Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw [dydd Llun 4 Tachwedd], cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod y ffenest ymgeisio am gynlluniau ychwanegol cyfnod paratoi'r SFS wedi agor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth wneud y cyhoeddiad ar Gynlluniau'r Cyfnod Paratoi yn yr haf, ymrwymodd y Dirprwy Brif Weinidog i gynlluniau pellach, gan ddibynnu ar faint o arian fyddai ar gael.  Bydd y pum cynllun ychwanegol yn golygu buddsoddiad o £14m yn y sectorau amaeth a garddwriaeth yn 2025. Mae tri o'r Cynlluniau eisoes wedi'u hagor gyda dau arall yn agor yn 2025.

Bydd y cynlluniau hyn yn galluogi ffermwyr i wneud mwy i amddiffyn a gwella'r amgylchedd gan hefyd roi sefydlogrwydd i ffermwyr a thyfwyr iddyn nhw allu parhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Bydd y pum cynllun; Cefnogi tyfu cnydau amaethyddol sy'n darparu buddion amgylcheddol cadarnhaol; Annog buddsoddiadau bach mewn gwelliannau amgylcheddol ar y fferm; Helpu ffermwyr Cymru i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol eu busnesau fferm; 'Cronfa sbarduno' i sefydlu mentrau garddwriaethol newydd; a help i ddatblygu neu sefydlu mentrau garddwriaethol neu arallgyfeirio amaethyddol ar ffermydd Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

Bwriad y cyllid hwn yw rhoi sicrwydd i ffermwyr a thyfwyr y bydd cefnogaeth iddyn nhw drwy'r cyfnod hyd at 2026.

Rydym yn bwriadu helpu, arwain a chefnogi ffermwyr a thyfwyr cymwys Cymru wrth i ni baratoi fersiwn derfynol yr SFS a symud tuag ato.

Byddwn yn dal i wrando ar y sector a chydweithio â hi. Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle bydd ein ffermwyr a thyfwyr yn cynhyrchu'r bwyd gorau at y safonau uchaf, ac yn diogelu yr un pryd ein hamgylchedd gwerthfawr ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Byddwn yn annog pob ffermwr a thyfwr i edrych sut y gall yr arian sydd ar gael drwy'r cynlluniau paratoi helpu i roi'r sefydlogrwydd a'r gwytnwch sydd eu hangen ar eu busnesau wrth i ni symud tuag at gyflwyno'r SFS yn 2026.

Rydym wedi bod yn gweithio'n frwd gyda'r Ford Gron Gweinidogol i ddatblygu fersiwn bras diwygiedig o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy cyn i ragor o waith dadansoddi a modelu gael ei wneud arno. Byddwn yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau ar hynt y gwaith cyn hir.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun a'r ceisiadau ar gael yma. Grantiau a thaliadau gwledig | Is-bwnc | GOV. CYMRU.  I weld dyddiadau agor a chau'r ffenestr ymgeisio, cliciwch yma: Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio