Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Gan ddefnyddio’ch ymateb i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) – Cadw Ffermwyr i Ffermio, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r undebau ffermio a rhanddeiliaid pwysig eraill i wneud newidiadau i’r Cynllun. Rydym wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid wrth lunio’r SFS, i wneud yn siŵr ei fod yn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar ddiwydiant amaeth byrlymus a blaengar yng Nghymru. Bwriad yr SFS yw’ch cefnogi i allu parhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo a chynnal a chyfoethogi natur ar eich fferm. 

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r sefyllfa interim sy'n ganlyniad i'r trafodaethau sydd wedi bod hyd yn hyn. Nid dyma'r Cynllun terfynol ac nid yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol arno. Fel y gwnaethon ni addo, byddwn nawr yn cynnal dadansoddiad economaidd ac yn asesu ei effaith er mwyn deall beth fydd y Cynllun yn ei olygu i ffermwyr a chymdeithas. Bydd hyn yn cynnwys asesu’r cynigion ar sail y pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac ar gyfer ffermydd o wahanol faint a natur, Bydd y Cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn Haf 2025, cyn dechrau ar 1 Ionawr 2026. 

Rydym yn deall y bydd angen ichi wybod y manylion terfynol a’r cyfraddau talu cyn gallu penderfynu a fydd ymuno â’r Cynllun yn iawn ichi a’ch busnes. Ond roedd Llywodraeth Cymru ac aelodau'r Ford Gron Weinidogol yn teimlo ei bod yn bwysig rhannu manylion ein trafodaethau hyd yn hyn gyda chi, gan gydnabod bod angen rhagor o waith a rhagor o drafod â rhanddeiliaid cyn cyhoeddi'r Cynllun terfynol.

Rydym wedi gwrando ar eich adborth a’r trafodaethau â rhanddeiliaid, ac ar sail hynny, rydym wedi newid nifer o feysydd allweddol i sicrhau bod y Cynllun yn hygyrch ac yn ymarferol, ac yn rhoi cyfle i gefnogi pob fferm yng Nghymru. Dyma rai enghreifftiau o'r newidiadau a wnaed: 

  • cael gwared ar y rheol i gael gorchudd coed o 10%. Yn ei le, rydym wedi creu Gweithred Gyffredinol ar gyfer cynllun cyfle i blannu coed a chreu perthi (gwrychoedd). Byddwn yn eich cefnogi i blannu coed a chreu perthi trwy Weithredoedd Opsiynol a byddwn yn annog plannu coed ar raddfa cynllun gyfan, heb darged plannu coed canrannol gorfodol ar gyfer ffermydd unigol 
  • uno'r tair weithred Iechyd Anifeiliaid, Lles a Bioddiogelwch yn un Weithred symlach fel bod eich trafodaethau gyda milfeddyg y fferm yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell i iechyd a lles anifeiliaid
  • sicrhau bod taliadau yn yr Haen Gyffredinol ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn adlewyrchu'ch gwaith yn rheoli'r safleoedd pwysig hyn
  • cynnwys hawliau pori ar dir comin yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol
  • lleihau nifer y Gweithredoedd Cyffredinol o 17 i 12 

Rydym i gyd yn cytuno bod cynhyrchu bwyd diogel o ansawdd uchel yng Nghymru yn hanfodol i'n dyfodol. Ond rydym hefyd yn cytuno bod ffermio eisoes rhoi i ni lawer mwy na dim ond y bwyd rydym yn ei fwyta. Mae'n hanfodol fod gennym ddiwydiant llewyrchus sy’n cynnal ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i roi cyfoeth o fuddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i ni.

Yr SFS fydd prif ffynhonnell cymorth y llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Trwy wrando a gweithio mewn partneriaeth, rydym ni, ynghyd â'r rhanddeiliaid sy'n gweithio gyda ni, yn credu y bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud hi'n haws i ffermwyr gyflawni, a gwireddu yr un pryd ein hymrwymiadau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, natur, yr amgylchedd a'r newid yn yr hinsawdd. 

Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr ymroddiad a gwaith caled pawb sydd wedi bod ynghlwm â'r gwaith hyd yn hyn. Rydym yn cydnabod arwyddocâd y cydweithrediad hwn a'i effaith ar gydnerthedd ein diwydiant ffermio a lles ein ffermwyr.

Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM)

Cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yw conglfaen yr SFS o hyd. Ond, oherwydd newid hinsawdd, rydym yn debygol o brofi, er enghraifft, llawer mwy o lifogydd a sychder yng Nghymru, gan beryglu’n gallu i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol yn fawr. Ein hecosystemau naturiol yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym i liniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddyn nhw. 

O sylweddoli hynny, ynghyd ag effeithiau cymdeithasol a diwylliannol pwysig ffermio, mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) wedi sefydlu amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM). Pedwar amcan SLM yw: 

  • cynhyrchu Bwyd a Nwyddau Eraill yn Gynaliadwy 
  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
  • cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a’r buddion y maen nhw'n eu rhoi
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, annog mynediad y cyhoedd iddyn nhw ac i ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni

Bydd yr SFS yn helpu i gyflawni'r amcanion hyn a bydd yn gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu i'w cefnogi.

Gweithio mewn partneriaeth

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr, cynrychiolwyr y diwydiant a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod y Cynllun a'i Weithredoedd yn addas ac yn hygyrch a bod y lefel briodol o gefnogaeth yn cael ei rhoi. 

Ym mis Mai cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, ei fod yn sefydlu Bord Gron Gweinidogol yr SFS. Y Dirprwy Brif Weinidog fydd Cadeirydd y Ford Gron ac mae 18 o uwch-randdeiliaid sy'n cynrychioli ffermwyr a'r sectorau bwyd, natur, coedwigaeth a milfeddygol, yn ogystal â'r cadwyni cyflenwi ehangach, yn aelodau ohoni. Mae'r Ford Gron yn rhoi cymorth uniongyrchol i'r Dirprwy Brif Weinidog. Hwnnw gyda gweddill cabinet Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud pob penderfyniad terfynol, gan gloriannu'r dystiolaeth, barn rhanddeiliaid ac ystyriaethau eraill.

Pwrpas y Ford Gron yw adolygu ac ystyried y blaenoriaethau ar gyfer Haenau Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol yr SFS, ynghyd â Rheolau'r Cynllun (gan gynnwys y gofynion 10%), y meini prawf i fod yn gymwys a’r dull talu. Mae'r Ford Gron eisoes wedi adolygu llawer o'r agweddau hyn yng nghyd-destun yr amcanion SLM ac mae'ch ymatebion i'r ymgynghoriad wedi bwydo'r broses. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu canlyniadau’r trafodaethau hynny.

Mae nifer o is-grwpiau gan gynnwys y Gweithgor Swyddogion a'r Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu (Dal a Storio) Carbon (neu’r Panel Carbon fel y cyfeirir ato o hyn ymlaen), yn helpu'r Ford Gron. I weld aelodau'r grwpiau, ewch i Atodiad 1

Y Gweithgor Swyddogion: Mae aelodaeth y grŵp hwn yn ehangach na'r Ford Gron. Mae'n grŵp amrywiol o sefydliadau sydd â diddordeb mewn amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, yr amgylchedd a'r buddion eraill a ddaw trwy ffermio cynaliadwy. 

Mae'r Grŵp wedi cael y cyfrifoldeb o adolygu agweddau ar ddyluniad y Cynllun ac i adrodd yn ôl i'r Ford Gron, i nodi meysydd lle ceir cytundeb, meysydd sydd angen rhagor o waith a phwyntiau mae angen rhoi mwy o sylw iddynt i'w datrys. Mae'r Grŵp hwn wedi rhoi o'i arbenigedd helaeth i sicrhau bod y Cynllun yn y ddogfen hon yn briodol ac yn gyflawnadwy. 

Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu Carbon: Mae’r Panel Carbon hwn yn groestoriad cynrychioliadol o aelodau’r Ford Gron a chafodd ei sefydlu i ystyried y dystiolaeth sy’n sail i weithredoedd eraill neu amgen ar gyfer dal a storio carbon o fewn Haen Gyffredinol y Cynllun. 

Mae'r Panel Carbon wedi ystyried y Gweithredoedd posibl, y dystiolaeth a maint y cyfle i gynnal pob Gweithred yng Nghymru, gan gynnwys yr ystyriaethau ymarferol ar lefel y fferm. 

Mae gwaith y Panel Carbon wedi’i grynhoi mewn Crynodeb Gweithredol Adolygiad o gynigion pellach a chynigion amgen ar gyfer atafaelu carbon yn y cynllun ffermio cynaliadwy sydd wedi’i gyhoeddi yr un pryd â’r Amlinelliad hwn o’r Cynllun. Mae argymhellion y Panel wedi bod yn hwb i’r trafodaethau yn y Ford Gron ar ddyluniad y Cynllun ac ar y newidiadau i’r ddogfen fel cael gwared ar y rheol bod 10% o bob fferm o dan goed. Mae’r cynigion yn y ddogfen hon yn gyson ag argymhellion y Panel Carbon. 

Bydd argymhellion ac adroddiad llawn y Panel Carbon, a gyhoeddir yn fuan wedyn, yn dal i lywio datblygiad y Cynllun a’r rhaglen ehangach. 

Proses y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r bennod hon yn disgrifio'r hyn y bydd angen i chi ei wneud bob blwyddyn i ymuno â'r Cynllun a bod yn rhan ohono. 

Pwy sy'n gymwys

Rydym wedi llunio'r cynllun i gefnogi ffermwyr sy'n rhoi buddion niferus i'r wlad, gan gynnwys bwyd. I fod yn gymwys i ymuno â Haenau Cyffredinol ac Opsiynol y Cynllun, a ddisgrifiwyd yn yr Ymgynghoriad, rhaid i chi:

  • gynnal gweithgareddau amaethyddol neu gysylltiedig ar dir amaethyddol
  • rhaid bod gennych o leiaf dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru neu ddangos i chi weithio mwy na 550 awr o lafur safonol
  • rhaid mai chi yw unig feddiannydd y tir a bod gennych reolaeth lwyr arno am o leiaf deg mis o'r flwyddyn galendr

Rhaid i chi hefyd allu dangos bod y Gweithredoedd Cyffredinol a gofynion y cynllun yn cael eu cynnal ar y tir bob mis o'r flwyddyn, lle bo hynny’n berthnasol.

Ffermwyr newydd/ifanc

Rydym am barhau i helpu ffermwyr newydd ac ifanc i ymuno â’r Cynllun. Rydym eisoes wedi esbonio na fydd taliadau mwyach yn seiliedig ar hawliau, cwotâu na chyfnodau cyfeirio hanesyddol. Bydd ffermwyr newydd ac ifanc felly yn cael ymuno â’r Cynllun ar yr un telerau â phob ffermwr arall. Bydd y rhan fwyaf o aelodau newydd ac ifanc yn ymuno â’r SFS fel tenantiaid, ac rydym eisoes wedi gwneud newidiadau mawr i’r Cynllun er mwyn ei gwneud yn rhwydd i denantiaid ymuno. 

Y broblem fwyaf i’r rhan fwyaf o ffermwyr newydd ac ifanc yw diffyg tir a chyllid. Mae’r agweddau hyn y tu allan i reolaeth y Cynllun ond fe fyddwn yn dal i weithio gyda’r Ford Gron a Grwpiau Swyddogion, sy’n cynnwys Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc, i ystyried cyfleoedd i ddatrys y problemau hyn. 

Rydym yn bwriadu parhau i gefnogi amrywiaeth o gynlluniau sgiliau, mentora ac olyniaeth a sefydlu mentrau rhannu fferm ar gyfer ffermwyr newydd ac ifanc. 

Ffermydd bob ochr i'r ffin

Os ydy busnes eich fferm yn rhychwantu’r ffin, rhaid i chi allu bodloni'r meini prawf cymhwysedd a chynnal y Gweithredoedd Cyffredinol a gofynion y cynllun ar eich tir yng Nghymru. 

Nid ydym yn cael talu ar dir y tu allan i Gymru, ac felly ni fyddwn yn ystyried unrhyw dir yr ydych yn ei ffermio y tu allan i Gymru. Rydym yn deall y cyn helir rhai gweithgareddau rheoli ar y fferm gyfan a byddwn yn ystyried hyn. Er enghraifft, os byddwch yn cynnal asesiad Rheoli Plâu Integredig ar eich fferm gyfan, ni fyddwn yn gofyn i chi gynnal asesiad ar wahân ar gyfer eich tir yng Nghymru yng Ngweithred Gyffredinol 5. 

Byddwn yn parhau i ystyried ymarferoldeb daliadau trawsffiniol i gefnogi'ch symudiad i'r Cynllun. 

Pwy arall sy'n gymwys i gael cyllid SFS 

Os ydych yn unigolyn neu sefydliad sy'n berchen ar dir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth neu nad ydych yn cynnal gweithgareddau ategol arno, efallai na fyddwch yn gymwys am gyllid o dan Weithredoedd Cyffredinol ac Opsiynol. Gallech fod yn gymwys am gymorth o dan brosiect cydweithredol os yw’n cyflawni amcanion SLM ond byddwn yn ystyried pob achos yn unigol. 

Os yw'r tir hwn yn cael ei reoli gan ffermwr tenant sy’n gallu bodloni'r gofynion cymhwysedd a gofynion y cynllun a chynnal y Gweithredoedd Cyffredinol, bydd yn gymwys i ymuno â'r Cynllun. 

Gweithredoedd Cyffredinol (UA)

Rydym yn esbonio yma'r Gweithredoedd Cyffredinol sy'n cael eu cynnig a'r gofyn i reoli rhan o'r fferm fel cynefin.  Rydym yn esbonio pam mae Gweithred wedi'i chynnwys, os yw'n berthnasol i chi, beth sydd angen i chi ei wneud a'r amserlen ar gyfer gwneud hynny.

Rhaid i bawb sy'n ymuno â'r Cynllun gynnal y Gweithredoedd Cyffredinol. Lluniwyd gweithredoedd ar gyfer ffermydd ym mhob sector a phob rhan o Gymru. Rydym yn cydnabod na fydd rhai gweithredoedd yn berthnasol i bob fferm – er enghraifft, ni fydd Gweithred Gyffredinol 15, iechyd a lles anifeiliaid yn berthnasol i ffermydd âr. 

Rydym wedi cadw rhifau’r Gweithredoedd Cyffredinol a ddefnyddiwyd yn ymgynghoriad y ddogfen hon. Bellach mae gennym 12 o Weithredoedd Cyffredinol yn lle 17. Mae’r canlynol wedi cael eu dileu fel Gweithredoedd Cyffredinol, er bydd cyfle i gefnogi’r arferion isod trwy’r Haen Opsiynol:

UA4: Cnydau gorchudd amlrywogaeth 

UA6: Rheoli mawnogydd sydd wedi'u newid yn fawr 

UA10: Pyllau dŵr parhaol a thymhorol 

UA16: Lles eich anifeiliaid (wedi uno â Gweithred Gyffredinol 15)

UA17: Bioddiogelwch fferm da (wedi uno â Gweithred Gyffredinol 15) 

UA1: Meincnodi

Cynnal asesiad mesur a monitro blynyddol i wella perfformiad y busnes a'ch perfformiad amgylcheddol.

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Drwy fesur perfformiad eich busnes yn rheolaidd, fe welwch ble y gellir gwneud gwelliannau i leihau costau, gwneud defnydd gwell o adnoddau a gwneud gwelliannau amgylcheddol. Bydd y broses yn eich cyfeirio at gyngor, arweiniad a chymorth ariannol posibl gan Lywodraeth Cymru i'ch helpu i wneud y gwelliannau yr ydych yn dewis eu gwneud. Bydd meincnodi yn eich helpu hefyd i gynnal rhagor o weithgarwch yng Ngweithred Gyffredinol 15 Iechyd a Lles Anifeiliaid, a thrwy'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol.

Beth sydd wedi newid?

Rydym wedi newid y Weithred Gyffredinol hon fel nad oes angen i chi fodloni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) gorfodol penodol. Yn hytrach, byddwch nawr yn cael dewis dangosyddion perfformiad sy'n addas ar gyfer eich fferm chi, o blith rhestr y bydd y diwydiant wedi cytuno arni. Os ydych eisoes yn meincnodi gan ddefnyddio offeryn meincnodi a gydnabyddir gan y diwydiant, byddwn yn derbyn hyn fel digon i fodloni’r Weithred Gyffredinol hon.

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr  

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Bydd angen i bob ffermwr wneud y Weithred hon.

Beth bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn cwblhau'r weithred gyffredinol hon, rhaid i chi:

  • gynnal asesiad bob blwyddyn gynllun, ar sail KPIs o restr fydd wedi'i chymeradwyo gan y diwydiant. Rhaid i'r asesiad ddefnyddio dau ddangosydd perfformiad ar gyfer pob menter fferm rydych yn ei rhedeg (er enghraifft cig eidion, defaid, godro) neu dri dangosydd perfformiad os ydych ond yn rhedeg un fenter 
  • cofnodi data ar offer Dangosyddion Perfformiad Allweddol Cyswllt Ffermio fel tystiolaeth bod y Weithred Gyffredinol wedi'i chwblhau. Bydd Cyswllt Ffermio yn rhoi gwybod i RPW pan fydd y weithred wedi'i chwblhau, ond ni fydd yn rhannu'ch data i gadarnhau’ch perfformiad

Neu 

  • ddatgan ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF) yr offeryn meincnodi rydych chi'n ei ddefnyddio

Rydym yn bwriadu defnyddio offeryn Dangosydd Perfformiad Cyswllt Ffermio i'ch helpu i gofnodi a rheoli perfformiad. Bydd yr offeryn yn delio ag amrywiaeth o KPIs ond mae wedi'i gynllunio i'ch helpu i ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf perthnasol i'ch busnes. 

Ar ôl gorffen, bydd yr offeryn yn dangos y KPIs fydd wedi'u cwblhau, gan ddangos yr holl ganlyniadau ar ffurf llun ac yn eich cyfeirio at help perthnasol lle bo angen. Byddwch yn gallu ystyried canlyniadau'r broses i nodi sut i gefnogi gwelliannau o ran  cyllid, cynhyrchiant a‘r amgylchedd ar eich fferm. 

Bydd offeryn Dangosyddion Perfformiad Cyswllt Ffermio ar gael fel peilot o wanwyn 2025. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen ichi ei chwblhau erbyn diwedd pob blwyddyn gynllun. 

UA2: Datblygiad Personol Parhaus

Adeiladu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol trwy ddysgu parhaus mewn ystod o bynciau. 

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Rydym am eich helpu i feithrin eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Bydd y Weithred hon yn eich helpu chi a busnes eich fferm i arloesi ac i addasu i ddiwydiant sy'n newid, i ofynion y gadwyn gyflenwi ac i effeithiau'r argyfwng hinsawdd a natur. Bydd y dysgu yn eich helpu hefyd i gynnal gweithgareddau eraill drwy'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol.

Beth sydd wedi newid? 

Rydym wedi newid y Weithred Gyffredinol hon fel a ganlyn: 

  • bydd angen ichi gwblhau chwe awr o ddysgu ac elfen o ddysgu am Iechyd a Diogelwch - yn lle chwe modiwl
  • byddwch yn cael dewis beth yr hoffech ei ddysgu cyhyd â'i fod yn bodloni amcanion SML
  • bydd gennych ddewis o ddarparwyr dysgu
  • rydych yn cael dewis sut i ddysgu, er enghraifft yn bersonol. fel rhan o grŵp trafod, hyfforddiant mwy ffurfiol neu ar-lein

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr  

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Unrhyw aelod neu bartner o fewn busnes y fferm. Os oes mwy nag un person, gallwch rannu’r dysgu rhyngoch chi. Chi biau'r dewis, er y byddem yn eich annog i rannu'r dysgu rhwng holl bartneriaid busnes y fferm, staff y fferm a'r teulu ehangach yn ôl y gofyn. 

Beth bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn cwblhau'r weithred gyffredinol hon, rhaid i chi: 

  • gwblhau chwe awr o ddysgu o'ch dewis, ac elfen o ddysgu am Iechyd a Diogelwch bob blwyddyn o'r cynllun
  • cofnodi’r dysgu yn Storfa Sgiliau Cyswllt Ffermio fel tystiolaeth bod y Weithred Gyffredinol wedi'i chwblhau. Bydd Cyswllt Ffermio yn rhoi gwybod i RPW bod y weithred wedi'i chwblhau, ond ni fydd yn rhannu'ch data i adolygu’r hyn y byddwch wedi’i ddysgu

Dylai'r hyn a ddysgir wrth gynnal y Weithred Gyffredinol hon allu cael ei gymhwyso i'r busnes, felly ein bwriad yw bod yn hyblyg ynghylch pa ddysgu sy'n cyfrif.  Nid ydym yn bwriadu rhestru cyrsiau na darparwyr hyfforddiant penodol ond rydym yn disgwyl i'r dysgu fod o werth ac wedi’i gydnabod er mwyn gallu ei gofnodi fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Hefyd, bydd yn rhaid i geidwaid da byw cofrestredig gwblhau hyfforddiant er mwyn gallu sgorio symudedd (cloffni) a chyflwr corff eu gwartheg neu eu defaid fel rhan o Weithred Gyffredinol 15 (Iechyd a Lles Anifeiliaid).  Rhaid cwblhau'r hyfforddiant hwn o leiaf bob pum mlynedd a gall aelod o staff sy'n gyfrifol am ofalu am y da byw ei wneud os bydd hynny'n briodol. Bydd yn cyfrif at y chwe awr os mai aelod o’r busnes neu bartner fydd yn ei wneud. 

Gall dilyn amrywiaeth o gyrsiau dysgu mewn meysydd fel cynhyrchu a'r amgylchedd roi mantais i chi a busnes eich fferm.  Er enghraifft, gallai dysgu am iechyd a lles anifeiliaid olygu cynyddu cynhyrchiant a gostwng costau i chi a buddion amgylcheddol fel gostwng allyriadau carbon a defnyddio llai o wrthfiotigau. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd disgwyl ichi gwblhau'ch chwe awr o ddysgu bob blwyddyn. 

Bydd angen i chi hefyd gwblhau'r dysgu gorfodol am Iechyd a Diogelwch sy'n berthnasol i chi yn yr un cyfnod. 

UA3: Cynllunio Iechyd y Pridd

Adeiladu priddoedd iach drwy brofion i helpu i gynllunio iechyd pridd.

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Mae'n holl amcanion yn dibynnu ar briddoedd iach - gan gynnwys cynhyrchu bwyd o ansawdd, creu a datblygu storfeydd carbon, gwella bioamrywiaeth a rheoli llif dŵr. 

Diben y weithred hon, yn unol ag argymhellion y Panel Carbon, yw'ch helpu i gael yr wybodaeth sylfaenol am statws eich pridd, a'ch cefnogi i weithredu i wella iechyd eich pridd lle bo hynny'n briodol. Gall hynny er enghraifft gynnwys targedu'ch defnydd o fewnbynnau yn fanylach i leihau gwastraff a'u defnyddio'n fwy effeithlon neu gefnogi newidiadau i arferion ffermio eraill fel gwyndynnydd amlrywogaeth ac arferion pori sy’n cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau a dyfnder er mwyn i’r borfa allu gwrthsefyll tywydd eithafol yn well.  

Beth sydd wedi newid? 

Rydym wedi newid y Weithred Gyffredinol hon fel a ganlyn: 

  • byddwn yn cynnwys y profion pridd y byddwch wedi’u cynnal cyn ymuno â'r Cynllun, fel rhan o’r gofyn i gynnal profion ar yr holl dir priodol o fewn 5 mlynedd
  • nid oes cysylltiad mwyach â'r gofyn i gadw cofnodion y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol. Ond rydym am ichi barhau i gadw gwybodaeth briodol ar y fferm am ganlyniadau'r profion a'r hyn rydych wedi'i wneud yn sgil hynny
  • gallwch roi blaenoriaeth i gynnal profion ar dir lle mae'n bwysig eich bod yn cadw golwg ar y maetholion, ond bydd angen sicrhau yr un pryd bod profion yn cael eu cynnal ar yr holl dir perthnasol o fewn y cyfnod o bum mlynedd

Nod cynnal profion pridd yw’ch helpu ar y ffordd i gynllun iechyd pridd llawn, fydd yn cynnwys cyfri'r maetholion a rhoi gofal gwell i'r pridd lle bo hynny'n briodol, er enghraifft llacio pridd sydd wedi'i gywasgu. Rydym am ategu hynny gyda chyngor ac arweiniad, a thrwy Weithredoedd Opsiynol.   

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Pob ffermwr sy'n ymuno â'r Cynllun.

Beth bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn cwblhau'r weithred gyffredinol hon, rhaid i chi: 

  • gynnal profion pridd am Botasiwm (K), Ffosfforws (P), Magnesiwm (M), pH a Deunydd Organig yn y Pridd (SOM)
  • bydd angen ichi gynnal profion ar o leiaf 20% o'r tir lle rydych wedi rhoi neu y gallech roi mewnbynnau (naturiol ac artiffisial) neu galch bob blwyddyn, fel bod yr holl dir hwn yn cael ei brofi mewn cylch o bum mlynedd. Os byddwch yn dewis profi mwy nag 20% mewn blwyddyn, mae hynny'n dderbyniol 
  • cofnodi canlyniadau profion pridd ar RPW Ar-lein a chofnodi'r hyn rydych wedi'i wneud yn eu sgil ar gofnodion eich fferm
  • cadw cofnodion fferm ar y fferm

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen ichi ei chwblhau erbyn diwedd pob blwyddyn gynllun. 

UA5: Rheolaeth Integredig ar Blâu

Cynnal asesiad blynyddol o'r Cynhyrchion Diogelu Planhigion a ddefnyddir, ac o'r dulliau amgen a ddefnyddir i leihau'r defnydd o gemegau.

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Mae Rheolaeth Integredig ar Blâu (IPM) yn canolbwyntio ar dyfu cnwd iach gan amharu cyn lleied â phosibl ar yr ecosystem ehangach. Mae hyn yn annog y dull mwyaf priodol o reoli clefydau, plâu neu chwyn gan ddefnyddio technoleg neu ddulliau heb gemegolion ond gan ddefnyddio cemegolion wedi’u targedu pan fo angen. Bydd IPM yn golygu y gallwch dargedu'ch defnydd o Gynnyrch Amddiffyn Planhigion ac o bosibl defnyddio llai ohono. Gallai hynny arbed arian i chi, annog infertebratau rhinweddol, lleihau'r risg i'r plâu fagu ymwrthedd a lleihau'r risg i iechyd pobl.

Beth sydd wedi newid? 

Nid yw'r Weithred Gyffredinol hon wedi newid. 

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Pob ffermwr sy'n ymuno â'r Cynllun sy'n defnyddio PPP fel pryfladdwyr, chwynladdwyr, ffwngladdwyr, molwsgladdwyr neu reolwyr tyfiant planhigion neu sy’n defnyddio contractiwr sy’n defnyddio PPP. 

Beth bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn cwblhau'r Weithred Gyffredinol hon, rhaid i chi: 

  • gwblhau asesiad IPM blynyddol, fydd yn ystyried, er enghraifft:
    • technegau priodol ar gyfer trin y tir 
    • cylchdroi cnydau a chnydau cydymaith 
    • mathau o gnydau sydd ag ymwrthedd i blâu 
    • defnydd priodol ac effeithlon o blaladdwyr a gwrtaith 
    • cynefinoedd natur mewn caeau ac o'u hamgylch i annog ysglyfaethwyr a phryfed eraill sy'n bwyta plâu cnydau
       
  • Os ydych chi'n defnyddio PPPs, dylech gasglu a chofnodi data am y cynnyrch rydych chi wedi'u defnyddio ar eich fferm. Bob tro y defnyddir PPP, rhaid i chi gofnodi'r canlynol:
    • enw'r PPP
    • faint rydych wedi'i ddefnyddio
    • dyddiad ac amser ei ddefnyddio
    • lleoliad ac arwynebedd (mewn hectarau) y tir rydych wedi'i drin
    • y math o gnwd rydych wedi'i drin
    • rheswm dros roi'r driniaeth, a’r 
    • tywydd adeg rhoi'r driniaeth
       
  • Cadw cofnodion / cynlluniau'ch fferm ar y fferm a chadarnhau ar RPW Ar-lein bod y Weithred Gyffredinol wedi'i chwblhau

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen ichi ei chwblhau erbyn diwedd pob blwyddyn gynllun. 

UA7: Cynnal Cynefinoedd

Cynnal y cynefinoedd lled-naturiol ar eich fferm er budd da byw pori a bywyd gwyllt. 

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Mae cynefinoedd lled-naturiol yn cynnwys rhosydd, gwlyptiroedd a'r ystod o laswelltiroedd o bob math sy'n gyfoethog eu rhywogaethau a reolir fel porfeydd a chaeau gwair ar ffermydd yng Nghymru. Mae'r cynefinoedd hyn yn darparu cnwd i dda byw ei bori ac yn dibynnu ar lefelau pori cynaliadwy i roi cartref i fywyd gwyllt a chreu tirwedd ddeniadol ac amrywiol. Mae cynefinoedd lled-naturiol sydd mewn cyflwr da yn gallu cynnig buddion eraill megis rheoli llif dŵr i leihau'r perygl o lifogydd.

Beth sydd wedi newid

Rydym wedi newid y Weithred Gyffredinol hon fel a ganlyn: 

  • nid oes angen cynnal Gweithred Gyffredinol (10) Pyllau Parhaol a Phyllau Tymhorol fel Gweithred ar wahân mwyach. Mae pyllau’n cael eu hystyried bellach yn fath o gynefin o fewn y Weithred hon, tra bod creu pyllau parhaol a thymhorol wedi'i droi'n Weithred Opsiynol
  • gallwch bellach gyfrif 'ardaloedd cynefin newydd eu creu ar dir wedi'i wella' yn fath o gynefin, i gydnabod y cynefinoedd newydd gwerthfawr y mae ffermwyr yn eu creu, fel coridorau glan afon a fydd yn datblygu i fod yn goetir neu wlypdir dros amser

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon? 

Pob ffermwr yn y Cynllun sy'n rheoli o leiaf un o'r cynefinoedd a restrir isod. 

Beth bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon, rhaid i chi reoli pob cynefin ar eich fferm sydd wedi'i gynnwys ar y rhestr ganlynol yn unol â’r gofynion rheoli:

  • morfeydd heli
  • twyni tywod arfordirol a thraethau graean
  • rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad
  • gwlypdir wedi'i amgáu a alaswelltir corsiog
  • glaswelltir sych lled-naturiol wedi’i amgáu (opsiynau rheoli dolydd pori a gweirgloddiau)
  • cynefinoedd agored yr ucheldir
  • perllannau traddodiadol (cynefin coediog)
  • rhedyn trwchus
  • prysgwydd (cynefin coediog)
  • coed pori (cynefin coediog)
  • pyllau bywyd gwyllt parhaol
  • ardaloedd cynefin newydd eu creu ar dir wedi'i wella

Byddwn yn rhoi disgrifiad byr o bob math o gynefin ar eich fferm ac yn rhestru cyfres o ganlyniadau mesuradwy megis cyflwr y ddaear neu uchder y borfa a fyddai'n cyfateb i gyflwr da. Dyma'r canlyniadau penodol y bydd gofyn ichi eu cyflawni. 

Rydym dal wrthi'n gweithio gyda rhanddeiliaid ar y Grŵp Swyddogion i baratoi union fanylion y gofynion rheoli, felly nid ydym wedi'u cynnwys yn y ddogfen hon. 

Byddwn hefyd yn cynnig argymhellion rheoli megis cyfnodau gwahardd stoc neu niferoedd pori. Eu diben yn achos y rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd fydd eich helpu i’w rheoli. Cyngor fyddant yn unig. 

Caiff y canlyniadau mesuradwy a’r argymhellion rheoli eu cynnwys yng Nghanllawiau’r Cynllun. 

Ar gynefin o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), bydd y Cynllun Rheoli SoDdGA yn cael blaenoriaeth ar ofynion y Weithred Gyffredinol hon.

Bydd gofyn ichi ddatgan yr arwynebedd a'r math o gynefin ar eich SAF bob tro ynghyd â’ch bod yn cynnal y Weithred hon. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd gennym i'ch helpu i wneud hyn (gweler ‘Cadarnhau’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y Cynllun’). 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen i chi reoli eich cynefinoedd o'r adeg y byddwch yn ymuno â'r Cynllun a thrwy'r amser wedi hynny.

UA8: Creu Cynefin Dros Dro ar Dir Wedi'i Wella

Cynyddu'r buddion i fyd natur drwy gynefinoedd cysylltiedig ac amrywiol.

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Mae'r Weithred hon yn eich galluogi i greu cynefinoedd dros dro ychwanegol ar dir wedi'i wella os yw llai na 10% o'ch tir yn gynefin (gweler gofynion y Cynllun: bod o leiaf 10% o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin). 

Mae’n cefnogi creu cynefinoedd dros dro a systemau ffermio mwy cymysg i ddenu mwy o amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn enwedig os gall gysylltu darnau sydd wedi'u hynysu o'r un cynefin. 

Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn peryglu’n fawr ein gallu i gynhyrchu bwyd ac maen nhw eisoes yn achosi problemau i lawer yn sgil tywydd anghyson ac eithafol. Ein hecosystemau naturiol yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu i risgiau newid yn yr hinsawdd. Hefyd, mae siopwyr a'r gadwyn gyflenwi yn gofyn yn aml am weithredu i gynyddu bioamrywiaeth ar ffermydd. Bydd y Weithred hon yn eich helpu i ateb y galw cynyddol am hyn yn y farchnad.     

Beth sydd wedi newid? 

Nid yw'r Weithred Gyffredinol hon wedi newid, heblaw bod mathau newydd o gynefin wedi'u hychwanegu eu creu ers yr ymgynghoriad diwethaf at y rhai y gellid eu creu (ydau wedi'u hau yn y gwanwyn heb eu chwistrellu a chymysgedd o gnwd protein heb ei chwistrellu gyda'r sofl wedi'i adael). 

Byddwn yn parhau i ystyried mathau priodol eraill o gynefin dros dro i roi mwy o ddewis i chi. 

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Ffermwyr sy'n ymuno â'r cynllun nad oes ganddynt ddigon o gynefin i fodloni gofyn y cynllun bod o leiaf 10% o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin

Beth bydd angen i chi ei wneud

Bydd angen i chi greu cynefin dros dro digonol o'r opsiynau isod (neu unrhyw fathau eraill o gynefin y gallem eu datblygu gyda’r Ford Gron) i ateb y gofyn hwn o’r cynllun. Cewch ddewis un neu fwy o fathau o gynefin, gan ddibynnu ar beth sy'n gweddu orau i'ch system ffermio. Lle medrwch, byddwn yn eich annog i greu cymysgedd o gynefinoedd i gynnal amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt: 

  • ymylon o wyndwn
  • talarau o ŷd a llin heb eu gwrteithio, eu chwistrellu na’u cynaeafu
  • ymyl sefydlog o borfa arw ar dir âr
  • ymyl o borfa arw mewn cylchdro ar dir âr
  • cymysgedd o ydau gwanwyn a chnwd protein heb eu chwistrellu, gyda’r sofl wedi’i gadw
  • gwyndynnydd cymysg ar dir wedi'i wella (gwyndynnydd aml-rywogaeth neu flodeuog yn enwau eraill arnyn nhw)
  • cnwd gorchudd ar gyfer bywyd gwyllt ar dir wedi’i wella

Ni ddylech greu cynefin dros dro os yw hynny’n golygu trin glaswelltir parhaol sydd eisoes yn cynnig buddion cynefin. Gellir lleoli’r cynefinoedd o amgylch y fferm yn ôl yr angen, er enghraifft fel rhan o gylchdro cnydau. Maen nhw dros dro, ac wedi'u hau, felly dydyn nhw ddim yn dod o dan y Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol (AEA) fyddai'n gofyn am eu cadw fel cynefin parhaol. 

Bydd angen i chi ddatgan ar eich SAF y cnydau a’r arwynebedd rydych wedi eu plannu neu’n bwriadu eu plannu a’ch bod yn cynnal y Weithred hon gydol yr amser. Gallwch ei diweddaru yn ystod y flwyddyn os bydd eich bwriadau’n newid, er enghraifft oherwydd amodau’r pridd neu’r perygl o glefyd. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Mae gan y mathau o gynefin ddyddiadau sefydlu gwahanol drwy gydol y flwyddyn. Yn dibynnu ar y mathau a ddewiswch, rhaid i chi sefydlu'r cynefin cyn gynted ag y medrwch bob blwyddyn. 

UA9: Cynlluniau Rheoli Safleoedd Dynodedig

Helpu i wella safleoedd dynodedig, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig drwy weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i lunio Cynllun Rheoli ac i gytuno ar Restr Waith. 

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Bydd llunio Cynllun Rheoli yn helpu i ddiogelu ein hardaloedd a'n bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr rhag dirywiad, gan eich helpu yr un pryd i ffermio'n gynaliadwy yn yr ardaloedd hyn.  Bydd y Cynlluniau Rheoli yn rhoi cyfle i chi wella cyflwr y safleoedd hyn, a chynyddu eu pwysigrwydd i'ch fferm drwy Haenau Opsiynol a Chydweithredol y Cynllun.

Beth sydd wedi newid? 

Rydym wedi newid y Weithred Gyffredinol hon fel a ganlyn: 

  • bydd angen gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i lunio cynllun rheoli a’i gael yn ei le. Bydd hynny'n cynnwys cytuno ar Restr Waith y cafwyd caniatâd iddi, sydd wedi'i chynllunio i hwyluso mynediad at gymorth ar gyfer gwella cyflwr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) 
  • ar wahân i'r newid hwn, rydym eisoes wedi datgan ein bod am i daliadau cynnal cynefinoedd y Taliad Sylfaenol Cyffredinol gynnwys coetir a chynefin o fewn SoDdGAau  

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon? 

Pob fferm sydd â SoDdGA (neu dir dynodedig arall) ynddi. 

Beth bydd angen i chi ei wneud

  • Gan weithio ar y cyd ag CNC, bydd angen bod gennych Gynllun Rheoli yn ei le ar gyfer y rhannau o'ch fferm sy'n SoDdGA erbyn diwedd 2030. Os oes gennych nifer o SoDdGAau ar eich fferm a'u bod yn cael eu rheoli ar wahân, efallai y bydd angen mwy nag un Cynllun Rheoli arnoch

Bydd y Rhestr Waith a gynhwysir yn y Cynllun Rheoli yn rhoi cyfle ichi wneud cais am arian ychwanegol o fewn yr Haen Opsiynol neu Gydweithredol (neu ffynonellau cyllid allanol) at ddiben targedu cymorth i wella cyflwr y safle ac ar gyfer ei reoli'n well.   

Gyda Chynllun Rheoli, ni fydd angen ichi reoli’r tiroedd hyn yn unol â Gweithred Gyffredinol 7 neu Weithred Gyffredin 12. 

Efallai bod gennych gytundeb ar wahân gydag CNC ar gyfer yr ardaloedd hyn a fyddai'n bodloni gofynion y Weithred Gyffredinol hon.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd gennym i’ch helpu i nodi’r rhannau o’ch fferm sy’n SoDdGA. Bydd CNC yn cadarnhau pan fyddwch wedi cynnal y Weithred. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen bod gennych Gynllun Rheoli yn ei le erbyn diwedd 2030. 

Os na fydd hi'n bosibl ichi gwblhau proses y Cynllun Rheoli erbyn y dyddiad cau hwn am resymau y tu allan i'ch rheolaeth – er enghraifft am fod angen cytundeb sawl parti – byddwn yn ystyried hyn. 

UA11: Rheoli Perthi (Gwrychoedd)

Cynyddu maint a thrwch perthi (gwrychoedd) sy'n cael eu tocio'n rheolaidd er budd da byw, storio carbon, bioamrywiaeth a thirwedd.

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Mae rheoli perthi'n broses gylchol lle mae perthi'n cael eu tocio'n drylwyr a’u rheoli trwy eu plygu neu eu bondocio. Weithiau caniateir iddynt dyfu i fyny ac allan. Mae ein tirwedd a'n bywyd gwyllt yn elwa ar berthi amrywiol iawn eu hamodau, gan ddibynnu ble yn ei chylch y mae'r berth. Mae'r Weithred Gyffredinol hon, yn unol ag argymhellion y Panel Carbon, yn canolbwyntio ar berthi sy'n cael eu tocio neu eu torri'n rheolaidd, hynny er sicrhau'r cysgod mwyaf posibl ar gyfer da byw a’r potensial mwyaf i ddal a storio carbon ac i gynnig cartref a bwyd i fywyd gwyllt. 

Beth sydd wedi newid? 

Rydym wedi newid y Weithred Gyffredinol hon fel a ganlyn:

• ceir perthi mwy o faint a mwy trwchus trwy eu torri bob dwy flynedd neu fwy. Ni chaniateir torri blynyddol ac eithrio am resymau megis rheoli ymylon ffyrdd neu o gwmpas cyfleustodau

• nid oes gofyn bellach i bob perth a reolir fod mewn 'cyflwr da' erbyn 2030

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Pob ffermwr sy'n ymuno â'r Cynllun sydd â pherthi (gwrychoedd) sy'n cael eu tocio neu eu torri'n rheolaidd.

Beth bydd angen i chi ei wneud

I gwblhau'r Weithred Gyffredinol hon, bydd angen i chi: 

  • reoli eich perthi/gwrychoedd trwy beidio â'u tocio neu eu torri bob blwyddyn (gallwch dorri bob yn ail flwyddyn neu lai aml)
  • eu torri bob yn gyfnod i gynyddu eu huchder, eu lled a’u trwch, fel eu bod yn cael tyfu’n uwch ac yn lletach bob tro nes eu bod yn cyrraedd y pwynt pan fyddan nhw’n gallu rhoi’r buddion mwyaf. Byddwn yn rhoi cyngor ar beth yw maint a thrwch da
  • cynnal coed y berth, ar gyfartaledd bob 50 metr, trwy gadw coed sy'n bodoli eisoes a nodi sbesimenau ar gyfer eu tyfu
  • cynnal parth clustogi un metr o waelod y berth nad yw'n cael ei drin na'i wrteithio a lle nad oes plaladdwyr na mewnbynnau eraill yn cael eu gwasgaru
  • parhau i gadw at ddyddiadau torri i amddiffyn adar sy'n nythu (dim torri rhwng 1 Mawrth a 31 Awst)

Byddwn yn disgwyl ichi nodi ar eich SAF y perthi (gwrychoedd) rydych yn eu rheoli a’ch bod yn bodloni’r Weithred hon drwy’r amser. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd gennym i’ch helpu i wneud hyn. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen rheoli perthi (gwrychoedd) ar y fferm yn unol â’r camau a ddisgrifir uchod bob blwyddyn, gan sicrhau nad oes unrhyw ddarn o berth yn cael ei docio na'i dorri fwy nag un flwyddyn o'r bron.

UA12: Cynnal Coetir

Cynnal coetiroedd sydd eisoes yn bodoli i sicrhau'r buddion gorau posibl i dda byw a natur ac ar gyfer arallgyfeirio busnesau.

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Mae coetiroedd yn rhan hanfodol o'n tirwedd. Maen nhw'n rhoi cysgod i'ch da byw, yn gallu lleihau llif y dŵr yn ystod cyfnodau gwlyb ac yn tynnu carbon i lawr o'r atmosffer. Rydym yn cynnig eich talu am gynnal tir o dan goed i gydnabod pwysigrwydd coetiroedd a'r buddion niferus y maen nhw’n eu darparu.

Beth sydd wedi newid? 

Rydym wedi newid y Weithred Gyffredinol hon fel a ganlyn: 

  • nid oes angen ichi gadw’r holl goed mwyach, ond rydym yn disgwyl gosod amodau ynghylch pryd rydych yn cael cwympo coed a'r risgiau sy’n gysylltiedig â chwympo coed. Nid yw'r gofynion statudol eraill wedi newid, felly os ydych am dorri mwy na 5m3, bydd angen trwydded cwympo coed, a bydd angen Cynllun Rheoli sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU ar gyfer gwaith coedwigaeth mwy
  • nid oes angen cadw'r holl goed marw mwyach. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i benderfynu pa gyfran y dylech ei chadw
  • rhaid cynnal fflora brodorol y llawr ac osgoi difrodi gwreiddiau coed
  • byddwch yn cael bwydo adar hela at lefelau cynaliadwy

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Pob ffermwr sy'n ymuno â'r Cynllun sydd â choetir.

Beth bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn cwblhau'r weithred gyffredinol hon, rhaid i chi:

  • reoli’r holl goetir sy'n bod ar eich fferm yn unol â'r gofynion rheoli

Ar gyfer unrhyw goetir ar eich fferm, byddwn yn nodi’r gofynion rheoli ichi, fydd yn cynnwys disgrifiad byr a rhestr o ganlyniadau mesuradwy a fyddai'n cyfateb i gyflwr da. Bydd gofyn ichi gyflawni’r canlyniadau penodol hyn.

Rydym wrthi’n gweithio gyda rhanddeiliaid yn y Grŵp Swyddogion ar fanylion y canlyniadau mesuradwy a’r gofynion rheoli. Am y rheswm hwnnw, nid ydym wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon. 

Ar gyfer coetir o fewn SoDdGA, bydd Cynllun Rheoli’r SoDdGA yn cael blaenoriaeth ar ofynion y Weithred Gyffredinol hon.

Rhaid ichi ddatgan ar eich SAF y math o goetir a’i arwynebedd a’ch bod yn bodloni’r Weithred hon drwy’r amser. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd gennym i’ch helpu i wneud hyn. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen i chi reoli’ch coetir o ddiwrnod ymuno â'r Cynllun a thrwy’r amser wedi hynny.

UA13: Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi (Gwrychoedd)

Datblygu cynllun sy'n nodi'r cyfleoedd ar gyfer plannu coed ychwanegol a chreu perthi/gwrychoedd newydd ar draws eich fferm er mwyn cynnig buddion niferus. 

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Gall coed a pherthi/gwrychoedd ychwanegol yn y dirwedd gynnig llawer o fuddion. Maen nhw'n darparu cysgod a lloches er lles eich da byw. Maent hefyd darparu nifer o fuddion amgylcheddol fel cynefin i fywyd gwyllt a helpu i arafu llif dŵr. Bydd coed a pherthi ychwanegol yn dal a storio carbon ac yn cyfrannu at ein targedau lliniaru newid hinsawdd. 

Beth sydd wedi newid? 

Cafodd y Weithred Gyffredinol hon ei chreu'n wreiddiol i'ch cefnogi i blannu coed a choetir ychwanegol i fodloni Rheol orfodol y Cynllun o 10% o orchudd coed ar bob fferm. Gan fod Rheol y Cynllun wedi newid i dargedau plannu coed a chreu perthi/gwrychoedd ar lefel y cynllun cyfan, yn dilyn argymhellion y Panel Carbon, mae'r Weithred Gyffredinol hon wedi newid i adlewyrchu hynny. 

Ein huchelgais o hyd yw'ch cefnogi i blannu coed a pherthi ychwanegol ar eich fferm gan roi ichi'r hyblygrwydd sy'n gweddu i'ch tir a'ch busnes. Mae'r Weithred Gyffredinol hon bellach yn eich cefnogi i greu Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd fydd yn nodi’r mannau ar eich fferm a fyddai yn eich barn chi yn elwa o gael coed neu berthi newydd, hynny er sail eich adnabyddiaeth a’r system ffermio.  Byddwch yn gallu defnyddio’r cynllun hwn i gael taliadau yn yr Haen Opsiynol.   

Rydym yn disgwyl ichi allu dangos eich bod wedi cymryd camau at wneud peth neu’r holl waith plannu rydych yn ei ddisgrifio yn eich cynllun erbyn diwedd 2030. Rydym wrthi’n ystyried y posibilrwydd o ganiatáu ichi gynnwys hefyd unrhyw waith plannu y gallech fod wedi’i wneud wrth baratoi ar gyfer ymuno â’r SFS. 

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Pob ffermwr yn y Cynllun.

Beth bydd angen i chi ei wneud

Datblygu cynllun sy'n nodi'r cyfleoedd i blannu coed a chreu perthi/gwrychoedd ar eich fferm. 

Rydym yn cynnig bod y cynllun yn cael ei ddatblygu ar RPW Ar-lein a byddwn yn darparu data mapio i'ch helpu i gynnal y Weithred hon.  Rydym am iddi fod yn broses syml fel na fydd angen ichi dalu am gyngor coedwigaeth proffesiynol, ond byddwn hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar sut i nodi'r lleoedd gorau ar gyfer plannu coed a pherthi ar eich fferm i gefnogi busnes eich fferm a sicrhau'r buddion amgylcheddol y mae angen i ni eu cyflawni.  Nid oes gofynion gorfodol o ran plannu ar lefel y fferm felly gallwch ddewis ble y byddai orau i’ch busnes i greu perthi neu blannu coed.

Byddwn yn disgwyl ichi fod wedi cymryd rhai camau i roi’r cynllun yn gyfan neu ran ohono ar waith erbyn diwedd 2030. Gallech wneud cais i un o gynlluniau grant Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed a chreu perthi/gwrychoedd i’ch helpu.  Mae'r cynlluniau hyn yn hyblyg iawn ac yn rhoi cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys plannu coetir, lleiniau cysgodi, coetir pori (neu amaethgoedwigaeth fel y'i gelwir hefyd), perllannau, coed unigol a pherthi/gwrychoedd newydd.  Gallwch wneud cais i blannu cyn lleied â 0.1 hectar, ac mewn nifer o flociau llai. Rhaid ichi blannu hefyd heb gefnogaeth y llywodraeth. 

Cadwch gofnodion ar eich fferm ar ôl cwblhau’r cynllun. Os byddwch yn defnyddio RPW Ar-lein, byddwn yn cadarnhau’n awtomatig bod y Weithred wedi’i chwblhau. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Bydd angen i chi lunio’ch cynllun erbyn diwedd eich blwyddyn gyntaf yn y Cynllun. 

Bydd angen i chi fod wedi plannu coed erbyn diwedd 2030, naill ai yn sgil gwneud cais am un o grantiau plannu coed a chreu perthi Llywodraeth Cymru neu heb gymorth y llywodraeth erbyn diwedd 2030.

UA14: Yr Amgylchedd Hanesyddol

Diogelu a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol. 

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Mae'r Weithred Gyffredinol hon yn gwneud cyfraniad uniongyrchol at warchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol. 

Mae cefn gwlad Cymru yn batrwm cymhleth o dirweddau naturiol a diwylliannol, wedi'u ffurfio dros filoedd o flynyddoedd o ryngweithio rhwng yr amgylchedd naturiol a phobl, gan gynnwys cenedlaethau o ffermwyr. Mae tirwedd Cymru fel y mae heddiw, yn ganlyniad y rhyngweithio hwn a dyma'r hyn sy'n rhoi i Gymru ei chymeriad gweledol a diwylliannol unigryw.

Beth sydd wedi newid? 

Nid oes unrhyw newid i’r Weithred hon.

Beth ydyn ni'n ei gynnig nawr 

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Disgwylir i bob fferm yn y Cynllun gynnal y Weithred hon os oes o leiaf un ased hanesyddol ar dir y fferm o'r rhestr hon:

  • henebion cofrestredig
  • adeiladau rhestredig
  • parciau a gerddi cofrestredig
  • nodweddion amgylchedd hanesyddol – gan gynnwys nodweddion unigol ac ardaloedd archeolegol sensitif mwy
  • adeiladau fferm traddodiadol
  • nodweddion yn y Dirwedd – megis waliau cerrig, cloddiau pridd neu gloddiau cerrig

Beth bydd angen i chi ei wneud

I gwblhau'r Weithred Gyffredinol hon ar gyfer yr holl asedau hanesyddol ar eich fferm, rhaid i chi: 

  • fonitro, cynnal a diogelu nodweddion. Cofnodi unrhyw ddirywiad a rhoi gwybod amdano lle bo angen
  • cydymffurfio â'r egwyddor  'peidio â gwneud difrod' a fydd yn cael ei ddisgrifio mewn canllawiau technegol
  • cyflwyno tystiolaeth (fel ffotograffau wedi'u geodagio) ar adegau penodol neu pan welir newid amlwg yn eu cyflwr
  • gwneud gwaith rheoli penodol, fydd yn dibynnu ar natur yr ased hanesyddol ar eich fferm, a allai gynnwys:
    • trwsio olion erydu sylfaenol a chodi llystyfiant ymledol
    • cadw adeiladau fferm traddodiadol mewn cyflwr sefydlog i'w rhwystro rhag dirywio, er enghraifft rhoi llechi newydd yn lle rhai sydd wedi llithro
    • gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar adeiladau a strwythurau hanesyddol. Er enghraifft clirio dail a malurion o gafnau dŵr glaw a nodweddion dŵr
  • Nodi'r nodweddion hanesyddol ar eich SAF. Byddwn yn darparu'r wybodaeth sydd gennym i'ch helpu i wneud hyn

Bydd angen i chi ddatgan ar eich SAF a yw'r Weithred Gyffredinol eisoes wedi'i chwblhau neu a gaiff ei chwblhau o fewn blwyddyn y cynllun. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Mae'r gwaith monitro a'r amod 'peidio â difrodi' yn ofynion parhaus. Bydd pa mor aml y dylech wneud y gwaith cynnal a chadw rhagweithiol yn dibynnu ar y math o asedau hanesyddol sydd gennych ar eich fferm a'u cyflwr. 

UA15: Iechyd a Lles Anifeiliaid

Cefnogi gwelliannau ymarferol sy'n benodol i'ch fferm i iechyd a lles eich da byw er mwyn gwella cynhyrchiant.

Pam ydyn ni wedi dewis y Weithred Gyffredinol hon? 

Trwy gadw at yr egwyddor ‘gwell atal clwy na'i wella’, gallwch wella iechyd, lles a chynhyrchiant eich da byw a dod â budd i'ch fferm a'r diwydiant da byw ar raddfa genedlaethol. 

Bydd gweithio'n agos gyda'ch milfeddyg yn lleihau'r risg o ledaenu clefydau ac yn gwella cynhyrchiant eich da byw, tra'n meithrin hefyd y gallu i wrthsefyll effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a’ch helpu i ymateb i ofynion cynyddol y gadwyn gyflenwi.

Beth sydd wedi newid? 

  • rydym wedi cyfuno tair Gweithred Gyffredinol o'r Ymgynghoriad – Gweithred Gyffredinol 15 Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid, Gweithred Gyffredinol 16 Lles eich anifeiliaid a Gweithred Gyffredinol 17 Bioddiogelwch da ar y fferm
  • rydym wedi dileu'r gofyn i osod mannau golchi i wella bioddiogelwch. Rydym yn dal i ystyried cymorth i osod mannau golchi fel Gweithred Opsiynol
  • rydym wedi dileu'r gofyn i gofnodi'r gwrthfiotigau a ddefnyddir a chloffni mewn anifeiliaid fel rhan o'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (roedd yn rhan o Weithred Gyffredinol 1- Meincnodi)
  • byddwch yn cadw’r cofnodion ar y fferm, ar gael ichi a’ch milfeddyg eu defnyddio
  • rydym yn gweithio gyda chynlluniau Sicrwydd Fferm a darparwyr dysgu i gydnabod gwaith sydd wedi'i wneud eisoes a’r gofynion o ran cadw cofnodion. Bydd hyn yn symleiddio’r prosesau datgan, yn lleihau’r baich gweinyddol ac yn osgoi dyblygu ymdrechion

Yr hyn yr ydym bellach yn ei gynnig:

Pwy fydd yn cynnal y Weithred Gyffredinol hon?

Pob ceidwad da byw cofrestredig 

Beth bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn cwblhau'r weithred gyffredinol hon, rhaid i chi:

  • weithio drwy gamau'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid gyda'ch milfeddyg
  • cwblhau'r ‘Asesiad Bioddiogelwch Anifeiliaid sy'n dod i'r Fferm’ blynyddol gyda'ch milfeddyg
  • sgorio Symudedd a Chyflwr Corff eich gwartheg a'ch defaid, a chael hyfforddiant i wneud. Rydym yn ystyried tasgau lles priodol ar gyfer rhywogaethau eraill
  • cadw templedi Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid a bioddiogelwch wedi’u cwblhau, cofnodi hyfforddiant lles anifeiliaid yn Storfa Sgiliau Cyswllt Ffermio a chadarnhau ar RPW Ar-lein bod y Weithred Gyffredinol wedi'i chwblhau

i)   Y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid:

Dyma gamau'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid:

  • Mesur - Gyda'ch milfeddyg, cytunwch ar ddau i bedwar 'metrig iechyd' sy'n briodol i asesu perfformiad eich da byw o ran iechyd a chynhyrchiant, a'u mesur neu eu hamcangyfrif
  • Cynllunio - Gyda'ch milfeddyg, gweithiwch allan eich nodau a'ch disgwyliadau ar gyfer rhai o'r metrig(au) a ddewiswyd, nodwch dargedau a chytunwch ar gynllun gweithredu ar gyfer gwella
  • Gweithredu – Cymerwch nifer hylaw (fel arfer un i bedwar) o'r camau y cytunwyd arnynt a chadwch gofnod bod y camau hyn wedi'u cwblhau
  • Adolygu - Gyda'ch milfeddyg, adolygwch effeithiau'r camau yr ydych wedi'u cymryd ac a ydyn nhw wedi cyflawni'r nodau a ddymunwyd. Mae'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid yn broses barhaus a byddwch yn gallu newid y metrigau a ddefnyddir - neu'r nodau a'r camau gweithredu - dros amser, gan ddibynnu ar gynnydd

Mae'n rhaid i chi gyflawni'r tasgau canlynol i gefnogi'r broses AHIC. 

ii)  Bioddiogelwch: Asesiad Bioddiogelwch Anifeiliaid sy'n dod i'r Fferm: 

  • cwblhewch ‘Asesiad Bioddiogelwch Anifeiliaid sy'n Dod i'r Fferm’ bob blwyddyn - gyda chyngor gan eich milfeddyg os ydych naill ai'n prynu anifeiliaid neu'n dod ag anifeiliaid yn ôl i'ch fferm ar ôl iddynt fod yn pori. Cofnodwch yr hyn rydych wedi'i wneud i liniaru risgiau bioddiogelwch yn sgil prynu a chyflwyno anifeiliaid i'r fferm 
  • rhaid i holl ffiniau caeedig eich fferm yr ydych yn gyfrifol amdanynt fod yn ffin amhosib ei chroesi i'r rhywogaethau rydych yn eu cadw 

iii)   Lles Anifeiliaid: Sgorio Symudedd a Chyflwr Corff:

Rhowch sgôr Symudedd a Chyflwr Corff bob blwyddyn i’ch gwartheg neu'ch defaid, gan ddefnyddio'r templed a ddarperir.  Rhaid cwblhau'r hyfforddiant o leiaf bob pum mlynedd a gall aelod o staff (nad yw’n aelod o’r busnes neu’n bartner) sy'n gyfrifol am ofalu am y da byw ei wneud os bydd hynny'n briodol. 

Pryd bydd angen imi wneud y Weithred hon?

Mae angen cwblhau pob tasg erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf a phob blwyddyn wedi hynny, heblaw am yr hyfforddiant. Bydd angen cwblhau hwnnw o leiaf bob pum mlynedd. 

Gofynion y Cynllun: Bod o leiaf 10% o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin

Rydym yn cynnig y dylai o leiaf 10% o bob fferm gael ei reoli fel cynefin er budd bywyd gwyllt ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. 

Wrth benderfynu a oes gennych ddigon o gynefin lled-naturiol i fodloni'r 10%, byddwn yn cynnwys pob cynefin, er enghraifft glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau, pwll dŵr a choetir llydanddail sy'n bod eisoes. Rydym yn cynnig cynnwys hefyd darnau o gynefin sydd newydd eu creu, fel perthi/gwrychoedd, coetir neu gynefin sydd wedi’i greu ar dir wedi’i wella. Ni ddylid cynnwys nodweddion eraill fel waliau cerrig sych, adeiladau fferm traddodiadol a choetiroedd conwydd.

Gweler ‘Cadarnhau’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y Cynllun’ ynghylch sut y gallwn eich helpu i nodi’r cynefin ar eich fferm. 

Os nad oes gennych ddigon o gynefinoedd i fodloni'r amod o 10%, gallwch greu nodweddion cynefin dros dro newydd i gyrraedd y trothwy – gweler Gweithred Gyffredinol 8 Creu cynefin dros dro ar dir wedi'i wella. Byddwn yn cefnogi creu cynefin parhaol trwy Haen Opsiynol y Cynllun. 

Y Rheol a gynigiwyd yn y Cynllun bod o leiaf 10% o bob fferm o dan orchudd o goed ar ffurf coetir neu goed unigol

Fe wnaethon ni gynnig rheol bod o leiaf 10% o bob fferm o dan orchudd o goed neu goed unigol. Ysgogodd hynny bryder yn y diwydiant ac ymhlith rhanddeiliaid eraill. 

Rydym wedi gwrando ar eich pryderon, ystyried canfyddiadau'r Panel Carbon a thrafod y cynigion hyn yn helaeth gydag aelodau’r Ford Gron a rhanddeiliaid eraill. O ganlyniad, rydym wedi dileu'r Rheol a gynigiwyd o ran y gorchudd coed yn Haen Gyffredinol y Cynllun.

Rydym felly yn cynnig eich cefnogi i blannu coed a pherthi (gwrychoedd) lle byddant orau er lles eich busnes. Mae aelodau’r Ford Gron o blaid targed plannu coed a chreu perthi ar lefel y Cynllun. Byddwn yn gweithio gyda’r Ford Gron i ddatblygu’r targed hwn ar lefel y Cynllun. 

Rydym wedi newid Gweithred Gyffredinol 13 i’w gwneud yn ofyn ichi lunio cynllun o’r cyfleoedd i blannu coed a chreu perthi.  Ein bwriad yw dyrannu cyllid penodol ar gyfer plannu a gweithgareddau cysylltiedig er mwyn ichi allu gwneud hynny trwy Weithredoedd Opsiynol. Mae aelodau'r Ford Gron wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried y rhwystrau i blannu coed er mwyn helpu i gyrraedd y targed hwn ar lefel y Cynllun ac yn unol ag argymhellion y Panel Carbon, i ddatblygu rhagor o gyfleoedd i chi nodi ffyrdd ychwanegol neu amgen i ddal a storio carbon ar eich fferm. 

Bwriad Llywodraeth Cymru ac aelodau'r Ford Gron yw'ch helpu i blannu coed a pherthi ychwanegol ar eich fferm i gyfrannu at ddal a storio carbon a'r buddion niferus eraill y maent yn eu darparu i chi, ac at gynhyrchu bwyd. Maent yn cynnig buddion i fusnes eich fferm, er enghraifft fel buddsoddiad hirdymor mewn cnwd pren, neu drwy ddarparu cysgod a lloches i dda byw yn ogystal â buddion amgylcheddol fel amsugno dŵr, darparu cynefin i fywyd gwyllt a gwella ansawdd aer.

Rydym yn bwriadu annog ffermwyr i blannu rhagor o goed drwy Haen Opsiynol y Cynllun, ac rydym yn newid ein grantiau plannu coed i symleiddio'r broses ac i roi mwy o ddewis i chi. Mae hyn yn cynnwys caniatáu ichi blannu darnau llai o goetir a phlannu o fewn coed pori (neu amaethgoedwigaeth fel y’i gelwir hefyd) i chi allu plannu coed newydd ar dir pori lle gall da byw barhau i bori, neu fel arall mewn rhesi gan gadw cnydau âr neu arddwriaethol yn brif gynnyrch. 

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r Ford Gron i nodi cyfleoedd i'ch cefnogi i blannu coed lle byddai hynny o werth i chi a sicrhau buddion ehangach yr un pryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn argyfwng hinsawdd a natur cenedlaethol, felly rhaid gweithredu. Bydd cyrraedd targed Cynllun cyfan gyda ffermwyr yn cael eu cefnogi i weithredu’n gadarnhaol lle medrant yn osgoi’r angen i ni osod gofynion gorfodol ar ffermydd unigol. 

Tir Comin

Mae’n bwysig i ni bod yr SFS yn cynnwys cymorth ar gyfer tir comin. Yn yr Ymgynghoriad, gwnaethon ni gynnig cefnogi tir comin trwy fodel cydweithredol, hynny oherwydd natur hawliau tir comin a'r hyn y mae gan borwr unigol yr hawl cyfreithiol i’w wneud. 

Rydym nawr yn cynnig ffordd wahanol o gefnogi tir comin. 

Ar sail y Gweithredoedd Cyffredinol hynny sy’n gallu cael eu haddasu ar gyfer tir comin, rydym yn cynnig bod rhan gyfrannol o’r Taliad Sylfaenol Cyffredinol (heb gynnwys y categori rheoli cynefin fydd yn cael ei gefnogi trwy Weithredoedd Cydweithredol) yn cael ei thalu i aelodau’r Cynllun sydd â da byw ac sydd â hawliau pori tir comin. Bydd taliadau’n seiliedig ar hawliau, tebyg i’r rheini a ddefnyddir yn y Cynllun Taliad Sylfaenol (BHPS). Bydd angen i chi ddangos eich bod yn cydymffurfio â’r cod tir comin (rhan o’r Cod Cyffredinol – gweler ‘Prosesau gweinyddu a dilysu’r Cynllun’).

Trwy Haen Gydweithredol y Cynllun, mae hi dal yn fwriad gennym dalu mwy os yw’r porwr yn rhan o Gymdeithas Bori ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio â set o weithgareddau pori cydgysylltiedig. Byddwn yn neilltuo mwy o arian i’r Cymdeithasau Pori sy’n dewis mynd gam ymhellach, yn gallu gweithio mewn partneriaeth â pherchennog y tir comin ac yn cytuno ar waith fydd wedi’i dargedu i wella tir comin, fel adfer mawnogydd. 

Rydym yn disgwyl darparu hefyd gymorth cydweithredol i greu mwy o gymdeithasau tir comin er mwyn dod â thir comin o dan gytundebau rheoli, tebyg i Gynllun Cynefin Cymru – Tir Comin, sy’n cefnogi porwyr i wneud mwy na’r hyn y gofynnir amdano yn y cod tir comin. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Ford Gron i ystyried agweddau fel y meini prawf cymhwysedd priodol ar gyfer taliadau tir comin a’r broses dyrannu taliadau.

Gweithredoedd Opsiynol a Gweithredoedd Cydweithredol

Bydd Haenau Opsiynol a Chydweithredol y Cynllun yn adeiladu ar y sylfaen y bydd yr Haen Gyffredinol wedi'i gosod a bydd y cynlluniau a gaiff eu lansio yn 2025 fel rhan o'n Cyfnod Paratoi, yn eu hategu. Bydd yr haenau'n rhoi rhagor o gyfleoedd i chi gael eich ariannu i gynnal gweithredoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ychwanegol.

Bydd yr ystod o Weithredoedd Opsiynol sydd ar gael i chi yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd yn yr Ymgynghoriad, argymhellion y Panel Carbon ar gyfer gweithgareddau ychwanegol i ddal a storio carbon ar ffermydd, yn ogystal ag amcanion blaenoriaeth y llywodraeth. Rydym yn disgwyl iddynt gynnwys gweithredoedd ar gynhyrchiant, arferion ffermio cynaliadwy, adfer cynefinoedd a pharhau â’r grantiau bach. 

Bydd Haen Gydweithredol y cynllun yn eich cefnogi i weithio gyda ffermwyr a sefydliadau eraill ar brosiectau ar y cyd i wneud y mwyaf o'r potensial i sicrhau buddion economaidd, amgylcheddol neu gymdeithasol. Mae enghreifftiau'n cynnwys rhannu gwybodaeth ac arloesedd â ffermwyr eraill neu’r byd academaidd neu drwy weithio gyda’ch gilydd i wella cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi leol. Defnyddir y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) i helpu i lywio'r Gweithredoedd Cydweithredol, megis creu cynefinoedd sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd mewn ffordd gydlynol ar draws tirweddau i sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol mwyaf posibl. 

Byddwch yn rhydd i ddewis y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol sy'n gweithio orau i'ch fferm a'ch uchelgeisiau; ond efallai y byddwn yn targedu rhai Gweithredoedd mewn meysydd neu sectorau penodol gan ddibynnu ar eu blaenoriaeth a'r canlyniadau y byddant yn eu sicrhau. 

Bydd y cymorth hwn yn gyfuniad o grantiau cyfalaf a refeniw, ynghyd â chyngor, arweiniad a throsglwyddo gwybodaeth.

Byddwn yn gweithio gyda'r Ford Gron i gytuno pa Weithredoedd Opsiynol a Chydweithredol fydd ar gael ar ddechrau'r Cynllun yn 2026 a pha Weithredoedd eraill fydd yn cael eu cyflwyno fesul cam dros y Cyfnod Pontio

Cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y Cynllun

Rydym am sicrhau bod y Cynllun yn effeithlon ac yn hawdd i chi ei ddefnyddio. Mae'r bennod hon yn disgrifio cyfres o gamau i'ch helpu i wneud cais am y Cynllun ac i wneud y gorau ohono. Mae hefyd yn disgrifio sut rydym yn cynnig prosesu'ch cais ar RPW Ar-lein. Rydych eisoes yn gyfarwydd â'r system honno.

Cadarnhau data

Mae ymarfer Cadarnhau Data ar agor tan 6 Rhagfyr 2024. Y nod yw i chi allu diweddaru systemau mapio RPW i gadarnhau’r tir sy'n gynefin ac o dan orchudd coed ar lefel cae a fferm wrth baratoi ar gyfer y Cynllun ac er gwybodaeth o dan Gynllun Cynefin Cymru 2025.  Byddwn yn cynnal ymarfer arall yn 2025 i gadarnhau unrhyw nodweddion ychwanegol sydd eu hangen fel rhan o'r Cynllun terfynol. Ni fyddwch wrth wneud hyn yn datgan tir ar gyfer unrhyw gynllun nawr nac yn y dyfodol. O 2026, byddwch yn gwneud hynny ar y SAF.

I gael gwybod mwy am yr ymarfer cadarnhau data, ewch i https://www.llyw.cymru/cynllun-ffermio-cynaliadwy-canllawiau-cadarnhau-data

Yr ymarfer cadarnhau data hwn yw'r cam cyntaf ar gyfer datblygu'r Adolygiad Sylfaenol o Gynefinoedd a ddisgrifir isod. 

Adolygiad Sylfaenol o Gynefinoedd

Bydd angen i ni gadarnhau'r nodweddion sy'n bresennol ar eich fferm bob blwyddyn er mwyn gallu talu taliadau'r SFS. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn cynnig cynnal asesiad sylfaenol o'r fferm o'r enw Adolygiad Sylfaenol Lefel 1 o Gynefinoedd (HBR1). Bydd yr HBR1 yn cadarnhau'r mathau bras o gynefinoedd a'r coed sy'n bresennol ar eich fferm. Bydd yr HBR1 yn nodi hefyd nodweddion pwysig eraill ar eich fferm fel nodweddion hanesyddol, Safleoedd Dynodedig a'u clustogfeydd. 

Bydd proses HBR1 yn cael ei llywio i ddechrau gan yr ymarferion Cadarnhau Data a ddisgrifir uchod ac wedi hynny byddwch yn adolygu ac yn diweddaru'r wybodaeth hon bob blwyddyn fel rhan o'ch SAF, yn ôl yr angen. 

Os byddwch yn dewis symud ymlaen i Haenau Opsiynol neu Gydweithredol y Cynllun, er enghraifft, i gynnal cynlluniau penodol i wella cynefinoedd, rydym yn cynnig proses fanylach - yr Adolygiad Sylfaenol Lefel 2 o Gynefinoedd (HBR2) - ac yn cyhoeddi canllawiau priodol, er enghraifft, i wella cynefinoedd wedi'u targedu neu i blannu coed ychwanegol mewn mannau sensitif.   

Asesiad carbon o’r fferm

Mae’r Ford Gron yn cydnabod bod y gadwyn cyflenwi ffermio a darparwyr cyllid yn gofyn fwyfwy am gael deall balans carbon eich fferm. Felly, byddai darparu mecanwaith, yn ogystal â diogelu dyfodol eich fferm ac yn rhoi buddion amgylcheddol, yn llesol i fusnes y fferm hefyd. 

Rydym am ddarparu’r mecanweithiau ichi allu gwneud hyn. Gwnaethon ni ddisgrifio’r dull sy’n well gennym yn yr Ymgynghoriad, sef bod pob ffermwr yn yr SFS yn defnyddio’r un gyfrifiannell garbon. Mae angen i ni nawr ystyried manylion adolygiad y Panel Carbon i benderfynu beth fyddai orau a mwyaf buddiol ichi ac i’r diwydiant, i hyrwyddo safbwynt cenedlaethol ynghylch cynaliadwyedd ffermio yng Nghymru. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Ford Gron a’r Grŵp Swyddogion i ddatblygu cynnig addas. 

Prosesau gweinyddu a dilysu'r Cynllun

Canllawiau'r cynllun

Bydd canllawiau manwl i'r Cynllun, sy’n cynnwys gofynion pob Gweithred Gyffredinol, Cod Cyffredinol a set o safonau dilysadwy, yn cael eu cynhyrchu cyn i'r Cynllun ddechrau. Byddant yn rhoi manylion y gweithredoedd a'r dystiolaeth sydd eu hangen arnoch i fodloni gofynion y Cynllun. 

Bydd y Cod Cyffredinol yn esbonio ichi beth yw’r gofynion sylfaenol o ran rheoliadau a hefyd gofynion y cynllun nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Gweithredoedd Cyffredinol. 

Y bwriad yw darparu un lle rhwydd i gael gwybodaeth a bydd yn cymryd lle’r Cod Cyffredinol ar gyfer Cynefinoedd a gynhwyswyd yn yr Ymgynghoriad. 

Nid ydym am greu Llinell Sylfaen newydd o Reoliadau wrth ddatblygu’r SFS gan fod gennym un eisoes. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Ford Gron i benderfynu pa ofynion y dylid eu cynnwys yn y Cod Cyffredinol. 

Y cais

I wneud cais am Daliad Cyffredinol yr SFS, bydd yn rhaid i chi lenwi'r SAF bob blwyddyn. Rydym am gadw cyfnod presennol y SAF, i ddechrau ym mis Mawrth a chau ar 15 Mai. 

Efallai y bydd gofyn i chi hefyd ddiweddaru systemau RPW a Cyswllt Ffermio yn ystod y flwyddyn i gadarnhau eich bod wedi cynnal y gweithredoedd nad oes angen eu cwblhau erbyn dyddiad cyflwyno'r SAF. Rydym yn gweithio gyda'r Ford Gron i sicrhau bod ochr weinyddol y Gweithredoedd Cyffredinol mor syml â phosibl. Er enghraifft, ein bod ond yn gofyn am wybodaeth sy'n hanfodol, gyda phwyslais ar gadw'ch gwybodaeth ar gofnodion y fferm a lle medrir, dim ond gofyn ichi a yw Gweithredoedd wedi’u cwblhau.

Byddwn yn paratoi dangosfwrdd ar RPW Ar-lein i gofnodi'r Gweithredoedd y byddwch wedi'u gwneud ac i'ch rhoi ar ben ffordd ar gyfer cael cyngor a help.

Bydd angen i chi lenwi ceisiadau ar wahân ar gyfer Gweithredoedd Opsiynol neu Gydweithredol gan y byddant yn rhedeg dros gyfnodau hirach.

Rhybuddion a chosbau

Mae cydymffurfio â meini prawf, gofynion y cynllun, y rheoliadau a holl Weithredoedd y Cynllun i gyd yn amod o'r taliad. Bydd angen i chi hefyd ddatgan gwybodaeth gywir am bethau fel arwynebeddau a nodweddion cymwys.

Lle na fyddwch wedi cydymffurfio neu os byddwch wedi datgan gwybodaeth anghywir, gallem eich gorchymyn i gywiro mân anghysonderau lle medrir. Caiff eich taliad ei ostwng a/neu cewch eich cosbi’n ariannol, er enghraifft os yw’r tramgwydd yn un sydd wedi’i wneud o’r blaen neu os oes problem gydymffurfio arwyddocaol. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ymateb cymesur a phriodol. 

Cyngor a help

Rydym am eich cefnogi i ymuno â'r Cynllun a chwblhau'r Gweithredoedd mewn ffordd mor effeithlon â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Ford Gron, y Gweithgor Swyddogion a Grŵp Defnyddwyr RPW i sicrhau bod prosesau'n glir ac yn hawdd eu deall, gan roi cyngor ac arweiniad addas lle bo hynny'n briodol. 

Rydym am i chi gael y gorau o'r Cynllun, felly byddwn yn eich cefnogi hefyd i ennill a/neu feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynnal y Gweithredoedd Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol. Byddwn yn parhau i roi cyngor a chymorth dysgu a datblygu i chi a'ch busnes, gan gynnwys trwy gyfleoedd wyneb yn wyneb ar y fferm, a chyda ffermwyr eraill, hynny yn dilyn eich adborth i‘r Ymgynghoriad diwethaf.  

Dull talu

Bwriad Haenen Gyffredinol yr SFS yw helpu i gryfhau busnesau fferm trwy gynnal Gweithredoedd. Am eu cynnal, telir Taliad Cyffredinol sy’n cynnwys dwy elfen: Taliad Sylfaenol Cyffredinol a Thaliad Gwerth Cymdeithasol.

Y Taliad Sylfaenol Cyffredinol: Seilir y Taliad Sylfaenol Cyffredinol ar yr amcangyfrif o'r costau a ysgwyddir a'r incwm a gollir gan ffermwyr o ganlyniad i gynnal gweithredoedd yr Haen Gyffredinol a bodloni gofynion y cynllun.  Bydd hyn yn cael ei dalu mewn cysylltiad â'ch fferm gyfan, gan ystyried y tir sydd wedi'i wella, y tir sy'n gynefin ac o dan goetir ac unrhyw hawliau pori ar dir comin sydd gennych (ar sail dyraniad, fel y BPS).

Rydym yn cydnabod y gallai cynnal rhai Gweithredoedd Cyffredinol arwain at gostau ychwanegol ichi, gan gynnwys o ran amser er y disgwylir i rai eraill olygu arbedion uniongyrchol ac anuniongyrchol a manteision eraill i’r busnes. Efallai’ch bod eisoes wedi cwblhau llawer o'r Gweithredoedd ac ni fydd angen ichi eu gwneud eto. Gall cwblhau'r Gweithredoedd Cyffredinol olygu i rai na chaiff rhai gweithgareddau amaethyddol eu cynnal gan olygu gostyngiad yn eu hincwm (colli incwm). Mae'r effeithiau hyn yn amrywio o fferm i fferm yn ôl eu hamgylchiadau.  

Taliad Gwerth Cymdeithasol: Rydym yn dal i ymrwymo i ddatblygu elfen gwerth cymdeithasol fel rhan o’r Taliad Cyffredinol i adlewyrchu'r buddion rydych chi'n eu cynhyrchu ar gyfer cymdeithas trwy gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. 

Bydd hyn yn ychwanegol at unrhyw gostau y byddwch wedi'u hysgwyddo ac incwm a gollir. 

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gael pethau'n iawn. Mae'n bwysig mynd ati mewn ffordd deg a chymesur sy'n adlewyrchu'r hyn y mae ffermwyr Cymru wedi'i wneud sy'n cyfrannu at y pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy, hynny er lles cenedlaethau heddiw ac yfory. 

Cyfraddau Talu: Byddwn yn dadansoddi’r Cynllun fel y mae wedi’i gynnig yn y ddogfen hon a'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb, er mwyn cyfrif y cyfraddau talu. 

Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi i chi wybod y cyfraddau talu cyn ystyried pontio i'r Cynllun. Byddwn yn eu cyhoeddi fel rhan o fanylion terfynol y Cynllun yn 2025 a byddant yn cael eu monitro a’u diweddaru wedi hynny.

Llinell amser ar gyfer cyflwyno'r Cynllun

Y cam paratoi

Yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi Cyfnod Paratoi ar gyfer 2025 gyda nifer o gynlluniau a mentrau eraill, i roi cyngor a help i ffermwyr cyn cyflwyno'r SFS.

Ymhlith y Cynlluniau hynny y mae:

  1. Parhau â'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS), am gyfnod cyfyngedig o amser.
  2. Cynllun Cynefin Cymru - yn cael ei gynnig yn 2025 a bydd pob ffermwr cymwys yn cael gwneud cais.
  3. Cynllun Cynefin Cymru - Tir Comin - gellir estyn cytundebau ar gyfer 2025.
  4. Y Taliad Cymorth Organig - yn cael ei gadw ar gyfer 2025.
  5. Cyswllt Ffermio - yn cael ei estyn hyd at 2026, gan gadw'r cymorth i helpu ffermwyr i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi.
  6. Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd - yn cael ei greu i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr i gynnal atebion sy'n seiliedig ar natur ar raddfa tirwedd, dalgylch neu Gymru gyfan.  Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu Gweithredoedd Cydweithredol yr SFS.
  7. Rhagor o gyfnodau ymgeisio am Gynlluniau Grantiau Bach.

Byddwn yn defnyddio'r amser hwn cyn 2026 i sicrhau bod y prosesau a gynigir yn briodol, felly er enghraifft, byddwn yn:

  • cadw peilot y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (fel rhan o Weithred Gyffredinol 15)
  • gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a ffermwyr i dreialu trefn fwy effeithlon ar gyfer creu Cynlluniau Rheoli SoDdGAau (Gweithred Gyffredinol 9)
  • lansio offer Dangosyddion Perfformiad Allweddol Cyswllt Ffermio (Gweithred Gyffredinol 1) 
  • datblygu ‘Storfa Sgiliau’ Cyswllt Ffermio – y cofnod dysgu fydd yn cofnodi popeth y byddwch wedi’i ddysgu (Gweithred Gyffredinol 1)

Y Cyfnod Pontio (2026-2029)

Yn ein Hymgynghoriad gwnaethon ni ddisgrifio'n cynigion ynghylch pryd i gyflwyno'r Gweithredoedd Cyffredinol a'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol wedi hynny. Bydd y Cyfnod Pontio hwn yn dechrau ar 1 Ionawr 2026 ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2029. 

O 2026 ymlaen, gallwch ddewis naill ai'r SFS neu'r BPS trwy’ch SAF. Os byddwch yn dewis yr SFS, ni chewch fynd yn ôl i'r BPS, gan mai'r SFS yw’r prif fecanwaith cymorth hirdymor.

Rydym yn dal i gynnig dod â'r BPS i ben yn raddol dros y Cyfnod Pontio trwy ostwng ei werth bob yn damaid (20% y flwyddyn) gan ddechrau yn 2026. 

Y camau nesaf

Nid yw’r Amlinelliad hwn o’r Cynllun yn Gynllun Terfynol ac mae llawer o waith eto i’w wneud cyn y bydd modd gwneud y penderfyniadau terfynol.

Byddwn nawr yn dadansoddi effeithiau’r Amlinelliad newydd hwn o’r Cynllun ac yn parhau i weithio gyda’r Ford Gron a rhanddeiliaid eraill ar y manylion. Rydym wedi nodi’r camau hynny isod. 

Rydym am gyhoeddi manylion y Cynllun terfynol haf nesaf cyn i’r SFS gychwyn ar 1 Ionawr 2026. 

  • bydd y Cynllun a ddisgrifir yn y ddogfen hon yn cael ei ddefnyddio nawr i gynnal asesiad effaith a dadansoddiad economaidd newydd dros y gaeaf hwn a'r gwanwyn nesaf i fesur ei effeithiau ar ystod o agweddau amaethyddol, amgylcheddol a chymdeithasol
  • bydd y Ford Gron Gweinidogol a'r Gweithgor Swyddogion yn parhau i adolygu manylion y Gweithredoedd, gofynion y cynllun a'r prosesau gweinyddol i fireinio'r farn lefel uchel sydd wedi'i chynnwys yn y ddogfen hon
  • bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n derfynol ar y cynllun yr haf nesaf ar sail tystiolaeth, gan gynnwys yr asesiad effaith a'r dadansoddiad economaidd, wedi i'r Ford Gron ei hystyried
  • byddwn yn cyhoeddi manylion terfynol y cynllun, gan gynnwys y cyfraddau talu, pan fydd Gweinidogion Cymru wedi gwneud eu penderfyniadau terfynol
  • byddwn yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth flwyddyn nesaf i sicrhau bod y cymorth amaethyddol yn cael ei sefydlu a'i ddarparu yn unol â Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2022
  • byddwn yn gwneud yn siŵr bod gennych y wybodaeth am y Cynllun sydd ei hangen arnoch i allu penderfynu a ddylech ymgeisio am yr SFS ar SAF 2026
  • byddwn yn cyflwyno Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol fesul cam gydol y Cyfnod Pontio (2026 – 2029)

Atodiad 1: Aelodau'r Ford Gron Gweinidogol a’r is-grwpiau

Y Ford Gron

Partneriaid:

  • Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
  • Coed Cadw *
  • Confor
  • Cymdeithas Milfeddygon Prydain 
  • Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
  • Cymdeithas y Ffermwyr Tenant
  • Cymdeithas y Pridd 
  • Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru
  • Cynrychiolydd ffermwyr annibynnol
  • DPJ Foundation
  • Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
  • Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
  • Hybu Cig Cymru
  • Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
  • Ymddiriedolaethau Natur Cymru

*Hefyd yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru (WEL).

Panel Carbon

Partneriaid:

  • Confor
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
  • Cymdeithas y Pridd 
  • Cynrychiolydd ffermwyr annibynnol
  • Hybu Cig Cymru
  • Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru

*Hefyd yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru (WEL).

Grŵp Swyddogion

Partneriaid:

  • Afonydd Cymru 
  • Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
  • Coed Cadw *
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Confor
  • Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol 
  • Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
  • Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol 
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
  • Cymdeithas y Ffermwyr Tenant
  • Cymdeithas y Pridd 
  • Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru
  • Cynrychiolydd milfeddygon annibynnol
  • Cyswllt Amgylchedd Cymru
  • Dŵr Cymru
  • Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
  • Game & Wildlife Conservation Trust
  • Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt 
  • Grŵp Cynghrair Garddwriaeth Cymru 
  • Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
  • Hybu Cig Cymru
  • Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar
  • Sustainable Food Trust 
  • Tirweddau Cymru / Landscapes Wales 
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
  • World Wild Fund for Nature 
  • Ymddiriedolaethau Natur Cymru 
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol