Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Ym mis Chwefror, cyhoeddais fod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf yn y rhaglen Cartrefi Clyd i wneud hyd at 25,000 o gartrefi ledled Cymru yn fwy ynni-effeithiol.
Daw llawer o fanteision o fuddsoddi i arbed ynni mewn cartrefi. Mae’n arwain at ddefnyddio llai o ynni gan leihau biliau ynni ac allyriadau carbon, yn creu cyfleoedd gwaith a busnes yn y gadwyn gyflenwi leol, ac yn gwella iechyd a lles aelwydydd.
Gwyddom y gall byw mewn cartref oer gael effaith arwyddocaol ar iechyd y trigolion. Trwy wneud cartrefi’n gynhesach, rydym yn gwneud gwelliant tymor hir i’w hiechyd a’u lles gan leihau’r baich ar y gwasanaethau cyhoeddus.
Ym mis Hydref, cyhoeddon ni adroddiad ar ganfyddiadau’r Prosiect Cysylltu Data Tlodi Tanwydd sy’n defnyddio data dienw i ymchwilio i effaith mesurau arbed ynni a osodwyd o dan y rhaglen Cartrefi Clyd ar iechyd y rheini sy’n eu derbyn. Roedd y canfyddiadau cychwynnol yn dangos effaith bositif ar iechyd a nodwyd y byddai’r adroddiad nesaf yn cynnwys dadansoddiad cymhlethach.
Ddoe, cyhoeddon ni’r adroddiad diweddaraf.
Mae’r canfyddiadau’n galonogol iawn. Yn eu plith:
- Effaith bositif arwyddocaol ar iechyd resbiradol gyda gostyngiad o 3.9% ar gyfartaledd ar nifer yr ymweliadau â’r meddyg teulu ynghylch anhwylderau resbiradol ymhlith y rheini sy’n elwa ar fesurau Nyth, o’i gymharu â chynnydd o 9.8% yn nifer ymweliadau’r grŵp rheolydd dros yr un cyfnod.
- Gwelwyd patrwm tebyg hefyd gydag asthma, gyda 6.5% o ostyngiad yn y grŵp Nyth a 12.5% o gynnydd yn y grŵp rheoli yn yr un cyfnod.
- Mae’r data’n awgrymu hefyd y bydd yna ‘effaith amddiffynnol’ ar gyfraddau rhoi presgripsiynau i ddelio â heintiau, gyda llai o gynnydd yn nifer y presgripsiynau ar gyfartaledd i’r rheini sy’n rhan o gynllun Nyth.
- Mae’r data’n awgrymu hefyd bod effaith gadarnhaol ar y nifer sy’n mynd i’r ysbyty fel achos brys oherwydd afiechydon cardiofasgwlaidd a resbiradol
Mae’r ymchwil yn dangos bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn helpu i atal problemau iechyd sy’n gysylltiedig ag oerfel ac mae hynny wrth gwrs yn effeithio ar y defnydd o’n gwasanaethau iechyd. Mae hyn yn cyfrannu’n fawr at ein hamcanion ynghylch Cymru Iachach, mwy Cyfartal a mwy Ffyniannus.
Mae’r canfyddiadau’n cefnogi’n penderfyniad i gynyddu’r nifer sy’n gymwys am gynllun newydd Nyth, er mwyn cynnwys pobl ar incwm isel sydd â phroblemau anadlu neu â’u cylchrediad, yn ogystal â’r rheini sy’n derbyn budd-dal sy’n seiliedig ar brawf modd.
Bydd y gwaith ar y prosiect Cysylltu Data Tlodi Tanwydd yn parhau ac edrychaf ymlaen at rannu canfyddiadau â chi yn y dyfodol, er enghraifft cymharu’r nifer sy’n cael eu hel i ysbyty ddwy flynedd cyn a dwy flynedd ar ôl gosod y mesurau arbed ynni, edrych ar afiechydon eraill, cymharu effeithiau cynlluniau Nyth ac Arbed ar iechyd, ac effaith Nyth ar gyrhaeddiad addysgol.
Fe welwch yr adroddiad diweddaraf yma:
gov.wales/docs/caecd/research/2017/170404-fuel-poverty-data-linking-project-findings-report-1-cy.pdf