Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n falch o rannu'r cynnydd sylweddol a wnaed o ran hyrwyddo bridio cŵn yn gyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn yng Nghymru eleni. Yn dilyn llwyddiant ein huwchgynhadledd gyntaf y llynedd, rwyf wedi mynychu ein hail uwchgynhadledd flynyddol yn ddiweddar a gynhaliwyd ar 24 Hydref. Roedd yn llwyfan i dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd, rhannu gwybodaeth a dangos effeithiolrwydd ein dull cydweithredol. Roedd yn gyfle i glywed gan randdeiliaid am eu cynnydd a'r atebion arloesol y maent yn eu rhoi ar waith.
Mae'r fenter hon wedi bod yn ymdrech gydweithredol sy'n cynnwys nifer o randdeiliaid, gan gynnwys llywodraeth leol, yr heddlu, iechyd y cyhoedd, sefydliadau'r trydydd sector ac ymgyrchwyr dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd. Mae datblygu'r gweithgor amlasiantaeth hwn wedi bod yn allweddol o ran sbarduno ein nodau, gan helpu i rannu arbenigedd a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau dull cydlynol ar gyfer bridio cŵn yn gyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
Dyma rai o’r prif gyflawniadau:
- Ehangu menter LEAD o fewn ardal Heddlu Gwent a'i defnyddio ar draws heddluoedd eraill yng Nghymru.
- Y nifer sy'n ymgymryd â chyrsiau perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a ddarperir gan elusen y Blue Cross ar draws pob un o'r pedwar heddlu.
- Y gwaith dylanwadol a wneir gan Hope Rescue yn y gymuned a'r cymorth allweddol y maent yn ei roi i elusennau iechyd meddwl a pherchnogion cŵn.
- Gwaith ymchwil a datblygu parhaus i ddeall arferion a modelau trwyddedu llwyddiannus o wledydd eraill i sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid bridio. Mae'r gwaith ymchwil hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn mabwysiadu'r dulliau gorau posibl o fridio cŵn yn gyfrifol ac mae'n helpu i lywio ein strategaethau yma yng Nghymru.
- Mae prosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwefan a phorth newydd ar gyfer awdurdodau lleol, bridwyr a'r cyhoedd . Mae'r datblygiad hwn yn mynd law yn llaw ag ymdrechion i frwydro yn erbyn bridio anghyfreithlon a chodi safonau ac amodau.
- Datblygu Partneriaeth Diogelwch Cŵn Cymru. Mae'r fenter hon yn bennod newydd gyffrous yn ein hymdrechion. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar ein cymunedau.
Rydym yn diolch i bawb a gymerodd ran am eu hymroddiad a'u gwaith caled. Gyda'n gilydd, rydym yn cymryd camau breision o ran hybu bridio cŵn yn gyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn ledled Cymru.