Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cymru Cynllun Cymhorthdal Monitro Cychod

3. Sail gyfreithiol y DU

4. Amcanion y cynllun

Bydd y cymhorthdal arfaethedig yn darparu cymorth ariannol i'r diwydiant pysgota i gaffael dyfais monitro iVMS yn unigol. Daeth deddfwriaeth i rym yng Nghymru yn 2022 trwy Orchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cwch pysgota masnachol o dan 12m o hyd, sy'n gweithredu ym mharth Cymru, neu bysgotwyr Cymru ble bynnag y bônt, osod a gweithredu dyfais iVMS pan fyddant yn ymgymryd â gweithgareddau pysgota.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Bydd cymhwysedd yn cael ei gyfyngu i berchennog llong gofrestredig a thrwyddedig o dan 12m sy'n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru.

7. Sector(au) a gefnogir

Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota.

8. Hyd y cynllun

11 Hydref 2024 i 28 Chwefror 2028.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

Amcangyfrifir bod cyfanswm y gyllideb ar gyfer y cynllun cymhorthdal yn £240,000.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd cymhwysedd yn cael ei gyfyngu i berchennog llong gofrestredig a thrwyddedig o dan 12m sy'n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru.

Gwneir taliadau hawliadau I-VMS ar ddarparu anfoneb a phrawf o dalu am ddyfais I-VMS wedi'i gosod ar y cwch benodol a’i fod yn weithredol. Mae'n rhaid cofrestru'r llong yng Nghymru ar y dyddiad prynu. Mae'r pysgotwr yn cytuno i waredu'r hen ddyfais fel y cyfarwyddir gan Lywodraeth Cymru.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bydd swm y cymhorthdal yn cael ei gyfyngu i £800 fesul cwch gofrestredig.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£800 i berchennog cwch / cychod dan 12m sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru.

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image