion, ar hyn o bryd.
Byddem yn gwerthfawrogi adborth ar ba mor dda y byddai ein cynigion newydd yn casglu gwybodaeth am amddifadedd sy'n berthnasol i'r maes penodol yn eich barn chi, p'un a ydynt yn ychwanegu gwerth at y dangosyddion presennol ar gyfer y maes ai peidio, ac unrhyw dystiolaeth i ategu hyn.
Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod ble y gallai dangosyddion gael eu defnyddio mewn ffyrdd ehangach o bosibl, a beth allai'r ffyrdd hynny fod.
Rydym hefyd yn awyddus i bennu mannau gwan er mwyn gwella MALlC 2025 neu fynegeion yn y dyfodol.
Crynodeb o'r cynigion
Mae'r adran hon yn crynhoi'r cynigion ar gyfer pob maes ar lefel uchel.
Mae ein gwaith ymchwil wedi canfod sawl set ddata newydd a allai ddarparu dangosyddion cadarn ar lefel ardaloedd bach ar gyfer sawl un o'r meysydd amddifadedd o bosibl. Yn y crynodeb isod, caiff y rhain eu rhagflaenu â'r gair ‘Newydd’ er hwylustod cyfeirio.
Os bydd y dangosyddion newydd hyn yn ddichonadwy, byddai eu rhoi ar waith yn golygu cryn dipyn o waith i'r tîm o ystadegwyr sy'n llunio MALlC, a chostau posibl. Byddai angen inni ystyried cryfder y mesurau presennol o fewn maes, gwerth ychwanegol dangosydd (oherwydd po fwyaf o ddangosyddion sydd dan sylw, y mwyaf cymhleth fydd y mynegai), a ffyrdd ehangach posibl o ddefnyddio set ddata'r dangosydd.
Rydym yn croesawu safbwyntiau ar sut y dylem flaenoriaethu'r meysydd arfaethedig, os bydd angen.
Meysydd incwm a chyflogaeth
Y pwysoliad a roddwyd i'r maes incwm a'r maes cyflogaeth ym MALlC 2019 oedd 22% yr un. Byddwn yn adolygu'r pwysoliadau ar gyfer MALlC 2025.
Mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y caiff y meysydd hyn o fewn MALlC eu mesur. Yn wyneb yr heriau hyn, mae gwaith yn mynd rhagddo dan arweiniad tîm mynegeion amddifadedd Lloegr yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ddatblygu argymhelliad ar gyfer dangosyddion amddifadedd incwm a chyflogaeth ar lefel ardaloedd bach.
Rydym yn cynnig cydweithio â'r MHCLG ar hyn, a mabwysiadu'r dull a gaiff ei argymell gan DWP a'r MHCLG oni fydd rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Y bwriad yw parhau i seilio'r ddau faes ar ddata gweinyddol o'r system fudd-daliadau ac, yn achos, incwm, y system credydau treth a data'r Swyddfa Gartref ar geiswyr lloches sy'n derbyn cymorth.
Maes iechyd
Pwysoliad MALlC 2019 oedd 15%, a byddwn yn ei adolygu ar gyfer 2025.
Dangosyddion sy'n ymwneud â phlant
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dulliau o fesur pwysau geni isel a phlant â gordewdra.
- Newydd: rydym yn archwilio dull newydd o fesur derbyniad brechiadau ymhlith plant.
Dangosyddion sy'n casglu gwybodaeth am gyflyrau penodol sydd wedi'u diagnosio
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosyddion ar gyfer cyflyrau cronig a chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi cael diagnosis gan feddygon teulu, a nifer yr achosion o ganser.
Dangosyddion sy'n casglu gwybodaeth am statws iechyd y boblogaeth yn fwy cyffredinol
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosyddion ar gyfer marwolaethau cynamserol a salwch cyfyngol hirdymor wedi'i hunanadrodd.
- Newydd: rydym yn archwilio dull newydd o fesur iechyd deintyddol.
Maes addysg
Pwysoliad MALlC 2019 oedd 14%, a byddwn yn ei adolygu ar gyfer 2025.
Dangosyddion deilliannau / cyfraddau absenoldeb ysgolion
- Rydym yn cynnig diweddaru'r sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 (CA4) a datblygu dangosyddion cyfradd absenoldeb mynych ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd.
- Nid ydym yn gallu diweddaru'r dangosyddion ar gyfer sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 2 (CA2) a'r cyfnod sylfaen, felly ni chaiff y dangosyddion blaenorol hyn eu cynnwys ym MALlC 2025.
Dangosyddion sy'n ymwneud ag addysg ôl-orfodol / y boblogaeth ehangach
- Rydym yn cynnig diweddaru dangosyddion ar gyfer cyfran y disgyblion CA4 sy'n mynd i addysg uwch a chyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau ac ystyried ehangu cwmpas y naill a'r llall.
Maes mynediad at wasanaethau
Pwysoliad MALlC 2019 oedd 10%, a byddwn yn ei adolygu ar gyfer 2025.
Cynigion ar gyfer dangosyddion
- Rydym yn bwriadu diweddaru amseroedd teithio at yr wyth gwasanaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a'r naw gwasanaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019.
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dulliau o fesur mynediad at wasanaethau band eang.
- Newydd: rydym yn archwilio ffordd ychwanegol o fesur amseroedd teithio at wasanaethau gofal plant.
Maes tai
Pwysoliad MALlC 2019 oedd 7%, a byddwn yn ei adolygu ar gyfer 2025.
Cynigion ar gyfer dangosyddion
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosydd ar gyfer gorlenwi (mesur ystafelloedd gwely yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021).
- Newydd: os bydd modd, byddwn yn cynnwys dangosydd effeithlonrwydd ynni gan ddefnyddio data o gofnodion Tystysgrifau Perfformiad Ynni.
- Newydd: rydym yn archwilio ffordd bosibl o fesur fforddiadwyedd tai, a fynegir fel anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ymuno â'r farchnad rhentu preifat.
Os na fydd yn ddichonadwy datblygu dulliau cadarn o fesur aneffeithlonrwydd ynni neu fforddiadwyedd tai, rydym yn cynnig ailddefnyddio rhywfaint o'r data ar ansawdd tai gwael wedi'u modelu a luniwyd ar gyfer MALlC 2019.
Maes diogelwch cymunedol
Pwysoliad MALlC 2019 oedd 5%, a byddwn yn ei adolygu ar gyfer 2025.
Cynigion ar gyfer dangosyddion
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosyddion presennol yn y maes hwn, ar gyfer categorïau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ar gyfer achosion o dân.
- Newydd: rydym yn cynnig cyflwyno dangosydd newydd ar gyfer trais rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu, ar yr amod bod y data'n bodloni'r meini prawf ar gyfer dangosyddion MALlC.
Maes yr amgylchedd ffisegol
Pwysoliad MALlC 2019 oedd 5%, a byddwn yn ei adolygu ar gyfer 2025.
Risg llifogydd
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosydd ar gyfer cyfran yr aelwydydd sy'n wynebu risg o lifogydd.
Ansawdd aer
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r tri dangosydd ar gyfer ansawdd aer (Nitrogen Deuocsid, PM10 a PM2.5).
Mannau gwyrdd
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosydd mannau gwyrdd amgylchol.
- Rydym yn cynnig diweddaru'r dangosydd ar gyfer diffyg agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch a chynnwys llwybrau pellter hir cenedlaethol yn y set ddata ar gyrchfannau.
Dangosyddion newydd posibl
- Newydd: rydym yn archwilio dangosydd perygl gwres a fyddai'n mesur sgôr risg gwres gyfartalog.
- Newydd: rydym yn archwilio dangosydd llygredd sŵn a fyddai'n mesur y llygredd sŵn o ffyrdd, rheilffyrdd a diwydiant yn seiliedig ar fapiau sŵn strategol 2022.
Materion i ymateb iddynt
- Rhestrwch, yn nhrefn blaenoriaeth o ran beth fyddai'n ychwanegu'r gwerth mwyaf at y mynegai, y dangosyddion newydd arfaethedig i'w cynnwys ym MALlC 2025.
- Esboniwch eich rhesymau dros y drefn uchod, a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar ddangosyddion newydd arfaethedig i'w cynnwys ym MALlC 2025.
Maes incwm
Ar gyfer MALlC 2019, diben y maes incwm oedd mesur cyfran y bobl ag incwm islaw lefel ddiffiniedig. Ar gyfer MALlC 2025, byddwn yn adolygu'r ffordd rydym yn disgrifio'r maes ar ôl inni benderfynu ar y diffiniad gorau o'r dangosydd. Mae'n bosibl y caiff y diben ei ddisgrifio drwy gyfeirio at ddefnyddio incwm isel fel procsi am amddifadedd materol.
Trosolwg o'r cynigion
Mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y caiff maes incwm MALlC ei fesur. Yn wyneb yr heriau hyn, mae gwaith yn mynd rhagddo dan arweiniad tîm mynegeion amddifadedd Lloegr yn MHCLG a'r DWP i ddatblygu argymhellion ar gyfer dangosyddion amddifadedd incwm a chyflogaeth ar lefel ardaloedd bach. Rydym yn cynnig parhau i gydweithio â'r MHCLG ar hyn, a mabwysiadu'r dull a gaiff ei argymell gan yr DWP a'r MHCLG oni fydd rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Mae rhagor o fanylion am y ffordd bresennol o feddwl i'w gweld isod. Rydym hefyd o blaid gwell cymharedd rhwng mynegeion ar gyfer gwahanol wledydd y DU, lle bo hynny'n briodol.
Dangosydd MALlC 2019
Roedd maes incwm MALlC 2019 yn cynnwys un dangosydd cyfansawdd, sef cipolwg trawstoriadol ar bobl mewn amddifadedd incwm fel y'i mesurir yn seiliedig ar dderbyn mathau penodol o fudd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm neu gredydau treth. Roedd yn cynnwys pedwar math gwahanol o hawlydd, sef:
- hawlwyr budd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm, gan gynnwys hawlwyr Cymhorthdal Incwm, hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith, hawlwyr Credyd Pensiwn a hawlwyr Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Seiliedig ar Incwm, a'u plant dibynnol (gan DWP)
- pobl ar Gredyd Cynhwysol a'u plant dibynnol, heb gynnwys y rhai a oedd yn ‘gweithio heb ofynion’ yn ôl marciwr ‘amodoldeb’ y set ddata (gan DWP)
- plant ac oedolion mewn teuluoedd a oedd yn cael Credydau Treth Gwaith a Chredydau Treth Plant, a oedd ag incwm o lai na 60% o'r incwm canolrifol ar gyfer Cymru cyn costau tai (gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF))
- Ceiswyr Lloches sy'n Derbyn Cymorth, h.y. y rhai y rhoddwyd cymorth iddynt o dan Adran 95 o'r Ddeddf Lloches a Mewnfudo, a'u plant dibynnol (gan y Swyddfa Gartref)
O fewn setiau data'r DWP, roedd yr uchod yn seiliedig ar gyfrif unigolion unigryw (h.y. dim ond unwaith y cafodd pobl sy'n hawlio mwy nag un budd-dal eu cyfrif). Cyfrifwyd cyfanswm y dangosyddion a chawsant eu mynegi fel canran o gyfanswm y boblogaeth ar gyfer yr AGEHI.
Effaith Credyd Cynhwysol
Mae cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y caiff maes incwm a maes cyflogaeth MALlC eu mesur, gan fod Credyd Cynhwysol yn disodli'r rhan fwyaf o fudd-daliadau a chredydau treth sy'n mewnbynnu i'r meysydd hyn. Ar adeg llunio MALlC 2019, roedd y setiau data diweddaraf a oedd ar gael i'w defnyddio yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2016-17, pan mai i geiswyr gwaith sengl (yn bennaf) roedd Credyd Cynhwysol yn daladwy. Roedd hyn yn cynnig cydberthyniad syml â hen fudd-daliadau cyfatebol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir mwyach, ac nid yw'r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn llawn wedi cael ei chwblhau ar gyfer pob budd-dal a phob rhan o'r wlad eto. Felly, mae angen inni ystyried pa bethau y gellir eu mesur ar sail y data gweinyddol sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae'r DWP yn llunio diweddariadau chwarterol ar y broses barhaus o newid i Gredyd Cynhwysol. Tra bo Credyd Cynhwysol yn dal i gael ei gyflwyno, gan fod nifer sylweddol o hawlwyr budd-daliadau'n dal i gael hen fudd-daliadau yn yr ystadegau diweddaraf ar fudd-daliadau (DWP, fel yr oedd pethau ym mis Awst 2024), nid proses syml yw diweddaru ein dulliau o fesur amddifadedd incwm a chyflogaeth. Gan y bydd cynnydd o ran newid o'r hen fudd-daliadau i Gredyd Cynhwysol yn amrywio rhwng gwahanol ardaloedd, a chan fod cymhwysedd i gael Credyd Cynhwysol yn wahanol i gymhwysedd i gael hen fudd-daliadau, mae'n bosibl na fyddwn yn cymharu tebyg â'i debyg ar adeg benodol yn ystod y broses gyflwyno.
Hefyd, mae ein tîm mynegeion amddifadedd cyfatebol ar gyfer Lloegr (yn MHCLG) yn cynllunio eu diweddariad nesaf i'w mynegeion ar gyfer 2025. Mae'r MHCLG wedi dechrau gweithio gyda'r cyflenwr data allweddol, sef DWP, i ddatblygu data dangosyddion priodol ar gyfer y meysydd incwm a chyflogaeth. Bydd hyn yn ystyried newidiadau i'r dirwedd bolisi fel y disgrifir uchod, ond hefyd newidiadau i'r dirwedd ddata yn DWP.
Gan fod y ffynonellau data perthnasol ar gyfer y ddwy wlad yr un fath â'i gilydd, a bod y cysyniadau a fesurwyd mewn priod feysydd incwm a chyflogaeth ar gyfer 2019 yn debyg iawn, ein barn ni yw mai'r ffordd fwyaf effeithlon a chadarn o gyflawni diweddariad i'n dangosyddion yw mabwysiadu'r dull y bydd DWP a'r MHCLG yn ei argymell. Rydym yn bwriadu cydweithio â nhw ar y gwaith hwn a bod yn rhan o'r gwaith o lywio'r opsiynau a'r argymhellion.
Y dull a'r dangosydd arfaethedig
Fel yr amlinellir uchod, mae gwaith yn mynd rhagddo dan arweiniad MHCLG a'r DWP i ddatblygu argymhelliad ar gyfer dangosydd amddifadedd incwm. Mae'r MHCLG wedi cynnal adolygiad cysyniadol helaeth ac mae'n parhau i gydweithio â'r DWP ar brofion empirig er mwyn penderfynu ar y dull mwyaf priodol. Maent wedi dod i'r casgliad na allwn ddyblygu a diweddaru maes incwm 2019 Lloegr ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, y bwriad o hyd yw parhau i seilio'r maes ar ddata gweinyddol o'r system fudd-daliadau a'r system credydau treth, a data'r Swyddfa Gartref ar geiswyr lloches sy'n derbyn cymorth.
Hefyd, cododd gyfle i ailystyried y ffordd y cafodd y maes hwn ei gysyniadoli'n wreiddiol, a'r diffiniad dros dro ar hyn o bryd yw canran y boblogaeth sy'n debygol o fod yn wynebu amddifadedd materol am fod ganddynt incwm isel. Mae hyn yn cyd-fynd â'r ffordd y gwnaeth Peter Townsend gysyniadoli amddifadedd materol (Poverty in the United Kingdom, 1979 (Poverty and Social Exclusion (PSE)), sef bod gan bobl amddifadedd incwm os na fydd ganddynt ddigon o incwm i dalu am bethau y mae cymdeithas yn eu hystyried yn angenrheidiol.
Mae'r ddau opsiwn sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd, a ddisgrifir isod, yn golygu cyfrif credydau treth/budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd gan DWP a CThEF heb ddim gorgyffwrdd, yn debyg i ddull 2019. Fodd bynnag, maent yn amrywio yn yr ystyr bod opsiwn 1 yn golygu nad oes trothwy incwm nac enillion, tra byddai opsiwn 2 yn defnyddio trothwy enillion.
Gan ystyried opsiwn 1, gellid dadlau bod y prawf modd ar gyfer budd-daliadau yn fwy manwl na throthwy incwm cyfwerth gan fod prawf modd yn ystyried costau ychwanegol am anghenion sylfaenol fel iechyd, gofal, a thai.
Fodd bynnag, byddai trothwy enillion (opsiwn 2) yn briodol os oes teuluoedd sy'n ‘ennill mwy’ ac sy'n hawlio Credyd Cynhwysol na fyddai'n cael eu hystyried yn deuluoedd ag ‘amddifadedd’ yn y maes hwn, ac mae profion yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda'r DWP i archwilio sut y caiff enillion eu dosbarthu ymhlith teuluoedd sy'n hawlio Credyd Cynhwysol. Byddai defnyddio trothwy ar gyfer cyfanswm incwm yn hytrach nag enillion yn amhriodol, gan fod incwm budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd yn cael ei roi ar gyfer anghenion penodol (e.e. iechyd gwael, gofal, tai), ac nid er mwyn prynu pethau y mae cymdeithas yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn lliniaru amddifadedd materol.
Opsiwn 1
Yr holl oedolion a phlant mewn unedau budd-daliadau a oedd yn hawlio'r budd-daliadau canlynol sy'n dibynnu ar brawf modd ym mis Hydref 2024:
- Credyd Cynhwysol [taliadau]
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn (Gwarant)
- Budd-dal Tai (er mwyn sicrhau cysondeb rhwng Credyd Cynhwysol a hawlwyr hen fudd-daliadau sy'n weddill)
- Ceiswyr lloches sy'n cael cymorth cynhaliaeth, cymorth llety, neu'r ddau (y Swyddfa Gartref)
Nid yw opsiwn 1 yn cynnwys y rhai sy'n cael credydau treth oherwydd dylai'r broses o drosglwyddo dan reolaeth i Gredyd Cynhwysol fod wedi'i chwblhau i raddau helaeth erbyn mis Hydref 2024.
Opsiwn 2
Defnyddio trothwy enillion ar gyfer oedolion a phlant mewn unedau budd-daliadau a oedd yn hawlio'r credydau treth neu'r budd-daliadau canlynol sy'n dibynnu ar brawf modd ar ddiwedd mis Mawrth 2023, gan ddefnyddio eu henillion drwy gydol blwyddyn ariannol 2022-23 (noder mai'r flwyddyn dreth lawn ddiweddaraf yn y gronfa ddata yw 2022-23 gan fod angen data ar enillion ar gyfer yr opsiwn hwn):
- Credyd Cynhwysol [taliadau]
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn (Gwarant)
- Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant (os caiff blwyddyn dreth 2022-23 ei defnyddio ar gyfer y data ar enillion, bydd hyn cyn diwedd y broses drosglwyddo dan reolaeth ar gyfer yr hawlwyr hyn ac felly bydd angen i deuluoedd credyd treth gael eu cynnwys)
- Budd-dal Tai
- Ceiswyr lloches yn Lloegr sy'n cael cymorth cynhaliaeth, cymorth llety, neu'r ddau (y Swyddfa Gartref)
Mae profion cychwynnol sy'n ystyried effaith amrywiad yn y dull ‘trothwy incwm/enillion’ ar gyfer y maes yn cael eu cynnal ar gyfer Lloegr. Pan fyddant wedi'u cwblhau, caiff y set derfynol o brofion eu cynnal ar gyfer Cymru, a gwledydd eraill y DU fwy na thebyg. Rydym yn disgwyl gallu rhannu manylion mwy pendant am y dull terfynol yn ein hadroddiad nesaf yng ngwanwyn 2025.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r MHCLG, yr DWP ac eraill ar opsiynau ar gyfer dangosydd addas sy'n defnyddio data ar hawlwyr Credyd Cynhwysol mewn mynegeion yn y dyfodol, wrth i'r broses trosglwyddo dan reolaeth gael ei chwblhau.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Mae ystadegau incwm sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol (ABIS) arbrofol SYG ar gyfer Cymru a Lloegr yn dal i gael eu datblygu ac felly nid ydynt yn addas ar gyfer MALlC 2025. Mae papur ymchwil diweddar yn rhoi gwybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau'r ABIS presennol, a'r ffordd y maent yn debygol o gael eu datblygu yn y dyfodol (SYG).
Dim ond i lawr at lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (AGEHGau) y mae amcangyfrifon incwm seiliedig ar fodelau SYG ar gyfer ardaloedd bach, a fodelwyd ar sail data arolygon ac a ddiweddarwyd yn ystod hydref 2023, ar gael.
Effaith yr argyfwng costau byw: yn anffodus, ni all y maes hwn adlewyrchu cynnydd sydyn mewn costau byw y mae llawer o bobl wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Nid oes data cadarn ar lefel ardaloedd bach ynglŷn â gwariant aelwydydd, a fyddai'n dangos effaith chwyddiant, ar gael i alluogi hyn ar hyn o bryd.
Pwysoliad dangosyddion
Ein cynnig yw mai dim ond un dangosydd a gaiff ei gynnwys yn y maes.
Materion i ymateb iddynt
- O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes incwm, ydych chi'n credu y dylai pwysoliad y maes o fewn y mynegai cyffredinol fod yn uwch, yn is neu'r un fath â'r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, oedd yn 22%?
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymateb uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes incwm.
Maes cyflogaeth
Diben y maes cyflogaeth yw casglu gwybodaeth am ddiffyg cyflogaeth. Mae'n cynnwys y boblogaeth oedran gweithio sy'n cael ei heithrio'n anwirfoddol o waith, gan gynnwys y bobl hynny na allant weithio oherwydd salwch neu sy'n ddi-waith ond sydd wrthi'n chwilio am waith. Ar gyfer MALlC 2025, byddwn yn adolygu'r ffordd rydym yn disgrifio'r maes ar ôl inni benderfynu ar y diffiniad gorau o'r dangosydd. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwn yn ychwanegu cyfeiriad at gyfrifoldebau gofalu fel rheswm pellach dros beidio â bod mewn gwaith os caiff y dangosydd ei ymestyn i gynnwys Lwfans Gofalwr, nad yw wedi'i gynnwys o'r blaen.
Trosolwg o'r cynigion
Fel y disgrifiwyd yn yr adran ar y maes incwm, rydym hefyd yn bwriadu mabwysiadu'r dull a gaiff ei argymell gan DWP a'r MHCLG ar gyfer y maes cyflogaeth oni fydd rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Mae rhagor o fanylion am y ffordd bresennol o feddwl i'w gweld isod.
Dangosydd MALlC 2019
Roedd maes cyflogaeth MALlC 2019 yn cynnwys un dangosydd cyfansawdd, sef cipolwg trawstoriadol ar bobl mewn amddifadedd cyflogaeth fel y'i mesurir yn seiliedig ar dderbyn budd-daliadau sy'n seiliedig ar ddiweithdra gan DWP. Roedd yn cynnwys pedwar math gwahanol o hawlydd, sef:
- Hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith
- Hawlwyr Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Hawlwyr Budd-dal Analluogrwydd (a Lwfans Anabledd Difrifol)
- Hawlwyr Credyd Cynhwysol nad oeddent mewn gwaith
Dim ond unwaith y cafodd pobl sy'n hawlio mwy nag un budd-dal eu cyfrif, a chafodd y dangosydd ei fynegi fel canran o'r boblogaeth oedran gweithio (pawb rhwng 16 a 64 oed) ar gyfer yr AGEHI.
Y dull a'r dangosydd arfaethedig
Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, mae gwaith yn mynd rhagddo dan arweiniad MHCLG a'r DWP i ddatblygu argymhelliad ar gyfer dangosydd amddifadedd cyflogaeth. Rydym yn disgwyl gallu rhannu manylion mwy pendant yn ein hadroddiad nesaf yng ngwanwyn 2025. Fodd bynnag, caiff rhywfaint o'r gwaith meddwl cychwynnol ei ddisgrifio isod.
Y cynigion presennol, a all newid yn dibynnu ar ystyriaethau a gwaith dadansoddi data pellach, yw:
- defnyddio pwynt amser yn 2022-23, a fyddai cyn y broses trosglwyddo dan reolaeth (hynny yw, y broses o symud y rhai a oedd yn hawlio hen fudd-daliadau i Gredyd Cynhwysol, gan osgoi cymhlethdodau o ran y gallu i gymharu data rhwng ardaloedd bach) ac ar ôl effeithiau allweddol pandemig COVID-19 ar y maes cyflogaeth
- defnyddio 12 o bwyntiau amser misol ar wahân o'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, er mwyn casglu gwybodaeth am natur dymhorol gwaith, a'r rhai sydd mewn cylch o fod mewn gwaith ac allan o waith, gan gynnwys y rhai sydd mewn gwaith ansicr ac ar gontractau dim oriau
- addasu'r diffiniad o ‘oedran gweithio’ i 18 i 66 oed (ar gyfer MALlC 2019, gwnaethom ddefnyddio 16 i 64 oed) er mwyn adlewyrchu'r newid mewn oedran ymddeol hyd at y cyfnod hwnnw, ac er mwyn gallu cymharu â Lloegr
Y ffordd bresennol o feddwl yw y dylai'r maes gwmpasu'r budd-daliadau canlynol i bobl ddi-waith:
- Lwfans Ceisio Gwaith/Lwfans Ceisio Gwaith Newydd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd
- Cymorth Incwm (gall y grŵp hwn fod wedi'i gau allan o'r farchnad lafur yn anwirfoddol oherwydd iechyd a chyfrifoldebau gofalu, ac mae angen ei gynnwys er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gysondeb â'r categorïau amodoldeb arfaethedig ar gyfer Credyd Cynhwysol a nodir isod)
- Lwfans Gofal Analluedd/Lwfans Gofalwr
- Budd-dal Analluogrwydd/Lwfans Anabledd Difrifol
- Hawlwyr Credyd Cynhwysol yn y grwpiau amodoldeb canlynol:
- Dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
- Cynllunio ar gyfer gwaith (er mwyn cynnwys y rhai sydd wedi'u cau allan yn anwirfoddol oherwydd cyfrifoldebau gofalu)
- Paratoi ar gyfer gwaith (gan gynnwys y rhai â gallu cyfyngedig i weithio oherwydd cyflyrau iechyd neu blentyn 2 oed)
- Chwilio am waith
Byddai'r dangosydd yn cael ei fynegi fel canran o'r rhai rhwng 18 a 66 oed ar gyfer yr AGEHI.
Noder bod y cynnig i gynnwys hawlwyr Lwfans Gofalwr (a budd-daliadau cyfatebol) yn newydd ar gyfer maes cyflogaeth MALlC, ond yn gyson â dull Lloegr ar gyfer mynegeion blaenorol. Mae rhywfaint o ddata ar gyfer Cymru ar y sail hon eisoes wedi cael eu rhyddhau yn yr allbwn cydweithredol ‘Indices of Deprivation 2019: income and employment domains combined for England and Wales’ (MHCLG), ac mae cymariaethau â data sy'n sail i MALlC 2019 yn awgrymu ychydig iawn o effaith ar safleoedd ardaloedd o ran amddifadedd cyflogaeth cymharol.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r MHCLG, DWP ac eraill ar opsiynau ar gyfer dangosydd addas sy'n defnyddio data ar hawlwyr Credyd Cynhwysol mewn mynegeion yn y dyfodol, wrth i'r broses trosglwyddo dan reolaeth gael ei chwblhau.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Ansawdd swyddi a ffactorau cysylltiedig: ar hyn o bryd, nid oes setiau data ar gael a fyddai'n golygu bod modd llunio dulliau cadarn o fesur ansawdd cyflogaeth ar lefel ardaloedd bach. Nid ydym yn ymwybodol o ddiffiniad safonol y cytunir arno ar gyfer ansawdd cyflogaeth y gellid ei ddefnyddio; a byddai hyn yn golygu bod angen newid fframwaith cysyniadol presennol y maes, sy'n canolbwyntio ar y rhai sydd wedi'u cau allan o'r farchnad lafur yn anfwriadol, yn hytrach nag ansawdd unrhyw gyflogaeth.
Pwysoliad dangosyddion
Ein cynnig yw mai dim ond un dangosydd a gaiff ei gynnwys yn y maes.
Materion i ymateb iddynt
- O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes cyflogaeth, ydych chi'n credu y dylai pwysoliad y maes o fewn y mynegai cyffredinol fod yn uwch, yn is neu'r un fath â'r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, oedd yn 22%?
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymateb uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes cyflogaeth.
Maes iechyd
Diben y maes hwn yw mesur diffyg iechyd da ymhlith yr holl bobl, a chasglu gwybodaeth am ragfynegyddion iechyd yn y dyfodol yn seiliedig ar amddifadedd a brofwyd yn ystod plentyndod. Mae rhai dangosyddion yn y maes hwn wedi'u safoni yn ôl oedran a rhyw er mwyn cyfrif am wahaniaethau yn y boblogaeth rhwng ardaloedd bach.
Yn wahanol i lawer o feysydd eraill, mae amrywiaeth eang o ddata ar iechyd ar gael y gellir eu defnyddio i lunio dangosyddion ar gyfer ardaloedd bach. Fodd bynnag, dim ond dangosyddion y tybir eu bod yn ychwanegu gwerth at y maes iechyd, ac nad ydynt yn gwanhau effaith y dangosyddion hynny sy'n casglu gwybodaeth am amddifadedd iechyd, y byddwn yn eu cynnwys.
Trosolwg o'r cynigion
Rydym wedi dewis cyflwyno'r dangosyddion arfaethedig yn y tri chategori isod:
- dangosyddion sy'n ymwneud â phlant
- dangosyddion sy'n casglu gwybodaeth am gyflyrau penodol sydd wedi'u diagnosio
- dangosyddion sy'n casglu gwybodaeth am statws iechyd y boblogaeth ehangach
Mae'r rhan fwyaf o'r dangosyddion arfaethedig wedi aros yr un fath ers y mynegai blaenorol ac mae dau yn newydd. Mae gwaith datblygu'n dal i fynd rhagddo ar gyfer y maes iechyd, a byddwn yn ymhelaethu ar unrhyw ddangosyddion newydd a gaiff eu defnyddio yn ein hadroddiad ar yr ymatebion i'r arolwg yn ystod gwanwyn 2025.
Rydym yn ymwybodol o effaith bosibl pandemig COVID-19 ar y setiau data ar gyfer y maes hwn. Wrth inni ddechrau llunio'r setiau data, byddwn yn edrych yn ofalus ar argaeledd ac ansawdd data gyda'r grŵp maes iechyd, yn asesu effaith bosibl hyn ar y mynegai, ac yn gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol megis hepgor blynyddoedd penodol o ddata.
Ceir crynodeb o'n cynigion o dan bob pennawd isod, gyda mwy o fanylion yn yr adrannau sy'n dilyn.
Dangosyddion sy'n ymwneud â phlant
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dulliau o fesur pwysau geni isel a phlant â gordewdra.
- Rydym yn archwilio dull newydd o fesur derbyniad brechiadau ymhlith plant.
Dangosyddion sy'n casglu gwybodaeth am gyflyrau penodol sydd wedi'u diagnosio
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosyddion ar gyfer cyflyrau cronig a chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi cael diagnosis gan feddygon teulu, a nifer yr achosion o ganser.
Dangosyddion sy'n casglu gwybodaeth am statws iechyd y boblogaeth yn fwy cyffredinol
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosyddion ar gyfer marwolaethau cynamserol a salwch cyfyngol hirdymor wedi'i hunanadrodd.
- Rydym yn archwilio dull newydd o fesur iechyd deintyddol.
Dangosyddion arfaethedig sy'n ymwneud â phlant
Pwysau geni isel
Canran y genedigaethau byw unigol sy'n llai na 2.5kg (5.5lb) yw'r dangosydd hwn. Rydym yn cynnig diweddaru'r dangosydd hwn gan ddefnyddio data o'r cyfnod rhwng 2014 a 2023, a ddaw o ystadegau mamolaeth a genedigaethau. Mae'r data hyn yn cyd-fynd â dangosydd cenedlaethol 1 ar bwysau geni isel.
Plant 4-5 oed sy'n ordew
Cafodd y dangosydd hwn ei gynnwys am y tro cyntaf ym MALlC 2019. Rydym yn mynd ar drywydd diweddariadau data gan ICC. Gan fod y pandemig wedi tarfu ar brosesau casglu data, byddwn yn cynnwys data o'r cyfnod cyn ac ar ôl y pandemig er mwyn sicrhau maint sampl digonol.
Derbyniad brechiadau ymhlith plant
Mae derbyniad brechiadau rheolaidd yn gysylltiedig â risgiau iechyd is i blant bach (Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant). Yn unol â'r diffiniad o'r maes hwn sy'n cynnwys casglu gwybodaeth am ragfynegyddion problemau iechyd yn y dyfodol, rydym yn ymchwilio i'r syniad o gynnwys dangosydd newydd er mwyn mesur derbyniad yr holl imiwneiddiadau rheolaidd ymhlith plant 4 oed. Byddai'r dangosydd hwn yn seiliedig ar ddata o'r gronfa ddata genedlaethol ar iechyd plant cymunedol (a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru).
Er bod angen inni werthuso'r gwerth y bydd dangosydd o'r fath yn ei ychwanegu at y maes iechyd ochr yn ochr â'r dangosyddion presennol sy'n ymwneud â babanod a phlant, gellid dadlau bod gan dderbyniad brechiadau ymhlith plant gysylltiad mwy uniongyrchol ag iechyd plant bach yn y dyfodol na phwysau geni isel a gordewdra.
Er bod y data hyn yn debygol o fod yn gadarn ar lefel AGEHIau ac felly y gellid eu defnyddio fel sail ar gyfer cyfrifo safleoedd ym MALlC, mae'n annhebygol y cawn ganiatâd i gyhoeddi data'r dangosydd ar lefel AGEHIau oherwydd pryderon ynghylch preifatrwydd. Felly, byddai setiau data MALlC ar gyfer y dangosydd posibl hwn ar lefel AGEHG ac uwch, yn debyg i'r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd plant â gordewdra ym MALlC 2019.
Dangosyddion arfaethedig sy'n casglu gwybodaeth am gyflyrau penodol sydd wedi'u diagnosio
Nifer yr achosion o ganser
Nifer y bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser (pob math o falaenedd heb gynnwys canser y croen nad yw'n felanoma) fesul 100,000 o bobl yng Nghymru yw'r dangosydd hwn, a chaiff ei safoni'n anuniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw'r boblogaeth. Y ffynhonnell ddata ar gyfer y dangosydd hwn yw Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru.
Gwnaeth y grŵp maes iechyd drafod cynnwys data ar gam y canser ar adeg diagnosis er mwyn adlewyrchu sgrinio effeithiol, llythrennedd iechyd a mynediad at wasanaethau iechyd mewn ardal, a allai fod yn brocsis ar gyfer amddifadedd iechyd ehangach. Ar hyn o bryd, mae 10 mlynedd o ddata ar gamau canser ar gael, ond mae problemau o ran argaeledd ac ansawdd y data (megis gwahanol gyfnodau amser, gwahanol fathau o ganser, a rhywfaint o ddata coll neu anghyflawn, yn golygu y byddai llunio dangosydd addas yn dasg heriol. Am y rheswm hwn, nid ydym yn bwriadu cyflwyno dangosydd yn seiliedig ar gam y canser ar adeg diagnosis ar gyfer MALlC 2025.
Cafodd marwolaethau canser hefyd eu hystyried fel dewis arall yn lle nifer yr achosion am fod hynny'n mesur baich cyffredinol canser yn well. Fodd bynnag, gwelwyd nad oedd y data'n gadarn ar lefel ardaloedd bach ac roedd pryderon ynglŷn â gorgyffwrdd â'r gyfradd marwolaethau cynamserol, gan mai canser yw'r prif achos marwolaeth yng Nghymru.
Cyfartaledd 10 mlynedd yw dangosydd nifer yr achosion o ganser fel arfer, a bydd gennym ddata hyd at 2021 i'w defnyddio ym MALlC 2025. Byddwn yn archwilio effaith pandemig COVID-19 ar y data canser ac yn penderfynu gyda'r grŵp maes iechyd p'un a ddylid cynnwys blynyddoedd penodol yn y dangosydd neu eu hepgor ohono oherwydd problemau yn ymwneud ag ansawdd data.
Cyflyrau iechyd meddwl neu gronig a gofnodwyd gan feddyg teulu
Ym MALlC 2019, cafodd dangosyddion newydd eu cyflwyno ar gyfer canran y bobl â diagnosis o gyflwr cronig neu gyflwr iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddyg teulu. Mae manylion llawn y cyflyrau sydd wedi'u cynnwys i'w gweld yn adroddiad technegol MALlC 2019.
Cafodd y data ar gyfer y dangosyddion hyn eu casglu ynghyd o systemau practisau meddygon teulu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru gan ddefnyddio'r adnodd echdynnu data Audit+. Caiff y feddalwedd hon ei dirwyn i ben ym mis Mawrth 2025, a cheir ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â'r cynlluniau a'r amseriad ar gyfer cyflwyno meddalwedd newydd yn ei le.
Y cyfnod cyfeirio delfrydol ar gyfer dangosyddion wedi'u diweddaru fyddai gwanwyn 2025, yn dilyn adolygiad o'r cyflyrau i'w cynnwys yn y data, ond ceir risg na fyddwn yn gallu diweddaru'r data yn ystod y cyfnod rhwng dirwyn y feddalwedd bresennol i ben (mis Mawrth 2025) a rhoi meddalwedd newydd ar waith (i'w gadarnhau).
Felly, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyflwyno diweddariad data ar gyfer y sefyllfa fel yr oedd ym mis Gorffennaf 2024 gan ddilyn yr un fanyleb ag ar gyfer MALlC 2019, ac rydym yn bwrw ymlaen â gwaith sicrwydd ansawdd data gyda'r bwriad o ddefnyddio'r data hyn ym MALlC 2025. Wrth i'r sefyllfa o ran yr adnodd echdynnu data newydd ddod yn gliriach, byddwn yn asesu i weld a ellir llunio diweddariad ar gyfer 2025 ond, o ystyried yr amserlenni sydd dan sylw, mae hyn yn annhebygol.
Byddwn yn adolygu'r disgrifiadau technegol o'r dangosyddion hyn yn adroddiadau MALlC 2025, er mwyn sicrhau ein bod yn tynnu sylw at gyfyngiadau'r dangosyddion sy'n seiliedig ar ddata meddygon teulu fel dull o fesur angen (yn hytrach na chyflenwad).
Dangosyddion arfaethedig sy'n casglu gwybodaeth am statws iechyd y boblogaeth yn fwy cyffredinol
Salwch cyfyngol hirdymor
Ar gyfer MALlC 2019, daeth nifer y bobl fesul 100,000 â salwch cyfyngol hirdymor, wedi'i safoni'n uniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw'r boblogaeth, o Gyfrifiad 2011. Byddwn yn diweddaru'r dangosydd hwn â data newydd o Gyfrifiad 2021. Mae salwch cyfyngol hirdymor yn cwmpasu unrhyw salwch hirdymor, problem iechyd neu anabledd sy'n cyfyngu ar weithgareddau beunyddiol neu waith.
Cafodd geiriad cwestiwn y cyfrifiad ei ddiweddaru rhwng 2011 a 2021 er mwyn cyd-fynd yn well â'r model cymdeithasol o anabledd. Fodd bynnag, mae dadansoddiad o'r data yn dangos cydberthyniad agos rhwng data 2011 a 2021, sy'n awgrymu nad yw hyn wedi newid natur y dangosydd yn sylweddol.
Cyfradd marwolaethau cynamserol
Caiff marwolaeth ei diffinio fel un gynamserol os bydd yn digwydd cyn i'r unigolyn gyrraedd 75 oed. Cafodd y dangosydd hwn ei gynnwys ym MALlC 2019, yn seiliedig ar 10 mlynedd o ddata ar farwolaethau cofrestredig gan SYG. Mae'r dangosydd hwn wedi'i safoni yn ôl oedran a rhyw ac fe'i cyflwynir fel cyfradd fesul 100,000. Rydym yn bwriadu cynnwys y dangosydd hwn gan ddefnyddio data mwy diweddar a byddwn yn archwilio gyda'r grŵp maes iechyd pa flynyddoedd i'w defnyddio, gan ystyried effaith pandemig COVID-19 yn arbennig.
Ystyr marwolaethau y gellid eu hosgoi (SYG) yw marwolaethau o achosion yr ystyrir y gellid eu hosgoi ym mhresenoldeb ymyriadau gofal iechyd neu iechyd y cyhoedd amserol ac effeithiol. Ystyriwyd cynnwys y cysyniad hwn ym MALlC 2025 fel dewis arall yn lle marwolaethau cynamserol. Fodd bynnag, yn ogystal â'r ffaith nad yw'n cynnig data digon cadarn ar lefel ardaloedd bach, mae'r cysyniad o farwolaethau y gellid eu hosgoi yn un eithaf cymhleth i'w ddiffinio ac mae'n oddrychol, sy'n golygu ei bod yn llai dymunol ei gynnwys ym MALlC, o gymharu â'r gyfradd marwolaethau cynamserol.
Iechyd deintyddol
Rydym yn archwilio data newydd ar lefel cleifion o asesiadau iechyd y geg a gynhelir yn ystod apwyntiadau deintyddol y GIG. Mae'r data'n cynnwys asesiadau o sgoriau pydredd dannedd cleifion, iechyd peridontol, a/neu blac cleifion. Mae'r data'n cynnwys oedran, a allai fod yn bwysig wrth greu dangosydd posibl gan fod anghenion iechyd deintyddol yn wahanol ar gyfer oedolion a phlant, a chan fod canran uwch o blant yn cael triniaethau iechyd deintyddol y GIG nag oedolion.
Mae data ar lefel cleifion ar gael o 2021-22 tan 2023-24. Fodd bynnag, nid ydym mewn sefyllfa eto i wneud arfarniad ar sail gwybodaeth lawn gan fod problemau methodolegol sy'n dal heb eu datrys cyn inni allu cyfrifo niferoedd cywir yn hyderus ar sail y set ddata newydd. Rydym yn disgwyl, erbyn dechrau 2025, y bydd gennym y gwaith dadansoddi sy'n ofynnol i benderfynu a ellid creu dangosydd addas ar gyfer MALlC.
Mae gennym rai pryderon na fydd y dangosydd hwn yn casglu gwybodaeth briodol am iechyd deintyddol cyffredinol y boblogaeth o bosibl, am fod y gofal deintyddol sydd ar gael drwy'r GIG wedi'i ddosbarthu ac yn cael ei ddefnyddio'n anghyson ledled Cymru. Mae nifer sylweddol o bobl naill ai'n methu â chael gafael ar ofal deintyddol y GIG neu'n defnyddio deintyddion preifat. Byddwn yn ystyried hyn ymhellach wrth i ddata ddod ar gael.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Rydym wedi archwilio arolwg iechyd a lles myfyrwyr ysgolion uwchradd a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, ac mae potensial i lunio dulliau o fesur llesiant meddyliol a gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau mewn perthynas â chydsyniad i ddefnyddio'r data at ddibenion gwahanol, nid oes niferoedd digonol o ymatebion sy'n cynnwys lleoliad cartref daearyddol priodol y gallem eu defnyddio i sicrhau data cadarn ar lefel ardaloedd bach. Byddwn yn gweithio gyda pherchnogion yr arolwg i adolygu hyn yn rheolaidd ar gyfer fersiynau o'r arolwg a'r mynegai yn y dyfodol.
Pwysoliad dangosyddion
O fewn y maes iechyd, defnyddir techneg dadansoddi ffactorau i benderfynu ar bwysoliadau'r dangosyddion sy'n rhan o'r maes, ac rydym yn cynnig parhau i wneud hyn.
Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y dadansoddiad ffactorau yn rhoi pwysoliadau isel i rai dangosyddion. Bydd hyn yn golygu na fydd y dangosyddion hyn yn ychwanegu gwybodaeth sylweddol at y dull o fesur amddifadedd yn y maes hwn. Felly, o dan amgylchiadau o'r fath, byddwn yn ystyried eu hepgor o'r mynegai.
Materion i ymateb iddynt
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes iechyd yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer brechiadau ymhlith plant: derbyniad yr holl imiwneiddiadau rheolaidd ymhlith plant 4 oed.
- Rhestrwch y canlynol yn eu trefn, o ran sut y byddech yn blaenoriaethu'r tri dangosydd sy'n ymwneud â babanod a phlant i'w cynnwys ym MALlC 2025 (pwysau geni isel, plant sy'n ordew, a brechiadau ymhlith plant (dangosydd newydd posibl)).
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes iechyd yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer iechyd deintyddol.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes iechyd.
Maes addysg
Diben y maes hwn yw cofnodi graddau'r amddifadedd sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bwriedir iddo adlewyrchu anfanteision addysgol mewn ardal o ran diffyg cymwysterau a sgiliau. Mae'r dangosyddion arfaethedig yn casglu gwybodaeth am gyrhaeddiad isel ymhlith plant a phobl ifanc a diffyg cymwysterau ymhlith oedolion.
Trosolwg o'r cynigion
Ers i MALlC 2019 gael ei gyhoeddi, mae'r pandemig wedi effeithio ar ysgolion yng Nghymru ac maent wedi dechrau newid i'r cwricwlwm newydd. Oherwydd hyn, nid yw rhai o'r dangosyddion sy'n ymwneud ag ysgolion a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gael neu, lle mae data ar gael, mae'r data hynny'n gyfyngedig.
Ar gyfer addysg gynradd, rhoddwyd y gorau i gasglu data ar gyrhaeddiad (yn y cyfnod sylfaen a CA2) yn rheolaidd yn 2018/19. Mae hyn, ynghyd â'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd fesul cam ar ôl y pandemig, yn golygu nad oes data digon cyson neu gadarn i ddiweddaru'r dangosyddion ar gyfer cyrhaeddiad mewn ysgolion cynradd a ddefnyddiwyd yn 2019.
Mae mwy o ddata ar gael ar gyfer addysg uwchradd. Parhaodd y broses o gasglu data Cyfnod Allweddol 3 (CA3) drwy gydol y pandemig, ond daeth i ben yn 2023/24. Mae data TGAU ar gael ar gyfer pob blwyddyn. Mae data ar bresenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar gael ar gyfer pob blwyddyn hefyd.
Fodd bynnag, mae gennym bryderon ynglŷn â defnyddio data a gasglwyd yn ystod y pandemig. Cafodd data a gasglwyd gan ysgolion yn ystod y pandemig eu haddasu er mwyn ateb heriau'r pandemig. Er enghraifft, cafodd data ar bresenoldeb eu casglu bob wythnos gan ddefnyddio gwahanol ddiffiniadau o absenoldeb, a chafodd graddau arholiadau cyhoeddus eu rhoi yn seiliedig ar fodel graddau a bennwyd neu a aseswyd gan ganolfannau. Mae'n bosibl na fydd data a gasglwyd yn ystod y cyfnod hwn yn gynrychiadol o amddifadedd sy'n gysylltiedig ag addysg yn fwy cyffredinol oherwydd amodau'r pandemig. Am y rheswm hwn, ni fyddwn yn defnyddio data a gasglwyd yn ystod anterth y pandemig (2019/20, 2020/21 a 2021/22) ar gyfer y dangosyddion sy'n ymwneud ag ysgolion ym MALlC 2025.
Rydym wedi dewis grwpio'r dangosyddion arfaethedig yn dybiannol mewn dau gategori, a rhoddir crynodeb o'n cynigion ar gyfer pob categori isod, gyda mwy o fanylion i ddilyn.
Dangosyddion deilliannau / cyfraddau absenoldeb ysgolion
- Rydym yn cynnig diweddaru sgôr pwyntiau cyfartalog CA4 a datblygu dangosyddion cyfradd absenoldeb mynych ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd.
Dangosyddion sy'n ymwneud ag addysg ôl-orfodol / y boblogaeth ehangach
- Rydym yn cynnig diweddaru dangosyddion ar gyfer cyfran y disgyblion CA4 sy'n mynd i addysg uwch a chyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau ac ystyried ehangu cwmpas y naill a'r llall er mwyn adlewyrchu amddifadedd addysgol yn well.
Dangosyddion arfaethedig
Sgôr pwyntiau cyfartalog CA4
Cafodd y dangosydd hwn ei gynnwys yn 2019. Mae'n mesur sgôr pwyntiau cyfartalog disgyblion Blwyddyn 11 yn seiliedig ar y graddau a enillwyd ym mhynciau craidd TGAU Cymraeg neu Saesneg, TGAU Mathemateg a TGAU Gwyddoniaeth. Y ffynhonnell ddata ar gyfer y dangosydd hwn yw'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a Chronfa Ddata Arholiadau Cymru.
Yn 2019, defnyddiwyd y dull mesur hwn am fod y sgôr Capio 9 (y prif ddull o fesur cyrhaeddiad a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru) yn newydd ac am nad oedd digon o ddata i ffurfio amcangyfrifon cadarn. Rydym yn cynnig parhau i ddefnyddio'r sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer pynciau craidd yn hytrach na'r sgôr Capio 9 am y rhesymau canlynol:
- mae'n bosibl bod sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer pynciau craidd yn ffordd fwy dibynadwy o fesur amddifadedd o ystyried y lefel uchel bosibl o amrywioldeb rhwng ysgolion oherwydd y pandemig
- dull interim o fesur perfformiad yw'r sgoriau Capio 9 ac mae'n bosibl na fydd yn bodoli erbyn y fersiwn nesaf o MALlC
- dangosodd dadansoddiad o'r ddau ddull mesur gydberthyniad agos, sy'n awgrymu na fydd y dewis yn cael effaith sylweddol ar sgoriau MALlC
Yn 2019, cyfunwyd gwerth tair blynedd o ddata i lunio'r dangosydd. Rydym yn cynnig defnyddio gwerth dwy flynedd o ddata (2022/23 a 2023/24) i gasglu gwybodaeth am amddifadedd o'r cyfnod ar ôl y pandemig ond, os bydd angen data ychwanegol er mwyn sicrhau cwmpas digonol ar lefel ardaloedd bach, caiff data o 2018/19 eu defnyddio.
Roedd dangosydd MALlC 2019 yn ymgorffori data gan Adran Addysg Llywodraeth y DU mewn perthynas â disgyblion blwyddyn 11 mewn ysgolion yn Lloegr sy'n byw yng Nghymru. Byddwn yn cydgysylltu â'r Adran Addysg er mwyn cael data wedi'u diweddaru i'w mewnbynnu i'r dangosydd hwn.
Cyfradd absenoldeb mynych addysg gynradd
Mae'r dangosydd hwn yn newydd, ond mae'n debyg i'r gyfradd absenoldeb mynych a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019. Y prif wahaniaeth yw bod data ar bresenoldeb mewn addysg gynradd ac uwchradd wedi cael eu cyfuno yn 2019 i ffurfio un dangosydd ac, ar gyfer MALlC, rydym yn cynnig rhannu cyfraddau absenoldeb addysg gynradd ac uwchradd yn ddau ddangosydd. Mae'r dull hwn yn darparu dangosydd penodol ar gyfer addysg gynradd er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch a grëwyd gan y diffyg data ar gyrhaeddiad yn y cyfnod sylfaen a CA2. Mae'r dull hwn hefyd yn golygu y gellir dod o hyd i unrhyw wahaniaeth rhwng cyfraddau absenoldeb addysg gynradd ac uwchradd.
Y gwahaniaeth arall, o gymharu â MALlC 2019, yw newid i'r trothwy ar gyfer absenoldeb mynych. Yn 2019, y trothwy oedd colli 15% neu fwy o sesiynau ysgol hanner diwrnod. Ar gyfer 2025, rydym yn bwriadu defnyddio trothwy o 10% neu fwy o sesiynau hanner diwrnod, gan sicrhau bod MALlC yn gyson â diffiniad swyddogol Llywodraeth Cymru o ‘absenoldeb cyson’. Dangosodd dadansoddiad o'r data presennol ar absenoldeb mynych a gymerwyd ar drothwy o 10% a 15% gydberthyniad agos.
Ar gyfer plant oed ysgol gynradd, byddai data o 2022/23 a 2023/24 yn cael eu defnyddio. Y ffynhonnell ddata ar gyfer y dangosydd hwn yw CYBLD a'r Casgliad Data Presenoldeb.
Cyfradd absenoldeb mynych addysg uwchradd
Byddai cyfraddau absenoldeb mynych mewn ysgolion uwchradd yn dilyn yr un fethodoleg â'r dangosydd ar gyfer ysgolion cynradd. O ganlyniad i wahaniaethau yn amseriad y data sydd ar gael, mae'n bosibl y gallai'r gyfradd absenoldeb mynych ar gyfer ysgolion uwchradd ddefnyddio data o 2024/25 yn ogystal â 2022/23 a 2023/24.
Dangosodd dadansoddiad o ddata ysgolion cynradd ac uwchradd rywfaint o gydberthyniad rhyngddynt ond, yn ein barn ni, mae digon o amrywiad i gyfiawnhau rhannu'r dangosydd yn ddau.
Disgyblion CA4 sy'n mynd i addysg uwch
Bydd data ar lefel disgyblion o CYBLD yn cael eu paru â data Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) er mwyn mesur cyfran y disgyblion CA4 a aeth ymlaen i addysg uwch rywbryd yn ystod y pedair blynedd dilynol ar ôl gadael Blwyddyn 11. Cafodd y dangosydd hwn ei ddefnyddio yn 2019 ond, ar gyfer MALlC 2025, rydym yn bwriadu defnyddio cyfnod o bedair blynedd ar ôl gadael blwyddyn 11 (yn hytrach na thair). Bydd y newid hwn yn golygu bod modd cynnwys pobl a gymerodd flwyddyn i ffwrdd neu sydd wedi gohirio eu haddysg am reswm arall.
Rydym hefyd yn ystyried a ddylid cynnwys cyrchfannau eraill, megis dysgu ehangach neu ganlyniadau cyflogaeth parhaus, drwy gysylltu data â'r Astudiaeth Deilliannau Addysg Hydredol.
Oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu â chymwysterau isel
Dyma'r unig fesur arfaethedig o amddifadedd addysgol ymhlith oedolion. Mae'r dangosydd hwn yn debyg i ddangosydd cenedlaethol 8, sef canran yr oedolion sydd â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Fodd bynnag, y ffynhonnell ddata fydd Cyfrifiad 2021 yn hytrach na'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Cafodd y dangosydd hwn ei gynnwys ym MALlC 2019 ond, ar gyfer 2025, rydym yn bwriadu cynnwys y rhai y mae lefel eu cymwysterau uchaf yn ‘isel’ yn ogystal â'r rhai heb ddim cymwysterau. Ystyr cymwysterau isel yw cymwysterau lefel un fel y'u diffinnir gan SYG.
Mae cynnwys y rhai â chymwysterau isel yn angenrheidiol gan fod nifer y bobl heb ddim cymwysterau wedi bod yn lleihau dros y ddau ddegawd diwethaf, sy'n effeithio ar gadernid y dangosydd hwn ar gyfer ardaloedd bach.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen
Cafodd y dangosydd hwn ei gynnwys ym MALlC 2019 ond, oherwydd problemau'n ymwneud â chasglu data o ganlyniad i'r pandemig, nid oes data addas ar gael. Am y rheswm hwn, nid ydym yn ystyried y dangosydd hwn ar gyfer MALlC 2025.
Sgôr pwyntiau cyfartalog CA2
Cafodd y dangosydd hwn ei gynnwys ym MALlC 2019. Yn debyg i sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen, tarfodd y pandemig a'r newid i'r cwricwlwm newydd ar y gwaith o gasglu'r data hyn. Oherwydd hyn, ni fydd modd defnyddio sgoriau CA2 fel dangosydd.
Dangosydd asesiadau dechreuol o ddisgyblion dosbarth derbyn
Cafodd y dangosydd hwn ei ystyried ond ni chafodd ei gynnwys ym MALlC 2019. Ar ôl y pandemig, ni chaiff data dechreuol eu casglu'n rheolaidd mwyach, ac felly nid ydym yn ystyried hyn ar gyfer dangosydd.
Asesiadau personol addasol
Mae disgyblion rhwng 2 a 9 oed yn sefyll asesiadau personol addasol ar gyfer darllen a rhifedd. Mae'r rhain wedi disodli'r profion cenedlaethol a gafodd eu dirwyn i ben yn raddol rhwng 2018 a 2020. Ni ydym yn cynnig defnyddio data asesiadau personol addasol ar gyfer MALlC gan fod iddynt yr anfanteision canlynol:
- dim ond ar ran o'r wybodaeth a'r sgiliau y disgwylir i ddisgyblion eu dysgu o dan y cwricwlwm cenedlaethol y caiff disgyblion eu profi, ac felly nid yw'r profion yn rhoi darlun cyflawn o allu'r disgyblion yn yr un ffordd ag asesiadau athrawon
- mae'r asesiadau'n rhoi cipolwg ar allu disgybl ar ddiwrnod penodol yn y flwyddyn academaidd a gall llawer o ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig ag amddifadedd ddylanwadu ar y marc a enillir yn y prawf ar y diwrnod hwnnw
- mae natur addasol yr asesiadau'n golygu bod adrodd arnynt yn her ac rydym yn gyndyn o'u defnyddio'n ehangach gan eu bod wedi'u bwriadu i gael eu defnyddio gan yr athro yn hytrach nag fel procsi ar gyfer perfformiad
Asesiadau CA3
Yn wahanol i CA2 a'r cyfnod sylfaen, parhawyd i gasglu data ar CA3 drwy gydol y pandemig. Gwnaethom ystyried defnyddio data CA3 fel procsi ar gyfer dangosydd CA2 ond, ar ôl dadansoddi'r data, gwelwyd mai ychydig o gydberthyniad oedd rhwng y data CA3 a'r data CA2. Roedd gennym hefyd bryderon ynglŷn â chyfrif dwbl a chadernid y data. Byddai rhai o'r carfannau hŷn sy'n bresennol yn y data CA3 wedi symud i CA4 ac felly byddai eu canlyniadau'n cael eu cyfrif yn y ddau ddangosydd. Am y rhesymau hyn, nid ydym yn bwriadu cynnwys dangosydd cyrhaeddiad CA3.
Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
Yn gysyniadol, byddai pobl ifanc sy'n NEET yn ffordd addas o fesur amddifadedd addysgol. Fodd bynnag, gan fod y data ar nifer y rhai sy'n NEET yn cael eu casglu o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, nid oes modd cyfrifo dangosydd ar lefel ardaloedd bach.
Pwysoliad dangosyddion
O fewn y maes addysg, defnyddir techneg dadansoddi ffactorau i benderfynu ar bwysoliadau'r dangosyddion sy'n rhan o'r maes, ac rydym yn cynnig parhau i wneud hyn ar gyfer MALlC 2025. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y dadansoddiad ffactorau yn rhoi pwysoliadau isel i rai dangosyddion. Bydd hyn yn golygu na fydd y dangosyddion hyn yn ychwanegu gwybodaeth sylweddol at y dull o fesur amddifadedd yn y maes hwn. Dan amgylchiadau o'r fath, byddwn yn ystyried eu hepgor o'r mynegai.
Materion i ymateb iddynt
- I ba raddau rydych chi'n cytuno â’r newidiadau arfaethedig canlynol i ddangosyddion y maes addysg?
- Gwahanu'r dangosydd absenoliaeth mewn i ddau ddangosydd ar wahân ar gyfer absenoliaeth mynych ysgol gynradd ac uwchradd
- Defnyddio trothwy o golli 10% (yn hytrach na 15%) neu fwy o sesiynau ysgol hanner diwrnod ar gyfer absenoliaeth mynych
- Cynnwys cyrchfannau eraill, megis dysgu ehangach neu ganlyniadau cyflogaeth barhaus, yn y dangosydd ar gyfer disgyblion sy'n gadael CA4
- Cynnwys y rhai â chymwysterau lefel 1, yn ogystal â rheini heb unrhyw gymwysterau, yn y dangosydd ehangach 'oedolion heb unrhyw gymwysterau neu â chymwysterau isel'
- O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes addysg, ydych chi'n credu y dylai pwysoliad y maes fod yn uwch, yn is neu'r un fath â'r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, oedd yn 14%?
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes addysg.
Maes mynediad at wasanaethau
Diben y maes hwn yw casglu gwybodaeth am amddifadedd o ganlyniad i anallu cartref i fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau yr ystyrir bod eu hangen i fyw o ddydd i ddydd, yn ffisegol ac ar-lein. Mae hyn yn cwmpasu amddifadedd materol (er enghraifft methu â chael bwyd) ac agweddau cymdeithasol ar amddifadedd (er enghraifft methu â mynd i weithgareddau ar ôl ysgol).
Trosolwg o'r cynigion
Yn wahanol i'r saith maes arall, nid yw dull mesur presennol y maes mynediad at wasanaethau yn ddull uniongyrchol o fesur amddifadedd y gellir ei ddefnyddio ar ei ben ei hun; yn hytrach na hynny, mae'n ffactor cyfrannol a ddaw'n bwysig fel agwedd ar amddifadedd lluosog. Hynny yw, mae mynediad gwael at wasanaethau yn ffactor a all waethygu mathau eraill o amddifadedd sy'n bodoli mewn ardal.
Yn hanesyddol, mae pwysoliad cymharol isel wedi cael ei roi i'r maes yn y mynegai amddifadedd cyffredinol ond caiff ei ddefnyddio'n aml ar ei ben ei hun i fesur prinder er mwyn gwneud gwaith dadansoddi neu gyfrannu at fformiwlâu cyllido.
Ym MALlC 2019, roedd y maes hwn yn mesur mynediad ffisegol drwy amseroedd teithio at wyth gwasanaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (bws cyhoeddus, trên cyhoeddus, cerdded, a choets genedlaethol) a naw gwasanaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat (car preifat). Cafodd dangosydd mynediad at wasanaethau digidol ei ychwanegu o'r newydd ym MALlC 2019, gan fesur mynediad at fand eang cyflym iawn.
Mae'r disgrifiad o ddangosyddion arfaethedig isod wedi'i rannu'n ddwy ran. Mae'r rhan gyntaf yn cynnwys gwasanaethau lle y byddwn yn mesur amser teithio ar gyfer mynediad ffisegol, ac mae'r ail ran yn cynnwys y dangosydd ar gyfer mynediad at wasanaethau ar-lein.
Dangosyddion arfaethedig ar gyfer mynediad ffisegol at wasanaethau
Ein cynnig yw gwneud cyn lleied â phosibl o newid i'r rhestr o wasanaethau y mesurwn amseroedd teithio atynt ym MALlC 2019 ac archwilio'r syniad o ychwanegu dangosydd newydd sy'n mesur amseroedd teithio at wasanaethau gofal plant.
Mae gwybodaeth fwy technegol am y dangosyddion presennol a sut y caiff y cyfrifiadau eu gwneud ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2019. Gwneir gwelliannau lle bo modd.
Siopau bwyd (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Siop lle y gallwch brynu bara a llaeth. Mae hyn yn cynnwys siopau cyfleustra, archfarchnadoedd annibynnol, manwerthwyr bwyd wedi'i rewi ac archfarchnadoedd.
Meddygfeydd (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Cyfleusterau lle mae meddygon teulu'r GIG wedi'u cofrestru i ymarfer.
Cyfleusterau chwaraeon (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Safle nad yw'n breifat a/neu sy'n anfasnachol (h.y. am ddim neu dalu am chwarae) sy'n cynnwys un o'r canlynol: neuadd chwaraeon, stiwdio, cae glaswellt, cae pob tywydd, pwll nofio ac ystafell iechyd a ffitrwydd, neu ddau neu fwy o'r canlynol (gallant fod ar y cyd ag un o'r blaenorol): cwrt sboncen, cwrt tennis awyr agored, lawnt fowlio awyr agored, canolfan dennis dan do, bowls dan do.
Gorsafoedd petrol (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Dim ond yn yr elfen trafnidiaeth breifat o'r dangosydd y mae wedi'i chynnwys.
Fferyllfeydd (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Siop lle y caiff cyffuriau meddyginiaethol eu rhoi ar bresgripsiwn a'u gwerthu. Mae hyn yn cynnwys fferyllfeydd o fewn cyfadeilad neu archfarchnad fwy.
Swyddfeydd post (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Mae hyn yn cynnwys pob swyddfa bost sefydlog.
Ysgolion cynradd (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Ysgolion sy'n rhoi addysg i blant 5 i 11 oed (gan gynnwys ysgolion canol). Mae'r amseroedd teithio a gynhwyswyd yn y dull cyfrifo yn gyfyngedig i'r rhai lle roedd plentyn o fewn y cod post wedi'i gofrestru mewn ysgol gynradd. Daw'r data ar gofrestriadau ag ysgolion o CYBLD.
Llyfrgelloedd cyhoeddus (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Llyfrgelloedd sydd ar agor i'r cyhoedd ac sy'n aml yn gweithredu fel hybiau digidol. Nid yw hyn yn cynnwys llyfrgelloedd symudol, am nad oes digon o ddata daearyddol.
Ysgolion uwchradd (wedi'u cynnwys yn flaenorol)
Ysgolion sy'n rhoi addysg i blant 11 i 16 oed (gan gynnwys ysgolion canol). Mae'r amseroedd teithio a gynhwyswyd yn y dull cyfrifo yn gyfyngedig i'r rhai lle roedd plentyn o fewn y cod post wedi'i gofrestru mewn ysgol uwchradd. Daw'r data ar gofrestriadau ag ysgolion o CYBLD.
Gofal plant (newydd)
Gall mynediad at ofal plant arwain at gyfleoedd cyflogaeth i rieni, yn enwedig y rhai â phlant cyn oed ysgol, sy'n debygol o leihau amddifadedd materol a chymdeithasol aelodau aelwydydd. Rydym yn archwilio hyfywedd cynnwys dangosydd ar gyfer agosrwydd at wasanaethau gofal plant sydd wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Gall darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru ag AGC gael eu dosbarthu'n ofalwyr plant neu'n wasanaethau gofal dydd, ac mae'r ail yn cynnwys sawl is-ddosbarthiad: gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i oriau ysgol, crèche a darpariaeth chwarae mynediad agored. Er mai'r gred oedd mai gwasanaethau gofal dydd llawn yw'r gwasanaethau pwysicaf yng nghyd-destun cynnig cyfleoedd cyflogaeth, byddwn yn archwilio addasrwydd pob un o'r is-ddosbarthiadau hyn o ran cyfrannu at y dangosydd.
Er mwyn asesu'r angen am ofal plant ar lefel ardaloedd bach, rydym yn ymchwilio i ddata Cyfrifiad 2021 er mwyn canfod ardaloedd allbwn â nifer rhesymol o blant hyd at 4 oed, sef cyn oed ysgol yn fras. Gall hyn helpu i adnabod ardaloedd y mae rhieni sydd â phlant bach yn debygol o fyw ynddynt (yn hytrach nag ardaloedd â phoblogaethau myfyrwyr neu bobl sydd wedi ymddeol yn bennaf, er enghraifft). Byddwn yn archwilio effeithiau peidio â chynnwys ardaloedd â niferoedd bach o blant ar y dangosydd.
Dangosyddion arfaethedig ar gyfer mynediad at wasanaethau digidol
Ym MALlC 2019, cafodd mynediad digidol ei fesur ar sail mynediad at fand eang cyflym iawn (cyflymderau o 30Mbs o leiaf), a'r dangosydd oedd cyfran yr eiddo preswyl mewn AGEHI nad oeddent yn gallu cael y cyflymderau hyn. Ystyrir mai'r cyflymder hwn yw'r isafswm sy'n ofynnol er mwyn gallu cyflawni tasgau ar-lein sy'n hanfodol i fywyd beunyddiol. Mae data ar gael i'r cyhoedd gan Ofcom.
Mae nifer yr AGEHIau lle mae band eang cyflym iawn ar gael i bawb wedi cynyddu ers MALlC 2019, o 34% i 43.5%. Er bod hyn yn golygu bod y data'n llai addas ar gyfer gosod AGEHIau mewn trefn gan y bydd gan lawer o AGEHIau yr un sgoriau, maent yn dal i gynnig ffordd o restru a dadansoddi'r ardaloedd â'r mwyaf o amddifadedd o ran band eang cyflym iawn.
Rydym wedi ystyried a ellid cyflwyno metrig ychwanegol er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng yr AGEHIau hynny na ellir eu gosod mewn trefn ar sail diffyg argaeledd band eang cyflym iawn, megis cyflymder lawrlwytho cyfartalog neu gyfran yr eiddo na allant gael cyflymder uwch (hefyd ar gael gan Ofcom). Fodd bynnag, penderfynwyd bod y dulliau mesur hyn yn gysyniadol wannach fel ffyrdd o fesur amddifadedd, gan fod iddynt elfennau o ddewis defnyddwyr, neu fynd y tu hwnt i ofynion dyddiol nodweddiadol. Byddwn yn ymchwilio i effeithiau defnyddio dulliau mesur o'r fath pan gaiff set ddata nesaf Ofcom ei chyhoeddi.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Mynediad at fannau gwefru cerbydau trydan
Cafodd mynediad at fannau gwefru cerbydau trydan ei godi fel dangosydd posibl gan fod cerbydau trydan ac ynni adnewyddadwy wedi dod yn fwyfwy pwysig a chyffredin dros y blynyddoedd diwethaf.
Er bod perchnogaeth cerbydau trydan wedi bod yn cynyddu dros y degawd diwethaf a bod y cynnydd hwn wedi cyflymu mewn blynyddoedd diweddar, mae ystadegau Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a'r DVLA yn dangos mai'r ganran o gerbydau trwyddedig preifat yng Nghymru a oedd yn gerbydau plygio i mewn (cerbydau a ddefnyddir ar y ffyrdd sy'n defnyddio technoleg plygio i mewn i gysylltu â ffynhonnell drydan) oedd 1.1% yn nhrydydd chwarter 2023. Mae hyn yn dangos na fyddai prinder mannau gwefru cerbydau trydan yn cael effaith sylweddol ar y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac felly nid yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer dangosyddion MALlC.
Caiff y dangosydd hwn ei adolygu mewn diweddariadau i'r mynegai yn y dyfodol.
Fforddiadwyedd a sgiliau digidol
Cydnabyddir mai dim ond un agwedd ar allgáu digidol yw mynediad at seilwaith, fel y'i mesurir yn y dangosydd mynediad digidol presennol. Mae Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol: adroddiad terfynol yn tynnu sylw at yr angen am ddull cyfannol sy'n ystyried rhwystrau y tu hwnt i seilwaith, megis fforddiadwyedd, sgiliau ac ymwybyddiaeth o risg.
Er nad oes set ddata ar lefel AGEHIau yn bodoli sy'n cynrychioli fforddiadwyedd mynediad digidol, caiff hyn ei fesur yn anuniongyrchol drwy faes incwm MALlC. O ran sgiliau digidol, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol sy'n cynrychioli'r gallu i gyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu â chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus. Mae gwaith ar fesur cynnydd tuag at hyn yn mynd rhagddo drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, ond nid yw'r arolwg yn rhoi amcangyfrifon cadarn fel sy'n ofynnol ym MALlC.
Byddwn yn monitro datblygiadau yn y maes pwnc hwn ar gyfer diweddariadau i'r mynegai yn y dyfodol.
Gwasanaethau data symudol
Yn y gorffennol, cafwyd cefnogaeth o blaid cynnwys dangosydd ar gyfer ardaloedd heb signal ffôn symudol yng Nghymru. Rydym wedi dadansoddi data Ofcom i ganfod canran y safleoedd sydd â dros 99% neu 100% o signal gan bob gweithredwr, ar gyfer gwasanaethau 4G yn unig a gwasanaethau data yn gyffredinol.
Mae'r data hyn ar gael ar gyfer safleoedd dan do, safleoedd awyr agored a holl dirfas y DU. Mae cyngor gan Ofcom yn awgrymu bod data ar fynediad ar safleoedd awyr agored o ansawdd gwell na'r data ar fynediad ar safleoedd dan do at ddibenion y mynegai, am fod pobl yn fwy tebygol o ddefnyddio band eang sefydlog pan fyddant dan do ac am ei bod yn naturiol i ddefnydd fod yn is y tu allan i aneddiadau yn set ddata'r tirfas. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gan gyfrannau mawr o AGEHIau yng Nghymru dros 99% o signal ar gyfer safleoedd awyr agored, sy'n golygu bod y mesur hwn yn anaddas fel dangosydd MALlC.
Datblygiadau posibl eraill
Mae mesur mynediad at wasanaethau ffisegol yn faes sy'n destun ymchwiliadau ar hyn o bryd mewn nifer o adrannau'r llywodraeth, a'r byd academaidd. Rydym yn monitro datblygiadau yn y maes hwn yn ofalus ac, er nad oes gennym gynlluniau ar hyn o bryd i fabwysiadu dull mesur amgen ar gyfer MALlC, byddwn yn ystyried cynnydd ac addasrwydd y mesurau hyn yn gynnar yn 2025.
Pwysoliad dangosyddion
Ar gyfer MALlC 2019, roedd y dangosyddion amseroedd teithio yn gyfartaleddau wedi'u pwysoli o'r amseroedd teithio ar drafnidiaeth breifat a chyhoeddus i bob gwasanaeth (ac eithrio gorsafoedd petrol). Cafodd y pwysoliadau eu cyfrifo ar gyfer pob ardal fach gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2011 ar berchnogaeth ceir a nifer yr oedolion 17 oed a throsodd, a chânt eu diweddaru i ddefnyddio data o Gyfrifiad 2021 ar gyfer MALlC 2025. Defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfuno'r dangosyddion canlyniadol ar gyfer pob gwasanaeth.
Ym MALlC 2019, rhoddwyd pwysoliad o 90% o'r maes cyfan i'r dangosyddion amseroedd teithio gyda'i gilydd, a rhoddwyd pwysoliad o 10% i'r dangosydd gwasanaethau digidol.
Yn sgil y posibilrwydd o gynnwys dangosydd newydd ar gyfer gofalwyr plant a phwysigrwydd cynyddol mynediad digidol, byddwn yn adolygu'r pwysoliadau hyn gyda'n grŵp maes mynediad at wasanaethau.
Materion i ymateb iddynt
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes mynediad at wasanaethau yw'r dangosydd newydd posibl sy'n mesur amseroedd teithio at wasanaethau gofal plant.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau.
Maes tai
Yn gysyniadol, diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Yma, mae amodau byw yn golygu addasrwydd y tai ar gyfer y sawl sy'n byw ynddynt, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, ac addasiadau angenrheidiol.
Mae tai fel elfen o amddifadedd lluosog yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r meysydd eraill, felly ni fyddem bob amser yn disgwyl cydberthyniad agos rhwng dulliau o fesur amddifadedd tai ac amddifadedd cyffredinol. Fodd bynnag, yn yr un modd â mynediad gwael at wasanaethau, gall effaith gyfansawdd tai gwael ynghyd ag elfennau eraill o amddifadedd, megis iechyd, fod yn sylweddol, ac mae'n bwysig casglu gwybodaeth am hyn.
Yn 2019, roedd y maes yn cynnwys dau ddangosydd â phwysoliad cyfartal, sef:
- dangosydd ar gartrefi gorlawn sy'n mesur canran y bobl sy'n byw mewn cartrefi gorlawn (mesur ystafelloedd gwely yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011)
- dangosydd wedi'i fodelu newydd ar dai o ansawdd gwael a oedd yn mesur y tebygolrwydd y bydd tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol (er enghraifft, y risg o gwympo neu dai oer), ac fe'i cyfrifwyd gan ddefnyddio cymysgedd o ffynonellau data arolygon a ffynonellau data gweinyddol gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE)
Trosolwg o'r cynigion
Yr opsiwn a ffefrir gennym yw cynnwys y dangosyddion canlynol yn y maes ar gyfer 2025:
- gorlenwi (mesur ystafelloedd gwely yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021) er mwyn casglu gwybodaeth am argaeledd ac, i ryw raddau, amodau byw
- os bydd modd, dull o fesur effeithlonrwydd ynni (gan ddefnyddio data o gofnodion Tystysgrif Perfformiad Ynni), gan gasglu gwybodaeth am amodau ffisegol ac amodau byw
- os bydd modd ac os bydd yn briodol, dull o fesur fforddiadwyedd tai, a fynegir fel anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ymuno â'r farchnad rhentu preifat
Os bydd y dangosyddion newydd hyn yn ddichonadwy, byddwn yn ystyried a yw'r gwerth a ychwanegir ganddynt at y maes yn cyfiawnhau'r adnoddau y bydd eu hangen i'w datblygu. Byddem yn gwerthfawrogi adborth ar ba mor dda y mae'r cynigion newydd yn casglu gwybodaeth am amddifadedd tai fel y'i diffinnir uchod yn eich barn chi, ac unrhyw dystiolaeth i ategu hyn. Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod ble y gallai dangosyddion gael eu defnyddio mewn ffyrdd ehangach o bosibl, a beth allai'r ffyrdd hynny fod.
Os na fydd yn ddichonadwy datblygu dulliau cadarn o fesur aneffeithlonrwydd ynni neu fforddiadwyedd tai, rydym yn cynnig ailddefnyddio rhywfaint o'r data ar ansawdd tai gwael wedi'u modelu a luniwyd ar gyfer MALlC 2019, fel y disgrifir uchod. Er eu bod ychydig yn hen (ac nid yw diweddariad yn ddichonadwy ar hyn o bryd), byddem yn ystyried bod y data hyn yn dal yn gynrychioliad rhesymol o amddifadedd tai cymharol ar gyfer ardaloedd bach, yn absenoldeb opsiynau eraill gwell.
Dangosyddion arfaethedig
Cartrefi Gorlawn
Roedd dangosydd MALlC 2019 ar gartrefi gorlawn yn mesur canran y bobl a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn (mesur ystafelloedd gwely) o Gyfrifiad 2011. Caiff y diffiniadau o orlenwi eu hesbonio'n llawn ar wefan SYG (metadata Cyfrifiad 2021). Fel ar gyfer MALlC 2019, cynigir y dylai dangosydd sy'n seiliedig ar y mesur ystafelloedd gwely gael ei ddefnyddio ar gyfer MALlC 2025.
Mae data wedi'u diweddaru ar gael yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, ond dim ond ar sail aelwydydd y mae'r dadansoddiadau sydd eu hangen ar gyfer MALlC ar gael, ac nid ydynt ar gael ar sail preswylwyr mwyach, h.y. ceir data ar ganran yr aelwydydd sy'n orlawn, yn hytrach na chanran y bobl sy'n byw ar aelwydydd gorlawn.
Rydym wedi cymharu data ar orlenwi ar gyfer AGEHIau ar sail aelwydydd ac ar sail preswylwyr gan ddefnyddio allbynnau Cyfrifiad 2011 (sy'n cynnwys y ddau ddiffiniad) ac wedi canfod bod cydberthyniad agos, felly ni fydd newid rhwng y diffiniadau hyn yn cael fawr ddim effaith ar safleoedd ar gyfer y maes tai. Felly, rydym yn cynnig addasu'r diffiniad ar gyfer MALlC 2025 i fesur gorlenwi ar sail canran yr aelwydydd sy'n orlawn. Manteision hyn yw mwy o dryloywder a hygyrchedd (gan ei fod yn seiliedig ar ddata sydd eisoes wedi'u cyhoeddi gan SYG), cymharedd â'r dull ar gyfer Lloegr, a'r potensial am werth ychwanegol o ran galluogi defnyddwyr i gael dadansoddiadau ychwanegol o ddata'r dangosydd o dablau Cyfrifiad 2021 wedi'u teilwra ar wefan SYG.
Cyfran yr anheddau â pherfformiad ynni gwael
Rydym yn archwilio'r syniad o ddefnyddio data ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni i fesur ansawdd tai. Ceir dangosydd cenedlaethol cysylltiedig sy'n mesur canran yr anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol (dangosydd 33).
Mae cartrefi â pherfformiad effeithlonrwydd ynni gwael yn anos ac yn ddrutach i'w gwresogi, ac mae effeithiau posibl ar iechyd yn gysylltiedig â byw mewn cartref oer (Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin). Rydym yn cydnabod nad yw effaith perfformiad ynni eiddo ar ei breswylwyr yn syml, gan fod ffactorau eraill megis nodweddion preswylwyr yr aelwyd a'u gallu i fforddio i wresogi'r eiddo'n ddigonol hefyd yn bwysig. Fodd bynnag, caiff amddifadedd incwm ei fesur mewn rhan arall o MALlC, a'n barn ni yw nad yw'r dull mesur hwn yn casglu gwybodaeth am gyflwr ffisegol eiddo sy'n helpu i greu darlun o amddifadedd sy'n gysylltiedig â thai.
Mae'r MHCLG yn archwilio hyn ar hyn o bryd ar gyfer y diweddariad nesaf i fynegeion amddifadedd Lloegr, a ddisgwylir yn 2025 hefyd. Mae'n ystyried datblygu dangosydd newydd ar gyfer eiddo aneffeithlon o ran ynni, yn seiliedig ar sgoriau'r Weithdrefn Asesu Safonol o ddata Tystysgrifau Perfformiad Ynni. Gan nad oes gan tua 40% o eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni ddilys, mae gwaith datblygu'n mynd rhagddo i archwilio ffyrdd o wella'r ffigur hwn (drwy briodoli data, gan ddefnyddio setiau data cysylltiedig), a phrofi ansawdd a chadernid data. Gallai'r gwaith hwn gael ei ymestyn i Gymru, ac rydym yn bwriadu cydweithio â'r MHCLG ac eraill ar hyn.
Fforddiadwyedd tai
Ar gyfer mynegeion amddifadedd Lloegr, mae'r MHCLG yn caffael data ar fforddiadwyedd tai gan Brifysgol Heriot-Watt, gan fesur pa mor anodd yw dod yn berchen-feddiannydd neu ymuno â'r farchnad rhentu preifat, a fynegir fel anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ymuno â'r farchnad rhentu preifat.
Amcangyfrifon wedi'u modelu sy'n seiliedig ar brisiau tai chwartel is ac eiddo rhent preifat yn ôl maint annedd yn yr ardal berthnasol o'r farchnad dai (a ddyluniwyd i adlewyrchu'r ardaloedd lle mae pobl yn chwilio am dai) ac incymau aelwydydd wedi'u modelu ar lefel AGEHIau yw'r rhain. Mewn fersiynau blaenorol, mae amcangyfrifon wedi canolbwyntio ar aelwydydd iau er mwyn casglu gwybodaeth am y rhai sy'n ymuno â'r farchnad dai yn y ffordd orau. Mae rhagor o wybodaeth am y dull blaenorol i'w gweld yn adroddiad technegol mynegeion amddifadedd Lloegr ar gyfer 2019 (MHCLG).
Mae'r MHCLG yn cynnig cadw'r dangosydd(ion) ‘fforddiadwyedd tai’ oherwydd cydnabyddir bod hyn yn destun pryder cymdeithasol a phryder o ran polisi, ac mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau i ddatblygu cynlluniau a rhaglenni i fynd i'r afael ag anghenion sy'n deillio o gyfyngiadau ar fforddiadwyedd tai, y gallai'r data hyn eu llywio o bosibl. Mae'r dull hwn yn cael ei adolygu ar gyfer mynegeion 2025 Lloegr, gyda nifer o welliannau arfaethedig i'r fethodoleg a'r ffynonellau data. Hoffai'r MHCLG ymestyn y dull mesur hwn i ystyried pobl dros 40 oed, er mwyn adlewyrchu nifer cynyddol yr oedolion hŷn na allant gael tai fforddiadwy.
Yn unol ag argymhelliad y grŵp maes tai, a chan fod hwn yn bwnc perthnasol sydd â blaenoriaeth uchel, rydym yn archwilio a ellid defnyddio'r dull hwn i lunio dangosydd tebyg ar gyfer Cymru. Rydym yn ystyried ansawdd data, eu perthnasedd i ardaloedd â chyfran uchel o dai cymdeithasol, a pha ardaloedd o'r farchnad dai i'w defnyddio. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn defnyddwyr ar ba mor addas fyddai dangosydd o'r fath ar gyfer MALlC.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Tai o ansawdd gwael
Fel y soniwyd uchod, ar gyfer MALlC, gwnaethom gomisiynu BRE i lunio dangosyddion wedi'u modelu ar gyfer ansawdd tai a oedd yn mesur y tebygolrwydd y byddai tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol. I gael rhagor o fanylion, gweler y tablau data ar lefel AGEHIau (StatsCymru) (mae lefel uwch ar gael hefyd), a'r disgrifiad o'r hyn y mae'r rhain yn eu mesur yn y bennod a'r atodiad ar dai yn yr adroddiad technegol.
Ni allwn ddiweddaru'r dangosyddion hyn ar gyfer y fersiwn hon o'r mynegai, gan nad oes diweddariad eto i Arolwg Cyflwr Tai Cymru, a ddarparodd ddata cenedlaethol er mwyn meincnodi'r set ddata a fodelwyd.
Er na fyddai defnyddio data o 2019 yn ddelfrydol, roedd grŵp maes tai MALlC yn teimlo ei bod yn bosibl na fyddai'r darlun ar gyfer y newidynnau hyn wedi newid llawer ers iddynt gael eu hamcangyfrif yn wreiddiol yn 2019, ac yn credu bod yr opsiwn o ailddefnyddio data perthnasol ar gyfer y MALlC nesaf yn rhesymol os na fydd opsiynau eraill gwell ar gael. Pan fydd gennym wybodaeth fwy pendant am y posibiliadau eraill ar gyfer y maes, byddwn yn cynnal adolygiad er mwyn penderfynu p'un a ddylid bwrw ymlaen heb y ddau ddangosydd hyn ar gyfer 2025, neu ddefnyddio holl ddata 2019 neu rywfaint ohonynt, gan addasu ar gyfer newidiadau i ffiniau AGEHIau.
Er mwyn bwydo i mewn i adolygiad o'r fath, mae gennym ddiddordeb mewn clywed a yw pobl a sefydliadau wedi defnyddio'r dangosyddion ar gyfer tai o ansawdd gwael o 2019 ac, os felly, sut, ac a fyddai'n werth inni adnewyddu'r data yn y dyfodol, pan fydd hynny'n ddichonadwy.
Mannau awyr agored preifat
Yn ddiweddar, mae tîm cyfalaf naturiol SYG wedi llunio a chyhoeddi ystadegau ar erddi preifat (mannau awyr agored preifat) i lawr at lefel AGEHIau ar gyfer Prydain Fawr i gyd. Daeth yr ystadegau hyn o gronfa ddata AddressBase Plus Arolwg Ordnans (ac maent yn cynnwys mannau awyr agored preifat ‘nad ydynt yn wyrdd’ ym mlaen, yng nghefn ac wrth ochr eiddo, yn ogystal â gerddi ‘gwyrdd’). Mae lle i ddatblygu'r gwaith hwn i lunio dull mesur sy'n adlewyrchu presenoldeb/absenoldeb gerddi awyr agored preifat ar gyfer pob eiddo preswyl ledled Cymru a Lloegr ar lefel AGEHIau.
Mae'r MHCLG yn ystyried defnyddio hyn fel sail ar gyfer dangosydd ar gyfer ei mynegeion nesaf, ond mae gwaith i'w wneud o hyd ar faterion cysyniadol megis sut i drin balconïau fflatiau, mannau cymunedol ac ati. Nid ydym yn bwriadu cynnwys dangosydd o'r fath ar hyn o bryd, gan nad ydym wedi ein hargyhoeddi eto bod cysylltiad cryf rhwng diffyg mannau awyr agored ac amddifadedd tai fel y'i diffinnir ar gyfer MALlC. Gellir ystyried bod mannau awyr agored preifat sylweddol yn anfantais i rai deiliaid tai (o ran cynnal a chadw), ac rydym eisoes yn cynnwys dulliau mesur sy'n gysylltiedig â mannau gwrdd ym maes yr amgylchedd ffisegol. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn defnyddwyr ar y dangosydd posibl hwn.
Tlodi tanwydd
Diffinnir aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd fel aelwydydd sy'n gwario 10% neu fwy o'u hincwm ar gostau ynni er mwyn gwresogi eu cartrefi'n ddigonol, ac mae tlodi tanwydd wedi cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant cymdeithasol ac economaidd deiliaid tai. Fodd bynnag, nid oes data ar gael ar lefel ardaloedd bach. Hefyd, mae prisiau ynni ac incwm aelwydydd yn effeithio ar y ffordd y caiff tlodi tanwydd ei fesur, yn ogystal â nodweddion y cartref ei hun. Mae hyn yn golygu nad yw'r cysyniad yn bodloni'r maen prawf a ddymunir gennym ar gyfer dangosydd, sef ei fod yn benodol i un maes.
Digartrefedd
Gellir ystyried mai digartrefedd yw'r math mwyaf eithafol o amddifadedd mewn perthynas â mynediad at dai. Fodd bynnag, dim ond ar lefel awdurdodau lleol y caiff data ar ddigartrefedd eu casglu a'u cyhoeddi ar hyn o bryd. Ar ben hynny, mae'n anodd eu hymgorffori mewn mynegai o ardaloedd bach. Y rheswm dros hyn yw y byddai angen ystyried yn ofalus pa AGEHI y byddem yn priodoli achos o ddigartrefedd: Gallai adlewyrchu amddifadedd tai yn yr ardal lle roedd y person digartref yn byw o'r blaen neu'r ardal lle y'i cofnodir fel person digartref. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu casgliad newydd o ddata digartrefedd ar lefel unigolion yng Nghymru, ond mae'n annhebygol o arwain at ddata cadarn tan ymhell ar ôl amserlenni MALlC 2025.
Ystyriaethau newid hinsawdd
Rydym yn cydnabod, oherwydd newid hinsawdd a'r ffocws ar bontio teg, y gall yr hyn sy'n gyfystyr ag amddifadedd tai newid yn y dyfodol (e.e. mynediad at baneli solar, batris, systemau oeri digonol ac ati). Nid ydym wedi nodi dulliau mesur addas sy'n bodloni ein meini prawf ar gyfer dangosyddion ar gyfer MALlC 2025 ond byddwn yn adolygu hyn ar gyfer mynegeion yn y dyfodol.
Pwysoliad dangosyddion
Ceir rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â'r union ddangosyddion y bydd yn ddichonadwy eu cynnwys ac mae mwy o waith datblygu i'w wneud. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl y bydd dangosydd ar gyfer gorlenwi ac un neu ddau ddangosydd arall yn y maes hwn. Byddem yn dechrau drwy gynnig pwysoliadau cyfartal ar gyfer y ddau neu dri dangosydd, ac adolygu hyn gan ystyried perthnasedd, ansawdd data a sensitifrwydd safleoedd i newidiadau mewn pwysoliadau. Caiff pwysoliad y maes ei hun (a gynyddwyd i 7% yn 2019) hefyd ei adolygu yng ngoleuni unrhyw newidiadau i ddangosyddion.
Materion i ymateb iddynt
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes tai yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer anheddau â pherfformiad ynni gwael (yn amodol ar gynyddu cwmpas y set ddata ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni).
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes tai yw'r dangosydd wedi'i fodelu posibl ar gyfer fforddiadwyedd tai (yn amodol ar sicrwydd ansawdd data).
- I ba raddau ydych chi wedi defnyddio'r dangosyddion wedi'u modelu ar gyfer ansawdd tai gwael, a gafodd eu cyhoeddi a'u cynnwys ym maes tai MALlC 2019?
- Os ydych wedi defnyddio'r dangosyddion wedi'u modelu ar gyfer ansawdd tai gwael, disgrifiwch sut y gwnaethoch eu defnyddio a rhowch unrhyw adborth arall.
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes tai yw dull mesur sy'n gysylltiedig â mannau awyr agored preifat eiddo fel dangosydd ar gyfer amddifadedd tai.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes tai.
Maes diogelwch cymunedol
Bwriedir i'r maes hwn ystyried amddifadedd sy'n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae'n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol.
Trosolwg o'r cynigion
Ers cyhoeddi MALlC 2019, bu ffocws parhaus ar ansawdd prosesau cofnodi troseddau gan yr heddlu. Yn 2014, gwnaeth Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ddiddymu'r dynodiad Ystadegau Gwladol ac, ers hynny, mae cydymffurfiaeth â Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau wedi gwella. Ym mis Mai 2024, cafodd adolygiad pellach ei gyhoeddi fel y cam cyntaf tuag at ystyried ailachredu'r ystadegau (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Rydym yn cynnig mân newidiadau i'r dangosyddion presennol yn y maes hwn. Mae'r rhain yn ymwneud â newidiadau yng nghodau perthnasol y Swyddfa Gartref a newid o gyfartaledd dwy flynedd i gyfartaledd tair blynedd. Rydym hefyd yn cynnig cyflwyno dangosydd newydd ar gyfer trais rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu, ar yr amod bod y data'n bodloni'r meini prawf ar gyfer dangosyddion MALlC.
Dangosyddion arfaethedig
Ym MALlC 2019, roedd yr holl ddangosyddion yn y maes hwn yn defnyddio cyfartaledd dwy flwyddyn ariannol o'r data diweddaraf a oedd ar gael. Ar gyfer MALlC 2025, rydym yn cynnig defnyddio cyfartaledd tair blwyddyn ariannol er mwyn gwneud y data'n fwy cadarn.
Mae trosolwg o bob un o'r dangosyddion gan gynnwys ychwanegiadau a newidiadau arfaethedig i'w gweld isod. Oni nodir fel arall, ym mhob achos bydd y dangosydd yn casglu gwybodaeth am yr un categorïau o droseddau ag a nodir yn adroddiad technegol MALlC 2019 ac yn ceisio defnyddio'r codau diweddaraf a mwyaf priodol.
Ar gyfer y dangosyddion ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau a gofnodwyd gan yr heddlu, caiff digwyddiadau eu cofnodi gan y pedwar heddlu yng Nghymru (Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, De Cymru, a Gwent). Caiff lleoliadau digwyddiadau a gofnodwyd eu dyrannu i'r AGEHI briodol.
Bwrgleriaeth a gofnodwyd gan yr heddlu
Mae rhai codau wedi newid ers MALlC 2019, megis rhannu codau bwrgleriaeth breswyl yn droseddau sy'n ymwneud â bwrgleriaeth mewn cartref a bwrgleriaeth mewn adeilad ar wahân. Nid yw hyn yn effeithio ar y troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd.
Difrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu
Mae'r dangosydd yn cynnwys tanau bwriadol, difrod troseddol i adeiladau a cherbydau, difrod troseddol â chymhelliant hiliol neu grefyddol a bygythiad i gyflawni difrod troseddol.
Achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu
Mae'r dangosydd yn cynnwys dwyn o gerbydau a chan bobl, dwyn cerbydau ac ymyrryd â cherbyd.
Bydd y dangosydd yn casglu gwybodaeth am yr un categorïau o droseddau â MALlC 2019 yn fras ond, yn amodol ar brofion ansawdd data, byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o ychwanegu ambell gategori ychwanegol o droseddau hysbysadwy (e.e. dwyn gan gyflogai) er mwyn adlewyrchu diweddariadau i Reolau Cyfrif y Swyddfa Gartref. Nid ydym yn rhagweld y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y canlyniadau, ond dylai helpu i atgyfnerthu'r dangosydd drwy fynd i'r afael â rhai bylchau yn y fanyleb bresennol.
Trosedd dreisgar a gofnodwyd gan yr heddlu
Mae'r dangosydd yn cynnwys llofruddiaeth/dynladdiad, clwyfo, peryglu bywyd, ymosod, aflonyddu, meddu ar arfau tanio, troseddau creulondeb i blant a lladrata.
Bydd y dangosydd yn casglu gwybodaeth am yr un categorïau o droseddau â MALlC 2019 yn fras ond, yn amodol ar brofion ansawdd data, byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o ychwanegu ambell gategori ychwanegol o droseddau hysbysadwy sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno yng nghanllawiau cyfrif y Swyddfa Gartref (e.e. stelcio ac ymddygiad sy'n rheoli neu'n gorfodi). Nid ydym yn rhagweld y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y canlyniadau, ond dylai helpu i atgyfnerthu'r dangosydd drwy fynd i'r afael â rhai bylchau yn y fanyleb bresennol.
Troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu
Rydym yn ymchwilio i ddichonoldeb cynnwys dangosydd newydd ar gyfer troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu ym MALlC 2025 mewn cydweithrediad â'r MHCLG.
Cydnabyddir y gall y math hwn o drosedd fod â chyfraddau tangofnodi uwch o gymharu â throseddau nad ydynt yn rhywiol. Os gwelir bod y data'n ddigon cadarn ac yn bodloni'r meini prawf ar gyfer dangosyddion MALlC, rydym yn cynnig ychwanegu'r dangosydd hwn.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Bydd y dangosydd yn casglu gwybodaeth am yr un math o ddigwyddiadau ag ym MALlC 2019. Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddygiad gan berson sy'n achosi aflonyddu, braw neu ofid i bersonau nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â'r person, neu sy'n debygol o achosi hynny.Caiff ymddygiad gwrthgymdeithasol ei ddosbarthu i dri maes, sef corfforol, niwsans ac amgylcheddol.
Nifer yr achosion o dân
Ym MALlC 2019, casglwyd nifer yr achosion o brif danau, tanau eilaidd a thanau simnai yn ôl AGEHI. Mae'r grŵp maes yn cynnig cynnwys pob achos o dân yn yr un modd ar gyfer MALlC 2025.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Cam-drin domestig
Mae'r data ar droseddau a gesglir gan heddluoedd yn cynnwys marciwr ar gyfer cam-drin domestig er mwyn dangos yr achosion lle roedd hyn yn ffactor mewn trosedd benodol. Fodd bynnag, mae'r mwyafrif o droseddau a gaiff eu marcio'n achosion o gam-drin domestig yn droseddau treisgar sydd eisoes wedi'u cynnwys yn un o ddangosyddion MALlC. Hefyd, mae'n bosibl y bydd y dangosydd troseddau rhywiol arfaethedig yn cofnodi achosion o gam-drin domestig.
Ar ben hyn, ceir tystiolaeth na roddir gwybod i'r heddlu am gyfran sylweddol o achosion o gam-drin domestig. Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG) yn amcangyfrif mai 18.9% o'r rhai a gafodd eu cam-drin gan eu partner yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023 a roddodd wybod i'r heddlu.
Felly, ni chaiff dangosydd ar gyfer cam-drin domestig ei gynnwys ym MALlC 2025.
Troseddau casineb
Yn yr un modd â cham-drin domestig, mae'r data ar droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gesglir gan heddluoedd yn cynnwys marciwr ar gyfer troseddau casineb er mwyn dangos yr achosion lle roedd hyn yn ffactor mewn trosedd benodol. Fodd bynnag, yn debyg i gam-drin domestig, byddai cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng troseddau a gaiff eu marcio'n droseddau casineb a throseddau sydd eisoes wedi'u cynnwys yn y dangosyddion presennol, megis troseddau treisgar.
Hefyd, ceir tystiolaeth sy'n awgrymu bod rhywfaint o wahaniaeth rhwng arferion cofnodi mewn gwahanol heddluoedd yn ogystal â thystiolaeth na roddir gwybod i'r heddlu am gyfran sylweddol o droseddau casineb (y Swyddfa Gartref). Felly, ni chaiff dangosydd ar gyfer troseddau casineb ei gynnwys ym MALlC 2025.
Twyll a seiberdroseddu
Caiff data ar dwyll a seiberdroseddu eu cyhoeddi gan SYG ac maent yn cynnwys data'r Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol (NFIB).
O'r categorïau twyll a gyhoeddir, dim ond troseddau ‘gwerthwyr o ddrws i ddrws a chrefftwyr ffug’ a gafodd eu hystyried yn berthnasol i faes diogelwch cymunedol MALlC, am fod y troseddau hyn yn digwydd yn ffisegol gyda'r cyflawnwr a'r dioddefwr yn yr un ardal fach. O'r data sydd ar gael, gwelwyd bod niferoedd troseddau o'r fath yn rhy fach ar lefel AGEHIau i gynnig dangosydd cadarn.
Tynnwyd sylw at seiberdroseddu fel math o drosedd sy'n datblygu ac felly cafodd ei ystyried fel dangosydd posibl. Fodd bynnag, mae tangofnodi'n broblem hysbys ym maes seiberdroseddu (Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg Llywodraeth y DU) a theimlid bod seiberdroseddu'n annhebygol o effeithio ar asesiad person o ddiogelwch ei gymuned leol, o ystyried bod cyflawnwyr y troseddau hyn yn aml yn aros yn ddienw ac yn debygol o fod mewn lleoliad daearyddol gwahanol i'r ardal lle mae'r dioddefwr yn byw. Felly, ni chaiff dangosydd o'r fath ei gynnwys ym MALlC 2025.
Anafiadau/gwrthdrawiadau traffig ffyrdd
Mae'r syniad o gynnwys gwrthdrawiadau neu anafiadau ar y ffyrdd wedi cael ei ystyried ar gyfer fersiynau blaenorol o MALlC. Gall byw mewn ardal lle y ceir llawer o wrthdrawiadau effeithio ar ganfyddiadau o ddiogelwch, a byddai'n ymddangos bod hynny'n cyd-fynd â chylch gwaith y maes.
Fodd bynnag, mae nifer yr anafiadau a gwrthdrawiadau a gofnodwyd wedi bod ar duedd ar i lawr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r niferoedd yn rhy fach ar lefel AGEHIau er mwyn gallu llunio dangosydd cadarn. Cawn ein hatal rhag mynd i'r afael â hyn drwy gyfuno gwerth sawl blwyddyn o ddata, am fod nifer o newidiadau diweddar a newidiadau sydd ar ddod i arferion cofnodi a phatrymau teithio (megis pandemig COVID-19 a chyflwyno terfynau cyflymder 20 milltir yr awr) yn effeithio ar gymharedd y data dros amser. Felly, ni chaiff y dangosydd ei gynnwys ym MALlC 2025.
Pwysoliad dangosyddion
Caiff dangosyddion eu cyfuno gan ddefnyddio techneg dadansoddi ffactorau er mwyn penderfynu faint o bwysoliad y dylai pob dangosydd ei gael o fewn y maes.
Materion i ymateb iddynt
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes diogelwch cymunedol yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes diogelwch cymunedol.
Maes yr amgylchedd ffisegol
Diben y maes hwn yw mesur ffactorau yn yr ardal leol a all effeithio ar lesiant neu ansawdd bywyd y rhai sy'n byw yn yr ardal honno.
Trosolwg o'r cynigion
Ym MALlC 2019, roedd y maes wedi'i rannu'n dri is-faes: risg llifogydd (un dangosydd), ansawdd aer (tri dangosydd) a mannau gwyrdd (dau ddangosydd).
Risg llifogydd
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosydd ar gyfer cyfran yr aelwydydd sy'n wynebu risg o lifogydd gan ddefnyddio data mis Mai 2025.
Ansawdd aer
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r tri dangosydd (Nitrogen Deuocsid, PM10 a PM2.5) sy'n ffurfio'r is-faes gan ddefnyddio data 2023.
Mannau gwyrdd
- Rydym yn bwriadu diweddaru'r dangosydd mannau gwyrdd amgylchol.
- Rydym yn cynnig diweddaru'r dangosydd ar gyfer diffyg agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch a chynnwys llwybrau pellter hir cenedlaethol yn y set ddata ar gyrchfannau.
Dangosyddion newydd posibl
- Rydym yn archwilio dangosydd perygl gwres a fyddai'n mesur sgôr risg gwres gyfartalog gan ddefnyddio data o hafau 2019, 2020 a 2021.
- Rydym yn archwilio dangosydd llygredd sŵn a fyddai'n mesur y llygredd sŵn o ffyrdd, rheilffyrdd a diwydiant yn seiliedig ar fapiau sŵn strategol 2022.
Dangosyddion arfaethedig
Sgôr perygl gwres
Byddai'r dangosydd hwn yn casglu gwybodaeth am y sgôr risg gwres gyfartalog ar gyfer pob AGEHI. Mae risg gwres yn cael effaith ar iechyd a llesiant, a cheir rhywfaint o dystiolaeth bod hyn yn cael effaith fwy ar y poblogaethau â'r amddifadedd mwyaf (UKHSA).
Rydym yn ymchwilio i'r syniad o ddefnyddio data ar berygl gwres gan 4 Earth Intelligence, a grëwyd gan ddefnyddio data archif o loerennau o fisoedd yr haf yn ystod 2019, 2020 a 2021 ledled Prydain Fawr. Cafodd sawl delwedd lloeren ei phrosesu bob blwyddyn i lunio sawl gwerth tymheredd ar wyneb y tir ar gyfer pob lleoliad ym Mhrydain Fawr. Wedyn, cafodd y data hyn eu cyfuno a'u dadansoddi'n ystadegol i greu gwerth perygl gwres cyfartalog (tymheredd uchaf) ar gyfer pob 30 metr sgwâr ar nifer o bwyntiau amser drwy gydol y flwyddyn.
Llygredd sŵn
Byddai'r dangosydd hwn yn casglu gwybodaeth am ffynonellau sŵn a fyddai'n amddifadu pobl o amgylchedd da i fyw ynddo. Mae sŵn gormodol wedi cael ei gysylltu â chanlyniadau iechyd gwaeth ac mae pobl mewn amddifadedd yn debygol o wynebu effaith anghymesur (Sefydliad Iechyd y Byd). Ystyriwyd cynnwys y dangosydd hwn mewn mynegeion blaenorol ond fe'i gwrthodwyd am na ellid dod o hyd i ffynhonnell ddata briodol a oedd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer dangosyddion MALlC.
Penododd Llywodraeth Cymru Noise Consultants Ltd (NCL) i lunio mapiau sŵn strategol ar gyfer Cymru yn 2022, gan ddefnyddio System Modelu Sŵn newydd a ddatblygwyd gan NCL ar gyfer Defra. Mae'r mapiau hyn yn cynnwys lefelau sain o ffyrdd, rheilffyrdd a diwydiant wedi'u cyfrifo'n gyson ledled Cymru ac maent ar gael ar MapDataCymru.
Byddai'r dangosydd hwn yn mesur lefel y sain ar gyfartaledd mewn desibelau (dB) bob awr o'r dydd, gan roi pwysoliad ychwanegol i fin nos a'r nos. Caiff y lefelau sain hyn eu modelu yn hytrach na'u mesur, ac maent yn cynnwys ffynonellau sŵn traffig ffyrdd, sŵn rheilffyrdd, a sŵn diwydiant.
Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch
Mae'r dangosydd hwn, a gyflwynwyd ar gyfer MALlC 2019, yn mesur cyfran y cartrefi ym mhob AGEHI sydd o fewn 5 munud / 300 metr o bellter cerdded i fan gwyrdd naturiol hygyrch. Ystyrir bod mannau gwyrdd naturiol (CNC) yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant pobl. Gweler adroddiad technegol MALlC 2019 am ragor o fanylion am y ffordd y cafodd y dangosydd hwn ei gyfrifo.
Rydym yn cynnig ychwanegu Llwybrau Cenedlaethol (Cymdeithas y Cerddwyr Pellter Hir) at y set ddata ar gyrchfannau ar gyfer y dangosydd hwn, er mwyn gallu cynnwys mwy o fannau gwyrdd naturiol hygyrch.
Codwyd rhai pryderon yn ystod ymgynghoriad MALlC 2019 ynglŷn â'r dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd, yn enwedig y defnydd o bellterau Ewclidaidd (“fel yr hed y frân”) wrth fesur agosrwydd ac ansawdd y mannau gwyrdd a ddefnyddir. Gwnaethom ymchwilio i'r syniad o ddefnyddio agosrwydd at fannau mynediad i fannau gwyrdd fel gwelliant posibl i'r dangosydd hwn, ond nid yw'r setiau data OS ar bwyntiau mynediad o ansawdd digonol i'w defnyddio ar gyfer llwybro ym MALlC eto.
Rydym hefyd wedi ymchwilio i agosrwydd at y rhwydwaith hawl tramwy cyhoeddus; fodd bynnag, awdurdodau lleol sydd â'r setiau data hyn, ac maent yn amrywio o ran cadernid, felly ni fydd modd eu cynnwys ym MALlC 2025.
Gwnaethom ystyried dulliau o fesur ansawdd mannau gwyrdd (e.e. sbwriel, y cyfleusterau sydd ar gael a bioamrywiaeth), ond nid oes digon o ddata cadarn ar lefel ardaloedd bach mewn perthynas â'r ffactorau hyn, sy'n eu hatal rhag cael eu hintegreiddio yn y dangosydd.
Mannau gwyrdd amgylchynol
Mae'r dangosydd hwn, a gyflwynwyd ym MALlC 2019, yn mesur pa mor wyrdd yw'r amgylchedd ym mhob AGEHI. Fe'i cyfrifir fel y Mynegai Gwahaniaeth Normaleiddiedig ar gyfer Llystyfiant (NDVI) cymedrig o fewn llain glustogi Ewclidaidd o 300 metr o amgylch pob annedd breswyl, a chaiff ei ddiweddaru ar gyfer MALlC 2025. Er bod ffynhonnell y delweddau lloeren a ddefnyddir i gyfrifo'r sgoriau NDVI wedi newid ers MALlC 2019, nid ydym yn rhagweld y bydd hyn yn cael effaith ar y dangosydd.
Dangosyddion eraill a drafodwyd
Erydu arfordirol
Ystyriwyd y posibilrwydd o ychwanegu erydu arfordirol at y maes hwn o ystyried ei effaith ddinistriol bosibl ar gartrefi.
Penderfynwyd ei fod yn anaddas fel dangosydd yn ei rinwedd ei hun am mai cyfran fach o eiddo sydd mewn perygl (tua 400 o gartrefi), ond gwnaethom ymchwilio i'r syniad o'i gynnwys fel rhan o'r dangosydd risg llifogydd. Fodd bynnag, nid oes modd integreiddio'r risg o erydu arfordirol ym methodoleg bresennol y dangosydd risg llifogydd (Difrod Blynyddol Cyfartalog wedi'i Bwysoli) felly ni fyddwn yn cynnwys erydu arfordirol ym MALlC 2025.
Llonyddwch
Elfen arall sy'n gysylltiedig â llygredd sŵn yw'r cysyniad o lonyddwch. Mae Rhaglen Llonyddwch a Lle CNC yn disgrifio llonyddwch fel rhywbeth sy'n gysylltiedig â faint mae lleoedd ac ecosystemau yn creu naws o dawelwch, heddwch a lles. Gellir disgrifio hyn fel llawnder, canfyddiad neu brofiad cymharol o fyd natur, tirweddau a nodweddion naturiol a/neu ryddid cymharol rhag aflonyddwch gweledol, arwyddion o ddylanwad dynol a sŵn artiffisial. Mae cadernid llonyddwch yn gyfyngedig, a gall newidiadau cynnil mewn sŵn, ymwthiad gweledol a llygredd golau gael effeithiau sylweddol ar leoliadau naturiol a llonyddwch.
Mae adnodd Llonyddwch a Lle daearol CNC, sy'n gyson yn genedlaethol, yn cynnwys chwe thema. Yr hyn a geir yn y bedwaredd thema yw dadansoddiad daearyddol dwyran o amgylcheddau sain yng Nghymru, lle y gellir disgwyl i seiniau naturiol fod yn fwy amlwg na sŵn, ac yn briodol i'r cyd-destun. Mae rhan 1 yn seiliedig ar fetrigau fel presenoldeb seiniau naturiol, dŵr sy'n symud ac agosrwydd at y môr yn ogystal â diffyg seiniau artiffisial. Mae rhan 2 yn adeiladu ar fapiau sŵn strategol 2022 i gyfrifo sgoriau llonyddwch cymharol ac yn datblygu map wedi'i gyfuno ar gyfer rhan 1 a rhan 2.
Roedd grŵp maes yr amgylchedd ffisegol yn teimlo, gan fod y dadansoddiad hwn yn newydd ac yn gymhleth, na fyddai'n addas ei gynnwys yn y fersiwn hon o MALlC. Fodd bynnag, caiff ei ddatblygiad ei fonitro cyn diweddariadau yn y dyfodol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y dadansoddiad hwn, gan gynnwys canlyniadau a methodoleg, ar y map stori Llonyddwch a Lle.
Pwysoliad dangosyddion
Gan ei fod yn ddangosydd newydd yn 2019, rhoddwyd pwysoliad llai i'r is-faes mannau gwyrdd (20% o'r maes cyfan o gymharu â 40% ar gyfer ansawdd aer a risg llifogydd). Byddwn yn ystyried pwysoliadau'r dangosyddion hyn, yn ogystal ag unrhyw ddangosyddion newydd, gyda'n grŵp maes.
Materion i ymateb iddynt
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes amgylchedd ffisegol yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer risg gwres.
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes amgylchedd ffisegol yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer llygredd sŵn.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer maes yr amgylchedd ffisegol.
Pwysoliadau'r meysydd
Mae'r adran hon yn trafod sut y caiff y meysydd eu pwysoli gyda'i gilydd – gweler adroddiad technegol MALlC 2019 a'i atodiadau am ragor o fanylion am fethodoleg.
Caiff safleoedd y mynegai eu cyfrifo ar sail cyfanswm y sgoriau ar gyfer pob maes wedi'u pwysoli, a chaiff y pwysoliadau terfynol eu pennu gan fwrdd prosiect MALlC gan ystyried safbwyntiau'r grwpiau maes, cynghori a llywio. Mae pwysoliadau'r maes yn adlewyrchu pwysigrwydd y maes fel elfen o amddifadedd, ac ansawdd y dangosyddion sydd ar gael ar gyfer y maes hwnnw.
Mae'r pwysoliadau a ddefnyddiwyd ar gyfer MALlC 2019 wedi'u rhestru isod:
- 22% incwm
- 22% cyflogaeth
- 15% iechyd
- 14% addysg
- 10% mynediad at wasanaethau
- 7% tai
- 5% diogelwch cymunedol
- 5% yr amgylchedd ffisegol
Ar gyfer MALlC 2025, byddwn yn adolygu'r pwysoliad pan fydd y set derfynol o ddangosyddion o fewn y meysydd yn hysbys. Yn benodol, er y byddem yn ceisio cadw'r pwysoliadau cymharol uchaf ar gyfer incwm a chyflogaeth fel agweddau allweddol ar amddifadedd, byddwn yn edrych yn ofalus ar ddata ar gyfer y dangosyddion arfaethedig (a fydd, o reidrwydd, rywfaint yn wahanol i'r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol) cyn penderfynu a ddylid gostwng lefel absoliwt pwysoliadau ar gyfer y naill faes neu'r llall, neu'r ddau ohonynt, yn ystod y cyfnod hwn o drosglwyddo i Gredyd Cynhwysol. Byddwn hefyd yn ystyried pwysoliad y maes tai yn ofalus wrth i ddau ddangosydd newydd posibl gael eu datblygu.
Materion i ymateb iddynt
Gwnewch unrhyw sylwadau ar y dull arfaethedig o bwysoli meysydd ar gyfer MALlC 2025.
Allbynnau MALlC
Rydym eisiau gwybod pa un o'n hallbynnau (adroddiadau, setiau data ac offer dadansoddol eraill) oedd y mwyaf defnyddiol ar gyfer ein mynegai diwethaf, a pha allbynnau yr hoffech eu gweld ar gyfer MALlC 2025.
Mae ein harolwg SmartSurvey yn gofyn am amlder defnydd ar gyfer ystod o gynhyrchion ystadegol a ddarparwyd pan ryddhawyd MALlC 2019, ac mae'n gofyn yr hoffech ei weld yn cael ei gynhyrchu eto ar gyfer MALlC 2025. Dangosir y rhestr o gynhyrchion ystadegol fel rhan o atodiad 3.
Atodiad 1: meini prawf ar gyfer dangosyddion
Dylai dangosyddion a gaiff eu cynnwys ym MALlC fodloni nifer o feini prawf er mwyn sicrhau eu bod yn gywir ac yn berthnasol o ran mesur amddifadedd, fel y disgrifir isod.
- Dylai pob dangosydd a ddewisir fod yn berthnasol i ddull seiliedig ar ardaloedd o fesur crynodiadau o amddifadedd (fel y'u diffinnir at ddibenion MALlC). Lle bynnag y bo modd, dylai ymwneud â ‘diffyg gorfodol’, sy'n codi pan na all person gael nwydd neu wasanaeth am nad oes ganddo'r modd ariannol neu fodd arall i wneud hynny.
- Dim ond yn un o'r meysydd amddifadedd y cytunwyd arnynt y dylai pob dangosydd a ddewisir gael ei gynnwys.
- O fewn meysydd, lle bynnag y bo modd, dylid dewis dangosyddion sy'n cynrychioli prif nodweddion y math hwnnw o amddifadedd yn hytrach nag amddifadedd sy'n effeithio ar nifer bach iawn o bobl neu ardaloedd. Mae hyn yn golygu bod modd canfod graddau'r amddifadedd yn hytrach na dull ‘presennol/ddim yn bresennol’ syml.
- Dylai data dangosyddion fod ar gael ar lefel ardaloedd bach a chael eu casglu'n gyson ar gyfer Cymru gyfan.
- Dylai dangosyddion fod yn ystadegol gadarn ar lefel ardaloedd bach. Os bydd nifer yr achosion yn fach, dylid cynnwys niferoedd cyfanredol dros gyfnodau hwy er mwyn sicrhau na fydd digwyddiadau untro neu annodweddiadol yn cael gormod o ddylanwad ar ddangosyddion.
- Dylid gallu diweddaru data dangosyddion yn rheolaidd a dylent fod mor gyfredol â phosibl.
- Yn ddelfrydol, dylai dangosyddion o fewn pob maes fesur y math hwnnw o amddifadedd yn uniongyrchol. Os na fydd digon o ddulliau mesur uniongyrchol, gellir defnyddio dulliau procsi da (e.e. os nad yw'r data o systemau gweinyddol bob amser yn mesur amddifadedd yn uniongyrchol, byddant yn aml yn brocsis gwych, ac un o'u manteision yw eu bod yn fodd i gyfrifo ystadegau manwl ar lefel ardaloedd bach).
- Dim ond ar y cyd ag amrywiaeth dda o ddangosyddion heb eu modelu y dylid defnyddio dulliau mesur wedi'u modelu. Dylai'r math o fodelu geisio sicrhau y caiff newidiadau dros amser eu hadlewyrchu yn y newidyn wedi'i fodelu.
- Dylai dangosyddion lynu wrth briodweddau disgwyliedig dangosydd perfformiad da, e.e. os bydd newidiadau gwirioneddol dros amser, y caiff y newidiadau hyn eu hadlewyrchu yn y dangosyddion, ac y gellir esbonio unrhyw newidiadau yn y dangosydd.
Diben y dangosyddion yw cyfuno i gynnig y dull gorau posibl o fesur crynodiad o amddifadedd. Ein nod yw pennu'r nifer gorau o ddangosyddion er mwyn helpu i gyflawni hyn. Po fwyaf o ddangosyddion sydd dan sylw, y mwyaf cymhleth fydd y mynegai.
Nid oes angen i'r set o ddangosyddion sy'n sail i MALlC fod yn hollgynhwysfawr o ran adlewyrchu pob agwedd ar amddifadedd. Felly, yn ychwanegol at y meini prawf uchod, byddwn yn asesu (yn aml gan ddefnyddio techneg dadansoddi ffactorau) i weld a fydd dangosydd penodol o fewn maes yn ychwanegu digon o wybodaeth newydd i gyfiawnhau ei gynnwys ochr yn ochr â dangosyddion eraill y maes.
Mae'n bosibl y gwelir bod cysylltiad agos rhwng dangosydd newydd ac un sydd eisoes wedi'i gynnwys, gydag ardaloedd tebyg yn dangos lefelau tebyg o amddifadedd yn ôl y ddau ddangosydd hynny. Mewn achosion o'r fath, byddem yn ystyried peidio â chynnwys un o'r dangosyddion hynny yn MALlC, er mwyn sicrhau'r nifer gorau o ddangosyddion heb orgymhlethu'r mynegai.
Atodiad 2: dangosyddion MALlC 2019
Incwm
- Canran y boblogaeth sy'n cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredydau Treth (gan gynnwys plant dibynnol) pan fyddant yn byw ar aelwyd ag incwm sy'n llai na 60% o ganolrif Cymru neu sy'n geiswyr lloches sy'n derbyn cymorth.
Cyflogaeth
- Canran y boblogaeth oedran gweithio sy'n cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth (lwfans ceisio gwaith, lwfans cyflogaeth a chymorth, neu Gredyd Cynhwysol ac nid mewn gwaith).
Iechyd
- Pobl â diagnosis o gyflwr cronig a gofnodwyd gan feddyg teulu.
- Salwch cyfyngol hirdymor.
- Cyfradd marwolaethau cynamserol (marwolaeth y rhai dan 75 oed).
- Pobl â diagnosis o gyflwr iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddyg teulu.
- Nifer yr achosion o ganser.
- Pwysau geni isel, genedigaethau sengl (genedigaethau byw sy'n llai na 2.5 Kg).
- Plant 4 i 5 oed sy'n ordew.
Addysg
- Sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen.
- Sgôr pwyntiau cyfartalog CA2.
- Sgôr pwyntiau cyfartalog CA4 ar gyfer pynciau craidd.
- Absenoldeb mynych.
- Cyfran y disgyblion CA4 sy'n mynd i addysg uwch.
- Canran yr oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau.
Mynediad i wasanaethau
- Amseroedd teithio dwyffordd cyfartalog at wasanaethau allweddol gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat: siopau bwyd, meddygfeydd, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, swyddfa bost, llyfrgell gyhoeddus, fferyllfa, cyfleuster chwaraeon, gorsaf betrol (trafnidiaeth breifat yn unig).
- Diffyg argaeledd canrannol band eang ar 30Mb/e.
Tai
- Canran y bobl sy'n byw mewn cartrefi gorlawn (mesur ystafelloedd gwely).
- Y tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael (sydd mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol).
Diogelwch cymunedol
- Difrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Trosedd dreisgar a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Bwrgleriaeth a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Achosion o dân.
Yr amgylchedd ffisegol
- Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer Nitrogen deuocsid (NO2).
- Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer Gronynnau < 10 µm (PM10).
- Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer Gronynnau < 2.5 µm (PM2.5).
- Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch – gan fesur cyfran y cartrefi sydd o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol hygyrch.
- Sgôr ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol – sy'n mesur Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi'i Normaleiddio (NDVI) cymedrig cartrefi.
- Risg llifogydd.
Atodiad 3: materion i ymateb iddynt
Mae'r cwestiynau rydym yn ceisio adborth arnynt ar wefan SmartSurvey, a chânt eu cyflwyno yn y mannau priodol yn yr adroddiad hwn a'u rhestru gyda'i gilydd yn yr atodiad hon. Nid oes angen i ymatebwyr ateb pob cwestiwn. Dylai'r ymatebion gael eu cyflwyno drwy SmartSurvey. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i ymateb, cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Crynodeb o'r cynigion
- Rhestrwch, yn nhrefn blaenoriaeth o ran beth fyddai'n ychwanegu'r gwerth mwyaf at y mynegai, y dangosyddion newydd arfaethedig i'w cynnwys ym MALlC 2025.
- Esboniwch eich rhesymau dros y drefn uchod, a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar ddangosyddion newydd arfaethedig i'w cynnwys ym MALlC 2025.
Incwm
- O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes incwm, ydych chi'n credu y dylai pwysoliad y maes o fewn y mynegai cyffredinol fod yn uwch, yn is neu'r un fath â'r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, oedd yn 22%?
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymateb uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes incwm.
Cyflogaeth
- O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes cyflogaeth, ydych chi'n credu y dylai pwysoliad y maes o fewn y mynegai cyffredinol fod yn uwch, yn is neu'r un fath â'r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, oedd yn 22%?
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymateb uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes cyflogaeth.
Iechyd
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes iechyd yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer brechiadau ymhlith plant: derbyniad yr holl imiwneiddiadau rheolaidd ymhlith plant 4 oed.
- Rhestrwch y canlynol yn eu trefn, o ran sut y byddech yn blaenoriaethu'r tri dangosydd sy'n ymwneud â babanod a phlant i'w cynnwys ym MALlC 2025 (pwysau geni isel, plant sy'n ordew, a brechiadau ymhlith plant (dangosydd newydd posibl)).
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes iechyd yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer iechyd deintyddol.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes iechyd.
Addysg
- I ba raddau rydych chi'n cytuno â’r newidiadau arfaethedig canlynol i ddangosyddion y maes addysg?
- Gwahanu'r dangosydd absenoliaeth mewn i ddau ddangosydd ar wahân ar gyfer absenoliaeth mynych ysgol gynradd ac uwchradd
- Defnyddio trothwy o golli 10% (yn hytrach na 15%) neu fwy o sesiynau ysgol hanner diwrnod ar gyfer absenoliaeth mynych
- Cynnwys cyrchfannau eraill, megis dysgu ehangach neu ganlyniadau cyflogaeth barhaus, yn y dangosydd ar gyfer disgyblion sy'n gadael CA4
- Cynnwys y rhai â chymwysterau lefel 1, yn ogystal â rheini heb unrhyw gymwysterau, yn y dangosydd ehangach 'oedolion heb unrhyw gymwysterau neu â chymwysterau isel'
- O ystyried y newidiadau tebygol a ddisgrifiwyd ar gyfer y dangosyddion yn y maes addysg, ydych chi'n credu y dylai pwysoliad y maes fod yn uwch, yn is neu'r un fath â'r pwysoliad a ddefnyddiwyd yn 2019, oedd yn 14%?
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes addysg.
Mynediad at wasanaethau
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes mynediad at wasanaethau yw'r dangosydd newydd posibl sy'n mesur amseroedd teithio at wasanaethau gofal plant.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau.
Tai
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes tai yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer anheddau â pherfformiad ynni gwael (yn amodol ar gynyddu cwmpas y set ddata ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni).
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes tai yw'r dangosydd wedi'i fodelu posibl ar gyfer fforddiadwyedd tai (yn amodol ar sicrwydd ansawdd data).
- I ba raddau ydych chi wedi defnyddio'r dangosyddion wedi'u modelu ar gyfer ansawdd tai gwael, a gafodd eu cyhoeddi a'u cynnwys ym maes tai MALlC 2019?
- Os ydych wedi defnyddio'r dangosyddion wedi'u modelu ar gyfer ansawdd tai gwael, disgrifiwch sut y gwnaethoch eu defnyddio a rhowch unrhyw adborth arall.
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes tai yw dull mesur sy'n gysylltiedig â mannau awyr agored preifat eiddo fel dangosydd ar gyfer amddifadedd tai.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes tai.
Diogelwch cymunedol
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes diogelwch cymunedol yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer y maes diogelwch cymunedol.
Yr amgylchedd ffisegol
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes amgylchedd ffisegol yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer risg gwres.
- Rhowch eich barn ar ba mor berthnasol i'r maes amgylchedd ffisegol yw'r dangosydd newydd posibl ar gyfer llygredd sŵn.
- Esboniwch eich rhesymau dros yr ymatebion uchod a gwnewch unrhyw sylwadau eraill ar gynigion ar gyfer maes yr amgylchedd ffisegol.
Pwysoliadau'r meysydd
- Gwnewch unrhyw sylwadau ar y dull arfaethedig o bwysoli meysydd ar gyfer MALlC 2025.
Allbynnau MALlC
Mae'r canlynol yn gynhyrchion ystadegol a ddarparwyd pan ryddhawyd MALlC 2019 (neu fel dadansoddiadau dilynol).
- Nodwch yn y tabl isod pa mor aml, os o gwbl, rydych wedi defnyddio'r allbynnau canlynol.
- I ba raddau yr hoffech chi weld y cynhyrchion hyn yn cael eu cynhyrchu eto ar gyfer MALlC 2025?
- Esboniwch eich rhesymeg dros yr ymatebion uchod a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill sy'n ymwneud ag allbynnau ar gyfer MALlC 2025.
Rhestr o allbynnau
- adroddiad canllaw
- adroddiad technegol
- canllaw ar ddadansoddi data dangosyddion
- adroddiad canlyniadau
- adnodd mapio rhyngweithiol
- adroddiad ar amddifadedd sy’n ymwneud â phlant ifanc
- adroddiad ar ddangosyddion amddifadedd ar gyfer ardaloedd mewn amddifadedd hirsefydlog
- dadansoddiad o nodweddion poblogaeth yn ôl amddifadedd ardal (Cyfrifiad 2021)
- safleoedd mynegai a meysydd fesul ardal fach (StatsCymru)
- safleoedd mynegai a meysydd fesul ardal fach (taenlen)
- proffiliau amddifadedd ar gyfer daearyddiaethau mwy (StatsCymru)
- data dangosyddion yn ôl ardal fach a daearyddiaethau mwy (StatsCymru)
- data dangosyddion yn ôl oedran (StatsCymru)
- data sy'n sail i'r dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog (StatsCymru)
- tabl i weld ym mha grwpiau daearyddiaeth gwahanol mae AGEHI (StatsCymru)
- tabl i gysylltu codau post Cymru gydag daearyddiaethau erailll (StatsCymru)
- tabl o cod post i safle MALlC (StatsCymru)
- gwybodaeth geo-ofodol MALlC ar MapDataCymru
- mapiau meysydd AGEHI statig (StatsCymru)