Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Gwneir y Cod Trefniadaeth Ysgolion o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod ar drefniadaeth ysgolion, y gallent ei adolygu o bryd i'w gilydd.

Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o'r Cod yn 2018. Mae'r Cod wedi cael ei adolygu ar ôl dros bum mlynedd o weithredu ac rydym wedi nodi nifer o ddiwygiadau y mae angen eu gwneud. Mae'r rhan fwyaf o'r diwygiadau hyn yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi sydd wedi digwydd ers i'r Cod ddod i rym neu'n egluro gofynion sy'n ymwneud â deddfwriaeth a oedd ar waith bryd hynny.

Yn unol ag adran 39 o Ddeddf 2013, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar ddrafft o'r Cod cyn cyhoeddi neu ddiwygio Cod o dan adran 38. Felly, mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar drydydd argraffiad drafft o'r Cod sydd ynghlwm wrth y ddogfen ymgynghori hon.

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar drydydd argraffiad diwygiedig drafft o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Mae'r Cod drafft yn gwneud newidiadau i ail argraffiad y Cod a gyhoeddwyd yn 2018. Mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau hyn yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi sydd wedi digwydd ers i ail argraffiad y Cod ddod i rym.

Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Cyhoeddir y Cod Trefniadaeth Ysgolion (“y Cod”) o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod Trefniadaeth Ysgolion.

Mae'r Cod yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy'n nodi nodau, amcanion a materion eraill mewn perthynas â threfniadaeth ysgolion. Rhaid i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, hyrwyddwyr cynigion i sefydlu ysgolion gwirfoddol ac, yn fwy diweddar, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), wrth arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, weithredu'n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a geir yn y Cod a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd ynddo.

Wrth gyflwyno cynigion i wneud newidiadau sylweddol i ysgolion, gan gynnwys sefydlu ysgol newydd, cau neu wneud newid rheoleiddiedig i ysgol sy'n bodoli eisoes, ceir gweithdrefnau statudol y mae'n rhaid eu dilyn. Yn gyntaf oll, rhaid i'r awdurdod lleol neu hyrwyddwr arall ymgynghori ar y cynnig gan egluro'u rhesymau dros gyflwyno'r cynnig. Rhaid i'r hyrwyddwr sicrhau bod gan y rheini yr ymgynghorir â hwy ddigon o wybodaeth i ffurfio barn gytbwys, a gwneud trefniadau addas iddynt fynegi'r farn honno yn ysgrifenedig.

Ar ôl yr ymgynghoriad, rhaid i'r cynigydd gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad sy'n crynhoi'r materion a godwyd a'r ymatebion i'r materion hynny. Os bydd yr hyrwyddwr yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad sy'n rhoi manylion y cynnig a gwahodd unrhyw un sydd am wrthwynebu i wneud hynny'n ysgrifenedig cyn pen cyfnod o 28 diwrnod.

Rhaid mynd i'r afael ag unrhyw faterion a godwyd fel gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod gwrthwynebu yr hysbysiad statudol, mewn adroddiad ar wrthwynebiadau a fydd yn cael ei ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y cynnig.

Pam rydym yn cynnig newid?

Cyhoeddwyd yr ail argraffiad o'r Cod yn 2018. Mae'r Cod wedi cael ei adolygu ar ôl dros bum mlynedd o weithredu ac rydym wedi nodi nifer o ddiwygiadau y mae angen eu gwneud.

Pa newidiadau ydym yn eu cynnig?

Mae'r rhan fwyaf o'r diwygiadau yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi sydd wedi digwydd ers i ail fersiwn y Cod ddod i rym neu, yn achos Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, yn atgyfnerthu gofynion sy'n ymwneud â deddfwriaeth a oedd ar waith bryd hynny. Ceir crynodeb o’r newidiadau hyn isod:

Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015

Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad cyrff penodol (Gweinidogion Cymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol). Mae'r safonau yn cynnwys safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisïau, safonau gweithredu, safonau hybu, a safonau cadw cofnodion.

Mae Atodlen 2 o Reoliadau 2015 yn nodi safonau llunio polisïau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae safonau llunio polisïau 88 i 97 yn berthnasol i gynigion trefniadaeth ysgolion am fod yn rhaid i gyrff gydymffurfio â hwy wrth wneud pob penderfyniad polisi, gan gynnwys cynigion trefniadaeth ysgolion. Mewn perthynas â chynigion statudol, nid yw'r ddyletswydd wedi'i chyfyngu i gynigion mewn perthynas ag ysgolion Cymraeg, mae'n gymwys i gynigion sy'n ymwneud â phob ysgol a gynhelir, ni waeth beth fo'i chategori iaith.

O dan safonau 91, 92 a 93, rhaid i ddogfennau ymgynghori ystyried effaith penderfyniad polisi ar y Gymraeg a hefyd geisio safbwyntiau ynglŷn ag effaith y penderfyniad polisi ar y Gymraeg. Mae'r rhain yn ofynion ar wahân, sy'ngolygu bod yn rhaid cynnal asesiad effaith acyna rhaid i gwestiynau gael eu gofyn am yr asesiad hwnnw.

Mae'r Cod wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu Rheoliadau 2015, gan gynnwys y safonau llunio polisïau. Wrth wneud hynny, mae'r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg gael ei gynnal ar gyfer pob cynnig statudol. Rhaid cynnwys hwn fel rhan o'r ddogfen ymgynghori neu ei gyhoeddi ochr yn ochr â hi.

Cymraeg 2050

Mae'r Cod wedi cael ei ddiwygio i fod yn gyson â Cymraeg 2050, sef strategaeth Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, a'r targedau a bennir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd pob awdurdod lleol sy'n cefnogi'r uchelgais honno. O ystyried pwysigrwydd y sector addysg yn ei gyfanrwydd o ran creu siaradwyr Cymraeg newydd, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r broses o gynllunio a datblygu cynigion trefniadaeth ysgolion adlewyrchu ein huchelgeisiau yn Cymraeg 2050 a chefnogi'r targedau yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol.

Ym mis Gorffennaf 2024 cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Ymhlith y cynigion o fewn y Bil mae, ymhlith pethau eraill, sefydlu system statudol o gategoreiddio darpariaeth Gymraeg ysgolion a gynhelir a diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion er mwyn cyrraedd targedau a bennwyd gan Weinidogion Cymru. Yn amodol ar i'r Bil ddod yn gyfraith, efallai y bydd y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn gofyn am newidiadau pellach yn y dyfodol i adlewyrchu'r diwygiadau hyn.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf 2018’) yn sefydlu'r system statudol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc (y system ADY). Mae'n disodli'r system ar gyfer diwallu anghenion addysgol arbennig (AAA) plant mewn ysgolion ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (ADD) mewn addysg bellach.

Cychwynnodd gweithredu Deddf 2018 o 1 Medi 2021. Mae'r system ADY yn cael ei chyflwyno fesul cam dros gyfnod o bedair blynedd hyd at haf 2025. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y system ADY yn gweithredu ochr yn ochr â'r system AAA.

Hyd nes y bydd Deddf 2018 wedi ei dwyn i rym yn llawn, mae pob cyfeiriad at Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a darpariaeth AAA (DAA) yn y Cod yn darllen fel AAA/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a DAA/darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) yn y drefn honno.

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Mae'r Cod wedi cael ei ddiwygio i fod yn gyson â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ("Deddf 2021”), sy'n darparu ar gyfer cyflwyno a datblygu'r Cwricwlwm i Gymru i ddysgwyr 3 i 16 oed yng Nghymru.

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Sefydlodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ("Deddf 2022") y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”). Y Comisiwn yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru sy’ncwmpasu addysg ôl-16, gan gynnwys darpariaeth chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol. Mae dyletswydd statudol arno i sicrhau y darperir cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant i ddysgwyr ôl-orfodol 16 i 19 oed ac i'w cyllido.

Bydd pwerau Gweinidogion Cymru o dan adrannau 71 i 76 o Ddeddf 2013, i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth, yn cael eu dileu. Bydd Pennod 3A newydd yn cael ei mewnosod i Ran 3 o Ddeddf 2013 er mwyn galluogi'r Comisiwn i weithredu mewn ffordd fwy strategol, gan gynnig safbwynt ehangach ar ddarpariaeth chweched dosbarth ysgolion a sicrhau y gall gefnogi dewis a chynnydd i ddysgwyr.

Mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol yn cadw eu swyddogaethau cyfredol mewn perthynas â chyflwyno cynigion ynghylch trefniadaeth chweched dosbarth ysgolion. Nid yw swyddogaethau'r Comisiwn yn arwain at golli unrhyw ddarpariaethau sy'n bodoli eisoes mewn perthynas â chyhoeddi cynigion, ymgynghori arnynt a'r gallu i'w gwrthwynebu ac mae darpariaethau arwyddocaol eraill yn Neddf 2013 yn dal i fod ar waith. Mae'r Cod wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i Ddeddf 2013 gan Ddeddf 2022 mewn perthynas â threfniadaeth ysgolion.

Newidiadau eraill

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau eraill i'r Cod i gryfhau'r gofynion presennol.

Mae'r Cod yn gosod safon uchel ar gyfer ymgynghori, gan sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i rannu eu sylwadau a bod y sylwadau hynny'n cael eu hystyried fel rhan o'r broses statudol. Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i gynigwyr gyhoeddi dogfennau allweddol megis y ddogfen ymgynghori, adroddiad ymgynghori, hysbysiad statudol, adroddiad gwrthwynebu a hysbysiad penderfynu ar eu gwefan a rhoi gwybod i nifer o bartïon â diddordeb eu bod ar gael a'u bod yn gallu cael copi ar gais.

Rydym wedi diwygio'r Cod i'w gwneud yn ofynnol i gynigwyr gyhoeddi'r dogfennau hyn ar wefan yr awdurdod lleol yn ogystal â'u gwefan nhw eu hunain (os yw'n wahanol) i sicrhau'r sylw mwyaf. Rydym hefyd wedi ymestyn y rhestr o bartïon y mae'n rhaid rhoi gwybod iddynt bod y ddogfen ymgynghori ar gael a'u bod yn gallu cael copi ar gais.

Ar hyn o bryd, lle mae cynnig yn ymwneud sefydlu ysgol newydd, rhaid i'r cynigydd gynnwys gwybodaeth am y lleoliad yn y ddogfen ymgynghori ynghyd ag ystod o wybodaeth arall. Rydym wedi diwygio'r Cod i'w gwneud yn ofynnol i gynigwyr ddarparu map ochr yn ochr â'r wybodaeth am y lleoliad.

Yn unol â Rheoliadau 2015, rydym wedi egluro bod angen Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer pob cynnig statudol, beth bynnag yw categori iaith yr ysgol/ysgolion dan sylw. Mae Atodiad C o'r Cod yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn yr Asesiad Effaith ar y Gymraeg. Rydym wedi ymestyn y rhestr o wybodaeth i sicrhau bod asesiadau'n gadarn ac yn darparu digon o wybodaeth i alluogi ymgyngoreion i ddarparu ymateb gwybodus.

Y brif ystyriaeth ar gyfer pob cynnig yw'r effaith ar ansawdd a safonau addysg. Mae cyngor gan Estyn ac adroddiadau Estyn yn allweddol i bennu hyn, ynghyd â thystiolaeth arall sy'n deillio o fonitro perfformiad. Rydym wedi ychwanegu adroddiadau o arolygiadau ardal i'r rhestr o dystiolaeth y dylai cynigwyr ei hystyried.

Rydym wedi darparu eglurder, lle bo angen, mewn perthynas â gofynion presennol sy'n codi o Ddeddf 2013, deddfwriaeth berthnasol arall a/neu'r Cod ei hun. Mae troednodiadau ychwanegol i ddeddfwriaeth a dogfennau polisi perthnasol wedi'u darparu drwy gydol y Cod. Rydym hefyd wedi gwella fformat y Cod, gan gynnwys rhifau paragraff er hwylustod.

Rydym wedi diwygio cyfeiriadau yn y Cod i sicrhau eglurder a chysondeb mewn perthynas â'r grwpiau o ddysgwyr neu’r ysgolion yr ydym yn cyfeirio atynt. Er enghraifft, mae cyfeiriadau at 'ysgolion yr effeithir arnynt', 'ysgolion sy'n debygol o gael eu heffeithio', 'ysgolion dan sylw' 'darpariaeth amgen' neu 'ddarpariaeth ysgol amgen' bellach yn cael eu darllen fel ysgol(ion) sy'n destun y cynigion, ysgolion eraill neu sefydliadau addysg y bydd y cynigion yn debygol o effeithio arnynt neu ysgolion amgen neu sefydliadau addysg eraill, fel y bo'n briodol. Mae'r rhan fwyaf o gyfeiriadau at ddisgybl wedi cael eu newid i ddysgwr.

Rydym hefyd wedi achub ar y cyfle i gywiro unrhyw wallau teipograffyddol neu ramadegol. Ceir rhestr lawn o'r newidiadau a wnaed i God 2018 yn yr Atodiad.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sut i arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau yn y dyfodol. Mewn ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, gall trydydd parti achrededig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu hepgor cyn cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a'i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am ddim mwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: ICO gwefan