Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol Hawliau Dynol.

Cyflwyniad

Ar sail tystiolaeth gan randdeiliaid (gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig), daeth yr adroddiad ar yr ymchwil ar Gryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i’r casgliad bod: 

  • awydd cryf i ymgorffori hawliau dynol ymhellach yng Nghymru drwy Gyfraith Cymru
  • angen am atebolrwydd cryfach (ar draws yr holl swyddogaethau cyhoeddus) dros hawliau dynol yng Nghymru (gan gynnwys atebolrwydd cyfreithiol am gydymffurfio â hawliau dynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny)

Mae adroddiad SAEHR yn cynnwys tystiolaeth fanwl gan randdeiliaid ynghylch manteision tybiedig ymgorffori a gwell atebolrwydd, ac mae’n nodi dau argymhelliad yn y meysydd hyn: argymhellion 1 a 25. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor. 

Mae’r Gweithgor yn cael ei sefydlu i roi cyngor ar gynnydd o dan ‘Maes Gweithredu A Gwaith Paratoi Deddfwriaethol’, fel yr amlinellir yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad SAEHR. 

Prif amcan

Prif amcan y Gweithgor yw cynghori Llywodraeth Cymru ar y camau nesaf i fwrw ymlaen ag argymhellion 1 a 25 fel y nodir yn adroddiad SAEHR. 

Bydd y Gweithgor yn darparu cyngor neu argymhellion o’r fath i Lywodraeth Cymru fel y mae’n credu sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni ei phrif amcan. Bydd y Gweithgor yn adrodd i Weinidogion Cymru a’r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol. 

Ystyriaethau cyffredinol

Roedd adroddiad SAEHR yn ystyried y potensial ar gyfer atchweliad o amddiffyniadau hawliau dynol o ganlyniad i ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd (Brexit). Am resymau amseru, nid oedd ymchwil adroddiad SAEHR yn gallu rhoi ystyriaeth lawn i gynigion diweddar gan Lywodraeth y DU i ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998 (HRA). Y consensws ymhlith sefydliadau cymdeithas sifil a Llywodraeth Cymru yw bod gan y cynigion hyn y potensial i wanhau amddiffyniadau hawliau dynol yn y DU ac yng Nghymru. 

Dylai’r Gweithgor ystyried y potensial i ddiwygiad Brexit a’r Ddeddf Hawliau Dynol arwain at atchweliad hawliau dynol yn y DU ac yng Nghymru; a dylai ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymryd camau o fewn fframwaith datganoli i liniaru unrhyw atchweliad hawliau dynol sy’n deillio o bolisïau Llywodraeth y DU, a lle bo’n bosibl, i ddefnyddio pwerau datganoledig i barhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o wireddu hawliau dynol yn well yng Nghymru. 

Dylai’r Gweithgor osgoi ail-archwilio materion yr ymdriniwyd â nhw yn ystod yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad ar SAEHR a oedd yn defnyddio dull cyfranogol i sefydlu barn rhanddeiliaid ar ymgorffori ac atebolrwydd. Yn ôl yr angen, dylai’r Gweithgor gyfeirio at adroddiad SAEHR i lywio ei waith. 

Bydd y Gweithgor yn cynghori ar ymgorffori hawliau dynol yn gyffredinol, ond dylai gofio bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ymrwymiad i ymgorffori CEDAW a’r CRPD yng Nghyfraith Cymru.  Mae Gweinidogion hefyd wedi dangos y byddent yn croesawu dull cynhwysol, gan fynd y tu hwnt i ddau Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig i gynnwys ystyried hawliau pobl hŷn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil (ICERD), hawliau pobl LHDTC+ ac ymestyn hawliau plant. 

Lle bo’n briodol (fel y pennir gan y Gweithgor) bydd y Gweithgor yn ystyried a fyddai mabwysiadu unrhyw fesur anneddfwriaethol fel y nodir yn yr argymhellion a wnaed yn adroddiad SAEHR yn fwy effeithiol i gyflawni’r amcan o wreiddio hawliau dynol fel fframwaith ar gyfer arfer swyddogaethau datganoledig gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus Cymru; yn ogystal â sicrhau bod Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus Cymru yn atebol yn briodol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd sy’n cael effaith ar hawliau dynol yng Nghymru. 

Cylch gwaith penodol

Er mwyn cyflawni ei brif amcan, dyma beth fydd y Gweithgor yn ei wneud: 

  • Datblygu a gweithredu rhaglen o weithgareddau i sicrhau bod y Gweithgor yn cael yr wybodaeth briodol am y blaenoriaethau i ymgorffori hawliau dynol yng Nghymru, ac yn benodol: 
    • a ddylid ymgorffori, ac os felly, pa hawliau dynol sy’n rhwymo’r DU ar hyn o bryd mewn cyfraith ryngwladol yng nghyfraith Cymru
    • p’un a fyddai’n briodol datblygu hawliau dynol pwrpasol na welir ar hyn o bryd mewn cyfraith ryngwladol i’w cyflwyno i Gyfraith Cymru
    • i ba raddau y dylai unrhyw ddeddfwriaeth i wneud hawliau dynol yn rhan o Ddeddf Cymru ymestyn i awdurdodau cyhoeddus Cymru ar wahân i Weinidogion Cymru
  • Mynd i’r afael â sut gall deddfwriaeth ar ymgorffori rymuso deiliaid hawliau i wybod, deall a mynnu eu hawliau dynol corfforedig. 
  • Mynd i’r afael â sut gallai deddfwriaeth hyrwyddo diwylliant o gydymffurfio â hawliau dynol ymysg deiliaid dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus, yn enwedig i annog camau gweithredu sy’n helpu awdurdodau cyhoeddus i osgoi torri unrhyw hawliau dynol sydd wedi’u hymgorffori yng Nghyfraith Cymru. 
  • Mynd i’r afael â’r mater o sut gellid dal deiliaid dyletswydd hawliau dynol yn atebol am gyflawni unrhyw rwymedigaethau hawliau dynol sy’n codi yng nghyfraith Cymru, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: 
    • atebolrwydd cyfreithiol yn cael ei orfodi drwy lysoedd neu dribiwnlysoedd
    • dewisiadau eraill yn lle gweithredu gorfodaeth yn y llys (er enghraifft, datrysiad cymunedol, dulliau amgen o ddatrys anghydfod, cyfryngu)

Dulliau gweithio

Bydd y Gweithgor yn pennu ei ddulliau gweithio ei hun. 

Os credir bod hynny’n briodol, bydd y Gweithgor yn gwahodd arbenigwyr fel bod aelodau’n cael yr wybodaeth briodol am faterion sy’n codi mewn perthynas â phwyntiau 1 i  4 uchod, gan gynnwys effaith debygol unrhyw gamau gweithredu y mae’r Gweithgor yn eu hystyried fel cyngor i Weinidogion Cymru. 

Fframweithiau statudol presennol a maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli

Mae’r ymchwil ar SAEHR yn rhoi ystyriaeth lawn i’r fframweithiau statudol presennol sy’n berthnasol i gydraddoldeb, hawliau dynol a llesiant yng Nghymru. Bydd y Gweithgor yn parhau â’r dull hwn i roi ystyriaeth lawn i effaith debygol unrhyw gyngor y mae’n ei roi i Weinidogion Cymru ar fframweithiau statudol presennol (yn ogystal ag unrhyw ganllawiau cysylltiedig). 

Yn y pen draw, mater i Weinidogion Cymru, gan weithredu ar eu cyngor cyfreithiol eu hunain, fydd penderfynu a yw unrhyw gamau gweithredu a argymhellir gan y Gweithgor i fodloni argymhellion 1 a 25 SAEHR yn bodloni’r maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Fodd bynnag, dylai’r Gweithgor gofio y dylai ei gyngor, i’r graddau y mae’r Gweithgor yn gallu penderfynu, fod yn gallu cael ei gyflawni o fewn fframwaith datganoli.

Cyllideb ac adnoddau

Tîm Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru fydd yn cefnogi’r gwaith. Y tîm hwn fydd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Gweithgor. Bydd y Gweithgor hefyd yn cael ei gefnogi gan Wasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru. 

Mae’r gyllideb nad yw’n ymwneud â staff ar gyfer y gwaith hwn wedi’i chyfyngu i fân dreuliau a gwaith paratoi ar raddfa fach.  Bydd angen i unrhyw gynnig am wariant mwy sylweddol gael ei ddatblygu gan y Gweithgor a’i gyflwyno i Weinidogion i’w ystyried.