Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau - gan gynnwys y Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol - yn helpu i gefnogi’r themâu canlynol:

  • rheoli tir ar raddfa fferm
  • gwella'r amgylchedd ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu sy'n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael, a llywio datblygiad parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd y cynllun hwn yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Hafan | Wales Rural Network

Adran A: cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn esbonio'r cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai’ch cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, darllenwch 'Sut i Wneud Cais' yn adran C, a'r llyfryn Sut i Lenwi'r Ffurflen Gais.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn dechrau ar 4 Tachwedd 2024 ac yn cau ar 17 Ionawr 2025. 

Mae cyllideb ddangosol o £1.5m wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn.

Mae Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn gynllun grant cyfalaf sydd ar gael i ffermwyr a chynhyrchwyr garddwriaethol presennol yng Nghymru. Amcanion y cynllun yw:

  • helpu i ddatblygu a sefydlu mentrau arallgyfeirio amaethyddol ar ffermydd
  • helpu i ddatblygu a sefydlu mentrau garddwriaethol masnachol

Darllenwch reolau a chanllawiau'r cynllun cyn cyflwyno cais.

Mae'r cynllun yn un dewisol. Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i'r buddsoddiad allu fynd yn ei flaen. Os caiff eich cais ei ddewis, rhaid i chi allu cwblhau a hawlio'r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2026.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B: cymhwystra

Naill ai:

  • Rydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a
  • Naill ai: Mae gennych o leiaf 3 hectar o dir amaethyddol cymwys wedi'i gofrestru gyda RPW yng Nghymru
  • Neu: Rydych yn gallu profi eich bod wedi gweithio dros 550 o oriau safonol o lafur.

Neu:

  • Rydych chi eisiau dechrau busnes garddwriaethol masnachol, ond ni allwch wneud hynny heb gymorth y grant. Cynhyrchydd garddwriaethol masnachol yw rhywun sy'n bwriadu cynhyrchu cynhyrchion garddwriaeth er mwyn eu gwerthu i'w bwyta neu eu defnyddio gan bobl, h.y. nid i ddarparu porthiant i dda byw.

Byddwn yn gwirio a oes gennych Gynllun y Taliad Sylfaenol cymwys er mwyn cadarnhau a ydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol ac a oes gennych 3 hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi cyflwyno hawliadau ar gyfer y naill neu'r llall o'r cynlluniau hyn, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch cais er mwyn cadarnhau eich bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a'ch bod yn bodloni un o'r meini prawf cymhwystra canlynol: mae gennych 3 hectar o dir amaethyddol cymwys wedi'i gofrestru gyda RPW yng Nghymru, neu rydych wedi gweithio dros 550 o oriau safonol o lafur. Os na chyflwynir y dystiolaeth ddogfennol hon erbyn y dyddiad cau am geisiadau, bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn gweithio yn y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • llaeth
  • geifr
  • garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg ac acwaponeg)
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • gwenynyddiaeth

Pa grwpiau sy'n gymwys

Gall grŵp o ffermwyr neu gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol gyflwyno cais i'r cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol. I wneud hynny, rhaid i bob ffermwr sy'n rhan o'r grŵp fodloni'r holl amodau cymhwystra uchod. 

Gall grŵp o 2 neu fwy o ffermwyr neu dyfwyr gynnwys un unigolyn neu gorff ychwanegol nad yw'n bodloni'r amodau cymhwystra uchod. Fodd bynnag, rhaid i bob ffermwr neu dyfwr sy'n rhan o grŵp fodloni'r holl amodau cymhwystra uchod. 

Yn ogystal, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bod â Chyfeirnod Cwsmer ar gyfer y grŵp. Rhaid cyflwyno'r cais o dan y Cyfeirnod Cwsmer a roddwyd i’r grŵp.

Os yw dau ddaliad amaethyddol neu fwy yn cael eu rheoli fel uned unigol, neu fod un person yn berchen arnynt, neu eu bod i ryw raddau yn cael eu rheoli ar y cyd, bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/ neu storfeydd bwydo cyffredin, gallwch eu cyfrif fel un busnes.

Nid ydych yn gymwys:

  • Os ydych yn gwsmer Ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • Os ydych yn gwsmer Coedwigaeth (gan gynnwys perchen ar goed yn unig)
  • Os ydych am ddefnyddio’r offer cyfalaf ar gyfer ei gontractio neu ei lesio.

Costau cymwys

Rhoddir y grant ar ffurf grant cyfalaf, sy'n cael ei ddyfarnu i helpu i sefydlu neu ddatblygu prosiect arallgyfeirio amaethyddol neu arddwriaethol.

Rhoddir cymorth i brosiectau sy'n bodloni'r meini prawf canlynol yn unig:

  • Datblygu mentrau da byw amaethyddol sy’n bod eisoes neu sefydlu rhai newydd, nad ydynt yn fentrau traddodiadol yng Nghymru. 

    Dyma fentrau sy’n cael eu hystyried yn rhai traddodiadol; cig eidion, defaid, godro (buchod), moch a dofednod. Ni roddir cymorth iddyn nhw, na mentrau bridiau prin neu dda byw pedigri. 

    Un enghraifft o brosiect cymwys fyddai prosiect buddsoddi cyfalaf i ddatblygu neu sefydlu menter godro defaid neu eifr.

  • Tyfu cnydau newydd neu gnydau amgen.

Un enghraifft o brosiect cymwys fyddai prosiect buddsoddi cyfalaf i ddatblygu neu sefydlu menter i dyfu planhigion at ddibenion ffibr, ynni neu feddyginiaeth. 

Byddai offer arbenigol sydd eu hangen ar gyfer sefydlu, cynaeafu a storio’r cnwd newydd yn gymwys, yn ogystal â hadau a phlanhigion. 

  • Cefnogi buddsoddiad i alluogi ffermwyr i ychwanegu gwerth at gynnyrch neu sgil-gynhyrchion amaethyddol. 

    Un enghraifft o brosiect cymwys fyddai ychwanegu gwerth drwy brosesu’r canlynol ar y fferm: bwyd, pren a gynhyrchir ar y fferm a/neu gynhyrchion coedwig nad ydynt yn goed, gwlân, cynhyrchion gwastraff neu wellt.

  • Buddsoddiadau i ddatblygu menter garddwriaethol fasnachol sy'n bodoli eisoes, neu sefydlu menter garddwriaethol fasnachol newydd.

    Un enghraifft o brosiect cymwys fyddai buddsoddiadau mewn technoleg ac offer i alluogi busnesau garddwriaethol i ehangu cynhyrchiant mewn ffordd gynaliadwy, arallgyfeirio i gnydau newydd, gwella effeithlonrwydd cynhyrchiant a gwella ansawdd y cynnyrch.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech i ni gadarnhau a yw prosiect yn gymwys cyn i chi ddatblygu cais, anfonwch eich ymholiad at AgriculturalDiversification@llyw.cymru

Mae offer ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:

  • bod yr offer yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol
  • ei fod yn addas i'r diben
  • y gellid disgwyl iddo bara pum mlynedd arall o leiaf.

Costau Anghymwys

Mae'r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad yw'n gymwys am gymorth grant. Nid yw hon yn rhestr ddiffiniol, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos.

  • buddsoddi mewn mentrau eidion, defaid, godro (buchod), moch, dofednod, neu âr traddodiadol
  • prynu da byw
  • prynu tir
  • twristiaeth neu brosiectau gweithgareddau
  • plannu coetir
  • buddsoddi i brynu eitemau i gymryd lle rhai a brynwyd gydag arian cyhoeddus, fel cymorth grant yr UE neu Lywodraeth Cymru (ar gyfer yr un busnes fferm). 
  • gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynradd cynhyrchion amaethyddol nad ydynt yn cael eu cynnal gan y cynhyrchydd cynradd, er enghraifft, gweithgareddau contractio neu lesio amaethyddol
  • prynu eitemau newydd o dan hawliad yswiriant
  • buddsoddiadau nad ydynt wedi'u lleoli ar ddaliad yr ymgeisydd
  • adeiladau neu adeiladau dros dro at ddefnydd manwerthu
  • offer a ddefnyddir at ddibenion gwerthiant manwerthu, e.e. peiriannau gwerthu
  • prynu cerbydau, gan gynnwys tractorau a llwythwyr telesgopig
  • nwyddau traul (eitemau sydd wedi’u defnyddio o fewn blwyddyn fel arfer)
  • offer a dodrefn swyddfa cyffredinol
  • costau cynnal a chadw
  • Buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy. (Ac eithrio lle mae’r ynni a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i gynnal y fenter arallgyfeirio)
  • ni fydd buddsoddiadau mewn eitemau cyfalaf sydd â chapasiti sy'n fwy na gofynion y fenter newydd e.e. prynu dril hadau a fyddai'n cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer cnydau âr confensiynol, yn gymwys

I fod yn gymwys am y cymorth grant, rhaid bod cost y buddsoddiad wedi’i thalu’n gywir a bod tystiolaeth wedi’i darparu o hynny. Felly, nid yw costau llawn unrhyw gyfarpar a sicrhawyd o dan gytundeb hurbwrcas neu les neu unrhyw fath arall o drefniant ariannol yn gymwys am gymorth grant.

Cyfradd a Throthwy Uchaf y Grant

Y grant mwyaf y gellir ei roi yw £100,000 a'r grant lleiaf yw £3,000.

Mae'r grant yn cyfrannu hyd at 40% o werth y buddsoddiadau cyfalaf (ac eithrio TAW), y gellir dangos eu bod yn cynnig manteision clir a mesuradwy i fusnesau fferm.

Bydd y grant yn cyfrannu hyd at 40% o’r gwir gostau a anfonebwyd.

Er enghraifft, rydych yn cael Llythyr Dyfarnu Grant sy'n cynnig grant tuag at fuddsoddiad gwerth £100,000. Y grant mwyaf y gellir ei gynnig yw £40,000. 

Os bydd y buddsoddiad ar ôl ei gwblhau wedi costio mwy na £100,000, cyfyngir y grant i’r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais h.y. 40% o £100,000.

Os bydd y buddsoddiad ar ôl ei gwblhau wedi costio llai na’r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais (e.e. £80,000), caiff y grant ei ostwng i £32,000 h.y. 40% o £80,000.

Er mwyn derbyn y grant llawn o £100,000, bydd angen i'r cais gynnwys buddsoddiadau gwerth £250,000 o leiaf. Er mwyn cyrraedd trothwy lleiaf y grant o £3,000, bydd angen i'ch prosiect fuddsoddi £7,500 o leiaf.

Gallwch wneud cais am swm sy'n fwy na'r grant uchaf, ac os yw'n cael ei ddewis, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gyfyngu i'r uchafswm o £100,000.

Dewis prosiectau llwyddiannus

Asesir pob achos ar sail ei werth posibl i'r economi wledig, i ba raddau y bydd y buddsoddiad yn datblygu'r busnes a'r potensial ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor.

Gofynion allweddol

Bydd y Dyfarniad Grant ar gyfer y prosiect yn para am uchafswm o 12 mis.

Ni fyddai'r Prosiect yn gallu mynd yn ei flaen heb gymorth grant.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru. Gweler Adran F am ragor o fanylion.

Rhaid sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau wedi'u cwblhau pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Rhaid sicrhau bod yr holl fuddsoddiadau ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Hefyd, rhaid i’ch cais ddangos eich bod wedi rhoi sylw i’r canlynol:

Caniatâd cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich buddsoddiad, ni chaiff unrhyw grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo cynllunio wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu. 

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect, bydd angen tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hynny.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Os oes angen cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) ar eich buddsoddiad, ni chaiff unrhyw grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo’r corff wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.

I gael trosolwg o'r hyn sydd angen cymeradwyaeth o’r fath, a chanllawiau manylach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn: Systemau draenio cynaliadwy (SuDS): canllawiau.

Os yw'r Corff Cymeradwyo lleol yn penderfynu nad oes angen iddo gymeradwyo’r prosiect, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan y corff i gadarnhau hyn. Er bod cymeradwyaeth o’r fath yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau yn ymwneud â chaniatâd cynllunio.

Er efallai na fydd angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cais adeiladu (er enghraifft, datblygiadau a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr), mae’n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo SuDS arno os yw’n effeithio ar y system ddraenio. Felly, ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd diffyg gofyniad am ganiatâd cynllunio yn dileu'r angen am gymeradwyaeth Corff Cymeradwyo.

Cydsyniadau eraill 

  • rhaid i chi sicrhau bod pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i roi yn ôl yr angen.
  • rhaid i chi sicrhau cydymffurfiaeth â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol.

Adran C: gwneud cais i’r cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol

RPW Ar-lein

Rhaid cwblhau Cais i’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol trwy ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych chi Gyfeirnod Cwsmer yn barod, dylech chi fod wedi derbyn llythyr yn cynnwys eich Cod Actifadu er mwyn sefydlu eich cyfrif. Os nad yw’r Cod gennych chi, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Dydd Llun – Dydd Iau 8:30 – 17:00, Dydd Gwener 8:30 – 16:30) gan nodi’ch Cyfeirnod Cwsmer i’r gweithredydd. Bydd yn anfon Cod Actifadu newydd atoch. 

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllaw ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau pwysig. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r cais am y cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol ar gael yn yr adran "Ceisiadau a Hawliadau" yn eich cyfrif. 

Bydd angen i asiant sy’n gweithredu ar ran cleient gofrestru fel asiant Taliadau Gwledig Cymru. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Actifadu Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru (RPW) atoch. Hefyd, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Trowch at ein canllaw ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer RPW Ar-lein, neu am gwblhau’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Bydd yn gallu darparu cyngor, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Adran D: Y broses asesu dau gam

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cystadlu yn uniongyrchol â’i gilydd. Yng Ngham 1, caiff rhannau canlynol y cais eu hasesu a’u sgorio yn ôl y meini prawf dewis:

  • ffit strategol
  • addasrwydd y buddsoddiad
  • cynaliadwyedd hirdymor
  • gwerth am arian

Bydd y ceisiadau â’r sgoriau uchaf yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod hyd nes bod y cyllid sydd ar gael yn y cylch hwnnw i gyd wedi’i ddyrannu.

Byddwch yn cael gwybod a yw’ch cais wedi’i ddewis ai peidio trwy eich cyfrif RPW ar-lein. 

Os caiff eich cais ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2 a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu er mwyn cwblhau gwerthusiad llawn o'r cais:

  • cyflawni’r prosiect
  • risg a rheoli risg 
  • themâu trawsbynciol
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • cyllid a chydymffurfiaeth

Cyflwyno cais

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno'ch cais drwy RPW Ar-lein ar gael drwy’r ddolen hon.

Dylech anfon cwestiynau am bwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun i: AgriculturalDiversification@gov.wales

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi’i lenwi’n gywir a bod y wybodaeth a roddir i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl i’r gwerthusiad.

Fel rhan o’r cais, bydd yn ofynnol i chi ddatgan, ar gyfer pob eitem cyfalaf, pa rai o'r meini prawf canlynol y mae’r eitem yn eu bodloni:

  • datblygu menter da byw annhraddodiadol sy'n bodoli eisoes
  • sefydlu menter da byw annhraddodiadol newydd
  • datblygu menter cnydau newydd neu amgen sy'n bodoli eisoes
  • sefydlu menter cnydau newydd neu amgen newydd
  • datblygu menter sy'n bodoli eisoes, gan ychwanegu gwerth at gynnyrch neu sgil-gynnyrch amaethyddol - Prosesu bwyd
  • datblygu menter sy'n bodoli eisoes, gan ychwanegu gwerth at gynnyrch neu sgil-gynnyrch amaethyddol - Prosesu pren a gynhyrchir ar y fferm a/neu gynhyrchion coedwig nad ydynt yn goed
  • datblygu menter sy'n bodoli eisoes, gan ychwanegu gwerth at gynnyrch neu sgil-gynnyrch amaethyddol - Prosesu cynnyrch gwastraff amaethyddol
  • datblygu menter arallgyfeirio amaethyddol arall
  • sefydlu menter newydd, gan ychwanegu gwerth at gynnyrch neu sgil-gynnyrch amaethyddol - Prosesu bwyd
  • sefydlu menter newydd, gan ychwanegu gwerth at gynnyrch neu sgil-gynnyrch amaethyddol - Prosesu pren a gynhyrchir ar y fferm a/neu gynhyrchion coedwig nad ydynt yn cynnwys coed
  • sefydlu menter newydd, gan ychwanegu gwerth at gynnyrch neu sgil-gynnyrch amaethyddol - Prosesu cynnyrch gwastraff amaethyddol
  • sefydlu menter arallgyfeirio amaethyddol arall
  • datblygu menter arddwriaethol fasnachol sy'n bodoli eisoes.
  • sefydlu menter arddwriaethol fasnachol newydd

Mae’r cynlluniau a’r dogfennau y mae’n rhaid i chi eu cwblhau a’u cyflwyno yn cynnwys y canlynol:

  • cais ar-lein
  • cynllun busnes (gweler y gofynion isod)
  • 3 blynedd o gyfrifon ardystiedig. (Os nad oes cyfrifon ardystiedig ar gael ar gyfer y cyfnod ariannol diweddaraf, dylid cyflwyno cyfrifon rheoli ar gyfer y cyfnod hwn.)
  • rhagolygon ariannol 3 blynedd (Dylai'r rhagolygon ariannol gynnwys y buddsoddiad rydych chi’n gwneud cais amdano.)
  • tystiolaeth o'r arian sydd ar gael. (Benthyciad gan y banc, gorddrafft, ac ati.)
  • 3 dyfynbris ar gyfer pob eitem sy’n rhan o’r buddsoddiad. (Dim ond un dyfynbris sydd ei angen ar gyfer eitemau sy'n costio llai na £5,000.)
  • caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), os yw ar gael. Os nad oes gennych ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth SuDS, ond bod eu hangen arnoch er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiect, bydd angen tystiolaeth o gynllunio a chymeradwyaeth SuDS cyn y gellir prosesu unrhyw gais am grant

Os ydych yn sefydlu menter arddwriaethol newydd fel busnes annibynnol, ni fydd cyfrifon ardystiedig na chyfrifon rheoli ar gael.

Byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn atgoffa am geisiadau drafft trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Gofynion y cynllun busnes

Dylai’r cynllun busnes ddarparu amlinelliad cyfannol o’ch busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:

  • manylion y busnes
  • gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a’r system amaethu.
  • perfformiad ariannol diweddar. (Gan gyfeirio at gyfrifon ardystiedig / rheoli)
  • perfformiad ffisegol ac ariannol diweddar y fenter arallgyfeirio / garddwriaeth. (os yw'n berthnasol)
  • amcanion a chynigion buddsoddi ar gyfer y dyfodol.
  • gwerthuso ystyriaethau ac opsiynau’r cynnig ar gyfer y busnes a buddsoddi yn y dyfodol.

Ar gyfer menter newydd sy’n gweithredu mewn busnes amaeth ehangach, dylai’r cynllun ymdrin â'r busnes cyfan ac egluro sut mae’r fenter newydd a'r mentrau amaethyddol/garddwriaethol ehangach yn ategu ei gilydd.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais a’r HOLL ddogfennau ategol. Gallwch ddarparu tystiolaeth a dogfennau eraill yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Cam 1 – Asesiad ar gyfer Dewis

Ar gyfer arfarniad cam 1 o'r cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol, caiff pob cais ei asesu yn ôl set o feini prawf a’i sgorio gan ddefnyddio graddfa 0 i 4, a lluosir y sgôr hon wedyn â’r ffactor pwysoli i roi sgôr derfynol.

Caiff y ceisiadau eu rhoi yn nhrefn eu teilyngdod. Bydd y ceisiadau yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod nes bod y cyllid sydd ar gael wedi’i ddyrannu. Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith y bydd pob cais yn cael ei ddewis ar gyfer cam 2 y broses.

Mae'r meini prawf ar gyfer dewis wedi'u nodi isod.

Meini prawf 
Adran Cynllun y Busnes/Prosiect i’w asesu SgôrFfactor pwysoli
Ffit Strategol0 - 4x 4
Addasrwydd y buddsoddiad0 - 4x 5
Cynaliadwyedd hirdymor0 - 4x 2
Gwerth am arian0 - 4x 3

Ni chaiff unrhyw gais fynd yn ei flaen os nad yw'n cael sgôr o 30 o leiaf, sef y trothwy ansawdd.

Bydd sgôr o 1 neu 0 (sero) mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried yng ngham 2 y broses.

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r esboniadau y byddwn wedi’u cael.

Bydd sgôr uwch yn cael ei rhoi am esboniadau llawn, gydag enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig a sut y rheolir y gweithgareddau hynny.

Rhoddir sgôr is am esboniadau sydd fawr gwell na datganiad syml o fwriad, er enghraifft “byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd gydol y prosiect”.

Cwestiynau a meini prawf asesu ar gyfer ceisiadau Cam 1:

Ffit Strategol

Er mwyn i brosiect fodloni gofynion Ffit Strategol y cynllun, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut bydd y buddsoddiad sydd mewn golwg yn cyfrannu at nodau ac amcanion strategol y cynllun a dangos pam mae angen y buddsoddiad. 

Bydd ymgeiswyr yn cael sgôr uwch os ydyn nhw'n gallu dangos cysylltiadau clir rhwng y buddsoddiad a'r amcanion strategol, ac os ydynt yn cynnwys gwybodaeth am sut penderfynwyd ar y flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi.

Sgôr    

4    Rhoddir esboniad clir a thystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun. Rhoddir disgrifiad llawn a chynhwysfawr o'r prosiect.  
3    Rhoddir tystiolaeth gref sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun. Rhoddir disgrifiad llawn o'r prosiect.  
2    Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun. Rhoddir disgrifiad o’r prosiect.
1    Nid yw’r dystiolaeth sy'n cael ei darparu yn dangos yn llawn sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun. Ceir bylchau yn y disgrifiad o’r prosiect.
0    Nid oes unrhyw dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn bodloni amcanion y cynllun.

Addasrwydd y buddsoddiad 

Mae defnyddio adnoddau yn effeithlon yn hollbwysig er mwyn helpu i sicrhau economi Lesiant, yn ogystal â lleihau allyriadau. Er mwyn i brosiect allu bodloni'r meini prawf hyn, gofynnir i ymgeiswyr ddangos sut bydd eu buddsoddiad arfaethedig yn helpu'r busnes i dyfu'n gynaliadwy a, lle bo'n briodol, egluro sut bydd y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan gynnwys gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer, gwneud gwell defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.

Sgôr     

4    Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae tystiolaeth yn dangos bod y buddsoddiad yn gwella’r defnydd o faethynnau, yn lleihau allyriadau ac yn gwella ecosystem y fferm.
3    Mae tystiolaeth gadarn yn cael ei darparu sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.
2    Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn darparu manylion cyfyngedig o sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn cyfrannu ychydig at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.
1    Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r cais yn nodi sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Nid yw’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau neu wella ecosystem y fferm.
0    Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.

Cynaliadwyedd hirdymor

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n dod â manteision a sicrwydd ariannol hirdymor i’r busnes. Bydd ceisiadau sy’n dangos y daw manteision cyson i’r busnes ac sy’n creu cyfleoedd gwaith – swyddi cyflog ychwanegol a diogelu swyddi presennol – yn sgorio’n uchel. Hefyd, gallai buddsoddiadau ddiogelu’r busnes at y dyfodol, gan sicrhau bod gweithgarwch yn gallu parhau mewn ymateb i bwysau’r farchnad neu bwysau amgylcheddol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol. 

Bydd prosiectau sy’n sbarduno rhagor o fuddsoddiadau, e.e. datblygu seilwaith i hwyluso rhagor o gynhyrchu sy’n arwain at gynhyrchion uwch eu gwerth, yn cael sgôr uwch. Os yw buddsoddiad yn rhan o gynllun buddsoddi fesul cam, mae angen nodi hynny.

Sgôr

4    Rhoddir esboniad clir, sy’n cynnwys tystiolaeth, o sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn dod â manteision a sicrwydd ariannol hirdymor i’r busnes.

Mae’r buddsoddiad yn creu swyddi ychwanegol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes yn y tymor byr.
3    Rhoddir tystiolaeth gref sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn dod â manteision a sicrwydd ariannol hirdymor i’r busnes. Mae swyddi presennol yn cael ei diogelu. Mae'r ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes yn y tymor canolig.
2    Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn dod â manteision a sicrwydd ariannol hirdymor i’r busnes. Ceir rhywfaint o dystiolaeth i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad posibl yn y busnes yn yr hirdymor.
1    Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad sydd mewn golwg yn dod â manteision a sicrwydd ariannol hirdymor i’r busnes yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r prosiect yn creu unrhyw swyddi newydd ac nid yw’n diogelu swyddi presennol. Nid yw’r ymgeisydd wedi dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes.
0    Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu i ddangos bod y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes.

Gwerth am arian

Mae angen i brosiectau ddangos eu bod yn rhoi gwerth am arian. Bydd prosiectau yn cael sgôr ar sail yr effaith a ragwelir ar broffidioldeb o fewn tair blynedd i gwblhau'r prosiect. 

Gallai hynny fod o ganlyniad i gynnydd yn yr allbwn a’r trosiant, gan arwain at fwy o elw, neu o ganlyniad i brosesau cynhyrchu mwy effeithlon sy'n arwain at fwy o elw er bod y trosiant a’r allbwn yn aros yr un fath.

Bydd yr asesiad o’r gwerth am arian yn seiliedig ar y cynnydd a ragwelir mewn proffidioldeb o fewn tair blynedd i gwblhau’r prosiect (a), wedi’i rannu â gwerth y grant y gofynnwyd amdano (b).

Er enghraifft, 5.0 fyddai gwerth (a/b) prosiect sy’n rhagweld cynnydd blynyddol yn ei elw o £100,000 o fewn tair blynedd i gwblhau’r prosiect ac sy’n gofyn am grant o £20,000. Gwerth (a/b) o 1.25 fyddai gan brosiect sy’n rhagweld cynnydd yn ei elw o £50,000 o fewn tair blynedd i gwblhau’r prosiect ac sy’n gofyn am grant o £40,000.

Bydd gwerthoedd (a/b) holl brosiectau’r cyfnod yn arwain at ddyrannu sgôr fel y dangosir isod:

Sgôr

4    Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) 1.6 neu fwy
3    Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 1.1 a 1.5
2    Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 0.5 a 1.0
1    Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 0.1 a 0.4    
0    Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) llai na 0

Mae tri chanlyniad posibl i gam 1 yr asesiad:

  1. Ni fydd eich cais yn gymwys am grant.
  2. Nid yw eich cais wedi’i ddewis ar gyfer ail gam y broses ymgeisio.
  3. Mae’ch cais wedi llwyddo yn y cam cyntaf a chaiff fynd yn ei flaen i’r arfarniad llawn.

Os nad ydych yn cael eich dewis, ond bod eich cais yn bodloni’r trothwy sylfaenol, byddwn yn eich hysbysu trwy eich cyfrif RPW ar-lein nad ydych wedi cael eich dewis ond y bydd eich cais yn cael ei gadw wrth gefn.

Cais sy’n llwyddiannus yng Ngham 1

Os caiff eich cais ei ddewis, byddwch yn cael gwybod trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Os nad ydych am i’ch cais fynd ei flaen i Gam 2 i gael ei arfarnu, rhaid ichi gadarnhau hynny’n ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru trwy’ch cyfrif ar-lein o fewn 7 niwrnod ar ôl dyddiad rhoi’r llythyr dewis. Os byddwch wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru nad ydych am i’r cais fynd yn ei flaen i Gam 2, caiff eich cais ei dynnu’n ôl.

Os ydych yn hapus eich bod wedi’ch dewis, ni fydd angen ichi wneud unrhyw beth arall a bydd eich cais yn mynd yn ei flaen yn awtomatig i Gam 2 y broses gloriannu.

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu eich bod wedi’ch dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni chewch ddechrau unrhyw waith nes eich bod yn cael cynnig Llythyr Dyfarnu Grant drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei ystyried am gymorth.

Os na fydd eich cais wedi bodloni meini prawf y cynllun neu os na chaiff ei ddewis, byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch cyfrif ar-lein. 

Cam 2 – Arfarniad llawn o’r cais ar ôl ei ddewis

Os caiff ei ddewis, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i Gam 2, a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau’r broses o arfarnu’r cais ac ystyried y cynnig grant:

  • cyflawni’r prosiect
  • risg a rheoli risg
  • ariannol a chydymffurfio
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • themâu trawsbynciol

Dyma’r dangosyddion a’r canlyniadau a fydd yn cael eu monitro o ganlyniad i’r buddsoddiad:

  1. Nifer y busnesau a gefnogir
  2. Nifer y busnesau newydd a fydd yn cael eu sefydlu 
  3. Nifer y swyddi sy’n cael eu creu
  4. Nifer y swyddi sy’n cael eu diogelu
  5. Arwynebedd o gnydau garddwriaethol awyr agored sy'n cael eu tyfu (Nodwch y cnwd)
  6. Arwynebedd o gnydau garddwriaethol dan do sy'n cael eu tyfu (Nodwch y cnwd)
  7. Gwerth cilowat cynhyrchiant ynni adnewyddadwy sydd wedi'i osod (Nodwch y dechnoleg adnewyddadwy)
  8. Cyfaint y capasiti casglu dŵr glaw sydd wedi’i osod
  9. Arwynebedd o gnydau amgen ychwanegol sy'n cael eu tyfu (Nodwch y cnwd)
  10. Unedau da byw ychwanegol menter da byw amgen (Nodwch y da byw)
  11. Arwynebedd o goetir a ddefnyddir er budd economaidd yn dilyn buddsoddiad
  12. Cyfaint y sgil-gynnyrch amaethyddol sy'n cael ei brosesu (Nodwch y sgil-gynnyrch)
  13. Cyfaint y cynnyrch gwastraff amaethyddol sy'n cael ei brosesu (Nodwch y cynnyrch gwastraff)
  14. Gwerth y bwyd Cymreig sy'n cael ei brosesu
  15. Nifer y cadwyni cyflenwi bwyd Cymreig sy'n cael eu sefydlu.

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i chi egluro sut bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Caiff y cais ei arfarnu yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau cymhwystra. Bydd yn destun gwiriadau diwydrwydd dyladwy (os oes angen), arfarnu a chymhwystra llawn, a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu wrthod y cais. Nid oes sicrwydd y caiff cynnig am brosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Byddwn yn ceisio cwblhau arfarniad y cais o fewn 90 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgeisio. Efallai y bydd angen mwy o amser i arfarnu cais cymhleth. Os ydych yn araf yn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth, bydd yn cymryd mwy o amser i ni gwblhau arfarniad o’ch cais.

Sgorio Asesiadau Cam 2

Ar gyfer yr arfarniad Cam 2, bydd yr wybodaeth sy’n cael ei darparu yn y 5 adran arall yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol a fydd yn llywio’r penderfyniad i roi cymorth grant i’r prosiect ai peidio:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o bosibl o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani.

Y trothwy ansawdd yw sgôr Canolig ym mhob un o’r naw categori. Os nad yw’r cais yn bodloni’r gofyniad hwn, mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu rhagor o wybodaeth. Os nad oes modd sicrhau sgôr Canolig, bydd y prosiect yn cael ei wrthod.

Os oes angen gofyn i chi am ragor o wybodaeth, gallai hynny arafu arfarniad y cais, felly rydym yn argymell eich bod yn dilyn y canllawiau yn ofalus er mwyn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani. 

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad Cam 2:

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo am ddyfarniad grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais ar gyfer yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau unrhyw waith ar y prosiect.
  2. Mae eich prosiect yn gymwys ac mae’n cael ei gymeradwyo am ddyfarniad grant. Byddwch yn derbyn Llythyr Dyfarnu Grant trwy eich cyfrif RPW Ar-lein sy'n nodi telerau ac amodau'r dyfarniad a gofynnir i chi eu derbyn fel cytundeb eich bod yn derbyn y telerau ac amodau. Hefyd, bydd y Llythyr Dyfarnu Grant yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau'r gwaith. Mae'n rhaid i chi dderbyn neu wrthod y Dyfarniad Grant o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y Dyfarniad Grant o fewn 30 niwrnod, caiff y Dyfarniad Grant ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y grant.

Os ydych chi’n penderfynu tynnu yn ôl o’r Dyfarniad Grant cyn cwblhau’r prosiect, neu os nad ydych yn prynu’r holl eitemau a gymeradwywyd yn eich Llythyr Dyfarnu Grant, ni fyddwch yn gallu gwneud cais i’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn y cylch nesaf, ac mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi.

Gallwch dynnu eich cais yn ôl unrhyw bryd cyn derbyn Llythyr Dyfarnu Grant, ac ni fydd hynny yn effeithio ar unrhyw geisiadau a wnewch yn y dyfodol i’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol.

Yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Adran E: amodau’r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol (gweler Adran L). Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth hon.

Mae’r cynnig o grant Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich Llythyr Dyfarnu Grant, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd cyfnod y Dyfarniad Grant yn dechrau ar ddyddiad cyhoeddi’r llythyr. Gallai methu â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Mae’r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu eich cynrychiolwyr yn y ffurflen gais, y ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth ddilynol. Mae'n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol. 

Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid eich bod wedi prynu'r offer a chysylltu ag RPW trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn y Llythyr Dyfarnu Grant. Os nad ydych wedi cysylltu ag RPW erbyn y dyddiad hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei wrthod yn awtomatig.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru'r rheolau a'r amodau er mwyn ystyried newidiadau i ofynion deddfwriaethol y DU, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir ac â chyfraith y DU.

Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rydych yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw newidiadau yn dilyn hysbysiad gan Weinidogion Cymru.

Ni chewch waredu, trosglwyddo neu werthu offer a brynwyd gyda chymorth grant yn ystod y prosiect ac am bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y Llythyr Dyfarnu Grant heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.

Rhaid i chi ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Mae’r manylion rydych wedi’u rhoi yn y ceisiadau ac mewn unrhyw ddogfennau ategol yn wir, yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru, nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru, yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi yn unig sy’n gyfrifol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yng nghanllawiau’r Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen Hawlio Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sy’n angenrheidiol o dan y cynllun.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi’u clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Rydych yn ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau mewn perthynas â sicrhau caniatâd cynllunio, yn ôl yr angen.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw eitemau sydd wedi’u cynnwys yn y cais yn cymryd lle eitemau dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi roi cadarnhad nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall. Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf pum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect. 

Rhaid i chi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu’r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau, sy’n berthnasol yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr, fynd ar y tir a'i archwilio, ac archwilio unrhyw offer perthnasol. Ar gais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect. 

Mae gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu gwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r modd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol, a'ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F: caffael a thendro cystadleuol

Rhaid i chi ddilyn canllawiau a gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol. Mae canllawiau ar gael trwy’r ddolen ganlynol Grantiau gwledig: canllawiau tendro cystadleuol

Adran G: taliadau

Hawliadau

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein i wneud cais i’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol. Bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl dilysu'ch hawliad yn llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Gallwch gyflwyno mwy nag un hawliad, ond rhaid i bob hawliad fod ar gyfer eitem gyfan. Er enghraifft, os ydych wedi derbyn Llythyr Dyfarnu Grant i brynu dwy eitem, cyfarpar casglu dŵr a pheiriant casglu, gallwch gyflwyno hawliadau ar wahân ar gyfer y ddwy eitem, ond ni allwch gyflwyno hawliad ar gyfer rhan o gost un eitem.

Er mwyn derbyn taliadau'r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol, rhaid i chi:

  • fod wedi derbyn Dyfarniad Grant y Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y cynnig, a chydymffurfio â'r holl ofynion
  • sicrhau nad ydych wedi prynu’r eitemau a restrir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant nes r ôl i chi gael cynnig dyfarniad grant
  • sicrhau eich bod wedi prynu'r holl eitemau a restrir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant cyn 31 Mawrth 2026
  • sicrhau bod yr holl eitemau yn cael eu prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru
  • sicrhau bod yr holl eitemau rydych wedi'u prynu ar y safle adeg cyflwyno’ch hawliad
  • cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio - 31 Mawrth 2026. Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i'ch atgoffa am unrhyw hawliadau nad ydynt wedi'u gwneud trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau
  • cyflwyno anfonebau ar gyfer pob eitem yn yr hawliad
  • cyflwyno tystiolaeth o wariant ar gyfer pob eitem yn yr hawliad
  • cyflwyno ffotograffau â geotag o'r eitemau ar eich safle 
  • cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS os oes angen

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys os nad yw wedi’i gyflwyno trwy’r dudalen Hawlio Grantiau a hyd nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi’u cyflwyno.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad, ond rhaid i chi ei gyflwyno cyn y dyddiad cau.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir rhoi estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer hawlio a rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig am estyniad drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn gynted â phosib cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio

Dogfennau ategol

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'r canlynol gyda'ch hawliad:

  • tystiolaeth bod y gwariant wedi cael ei wneud ar gyfer pob eitem yn yr hawliad
  • anfonebau ar gyfer pob eitem yn yr hawliad
  • ffotograffau â geotag o'r eitemau ar eich safle.

Heb dystiolaeth, bydd yr hawliad yn cael ei wrthod.

Rhowch y gair ‘anfoneb’ yn glir ar bob anfoneb a rhaid iddi gynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich cwmni
  • enw a chyfeiriad y cwmni sy'n eich anfonebu
  • disgrifiad clir o'r hyn y codir tâl arnoch amdano
  • dyddiad darparu'r nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm/symiau a godir
  • swm TAW os yw'n berthnasol
  • y cyfanswm sy'n ddyledus 

Mae angen cynnwys cyfriflenni banc fel prawf o daliadau. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyfateb i werth yr anfoneb (er enghraifft, os ydych wedi prynu eitemau gan yr un cyflenwr nad ydynt yn ymwneud â'r prosiect) bydd angen dadansoddiad o'r taliad cyfan gydag anfonebau ategol. 

Os ydych yn talu â siec, bydd angen sgan neu ffotograff o'r siec ysgrifenedig, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, yn ogystal â'r gyfriflen banc. 

Mae ffotograff â geotag yn cynnwys gwybodaeth am y lleoliad o fewn data'r ffotograff. Bydd y rhan fwyaf o ffonau symudol sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a chamera yn cofnodi'r cyfesurynnau GPS yn awtomatig. Byddan nhw hefyd yn cofnodi dyddiad ac amser tynnu'r ffotograff.

Bydd canllawiau manwl ar y ffotograffau â geotag sydd eu hangen a sut i’w cyflwyno i'r cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn ystod y cam hawlio. 

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a'r dystiolaeth o daliadau trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Cam-hawlio a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys, a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Mae'n rhaid bod yr holl eitemau a gymeradwywyd wedi cael eu prynu ar ôl cynnig y Llythyr Dyfarnu Grant. 

Byddwch yn cam-hawlio yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych wedi prynu eitemau buddsoddi cyn cynnig y Llythyr Dyfarnu Grant
  • nid ydych wedi prynu'r holl eitemau a restrir yn y Llythyr Dyfarnu Grant
  • rydych wedi prynu eitemau nad ydynt wedi'u cynnwys yn eich Llythyr Dyfarnu Grant
  • nid ydych wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad
  • nid yw'r holl eitemau rydych wedi'u hawlio yn bresennol ar eich daliad yn ystod ymweliad â'ch safle

Rhaid i chi hawlio am yr holl eitemau a restrir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant.

Os nad ydych wedi hawlio pob eitem, bydd y dyfarniad grant yn cael ei derfynu a gellir adennill unrhyw daliadau sydd wedi cael eu gwneud. 

Os penderfynir bod swm yr eitemau anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys, caiff swm sy’n gyfwerth â’r eitemau anghymwys ei dynnu o’ch taliad.

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i gymhwystra cyn i chi ysgwyddo’r costau.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae'r Rheoliad hwnnw a'r troseddau hynny yn berthnasol i'r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n ddi-hid, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (gan gynnwys Newidiadau mewn Dehongli)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro, a bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i reolau'r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i Reolau'r Cynllun neu'r Llythyr Dyfarnu Grant

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich Llythyr Dyfarnu Grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I: mesurau rheoli, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau'r cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn gwneud y taliad i chi neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn y taliad.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno'r cais a'r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a'r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau nad yw ymweliadau'n tarfu arnoch yn ormodol, ond mae angen ymweliadau dirybudd ar gyfer rhai gwiriadau, sy'n golygu na fydd modd rhoi rhybudd i chi o bosibl. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau a brynwyd yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwn.

Bydd ymweliadau â safleoedd yn cael eu cynnal ar gyfer canran o’r prosiectau a gymeradwywyd ar ôl cwblhau’r prosiect (Dyddiad Cwblhau Prosiect) er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn parhau i fod yn berchen ar yr offer a brynwyd gyda’r grant, ac yn ei ddefnyddio, a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Un o ofynion y dyfarniad grant yw bod angen cadw’r offer a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu Grant. Gwneir hyn er mwyn sicrhau hirhoedledd y prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Hefyd, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • Darparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich Llythyr Dyfarnu Grant ar gyfer y Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â'ch Llythyr Dyfarnu Grant ar gyfer y Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid. Caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod o'r fath i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran J: gweithdrefn apelio a chwyno

Y weithdrefn apelio 

(i) Cyn y Dyfarniad Grant

(a) Cam 1 – Asesiad ar gyfer Dewis  

Nid oes unrhyw sail i apelio yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â Cham 1 - Asesiad ar gyfer Dewis.

(b) Asesiad Cam 2 

Gallwch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad sydd wedi cael ei wneud yn ystod Asesiad Cam 2. Rhaid i chi gyflwyno’ch gwrthwynebiad, gan gynnwys tystiolaeth ategol, o fewn 60 diwrnod i dderbyn y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych chi am ei adolygu. Dylech wneud hyn yn ysgrifenedig trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Bydd y swyddogion yn adolygu'ch gwrthwynebiad ac yn gwneud penderfyniad terfynol, a byddwch chi'n cael gwybod am y penderfyniad hwnnw a’u rhesymau. 

(ii) Ar ôl Cynnig y Contract/Dyfarniad Grant

Mae apeliadau yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru unwaith y bydd Llythyr Dyfarnu Grant wedi'i gynnig yn cael eu hystyried o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’. Mae’r broses hon yn caniatáu i chi ofyn am adolygiad os ydych yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Ni chodir tâl ar gyfer Cam 1 o'r broses, ond codir tâl yng Ngham 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Mae'r taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os yw'r apêl Cam 2 yn rhannol lwyddiannus neu’n gwbl lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth ategol, ddod i law o fewn 60 diwrnod ai ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg, a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg os mai Cymraeg yw eich dewis iaith. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw

Y weithdrefn gwyno 

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

Cyfeiriad e-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran K: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu'ch cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu’ch cais am gyllid grant. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael. 

Bydd cofnod o unrhyw risg sy’n gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a gallai hyn olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwystra, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath, efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a'r cynlluniau y talwyd cymhorthdal ar eu cyfer. Fodd bynnag, ni chyhoeddir enwau pobl sy'n derbyn llai na'r hyn sy'n cyfateb i £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd ar gael am ddwy flynedd o'r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data 
  • (o dan amgylchiadau penodol) i ofyn am ‘ddileu’ eich data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU

Adran L: deddfwriaeth

Mae’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth, ac maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amgylcheddol yn cael ei lywodraethu gan Gyfraith a Gymhathwyd (a elwid gynt yn Gyfraith yr UE a Ddargedwir) sef Rheoliadau’r Cyngor Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 a 807/2014 (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd).

Mae'r Gyfraith a Gymhathwyd yn cael ei gweithredu yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • Gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol.
  • Cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • Gwrthsefyll effeithiau'r hinsawdd.
  • Sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.

Yn ogystal, mae’r Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn cynnwys tri amcan trawsbynciol:

  • lliniaru'r newid yn yr hinsawdd ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd
  • arloesi
  • yr Amgylchedd

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn. 

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • techu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau ar gyfer y Cynllun Garddwriaeth ac Arallgyfeirio Amaethyddol yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd y gweithgareddau yn berthnasol i o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

(1)   Meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig.

(2)   Gwella hyfywedd ffermydd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math ym mhob rhanbarth, a hyrwyddo technolegau ffermio arloesol a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.

(3)   Hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth.

(4)   Adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth.

(5)   Hyrwyddo defnydd effeithlon o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.

(6)   Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymorthdaliadau

1.    Mae cymorthdaliadau sy'n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan Baragraff 11: cymorth addasu strwythurol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.

2.    O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran M: cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid 

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn eich barn chi yn darparu ar eu cyfer, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sydd â diddordeb mewn amaethyddiaeth ac yng nghefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym yn eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. I gofrestru, ewch i Hysbysiadau | LLYW.CYMRU neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad) | LLYW.CYMRU