Arolwg blynyddol o oriau ac enillion: 2024
Data ar enillion cyfartalog gros bob awr, wythnosol ac yn flynyddol yn y DU i lawr at lefel awdurdod lleol ar gyfer 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a’r oriau a weithiwyd gan weithwyr ym mhob diwydiant a swydd.
Mae'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ond yn cynnwys cyflogai ac yn eithrio incwm a enillir o hunangyflogaeth, pensiynau a ffynonellau eraill.
Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Mae'r pandemig wedi arwain at nifer o gymhlethdodau sy'n ei gwneud yn anodd dehongli data enillion. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi blog yn esbonio hyn. O ganlyniad, mae’r amcangyfrifon ar gyfer 2020, 2021 a 2022 ychydig yn fwy ansicr na'r arfer.
Prif bwyntiau
Enillion wythnosol llawn amser
Roedd enillion wythnosol gros canolrifol oedolion sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn £674.5 ym mis Ebrill 2024, sef 92.6% o gyfartaledd y DU cyfan (£728.3). Enillion wythnosol gros canolrifol yng Nghymru oedd yr wythfed uchaf o'r 12 o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
Cynyddodd enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion llawn amser sy'n gweithio yng Nghymru 6.0% rhwng 2023 a 2024, o'i gymharu â chynnydd o 6.1% rhwng 2022 a 2024.
Cynyddodd y DU 6.0% rhwng 2023 a 2024. Cafodd Cymru’r pedwerydd newid canrannol uchaf ymhlith y 12 gwlad yn y DU a rhanbarthau Lloegr.
Enillion yn seiliedig ar breswylfa
Bu cynnydd o 6.4% (i £684.4) dros y flwyddyn yn enillion canolrifol gweithwyr amser llawn sy’n byw yng Nghymru. Yn 2024 roedd y lefel yn 94.0% y cant o gyfartaledd y DU.
Enillion llawn amser blynyddol
Roedd enillion blynyddol gros canolrifol ar gyfer oedolion llawn amser sy'n gweithio yng Nghymru yn £34,303 ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2024, cynnydd o 6.0% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Bwlch tâl rhyw
Mae'r gwahaniaeth tâl (llawn amser) ar gyfer rhywedd yng Nghymru yn un o'r dangosyddion lles cenedlaethol. Mae carreg filltir genedlaethol wedi'i gosod ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch cyflog. Gweler y nodiadau am ragor o wybodaeth.
Ffigur 1: Y gwahaniaeth mewn cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion fesul awr ar gyfer gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser) (£), 1997 i 2024
Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart llinell sy’n dangos bod gwahaniaeth tâl rhwng y rhywiau ar sail canolrif enillion llawn amser bob awr (heb gynnwys goramser) wedi lleihau yn raddol ers 1997.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion
Roedd y bwlch cyflog canolrifol fesul awr (heb gynnwys goramser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr llawn amser ym mis Ebrill 2024 yn 1.9% yng Nghymru ac 7.0% yn y DU. Yng Nghymru nid oedd newid yn y bwlch, ac yn y DU ehangodd 0.5 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Roedd bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob awr (heb gynnwys goramser) ar gyfer holl weithwyr ym mis Ebrill 2024 yn 8.9% yng Nghymru a 13.1% yn y DU. Yng Nghymru ehangodd y bwlch 2.6 pwynt canran, ac yn y DU roedd lleihad o 1.1 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ar gyfer gweithwyr rhan-amser mae menywod fel arfer yn ennill mwy na gwrywod, gan arwain at fwlch cyflog negyddol. Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (heb gynnwys goramser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr rhan-amser ym mis Ebrill 2024 yn -3.5% yng Nghymru, gan ehangu 0.3 pwynt canran o gymharu a’r flwyddyn flaenorol. Y bwlch ar gyfer y DU oedd -3.0%, sef yr un peth a’r flwyddyn flaenorol. Gall y bwlch cyflog rhan amser islaw lefel y DU fod yn anweddol.
Nodiadau
Esboniad am y gwahaniaeth yn amcangyfrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng gweithwyr llawn-amser a holl weithwyr
Mae amcangyfrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael ei gyfrifo fel cyfran wahaniaethol dau amcangyfrif canolrif, pwyntiau canol y data, un ar gyfer benywod ac un ar gyfer gwrywod. Mae cyfansoddiad y gweithluoedd gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn eithaf gwahanol, gyda mwy o fenywod yn gweithio rhan amser na dynion. Gan fod enillion gweithwyr rhan amser yn dueddol o fod yn llai, ar gyfartaledd, nag enillion gweithwyr llawn amser, mae hyn yn golygu bod menywod yn fwy tebygol o dderbyn cyfraddau tal is fesur awr. Y ffaith hon sy’n gymorth i egluro pam fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer holl weithwyr llawn amser a rhan amser yn fwy na’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr llawn amser yn unig.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn disodli’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd yn mis Mawrth 2016, ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (17) Y gwahaniaeth cyflog ar sail rhyw, anabledd ac ethnigrwydd
Bydd setiau data ar StatsCymru yn cael eu diweddaru yn dilyn y cyhoeddiad hwn.
Gwybodaeth bellach
I gael rhagor owybodaeth am ansawdd a methodoleg y data a ddefnyddir yn y pennawd hwn,gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Joshua Cruickshank
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099