Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ('Deddf 2023') yn dod i rym yn llawn heddiw, ynghyd â'r gyfres o reoliadau sy'n angenrheidiol i'w chefnogi.
Cymru sydd bellach â'r ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol fwyaf cyfredol ymhlith gwledydd y DU. Mae Deddf 2023, a wnaed yng Nghymru ar gyfer Cymru yn unig, yn rhydd o gyfeiriadau dryslyd at awdurdodaethau eraill y DU ac, am y tro cyntaf, mae'n darparu cyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol sy'n gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. O heddiw ymlaen, mae'r hen ddeddfwriaeth a ddarparodd y fframwaith ar gyfer rheoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol — yn bennaf Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 — yn cael ei disodli i bob pwrpas mewn perthynas â Chymru. Gall perchnogion henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig, cynghorwyr cyfreithiol, ymgynghorwyr treftadaeth, swyddogion cadwraeth ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn nhreftadaeth archaeolegol ac adeiledig gyfoethog Cymru droi at Ddeddf 2023 a'i rheoliadau ategol ar gyfer cyfraith yr amgylchedd hanesyddol sydd wedi'i strwythuro'n rhesymegol, yn gyson ac wedi'i mynegi, cyn belled ag y bo modd, mewn iaith glir, gyfarwydd. Er bod y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddod o hyd i’r gyfraith, ei deall a’i rhoi ar waith, nid yw’n gwneud unrhyw newidiadau i reolaeth a diogelwch presennol amgylchedd hanesyddol Cymru.
Mae cychwyn llawn y ddeddfwriaeth hefyd yn nodi dwy garreg filltir arwyddocaol yn hanes llyfr statud modern Cymru. Mae Deddf 2023 ei hun yn cynrychioli penllanw prosiect cydgrynhoi cyntaf Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen uchelgeisiol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru a nodir yn Dyfodol Cyfraith Cymru. Cydgrynhoi yw un o'n dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer dod â threfn ac eglurder i faes y gyfraith, yn enwedig os yw’r ddeddfwriaeth wedi troi’n gymhleth ac yn ddryslyd yn sgil diwygiadau niferus gan amryw o awdurdodaethau. Mae cydgrynhoi yn dwyn ynghyd y ddeddfwriaeth bresennol ar bwnc, yn moderneiddio ffurf a drafftio'r gyfraith ac yn ei hailddatgan yn ddwyieithog i Gymru yn unig. Y canlyniad yw un Ddeddf gydlynol sy'n ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i'r gyfraith sydd ei hangen arnynt, a'i deall a'i chymhwyso. Er y gall newid trefniadaeth a chyflwyniad y ddeddfwriaeth, un o egwyddorion arweiniol cydgrynhoi yw nad yw'n newid polisi nac yn newid effaith y gyfraith.
Mae Deddf 2023 a’i rheoliadau ategol o sylwedd i gyd yn datgan yn benodol eu bod yn ‘rhan o god y gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru’. Dyma felly yw’r cod cyfraith cyntaf i’w gynhyrchu o dan y rhaglen hygyrchedd. Mae codeiddio yn darparu’r modd i gynnal strwythur ac uniondeb y gyfraith unwaith y bydd wedi’i rhoi mewn trefn trwy gydgrynhoi neu ddiwygio. Y bwriad o roi statws cod i Ddeddf yw datgymell deddfu darnau gwahanol o ddeddfwriaeth sylfaenol ar bwnc. Y bwriad yw bod Deddfau’r Senedd yn y dyfodol yn cael eu deddfu a’u cynnal fel y bydd defnyddwyr y ddeddfwriaeth yn gallu dod o hyd i gymaint o’r gyfraith sy’n effeithio ar bwnc penodol â phosibl drwy ddarllen un Ddeddf Senedd ac unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tani. Pan wneir cynnig i newid y gyfraith, dylid gwneud y newid hwnnw drwy ddiwygio'r Ddeddf wedi'i chodeiddio, oni bai bod rheswm da iawn dros wneud deddfwriaeth newydd a fydd yn cyd-fynd â hi.
Mae Deddf 2023 a'i rheoliadau ategol — cod yr amgylchedd hanesyddol —yn sefydlu sylfaen ddiogel ar gyfer datblygu cyfraith hygyrch ac effeithiol yn y dyfodol ar gyfer amgylchedd hanesyddol unigryw a gwerthfawr ein cenedl.