Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Bu cryn ddiddordeb yn yr ymgynghoriad Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy a lansiwyd ar 21 Mehefin. Mae Cymru’n ffodus iawn o gael rhanddeiliaid gweithgar sy’n cyfrannu eu barn a’u profiadau er mwyn ein helpu i ddod o hyd i gyfleoedd i Gymru.
Rydym wedi gwrando ar ein rhanddeiliaid ac yn sgil hynny rydym wedi estyn cyfnod yr ymgynghoriad hyd at 30 Medi.
Mae’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn cael ei wneud ochr yn ochr ag ymgysylltu â rhanddeiliaid ein grŵp bord gron a sectorau unigol. Bydd yn rhoi cyfle inni gydweithio i ganfod cyfleoedd posibl i Gymru
Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i randdeiliaid ledled Cymru ddweud eu dweud am unrhyw ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen efallai ar gyfer gadael yr UE. Er ein bod yn estyn cyfnod yr ymgynghoriad, hoffwn annog pobl i ymateb yn gynnar yn hyn o beth er mwyn ein helpu i nodi cyfleoedd posibl mor gynnar â phosib.
Hoffwn ddiolch i’r rheiny sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac estyn croeso cynnes iawn i ymatebion pellach.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.