Mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: adroddiad cynnydd Gorffennaf i Medi 2024
Trosolwg o’r bwrdd iechyd a’r cynnydd a wnaed o dan fesurau arbennig rhwng Gorffennaf a Medi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ar 27 Chwefror 2023, codwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig yn dilyn pryderon am effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant y sefydliad, ansawdd gwasanaethau a chamau i ad-drefnu gwasanaethau, trefniadau o ran llywodraethiant, diogelwch cleifion, trefniadau cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.
Mae pum adroddiad wedi'u cyhoeddi hyd yma, sy'n ystyried ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y sefyllfa uwchgyfeirio i fesurau arbennig. Mae'r adroddiadau yn cydnabod y gwelliannau sydd wedi'u gwneud a'r heriau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd wrth iddo roi'r prosesau a'r systemau angenrheidiol ar waith i ddod yn sefydliad cynaliadwy.
Y cefndir
I helpu'r bwrdd iechyd i gyflawni'r gwelliannau, cytunwyd ar fframwaith mesurau arbennig, gan gynnwys meini prawf isgyfeirio, gyda'r bwrdd ym mis Mai 2024. Amlinellwyd y blaenoriaethau a'r disgwyliadau ar draws chwe pharth ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024. Mae'r adroddiad hwn yn adolygu'r cynnydd o ran y blaenoriaethau hynny a chaiff ei ategu gan ddisgwyliadau cyhoeddedig Llywodraeth Cymru hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025.
Goruchwylio mesurau arbennig
Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn destun prosesau goruchwylio manwl yn rhan o'r weithdrefn uwchgyfeirio i fesurau arbennig, gan gynnwys:
- fforwm gwella mesurau arbennig chwarterol gyda'r bwrdd, a gaiff ei gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant hefyd yn bresennol
- cyfarfodydd misol rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chadeirydd y bwrdd iechyd i asesu cynnydd yn erbyn amcanion y cadeirydd
- cyfarfodydd sicrwydd iechyd i bob oedran gyda'r bwrdd iechyd, a gaiff eu cadeirio gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'u cynnal bob chwarter
- bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol, a gaiff ei gadeirio gan brif weithredwr GIG Cymru, er mwyn adolygu cynnydd o ran blaenoriaethau'r fframwaith mesurau arbennig
- cyfarfodydd rheolaidd rhwng y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i olrhain cynnydd
- cyfarfodydd Tîm Gweithredol ar y Cyd a gynhelir ddwywaith y flwyddyn
- ymweliadau rheolaidd â lleoliadau'r bwrdd iechyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Prif Weinidog
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud?
Llywodraethiant
Yn dilyn penodi amrywiaeth lawn o aelodau annibynnol, a'r cyfarwyddwr llywodraethiant, mae'r bwrdd iechyd wedi canolbwyntio ar gryfhau llywodraethiant corfforaethol ar draws y sefydliad. Mae hynny’n cynnwys:
- gweithredu'r strwythur llywodraethiant a phwyllgorau yn llawn o fis Ebrill 2024 ymlaen
- cytundeb gan y bwrdd ynghylch y cylch gorchwyl ar gyfer pob pwyllgor a grŵp cynghori; bydd y bwrdd iechyd yn parhau i'w adolygu a'i fireinio yn unol ag egwyddorion llywodraethiant da
- cyhoeddi calendr cyfarfodydd corfforaethol ar gyfer 2024 i 2025, sy'n nodi dyddiadau allweddol ar gyfer cyfarfodydd y bwrdd a phwyllgorau
- grŵp cynghori cadeiryddion pwyllgorau sydd wedi'i sefydlu i hyrwyddo gweithio ar draws pwyllgorau o ran materion yn ymwneud ag ansawdd, adnoddau, gweithgarwch neu ganlyniadau
- mae'r fframwaith perfformiad ac atebolrwydd integredig wedi'i gymeradwyo gan y bwrdd a chaiff ei ddefnyddio i dynnu sylw'r bwrdd a'i bwyllgorau at faterion a phryderon
- mae'r pwyllgor perfformiad, cyllid a llywodraethu gwybodaeth yn goruchwylio materion allweddol gan ganolbwyntio ar y manylion a rhoi sicrwydd i'r bwrdd
- mae'r fframwaith rheoli risg integredig wedi'i gymeradwyo gan y bwrdd, gan amlinellu'r cyfrifoldebau, y rolau a'r trefniadau atebolrwydd allweddol
Gwnaeth yr adolygiad o benodiadau dros dro hyd at swyddi gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 12 argymhelliad. Cyhoeddodd y bwrdd iechyd ei ymateb rheoli i'r adolygiad ym mis Tachwedd 2023. Roedd yn cynnwys cynllun gweithredu yn amlinellu sut y byddai'n mynd i'r afael â'r saith argymhelliad i'w rhoi ar waith gan y bwrdd iechyd, a oedd yn ymwneud â chryfhau prosesau mewnol a gwreiddio diwylliant o gydymffurfio a gwella.
Mae pwyllgor tâl a thelerau gwasanaeth y bwrdd iechyd yn goruchwylio'r cynllun gweithredu ac yn monitro ac yn cymeradwyo'r holl benodiadau gweithredol a'r uwch-benodiadau ac mae'n cael adroddiadau rheolaidd ar benodiadau dros dro a chydymffurfiaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad cynnydd diweddaraf i'r pwyllgor ar 19 Awst 2024. Cafodd cylch gorchwyl y pwyllgor ei ddiweddaru yn gynharach eleni yn rhan o brosesau mewnol manylach.
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd da o ran rhoi argymhellion adolygiad Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd ar waith, gyda 97% (102) o argymhellion wedi'u cyflawni. Mae gwaith ar dri cham gweithredu mewn perthynas â strwythur swyddfa ysgrifennydd y bwrdd yn parhau i fynd rhagddo. Ar hyn o bryd, cynhelir adolygiad strwythur llawn ar y sefydliad a bydd y camau gweithredu hyn yn cael eu cyflawni pan fydd y strwythur gweithredu wedi'i gadarnhau.
Ansawdd gofal
Ym mis Mai 2024, cymeradwyodd y bwrdd ddull gweithredu'r bwrdd iechyd o ran system rheoli ansawdd. Canolbwyntir yn awr ar roi'r system rheoli ansawdd ar waith, gyda'r gwasanaeth fasgwlaidd a'r gwasanaeth wroleg yn gweithredu fel y ddau fraenarwr.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cymeradwyo'r polisi pryderon integredig newydd ac wedi dechrau ei roi ar waith. Mae'n darparu fframwaith i gydnabod, ymateb, dysgu a gwella o ddigwyddiadau, cwynion ac adolygiadau marwolaethau.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn ymdrin â materion gwaddol difrifol, gan gynnwys methiannau i weithredu'r broses gwyno yn brydlon, cynnal gwaith cynllunio a chymorth strategol annigonol neu aneffeithiol, amseroldeb ymchwiliadau'r bwrdd iechyd a'r ddibyniaeth barhaus ar gofnodion papur ynghylch cleifion.
Mae hefyd yn canolbwyntio ar wella ei broses ymateb i ddigwyddiadau adroddadwy cenedlaethol, a dysgu ohonynt. Mae pob digwyddiad adroddadwy cenedlaethol yn destun adolygiad cyflym gwneud pethau'n ddiogel, a phanel dysgu cyflym (o dan arweiniad swyddog gweithredol neu ddirprwy clinigol) ac ymchwiliad pellach mewn rhai achosion.
Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi canolbwyntio ar wella ei brosesau a'i systemau wrth ymateb i gwynion. Mae wedi sefydlu proses ddiwygiedig ar gyfer ymdrin â chwynion mewn modd cyson, a'i rhoi ar waith. Ers 1 Medi 2024, mae hwb integredig newydd i ymdrin â phryderon wedi bod yn weithredol. Mae'r hwb yn helpu i driongli materion, dysgu ac amseroedd ymateb i gwynion drwy olrhain a monitro ymchwiliadau dysgu drwy grŵp goruchwylio wythnosol o dan arweiniad y weithrediaeth.
Mae'r prosesau diwygiedig hyn wedi dechrau cael effaith, gyda chanran y cwynion a gaewyd o fewn 30 o ddiwrnodau wedi codi o 33.3% ym mis Ebrill 2024 i 58.9% erbyn diwedd mis Medi 2024. Rhaid cynnal y gwelliant hwn o hyn ymlaen.
Yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2024, cafodd y tîm profiad cleifion a gofalwyr 8,793 o ymatebion i'r arolwg adborth gydag 82.76% o'r ymatebwyr yn fodlon iawn â'u profiad cyffredinol o gael gafael ar wasanaethau – dyma'r lefel boddhad uchaf sydd wedi'i chofnodi yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ar y cyfan, mae'r gyfradd boddhad cyfartalog o ran adrannau brys wedi cynyddu 4.23% ers mis Ebrill 2024, gyda'r ymatebwyr yn nodi bod eu profiad cyffredinol ym mis Awst 2024 yn 6.90, gyda sgôr o 10 yn ardderchog.
Mae enghreifftiau o welliannau sydd wedi'u cyflawni yn dilyn yr adborth yn cynnwys y canlynol:
- peiriant gwerthu bwyd wedi'i osod yn adran frys Ysbyty Gwynedd yn dilyn adborth ynghylch y gallu i gael gafael ar fwyd
- amseroedd aros yn cael eu cyhoeddi yn gyson yn Ysbyty Maelor Wrecsam
- gwell gwybodaeth i gleifion yn yr ardal aros yn Ysbyty Glan Clwyd
Yn dilyn arolygiad dirybudd o'r adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd yn gynharach eleni, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Awst 2024 ei bod yn isgyfeirio'r adran o wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol. Gwnaeth arolygwyr gydnabod bod gwelliannau wedi'u gwneud ers arolygiadau blaenorol, ond amlygwyd bod angen newidiadau pellach o hyd, a bod pobl yn aros yn rhy hir i gael triniaeth.
Perfformiad a chanlyniadau
Ers mis Chwefror 2023, mae nifer yr amseroedd aros hir i gleifion wedi lleihau ar y cam cleifion allanol ac ar y cam triniaeth. Rhwng mis Chwefror 2023 a mis Awst 2024, gwelwyd bod nifer y llwybrau cleifion orthopedig ar gyfer y cyfnod rhwng atgyfeirio cleifion a'u trin sy'n aros mwy na 104 o wythnosau wedi lleihau 49.4%, nifer y llwybrau sydd â chyfanswm arosiadau o fwy na 104 o wythnosau wedi lleihau 1.2% a nifer y llwybrau sy'n aros mwy nag wyth wythnos am eu profion diagnostig wedi lleihau 7.0% yn ystod yr un cyfnod. Mae'r perfformiad ar gyfer cleifion canser yn amrywiol o hyd. Effeithir arno gan heriau mewn gwasanaethau megis wroleg a dermatoleg.
Mae perfformiad yn erbyn y mesurau iechyd meddwl amrywiol i bobl o dan 18 oed wedi gwella, gyda 79.6% o'r asesiadau'n cael eu cwblhau o fewn 28 o ddiwrnodau ym mis Mehefin 2024 o gymharu â 57.8% ym mis Chwefror 2023, a 41.6% o ymyriadau yn dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau ym mis Mehefin 2024 o gymharu â 26.8% ym mis Chwefror 2023. Er y gwelliant hwn, mae'r perfformiad yn parhau i fod islaw'r targed o 80% ar gyfer pob un o'r mesurau hyn. Ar gyfer iechyd meddwl oedolion, mae'r perfformiad ar gyfer ymyriadau a gaiff eu cwblhau o fewn 28 o ddiwrnodau yn parhau i fod uwchlaw'r targed ar 82.4% ym mis Mehefin 2024, a gwelwyd gwelliant o ran asesiadau a gwblhawyd o fewn 28 o ddiwrnodau ar 74.7% ym mis Mehefin 2024.
Canolbwyntir ar ddileu arosiadau hir ar gyfer gofal a gynlluniwyd gydag ymrwymiad i drin pawb yn ei dro, rhoi mesurau effeithlonrwydd ar waith a gwella cynhyrchiant.
Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, y rhaglen Chwe Nod cenedlaethol a Gweithrediaeth y GIG i wella'r ddarpariaeth weithredol o wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng a diogelwch a phrofiadau cleifion. Fodd bynnag, mae'r perfformiad o ran gofal brys a gofal mewn argyfwng yn her sylweddol o hyd.
Arweinyddiaeth, gallu a diwylliant
Mae gwaith o ran diwylliant a datblygu arweinyddiaeth dosturiol yn mynd rhagddo ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd. Caiff cynnydd yn y maes hwn ei fonitro gan bwyllgor pobl a diwylliant y bwrdd iechyd. Mae gwaith ymgynghori ac ymgysylltu ynghylch fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau y bwrdd iechyd wedi'i gynnal a bydd fersiwn derfynol yn cael ei rhannu â'r bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2024. Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno fframwaith datblygu arweinyddiaeth.
Ar 3 Hydref ym Mhrifysgol Bangor, agorwyd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn swyddogol gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi, gydag 80 o fyfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau mewn meddygaeth. Bydd nifer y myfyrwyr yn codi'n raddol nes cyrraedd y nifer mwyaf ffafriol o 2029 ymlaen (sef 140 o fyfyrwyr y flwyddyn).
Mae rhaglen recriwtio uwch-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr gweithredol yn mynd rhagddi. Mae'r uwch-benodiadau a ganlyn wedi'u gwneud:
- Cyfarwyddwr Llywodraethiant Corfforaethol, Ebrill 2024
- Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd, Awst 2024
- Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd dros dro, Awst 2024
- Cyfarwyddwr Comisiynu a Pherfformio, Hydref 2024
Disgwylir i'r prosesau penodi ar gyfer y swyddi a ganlyn ddod i ben ym mis Hydref 2024:
- Cyfarwyddwr Ystadau a'r Amgylchedd
- Cyfarwyddwyr Gweithredol y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol
- Prif Swyddog Gweithredu
Mae'r bwrdd iechyd wedi adrodd am gynnydd o ran yr adolygiadau mesurau arbennig fel a ganlyn:
- adolygiad annibynnol o ddiogelwch gwasanaethau cleifion iechyd meddwl ac anableddau dysgu mewnol ac adolygiad dilynol - mae 94% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni, gyda phum cam gweithredu arall i'w cyflawni erbyn diwedd mis Mawrth 2025
- adolygiad o brosesau rheoli contractau a chaffael - mae 96% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni, gyda dau gam gweithredu arall i'w cyflawni
- adolygiad annibynnol o benodiadau dros dro i swyddi gweithredol - mae 71% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni; bydd y ddau gam gweithredu heb eu cyflawni yn rhan o'r rhaglen waith newydd o ran taith staff
- adolygiad o Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd - mae 97% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni; mae'r ddau gam gweithredu sy'n weddill yn rhan o adolygiad o strwythur Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd
- adolygiad annibynnol o Banel Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd: Rhan 1 a Rhan 2 - mae'r holl gamau gweithredu yn mynd rhagddynt heb unrhyw risgiau o ran cyflawni wedi'u hadrodd
- adolygiad annibynnol o'r pryderon a rannwyd ynghylch diogelwch cleifion - mae 79% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni; mae 10 cam gweithredu heb eu cyflawni ac yn mynd rhagddynt, sy'n gysylltiedig â rhoi'r system rheoli ansawdd ar waith
- adolygiad annibynnol o brosesau cynllunio integredig - mae 70% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni; mae'r holl gamau gweithredu sy'n weddill yn mynd rhagddynt heb unrhyw risgiau o ran cyflawni wedi'u nodi
- adolygiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion o adolygiadau iechyd meddwl - mae 15% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni, gyda 58% o'r holl gamau gweithredu yn mynd rhagddynt
- adolygiad Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr o wasanaethau llawfeddygol wroleg - mae cynnydd yn mynd rhagddo o ran y 24 o argymhellion a nodwyd
Mae'r adroddiadau a'r ymatebion rheoli cysylltiedig sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar wefan y bwrdd iechyd.
Trefniadau llywodraethiant a rheolaeth ariannol
Comisiynwyd adolygiad o brosesau rheoli contractau a chaffael gan y bwrdd iechyd a chafodd ei gynnal gan Wasanaeth Archwilio Mewnol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â'r materion a godwyd. O'r 13 o'r camau gweithredu ar gyfer y bwrdd iechyd, mae 11 wedi'u cyflawni, gyda gwaith ar y ddau gam gweithredu sy'n weddill yn mynd rhagddo.
Yn 2023 i 2024, roedd sefyllfa alldro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiffyg o £24.3 miliwn, a oedd £4.3 miliwn yn uwch na'r cyfanswm rheoli targed o £20 miliwn. Llwyddodd y bwrdd iechyd i wneud cynnydd yn ystod y flwyddyn o ran ei gynllun gwreiddiol, ond roedd yn un o dri bwrdd iechyd na chadwodd at y cyfanswm rheoli targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
O ran 2024 i 2025, nid oedd yn gallu cyflwyno cynllun tymor canolig integredig wedi'i gydbwyso'n ariannol a chyflwynodd gynllun blynyddol gyda diffyg a gynlluniwyd o £19.8 miliwn. Mae'r sefyllfa a ragwelir yn dibynnu ar y sefydliad yn cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £48 miliwn.
Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i wneud cynnydd o ran y cynllun gweithredu cyllid mesurau arbennig, a hynny gyda chymorth tîm cynllunio a chyflawni ariannol Gweithrediaeth y GIG. Mae gwelliannau a chyflawniadau yn cynnwys y canlynol:
- swydd pennaeth llywodraethiant ariannol wedi'i chreu o fewn yr adran gyllid i annog gwelliannau cynaliadwy o ran llywodraethiant ariannol
- yn sgil goruchwyliaeth ychwanegol gan grwpiau arbenigol, y tîm gweithredol a phwyllgorau'r bwrdd, mae'r amgylchedd o ran llywodraethiant ariannol wedi gwella
- mae llawlyfr ar gyfer deiliaid cyllidebau wedi'i adnewyddu'n llawn, ac mae'n rhan o raglen hyfforddi dreigl ar gyfer pob deiliad cyllideb
- mae'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda Phwyllgor Cydwasanaethau GIG Cymru ar y rhaglen hyfforddi caffael a llywodraethiant; mae dros 200 o staff wedi elwa ar sesiynau hyfforddi yn ystod y chwe mis diwethaf
- mae system "nodiadau ffeil" newydd wedi'i chyflwyno ar draws y bwrdd iechyd i ganfod unrhyw achosion o dorri gofynion caffael
- mae'r fframwaith gwerth a chynaliadwyedd yn neilltuo arweinydd gweithredol i bob categori arbedion, gyda chymorth gan dimau sy'n darparu arbenigedd clinigol, gweithredol a chyllidol
- mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn tuag at gyflawni'r gofynion arbedion a amlinellir yng nghynllun y sefydliad o ran camau gweithredu, gwerth ariannol, a hyrwyddwyr cefnogol
Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
Ni lwyddodd y bwrdd iechyd i gyflwyno cynllun tymor canolig integredig wedi'i fantoli ar gyfer 2024 i 2027, yn unol ag adran 175(2A) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014) a Fframwaith Cynllunio'r GIG. Mae wedi cyflwyno cynllun blynyddol ar gyfer 2024 i 2025.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i sefydlu a datblygu ei strategaeth gwasanaethau clinigol a'i gynllun clinigol yn ystod 2024 i 2025.
Mae adolygiad annibynnol o brosesau cynllunio integredig yn y bwrdd iechyd wedi'i gynnal. Cymeradwywyd cynllun gweithredu ac ymateb rheoli'r bwrdd iechyd i'r adolygiad gan ei bwyllgor perfformiad, cyllid a llywodraethu gwybodaeth ar 30 Ebrill 2024. Mae 70% o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni ac mae'r bwrdd iechyd yn adrodd bod yr holl gamau gweithredu sy'n weddill yn mynd rhagddynt heb unrhyw risgiau o ran cyflawni wedi'u nodi.
Cafodd proses gynllunio integredig newydd ei chymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Medi 2024, sy'n cyd-fynd yn gyfan gwbl â'r Fframwaith Cynllunio Integredig. Y bwriad oedd lansio'r broses ar draws y sefydliad ym mis Hydref 2024.
Gwasanaethau bregus
Pan roddwyd y bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, roedd bregusrwydd, ansawdd ac anghysondeb o ran darparu gwasanaethau yn bryderon gwirioneddol ar draws nifer o wasanaethau. Roedd pryderon penodol yn ymwneud ag iechyd meddwl, gwasanaethau fasgwlaidd a gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae llawer o'r heriau hyn yn parhau o hyd, er bod cynnydd wedi'i wneud mewn rhai meysydd. Mae'r gwaith sydd wedi'i gynnal ers mis Chwefror 2023 yn amlygu natur fregus llawer o wasanaethau ar draws y bwrdd iechyd.
Iechyd meddwl
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)
Mae cynlluniau gwella gwasanaethau CAMHS a gwasanaethau niwroddatblygiadol wedi'u datblygu ac mae tîm gweithredol y bwrdd iechyd wedi cytuno arnynt. Canolbwyntir ar ddatblygu model cynaliadwy.
Mae pob maes bellach yn darparu rhai oriau estynedig. Mae'r gwasanaethau yng ngorllewin y bwrdd yn cynnig gwasanaeth bob dydd, mae'r gwasanaethau yn y canol ar waith o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae'r gwasanaethau yn y dwyrain ar waith ddau ddiwrnod yr wythnos ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynyddu yn dilyn penodi rhagor o weithwyr.
Adolygiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion o adolygiadau iechyd meddwl
Yng nghyfarfod cyhoeddus y bwrdd a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024, cymeradwyodd y bwrdd iechyd gynllun yn amlinellu camau gweithredu ac amserlenni mewn ymateb i ganfyddiadau adolygiad y Coleg Brenhinol.
Ym mis Medi 2024, cadarnhaodd y bwrdd iechyd ei fod wedi penodi cynghorydd arbennig iechyd meddwl am gyfnod o 12 mis. Bydd y cynghorydd arbennig hwn yn gadeirydd annibynnol ar grŵp cynghori arbenigol a sefydlwyd gyda chynrychiolwyr teuluoedd a defnyddwyr a Llais. Mae'r grŵp newydd hwn yn elfen bwysig o drefniadau llywodraethiant a goruchwylio'r bwrdd iechyd o ran ei ymateb i adolygiad y Coleg Brenhinol.
Pwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad y bwrdd iechyd fydd y brif weithdrefn oruchwylio a bydd adroddiadau sicrwydd rheolaidd gan y cadeirydd yn cael eu defnyddio i helpu'r grŵp cynghori arbenigol a'r pwyllgor. Roedd disgwyl i'r adroddiad cynnydd cyntaf gael ei gyflwyno i'r pwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2024. Bydd y bwrdd iechyd yn darparu adroddiadau cynnydd bob chwe mis i'r bwrdd, gan ddechrau ym mis Ionawr 2025.
Gwasanaethau fasgwlaidd
Cafodd adroddiad cynnydd ar y gwelliannau sy'n cael eu cynnal yng ngwasanaethau fasgwlaidd y Gogledd ei ystyried gan y bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2024. Daeth y papur i'r casgliad bod cynnydd yn cael ei wneud erbyn hyn a bod sawl ffynhonnell asesu allanol yn ategu'r casgliad hwnnw. Fodd bynnag, mae rhagor o waith i'w wneud i barhau i wella canlyniadau a phrofiadau yn ogystal â chynaliadwyedd.
Mae sefydlogrwydd cynyddol y gwasanaeth yn galluogi'r bwrdd iechyd, ac yn benodol y gwasanaeth hwn, i ganolbwyntio mwy ar ddatblygu yn rhagweithiol ac yn barhaus yn y dyfodol. Bydd newidiadau strategol yn yr arbenigedd hwn yn parhau ledled y DU ac yn rhyngwladol, a bydd y bwrdd iechyd yn ystyried y rhain ymhellach yn ystod y misoedd nesaf.
Casgliadau
Mae'r fframwaith mesurau arbennig yn egluro ein disgwyliadau o ran y blaenoriaethau a'r cerrig milltir y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd eu cyflawni. Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd drwy ein trefniadau goruchwylio a sicrwydd, er mwyn sicrhau bod y gwelliannau gofynnol mewn perthynas â chanlyniadau, perfformiad, gwasanaethau clinigol bregus ac ansawdd a diogelwch yn cael eu cyflymu, a bod y systemau a'r strwythurau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn gynaliadwy.