Cyfarfod y Cabinet: 16 Medi 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 19 Medi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matt Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Risg, Cydnerthedd a Diogelwch Cymunedol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
- Charlie Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Deddfwriaeth (eitemau 4 a 5)
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder (eitem 5)
Croesawodd y Prif Weinidog Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion i'w chyfarfod Cabinet cyntaf a diolchodd iddynt am gytuno i wasanaethu yn ei Llywodraeth. Roedd hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru adeiladu ar y gwaith a wnaed dros y 25 mlynedd diwethaf a pharhau i gyflawni ar ran pobl Cymru ond yn awr mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU.
Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 8 Awst.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
2.1 Croesawodd y Prif Weinidog Vikki Howells AS i'w swydd Weinidogol gyntaf a chroesawodd hefyd y cynghorwyr arbennig newydd i'r Llywodraeth.
Cod y Gweinidogion
2.2 Byddai'r fersiwn gyfredol o God y Gweinidogion yn cael ei chylchredeg ar gyfer Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion yn ddiweddarach yr wythnos honno. Byddai'n bwysig i bawb ddarllen y Cod a chadarnhau'n ysgrifenedig eu bod wedi gwneud hynny.
Datblygiadau polisi dros yr haf
2.3 Roedd cyhoeddiadau polisi pwysig dros doriad yr haf yn cynnwys Llywodraeth y DU yn sicrhau cytundeb newydd a gwell gyda Tata Steel, gyda chadarnhad o grant o £500m i'r cwmni er mwyn cynorthwyo'r newid i ffwrnais drydan fwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd a daethpwyd i gytundeb cyflog gyda holl weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwmpesir gan Gyrff Adolygu Cyflogau.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet y Grid Cyfarfod Llawn a nododd, oni bai bod gwrthwynebiad i gytuno ag enwebiad y Prif Weinidog ar gyfer Cwnsler Cyffredinol, na fyddai pleidleisiau'n cael eu cynnal ddydd Mawrth. Byddai'r amser pleidleisio tua 6:25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Blaenoriaethau'r Cabinet
4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Senedd bresennol.
4.2 Drwy gydol yr haf, roedd y Prif Weinidog wedi ymgysylltu â phobl ledled Cymru i drafod eu pryderon a'r materion a oedd yn bwysig iddynt. Roedd yr adborth cadarnhaol yn cadarnhau bod y meysydd a oedd o'r pwys mwyaf i bobl yn cynnwys y GIG, yr economi, addysg, cartrefi a thrafnidiaeth.
4.3 Roedd angen sicrhau yn awr fod blaenoriaethau'r Cabinet yn adlewyrchu'n gywir yr hyn a oedd yn bwysig i bobl Cymru. Gyda llai nag 20 mis tan etholiad nesaf y Senedd a chyda'r cyd-destun ariannol heriol yn y cefndir, roedd yn hanfodol ymdrin â'r gwaith hwn gydag ymdeimlad o bwrpas, penderfyniad ac optimistiaeth. Roedd cyfle i wneud newidiadau diriaethol i fywydau pobl, gan gydweithio'n gadarnhaol â Llywodraeth newydd y DU.
4.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
5.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet ailystyried a chadarnhau'r blaenoriaethau deddfwriaethol.
5.2 Roedd cryn ystyriaeth wedi ei rhoi i Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a basiodd Gyfnod 1 ym mis Gorffennaf ac a oedd i fod i gael ystyriaeth Cyfnod 2 ar 1 Hydref. Roedd hyn yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
5.3 Roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau Senedd gytbwys o ran rhywedd ac i annog mwy o fenywod i gamu i fyd gwleidyddiaeth, ond roedd wedi dod i'r casgliad mai'r ffordd orau o sicrhau newid ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 oedd drwy ymdrin â'r mater mewn ffordd arall.
5.4 Roedd gwaith bellach yn mynd rhagddo ar ganllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol, o dan adran 30 o'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig, a oedd hefyd yn ymdrin â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ag ystod ehangach o nodweddion ac amgylchiadau. Byddai'r gwaith hwn yn cael ei gyflymu yn awr er mwyn helpu i lywio proses y pleidiau gwleidyddol o ddewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad nesaf. Nodwyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yn cwrdd â chynrychiolwyr Plaid Cymru yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw i amlinellu'r newidiadau hyn.
5.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 6: Unrhyw fater arall
6.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn Nhŷ Hywel ddydd Mawrth 24 Medi. Byddai cyfarfodydd wedi hynny yn parhau i gael eu cynnal ar ddydd Llun.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2024