Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Bev Smith, Aelod
  • Kate Watkins, Aelod
  • Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
  • Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth

Rhanddeiliaid allanol oedd yn bresennol yn y cyfarfod

  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
  • Shereen Williams (sylwedydd)
  • Roger Ashton-Winter
  • Cher Cooke
  • Rhydian Fitter (un eitem agenda)

Ymddiheuriadau

  • Frances Duffy, Cadeirydd
  • Dianne Bevan, Aelod

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 22 Hydref. 

Nod y cyfarfod oedd:

  • adolygu'r cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Medi a chytuno ar y rhain, nodi diweddariadau'r ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb, ac adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredol ar gyfer 2024 i 2025.
  • ystyried a chytuno ar nifer o bapurau a gyflwynwyd i'r Panel, sef: 
    • cwmpas cyflogau uwch yn yr awdurdodau lleol
    • trosglwyddo data o'r Panel i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
    • diweddariad a chynnwys arfaethedig yr adroddiad etifeddiaeth 
  • adolygu'r cynllun cyfathrebu wedi'i ddiweddaru

Isod, ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.

Diweddariadau i gamau gweithredu, yr Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb

Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o ddiwrnod strategaeth mis Medi a nododd y diweddariad ar y gyllideb.

Gwnaeth y panel adolygu a thrafod yr ohebiaeth a ddaeth i law oddi wrth dri Chyngor Cymuned a Thref, a dau Brif Gyngor, a'i ymateb i bob un.

Cwmpas cyflogau uwch

Ystyriodd y Panel bapur ar gwmpas cyflogau uwch yn yr awdurdodau lleol. Bydd y cwmpas hwn yn galluogi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru i gynnal adolygiad o'r fframwaith a'r fethodoleg ar gyfer penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol rolau uwch o fewn Prif Gynghorau er mwyn llywio penderfyniadau ar gyfer 2026 i 2027.

Pontio data

Rhoddwyd cefndir a diweddariad i'r Panel ar y gwaith pontio a wnaed gan swyddogion a gofynnwyd iddo gytuno i'r amserlen arfaethedig ar gyfer trosglwyddo data ffeiliau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. 

Adroddiad etifeddiaeth

Cyflwynwyd fersiwn ddrafft o'r adroddiad etifeddiaeth i'r Panel. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2025 ac fe fydd yn cynorthwyo'r broses o drosglwyddo swyddogaethau o'r Panel i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys meysydd o ddiddordeb lle y gallai fod angen ystyriaeth bellach yn y dyfodol, megis cynrychiolaeth ieuenctid ac aelodau cyfetholedig.

Diweddariad ar y cynllun cyfathrebu

Ystyriodd y Panel y cynllun cyfathrebu wedi'i ddiweddaru a gyflwynwyd gan Rhydian Fitter o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Unrhyw fater arall

Trafododd y Panel yr adborth a ddaeth i law yn dilyn eu presenoldeb yng nghyfarfod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar 8 Hydref. Rhoddodd y cyfarfod hwn gyfle i'r Panel drafod y cynigion a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2025 i 2026.

Adroddiad blynyddol drafft 2025 i 2026

Mae'r adroddiad blynyddol drafft wedi'i gyhoeddi, mae'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 29 Tachwedd 2024. Gallwch roi adborth ar yr adroddiad drafft hwn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein neu drwy anfon e-bost atom ar irpmailbox@llyw.cymru.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 15 Tachwedd 2024.

Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth, cyfeiriad e-bost: IRPMailbox@llyw.cymru.