Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cynefin Cymru 2025 – busnesau ffermio unigol

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau - gan gynnwys Cynllun Cynefin Cymru - yn helpu i gefnogi’r themâu canlynol:

  • rheoli tir ar raddfa fferm
  • gwella'r amgylchedd ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio 

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu sy'n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael, a llywio datblygiad parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd y cynllun hwn yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru a Grantiau a Thaliadau Gwledig.

Adran A: cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau i fusnesau fferm sy'n bwriadu gwneud cais ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru 2025. 

Mae ffermwyr yn gwneud cyfraniad hynod bwysig wrth helpu i ofalu am gefn gwlad a bywyd gwyllt. O'i reoli mewn ffordd sensitif, gall tir fferm gynnal pob math o fflora a ffawna sy'n bwysig i'r amgylchedd.

Mae ardaloedd lled-naturiol (cynefinoedd) yn cael eu diffinio i raddau helaeth gan y planhigion a'r bywyd gwyllt y maent yn eu cynnal ac, yn aml, nid ydynt wedi cael eu trin na’u hail-hau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Efallai eu bod wedi bod yn destun lefelau isel o darfu ffisegol, megis llyfnu ag oged gadwyn, neu lefelau isel o fewnbwn maethynnau o dail organig neu wrteithiau anorganig. Gall ardaloedd o'r fath gynnwys glaswelltiroedd yr iseldir a'r ucheldir lle maent yn cynnwys llai na 25% o rywogaethau glaswellt amaethyddol wedi'u gwella a/neu feillion gwyn.

Mae'r ddogfen hon yn rhoi manylion y rheolau a fydd yn berthnasol i Gynllun Cynefin Cymru 2025.

Bydd manylion sut i wneud cais am daliadau Cynllun Cynefin Cymru yn cael eu cyhoeddi yn llyfryn rheolau'r Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2025 y flwyddyn nesaf. 

Byddwch yn gwneud cais ac yn hawlio o dan Gynllun Cynefin Cymru 2025 drwy SAF 2025. Nid oes angen unrhyw gais mynegi diddordeb.

Byddwch yn gallu dewis hawlio dim ond y parseli gyda'r cynefinoedd y gallwch eu rheoli yn unol â gofynion y cynllun. Nid oes angen rheoli pob cynefin ar eich daliad.

Mae'r Ffurflen Cadarnhau Data ar RPW ar-lein yn rhoi manylion yr ardaloedd cynefin a'r dosbarthiadau ar gyfer eich fferm. Mae'r ffurflen yn caniatáu i chi wirio'r wybodaeth sydd gennym a newid a chadarnhau manylion eich fferm cyn i’r cynllun agor. Bydd y Ffurflen Cadarnhau Data ar gael tan 6 Rhagfyr 2024. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma Cynllun Ffermio Cynaliadwy: canllawiau cadarnhau data | LLYW.CYMRU

Mae Cynllun Cynefin Cymru 2025 yn darparu taliad fesul hectar ar gyfer tir cymwys ac mae ar gael i bob cynhyrchydd amaethyddiaeth cymwys ledled Cymru. Nid yw'r cynllun ar gael i dir comin lle mae mwy nag un porwr.

Nodau’r cynllun yw:

  • cynnal cymorth i reoli tir cynefin yn 2025 cyn cyflwyno Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) yn 2026
  • dod â thir cynefin ychwanegol, nad yw'n cael ei reoli am dâl ar hyn o bryd, o dan arferion rheoli tir yn gynaliadwy

Drwy gynnal a rheoli mwy o dir, bydd y cynllun yn cyfrannu at ein hamcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  1. Cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy 
  2. Lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo 
  3. Cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu, a
  4. Chadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â nhw, a chynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso ei defnydd. Wrth wneud hynny, diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a chyfrannu at gyflawni'r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Adran B: cymhwystra

Rydych yn gymwys i wneud cais: 

  • os ydych chi wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). 
    • Edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru i ddarllen y canllawiau ar gofrestru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004
  • os:
    • ydych chi'n ffermwr sy'n cyflawni gweithgarwch amaethyddol 
    • oes gennych o leiaf 3 hectar o dir amaethyddol cymwys wedi'i gofrestru gydag RPW yng Nghymru neu
    • yn gallu profi eich bod wedi gweithio dros 550 o oriau safonol

Diffinnir Gweithgarwch Amaethyddol fel a ganlyn:

  • cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion amaethyddol gan gynnwys cynaeafu, godro, bridio anifeiliaid a chadw anifeiliaid at ddibenion ffermio
  • cynnal ardal amaethyddol mewn cyflwr sy'n ei gwneud yn addas ar gyfer pori neu drin tir heb gamau paratoi sy’n mynd y tu hwnt i ddulliau a pheiriannau amaethyddol arferol
  • cyflawni isafswm gweithgarwch ar ardaloedd amaethyddol a gedwir yn naturiol mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer pori neu drin tir. Yng Nghymru, diffinnir ardaloedd amaethyddol a gedwir yn naturiol mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer pori neu drin tir fel ardaloedd o forfa heli a thwyni tywod. Yr isafswm gweithgarwch sydd ei angen yw bod yr ardal yn cael ei phori i isafswm dwysedd stocio blynyddol cyfartalog o 0.01 i 0.05 o unedau da byw yr hectar, neu reoli chwyn a phrysgwydd estron goresgynnol

Byddwn yn gwirio eich bod yn cynnal gweithgarwch amaethyddol drwy SAF 2025. Os na allwn gadarnhau’ch cymhwystra, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol erbyn 31 Rhagfyr 2025 er mwyn i ni ystyried a ydych yn gymwys ai peidio. Bydd rhagor o fanylion a chanllawiau ar gael yn Llyfryn Rheolau SAF 2025

Byddwn hefyd yn cadarnhau bod gennych o leiaf 3 hectar o dir amaethyddol cymwys. Os na allwn gadarnhau'r tir, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol i gadarnhau'r meini prawf cymhwystra eich bod yn gweithio 550 o oriau safonol erbyn 31 Rhagfyr 2025. Bydd rhagor o fanylion a chanllawiau ar gael yn Llyfryn Rheolau SAF 2025

  • nid ydych yn gymwys os ydych:
  • yn Farchog (gan gynnwys pori ceffylau)
  • yn Goedwigwr (gan gynnwys perchnogion coetir yn unig)
  • yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Sefydliadau Cynhyrchwyr)

Os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ac yn dymuno cymryd rhan yn y cynllun, ar gyfer y cynefinoedd rydych yn gwneud cais mewn perthynas â nhw, rhaid i chi ddilyn y Cod Cyffredinol ar gyfer Cynefinoedd a'r Camau Rheoli Dosbarthiad Cynefinoedd perthnasol a nodir yn y llyfryn hwn rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025.

Tir cymwys

Er mwyn i'r tir gael ei ystyried yn gymwys o dan y cynllun hwn, rhaid iddo:

  • fod yng Nghymru 
  • bod o dan eich rheolaeth rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025
  • bod wedi'i gofrestru o fewn System Adnabod Parseli Tir (LPIS) Llywodraeth Cymru ar 31 Rhagfyr 2024.
  • bod ag isafswm arwynebedd parsel cymwys o 0.1 hectar

Yr isafswm arwynebedd y gellir hawlio mewn perthynas ag ef ar gyfer y cynllun yw 0.1 hectar o gynefin cymwys.

Nid oes terfyn uchaf i arwynebedd y tir y gellir ei gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru 2025, er y caiff taliadau eu tapro lle mae arwynebeddau mwy wedi'u hawlio.

Mae tir o dan eich rheolaeth:

  • os mai chi yw'r perchennog
  • os ydych yn denant sydd â ‘meddiannaeth lwyr’ ar y tir naill ai o dan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 gyda Thenantiaeth Busnes Fferm a/neu denantiaeth lawn o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • os ydych yn denant â thenantiaeth lafar â’r un lefel o reolaeth â’r uchod
  • os yw'r tir yn dir comin 'un porwr' sydd wedi'i gofrestru fel parsel tir gydag RPW.

Os nad oes gennych reolaeth lwyr am 12 mis rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025, rhaid i chi wneud trefniadau i ymestyn eich tenantiaeth i gynnwys y cyfnod hwn os ydych am ddod â pharseli tir rhent i mewn i'r cynllun.

Os gwelir wrth brosesu’ch cais am daliad nad oes gennych reolaeth lwyr dros y tir yr ydych yn hawlio arno am y flwyddyn galendr gyfan, bydd y tir hwn yn cael ei dynnu o'ch cais a gallech gael eich cosbi 

Rhaid i chi ddilyn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin a'r Camau Rheoli Dosbarthiad Cynefinoedd perthnasol a nodir yn y llyfryn hwn o 1 Ionawr 2025 i fod yn gymwys i wneud cais.

Tir anghymwys

tir sydd wedi'i leoli y tu allan i Gymru

  • tir comin â mwy nag un porwr
  • parseli tir sy'n dir cydbori
  • parseli tir sy'n cael eu defnyddio gan fusnes fferm arall i wneud cais am daliadau cynllun (e.e. Cynllun y Taliad Sylfaenol).
  • tir anamaethyddol e.e. safleoedd carafanau parhaol, cyrsiau golff
  • parseli tir llai na 0.1 hectar
  • coetir dros 0.1 hectar (nad oedd yn cael ei gefnogi'n flaenorol o dan Gynllun 2024)
  • tir nad oes gan yr ymgeisydd reolaeth drosto rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025

Adran C: dosbarthiadau cynefin

Dyma ddosbarthiadau cynefin tir sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn:

  1. Morfeydd heli
  2. Twyni tywod arfordirol a thraethau graean
  3. Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad
  4. Gwlypdir wedi'i amgáu a glaswelltir corsiog 
  5. Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu (wedi'i reoli naill ai fel tir pori neu weirglodd)
  6. Cynefinoedd agored yr ucheldir 
  7. Rhedyn trwchus
  8. Cynefin coediog
  9. Coetiroedd sy'n bodoli eisoes (yng Nghynllun 2024)

Adran D: safleoedd dynodedig

Rhaid i reolaeth sydd ei hangen ar dir sydd wedi’i ddynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Ramsar a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC) ar ffermydd sy’n ymuno â Chynllun Cynefin Cymru 2025 gydymffurfio ag un o’r tri opsiwn canlynol lle mae’n berthnasol i’ch sefyllfa ar unrhyw safle dynodedig unigol ar y daliad:

  1. Os nad ydych wedi cael unrhyw gydsyniad SoDdGA, contract Glastir Uwch, cytundeb rheoli neu gynllun rheoli a gytunwyd gyda CNC ers 1 Ionawr 2020, rhaid i chi gydymffurfio â gofynion rheoli Cynllun Cynefin Cymru 2025. 
  2. Os na wnaethoch gymryd rhan yng Nghynllun Cynefin Cymru 2024, rhaid i chi ddewis

Naill ai:

Cydymffurfio â gofynion rheoli Cynllun Cynefin Cymru 2025

Neu:

Gydymffurfio ag unrhyw un o’r camau rheoli yng nghydsyniad, cytundeb rheoli neu gynllun rheoli SoDdGA CNC sydd wedi bod gennych ers 1 Ionawr 2020.

  1. Os cawsoch ddyfarniad grant Cynllun Cynefin Cymru yn 2024 a bod gennych gontract Glastir Uwch a gydsyniwyd cyn hynny, rhaid i chi barhau â’r rheolaeth a gydsyniwyd yn y contract Glastir Uwch. 

Os oes angen i chi newid eich rheolaeth o’r camau contractiol neu gamau a gydsyniwyd  a ddogfennwyd (cydsyniad SoDdGA ers 1 Ionawr 2020, cytundeb rheoli CNC, cynllun rheoli, contract Glastir Uwch neu’r Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin a’r holl Gamau Rheoli Dosbarthiad Cynefin perthnasol yng Nghynllun Cynefin Cymru 2025), rhaid i chi gael cydsyniad gan CNC i wneud hynny. 

Adran E: tir cynefin a nodwyd

Bydd y tir cynefin a'r dosbarthiadau Cynllun Cynefin Cymru 2025 sydd wedi eu hadnabod ar gyfer eich fferm yn cael eu cyflwyno i chi fel cynefin ar y fap rhyngweithiol drwy RPW Ar-lein. Bydd y map cynefin ar gael drwy RPW ar-lein o 19 Rhagfyr 2024.

Bydd y tir cynefin sydd wedi'i gynnwys yn y map rhyngweithiol ar gael i chi ddewis ei reoli o 1 Ionawr a gwneud cais am daliad ar SAF 2025, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

Os ydych wedi cyflwyno ffurflen Cadarnhau Data erbyn 6 Rhagfyr 2024, bydd statws yn cael ei neilltuo i bob parsel ar y map, fel a ganlyn:

Cadarnhawyd – adolygwyd y cynefin a ddangosir ar y map fel rhan o gadarnhau data ac mae'r mapio wedi'i gadarnhau gan RPW 

Cyflwynwyd – adolygwyd y cynefin a ddangosir ar y map fel rhan o gadarnhau data ac mae'n adlewyrchu'r mapio ar ôl cwblhau'r ffurflen, nid yw RPW wedi cadarnhau unrhyw newidiadau eto

Heb ei adolygu – Nid yw'r cynefin a ddangosir ar y map wedi cael ei adolygu fel rhan o gadarnhau data

Os nad ydych chi wedi cyflwyno ffurflen Ccadarnhau Ddata neu os nad ydych chi wedi adolygu parsel ar y ffurflen cadarnhau data, byddwn yn cyflwyno cynefin ar bob parsel:

  • sydd wedi'i nodi drwy'r haenau cynefinoedd presennol fel y’u nodwyd gan fapiau sydd wedi’u cyhoeddi ar 'MapDataCymru’
  • a oedd o dan opsiwn cynefin yn flaenorol mewn contract Glastir Sylfaenol a/neu Uwch

Bydd hyn yn cynnwys safleoedd dynodedig sy'n fwy na 0.01 hectar a chynefinoedd coetir a gefnogwyd yn flaenorol o dan Gynllun 2024, lle bo hynny'n berthnasol.

Unwaith y daw’r cyfnod cadarnhau data i ben, ni fydd cyfle i ddiwygio manylion y cynefin a gyflwynir ar y map cynefin.

Ni fydd opsiwn ar SAF 2025 i ddiwygio'r ardaloedd cynefin a gyflwynir. Yr ardaloedd sydd ar gael i hawlio mewn perthynas â nhw fydd yr ardal sydd wedi'i nodi ar yr SAF ac sydd wedi'i chynnwys ar y map Cynefin o 1 Ionawr 2025.

Adran F: gofynion y cynllun

Bydd gofyn i chi gynnal y tir yn unol â'r gofynion yn erbyn y dosbarthiad cynefin fel y manylir yn Atodiad A o 1 Ionawr 2025.

Bydd yr ardal gynefin a'r dosbarthiadau cynefin ar gyfer eich fferm yn cael eu nodi’n barod ar eich map SAF 2025.

Noder: Bydd gennych yr opsiwn i hawlio dim ond y parseli sydd â'r cynefinoedd y gallwch eu rheoli yn unol â gofynion y cynllun. Gallwch wneud hyn drwy SAF 2025 drwy wneud cais am Gynllun Cynefin Cymru yn erbyn y parsel tir perthnasol.

Os oes gennych ardal gynefin o fewn parsel mwy o dir wedi'i wella, rhaid i chi fod yn fodlon bod modd rheoli'r ardal gynefin gyfan yn unol â'r gofynion rheoli perthnasol i hawlio ar ei chyfer. 

Os yw’ch arferion amaethyddol presennol yn eich atal rhag rheoli'r ardal/ardaloedd cynefin yn unol â gofynion y cynllun, ni ddylech wneud cais mewn perthynas â'r parseli hyn. Os ydych am gynnwys a gwneud cais mewn perthynas â’r parseli tir hyn, rhaid i chi eu rheoli yn unol â'r gofynion.

Gofynion rheoleiddio

Ni all ardaloedd lled-naturiol (cynefinoedd) gael eu gwella'n amaethyddol, waeth a ydynt yn cael eu rheoli am dâl neu fod ganddynt ddynodiad statudol, heb benderfyniad sgrinio o dan Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (AEA) 2017. 

Yn yr un modd, diogelir coed a choetiroedd o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 a Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999.

Torri rheolau’r cynllun  

Rhaid i chi fodloni gofynion y Cod Cyffredinol ar gyfer pob cynefin a'r camau rheoli perthnasol ar gyfer y dosbarthiad cynefin fel y’u nodir yn Atodiad A ar bob tir lle’r ydych yn hawlio o dan Gynllun Cynefin Cymru. Rhaid i chi fodloni'r holl ofynion rhwng 1 Ionawr 2025 a 31 Rhagfyr 2025. 

Gallwn nodi achosion o dorri gofynion o archwiliadau gweinyddol neu archwiliadau yn y fan a'r lle a byddwch yn cael eich hysbysu drwy’ch cyfrif RPW ar-lein os canfyddir achosion o dorri gofynion. 

Asesir achosion o dorri gofynion y cynllun yn erbyn Safonau Dilysadwy sy'n ymwneud â gofynion y cynllun a defnyddir matrics cosbau i bennu lefel y gosb i'w rhoi. 

Bydd y Safonau Dilysadwy a'r Matrics Cosbau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru cyn 31 Rhagfyr 2024. 

Adran G: cyfraddau talu

Y cyfraddau talu ar gyfer 2025 yw:

Cyfraddau talu
Dosbarthiad cynefinTaliad fesul hectar
Morfeydd heli£69
Twyni tywod arfordirol a thraethau graean
Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad
Gwlypdir wedi'i amgáu a glaswelltir corsiog
Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu (wedi'i reoli naill ai fel tir pori neu weirglodd)
Cynefinoedd agored yr ucheldir 
Cynefin coediog
Rhedyn trwchus
Coetiroedd sy'n bodoli eisoes (yng Nghynllun 2024)£62

Bydd uchafswm gwerth yr hawliad yn cael ei gapio yn ôl y canlynol:

ArwynebeddGwerth yr hawliad
0 – 200 hectar o dir cynefin cymwys100% o'r gyfradd dalu
200 – 400 hectar o dir cynefin cymwys50% o'r gyfradd dalu
400 hectar a mwy o dir cynefin cymwys10% o'r gyfradd dalu

Wrth gyrraedd unrhyw drothwy tapro, y gyfradd dalu uchaf fydd yn cael ei chynnal yn gyntaf.

Er enghraifft, mae ymgeisydd sydd ag arwynebedd daliad fferm gyfan o 500 hectar yn cyflwyno cais gyda 300 hectar o dir cynefin, sy'n cynnwys 250 hectar o gynefinoedd agored yr ucheldir a 50 hectar o goetiroedd sy'n bodoli eisoes (yng Nghynllun 2024).

 Gwerth y cais 
200 hectar ar £69/hectar£13,800
50 hectar ar 50% o £69/hectar£1,725
50 hectar ar 50% o £62£1,550
Cyfanswm cynnig yr hawliad£17,075

Adran H: tir mewn cynlluniau eraill

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 

Mae tir rydych yn hawlio BPS mewn perthynas ag ef yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru.

Noder: Nid yw Cynllun Cynefin Cymru 2025 yn cynnwys gofynion i roi’r gorau i gynhyrchu ar dir h.y. gwahardd stoc. O'r herwydd, ni fydd tir yr oedd stoc wedi’i gwahardd ohono gynt dan gynllun yr UE, Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 (e.e. Glastir Uwch), ac sydd wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru yn gymwys ar gyfer BPS yn 2025 os yw stoc wedi’i gwahardd ohono o hyd. Bydd angen bodloni gofynion cymhwystra BPS mewn perthynas â choed / nodweddion anghymwys o hyd.

Cynllun Troi'n Organig

Mae tir sydd ar hyn o bryd mewn contract Cynllun Troi'n Organig sy'n rhedeg tan 2028 yn gymwys i wneud cais i Gynllun Cynefin Cymru 2025.

Taliad Cymorth Organig

Mae tir sy'n gymwys ar gyfer y Taliad Cymorth Organig yn gymwys i wneud cais i Gynllun Cynefin Cymru 2025.

Cynlluniau creu coetir

Nid yw tir wedi'i goedwigo o dan unrhyw un o'r cynlluniau canlynol yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru:

  • Glastir – Creu Coetir: gan gynnwys Premiwm Creu Coetir Glastir, Taliad Cynnal Glastir - Creu Coetir a Thaliad Premiwm Glastir - Creu Coetir
  • Grant Creu Coetir Glastir neu Grantiau Bach Creu Coetir: gan gynnwys Taliad Cynnal Creu Coetir a Phremiwm Creu Coetir

Bydd unrhyw ardaloedd wedi'u coedwigo o dan y cynlluniau hyn adeg y cais yn cael eu didynnu o unrhyw ardaloedd Cynefin sydd ar gael i wneud cais mewn perthynas â nhw.

Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd

Ni fydd tir cynefin sydd wedi'i gynnwys yng Nghynllun 2025 yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd.

Cyllid dwbl

Rhaid i chi beidio â hawlio Cynllun Cynefin Cymru 2025 ar gyfer tir os ydych chi’n derbyn cyllid at yr un diben o unrhyw ffynhonnell arall. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn gyllid dwbl ar gyfer yr un tir.

Os gwelir eich bod yn derbyn cyllid o ffynhonnell arall ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru 2025, gallai hyn arwain at gosbau ariannol ac adennill taliad eich cais i Gynllun Cynefin Cymru 2025.

Trawsgydymffurfio

Mae trawsgydymffurfio yn set o ofynion gorfodol sy'n berthnasol i'ch holl dir amaethyddol. Rydych yn gyfrifol am drawsgydymffurfio ar gyfer blwyddyn gyfan y cynllun.

Rhaid i chi gadw tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) a bodloni ystod o Ofynion Rheoli Statudol (SMR).

Mae manylion gofynion trawsgydymffurfio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Cross compliance 2024 | GOV.WALES

Adran I: cod cyffredinol ar gyfer pob cynefin

Rheolau sy'n berthnasol i bob Tir Cynefin

Diffinnir pob cynefin fel: 

Glaswelltir lled-naturiol: Unrhyw lystyfiant â llai na 25% ohono’n rhywogaethau amaethyddol sydd wedi’u hau, yn unol â Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (AEA) 2017.

Os yw tir yn cynnwys llai na 25% o orchudd rhygwellt a meillion gwyn neu rywogaethau eraill wedi’u hau’n amaethyddol, mae'r rheoliadau AEA yn berthnasol iddo. Mae tir sy'n dod o fewn y diffiniad hwn yn cael ei ddosbarthu gan y rheoliadau fel tir lled-naturiol a rhaid gwneud Cais Sgrinio AEA cyn dechrau unrhyw waith gwella ar y tir.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n hawlio ar gyfer ardal o gynefin, bydd dal angen i chi gwblhau cais sgrinio AEA os ystyrir bod y tir yn lled-naturiol a'ch bod yn dymuno gwella'r tir.

Cofiwch, os ydych chi’n bwriadu cyflawni prosiect, neu wedi ymgymryd â prosiect ar dir lled-naturiol neu ailstrwythuro ar raddfa fawr ar eich daliad, mae angen cwblhau cais sgrinio AEA.

Coetiroedd a choed: Ystyrir pob coetir a choeden yn gynefin, waeth a ydynt yn gymwys i gael taliadau o dan y cynllun ai peidio.

Os ydych chi’n bwriadu cwympo mwy na 5m3 o bren fesul chwarter calendr, rhaid i chi wneud cais am drwydded cwympo coed o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.

Os ydych chi’n bwriadu cynnal prosiect coedwigaeth sy'n fwy na'r trothwyon a nodir yn Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999, rhaid i chi ofyn am gydsyniad o dan y rheoliadau hynny i gyflawni'r prosiect.

Rheolau sy'n berthnasol i'r holl gynefinoedd rydych chi’n hawlio ar eu cyfer

Er mwyn bod o fudd i'r cynefinoedd rydych chi am hawlio ar eu cyfer, rydych chi’n cytuno i wneud y canlynol:

Cadw dyddiadur gweithgarwch

Bydd angen cadw dyddiadur gweithgarwch ar gyfer pob parsel o dir sydd wedi'i gynnwys yn y cais. 

Cadw dyddiadur pori

Bydd angen cadw dyddiadur pori ar gyfer dosbarthiadau cynefin 1, 2 a 6. 

Bydd angen i'r dyddiadur pori gynnwys cofnod o'r holl dda byw sy'n dod i mewn i'r cynefin neu'n cael eu symud o'r cynefin yn ystod y flwyddyn. Mae angen i'r dyddiadur pori hwn fod ar gael adeg archwiliad. 

Gwarchodwch a chadwch hen goed a choed aeddfed yng nghanol caeau ac mewn perthi (gwrychoedd)

Cadw a chynnal yr holl goed aeddfed, coed mewn cae a choed hynod ar draws pob rhan o'r fferm oni bai eu bod yn goed peryglus*, ac eithrio pan fyddant yn peri perygl i'r cyhoedd a phan fo Llywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw i'w symud ymaith

Rhaid i chi:

  • gadw'r holl goed mewn cae a choed hynod
  • Atal difrod i goed gan dda byw neu beiriannau
  • cadw coed marw sy'n dal i sefyll lle mae'n ddiogel gwneud hynny (lle nad ydynt yn berygl amlwg).
  • sicrhau bod unrhyw docio neu frigdorri yn cael ei wneud yn briodol a bod pob toriad yn lân
  • cadw pren marw sydd wedi cwympo yn y fan a'r lle neu ei symud i leoliad cysgodol gerllaw.
  • dilyn unrhyw ofynion penodol ar gyfer coed sy'n gysylltiedig â math penodol o gynefin

*Mae coeden beryglus yn un lle mae perygl gwirioneddol ac uniongyrchol, yn hytrach na pherygl canfyddedig. Os cewch eich herio, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y coed yn beryglus, er enghraifft, drwy adroddiad coedyddiaethwr achrededig neu dystiolaeth ffotograffig.

Rhaid i chi beidio ag:

  • aredig/rholio o dan y brigdyfiant/canopi i ddiogelu'r system wreiddiau.
  • gosod gwrtaith o dan y brigdyfiant/canopi.
  • calchu o dan y brigdyfiant/canopi.
  • chwistrellu neu ganiatáu i Gynhyrchion Diogelu Planhigion ddrifftio o dan y brigdyfiant/canopi.
  • plannu coed ychwanegol o fewn 5m i ymyl y canopi coed
  • rhoi porthiant atodol o dan ganopi neu ger unrhyw goed hynod
  • storio peiriannau neu ddeunyddiau o dan goed hynod mewn cae

Er budd y cynefinoedd rydych chi am hawlio ar eu cyfer, rydych chi’n cytuno i beidio â:

Difrodi tir cynefin.

Diffinnir difrod fel rhywbeth sy'n achosi colli'r math o lystyfiant sy'n nodweddiadol o'r cynefin hwnnw. Mae enghreifftiau o gamau a allai achosi difrod yn cynnwys gorbori neu danbori, sathru gan dda byw neu beiriannau fferm neu gerbydau eraill yn creu rhigolau neu gwympo coed yn anghyfreithlon.

Gweler y tabl Dwyseddau stocio a argymhellir.

Dwyseddau stocio a argymhellir: Canllaw’n unig yw'r tabl cyfradd stocio hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r nodau, y gofynion a'r canlyniadau rheoli:

Dosbarthiad CynefinCynefinoedd penodol sy’n gallu bod yn bresennol neu a fydd yn bresennol yn y dosbarthiad cynefinCyfraddau stocio uchaf a argymhellir (Uned da byw yr hectar)
Morfeydd HeliMorfeydd Heli0.4 uned da byw yr hectar rhwng 1 Mawrth - 15 Gorffennaf
Hyd at 1.0 uned da byw yr hectar am weddill y flwyddyn
Twyni Tywod Arfordirol a Thraethau GraeanTwyni Tywod 0.1-0.3 uned da byw/hectar/blwyddyn
Traethau GraeanDIM PORI
Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr GwladRhos yr Arfordir a Rhos Llawr Gwlad0.2 - 0.5 uned da byw 1 Ebrill - 30 Mehefin
0.1 - 0.25 uned da byw 1 Gorffennaf - 31 Hydref
0.0 - 0.1 uned da byw 1 Tachwedd - 31 Mawrth
Gwlypdir wedi'i Amgáu (Cors, Ffen, Tir Gwlyb/Mignen) a Glaswelltir Corsiog

Gwlyptiroedd wedi'u Hamgáu: 

Corsydd Iseldir

Ffeniau

Tir Gwlyb/Mignen

Mwy na 50% o laswellt y gweunydd (Molinia) pori rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref rhwng 0.30 uned da byw /hectar - 0.20 uned da byw /hectar
Llai na 50% o laswellt y gweunydd (Molinia) pori rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref rhwng 0.01 uned da byw/hectar - 0.05 uned da byw/hectar
Glaswelltir Corsiog0.2-0.4 uned da byw/hectar/blwyddyn
Glaswelltir Sych Lled-naturiol wedi'i Amgáu (Sur, Niwtral, Calchaidd, Metelaidd) Glaswelltir Sur0.2-0.4 uned da byw/hectar/blwyddyn
Glaswelltir calchaidd 0.25-0.4 uned da byw/hectar/blwyddyn
Glaswelltir niwtral0.5-0.7 uned da byw/hectar/blwyddyn
Glaswelltir metelaidd0.25-0.4 uned da byw/hectar/blwyddyn
Cynefinoedd agored yr ucheldir Glaswelltir sur yr ucheldir0.3 - 0.5 uned da byw/hectar/blwyddyn
Rhostir mynydd0.02 - 0.03 uned da byw/hectar
Gweundir gwlyb0.05-0.10 uned da byw/hectar/blwyddyn
Gweundir sych0.10 - 0.15 uned da byw/hectar/blwyddyn
Tir gwlyb (pantiau gwlyb)<0.05 uned da byw/hectar/blwyddyn
Mawndir yr ucheldir (gall gynnwys un neu fwy o orgors, gweundir gwlyb a thir gwlyb)<0.05 uned da byw/hectar/blwyddyn
<0.02 uned da byw/hectar lle mae gwaith adfer wedi digwydd
Glaswelltir calchaidd 0.25-0.4 uned da byw/hectar/blwyddyn
Prysgwydd (gan gynnwys rhedyn gwasgaredig a llai trwchus)Gweler yr uchafswm a argymhellir ar gyfer y cynefin sylfaenol 
CoetirUcheldir <0.02 uned da byw/hectar
Iseldir <0.05 uned da byw/hectar
Rhedyn trwchusRhedyn trwchus0.1 uned da byw/blwyddyn
Cynefin coediogPerllannau traddodiadol0.75 uned da byw/hectar/blwyddyn
Prysgwydd (gan gynnwys rhedyn gwasgaredig a llai trwchus)Gweler yr uchafswm a argymhellir ar gyfer y cynefin sylfaenol
Coed poriGweler yr uchafswm a argymhellir ar gyfer y cynefin sylfaenol
Coetir sy'n bodoli eisoes (Cynllun 2024)Coetir sy'n bodoli eisoes (Cynllun 2024)Ucheldir <0.02 uned da byw/hectar
Iseldir <0.05 uned da byw/hectar

Gwella tir cynefin yn amaethyddol.

Mae gwella tir yn amaethyddol yn golygu ei reoli mewn ffordd sy'n arwain at gynnydd mewn rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt a meillion gwyn. Ni ddylid gwella tir cynefin yn amaethyddol yn ystod oes yr hawliad, waeth a dderbyniwyd cydsyniad sgrinio Asesu'r Effaith Amgylcheddol (AEA) ai peidio. 

Aredig, trin neu ail-hau tir cynefin.

Rholio tir cynefin neu ei lyfnu ag oged gadwyn rhwng 15 Mawrth a 15 Gorffennaf.

Rhaid cofnodi manylion rholio a llyfnu ag oged gadwyn ar dir cynefin yn y Dyddiadur Gweithgarwch.

Gosod draeniau newydd neu newid y draeniau sy'n bodoli eisoes ar dir cynefin neu o fewn 100m i gynefin gwlyptir lle byddai'r ffos neu'r draen yn atal dŵr rhag llifo tuag at y gwlyptir. Mae gwlyptiroedd yn gynefinoedd sydd â dŵr ar neu'n agos at yr wyneb y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

Ni chaniateir draeniau wedi’u gwneud ag aradr wadd chwaith.

Clirio ffosydd rhwng 1 Mawrth a 31 Awst ar dir cynefin. Gellir gwneud gwaith cynnal a chadw arferol ar ddraeniau sy'n bodoli eisoes fel a ganlyn:

  • cewch glirio llystyfiant a gwaddodion, gan adael llystyfiant ar hyd un ochr y ffos.
  • ni chaniateir gwneud ffosydd yn ddyfnach neu’n lletach na gosod pibellau draenio a llenwi ffosydd. 
  • cewch gynnal draeniau caeau i’r safon wreiddiol cyn belled na fydd hyn yn difrodi'r cynefin. 
  • rhaid cofnodi manylion unrhyw waith clirio ffosydd ar dir cynefin yn y Dyddiadur Gweithgarwch.

Gwneud gwaith sy'n golygu symud pridd ar dir cynefin, gan gynnwys torri mawn a llenwi pantiau naturiol. 

Codi craig, sgri, tywod, graean, clai na mawn oddi ar dir cynefin neu afonydd.

Gwasgaru slyri, gwrtaith anorganig, gwrtaith organig, tail buarth, slag basig, gwymon calchaidd, slwtsh carthion, slwtsh papur gwastraff na gwastraff arall o’r fferm ac o lefydd eraill (gan gynnwys dip defaid) ar dir cynefin. Cewch wasgaru tail buarth dim ond lle bydd un o Gamau Rheoli Dosbarthiad Cynefin Cynllun Cynefin Cymru yn caniatáu i chi wneud hynny. 

Gwasgaru calch ar dir cynefin, ac eithrio pan fo Cam Rheoli Dosbarthiad Cynefin Cynllun Cynefin Cymru yn caniatáu i chi wneud hynny.

Storio tail, silwair na gwastraff fferm arall ar dir cynefin.

Achosi neu ganiatáu: 

  1. i unrhyw rywogaethau estron goresgynnol (INNS) newydd sefydlu 
  2. ac i unrhyw INNS newydd neu bresennol ymledu i mewn i’r ardal neu o fewn yr ardal neu o'r ardal (mae hyn yn cynnwys atal INNS rhag ymledu drwy ddiffyg gweithredu), er mwyn sicrhau nad yw maint yr INNS o fewn y cynefin yn cynyddu tra bo'r ardal yn y cynllun.
Defnyddio chwynladdwyr neu bryfladdwyr ac eithrio i:
  1. sbot-drin a rheoli chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol megis marchysgallen, ysgallen y maes, tafolen grech, tafolen lydanddail, llysiau'r gingroen, clymog Japan, rhododendron, jac y neidiwr, efwr enfawr
  2. rheoli llystyfiant goresgynnol ar nodweddion hanesyddol, adeiladau traddodiadol ac adeiladau fferm.

Cyn defnyddio chwynladdwyr neu bryfladdwyr, rhaid i chi sicrhau na fydd hyn yn niweidio nac yn dinistrio unrhyw rywogaethau brodorol dymunol o fflora neu ffawna drwy edrych am gofnodion neu dystiolaeth ohonynt yn gyntaf.

Adeiladu traciau, ffyrdd, iardiau, arwynebau caled nac unrhyw strwythurau newydd ar dir cynefin, ac eithrio lle bydd un o gamau penodol Cynllun Cynefin Cymru yn caniatáu i chi wneud hynny.

Llosgi llystyfiant, glaswelltir nac unrhyw ddeunydd wedi'i dorri ar dir cynefin, ac eithrio fel rhan o gynllun llosgi glaswellt a/neu grug cytunedig neu le fydd hyn yn difrodi'r cynefin neu le byddai'n rhy beryglus gwneud hynny e.e. tir serth neu wlyb.

Rhoi porthiant atodol ar dir cynefin, ac eithrio ar ardaloedd bwydo caled presennol a darparu torthau mwynau neu halen a fyddai'n eu galluogi i ddefnyddio porthiant bras, neu le bo angen hynny'n benodol er lles y da byw. Mae amodau tywydd gwael a bodloni gofynion maethol anifeiliaid yng nghyfnodau hwyr beichiogrwydd yn debygol o sbarduno angen i ddarparu porthiant atodol. Rhaid rhoi porthiant atodol mewn modd sy'n osgoi achosi difrod i'r llystyfiant cynefin, y pridd a'r cyrsiau dŵr. Mae'r difrod yn cynnwys gorbori, gorfaethu, gormod o sathru ar lystyfiant, sathru pridd gan anifeiliaid sy'n pori, cerbydau a ddefnyddir i gludo bwyd yn creu rhigolau, erydu pridd a llygredd dŵr.

Storio deunyddiau, cerbydau, trelars a pheiriannau ar dir cynefin. Efallai y bydd eithriadau i’r amodau uchod os oes eu hangen i sicrhau'r manteision amgylcheddol penodol sydd eu hangen fel rhan o Gynllun Cynefin Cymru. 

Rheolaeth Integredig ar Blâu

Mae Rheolaeth Integredig ar Blâu (IPM) yn ddull fferm gyfan o reoli plâu sy'n cynyddu cynhyrchiant wrth leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Mae IPM yn strategaeth sydd wedi’i chydgysylltu a’i chynllunio ar gyfer atal, canfod a rheoli plâu, rhywogaethau llystyfiant annymunol a chlefydau.

Mae colli cynhyrchion diogelu planhigion yn barhaus a lefelau cynyddol o ymwrthedd yn golygu bod y cynhyrchion diogelu cnydau a oedd ar gael unwaith yn lleihau, a hynny ar adeg pan fo pwyslais ar lai o ddibyniaeth ar blaladdwyr.

Rhaid i chi gofnodi unrhyw waith rheoli plâu yn y dyddiadur gweithgarwch a nodi pam nad oedd modd dilyn IPM os defnyddir plaladdwyr synthetig. Dylid cyfyngu ar y defnydd o blaladdwyr i sbot-chwistrellu, fel y disgrifir o dan y defnydd o chwynladdwyr a phryfladdwyr.

Mae nifer o dempledi defnyddiol ar gyfer llunio cynllun IPM ar gael, y gellir eu defnyddio ar gyfer HWS 2025 megis: IPM – NFUonlineHome | IPM Decisions.

Rheoli llystyfiant annymunol

Mae llystyfiant annymunol yn cynnwys chwyn niweidiol o dan Ddeddf Chwyn 1959, rhywogaethau brodorol goresgynnol, megis rhedyn, rhywogaethau estron goresgynnol (INNS), megis Rhododendron ponticum, a llystyfiant annymunol arall, megis brwyn meddal a danadl. Cyfeiriwch at y tabl isod ar gyfer rheolaeth dderbyniol, y maint mwyaf, yr amseriadau cywir a'r dosbarthiadau cynefin eang lle gellir cymryd camau rheoli.

Math o lystyfiantRheolaeth dderbyniolMaint mwyaf i reoliPryd i reoliCaniateir yn nosbarthiadau cynefin y Cynllun
Chwyn niweidiol (Deddf Chwyn 1959)

Tocio (nid lladd)
Sbot-drin

Rhwbio chwyn

Amherthnasol1 Mai i 31 Awst1 i 10
Rhywogaethau brodorol goresgynnol (e.e. rhedyn)

Torri
Tocio
Lladd

Cleisio
Gwartheg/merlod yn pori

AmherthnasolMai i Awst1 i 10
Rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) (e.e. Rhododendron ponticum)

Torri
Tocio
Lladd

Cleisio
Gwartheg/merlod yn pori

Sbot-drin 

Rhwbio chwyn

AmherthnasolDrwy’r flwyddyn1 i 10
Llystyfiant annymunol arallBrwyn meddal

Tocio (nid lladd)

Torri (nid lladd)

30%1 Ionawr – 14 Mawrth a 16 Gorffennaf -– Rhagfyr 311, 3, 4, 5A a 6
Eraill e.e. danadl

Tocio (nid lladd)

Torri (nid lladd)

30%Mai i Awst1, 3, 4, 5A a 6

Adran J: dosbarthiadau cynefin a chamau rheoli

  1. Morfeydd heli
  2. Twyni Tywod Arfordirol a Thraethau Graean
    a. Twyni tywod
    b. Twyni Tywod a Thraethau Graean
  3. Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr Gwlad
  4. Gwlypdir wedi’i Amgáu a Glaswelltir Corsiog
    1. Gwlypdir wedi’i Amgáu - Corsydd Iseldir, Ffeniau a Thir Gwlyb/Mignen
    2. Glaswelltir Corsiog
  5. Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu (wedi'i reoli naill ai fel tir pori neu weirglodd)
    a. Rheolir fel Tir Pori
    b. Rheolir fel Gweirglodd 
  6. Cynefinoedd agored yr ucheldir 
  7. Rhedyn trwchus
  8. Cynefin coediog
    1. Perllannau Traddodiadol
    2. Prysgwydd
    3. Coed Pori
  9. Coetiroedd sy'n bodoli eisoes (yng Nghynllun 2024)

Bydd pob Ddosbarthiad Ccynefin a'i Gamau Rheoli yn cynnwys ac yn dangos y canlynol:

  • Disgrifiad – Disgrifiad o'r dosbarthiad cynefin, megis lle gellir dod o hyd iddo a'r rhywogaethau brodorol y mae'n eu cynnwys fel arfer.
  • Amcanion - disgrifiad byr o’r ‘weledigaeth’ tymor hir ar gyfer y cynefin. 
  • Gofynion – gweithgareddau penodol rydych chi’n cytuno i'w gwneud neu beidio â'u gwneud ar fath penodol o gynefin ac y gellir eich archwilio yn eu herbyn. Mae cyfres bellach o reolau cynefin cyffredinol gorfodol i atal colli a difrodi cynefinoedd lled-naturiol wedi'u cynnwys mewn ‘Cod Cyffredinol ar gyfer Cynefinoedd’, er rhwyddineb cyfeirio.
  • Canlyniadau mesuradwy – canlyniadau dymunol mwy hirdymor yr hyn y dylai rheolaeth sensitif ei gyflawni. Mae esboniad o'r canlyniad mesuradwy a ddymunir wedi'i gynnwys. 
  • Argymhellion rheoli – cyfres o argymhellion rheoli a ddarperir i arwain y ffermwr i gyflawni'r nodau a'r canlyniadau gofynnol e.e. lefelau pori cynaliadwy safonol, y math o dda byw ac amseriadau ar gyfer y cynefin, rheoli llystyfiant ac ati. 
  • Rhanddirymiadau posibl – senarios tebygol y tu hwnt i reolaeth y ffermwr lle gellir llacio'r gofyniad canlyniadau mesuradwy e.e. cyfnodau estynedig o dywydd eithafol – sychder, tir wedi'i rewi ac ati. Os nad yw rhanddirymiad ar gyfer sefyllfa benodol i'ch busnes wedi'i restru, gallwch ofyn am un ar gyfer eich sefyllfa. Rhaid i unrhyw gais am randdirymiad gael ei wneud drwy eich cyfrif RPW Ar-lein a bydd yn cael ei ystyried fesul achos.

1. Morfeydd heli

Disgrifiad

Mae morfa heli yn cynnwys llystyfiant sy'n gallu goddef halen sydd o fewn yr amrediad llanw. Mae'r llystyfiant hwn yn cynnwys planhigion morfa heli arloesol megis llyrlys a chordwellt ar y ffin â'r môr/afon lanw a fydd yn cael eu gorchuddio gan y môr bron bob dydd. Yng nghanol y morfa heli bydd glaswellt morfa heli cyffredin, a dylai hefyd gynnal amrywiaeth o blanhigion sy'n gallu goddef halen megis seren y morfa, troellig arfor a llyriad arfor. Dim ond adeg gorllanw fydd y rhan hon o'r morfa o dan ddŵr. Gall y rhan uchaf o’r morfa gynnwys planhigion megis brwynen arfor a glas yr heli a phlanhigion sydd â llai o oddefgarwch i halen a allai hefyd dyfu'n fewndirol megis peiswellt coch, maeswellt rhedegog a pheradyl yr hydref. Ar y terfynau uchaf hyn o'r amrediad llanw, efallai mai dim ond ychydig o weithiau’r flwyddyn y bydd y morfa heli o dan ddŵr. Mae morfa heli hefyd yn gynefin pwysig i adar, pysgod ac infertebratau.

Nodau

  • cyflawni amrywiaeth o fathau o lystyfiant morfa heli a fydd yn adlewyrchu safle'r llystyfiant o fewn yr amrediad llanw. 
  • nid glaswelltau bras/tal neu laswellt â haen drwchus o 'wellt' (glaswellt marw) yw’r prif lystyfiant.

Gofynion

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:  
  • Osgoi gorbori a thanbori.
Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio ag: 
  • addasu unrhyw gilfachellau, cletiroedd, pantiau neu ymyrryd ag unrhyw newidiadau naturiol a deinamig megis newidiadau oherwydd stormydd
  • torri brwyn rhwng 15 Mawrth a 15 Gorffennaf neu dorri neu docio mwy na 30% o frwyn neu rywogaethau llystyfiant annymunol eraill mewn unrhyw flwyddyn (gweler Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin)
  • plannu unrhyw goed newydd 
  • gadael i'r ardal gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • adeiladu traciau, ffyrdd, iardiau, wynebau caled neu unrhyw strwythurau newydd ar dir cynefin, ac eithrio pontydd syml i ganiatáu croesi cilfachau.

Argymhellion rheoli

  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • cynnal y morfa heli drwy gael da byw i bori'n helaeth, gan gynnwys gwartheg lle bo hynny'n bosibl, ac eithrio pori pan fo angen i gyflawni'r nodau (uchod). Gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir
  • yn rhan ganol ac ucha’r morfa, gallwch annog/creu neu gynnal y canlynol:
        Porfa amlrywogaeth gydag amrywiaeth o rywogaethau llysieuol sy’n gallu blodeuo a chynhyrchu hadau
        Amrywiaeth o strwythurau llystyfiant a all gynnwys clytweithiau mân neu ddarnau mwy o lystyfiant tal/byr

Canlyniadau mesuradwy

  • Sicrhau llystyfiant byrrach rhwng 15cm a 5cm o daldra sy'n gorchuddio o leiaf 20% o ran ganol ac ucha’r morfa a llystyfiant sy'n fwy na 15cm o daldra yn gorchuddio o leiaf 30% o'r morfa

Rhanddirymiadau posibl

Gellid ystyried rhanddirymiadau ar gyfer lefelau pori os oes lefelau uchel o wyddau gwyllt yn pori ar y morfa gan gynhyrchu tywarchen fyr iawn dros ardal eang.

Yn gyffredinol, ni ddylid pori ar forfa heli heb ei bori os yw wedi'i adael heb ei bori am dros 20-30 mlynedd.

Mae morfa heli heb ei bori yn dderbyniol lle mae'n rhan o gynllun rheoli cydnabyddedig a gynhyrchir i sicrhau canlyniadau amgylcheddol buddiol.

Mae morfa heli heb ei bori yn dderbyniol lle mae mynediad i dda byw wedi dod yn anymarferol, er enghraifft, lle nad yw mynediad yn bosibl oherwydd cilfachellau.

2. Twyni tywod arfordirol a thraethau graean

Disgrifiad

Mae twyni tywod yn dirffurfiau ac ecosystemau arfordirol naturiol sydd wedi'u lleoli uwchben y marc penllanw. Mae twyni tywod yn ffurfio lle mae traeth yn ddigon mawr i ganiatáu i'r tywod sychu rhwng llanwau a lle mae gwyntoedd ar y tir yn ddigon cryf i chwythu'r tywod tuag at y tir. Mae twyni tywod yn systemau naturiol dynamig sy'n newid yn gyson mewn ymateb i newidiadau mewn cyflenwad glaw, gwynt a thywod. Gan mai dim ond mewn lleoliadau lle mae amodau amgylcheddol yn addas y gall twyni ffurfio, mae cymharol fach yw cyfanswm eu harwynebedd yng Nghymru. Gall twyni tuag at gefn y system, i ffwrdd o'r draethlin, gynnwys grug.

Gall cynefinoedd graean amrywio o fod yn foel a symudol mewn ardaloedd arfordirol egni uchel i fod yn sefydlog gyda llystyfiant lle mae'r graean wedi dod yn sefydlog, gan ganiatáu i blanhigion gytrefu dros flynyddoedd olynol. Ni ddylai llystyfiant graean, lle mae'n bodoli, gael ei addasu a dylid gadael i'r swbstrad graean weithredu mewn ffordd ddynamig pan fydd amodau'n caniatáu.

Nodau

Mae pob system twyni tywod yn wahanol, ond dylai fod amrywiaeth o fathau o dwyni o'r draethlin ar ymyl y môr, gan newid mewn clytwaith o dwyni symudol, i dwyni lled-sefydlog gyda glaswelltiroedd twyni a, lle mae amodau'n caniatáu, llaciau twyni llaith. Caiff twyni tywod eu rheoli'n bennaf drwy bori, sy'n cynnal uchder amrywiol y borfa lle mae amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion brodorol, gan gynnwys perlysiau blodeuol, yn fynych, lle mae rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt yn absennol neu ar orchudd isel a lle gall anifeiliaid a ffyngau brodorol ffynnu.

Gofynion

Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i: 

Gynnal porfa ag uchder amrywiol, gan gynnwys ardaloedd byr (o dan 5cm) a thal (dros 15cm).

Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i beidio â: 
  • phori ar draeth graean
  • plannu unrhyw goed neu rywogaethau prysgwydd newydd
  • gadael i'r ardal gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • torri neu docio brwyn neu rywogaethau llystyfiant annymunol eraill (gweler Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin)
  • gadael i brysgwydd ymledu
  • rheoli neu geisio rheoli cwningod o fewn twyni tywod a thraethau graean
  • tynnu tywod neu unrhyw agregau eraill o dwyni tywod neu raean.
  • gwneud gwaith ail-symud twyni (gan gynnwys ail-broffilio)
  • ail-broffilio'r strwythur graean, gan gynnwys unrhyw gribynnau
  • defnyddio neu ganiatáu cerbydau neu gychod ar gyfer gweithgareddau chwaraeon neu hamdden
  • creu amddiffynfeydd môr neu waith diogelu'r arfordir

Canlyniadau mesuradwy

  • cyflawni o leiaf 10% o dir moel/tywod/cerrig mân
  • dim cynnydd yn arwynebedd na dosbarthiad coed/prysgwydd

Argymhellion rheoli

a) Twyni Tywod
  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • rheoli drwy bori gyda gwartheg a merlod (dim ond yn y gaeaf y dylid defnyddio defaid yn ddelfrydol) i gynnal uchder amrywiol y borfa
  • mewn pantiau gwlyb (llaciau twyni), cynnal porfa fioamrywiol gyda llai na 70% o orchudd glaswellt
  • gellir lladd gwair pan nad yw pori'n opsiwn am resymau ymarferol, neu gellir ei ddefnyddio i annog stoc i mewn i ardal nad yw wedi'i phori o'r blaen. Dylid symud deunydd wedi'i dorri oddi ar y safle
  • lle mae llysiau'r gingroen yn gyffredin, gall pori gan ddefaid yn y gwanwyn fod yn ddefnyddiol i atal llysiau'r gingroen rhag blodeuo ac ymledu, ond rhaid ei fonitro'n agos

b) Twyni Tywod a Thraethau Graean

  • caniatáu newidiadau arfordirol naturiol a dynamig, megis newidiadau oherwydd stormydd neu wynt
  • efallai y bydd angen gwneud cynlluniau wrth gefn i alluogi cerbydau i gael mynediad i ardaloedd graean o dan amgylchiadau brys

Rhanddirymiadau posibl

Caniatáu unrhyw un o'r ymadroddion 'peidio â' am resymau iechyd a diogelwch, a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

3. Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad

Disgrifiad

Nodweddir rhos llawr gwlad gan gorlwyni megis grug a ddylai yn ddelfrydol orchuddio >25% o'r tir. Yn gyffredinol, mae'n gynnyrch pori ysgafn ac, weithiau, llosgi rheoledig ar briddoedd gwael a gall ddigwydd fel rhostir sych ar bridd mwynol (gyda grug a grug y mêl) neu weundir gwlyb (gyda grug croesddail a mwsogl Sphagnum) ar fawn bas. 

Fel arfer, mae rhostiroedd arfordirol i'w cael o fewn 500m i'r môr ac, o ganlyniad i ddistyll y don, maent yn cynnal rhywogaethau arfordirol megis seren y gwanwyn ymhlith y grug. Mae rhos llawr gwlad yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth o blanhigion, adar, ymlusgiaid ac infertebratau sydd wedi ymaddasu i'r priddoedd gwael, llystyfiant garw a strwythur amrywiol. Gall rhos yr arfordir ymdoddi i laswelltir morol ar ben clogwyni neu mewn mannau eraill i ddôl, cors, ffen, coetir brodorol neu ucheldir ac mae’r cysylltiadau hyn i’w croesawu’n fawr.

Nodau  

Dylai rhos llawr gwlad fod ag amrywiaeth o ficro-gynefinoedd, gan gynnwys clytiau bach o dir moel, brigiadau craig, glaswellt, prysgwydd, rhedyn, tir gwlyb ac ati. Bydd y rhos yn cael ei reoli i gynnal gorchudd corlwyni, gyda strwythur oedran/uchder amrywiol ar draws y dirwedd. 

Gofynion

Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i:
  • symud da byw os aiff amodau'n rhy wlyb, er mwyn osgoi sathru a chywasgu
Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i beidio â: 
  • phlannu unrhyw goed newydd
  • caniatáu i brysgwydd, mieri neu goed ymledu (gweler Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin)
  • gadael i'r ardal gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • llosgi ardaloedd o dir gwlyb, rhos morol neu wlyb
  • pori rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth ar fawndiroedd gwlyb. Lle mae mawndir gwlyb yn ffurfio rhan o barsel mwy ac na ellir cau stoc allan, dylid lleihau'r gyfradd stocio gyffredinol i sicrhau nad yw'r mawndir gwlyb yn cael ei orbori neu ei sathru. Pan fo mawndir gwlyb wedi'i amgáu neu'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r parsel, dylai stoc gael ei gwahardd rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth

Canlyniadau mesuradwy

  • bydd grug, grug y mêl, grug croesddail, neu eithin mân gyda'i gilydd yn ffurfio >25% o’r gorchudd daear
  • ni fydd deiliach marw yn ffurfio clytiau mawr ac mae'n llai na 50% o gyfanswm y gorchudd
  • lle mae Sphagnum (migwyn) yn bresennol, bydd clytiau mynych yn gorchuddio o leiaf 5% o'r ddaear
  • ni fydd mwy na 5% o’r arwynebedd yn dir moel, a bydd hwnnw wedi’i wasgaru o amgylch y cae

Argymhellion rheoli

  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • twf prysgwydd / coed i fod yn <5% o orchudd daear. Ni fyddai coed yn tyfu ar greigiau, neu frigiadau craig, yn cael eu cynnwys o fewn y 5%.
  • pori i greu strwythur amrywiol o gorlwyni (grug, grug croesddail ac ati). Dylai'r corlwyni amrywio o rai ifanc i rai arloesol, i rai hen a dirywiedig
  • pori gwartheg, merlod yn lle defaid neu gyda defaid i gynnal cydbwysedd corlwyni a lleihau deiliach marw
  • mae lladd llystyfiant i greu strimyn atal tân, i reoli llosgi rhos sych a gynlluniwyd ac i ddiogelu rhag tanau damweiniol neu losgi bwriadol, yn fath derbyniol o reoli
  • mae torri rhos sych, ar yr amod ei fod yn rhan o gylchdro parhaus o 10 mlynedd, yn ddull rheoli derbyniol
  • mae rholio, cleisio neu dorri rhedyn yn ddull rheoli derbyniol

Rhanddirymiadau posibl

Caniatáu unrhyw un o'r ymadroddion 'peidio â' am resymau iechyd a diogelwch, a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

4. Gwlypdir wedi'i Amgáu (Cors, Ffen, Tir Gwlyb/Mignen) a Glaswelltir Corsiog

Disgrifiad

Mae cymunedau corsydd, ffeniau a mignen yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptir, megis cymunedau cyforgorsydd yr iseldir, gorgorsydd, gwelyau cors a gwernydd, dros fawn dwfn (mwy na 40cm yn gyffredinol). Maent hefyd yn cynnwys tir gwlyb, a all ddigwydd ar briddoedd mawn bas (>5 a <40cm o fawn) neu briddoedd mwynol.

Mae glaswelltir corsiog yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau planhigion corstir brodorol. Brwyn a glaswellt y gweunydd yw'r prif rywogaethau yn aml, ynghyd ag amrywiaeth o hesg, perlysiau a glaswellt, sy'n darparu cynefin i amrywiaeth o anifeiliaid brodorol, gan gynnwys infertebratau.

Nodau 

Bydd glaswelltir corsiog yn cael ei reoli drwy bori er mwyn cynnal uchder amrywiol y borfa lle mae amrywiaeth o rywogaethau planhigion corstir brodorol yn fynych ac yn gallu blodeuo a chynhyrchu hadau, lle nad brwyn a glaswellt y gweunydd yn cymryd drosodd yn ormodol, a lle gall anifeiliaid brodorol (gan gynnwys infertebratau) ffynnu.

Bydd cymunedau corsydd, ffeniau a mignen yn cael eu rheoli i gynnal amrywiaeth o ficro-gynefinoedd gan gynnwys clytiau bach o dir moel, brigiadau craig, glaswellt, prysgwydd, rhedyn, tir gwlyb ac ati, wedi'i reoli ar gyfer corlwyni, gyda strwythur oedran/uchder amrywiol a chyfuniad o rywogaethau grug brodorol, hesg, brwyn, migwyn a llystyfiant cors yn tyfu mewn merddwr.

Mae glaswelltiroedd heb eu gwella sy'n rhan o gymunedau cors, ffeniau a mignen yn cael eu rheoli yn unol â'r cynefin y maent yn rhan ohono. 

Gofynion

Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i: 
  • symud da byw oddi arnynt os aiff amodau'n rhy wlyb, er mwyn osgoi sathru a chywasgu
Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i beidio â gwneud y canlynol : 
  • plannu unrhyw goed newydd
  • gadael i'r cae gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • ar laswelltir corsiog, torri neu docio mwy na 30% o frwyn meddal neu rywogaethau llystyfiant annymunol mewn unrhyw flwyddyn (gweler Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin)
  • gadael i brysgwydd ymledu
  • pori gwlypdir wedi'i amgáu rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth

Canlyniadau mesuradwy

Argymhellion rheoli

  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • cynnal strwythur llystyfiant amrywiol gyda chlytiau agored, lle nad yw rhywogaethau megis grug, hesg ac eithin mân yn uwch nag uchder pen-glin a lle mae corlwyni yn amrywio o rai ifanc i rai arloesol, i rai hen a dirywiedig
  • ni ddylai unrhyw un o'r cydrannau talach allweddol (h.y. glaswellt talach, hesg a brwyni) orchuddio mwy na 75% o'r ddaear (ac eithrio clytiau bach tua 20 x 20m) 
  • ar ardaloedd o gors, dylai lefelau dŵr orwedd yn agos at yr wyneb drwy gydol y flwyddyn fel bod mawn yn gallu parhau i gronni
  • ar fawn bas, dylid cynnal gorchudd migwyn (Sphagnum) dros fwy na 10% o gyfanswm yr arwynebedd
  • lle maent yn bresennol, ni ddylai rhywogaethau brodorol goresgynnol (e.e. rhedyn) orchuddio mwy na 5% o'r tir wedi’i amgau
  • ni ddylai rhywogaethau estron goresgynnol (e.e. conwydd, Rhododendron, jac y neidiwr a chlymog Japan) fod yn bresennol
  • ar gors, ffen a mignen (gwlypdir wedi'i amgáu) - dim pori rhwng 1Tachwedd a 31 Mawrth
a) Gwlyptir wedi'i amgáu - corsydd iseldir, ffeniau a thir gwlyb/mignen
  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • pori'r cynefin gyda gwartheg, merlod neu ddefaid i:
  • gyfyngu ar ymlediad prysgwydd 
  • atal glaswelltau talach (gan gynnwys Molinia), brwyn a hesg rhag cymryd drosodd gormod; a
  • chynnal neu wella cydbwysedd hesg llai a pherlysiau gwlyptir a mwsoglau 
  • lle mae gan ardal fwy na 50% o laswellt y gweunydd (Molinia), dylid pori o 1 Ebrill – 31 Hydref ar ddwysedd rhwng 0.30 uned da byw/hectar a 0.20 uned da byw/hectar
  • dim ond pori ysgafn iawn fydd ei angen ar fawndiroedd gwlyb gyda gorchudd cymysg o haenau a rhywogaethau, a dim pori yn y gaeaf
  • anelu at strwythur llystyfiant amrywiol gyda chlytiau agored yn aml heb fod yn uwch nag uchder pen-glin
b) Glaswelltir corsiog
  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • tocio traean o arwynebedd glaswelltir corsiog mewn unrhyw flwyddyn, er enghraifft, lle mae'r borfa wedi tyfu gormod. Dylid tynnu'r deunydd wedi'i dorri, lle na fydd yn difrodi'r cynefin neu le na fyddai'n rhy beryglus gwneud hynny e.e. tir serth neu wlyb
  • gellir defnyddio dull rheoli gweirglodd fel dewis arall yn lle rheoli porfa – dilynwch amseriadau torri a phori adladd o dan 'Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu – Gweirglodd’. Dylid tynnu deunydd wedi'i dorri o'r glaswelltir

Rhanddirymiadau posibl

Ar gyfer gwlypdir wedi'i amgáu, lle mae'r tir mor ddwrlawn fel nad oes modd pori'r safle'n ddiogel, nid yw'r canlyniadau mesuradwy yn berthnasol. Byddai'r cyfyngiadau'n parhau i fod yn berthnasol i bob ardal o wlypdir wedi'i amgáu, waeth a yw'n cael ei phori ai peidio.

5. Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu (glastiroedd sur, niwtral, calchaidd, metelaidd) 

Disgrifiad

Amrywiaeth o laswelltiroedd sur, niwtral, calchaidd neu fetelaidd (glaswelltiroedd llawn metel, sy'n gysylltiedig â hen weithfeydd mwyngloddio metel), wedi'u hamgáu, wedi'u lled-wella a heb eu gwella yn bennaf. Mae gan y glaswelltiroedd hyn gyfres o laswelltau llai cynhyrchiol yn amaethyddol a chasgliadau o flodau gwyllt sy'n gysylltiedig ag amodau pridd y glaswelltir penodol. Mae'r glaswelltiroedd hyn yn digwydd ar draws ystod o agweddau ac uchderau, o hyd at derfyn y tir wedi’i amgáu i laswelltiroedd arfordirol. Lle maent yn digwydd uwchben terfyn uchaf y tir wedi’i amgáu, dylid eu rheoli o dan Ddosbarthiad Cynefin 6 – Cynefinoedd Agored yr Ucheldir.

a) Rheolir fel Tir Pori

Nodau

Cynnal y glaswelltir trwy ei bori, er mwyn cael tyfiant amrywiol ei uchder lle bydd amrywiaeth o rywogaethau planhigion brodorol (gan gynnwys perlysiau) yn gyffredin ac yn gallu blodeuo a hadu, a lle gall anifeiliaid (gan gynnwys infertebratau) a ffyngau glaswelltir brodorol ffynnu. Dylai rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt a meillion gwyn fod yn absennol neu'n brin.

Gofynion

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:
  • symud da byw oddi os aiff amodau'n rhy wlyb, er mwyn osgoi sathru a chywasgu
  • pori ar ddwyseddau stocio sy'n osgoi gorbori a thanbori
Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â: 
  • phlannu unrhyw goed newydd
  • gadael i'r cae gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • gwasgaru calch ar laswelltir sur, calchaidd neu fetalaidd.
  • torri neu docio mwy na 30% o frwyn meddal neu rywogaethau llystyfiant annymunol eraill mewn parsel tir mewn unrhyw flwyddyn (gweler Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin)

Gadael i brysgwydd ymledu

Canlyniadau mesuradwy 

  • bydd pori yn rhoi porfa o uchder amrywiol lle mae o leiaf 75% o'r glaswelltir rhwng 5cm ac 20cm rhwng 15 Mai a 31 Awst
  • bydd pori yn rhoi uchder porfa lle mae 75% o’r glaswelltir rhwng 2cm a 10cm rhwng 1 Medi a 31 Hydref
  • ni fydd deunydd marw yn ffurfio clytiau mawr ac mae'n llai na 10% o gyfanswm y gorchudd
  • nid fydd mwy na 5% o arwynebedd y cae yn bridd moel, a bydd hwnnw wedi’i wasgaru o amgylch y cae 
  • nid glaswellt bras/tal yw’r prif lystyfiant, ac eithrio mewn clytiau na fyddant yn gorchuddio mwy na 5% o’r glaswelltir
  • yn dibynnu ar y math o laswelltir, bydd y borfa'n cynnwys o leiaf 3 pherlysieuyn dangosol, megis pysen-y-ceirw fach, y bengaled, teim, clust y llygoden, tresgl y moch a briwydd wen, yn ogystal â glaswelltau, megis cynffonwellt y maes, rhonwellt y ci a pheiswellt y defaid

Argymhellion rheoli

  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • yn ddelfrydol, dylid rhoi gwartheg neu geffylau i bori glaswelltir niwtral yn hytrach na defaid
  • gwasgaru calch os oes angen i gynnal pH pridd rhwng 5.5 a 6.5 ar laswelltir niwtral

Rhanddirymiadau posibl

Gofyn am Mforatoriwm ar ofyniad uchder y borfa oherwydd cyfnod hir o dywydd garw e.e. sychder, tir wedi'i rewi a gorchudd eira

b) Rheolir fel Gweirglodd 

Nodau 

Mae'r glaswelltir yn cael ei gynnal drwy dorri a symud gwair a phori'r adladd i gynnal uchder amrywiol y borfa lle mae amrywiaeth o rywogaethau planhigion brodorol (gan gynnwys perlysiau blodeuol) yn fynych, a lle gall anifeiliaid (gan gynnwys infertebratau) a ffyngau glaswelltir brodorol ffynnu. Mae rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt a meillion gwyn yn absennol neu'n brin.

Gofynion

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:
  • symud da byw erbyn 15 Mai
  • torri a symud cnwd gwair unwaith y flwyddyn rhwng 7 Gorffennaf a 30 Medi
  • mae'n dderbyniol gwneud gwair neu wywair ond nid silwair.
  • rhaid symud y deunydd wedi'i dorri o'r ddôl, hyd yn oed os caiff ei ddifetha gan law
  • symud da byw os aiff amodau'n rhy wlyb, er mwyn osgoi sathru a chywasgu
Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â: 
  • gwasgaru unrhyw wrtaith anorganig neu organig megis slyri, slwtsh carthion, tail ieir neu flawd pysgod, ac eithrio haen denau o dail buarth (dim mwy na 12t/hectar), na ellir ei wasgaru yn amlach nag unwaith bob dwy flynedd
  • plannu unrhyw goed newydd
  • achosi neu ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol (INNS) neu chwyn niweidiol ymledu
  • gadael i'r cae gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • gwasgaru calch ar laswelltir sur
  • caniatáu i brysgwydd ymledu (gweler Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin)
  • dechrau pori'r adladd tan o leiaf bedair wythnos ar ôl cywain gwair

Canlyniadau mesuradwy 

  • cyflawni uchder y borfa ar ôl torri lle mae 75% o’r glaswelltir rhwng 2cm a 10cm tan 31 Hydref
  • os ydych chi’n pori yn y gwanwyn, o 1 Mawrth, dylid sicrhau uchder y borfa lle mae 75% o'r glaswelltir yn uwch na 5cm
  • ni fydd deunydd marw yn ffurfio clytiau mawr ac mae'n llai na 10% o gyfanswm y gorchudd
  • nid fydd mwy na 5% o arwynebedd y cae yn bridd moel, a bydd hwnnw wedi’i wasgaru o amgylch y cae

Argymhellion rheoli

  • Troi gwair/gwywair o leiaf ddwywaith cyn ei gywain.
  • Gwasgaru calch os oes angen i gynnal pH pridd rhwng 5.5 a 6.5 ar laswelltir niwtral
  • Yn ddelfrydol, dylid rhoi gwartheg neu geffylau i bori glaswelltir niwtral yn hytrach na defaid.
  • Dylai'r borfa gynnwys o leiaf 3 pherlysieuyn dangosol sy'n nodweddiadol o'r math o laswelltir

Rhanddirymiadau posibl

Gofyn am foratoriwm ar ofyniad uchder y borfa oherwydd cyfnod hir o dywydd garw e.e. sychder, tir wedi'i rewi a gorchudd eira.

Gwneud silwair os yw'r cnwd wedi hadu.

6. Cynefinoedd agored yr ucheldir  

Disgrifiad

Gall yr ucheldir (tir uwchben terfyn uchaf tir wedi’i amgáu) gynnwys cymysgedd o gynefinoedd, gan gynnwys rhostir mynyddig, rhostir yr ucheldir, cors a thir gwlyb, glaswelltir sur yr ucheldir a glaswelltir calchaidd a choetir heb ei amgáu, nentydd a llynnoedd, i gyd yn dibynnu ar y tir gwaelodol, swbstrad (craig, pridd mwynol, mawn), statws sylfaenol (sur neu galchaidd), cyfundrefn dŵr daear, draenio, llethr, agwedd ac uchder. Dylai'r cynefin adlewyrchu'r ffactorau naturiol hyn yn bennaf, fel y'u haddaswyd gan lefelau pori isel i ganolig a heb aredig, ail-hau nac ychwanegu gwrtaith artiffisial.

Nodau 

Cynnal clytwaith o gynefinoedd ar dir heb ei amgáu gyda strwythur llystyfiant amrywiol gyda chlytiau agored, gyda rhywogaethau megis grug, hesg ac eithin mân. Dylai corlwyni megis grug amrywio o rai 'ifanc' i rai 'arloesol egnïol' i rai 'hen' ac yn olaf i rai 'dirywiedig' a lle mae gan 75% o ardaloedd glaswelltir gwlyb a sych porfa o uchder amrywiol rhwng 5 a 50cm yn ystod misoedd yr haf.

Ar ardaloedd o gors, dylai lefelau dŵr fod yn agos at yr wyneb drwy gydol y flwyddyn fel bod mawn yn gallu parhau i gronni.

Gofynion

Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i:
  • reoli'r cynefin drwy bori priodol gan ystyried yr argymhellion ar gyfer cyfraddau stocio yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
Er budd y cynefinoedd hyn, rydych chi’n cytuno i beidio â: 
  • phlannu unrhyw goed newydd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw
  • gadael i'r ardal gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • peidio â thorri neu docio mwy na 30% o frwyn meddal neu rywogaethau llystyfiant annymunol arall mewn un unrhyw flwyddyn

Canlyniadau mesuradwy 

Argymhellion rheoli

  • pori gyda gwartheg a/neu ferlod yn lle defaid neu gyda defaid
  • pori cyn lleied â phosibl rhwng 01 Hydref a 31 Mawrth (h.y. anifeiliaid crwydr yn unig). Gall pori lefel isel gan ferlod fod yn dderbyniol yn ystod y dyddiadau hyn
  • tynnu conwydd a rhododendron sy'n hunanhadu
  • mae lladd glaswellt i greu strimyn atal tân, i reoli llosgi rhos sych a gynlluniwyd ac i ddiogelu rhag tanau damweiniol neu losgi bwriadol, yn ddull rheoli derbyniol
  • mae rholio, cleisio neu dorri rhedyn yn ddull rheoli derbyniol
  • symud da byw os aiff amodau'n rhy wlyb, er mwyn osgoi sathru a chywasgu

Rhanddirymiadau posibl

Caniatáu unrhyw un o'r ymadroddion 'peidio â' am resymau iechyd a diogelwch, a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

7. Rhedyn trwchus

Disgrifiad

Nodweddir rhedyn trwchus gan absenoldeb llwyr bron unrhyw rywogaethau planhigion eraill; gan ffurfio haen drwchus a dwfn o ddeunydd marw yn ystod yr hydref a'r gaeaf a ffrondau cysgodol tal anhreiddiadwy yn ystod yr haf.

Mae gan redyn trwchus werth amgylcheddol ac amaethyddol isel. Mae'n gysylltiedig ag effeithiau annymunol a niweidiol, gan gynnwys risg o danau gwyllt; cynnal poblogaethau trogod parasitig sy'n effeithio ar dda byw, bywyd gwyllt ac iechyd pobl; yn ogystal â gwneud gweithrediadau amaethyddol megis crynhoi stoc yn fwy anodd. 

Nodau

At ddibenion y dosbarthiad cynefin hwn, dylai rhedyn trwchus gyfrif am 40% i 100% o'r ardal lle mae'n digwydd (ni ddylid cynnwys cynefinoedd cyfagos heb fawr ddim rhedyn neu ddim rhedyn yn y categori cynefin rhedyn trwchus). Bydd y rhedyn yn dal ac yn drwchus, gan gyfyngu ar unrhyw symudiadau stoc i lwybrau yn unig. Bydd croniad dwfn o ddeunydd marw a gallai'r rhedyn fod yn anhreiddiadwy.

Y nod hirdymor yw naill ai gwella ac adfer ardaloedd o redyn trwchus i fath arall o gynefin glaswelltir lled-naturiol mwy gwerthfawr (glaswelltir lled-naturiol wedi'i amgáu, glaswelltir heb ei wella heb ei amgáu neu glytwaith) gan ddefnyddio hierarchaeth o weithgareddau rheoli rhedyn (e.e. rholio, cleisio, torri neu bori gan wartheg a/neu ferlod).

a/neu:

Baratoi cynllun rheoli creu coetir i'w weithredu yn dilyn rhaglen o weithgareddau rheoli/atal rhedyn priodol. Byddai coetir llydanddail yn well i gynnal yr ardal mewn cyflwr lled-naturiol.

Gofynion

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â:

Argymhellion Rheoli 

  • gweler tabl dwyseddau stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • cynnwys da byw trwm (gwartheg, merlod) fel rhan o gyfundrefn bori
  • gall pori yn y gwanwyn cynnar (Mawrth i Fai) gan ddefnyddio da byw trwm (gwartheg neu ferlod) helpu i leihau goruchafiaeth rhedyn
  • cynnal rhaglen o weithgareddau rheoli rhedyn (e.e. rholio, cleisio, torri) 
  • dilyn canllawiau ar ymwybyddiaeth o gynefin brithegion perlog 
  • sefydlu a chreu strimynnau atal tân ar gyfer atal tanau gwyllt a lleihau’r risg ohonynt, yn enwedig ar safleoedd risg uchel a bregus sydd â hanes o losgi bwriadol, tanau gwyllt, cynllun rheoli llosgi a digwyddiadau llosgi dan reolaeth blaenorol

Rhanddirymiadau posibl

Caniatáu unrhyw un o'r ymadroddion 'peidio â' am resymau iechyd a diogelwch, a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

8. Cynefin coediog

a) Perllannau Traddodiadol

Disgrifiad

Diffinnir perllannau traddodiadol fel grwpiau o goed ffrwythau a chnau a blannwyd ar wreiddgyffion egnïol ar ddwysedd isel mewn glaswelltir parhaol ac a reolir mewn ffordd dwysedd isel. Mae yna lawer o amrywiadau rhanbarthol ar y thema hon, gan gynnwys perllannau afalau, gellyg, ceirios, eirin, eirin du a chnau Ffrengig.

Mae perllannau traddodiadol yn debyg i goed pori a thir parc, a ddiffinnir gan eu strwythur yn hytrach na'r math o lystyfiant, a all gynnwys coed, prysgwydd, glaswelltir, pyllau, waliau, gwrychoedd a choed gwrychoedd.

Mae cynefin perllan traddodiadol o’r radd flaenaf yn cynnwys glaswelltir pori gyda choed ffrwythau o strwythur oedran amrywiol, gyda digonedd o bren sy'n sefyll, wedi marw ac yn pydru.

Nodau

Annog cynnal a chadw a/neu ddatblygu cynefin a thirwedd amrywiol sy'n cynnwys coed ffrwythau safonol, glaswelltir sy'n llawn rhywogaethau a ffiniau caeau traddodiadol.

Cynnal nodweddion nodweddiadol perllannau a reolir yn llai dwys megis pren marw a thyllau pydredd yn y coed. Gall hyn gefnogi mwsogl, cennau a ffyngau yn ogystal ag infertebratau, adar a mamaliaid.

Cynnal y glaswelltir i gadw neu annog rhywogaethau sy'n nodweddiadol o laswelltir niwtral.

Diogelu mathau traddodiadol o goed ffrwythau, yn enwedig y rhai sy'n lleol i'r ardal.

Gofynion

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:
  • gadw'r holl goed ffrwythau presennol, oni bai eu bod wedi’u heintio neu y gallent achosi niwed 
  • atal difrod i goed o dda byw neu beiriannau 
  • cadw'r holl bren marw yn y berllan (oni bai ei fod wedi'i heintio)
Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â:
  • thocio uchelwydd (mae cynaeafu cynaliadwy yn dderbyniol)
  • defnyddio unrhyw wrteithiau anorganig. Pan fyddwch yn torri gwair, gellir defnyddio tail buarth wedi pydru’n dda (wedi'i storio am o leiaf ddeuddeg mis) ar gyfradd o ddim mwy na 10 tunnell/hectar unwaith bob dwy flynedd. Nid oes unrhyw wrtaith organig arall, gan gynnwys slyri, slwtsh carthion, tail ieir a blawd pysgod, yn dderbyniol
  • defnyddio golch olew tar gan fod y rhain yn lleihau gwerth bywyd gwyllt y berllan

Canlyniadau mesuradwy

  • nid glaswelltau bras/tal yw’r prif lystyfiant, ac eithrio mewn clytiau

Argymhellion rheoli

  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • rheoli'r glaswelltir gan ddefnyddio:
    • pori dwysedd isel fel nad yw coed aeddfed yn cael eu rhisglo ac mae'r borfa'n parhau i fod yn uwch na 5cm dros 90% o'r ardal neu 
    • drwy dorri a thynnu rhwng 2 a 5 gwaith y flwyddyn
  • pori ar lefelau lle nad oes tir moel o amgylch bonion y coed
  • rheoli coed gyda chyn lleied â phosibl o fewnbynnau cemegol
  • os ydych chi’n cynnal y glaswelltir drwy dorri, ceisio torri ar amlder sy'n caniatáu i blanhigion yn y borfa flodeuo ond nad yw'n caniatáu i dwmpathau glaswellt bras neu fieri ymledu. Rhaid tynnu'r deunydd wedi'i dorri ar ôl gwaith torri
  • gallwch wasgaru calch os oes angen i gynnal pH pridd rhwng 5.5 a 6.5
  • tocio'r coed ffrwythau yn dymhorol lle bo angen i gynnal lefel resymol o iechyd a chynhyrchiant ac i atal coed rhag dod yn agored i ddifrod gwynt
  • dylid pentyrru unrhyw bren marw neu bren wedi'i docio mewn lleoliad lled-gysgodol o fewn y berllan. Dim ond pren heintiedig y gellir ei symud neu ei losgi

Rhanddirymiadau posibl

Caniatáu unrhyw un o'r ymadroddion 'peidio â' am resymau iechyd a diogelwch, a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

b) Prysgwydd (gan gynnwys rhedyn gwasgaredig a llai trwchus)

Disgrifiad

Prysgwydd yw llystyfiant wedi’i wneud yn bennaf o lwyni sy’n llai na 5m o daldra fel arfer a gall fod yn gynefin sy'n datblygu neu'n gynefin uchafbwynt. Mae'r rhywogaethau coediog dan sylw yn amrywiol, ond mae'r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn debygol o gynnwys y ddraenen ddu, y ddraenen wen, yr eithin Ewropeaidd ac ysgawen.

Mae prysgwydd a reolir yn dda yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan ddarparu neithdar, hadau, ffrwythau, cysgod a safleoedd nythu ar gyfer infertebratau, adar a mamaliaid. Mae hefyd yn cynnig cynefin addas ar gyfer llawer o blanhigion blodeuol. Mae prysgwydd o oedran, rhywogaethau a strwythur amrywiol yn cefnogi'r ystod ehangaf o fywyd gwyllt. Bydd prysgwydd yn cynnwys ardaloedd o rywogaethau y ddraenen ddu, y ddraenen wen, criafol a helyg.

Coridorau ar lan nant a grëwyd o dan Glastir Sylfaenol a Glastir Uwch ac a gynhelir odanynt.

Nodau 

Mae prysgwydd a reolir yn dda yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan ddarparu neithdar, hadau, ffrwythau, cysgod a safleoedd nythu ar gyfer infertebratau, adar a mamaliaid. Mae hefyd yn cynnig cynefin addas ar gyfer llawer o blanhigion blodeuol. Mae prysgwydd o oedran, rhywogaethau a strwythur amrywiol yn cefnogi'r ystod ehangaf o fywyd gwyllt. Bydd ardaloedd o brysgwydd yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau megis eithin, rhedyn, y ddraenen ddu, y ddraenen wen, criafol, bedw, mieri a helyg. Gall hyn hefyd gynnwys coridorau ar lan nant a grëwyd o dan Glastir ac sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd.

Mae rhedyn gwasgaredig a llai trwchus gyda haen ddaear yn gynefin gwerthfawr ar gyfer cyfres o rywogaethau glöyn byw brithion ac mae’n darparu cynefin da ar gyfer adar sy'n nythu a gorchudd ar gyfer adar, mamaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid eraill wrth iddynt symud. Nod rheoli yw cynnal yr haen ddaear ac atal y canopi rhedyn rhag cau ymhellach. Dylai'r haen ddaear gynnwys planhigion blodeuol sy'n darparu adnoddau neithdar a phaill yn y gwanwyn.

Diffinnir rhedyn gwasgaredig a llai trwchus fel:

Mae rhedyn yn bresennol lle mae'n caniatáu mynediad rhydd i dda byw (heb ei gyfyngu i lwybrau yn unig) heb fawr ddim neu ddim rhedyn marw pydredig gyda glaswellt a llystyfiant arall yn tyfu drwyddo.

Gofynion

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:

  • gadw pob ardal bresennol o brysgwydd brodorol ar lethrau arfordirol, glannau afonydd, twyni tywod, clogwyni calchfaen, gwaelodion dyffrynnoedd ac yn yr ucheldiroedd. Mae torri i atal lledaeniad prysgwydd yn dderbyniol

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â:

Canlyniadau mesuradwy

  • mae rhedyn gwasgaredig a llai trwchus yn cael ei gynnal i gadw ei natur agored gydag is-dyfiant planhigion. Mae datblygiad rhedyn tal, trwchus lle mae symudiadau stoc wedi'u cyfyngu i lwybrau yn unig yn cael ei osgoi
  • Ni fydd rhedyn marw dwfn, sy'n atal rhywogaethau eraill o lystyfiant rhag treiddio a thyfu drwy'r deunydd marw, yn cronni neu mae’n lleihau

Argymhellion rheoli 

  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin
  • mewn cyd-destun glaswelltir, dylid pori ar gyfradd nad yw'n fwy na'r hyn a osodwyd ar gyfer y glaswelltir sylfaenol 
  • os nad yw'r prysgwydd yn cael ei bori ar hyn o bryd, cynnal/cadw'r dull rheoli hwn 
  • cynnal a chadw/cadw'r holl goed safonol sydd wedi'u gwasgaru drwy'r prysgwydd
  • os oes bylchau o fewn y prysgwydd, gadael i goed/prysgwydd adfer yn naturiol
  • pori'r ardal gyda gwartheg a/neu geffylau yn unig, neu fel rhan o gyfundrefn stocio cymysg i annog malu a chleisio rhedyn i gynnal neu ehangu ei natur agored
  • dilyn canllawiau ar ymwybyddiaeth o gynefin brithegion perlog 

Rhanddirymiadau Posibl

I dynnu prysgwydd yn barhaol am resymau archaeolegol buddiol.

I dynnu prysgwydd lle mae'n lledaenu i gynefin o flaenoriaeth cadwraeth uwch megis ardaloedd o gynefin glaswelltir blaenoriaeth.

c) Coed pori

Disgrifiad

Fel arfer, mae coed pori yn gynnyrch systemau rheoli tir hanesyddol ac maent yn cynrychioli strwythur llystyfiant, yn hytrach na bod yn gymuned o blanhigion penodol. Yn nodweddiadol, mae'r strwythur hwn yn cynnwys coed coedwig mawr, agored neu uchel ar wahanol ddwyseddau, mewn matrics o laswelltir pori, rhostir a/neu blanhigion coetir. Fel arfer, diffinnir coed pori fel coed â gorchudd coed o lai na 30% sy'n digwydd fel coed unigol gwasgaredig. Gall coed gael eu clystyru i gynhyrchu gorchudd uwch na 30% yn lleol. Dylai fod o leiaf 6 coeden yr hectar wedi'u gwasgaru ar draws y safle. Mae llawer o'r coed presennol o gymeriad agored, gyda brigdyfiant llydan, dwfn a boncyffion byr.

Hefyd yn y dosbarthiad cynefin hwn mae ardaloedd o ffridd (y Canolbarth a'r Gogledd) neu goedcae (y De) sy'n digwydd yn y rhyngwyneb iseldir - ucheldir. Mae'r ardaloedd hyn fel arfer yn ddilyniant sy’n digwydd yn naturiol, o orchudd coed dros glytwaith tebyg o gynefinoedd i goed pori a reolwyd yn hanesyddol, uwchben.

Nodau

Dylai rheoli coed pori llwyddiannus gynnal y boblogaeth o goed a chynnal neu wella cyflwr y llystyfiant daear. Bydd nodau'r haen ddaear yn dibynnu ar y llystyfiant sy'n bresennol gan y gallai gynnwys glaswelltir, rhostir, mawndir, prysg, coetir/coed a/neu redyn. Mae'r cynefin hwn yn arbennig o bwysig ar gyfer infertebratau sy'n byw mewn pren marw, cennau a sawl rhywogaeth o adar, a dylid eu rheoli er mwyn darparu'r adnoddau angenrheidiol er mwyn i'r grwpiau hyn o rywogaethau ffynnu.

Gofynion

Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:
  • gadw coed a phrysgwydd gwasgaredig presennol
  • cadw'r holl bren marw, boed yn sefyll neu ar y llawr
  • sicrhau nad yw coed aeddfed yn cael eu rhisglo gan dda byw ac nad oes llawer o dir moel
Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â: 
  • gadael i'r cae gael ei sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau, ardaloedd bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r ardal)
  • plannu coed sy'n creu coetir trwchus o dros 30% o orchudd coed

Canlyniadau mesuradwy

  • mae coed a phrysgwydd gwasgaredig presennol yn cael eu cadw
  • mae'r holl bren marw, boed yn sefyll neu ar y ddaear, yn cael ei gadw
  • ni fydd mwy na 5% o arwynebedd y cae yn bridd moel, a bydd hwnnw wedi’i wasgaru o amgylch y cae 

Argymhellion Rheoli

  • gweler y tabl dwysedd stocio a argymhellir yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin.        
  • pori ar lefelau lle nad yw coed aeddfed yn cael eu rhisglo a lle nad oes llawer o dir moel o amgylch bôn coed (mae gan <10% o goed dir moel o amgylch y bôn)
  • gwartheg neu ferlod yw'r da byw a ffefrir ar safleoedd sydd â chyfran uchel o rostir a/neu redyn
  • lle mae'r llystyfiant daear yn cynnwys rhedyn trwchus, gall pori yn gynnar yn y gwanwyn (mis Mawrth i fis Mai) gan ddefnyddio da byw trwm (gwartheg neu ferlod) helpu i leihau goruchafiaeth rhedyn
  • mae cyfran o brysgwydd yn fuddiol i ddarparu blodau a ffrwythau. Dylid cadw’r prysgwydd presennol oni bai ei fod yn lledaenu i orchuddio mwy nag 20% o arwynebedd y safle
  • ar safleoedd lle mae rhedyn trwchus yw’r prif lystyfiant (lle nad oes fflora daear), derbynnir efallai na fydd pori yn bosibl
  • ystyried caniatáu i'r safle adfywio'n naturiol i goetir os oes llawer o goed yn cytrefu mewn safle lle mai rhedyn yw’r prif lystyfiant fel arall a bod hwnnw’n anodd iawn/amhosibl ei bori
  • mae torri neu docio yn dderbyniol, lle mae rhedyn, brwyn meddal neu rywogaethau llystyfiant annymunol eraill yn ymledu’n arbennig o helaeth (gweler Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol ar gyfer Pob Cynefin)
  • mae llyfnu ag oged gadwyn i dorri darnau trwchus o redyn marw yn dderbyniol
  • mae plannu coed dwysedd isel i gyrraedd llai na 30% o orchudd coed cyffredinol yn dderbyniol

Rhanddirymiadau posibl

Caniatáu unrhyw un o'r ymadroddion 'peidio â' am resymau iechyd a diogelwch, a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

9 Coetir sy'n bodoli eisoes (yng Nghynllun 2024)

Disgrifiad

At ddibenion y cynllun hwn, dim ond y coetiroedd hynny yng Nghynllun Cynefin Cymru yn 2024 a oedd â thros 0.1 hectar o ganopi coed wedi'i ddosbarthu fel HS07 fydd yn cyfrif fel coetir sy’n bodoli eisoes.

Nodau 

Cynnal coetir lled-naturiol hynafol a lled-naturiol arall sy'n bodoli eisoes.

Cynnal rheolaeth ar goetir o dan opsiwn Glastir Uwch blaenorol.

Sicrhau nad yw lefelau da byw yn niweidio coed a fflora daear o fewn coetiroedd.

Mae cynefin coetir yn arbennig o bwysig i infertebratau; mamaliaid bach, megis ystlumod a phathewod; planhigion is, megis ffyngau, mwsogl a chennau; a llawer o rywogaethau o adar. Dylai'r gwaith rheoli geisio cynnal yr adnoddau angenrheidiol er mwyn i'r grwpiau hyn o rywogaethau ffynnu.

Ystyried sut y gellir rheoli'r coetiroedd hyn ar gyfer bioamrywiaeth, cynhyrchion pren, hamdden a rheoli da byw. 

Gofynion

 Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:
  • gadw at unrhyw gynllun rheoli sy'n cydymffurfio ag UKFS, lle bo hynny'n berthnasol
  • cadw pob coeden mewn coetir oni bai bod angen symud coeden ymaith am resymau diogelwch neu ei rheoli o dan drwydded cwympo neu gynllun rheoli sy'n cydymffurfio ag UKFS 
  • diogelu coed rhag difrod yn sgil trin tir, cywasgu, defnyddio peiriannau neu ddefnyddio agrogemegau, gan gynnwys gwrtaith, o dan ganopi'r coed
 Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â:
  • symud pren marw ymaith, gan gynnwys pren marw sy'n sefyll, oni bai bod angen gwneud hynny am resymau iechyd a diogelwch
  • achosi neu ganiatáu yn fwriadol i chwyn newydd ymsefydlu neu i chwyn niweidiol presennol ymledu
  • rhoi porthiant atodol i dda byw yn y coetir
  • defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion ac eithrio i reoli rhywogaethau estron goresgynnol neu i reoli plâu a chlefydau coed sydd wedi'u gweld
  • symud pridd heb ganiatâd yn y coetir
  • defnyddio'r coetir ar gyfer gweithgareddau gan gerbydau oddi ar y ffordd sydd heb eu cymeradwyo
  • adeiladu traciau, ffyrdd, iardiau, mannau llwytho / pentyrru newydd neu unrhyw strwythurau newydd yn y coetir

Gofynion

 Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i:

  • gadw at unrhyw gynllun rheoli sy'n cydymffurfio ag UKFS, lle bo hynny'n berthnasol
  • cadw pob coeden mewn coetir oni bai bod angen symud coeden ymaith am resymau diogelwch neu ei rheoli o dan drwydded cwympo neu gynllun rheoli sy'n cydymffurfio ag UKFS 
  • diogelu coed rhag difrod yn sgil trin tir, cywasgu, defnyddio peiriannau neu ddefnyddio agrogemegau, gan gynnwys gwrtaith, o dan ganopi'r coed

 Er budd y cynefin hwn, rydych chi’n cytuno i beidio â:

  • symud pren marw ymaith, gan gynnwys pren marw sy'n sefyll, oni bai bod angen gwneud hynny am resymau iechyd a diogelwch
  • achosi neu ganiatáu yn fwriadol i chwyn newydd ymsefydlu neu i chwyn niweidiol presennol ymledu
  • rhoi porthiant atodol i dda byw yn y coetir
  • defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion ac eithrio i reoli rhywogaethau estron goresgynnol neu i reoli plâu a chlefydau coed sydd wedi'u gweld
  • symud pridd heb ganiatâd yn y coetir
  • defnyddio'r coetir ar gyfer gweithgareddau gan gerbydau oddi ar y ffordd sydd heb eu cymeradwyo
  • adeiladu traciau, ffyrdd, iardiau, mannau llwytho / pentyrru newydd neu unrhyw strwythurau newydd yn y coetir

Rhanddirymiadau posibl

Caniatáu unrhyw un o'r ymadroddion 'peidio â' am resymau iechyd a diogelwch, a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.