Ystadegau, Dogfennu
Ystadegau gweithredol y awdurdod tân ac achub: Ebrill 2023 i Fawrth 2024
Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 96 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gweithwyr yr awdurdodau tân ac achub
- Roedd 2,211 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,2978 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2024 o gymharu â 2,215 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,293 o staff yn ôl galw ar 31 Mawrth 2023. Mae nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi gostwng am y tro cyntaf ers 2018-19; mae nifer y staff system ar ddyletswydd yn ôl galw hefyd wedi gostwng ond wedi bod yn dueddol o amrywio.
- O’r 2,211 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,492) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.
Iechyd a diogelwch
- Yn ystod 2023-24, collwyd 11.6 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn a 17.9 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
- Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân yn ôl galw 117 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.
Gweithgareddau gweithredol
- Yn ystod 2023-24 deliodd staff rheoli tân gyda bron i 71,500 o alwadau yng Nghymru, gostyngiad o 3% ar 2022‑23.
Diogelwch tân
- Yn ystod 2023-24, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 1,875 archwiliad diogelwch tân mewn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 2% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.
Diogelwch tân cymunedol
- Yn ystod 2022-23, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 45,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref; mewn 80% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.
- Yn ystod 2023-24, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub bron i 20,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Dros i 2,300 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Claire Davey
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099