Neidio i'r prif gynnwy

Bwriad y bil a'r hyn y bydd yn ei olygu, gan gynnwys sut rydym yn gweithio tuag at Gymru ddi-fwg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Gosodwyd Bil Tybaco a Fêps 2024 ("y bill") gerbron Senedd y DU ar 5 Tachwedd 2024. Ei nod yw creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc ledled y DU. Yn ogystal â'r canllawiau hyn, mae llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi taflenni ffeithiau am y bil.

Mae smygu yn achosi salwch a chlefydau fel canser ac yn byrhau bywyd. Mae mwy nag 1 o bob 10 o'r holl farwolaethau yng Nghymru ymhlith pobl 35 oed a hŷn yn gysylltiedig â smygu. Mae hynny'n gyfartaledd o tua 3,845 o farwolaethau bob blwyddyn.

Yn ogystal â'r gost bersonol, mae smygu yn cael effaith sylweddol ar gymdeithas, gan gostio mwy na £17 biliwn y flwyddyn. Mae hefyd yn cael effaith fawr ar y GIG yng Nghymru, gan arwain at fwy na 17,000 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn.

Yng Nghymru, mae tua 13% o bobl 16 oed a hŷn yn smygu. Mae gennym uchelgais i'r genedl fod yn ddi-fwg erbyn 2030. Er bod cyfraddau smygu wedi gostwng 23% ers 2010, rydym am helpu mwy o smygwyr i roi'r gorau iddi ac atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf.

Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps nicotin i'r rhai dan 18 oed, mae plant a phobl ifanc, a phobl nad ydynt erioed wedi smygu, yn eu defnyddio. Yng Nghymru, mae ein data yn dangos bod 7% o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yn defnyddio fêps yn wythnosol. Mae hyn yn gynnydd o 5.4% ers 2021. Ar gyfer disgyblion blwyddyn 11, y ffigur yw 15.9%, sef cynnydd o 13.6% ers 2021.

Mae hyn yn peri pryder, gan fod llawer o fêps yn cynnwys nicotin, sy'n sylwedd caethiwus iawn. Nid ydym ychwaith yn gwybod beth yw effeithiau hirdymor defnyddio fêps ar iechyd.

Pam mae Cymru yn rhan o'r bil?

Mae tybaco yn niweidiol iawn. Nid oes lefel ddiogel o smygu, ac nid oes unrhyw gynnyrch arall i ddefnyddwyr yn lladd hyd at ddwy ran o dair o'i ddefnyddwyr.

Mae pobl nad ydynt yn smygu hefyd yn dod i gysylltiad â mwg ail-law, a all fod yn arbennig o niweidiol i blant a phobl â chyflyrau fel asthma. Rydym eisiau diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag effeithiau niweidiol tybaco a chynhyrchion smygu eraill. Mae'n bwriadu gwneud hyn drwy newid y gyfraith fel na fydd cynhyrchion tybaco byth yn cael eu gwerthu i blant sy'n cael eu pen-blwydd yn 15 oed eleni, a phlant sy'n ieuengach na hynny.

O ran fêps, mae'r cyngor iechyd yn glir:

  • os nad ydych chi'n smygu, peidiwch â fepio
  • ni ddylai plant a phobl ifanc fyth fepio

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio fêps wedi cynyddu'n sylweddol. Gwyddom fod y cynhyrchion hyn yn cael eu targedu at blant drwy'r ystod helaeth o flasau a deunyddiau pecynnu lliwgar.

Mae pob un o 4 llywodraeth y DU am fynd i'r afael â smygu a fepio ymhlith pobl ifanc. Rydym wedi gweithio'n agos gyda chenhedloedd eraill y DU i ddatblygu'r Bil Tybaco a Fêps.

Prif amcanion y bil yw:

  • Creu cenhedlaeth ddi-fwg drwy ei gwneud yn drosedd gwerthu cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion smygu llysieuol i unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009, ar neu ar ôl hynny. Bydd hefyd yn drosedd prynu'r nwyddau hyn ar ran person o dan yr oedran hwn.
  • Lleihau apêl ac argaeledd fêps a chynhyrchion nicotin eraill i blant drwy alluogi cyfyngu ar flasau, arddangosfeydd yn y man gwerthu a deunyddiau pecynnu'r rhain. Yn ogystal â hyn, cyflwyno mesurau i gyfyngu ar hysbysebu a noddi fêps i'w hatal rhag cael eu brandio a'u hysbysebu'n fwriadol i apelio at blant. Bydd peiriannau gwerthu sy'n cynnwys fêps hefyd yn cael eu gwahardd a bydd yn erbyn y gyfraith i werthu unrhyw gynnyrch nicotin, fêps nicotin a fêps heb nicotin i'r rhai dan 18 oed. Bydd dosbarthu fêps am ddim yn cael ei wahardd.
  • Gwahardd gweithgynhyrchu cynhyrchion tybaco i'w rhoi yn y geg (er enghraifft, snus).
  • Galluogi ehangu'r cyfyngiadau presennol ar ardaloedd di-fwg i gynnwys fêps a chynhyrchion cynhesu tybaco fel y gellir creu mannau cyhoeddus lle na chaniateir defnyddio'r rhain.
  • Cyflwyno cynllun sy'n ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr gael trwydded cyn y gallant werthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts, cynhyrchion fepio neu gynhyrchion nicotin.
  • Cryfhau gorfodaeth, gan gynnwys codi lefel y dirwyon a galluogi rhoi dirwyon yn y fan a'r lle.

Os bydd y bil yn cael ei basio gan y Senedd, byddwn yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i roi'r gyfraith newydd ar waith.

Sut bydd y bil yn gostwng y nifer sy'n smygu?

Y nod yw codi oedran gwerthu tybaco yn raddol. Nid oes oedran diogel i smygu ac felly nod y bil yw atal cenedlaethau'r dyfodol rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf.

Os daw'r bil yn gyfraith, bydd hyn yn golygu na fydd cynhyrchion tybaco byth yn cael eu gwerthu'n gyfreithlon i blant a anwyd ar 1 Ionawr 2009, neu ar ôl hynny.

Ni effeithir ar werthu cynhyrchion tybaco yn gyfreithlon i smygwyr presennol a bydd modd gwerthu cynhyrchion tybaco yn gyfreithlon iddynt ar ôl i'r bil ddod yn gyfraith.

Sut bydd y bil yn mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc?

Rydym yn bryderus iawn am y cynnydd mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc.

Mae cynhyrchion fepio yn cael eu hyrwyddo'n rheolaidd mewn ffordd sy'n apelio at blant drwy eu:

  • blasau
  • mannau arddangos
  • deunyddiau pecynnu

Drwy’r bil, bydd modd gwneud rheoliadau i fynd i'r afael â'r meysydd dan sylw. Fel hyn, gallwn gadw'r cynhyrchion i ffwrdd oddi wrth blant ac atal y genhedlaeth nesaf rhag mynd yn gaeth i nicotin neu fêps pan nad yw'r effeithiau iechyd hirdymor yn hysbys.

Os daw'r bil yn gyfraith, bydd ymgynghori ac ymgysylltu pellach yn digwydd cyn cyflwyno unrhyw fesurau penodol.

Fodd bynnag, byddwn yn cyflwyno gwaharddiad ar werthu fêps untro yng Nghymru o 1 Mehefin 2025 ymlaen, oherwydd eu heffeithiau amgylcheddol yn ogystal â'u cysylltiad â fepio ymhlith pobl ifanc.

A oes cynlluniau i gyflwyno mwy o ardaloedd di-fwg a di-fêp?

Yn 2021, newidiwyd y gyfraith yng Nghymru i wneud tiroedd ysbytai, tiroedd ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus yn ddi-fwg. Roedd y gyfraith hon yn adeiladu ar newidiadau a gyflwynwyd yn 2007, pan wnaed mannau cyhoeddus a gweithleoedd dan do yn ddi-fwg.

Gan nad yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn smygu, rydym yn parhau i edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i gefnogi pobl, yn enwedig plant, teuluoedd a phobl agored i niwed. Rydym am eu galluogi i fwynhau mannau cyhoeddus heb ddod i gysylltiad â mwg ail-law peryglus.

Bydd y bil yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud yng Nghymru i gryfhau'r gwaharddiadau presennol ar smygu mewn mannau cyhoeddus, drwy hefyd atal fêps a chynhyrchion cynhesu tybaco rhag cael eu defnyddio.

Os daw'r bil yn gyfraith, byddai ymgynghori ac ymgysylltu pellach yn digwydd cyn cyflwyno unrhyw fesurau o'r fath.

Beth fydd trwyddedu manwerthu yn ei olygu?

Mae'r bil yn darparu pwerau i gyflwyno cynllun trwyddedu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer manwerthu o:

  • cynhyrchion tybaco
  • cynhyrchion smygu llysieuol
  • papurau sigaréts
  • cynhyrchion fepio a nicotin

Pe bai'n cael ei gyflwyno, byddai hyn yn golygu y byddai'n drosedd gwerthu'r cynhyrchion hyn yng Nghymru heb drwydded. Byddai hefyd yn ofynnol i'r deiliad trwydded a'r safle manwerthu fodloni rhai amodau cyn y gellir rhoi trwydded.

Nod y cynllun trwyddedu yw cefnogi iechyd y cyhoedd drwy sicrhau bod y cynhyrchion hyn yn cael eu gwerthu mewn mannau sy'n bodloni safonau penodol yn unig. Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi camau gorfodi ac yn galluogi swyddogion i roi dirwyon o hyd at £2,500 am droseddau sy'n ymwneud â thorri amodau trwyddedu, fel gwerthu'r cynhyrchion hyn i blant.

Os daw'r bil yn gyfraith, byddai ymgynghori ac ymgysylltu pellach yn digwydd cyn cyflwyno unrhyw fesurau o'r fath.

Sut rydym yn cefnogi pobl i roi'r gorau i smygu?

Yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y strategaeth tybaco a'r cynllun cyflawni, a oedd yn gosod targed i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030. Mae hyn yn golygu gostwng cyfraddau smygu i lai na 5% ymhlith oedolion.

Ers hynny, rydym wedi canolbwyntio ar ostwng y cyfraddau a lleihau effaith smygu, yn enwedig gostwng y cyfraddau yn ystod beichiogrwydd oherwydd y niwed sylweddol mae smygu yn ei gael ar y fam a'r babi. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r GIG i gyflwyno a hyrwyddo'r rhaglen "helpa fi i stopio" yn yr ysbyty a chefnogi pobl i roi'r gorau i smygu pan fyddant yn cael eu derbyn i'r ysbyty am driniaeth.

Gwyddom fod tua 7 o bob 10 smygwr eisiau rhoi'r gorau iddi, ond gall hyn fod yn anodd, ac mae llawer o bobl yn gwneud sawl ymgais cyn llwyddo. Er mwyn cefnogi smygwyr i roi'r gorau iddi, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau i helpu pobl i roi'r gorau i smygu. Mae ein gwasanaeth GIG, helpa fi i stopio, ar gael am ddim i gefnogi smygwyr. Ers 2017, mae wedi cefnogi mwy na 100,000 o bobl i roi'r gorau i smygu. Mae cael mynediad at gymorth gan y GIG yn cynyddu siawns smygwyr o lwyddo hyd at 300% o’i gymharu â rhoi'r gorau iddi ar eu pen eu hunain.

Ceir rhaglenni arbenigol hefyd a gaiff eu targedu at grwpiau risg uchel, fel y rhaglen "byw bywyd di-fwg" sy’n targedu disgyblion ysgolion uwchradd mewn ardaloedd lle ceir y nifer uchaf o smygwyr.

Wrth i nifer y bobl sy'n defnyddio fêps gynyddu, a llawer eisiau help i roi'r gorau iddi, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar sut y gall addasu’r gwasanaeth "helpa fi i stopio" i gefnogi oedolion a phobl ifanc gyda'u caethiwed i fepio.

Gall unrhyw un sy'n chwilio am gyngor ar roi'r gorau i ddefnyddio fêps gysylltu â "helpa fi i stopio" drwy:

Sut mae ysgolion yn cael eu cefnogi gyda fepio?

Mae'r defnydd o fêps gan bobl ifanc yn heriol iawn i ysgolion. Er mwyn eu cefnogi, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer dysgwyr oedran ysgol uwchradd, sy'n darparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth am sut y gall ysgolion ymateb i fepio, a mynd i’r afael â’r broblem. Mae pecyn cymorth o adnoddau hefyd wedi'i ddatblygu i gefnogi athrawon.

Mae canllaw i rieni yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Gan y gallai fod angen help a chefnogaeth ar rai pobl ifanc i oresgyn dibyniaeth, mae'r adnoddau'n eu cyfeirio at y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i unrhyw berson ifanc sy'n gaeth i nicotin drwy fêps.

A yw fêps untro yn cael eu gwahardd?

Mae fêps untro yn ddefnydd gwastraffus o adnoddau, yn creu sbwriel a llygredd plastig yn ein hamgylchedd ac maent wedi'u cysylltu â fepio ymhlith pobl ifanc.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, byddwn yn gwahardd cyflenwi fêps untro yng Nghymru o 1 Mehefin 2025 ymlaen.

Mae'r gwaharddiad hwn yn cael ei gyflwyno ar wahân i Fil Tybaco a Fêps y DU a bydd yn cael ei gydlynu â chamau tebyg sy’n cael eu cymryd yng ngwledydd eraill y DU.

Beth ydym yn ei wneud i fynd i'r afael â thybaco a fêps anghyfreithlon?

Mae'r broblem fêps a thybaco anghyfreithlon yn un gymhleth ac yn broblem ar raddfa fawr sy'n effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Gall y cynhyrchion hyn fod yn niweidiol iawn ac mae rhai fêps anghyfreithlon yn cynnwys cemegion peryglus a lefelau niweidiol o fetelau fel plwm.

Mae timau gorfodi yng Nghymru yn cymryd meddiant o gynhyrchion mewn porthladdoedd ac mewn siopau i'w hatal rhag cael eu gwerthu. Maen nhw'n gweithio'n agos gydag asiantaethau o bob rhan o'r DU, gan gynnwys CThEF a llu'r ffiniau, i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Yn ogystal â sicrhau mwy o orfodaeth, rydym wedi cefnogi gwaith i godi ymwybyddiaeth a hyfforddi swyddogion gorfodi a swyddogion heddlu i dynnu sylw at sut mae'r cynhyrchion hyn yn effeithio ar ein cymunedau. Rydym hefyd wedi cefnogi datblygiad y wefan dim esgus. byth. sy'n darparu ffordd i'r cyhoedd roi gwybod am werthiant anghyfreithlon yn ddienw.

Bydd dull cryf o orfodi'r cynigion newydd ar dybaco a fêps yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y mesurau ym Mil Tybaco a Fêps y DU yn rhoi mwy o ddulliau gweithredu i dimau gorfodi allu ymdrin â phobl sy'n torri'r gyfraith, gan gynnwys pobl sy'n gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon peryglus a'r rhai sy'n gwerthu i blant.

Os caiff y bil ei basio, byddwn yn gweithio'n agos gyda busnesau a thimau safonau masnach lleol i sicrhau bod y deddfau newydd yn cael eu gweithredu a'u gorfodi.

Beth yw cynigion llywodraeth y DU i gynyddu'r doll ar fêps?

Yn aml, mae fêps yn cael eu gwerthu am bris y mae plant yn gallu ei fforddio. Rydym yn croesawu cynlluniau llywodraeth y DU i gyflwyno toll ar fêps, gan y bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r defnydd cynyddol ymhlith plant. Mae cynyddu pris tybaco yn y gorffennol wedi helpu i leihau nifer y plant sy'n smygu.