Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gweinidogol

Gydag ymdeimlad dwys o gyfrifoldeb rydym yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y Cynllun) ar ei newydd wedd. Mae’r Cynllun yn adlewyrchu ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas gynhwysol a theg i’n holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gosod sylfeini cadarn dros newid systemig. Mae’r Cynllun hwn, sydd wedi’i ddiweddaru ac wedi’i adnewyddu, yn parhau i flaenoriaethu profiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol, gan gyfuno dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau â bod yn agored ac yn dryloyw. Mae’r Cynllun hwn ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar gyflawni. Dim ond pan fydd pobl ethnig leiafrifol yn gweld ac yn teimlo’r newid yr ydym yn ymdrechu i’w sicrhau y byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo.

Mae’r Cynllun hwn ar ei newydd wedd yn pwysleisio’r newidiadau sydd eu hangen i gyflawni ein hymrwymiad i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Mae ein hymrwymiad Gweinidogol mor gadarn ag erioed, a chyda diddordeb rhyngwladol cynyddol yn ein gwaith, rydym yn cydnabod maint yr her. Gan ddefnyddio adborth ein rhanddeiliaid a gwersi a ddysgwyd o’r cam cyntaf o roi’r Cynllun ar waith, rydym wedi rhoi ffocws newydd i’n hymdrechion mewn meysydd cyflawni allweddol.

Mae sefydlu’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r uned wedi gweithio gydag aelodau o’r Grŵp Atebolrwydd Allanol i greu fframwaith i fesur effaith y Cynllun. Mae ein Grŵp Atebolrwydd Allanol a phobl ethnig leiafrifol wedi nodi’n glir mai’r hyn y maent am ei weld yw gwelliant mesuradwy ym mywydau pobl ethnig leiafrifol ledled Cymru.

Hefyd, er bod penodau eraill wedi cael eu hadnewyddu, mae’r bennod ar Arweinyddiaeth wedi cael ei hailysgrifennu a’i chryfhau er mwyn cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth i sbarduno ac ymgorffori newid diwylliannol.

Mae’r Cynllun hwn ar ei newydd wedd yn cynnwys rhai camau gweithredu a therfynau amser newydd, a rolau ychwanegol i bartneriaid arwain a chyflawni; mae hyn yn ymateb i argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i’r ffordd y mae’r Cynllun wedi cael ei roi ar waith.

Wrth inni symud ymlaen, mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar gyfleoedd i gydweithio, yn fewnol a hefyd â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith ar y cyd a wnaed hyd yma, er enghraifft gyda’r heddluoedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Mae’n rhaid inni barhau â dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau er mwyn cynnal ein hymrwymiad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, strategaeth Cymraeg 2050, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Hawliau Dynol 1998, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil a Deddf Cydraddoldeb 2010. Dim ond os bydd sefydliadau ac unigolion ym mhob rhan o Gymru yn cydweithio â phobl ethnig leiafrifol i wrando, ymateb, a mynd ati’n rhagweithiol i gyflawni uchelgeisiau’r Cynllun hwn y bydd yn llwyddo.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r broses o roi’r Cynllun hwn ar waith. Mae eich ymroddiad, eich brwdfrydedd, a’ch gwaith caled wedi bod yn hollbwysig i sbarduno’r mentrau hyn. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i weithio tuag at ddyfodol lle y gall unigolion o bob hil a chefndir ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.

Gadewch inni symud ymlaen gyda phenderfyniad a gobaith, gan wybod y bydd ein hymdrechion ar y cyd yn helpu i greu cymdeithas fwy cyfiawn, gwrth-hiliol a theg i bawb.

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a Phrif Chwip

Rhagair y Cyd-gadeiryddion: y Grŵp Atebolrwydd Allanol

Mae’n briodol dechrau’r rhagair hwn drwy fyfyrio ar gyd-destun adnewyddu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y Cynllun) gennym. Bu terfysgoedd hil mawr yn y DU ar ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst 2024, a gellir dadlau mai’r terfysgoedd hyn oedd y prawf allanol gwirioneddol cyntaf o lwyddiant y Cynllun. Drwy edrych ar y ffyrdd roedd casineb â chymhelliant hiliol wedi arwain at drais, dwyn, llosgi bwriadol a dinistrio eiddo yn gyffredinol gwelwyd arwydd o lefel, dyfnder a chyffredinrwydd rhagfarn ar sail hil yn ein cymdeithas. Nodwn, gyda diolch, na welsom y math o anhrefn dreisgar yng Nghymru ag a welwyd yn Lloegr. Fodd bynnag, rhoddodd pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol ledled Cymru wybod am achosion o gasineb a bygythiadau ar sail hil, a gafodd effaith sylweddol ar eu bywydau pob dydd. Pe bai’r Cynllun wedi cael ei roi ar waith a’i ymgorffori’n llawn mewn systemau, strwythurau ac ymddygiadau, gallem fod wedi disgwyl na fyddai’r achosion hyn wedi digwydd neu y gallai fod wedi bod yn gymharol hawdd eu rheoli. Gallem hefyd fod wedi disgwyl y byddai sefydliadau wedi datblygu polisïau ffurfiol i ymdrin ag achosion o’r fath ac y byddai ffyrdd priodol o sicrhau diogelwch a llesiant pobl, yn enwedig y rhai sy’n dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Yn anffodus, nid felly y bu bob amser, am fod llawer o aelodau o grwpiau ethnig lleiafrifol wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod ar eu pen eu hunain a’u bod yn teimlo ofn ac anesmwythder ynghylch bod mewn mannau cyhoeddus. Nododd llawer hefyd fod eu sefydliadau eu hunain wedi methu ag estyn llaw a holi am eu llesiant a gofyn a allent wneud unrhyw beth i’w helpu.

Mae terfysgoedd hil 2024 yn helpu i ddangos lefel a maint y dasg o ddileu hiliaeth. Fodd bynnag, y wers allweddol o’r terfysgoedd hyn yw na ddylem aros i achosion o hiliaeth ymddangos ar ein strydoedd cyn ein bod yn gweithredu ar y cyd i fynd i’r afael â hi. Mae hwn yn rheswm mawr pam rydym wedi adnewyddu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r Cynllun yn fenter arwyddocaol sydd wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwaith i ddileu hiliaeth yng Nghymru. Fel gyda phob cynllun, mae angen ystyried y cynnydd rydym wedi ei wneud hyd yma, cryfhau’r elfennau unigol o’r Cynllun, a chydgrynhoi’r hyn a ddatblygodd o’r cam cynnar o’i roi ar waith. Mae’r iteriad hwn o’r Cynllun yn cadw sylwedd y Cynllun gwreiddiol. Fodd bynnag, mae nifer o elfennau newydd wedi cael eu hychwanegu, gan gynnwys, er enghraifft, mwy o bwyslais ar groestoriadedd, sy’n tynnu sylw at bryderon penodol grwpiau megis Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn arbennig a mwy o bwyslais ar ddata a datblygu’r meini prawf ar gyfer mesur effaith. Ceir hefyd fwy o gydnabyddiaeth o rôl bwysig partneriaid mewn llywodraeth leol a mwy o bwyslais ar amrywiadau a chynrychiolaeth ranbarthol, yn ogystal â strwythur llywodraethu diwygiedig er mwyn sicrhau mwy o eglurder.

Bydd y gwaith o roi cynllun mor arwyddocaol ar waith yn ymdrech ar y cyd gan nifer o unigolion a sefydliadau gwahanol. Hoffem ddiolch i aelodau’r Grŵp Atebolrwydd Allanol, arbenigwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil ac aelodau o’r Tîm Gweithredu sydd wedi gweithio’n ddiflino ar y prosiect hwn. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gymorth y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a holl Gabinet Llywodraeth Cymru. Mae’r un mor bwysig cydnabod cymorth Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd. Gwnaeth ei adolygiad o’r Cynllun ym mis Mawrth 2024 dynnu sylw at natur frys y camau gweithredu sydd angen eu cymryd er mwyn gwella bywydau pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru. Bydd ein holl ymdrechion yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod yn canolbwyntio ar roi’r Cynllun hwn ar waith yn llawn er mwyn gwneud gwahaniaethau ystyrlon a gweladwy i brofiadau bywyd pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yng Nghymru.

Yr Athro Emmanuel Ogbonna, Prifysgol Caerdydd

Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Cyflwyniad

Gwnaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y Cynllun), a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022, dynnu sylw at yr anghydraddoldebau ar sail hil, sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, a brofir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar realiti hiliaeth sefydliadol a strwythurol, gan bwysleisio bod pobl ethnig leiafrifol o dan anfantais anghymesur ar bron bob lefel o bob system. Drwy gydnabod y gwirionedd anghysurus hwn, mae’r Cynllun yn annog y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru i herio natur estynedig anghydraddoldebau ar sail hil a chydnabod y manteision sydd, yn aml, yn anfwriadol, a brofir gan grwpiau penodol. Mae’n galw am ddewrder, fel cenedl, i herio anghyfiawnderau systemig a gweithio gyda’n gilydd tuag at newid ystyrlon.

Yn sgil galwadau gan sefydliadau ar lawr gwlad a Fforwm Hil Cymru, dechreuodd Llywodraeth Cymru waith ar y Cynllun ar ddechrau 2020. Tanlinellwyd yr alwad i weithredu gan adroddiad is-grŵp economaidd-gymdeithasol y Prif Weinidog a ddaeth i’r casgliad bod hiliaeth sefydliadol wedi cyfrannu at y canlyniadau anghymesur o bandemg COVID-19. Gwnaeth y canfyddiadau hyn osod cywair y Cynllun, gan bennu ei egwyddor greiddiol, sef cydgynhyrchu â phrofiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol, swyddogion Llywodraeth Cymru, academyddion, undebau llafur ac ymgyrchwyr fel ei gilydd. Un neges glir oedd na allai Llywodraeth Cymru roi cynllun mor fawr ar waith ar ei phen ei hun. Er mwyn mynd ati’n rhagweithiol i nodi a dileu’r systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau gwahanol i bobl ethnig leiafrifol, dim ond os bydd Llywodraeth a phobl Cymru yn newid eu hymddygiad ar y cyd y byddai modd llwyddo.

Un nodwedd allweddol arall ar y Cynllun oedd ei fod yn cydnabod y bwlch gweithredu a sut mae hwn wedi rhwystro cynlluniau cydraddoldeb hil yn y gorffennol. Gwnaeth hyn lywio gwerthoedd y Cynllun, sef bod yn agored ac yn dryloyw, gan roi profiadau bywyd wrth wraidd yr hyn a wnawn. Y gwerth hwn sydd wedi ein helpu i lywio’r ffordd y byddem yn adnewyddu ac yn ehangu’r Cynllun. Ar ôl sicrhau rhoi lle canolog i fod yn agored ac yn dryloyw, cydnabuom drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: adroddiad blynyddol 2022 i 2023 nad yw effaith ein gwaith ar brofiad bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn amlwg eto o bosibl ond bod sylfeini pwysig wedi cael eu gosod. Mae cynnydd wedi cael ei wneud ym mhortffolios Llywodraeth Cymru ac rydym yn eich annog i edrych ar yr adroddiad blynyddol am ddiweddariadau.

Er mwyn sicrhau y gall y cyhoedd yn fwy cyffredinol, gan gynnwys ein pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ddeall ein bwriadau yn llawn, rydym wedi penderfynu cyhoeddi’r ddogfen gryno hon. Drwy wneud hyn gallwn gyfleu ein nodau a’n camau gweithredu mewn ffordd hawdd ei deall. Byddai’r ddogfen dechnegol lawn yn 400 tudalen o hyd, felly dim ond ar gais y byddwn yn darparu’r penodau technegol manwl. Mae’r rhain ar gael drwy e-bostio YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru. Caiff y penodau technegol hyn eu hadolygu’n rheolaidd gan y Grŵp Atebolrwydd Allanol a’r is-grwpiau ar gyfer polisïau penodol er mwyn sicrhau bod yr holl ymrwymiadau yn cael eu gweithredu’n llawn a bod proses adrodd briodol ar y camau gweithredu perthnasol.

A ninnau’n deall y newidiadau strwythurol y bydd eu hangen, nid yn unig i fod yn wrth-hiliol ond i fod yn deg i bobl ethnig leiafrifol, aethom ati’n fwriadol i bennu camau gweithredu uchelgeisiol inni eu cyflawni o fewn y ddwy flynedd gychwynnol. Gan fod y camau hyn wedi’u hangori mewn ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ni allwn ddweud i sicrwydd ein bod wedi gwneud cynnydd yn eu cylch nes y gall pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru ddweud eu bod wedi gweld gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau. Os bydd hyn yn golygu estyn amserlenni ac edrych eto ar weithgareddau, cael sgyrsiau heriol â pherchnogion camau gweithredu, ac edrych eto ar ein hysgogiadau, rydym yn ymrwymo i wneud hynny. Ni fydd y Cynllun yn gynllun cydraddoldeb hil arall eto sydd â bwriadau da nas cyflawnir. Erys ymrwymiad y Gweinidogion yn gadarn ac mae’r Cynllun yn parhau i fod yn rhan o’r Rhaglen Lywodraethu.

O dan strwythur llywodraethu’r Cynllun ceir Grŵp Atebolrwydd Allanol, sy’n cynnwys arbenigwyr a chynrychiolwyr amrywiaeth, a Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol sy’n cynnwys swyddogion polisi arweiniol Llywodraeth Cymru. Mae is-grwpiau polisi yn dod ag aelodau’r Grŵp Atebolrwydd Allanol ynghyd â’r swyddogion polisi arweiniol i lywio’r ffordd y caiff yr ymrwymiadau yn y Cynllun eu cyflawni ar y cyd. Rhoddwyd y strwythurau hyn ar waith i helpu swyddogion Llywodraeth Cymru i fyfyrio ar lwyddiannau cynnar, rhwystrau, cyfleoedd, a gwersi a ddysgwyd a hefyd gael yr adborth diweddaraf a gwybodaeth am anghenion a phrofiadau newidiol pobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Er mwyn cryfhau prosesau atebolrwydd ac ymgysylltu ymhellach, caiff pedwar fforwm rhanbarthol eu sefydlu. Mae’r fforymau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i brofi a llywio’r broses o roi’r Cynllun ar waith ar lawr gwlad, gan sicrhau bod camau gweithredu’r Cynllun yn ymateb i’r anghenion a’r profiadau amrywiol ledled Cymru.

Dyrannodd Llywodraeth Cymru gyllid i gefnogi Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gweithredol i arwain y gwaith o ddatblygu a monitro’r Cynllun. Sefydlwyd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil i greu adnoddau a systemau i fesur dangosyddion a hefyd i ychwanegu at ymchwil a thystiolaeth. Un rhan allweddol o gylch gwaith yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yw mesur effaith y Cynllun er mwyn inni allu deall a wnaed gwahaniaeth i brofiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol. Mae gwaith yr Uned wedi mynd rhagddo’n gyflym ac wrth ddatblygu fframwaith i fesur newid rydym wedi sylweddoli bod yr ail iteriad hwn yn gofyn am bennod newydd, fwy penodol sy’n rhoi mwy o fanylion am y gwaith arloesol hwn. Mae gwaith yr Uned yn rhan o’r Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb felly rydym yn ystyried o hyd sut mae hil yn croestorri â mathau eraill o orthrwm.

Mae’r dull iteraidd hwn yn meithrin y gallu i ddysgu’n barhaus, gwella, bod yn hyblyg a dyrannu adnoddau’n effeithlon. Mae’n fodd inni werthuso ein hymdrechion yn erbyn ein huchelgeisiau yn feirniadol, gan sicrhau atebolrwydd pan fydd cynnydd yn araf. Mae’r fethodoleg hon wedi bod yn arbennig o fuddiol o ran y bennod i’r Cynllun ar Arweinyddiaeth, sydd wedi arwain at bennod ddiwygiedig sy’n mireinio ein ffocws a’n blaenoriaethau strategol, gyda phwyslais cryf ar effaith a mesur.

Mae’r Cynllun ar ei newydd wedd yn cynnwys rhai camau gweithredu newydd, amserlenni estynedig, a phrif asiantau a phartneriaid cyflawni wedi’u cryfhau. Mae rhai camau gweithredu hefyd wedi cael eu diwygio i gryfhau’r ffordd y mesurir effaith. Pan fydd y camau gweithredu hyn wedi cael eu datblygu, maent yn unol ag ysbryd y Cynllun ac maent wedi cael eu cydgynhyrchu â phobl ethnig leiafrifol. Gwyddom fod nodau’r Cynllun gwreiddiol wedi mynd drwy broses ymgynghori helaeth a’u bod wedi cael eu ffurfio gan safbwyntiau llawer o bobl ethnig leiafrifol ledled Cymru. O ran hyn, nid oes unrhyw nodau y tu allan i’r bennod ar Arweinyddiaeth wedi cael eu newid, a dim ond er mwyn sicrhau mwy o effaith a gwell dulliau mesur y mae’r camau gweithredu wedi cael eu diwygio. Mae pob newid wedi cael ei gymeradwyo gan y Grŵp Atebolrwydd Allanol.

Hefyd, rydym wedi ystyried canfyddiadau ac argymhellion ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i weithredu’r Cynllun a oedd yn cynnwys cynnal adolygiad cyflym o’n strwythur llywodraethu. Mae gwaith newydd ar ‘themâu trawsbynciol’ hefyd wedi cael ei flaenoriaethu, ynghyd â ffocws newydd ar ein pennod ar lywodraeth leol. Hefyd, mae nodau a chamau gweithredu penodol yn cael eu datblygu ar gyfer meysydd polisi Materion Gwledig a’r Genhadaeth Economaidd a fydd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun maes o law.

Yn olaf, rydym yn ailymrwymo i’r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil (CERD) yng Nghymru a chredwn y bydd y camau gweithredu a amlinellwyd yn y Cynllun yn cyfrannu at hyrwyddo’r hawliau hyn.

Byddwn yn parhau i rannu adroddiadau rheolaidd yn manylu ar gyflawniadau allweddol a’r cynnydd tuag at barhau i roi’r Cynllun ar waith.

Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil: sut y byddwn yn mesur newid

Cyflwyniad

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn amlinellu’r weledigaeth i Gymru fod yn wlad wrth-hiliol. Ei nod yw gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Cafodd y Cynllun ei gydgynhyrchu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a mynegwyd neges glir nad gweld pethau’n cael eu gwneud yn unig roedd ei eisiau ar bobl, ond gweld gwelliannau i’w bywydau o ganlyniad i’r Cynllun hwn.

Ers i’r fersiwn gyntaf o’r Cynllun gael ei chyhoeddi, mae ein gwaith gyda phobl ethnig leiafrifol a rhanddeiliaid allweddol eraill wedi datgelu’r angen i ehangu ar y dyheadau monitro a mesur yn y fersiwn gyntaf o’r Cynllun er mwyn mesur ei effaith hirdymor.

Dechreuodd y fersiwn gyntaf o’r Cynllun nodi blaenoriaethau ar gyfer yr hyn sydd angen ei newid a sut beth fyddai llwyddiant i gyflawni’r newid hwn. Yn y bennod hon, rydym yn adeiladu ar hyn drwy gyflwyno’r cysyniad o fodel rhesymeg sy’n dangos sut y disgwyliwn i’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd arwain at newid ac yn disgrifio’r broses o ddatblygu fframwaith i fesur y newid hwn. Un rhan hollbwysig o ddeall sut mae newid yn digwydd yw cynnwys profiadau bywyd lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ym mhopeth a wnawn i roi’r Cynllun ar waith.

Model rhesymeg ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Sefydlwyd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil ym mis Ionawr 2022. Un o’i rolau allweddol yw datblygu ffordd o olrhain cynnydd y Cynllun a mesur unrhyw newidiadau a sicrhawyd ganddo. Mae’n edrych ar y Cynllun yn ei gyfanrwydd a’r ffordd y mae’r camau gweithredu unigol yn cyfrannu at y canlyniad terfynol, sef gwneud Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Mae hyn yn golygu y bydd y camau gweithredu gwahanol mewn meysydd polisi gwahanol i gyd yn cyfrannu tuag at y nod cyffredinol o greu Cymru Wrth-hiliol.

Map yw model rhesymeg Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy’n cynrychioli’r cydberthnasau a rennir ymhlith adnoddau, gweithgareddau, allbynnau, canlyniadau, ac effaith y Cynllun. Mae’r model yn cysylltu sut y bydd cwblhau’r camau gweithredu yn arwain at effaith fwriadedig gyffredinol y Cynllun (Cymru wrth-hiliol) erbyn 2030. Mae’r model rhesymeg yn cynnig dull cyson a chymaradwy rhwng penodau i fesur effaith gyffredinol y Cynllun.

Y rhesymeg gyffredin sy’n cefnogi’r newid angenrheidiol yw bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i Gymru fwy cyfartal drwy weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dim ond os bydd pob un o’r partneriaid yn mynd ati’n weithredol i sicrhau cydraddoldeb o ran llesiant i bawb yng Nghymru yn awr, ac yn y dyfodol, y gellir gwireddu hyn. Mae mynd i’r afael â hiliaeth systemig a’r anghydraddoldeb a grëwyd ganddi ac sy’n parhau o’r herwydd yn hanfodol i ddiben y Ddeddf. Mae’n rhaid i wrth-hiliaeth fod yn ganolog i weithredu’r Ddeddf, neu fel arall mae risg y bydd yr anghyfiawnder presennol yn parhau. Mae Cymru Wrth-hiliol yn Gymru Gyfartal i bawb.

Gwaddol y Cynllun yw’r effaith gyffredinol, a’r newidiadau hirdymor mewn gwybodaeth, credoau, profiadau, ac ymddygiad yn ogystal â newidiadau systemig a diwylliannol sy’n golygu ein bod wedi gwireddu’r weledigaeth o Gymru wrth-hiliol. Dylai Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol fynd â ni tuag at Gymru fwy cyfartal.

Mewnbynnau yw’r cyllid a’r adnoddau dynol a ddefnyddir i lunio’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r camau gweithredu yn y Cynllun. Mae’r Cynllun wedi nodi camau gweithredu, pethau y byddwn yn eu gwneud, y disgwyliwn iddynt achosi newid.

Allbynnau yw canlyniadau pendant, a ysgogir yn aml gan brosesau, a fynegir yn rhifiadol fel arfer. Er bod allbynnau yn darparu gwybodaeth am gwblhau’r gweithgareddau, ni allant bob amser ddangos a yw newid wedi digwydd.

Canlyniadau yw’r newidiadau o ganlyniad i weithgaredd neu grŵp o weithgareddau ar lefel unigol, sefydliadol a chymdeithasol. Rydym yn disgwyl grwpiau o gamau gweithredu gyda’i gilydd i’n helpu i gyflawni ein nodau yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Gellir gweld canlyniadau yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor.

Effeithiau yw effeithiau bwriadedig hirdymor cyffredinol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar unigolion, sefydliadau, a chymdeithas.

Newid penodol sydd yn aml yn fesuradwy yw canlyniad. Mae canlyniadau yn canolbwyntio ar y newidiadau gwirioneddol mesuradwy sy’n digwydd o ganlyniad i gamau gweithredu. Mae effaith yn cyfeirio at effaith sy’n llawer mwy cyffredinol a gall fod yn fwy anodd ei mesur.

Er enghraifft, byddem yn disgwyl i gamau gweithredu yn y Cynllun arwain at leihad yn nifer yr achosion o fwlio ac aflonyddu i bobl ethnig leiafrifol. Gallwn gasglu data canlyniadau o ran a yw nifer y digwyddiadau cofnodedig wedi lleihau, ac mae hyn yn dangos inni p’un a ydym yn mynd i’r cyfeiriad cywir ai peidio. Er mwyn deall mwy am effaith, a sut a pham mae’r camau gweithredu yn y Cynllun wedi gwneud gwahaniaeth, mae’n rhaid inni gasglu tystiolaeth ar ba wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl, pa effaith a gafodd arnynt a sut mae hyn wedi newid eu profiadau o fyw a gweithio yng Nghymru.

Mesur effaith Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae’r model rhesymeg yn nodi sut y bwriedir i’r Cynllun sicrhau newid, ond mae’n rhaid inni hefyd ddatblygu fframwaith i sicrhau y gallwn fesur a yw newid wedi digwydd. Mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn datblygu fframwaith mesur effaith sy’n nodi’r hyn sydd angen ei fesur er mwyn deall a yw newid yn digwydd. Bydd angen inni fesur ar sawl lefel wahanol er mwyn sicrhau ein bod yn cael y dystiolaeth i borthi dangosyddion a nodwyd a dangosyddion sy’n datblygu. Rhywbeth sy’n helpu i roi tystiolaeth bod newid wedi digwydd yw dangosydd; nid y newid a ddymunir ei hun. Gellir llunio dangosyddion i fesur newidiadau a ddymunir ar lefel allbynnau, canlyniadau, neu effaith. Byddwn hefyd yn mesur newid yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor. Mae dangosyddion yn seiliedig ar rifau ac er eu bod yn rhoi gwybodaeth werthfawr, nid ydynt yn dweud y stori gyfan. Byddwn hefyd yn casglu profiadau bywyd.

Profiad bywyd (mesurau effaith)

Bydd profiad bywyd yn chwarae rôl allweddol yn y fframwaith mesur effaith. Gwybodaeth am brofiadau unigolion yw profiad bywyd, a gesglir mewn ffordd y gellir ei defnyddio i adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd ym mywydau pobl. Bydd yn rhoi canfyddiadau mwy cynhwysfawr, teg, ac effeithiol, a fydd yn canolbwyntio ar brofiadau pobl ac nid y rhifau yn unig. Er y byddwn yn defnyddio data sy’n bodoli eisoes ar gyfer ein mesurau lle y bo modd, efallai y bydd yn cymryd peth amser i ddatblygu ffynonellau data newydd; bydd casglu profiadau bywyd yn ffordd o asesu a yw newid yn digwydd i unigolion yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf y Cynllun.

Mesurau allbynnau

Mae’r rhain yn mesur yr allbynnau o gamau gweithredu’r Cynllun, er enghraifft canran y bobl sydd wedi cael hyfforddiant gwrth-hiliaeth. Nid yw’r mesurau hyn yn dweud wrthym pa effaith a welir ond bod cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn cael ei wneud. Gallwn gyfrif nifer y bobl sydd wedi dilyn cwrs hyfforddiant, ond nid yw hyn o reidrwydd yn dweud wrthym am y gwahaniaeth y mae’r cwrs wedi ei wneud.

Mesurau canlyniadau yn y byrdymor / tymor canolig

Bydd y rhain yn mesur newid yn Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, a chyrff a ariennir. Bydd y rhain yn dweud wrthym am y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud i fywydau pobl ac a ydym yn gweld lleihad mewn unrhyw wahaniaethau. Er enghraifft, a yw lleiafrifoedd ethnig yn teimlo’n fwy hyderus i roi gwybod am achosion o fwlio ac aflonyddu yn y gweithle fyddai’n un o’r canlyniadau bwriadedig a fyddai’n gyffredin i nifer o’r camau gweithredu yn y Cynllun. Bydd mesurau canlyniadau byrdymor / tymor canolig yn cynnwys y mathau canlynol o fesurau:

Dangosyddion llesiant cenedlaethol (mesurau hirdymor)

Cyfres sefydledig o ddangosyddion sydd eu hangen o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r rhain, sy’n asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Byddwn yn edrych ar y mesurau hyn yn ôl ethnigrwydd (lle y bo modd) er mwyn dangos a yw pob person yn cyflawni’r nodau llesiant ac a oes unrhyw wahaniaethau yng nghanlyniadau lleiafrifoedd ethnig yn erbyn y dangosyddion hyn wedi cael eu dileu. 

Data a thystiolaeth

Mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil wedi mapio’r hyn sydd angen ei fesur ar lefel strategol ac wedi nodi mesurau a ffynonellau data sy’n bodoli eisoes, y gellir eu defnyddio i boblogi’r mesurau strategol. Rydym wedi nodi bylchau allweddol lle nad yw mesurau na data yn bodoli. Rydym wedi asesu’r mesurau sy’n bodoli eisoes i weld a oes modd eu dadansoddi yn ôl ethnigrwydd.

Mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn gweithio tuag at ddatblygu dangosfwrdd sy’n adrodd stori drwy ddelweddu o ble rydym arni o ran gwahaniaethau mewn canlyniadau i bobl ethnig leiafrifol yng Nghymru. Wrth i’r data sydd ar gael, a’u hansawdd, wella, byddwn yn gallu gwella a diweddaru’r dangosfwrdd hwn er mwyn olrhain cynnydd o ran effaith Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mewn rhai achosion, ni fydd y data i fesur newidiadau a sicrhawyd gan y Cynllun ar gael neu ni fydd y data wedi eu casglu. Mewn achosion eraill, mae’r data yn bodoli, ond nid oes modd eu dadansoddi yn ôl ethnigrwydd.

Mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil hefyd yn ymgymryd â phrosiectau i wneud y canlynol: 

  • llenwi bylchau mewn tystiolaeth sydd â blaenoriaeth o ran mesurau canlyniadau a phrofiadau bywyd
  • ystyried sut y gallwn wella manylder data ar ethnigrwydd a gwella meintiau samplau fel y gallwn ddadansoddi mesurau yn ôl ethnigrwydd

Er mwyn mesur effaith Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a gwella’r data a’r dystiolaeth sydd ar gael ar ethnigrwydd a’u manylder, bydd angen ymdrech ar y cyd gan lawer o bartneriaid i gasglu, coladu a rhannu’r data hyn i borthi’r fframwaith mesur arfaethedig.

Mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil wedi gweithio gyda chydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru drwy gydol y broses o ddatblygu’r Cynllun hwn er mwyn sicrhau bod nodau a chamau gweithredu yn fesuradwy a bod mesurau canlyniadau a mesurau effaith byrdymor / tymor canolig addas yn cael eu datblygu ac i roi cyngor ar gasglu data. Bydd hon yn broses barhaus, a fydd yn datblygu ochr yn ochr â’r fframwaith mesur effaith a bydd yn rhaid iddi hefyd gynnwys y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

Darllenwch am brosiectau a chynnydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil.

Y strwythur llywodraethu

Mae strwythur llywodraethu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cynnwys 4 elfen allweddol:

  1. Y Grŵp Atebolrwydd Allanol
  2. Y Grŵp Cymorth a Her Mewnol
  3. Is-grwpiau Polisi y Grŵp Atebolrwydd Allanol
  4. Ymgysylltu â phobl ethnig leiafrifol i gofnodi eu profiadau bywyd trwy fforymau rhanbarthol

Mae Tîm Gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil yn chwarae rôl ategol, gan ddarparu gwasanaeth cydgysylltu, cyngor a chefnogaeth i bob un o'r 4 elfen allweddol.

Mae gan Bwyllgor a Bwrdd Gweithredol Llywodraeth Cymru gysylltiad anuniongyrchol â’r Grŵp Atebolrwydd Allanol drwy'r cyd-gadeirydd; Dr Andrew Goodall. 

Arweinyddiaeth o ran gwrth-hiliaeth: gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru a gwasanaeth cyhoeddus Cymru

Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wneud fel Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru a chyflogwr, ac ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol a'i uwch-dîm yn atebol am gyflawni'r camau yng Ngwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru.

Ein nod yw bod pobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gallu cyrraedd eu potensial llawn o fewn Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru ac i ddileu canlyniadau gwaeth i staff ethnig leiafrifol. Mae diwylliant o wrth-hiliaeth yn fuddiol i bawb, gan hyrwyddo cydraddoldeb a herio gwahaniaethu systemig. Mae’n cymryd amser i sicrhau newid diwylliannol gwirioneddol a chynaliadwy, ac mae’r bennod hon yn adeiladu ar y cynnydd graddol a wnaed dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda chymorth camau gweithredu mesuradwy i olrhain cynnydd a’n dwyn yn atebol.

Ein dull gweithredu

Wrth gyflawni’r camau gweithredu yn y bennod hon byddwn yn cael ein llywio gan yr egwyddorion canlynol: 

  • Gweithio gyda’n gilydd fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru er mwyn rhannu arferion da, meithrin dealltwriaeth a dysgu oddi wrth ein gilydd.
  • Mynd ati i gydgynhyrchu atebion â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 
  • Sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd â’r cyfrifoldebau statudol a nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Gwasanaethau Cyhoeddus, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a strategaeth Cymraeg 2050, yn ogystal ag ymrwymiadau eraill ym maes cydraddoldeb. 

Canlyniadau

Nod y camau gweithredu yn y bennod hon yw sicrhau, o fewn Llywodraeth Cymru ac yn y sefydliadau rydym yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt:

  • Bod staff ethnig leiafrifol yn cael eu cynrychioli ym mhob rhan o’r gweithlu ar lefel sy’n cyfateb i’r gymdeithas a wasanaethwn.
  • Bod staff ethnig leiafrifol yn cyrraedd y normau sefydliadol neu’r cyfartaledd ym mhob mesur (ansoddol a meintiol) o ran llesiant, ymgysylltu, a phrofiad bywyd.
  • Bod dinasyddion ethnig leiafrifol Cymru yn nodi gwelliannau sylweddol yn eu profiadau bywyd o wasanaethau cyhoeddus.

Er mwyn cyflawni’r canlyniadau hyn, bydd angen inni gael dealltwriaeth ddyfnach o hiliaeth (a gwrth-hiliaeth) a’u hôl ar ein sefydliad. Bydd angen inni fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn meysydd gwaith allweddol a defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru i’n tywys. 

Nodau

Mae’r camau gweithredu yn y bennod hon wedi’u strwythuro ar sail pedwar nod a fydd, gyda’i gilydd, yn meithrin diwylliant o wrth-hiliaeth yn Llywodraeth Cymru a thrwy’r sector cyhoeddus cyfan: 

  1. Adeiladu data a thystiolaeth gadarn.
  2. Sbarduno arweinyddiaeth wrth-hiliol.
  3. Gwella cynrychioliaeth a datblygiad.
  4. Cryfhau trefniadau llywodraethu.

Mae’r holl gamau gweithredu yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: Llywodraeth Cymru yn ei rôl fel cyflogwr, ein cymorth i gyrff hyd braich, a’n rôl arwain ehangach yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Nod 1: adeiladu data a thystiolaeth gadarn

Er mwyn sicrhau diwylliant gwrth-hiliol, mae’n rhaid inni fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth sy’n hyrwyddo dysgu parhaus. Mae’r nod hwn yn canolbwyntio ar gasglu’r data cywir i ddeall profiad bywyd pobl ethnig leiafrifol a mesur ein cynnydd mewn ffordd ystyrlon.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu "Matrics Aeddfedrwydd Diwylliannol" i fesur cynnydd a phennu targedau ar gyfer recriwtio a dyrchafu staff ethnig leiafrifol. Bydd gwell prosesau casglu data yn cefnogi’r ymdrech hon ac yn nodi rhwystrau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn anelu at wella amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus, gyda’r gynrychiolaeth bresennol o bobl ethnig leiafrifol ar fyrddau yn cynyddu o 5% i 14.9% o fewn dwy flynedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu ei methodoleg ac yn ystyried sut mae hil yn croestorri â nodweddion eraill er mwyn sbarduno newid diwylliannol drwy’r sector cyhoeddus cyfan.

Nod 2: sbarduno arweinyddiaeth wrth-hiliol

Mae’r nod hwn yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau arwain wrth inni hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol. Mae’n gofyn am ymwybydddiaeth barhaol ac am flaenoriaethau adnoddau’n glir.

Bydd Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod uwch-arweinwyr yn pennu amcanion gwrth-hiliaeth clir, ymgorffori adborth 360, a rhoi hyfforddiant pwrpasol ar wrth-hiliaeth. Bydd gan arweinwyr mewn cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru amcanion gwrth-hiliaeth mesuradwy hefyd. Caiff y sector cyhoeddus ei annog i gydweithio, a rhannu arferion gorau ac osgoi dyblygu gwaith. Bydd datblygu arweinyddiaeth yn cael ei wella drwy Academi Cymru er mwyn meithrin dealltwriaeth gryfach a sbarduno newid diwylliannol.

Nod 3: gwella cynrychioliaeth a datblygiad

Mae’r nod hwn yn amlinellu camau gweithredu i gefnogi staff ethnig leiafrifol i ddatblygu gyrfa a chamu ymlaen yn eu gyrfa yn Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn cefnogi ein cyrff hyd braich a’n rôl yn y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu prosesau recriwtio a dyrchafu, cyflwyno Eiriolwyr dros Degwch, a lansio rhaglen Nawdd Uwch-arweinwyr ar gyfer staff ethnig leiafrifol. Bydd cyrff hyd braich yn parhau â’u hymdrechion i sicrhau bod aelodaeth byrddau yn fwy amrywiol drwy ddiwygio prosesau recriwtio a chael gwell adborth. Er mwyn mynd i’r afael â thangynrychiolaeth lleisiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, bydd rhaglenni mentora, hyfforddi, ac arweinyddiaeth gymunedol yn cael eu hehangu i sicrhau gwell dealltwriaeth o anghydraddoldeb ar sail hil a chryfhau galluoedd arwain mewn cymunedau.

Nod 4: cryfhau trefniadau llywodraethu

Mae’r nod hwn yn canolbwyntio ar y ffordd y byddwn yn cryfhau ein trefniadau llywodraethu corfforaethol ar wrth-hiliaeth. Mae’n amlinellu sut mae hyn yn ymwneud â’n cyrff hyd braich a’n partneriaethau â’r sector cyhoeddus ehangach.

Bydd Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yn adolygu prosesau gwneud penderfyniadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant er mwyn sicrhau eglurder, tryloywder, ac effeithlonrwydd, gan weithio’n agos gyda’r Grŵp Atebolrwydd Allanol. O ran ein cyrff hyd braich, byddwn yn asesu sut mae eu strwythurau llywodraethu yn helpu i gyflawni nodau gwrth-hiliaeth. Byddwn yn dysgu o arferion gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn parhau i roi cyllid i grwpiau cymunedol a mentrau sy’n hyrwyddo gwrth-hiliaeth.

Nodau a chamau gweithredu

Mewn ymateb i alwadau gan y Grŵp Atebolrwydd Allanol a chan adeiladu ar y cynnydd fesul cam a wnaed dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r Bennod o’r Cynllun ar Arweinyddiaeth wedi mabwysiadu dull gweithredu newydd. Mae’r dull gweithredu hwn yn seiliedig ar gamau gweithredu mesuradwy sydd â’r nod o olrhain cynnydd a sicrhau atebolrwydd sefydliadol. Erys yr ymrwymiad i greu ffordd ragweithiol a chynhwysol o weithio sy’n hyrwyddo tegwch ac yn herio hiliaeth systemig.

Mae cydnabod rôl allweddol arweinyddiaeth gref yn ganolog i gyflawni’r uchelgais o wneud Cymru yn genedl sy’n arwain y ffordd o ran cydraddoldeb hil. Felly, roedd angen dull gweithredu newydd. Mae’r dull gweithredu newydd hwn, a arweinir gan werthoedd craidd y Cynllun, yn parhau i goleddu egwyddorion megis ymdrechion ar y cyd o fewn Un Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru, mynd ati i gydgynhyrchu atebion â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a sicrhau cysondeb â chyfrifoldebau statudol. Mae’r fath ddull gweithredu ar y cyd yn ein rhoi mewn sefyllfa i arwain ag uniondeb, arloesedd, a chynhwysiant, gan sicrhau nad rhywbeth i ymgyrraedd ato yn unig yw ein huchelgeisiau, ond rhywbeth i’w gyflawni.

Nod 1: adeiladu data a thystiolaeth gadarn

Llywodraeth Cymru fel cyflogwr
Cam gweithredu  1
  • Datblygu Matrics Aeddfedrwydd Diwylliannol i asesu lefel y newid diwylliannol sydd ei angen i ddod yn sefydliad gwrth-hiliol.
Cam gweithredu 2
  • Targed recriwtio: Bydd 20% o’r holl ymgeiswyr llwyddiannus a recriwtir yn allanol yn dod o gefndir ethnig leiafrifol er mwyn adlewyrchu'r 6% o'r boblogaeth yng Nghymru sy'n ethnig leiafrifol. O ganlyniad, bydd o leiaf 6% o'r holl staff ar bob lefel yn Llywodraeth Cymru o leiafrif ethnig.
  • Bydd aelodau ethnig leiafrifol o’r staff yn llwyddo i gael eu dyrchafu ar lefel sy’n cyfateb i’w cyfran poblogaeth sefydliadol. 
Cefnogi cyrff hyd braich a phartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru
Cam gweithredu 3
  • Nodi pa ddata a thystiolaeth sydd eu hangen a rhoi mesurau ar waith i’w casglu.
Ein harweinyddiaeth ar y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Cam gweithredu 4
  • Gwahodd partneriaid yn y sector cyhoeddus i ddechrau defnyddio model Matrics Aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru yn eu cyd-destun sefydliadol eu hunain.
Cam gweithredu 5
  • Gwella dealltwriaeth o’r ffordd y mae hil yn croestorri â nodweddion gwarchodedig, hunaniaethau ac amodau economaidd-gymdeithasol eraill i lywio ein dull gweithredu a’n camau gweithredu.
Cam gweithredu 6
  • Parhau i ddatblygu dangosyddion allweddol i fesur cynnydd ac effaith Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ei gyfanrwydd. 

Nod 2: sbarduno arweinyddiaeth wrth-hiliol

Llywodraeth Cymru fel cyflogwr
Cam gweithredu 7
  • Bydd gan bob uwch-was sifil o leiaf un amcan perfformiad mesuradwy sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth.
  • Bydd uwch-weision sifil yn cynnal ymarfer adborth 360 i fesur eu cynnydd.
Cam gweithredu 8
  • Gwerthuso’r hyfforddiant ar wrth-hiliaeth a ddarperir ar hyn o bryd.
  • Datblygu strategaeth Dysgu a Datblygu sy’n seiliedig ar dystiolaeth i sbarduno newid ymddygiad, gan gynnwys rhaglen gynefino i recriwitiaid newydd ac opsiynau ar gyfer hyfforddiant gorfodol.
  • Datblygu hyfforddiant a datblygiad pwrpasol i uwch-dimau arwain, timau polisi, aelodau o’r Grŵp Atebolrwydd Allanol, aelodau o Rwydwaith y Staff Ethnig Leiafrifol a'r proffesiwn Adnoddau Dynol.
Cam gweithredu 9
  • Sicrhau bod Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol yn cael ei gefnogi i roi llais ar y cyd a lle diogel i staff godi materion.
Cam gweithredu 10
  • Gwella polisïau a phrosesau mewnol i’w gwneud yn haws i roi gwybod am achosion o hiliaeth.
  • Hyrwyddo’r cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i’r staff.
  • Caiff polisïau a chymorth eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn ymateb i wersi a ddysgwyd.
Cefnogi cyrff hyd braich a phartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru
Cam gweithredu 11
  • Cymorth arweinyddiaeth i’r sector cyhoeddus datganoledig i alluogi cyrff hyd braich i ddod yn wrth-hiliol.
Cam gweithredu 12
  • Bydd amcan perfformiad gwrth-hiliaeth yn cael ei bennu ar gyfer holl uwch-arweinwyr cyrff a ariennir (ar lefel Prif Swyddogion Gweithredol a Chyfarwyddwyr), cadeiryddion ac aelodau bwrdd.
Cam gweithredu 13
Ein harweinyddiaeth ar y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Cam gweithredu 14
  • Rhannu cynnydd ar gamau gweithredu’r Cynllun i nodi synergeddau a mabwysiadu dull gweithredu ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru’ (gan gynnwys datblygu Safon Cydraddoldeb Hil i Weithlu’r GIG a rhoi grantiau cynhwysol).
Cam gweithredu 15
  • Rhannu gwersi a ddysgwyd o’r adnoddau a’r hyfforddiant gwrth-hiliaeth sy’n cael eu datblygu.
  • Cydweithio ar raglen o hyfforddiant a datblygiad arweinyddiaeth a datblygu i uwch-arweinwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Nod 3: gwella cynrychioliaeth a datblygiad

Llywodraeth Cymru fel cyflogwr
Cam gweithredu 16
  • Adolygu pob agwedd ar brosesau recriwtio a dyrchafu i sicrhau eu bod yn wrth-hiliol ac yn gynhwysol.
  • Bydd gweithredu cadarnhaol yn cael ei ymgorffori mewn prosesau recriwtio.
Cam gweithredu 17
  • Datblygu cronfa amrywiol o eiriolwyr tegwch hyfforddedig i gefnogi paneli recriwtio a dyrchafu Llywodraeth Cymru.
  • Ystyried cyfleoedd i eiriolwyr tegwch gefnogi penodiadau cyhoeddus.
Cam gweithredu 18
  • Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i fireinio ein hallgymorth, gan fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyrraedd amrywiaeth o ymgeiswyr.
  • Cymryd camau gweithredu cadarnhaol i gryfhau’r cymorth i ymgeiswyr.
Cam gweithredu 19
  • Datblygu cwestiynau arfer gorau a chanllawiau cymedroli safonol i asesu dealltwriaeth a gwybodaeth ymgeiswyr o gynhwysiant.
Cam gweithredu 20
  • Datblygu rhaglen nawdd uwch-arweinwyr i staff ethnig leiafrifol, sy’n seiliedig ar arferion gorau.
Cefnogi cyrff hyd braich a phartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru
Cam gweithredu 21
  • Gwerthuso strategaeth 2020 i 2023 ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru’ ar gyfer penodiadau cyhoeddus.
  • Cynnal digwyddiadau archwilio dwfn i gasglu adborth gan randdeiliaid allanol a mewnol.
Cam gweithredu 22
  • Cynnal adolygiad o’r dechrau i’r diwedd o arferion recriwtio i Fyrddau a reoleiddir a cheisio eglurder ynglŷn â’r ysgogwyr deddfwriaethol sydd ar gael e.e. gweithredu cadarnhaol.
Ein harweinyddiaeth ar y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Cam gweithredu 23
Cam gweithredu 24

Nod 4: cryfhau trefniadau llywodraethu

Llywodraeth Cymru fel cyflogwr
Cam gweithredu 25
  • Adolygu’r Fframwaith llywodraethu mewnol ar gyfer gwrth-hiliaeth, gan sicrhau eglurder, tryloywder, ac integreiddio â fforymau gwneud penderfyniadau eraill.
Cam gweithredu 26
  • Bydd Bwrdd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r Cynllun yn rheolaidd.
  • Bydd Bwrdd Llywodraeth Cymru yn asesu ei anghenion dysgu a’i amcanion perfformiad mewn perthynas â gwrth-hiliaeth.
Cefnogi cyrff hyd braich a phartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru
Cam gweithredu 27
  • Archwilio sut y gellir defnyddio’r trefniadau llywodraethu presennol i gwblhau camau gweithredu’r cynllun ac ymgorffori ethos gwrth-hiliol.
Ein harweinyddiaeth ar y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Cam gweithredu 28
  • Nodi ffynonellau cyllid penodol wedi’u targedu i gefnogi micro-sefydliadau, unigolion a grwpiau cymunedol gyda mentrau a digwyddiadau ac ati, gan eu galluogi i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael cyllid prif ffrwd.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae staff y bennod ar Arweinyddiaeth wedi bod yn cydweithio â’r:

  • Ysgrifennydd Parhaol
  • y Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd
  • y Prif Swyddog Gweithredu
  • y Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Adnoddau Dynol gyda chymorth Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol
  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
  • y Grŵp Atebolrwydd Allanol
  • Adnoddau Dynol
  • y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
  • yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • timau Adnoddau Dynol ym mhob sefydliad
  • Adnoddau Dynol (Dysgu a Datblygu)
  • Academi Cymru
  • rhwydweithiau staff
  • y Tîm Gweithredu Gwrth-hiliol
  • y Tîm Poisi Hil a Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • y Grŵp Uwch-arweinwyr
  • arbenigwyr ar Ddysgu a Datblygu
  • staff Cyfathrebu Mewnol
  • Unedau Llafur
  • Tîm Llywodraethu’r Uned Cyrff Cyhoeddus yn gweithio â Chadeiryddion, Prif Weithredwyr a Thimau Partneriaeth yn ogystal â thimau uwch-arweinwyr lle mae Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn ymgysylltu â Phrif Weithredwyr i adolygu, llunio, ac adnewyddu nodau a chamau gweithredu Arweinyddiaeth y Cynllun

Mae is-grŵp y Cynllun wedi cynnig llwyfan i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Addysg a’r Gymraeg

Ers cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac adroddiad blynyddol y flwyddyn gyntaf, mae rhagor o ymchwil a thystiolaeth wedi cael ei gyhoeddi mewn perthynas â darpariaeth mewn lleoliadau addysg. Crynhoir hyn yn ôl sector, drwy edrych ar ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch.

Ysgolion

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Erys lefelau cyrhaeddiad academaidd dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn bryder amlwg. Mae data o’r bwletin ystadegol ar y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gyfer canlyniadau arholiadau a gyhoeddwyd ar 7 Rhagfyr 2023, yn dangos mai ymhlith disgyblion o gefndiroedd ethnig Sipsiwn, Roma, a Theithwyr y ceir y ganran uchaf o gofrestriadau TGAU lle na ddyfarnwyd gradd. Roedd disgyblion Blwyddyn 11 o’r cefndiroedd hyn hefyd yn llai tebygol o barhau ag addysg ôl-16 o gymharu â grwpiau ethnig eraill (Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr Awst 2017 i Orffennaf 2021, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022).

Mae cyfradd y gwaharddiadau am gyfnod penodol fesul 1,000 o ddisgyblion yn is i ddisgyblion o grwpiau ethnig Du o gymharu â’r rhai o’r grŵp ethnig Gwyn Prydeinig (Y Bwletin Ystadegol ar Waharddiadau o Ysgolion a Gynhelir a gyhoeddwyd ar 9 Tachwedd 2023). Fodd bynnag, mae’r gyfradd gwaharddiadau am gyfnod penodol (gwaharddiadau dros dro) fesul 1,000 o ddisgyblion yn uwch i ddisgyblion o grwpiau ethnig Roma o gymharu â’r rhai o’r grŵp ethnig Gwyn Prydeinig. Disgyblion o gefndir ethnig Roma sydd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau am gyfnod penodol (5 diwrnod neu lai), a disgyblion o gefndir ethnig Indiaidd sydd â’r gyfradd isaf.

Mae bwletin Ystadegau Blynyddol 2023 ar gyfer y Gweithlu Addysg Cyngor y Gweithlu Addysg yn dangos mai canran yr athrawon o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol oedd 1.7% yn 2023, a oedd wedi cynyddu o 1.3% yn 2021. Mae hyn yn cymharu â’r lefelau ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru, lle y nododd 6.2% o bobl yng Nghymru eu bod o fewn y categori grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol lefel uchel o Gyfrifiad 2021.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Fel y nodir uchod, mae ymdrechion wedi cael eu gwneud i gynyddu nifer yr athrawon ysgol sy’n cael eu recriwtio o gymunedau ethnig lleiafrifol ac i ymgorffori arferion gwrth-hiliol. Mae hyn yn cynnwys creu cynllun recriwtio Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a chanllawiau addysg newydd yn dwyn y teitl "Dathlu a Chyfranogi," a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023, sy’n cefnogi dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddarparu adnoddau newydd ac ychwanegol i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn helpu i wreiddio dealltwriaeth o anghenion dysgwyr. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid gan gynnwys Grŵp Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr Swyddogion yr Awdurdodau Lleol (MEGRT) sy'n cyfarfod bob hanner tymor.

At hynny, mae’r prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol wedi cael ei gyflwyno a’i ehangu, sy’n darparu adnoddau ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgol; ac rydym wedi gwneud addysgu hanesion a phrofiadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fandadol yn y Cwricwlwm i Gymru. Gan adeiladu ar sylfeini cynnar, mae'r prosiect yn cefnogi nifer cynyddol o ymarferwyr i ymgymryd â gwaith gwrth-hiliol yn eu harferion a rhannu eu dysgu, eu datblygiad a'u llwyddiannau gyda Chymuned Ymarfer ehangach DARPL. Mae ail gam DARPL yn cynnwys buddsoddiad sylweddol mewn gwaith ymgynghori, gan ymgysylltu â chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, Cymwysterau Cymru ac Estyn, ymhlith eraill.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cryfhau’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Dyniaethau er mwyn sicrhau bod astudio hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod yn ofyniad penodol a gorfodol mewn ysgolion a lleoliadau.

Diweddarwyd fframwaith a chanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, a chyflwynwyd prosiect Cynefin Cyngor y Celfyddydau i ystyried hanes amlddiwylliannol Cymru. Hefyd, yn 2024 i 2025, dyrannodd Llywodraeth Cymru dros £160 miliwn i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cefnogi camau gweithredu sy’n ymwneud â thegwch mewn addysg drwy’r elfen Tegwch o Grant Addysg i Awdurdodau Lleol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau ymhellach y canllawiau gwrth-fwlio statudol 'Hawliau, Parch, Cydraddoldeb'. Mae'r canllawiau hyn yn mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn, gan gynnwys mynd i'r afael ag Islamoffobia a gwrthsemitiaeth. Mae swyddogion addysg yn parhau i weithio tuag at sicrhau bod ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn ymwybodol o'r adnoddau sydd eisoes ar gael ar Hwb i'w cefnogi i fynd i'r afael â hiliaeth ac o'r cymorth sydd ar gael drwy'r Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd Meddwl a Lles. Mae cwnsela mewn ysgolion yn rhan allweddol o sicrhau bod gan blant a phobl ifanc sydd â phryderon llesiant ac iechyd meddwl fynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r mentrau hyn yn tanlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i feithrin amgylchedd addysgol parchus a gwrth-hiliol.

Addysg Bellach

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae’r dadansoddiad ystadegol yn Addysg bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Cymunedol yng Nghymru 2022 i 2023 yn dangos bod cyfran y dysgwyr ethnig leiafrifol mewn addysg bellach wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, gan gyrraedd 10% yn 2022 i 2023.

Mae dysgwyr o gefndiroedd ethnig Du yn parhau i gael deilliannau is ar lefel Safon Uwch na grwpiau ethnig eraill, ond maent yn cael deilliannau gwell na’u cyd-ddysgwyr â chanlyniadau TGAU tebyg. Mae’r gwahaniaethau o ran cyflawniad ôl-16 ar gyfer grwpiau ethnig gwahanol hefyd yn dechrau mynd yn llai.

Mae’r dadansoddiad o fesurau perfformiad ôl-16 a chyrchfannau dysgwyr (2020 i 2021) yn dangos mai ymhlith dysgwyr ag ethnigrwydd Gwyn (87%) y gwelir y gyfradd uchaf o symud ymlaen i gyrchfan gadarnhaol barhaus (dysgu pellach a/neu gyflogaeth) ar y cyfan ac mai ymhlith dysgwyr o ethnigrwydd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig, Du Cymreig (79%), a’r rhai o grwpiau ethnig eraill (76%) y gwelir y cyfraddau isaf. Mae dysgwyr o grwpiau ethnig Asiaidd yn fwy tebygol o symud ymlaen i ddysgu pellach parhaus ar ôl gorffen eu hastudiaethau mewn addysg bellach.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil ar raddau ac effeithiau hiliaeth ar ddysgwyr a staff yn y sector addysg bellach. Canfu’r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023, nad yw hiliaeth agored yn brofiad cyffredin erbyn hyn, ond bod gwahaniaethu ar sail hil yn sicr yn bresennol o hyd.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Arweiniodd Coleg Caerdydd a’r Fro lansiad metafyd yn 2023, gan greu "byd rhithwir" a gydadeiladwyd gan arbenigwyr pwnc â phrofiad bywyd o hiliaeth. Mae’r fenter hon, ynghyd â datblygu adnoddau cwricwlwm gwrth-hiliol, yn gamau breision ymlaen. Bydd Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn cydweithio â’r sector addysg bellach a’r sector addysg uwch i wella gweithdrefnau cwyno ac adrodd. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr a staff yn teimlo eu bod wedi eu grymuso i roi gwybod am achosion o hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu. Mae'r prosiect bellach yn ei drydedd flwyddyn ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm gwrth-hiliol ar draws pob sefydliad addysg bellach.

Pennwyd nod newydd, sef sefydlu Medr i fod yn sefydliad addysg drydyddol ac ymchwil gwrth-hiliol hynod effeithiol. Mae Medr yn anelu at roi cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth wrth wraidd ei waith a rhoi arweinyddiaeth i’r sector addysg drydyddol. At hynny, mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i gymryd camau breision i wella cyflawnder data ynglŷn ag ethnigrwydd staff addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Addysg Uwch 

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol 

Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ei adroddiad monitro data cydraddoldeb hil blynyddol cyntaf Ystadegau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn 2024. Mae’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi ar ôl ymgynghoriad ar y defnydd o ddata a dangosyddion, ac addasodd CCAUC y ffordd roedd yn gweithredu ar sail yr adborth a gafwyd.

Bu cynnydd yn nifer a chyfran y ceisiadau gan fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Fodd bynnag, erys gwahaniaethau o ran cadw myfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol a chyrraedd y dosbarthiad gradd uchaf i israddedigion. Mae’r adroddiad data blynyddol yn dangos bod nifer a chyfran y ceisiadau gan fyfyrwyr i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gan bobl o bob cefndir ethnig leiafrifol a arolygwyd wedi cynyddu rhwng 2016 a 2022. Er gwaethaf y cynnydd hwn, roedd graddedigion o gefndiroedd ethnig leiafrifol, fel cyfran, yn llai tebygol o ennill gradd dosbarth cyntaf na graddedigion o gefndir ethnig Gwyn. Graddedigion o gefndiroedd ethnig Du oedd leiaf tebygol o ennill gradd dosbarth cyntaf o blith yr holl grwpiau ethnig lleiafrifol.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae pob prifysgol wedi ymrwymo i ennill nod siarter cydraddoldeb hil erbyn 2025. Mae’r prifysgolion hefyd yn adolygu eu polisïau a’u gweithdrefnau recriwtio o safbwynt gwrth-hiliol ac mae CCAUC wedi cyhoeddi gwybodaeth am fynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog. Yn 2023, cyflwynodd Advance HE ddosbarth meistr ar wrth-hiliaeth i uwch-aelodau o staff mewn prifysgolion er mwyn helpu arweinwyr i sicrhau newid. 

O fis Awst 2024, bydd Medr yn parhau i gefnogi gwaith prifysgolion ar lesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, drwy fonitro bod prifysgolion yn ystyried staff a myfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn briodol a chynnig cymorth wedi’i deilwra iddynt. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod tua chwarter y myfyrwyr o gefndir ethnig lleiafrifol (24%) a 9% o fyfyrwyr Gwyn wedi dweud eu bod wedi cael profiad o aflonyddu hiliol ers dechrau eu cwrs. Gan fod myfyrwyr a staff ethnig leiafrifol hefyd yn fwy tebygol o wynebu effeithiau negyddol ar lesiant ac iechyd (ymchwil i brofiadau myfyrwyr yn y DU, UKCISCA), mae CCAUC wedi rhan-ariannu’r Student Space, sydd wedi rhoi cymorth llesiant ac iechyd penodol i grwpiau penodol o fyfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr Du.

Crynodeb i gloi

I grynhoi, mae ein hymchwil i addysg bellach wedi datgelu bod angen i ddysgwyr a staff deimlo’n fwy hyderus i roi gwybod am hiliaeth. Bydd Medr yn cydweithio â’r sector addysg bellach a’r sector addysg uwch i wella gweithdrefnau cwyno ac adrodd, gan sicrhau bod pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif. Drwy weithio gyda’r holl bartneriaid yn y sector addysg yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, Undebau’r Gweithlu, a’r sector gwaith ieuenctid, byddwn yn sbarduno gweithredu cadarnhaol. Bydd Medr yn chwarae rôl hollbwysig o ran hyrwyddo cydraddoldeb a rhoi arweinyddiaeth ar wrth-hiliaeth er mwyn creu system addysg fwy cynhwysol a thecach i holl ddysgwyr Cymru.

Gwaith Ieuenctid 

Mae gan waith ieuenctid rôl hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi pobl ifanc gyda materion hiliaeth trwy ddysgu anffurfiol ac anffurfiol. Mae'r camau a ddangosir isod yn newydd i'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan adlewyrchu'r maes gwaith hwn. Yn 2021, cyhoeddodd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru ei adroddiad terfynol “Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru: Sicrhau Model Cyflawni Cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ”. Mae’r adroddiad yn cynnwys 14 o argymhellion, gan gynnwys newidiadau mawr o ran sut y dylai Llywodraeth Cymru ac eraill ddatblygu gwasanaethau gwaith ieuenctid er mwyn sicrhau sector cryf a chydnerth, y gall pob person ifanc yng Nghymru gael cyfle i’w ddefnyddio neu gael cynnig ei wasanaethau. Mae gwaith yn mynd rhagddo, yn unol â chyngor y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid, i ddatblygu a gweithredu ar yr argymhellion hyn, y mae un ohonynt yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a’r sector gwaith ieuenctid weithio gyda’i gilydd i “hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, o ran mynediad at wasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac mewn perthynas â’r rôl y gall gwasanaethau gwaith ieuenctid ei chwarae wrth fynd ati i herio agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol mewn cymdeithas”.

Y Gymraeg

Yn unol â Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg Llywodraeth Cymru, mae ffocws cadarn ar ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a rhoi diwygiadau ar waith i wella addysgu’r Gymraeg ym mhob ysgol. Nod yr ymdrechion hyn yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol, gan sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i ddod yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus a bod y Gymraeg yn cael ei hintegreiddio ym mhob maes polisi. 

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn dangos bod 5% o ddisgyblion 5 oed a hŷn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (nid Gwyn Prydeinig) ym mis Ionawr 2024, o gymharu â 17% mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Dangosodd y Cyfrifiad yn 2021 fod tua 16,000 o’r 538,300 o bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn dod o gymunedau ethnig lleiafrifol, sef cynnydd o tua 5,000 ers Cyfrifiad 2011. 

Mae'r ffigur yn cynrychioli'r grwpiau ethnig canlynol: 'Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig', 'Du, Du Prydeinig, Du Cymreig, Caribïaidd neu Affricanaidd', 'Grwpiau ethnig Cymysg neu Lluosog'. Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys 'Gwyn: Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig, Roma neu Gwyn Eraill', yr oedd Cyfrifiad 2021 yn dangos tua 5,400 o siaradwyr Cymraeg yn y grŵp ethnig hwn. Ni gasglwyd data ar y grŵp ethnig hwn yn 2011 felly ni allwn wneud cymhariaeth rhwng y ddau gyfnod amser.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a diwygio’r ffordd y caiff y Gymraeg ei haddysgu ym mhob ysgol. Mae hyn yn cynnwys bwrw ymlaen â’n Bil Addysg Gymraeg, a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2024, sy'n anelu at sicrhau bod pob disgybl, erbyn 2050, yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar bobl ethnig leiafrifol a’u mynediad at y Gymraeg.

Mae cynlluniau at y dyfodol hefyd yn cynnwys hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod ein gweithgarwch marchnata a chyfathrebu yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn a bod y derminoleg Gymraeg a ddefnyddiwn yn briodol ac yn ddiwylliannol sensitif. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu ymchwil i gofnodi profiadau mudwyr o ran cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cyfrannu at gynllun Cenedl Noddfa. Hefyd, rydym yn anelu at sicrhau bod y gweithlu addysgu yn amrywiol, gwella addysg y blynyddoedd cynnar, a chefnogi dysgu ôl-16 drwy raglenni wedi’u teilwra, gan sicrhau dull cynhwysfawr a chynaliadwy o ddysgu’r Gymraeg. 

Crynodeb i gloi

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru, waeth faint yr ydym yn ei siarad. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru yn enwedig ymhlith pobl o leiafrifoedd ethnig. Mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer ein hiaith, ac mae ein strategaeth Cymraeg 2050 yn egluro ein cynlluniau i wireddu'r uchelgeisiau hynny.

Nodau a chamau gweithredu

Erys y nodau cyffredinol yn y bennod o’r Cynllun ar Addysg a’r Gymraeg yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, mae rhai camau gweithredu wedi cael eu diwygio i’w gwneud yn haws i’w cyflawni a’u mesur, ac felly’n haws i fonitro canlyniadau a chynnydd. Mae rhai camau gweithredu newydd hefyd wedi codi o ganlyniad i ddatblygiad naturiol, lle mae hen gamau gweithredu wedi cael eu cwblhau ac mae camau gweithredu dilynol newydd wedi cael eu datblygu.

Ysgolion

Mynd i’r afael â’r profiad o hiliaeth
Nod: gwella profiadau dysgwyr ac athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion

Camau gweithredu:

  • Ystyried y mecanweithiau sydd eu hangen i lunio fformat cyson ar gyfer adrodd ar ddigwyddiadau ac aflonyddu hiliol mewn ysgolion a cholegau. Gwneir hyn drwy brosesau casglu data mwy cadarn, gan gynnwys gwybodaeth am y ffordd yr ymdriniwyd â digwyddiadau, y camau a gymerwyd ac a gafodd yr achos ei ddatrys yn llwyddiannus ar gyfer y dioddefwr, gan ddangos y ganran o ddigwyddiadau sy’n cael eu datrys.
Nod: lleihau’r profiad negyddol o ysgolion gan Sipsiwn, Roma Theithwyr

Camau gweithredu:

  • Gwneud gwaith cwmpasu ar roi’r canllawiau i ysgolion i gefnogi dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar waith a’u heffaith, ac ar y rhwystrau penodol i addysg a wynebir gan ddysgwyr o’r cymunedau hyn.
Nod: sicrhau llesiant dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Camau gweithredu:

  • Cryfhau ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb’ sef canllawiau gwrthfwlio statudol Llywodraeth Cymru i ysgolion. Gwneir hyn drwy ddiweddaru’r canllawiau presennol er mwyn rhoi cyngor i leoliadau addysg ar fynd i’r afael ag achosion o fwlio ac aflonyddu sy’n gysylltiedig â rhagfarn yn effeithiol ac ar sut i fonitro digwyddiadau a’r defnydd o ddata yn effeithiol.
  • Rhoi adnoddau llesiant penodol i ysgolion sy’n canolbwyntio ar anghenion y rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol.
Nod: cymryd camau i sicrhau bod gwaharddiadau’n cael eu defnyddio mewn ffordd nad yw’n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol

Camau gweithredu:

  • Cryfhau ein canllawiau ar wahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion mewn perthynas â dysgwyr y gwyddom y gallant gael eu gwahardd yn barhaol neu dros dro mewn ffordd anghymesur; mae hyn yn cynnwys dysgwyr ethnig leiafrifol a dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) ond nid yw’n gyfyngedig iddynt. Caiff data eu defnyddio o’r Ystadegau Swyddogol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ar waharddiadau parhaol a rhai cyfnod penodol o’r ysgol, sy’n cynnwys data ar waharddiadau yn ôl cefndir ethnig. Parheir i gyhoeddi’r data hyn.
Newid diwylliannol tuag at wrth-hiliaeth: defnyddio adnoddau sy’n bodoli eisoes ac adnoddau newydd i greu newid drwy sefydliad cyfan tuag at wrth-hiliaeth

Y Cwricwlwm: sicrhau bod y cwricwlwm yn wrth-hiliol.

Nod: sicrhau bod straeon, cyfraniadau a hanesion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu haddysgu drwy’r Cwricwlwm i Gymru ar ei ffurf ddiwygiedig

Camau gweithredu:

  • Diweddaru fframwaith a chanllawiau ac adnoddau addysgu’r Cwricwlwm i Gymru i adlewyrchu argymhellion Adolygiad Williams.
Y Gweithlu: cymryd camau gweithredu cadarnhaol i gynyddu nifer y cyflogeion, ar bob lefel, o blith pobl ethnig leiafrifol 
Nod: creu gweithlu addysgu gwrth-hiliol drwy ymgorffori dysgu proffesiynol gwrth-hiliol

Camau gweithredu:

  • Datblygu adnoddau dysgu proffesiynol gwrth-hiliol i helpu i addysgu’r cwricwlwm newydd ar “gampws rhithwir” wedi’i ddylunio ar y cyd i goladu a churadu’r holl ddeunyddiau ac adnoddau gwrth-hiliol. Adolygu, adnewyddu ac ehangu darpariaeth wrth-hiliol, gan symud tuag at gontinwwm dysgu proffesiynol cynaliadwy.
  • Cefnogi lleoliad doethuriaeth PhD newydd i werthuso’r rhaglen Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL). Ymestyn gwaith effaith/gwerthuso DARPL er mwyn ymgorffori dull parhaol o ymarfer gwrth-hiliol yn llawn.
Nod: cynyddu nifer yr athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol sy’n cael eu recriwtio i’r sector addysg, gyda ffocws clir ar recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)

Camau gweithredu:

  • Adolygu a diweddaru’r gofynion gwrth-hiliol yn y Meini Prawf ar gyfer Achredu rhaglenni AGA fel y bo’n briodol, yn barod i’w defnyddio i ailgredydu rhaglenni AGA i’w cyflwyno erbyn mis Medi 2029.
  • Bydd Estyn yn sicrhau bod fframwaith arolygu AGA yn parhau i adlewyrchu natur amrywiol Cymru a’r byd ehangach.
  • Bydd gweithgareddau i hyrwyddo addysgu fel gyrfa yn parhau i gael eu cynnal ym mhob ysgol.
  • Ehangu pynciau neu grantiau cymorth i athrawon dan hyfforddiant a gynigir drwy raglen AGA TAR Cyflogedig (AGA Cyflogedig) lle mae hynny’n ddichonadwy, yn economaidd ac yn addysgol, i ddenu staff cymorth ac ymgeiswyr ehangach o gefndiroedd ethnig leiafrifol, gan gynnwys cyfrwng Cymraeg.
  • Bydd y gweithgor gwrth-hiliol amrywiol sy’n cynnwys rhanddeiliaid yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i oruchwylio’r broses gyflawni a’r camau gweithredu yn y cynllun recriwtio AGA Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’r gwaith gwrth-hiliol ehangach o fewn AGA.
  • Parhau i ddatblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio parhaus, gan gynnwys defnyddio mentrau gweithredu cadarnhaol lle y bo’n briodol, yn benodol i gynyddu nifer yr ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol i gyrsiau AGA, gan gynnwys rhai cyfrwng Cymraeg.
  • Bydd partneriaethau AGA yn parhau yn parhau i adolygu arferion presennol, gan nodi unrhyw ddiffygion yn y prosesau presennol a defnyddio’r canfyddiadau hyn i sicrhau hunanwelliant parhaus er mwyn cael lefelau o gymorth sydd wedi’i gydlunio ac sy’n briodol, yn sensitif ac yn seiliedig ar weithredu cadarnhaol ar waith i helpu ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol ar bob cam o’r broses ymgeisio ac astudio.
  • Bydd partneriaethau AGA yn parhau i adolygu a nodi diffygion mewn prosesau a defnyddio’r canfyddiadau hyn i sicrhau bod materion ynglŷn â gwrth-hiliaeth yn cael eu cryfhau yn ystod y broses ddatblygu barhaus o gymhwyso’r meini prawf achredu.
  • Mewn partneriaeth â’r Gweithgor Gwrth-hiliol, ystyried y dystiolaeth bresennol, cydweithio, cydlunio a chyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru ac ail gam o Gynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Addysg Bellach 

Newid diwyllliannol tuag at wrth-hiliaeth

Defnyddio adnoddau sy’n bodoli eisoes ac adnoddau newydd i greu newid drwy sefydliad cyfan tuag at wrth-hiliaeth.

Nod: mae diwylliant ac arferion gwrth-hiliol wedi’u hymgorffori ym mhob sefydliad addysg bellach a darparwr dysgu oedolion yng Nghymru

Camau gweithredu:

  • Ymgorffori gwaith cynllunio camau gwrth-hiliol drwy’r sector addysg bellach cyfan, gwerthuso cynnydd a sbarduno polisïau ac arferion gwrth-hiliol drwy’r sector cyfan.
  • Gweithio gyda’r sector addysg bellach, rhanddeiliaid a phartneriaid i ymgorffori egwyddorion cynllun 10 pwynt y Black Leadership Group er mwyn sicrhau system addysg bellach wrth-hiliol, gan gynnwys cymorth ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethu amrywiol.
  • Cymryd camau gweithredu mewn ymateb i ymchwil i brofiadau bywyd o hiliaeth mewn addysg bellach, gan gynnwys gwelliannau i brosesau adrodd a chwyno; integreiddio cwestiynau ynglŷn â gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb mewn arolygon o ddysgwyr addysg bellach yn y dyfodol.
  • Cefnogi dysgu proffesiynol i staff drwy’r sector addysg bellach cyfan, er mwyn ehangu a dwysáu gwybodaeth am wrth-hiliaeth a meithrin yr hyder i dynnu sylw at hiliaeth.
Y Cwricwlwm: sicrhau bod y cwricwlwm yn wrth-hiliol
Nod: sicrhau bod cwricwlwm AB modern ar waith gennym, sy’n adlewyrchu Cymru wrth-hiliol

Camau gweithredu:

  • Parhau i gydlunio cwricwlwm addysg bellach a chynnwys tiwtorialau sy’n seiliedig ar egwyddorion gwrth-hiliol a phrofiadau bywyd a’i gyflwyno drwy’r sector addysg bellach cyfan.
  • Parhau i sicrhau cysondeb rhwng Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a fframweithiau cymwysterau eraill y DU a’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd er mwyn cefnogi’r gallu i gymharu cymwysterau a symudedd dysgwyr addysg bellach.
  • Codi ymwybyddiaeth o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a’i hyrwyddo fel modd i helpu i ddeall a chydnabod cymwysterau fel y bo’n briodol. Cyfeirio ymholiadau gan ddysgwyr rhyngwladol mewn addysg bellach ynglŷn â chydwerthedd cymwysterau rhyngwladol a’u cymharu at Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol y DU ar gyfer cydnabod a gwerthuso cymwysterau a sgiliau rhyngwladol (UKENIC).
Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith
Nod: sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael am ethnigrwydd staff ar bob lefel ym maes AB a Dysgu Seiliedig ar Waith, a bod staff yn cael cymorth i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, ni waeth beth fo’u hethnigrwydd

Camau gweithredu:

  • Helpu Cyngor y Gweithlu Addysg i gasglu gwell data ar ethnigrwydd ymarferwyr ôl-16, arweinwyr a gweithwyr cymorth dysgu drwy ennyn ymddiriedaeth fel y bydd mwy o staff yn datgelu eu hethnigrwydd. Sicrhau y caiff y data gwell hyn eu defnyddio i gefnogi polisïau ac arferion recriwtio’r gweithlu.
  • Cydlunio a chymryd camau gweithredu mewn ymateb i ymchwil i brofiadau bywyd staff ethnig leiafrifol yn y sector addysg bellach, gan sicrhau integreiddio â chynlluniau gweithredu gwrth-hiliol sefydliadau eraill; sefydlu trefniadau ar gyfer rhagor o arolygon ac ymchwil er mwyn monitro cynnydd.
Nod: cynyddu nifer y cynrychiolwyr o gymunedau Du, Asiaidd a Ethnig Leiafrifol sy'n hyfforddi i fod yn ymarferwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith

Camau gweithredu:

  • Cymryd camau gweithredu cadarnhaol i annog mwy o ddysgwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol i ennill cymwysterau AGA yn y sector addysg bellach, drwy raglen Cymhellion Addysg Bellach TAR, a gwella prosesau casglu data a thystiolaeth o’r effaith.
  • Nodi unrhyw broblemau recriwtio a chadw ymhlith athrawon addysg bellach o gymunedau ethnig lleiafrifol, a chymryd camau gweithredu cadarnhaol priodol pan fydd eu hangen ac asesu eu heffaith.
Dysgu ôl-16
Nod: caiff cyfranogiad, deilliannau a chynnydd dysgwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol eu monitro’n systematig a chaiff camau eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Camau gweithredu:

  • Cymryd camau i ddeall bylchau mewn cydraddoldeb o ran cyfranogiad a chyrhaeddiad dysgwyr addysg bellach a mynd i’r afael â nhw, gan roi sylw penodol i ethnigrwydd a chroestoriadedd, a sefydlu mentrau a thargedau ar gyfer gwella.
Nod: sicrhau bod addysg bellach a dysgu oedolion cyson o safon uchel ar waith i ddiwallu anghenion mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Camau gweithredu:

  • Rhoi Cynllun Gweithredu ar waith a fydd yn blaenoriaethu argymhellion allweddol yn yr Adolygiad o’r polisi ynglŷn â Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) er mwyn sicrhau bod mwy o ddarpariaeth ESOL o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru a chefnogi integreiddio economaidd a chymdeithasol.

Addysg Uwch

Newid diwylliannol tuag at wrth-hiliaeth

Defnyddio adnoddau sy’n bodoli eisoes ac adnoddau newydd i greu newid drwy sefydliad cyfan tuag at wrth-hiliaeth.

Nod: gall staff a myfyrwyr ddisgwyl i’w profiad o AU fod yn gadarnhaol, ni waeth beth fo’u cefndir hil ac ethnig

Camau gweithredu:

  • Gweithio gyda phrifysgolion, rhanddeiliaid a phartneriaid i ymgorffori a rhannu’r hyn a ddysgir o’r gwaith cynllunio gweithredu ar gyfer y nod siarter cydraddoldeb hil a datblygiadau sy’n cyfrannu at sicrhau system addysg uwch wrth-hiliol.
  • Gweithio gyda darparwyr addysg uwch i hyrwyddo gwrth-hiliaeth a chyfle cyfartal a sicrhau system addysg uwch decach i staff, ymgeiswyr a myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym maes addysg uwch, gan gynnwys o ran llesiant, iechyd ac iechyd meddwl a mynd i’r afael â thrais, aflonyddu a cham-drin o bob math.
  • Adeiladu ac ehangu data a thystiolaeth, casglu a chyhoeddi canfyddiadau i nodi anghydraddoldebau, hyrwyddo mynediad teg i addysg uwch a gwella amrywiaeth ymhlith myfyrwyr a dderbynnir os yw ar lefel isel, a chau’r bwlch o ran gwahaniaethau mewn graddau nas esbonnir i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Nod: gwell defnydd o’r sbardunau sydd ar gael i hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol ym maes addysg uwch

Camau gweithredu:

  • Codi ymwybyddiaeth, hyrwyddo dysgu a rhannu ymarfer i wella polisïau adnoddau dynol gwrth-hiliol, gan gynnwys polisïau cyflog a llesiant staff, iechyd ac iechyd meddwl mewn addysg uwch.
  • Bydd pob prifysgol yn ymgorffori camau gweithredu gwrth-hiliol a gwaith cynllunio ac yn gwerthuso cynnydd yn erbyn eu hymrwymiadau o dan y nod siarter bob blwyddyn er mwyn gwireddu eu huchelgeisiau i fod yn sefydliadau gwrth-hiliol. 
Nod: sefydliad addysg ac ymchwil trydyddol gwrth-hiliol hynod effeithiol

Camau gweithredu:

  • Bydd Medr yn rhoi cyfle cyfartal a gwrth-hiliaeth wrth wraidd popeth a wna, gan gynnwys rhoi arweinyddiaeth ar wrth-hiliaeth, gan sicrhau bod polisïau a chyllid yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau a gweithio gyda’r system drydyddol, rhanddeiliaid, partneriaid, dysgwyr a myfyrwyr ac mewn partneriaeth gymdeithasol â chynrychiolwyr staff.

Gwaith Ieuenctid

Nod: hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, o ran mynediad i wasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac mewn perthynas â’r rôl y gall gwasanaethau gwaith ieuenctid ei chwarae i fynd ati’n rhagweithiol i herio agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol mewn cymdeithas
Camau gweithredu
  • Cynnal cyfres o drafodaethau â phobl ifanc er mwyn deall yn well sut mae ymddygiad hiliol wedi eu rhwystro nhw a’u cyfoedion rhag cael mynediad i waith ieuenctid, gyda’r nod o ddefnyddio’r dystiolaeth hon i geisio ffyrdd o ddileu’r rhwystrau hyn.
  • Cynnal cyfres o drafodaethau â phobl ifanc i ddeall yn well sut mae darpariaeth gwaith ieuenctid wedi eu helpu nhw a’u cyfoedion i fynd i’r afael â hiliaeth mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol, a rhannu’r dystiolaeth hon â’r sector gwaith ieuenctid, a’r sector addysg statudol ehangach er mwyn helpu i lywio’r ffordd y caiff darpariaeth ei llunio yn y dyfodol.
  • Fel rhan o waith ehangach i ddatblygu gweithlu gwaith ieuenctid sy’n gwneud gwahaniaeth dros bobl ifanc o bob cefndir, ac sy’n rhoi cymorth a chyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr gwaith ieuenctid ar y canlynol: 
    • effaith hiliaeth a’r rhwystrau y gall hyn eu creu sy’n atal pobl ifanc rhag ymgysylltu â gwasanaethau gwaith ieuenctid
    • datblygu adnoddau a sgiliau i alluogi ymarferwyr gwaith ieuenctid i ennyn hyder i herio hiliaeth mewn lleoliadau gwaith ieuenctid a helpu’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw i herio hiliaeth mewn cymdeithas a chreu gweithlu gwaith ieuenctid gwrth-hiliol
  • Cynnal gweithdai i roi cyfle i Lywodraeth Cymru a’r rhai sy’n cael grantiau ganddi rannu gwybodaeth ynglŷn â sut y caiff penderfyniadau cyllido eu gwneud, gan gynnwys cyllid i gefnogi gwrth-hiliaeth yn y sector gwaith ieuenctid, er mwyn sicrhau mwy o dryloywder ynglŷn â sut mae cyllid yn cael ei ddarparu a’i ddyrannu.

Y Gymraeg

Nod: sicrhau bod lleisiau siaradwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed a bod eraill yn gwrando arnynt a bod rhagor yn cael ei wneud i hyrwyddo mynediad at y Gymraeg ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol ym meysydd addysg, dysgu’r iaith, y gweithle a gweithgareddau cymunedol
Camau gweithredu
  • Rhoi llais cryfach i ryw 21,000 o siaradwyr Cymraeg o gymunedau ethnig lleiafrifol a gwrando ar eu profiadau bywyd a hynny er mwyn deall eu profiadau bywyd yn well. Dylai gweithgarwch dysgu ac ymgysylltu lywio camau gweithredu ac ymyriadau yn y dyfodol er mwyn dileu hiliaeth yng Nghymru.
  • Pennu targedau a disgwyliadau ar gyfer dulliau gweithredu gwrth-hiliol i sefydliadau sy’n cael cyllid grant. Sicrhau bod y targedau a bennir yn rhai gwirioneddol ac yn berthnasol i gyd-destun pob partner. Dylai’r gweithgarwch hefyd gynnwys gweithio gyda phartneriaid i lunio a chwblhau camau gweithredu, yn enwedig o fewn fframwaith gweithredu cadarnhaol, er mwyn gwella cynrychiolaeth yng ngweithlu eu priod sefydliad.
  • Gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i weithredu ei chynllun gweithredu gwrth-hiliaeth a pharhau i fonitro cynnydd drwy’r systemau presennol ar gyfer monitro grantiau.
  • Comisiynu’r gwaith o ddatblygu adnoddau gwrth-hiliol amlieithog ac astudiaethau achos i helpu i gynyddu’r niferoedd mewn cymunedau ethnig lleiafrifol sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Dadansoddi data blynyddol CYBLD ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg a pharhau i ddatblygu ac adeiladu ar strategaethau lleol a chenedlaethol i gynyddu’r nifer hwn a mynd i’r afael â’r rhwystrau i gael addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Drwy gyllid grant blynyddol, cynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n cymryd rhan yn rhaglen Cymraeg Campus. Ei nod yw rhoi fframwaith clir i ysgolion y gellir ei ddefnyddio i hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant yng nghyd-destun ysgol gyfan, hyrwyddo ethos Cymraeg cadarn mewn ysgolion a darparu ystod o weithgareddau cyfoethogi sy’n annog dysgwyr i fwynhau dysgu Cymraeg.
  • Parhau i hyrwyddo’r canllawiau ar derminoleg ymhlith partneriaid ac yn fewnol yn Llywodraeth Cymru er mwyn annog y defnydd o derminoleg Gymraeg wrth-hiliol briodol; yn seiliedig ar fewnbwn gan siaradwyr Cymraeg o gymunedau ethnig lleiafrifol.
Nod: sicrhau bod yr holl adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg a’r deunyddiau atodol yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu dyfnder gwirioneddol ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ac yn osgoi stereoteipio a chamfeddiannu diwylliannol ar yr un pryd
Camau gweithredu
  • Bydd Adnodd (a sefydlwyd ym mis Ebrill 2023 i oruchwylio’r gwaith o gomisiynu a datblygu deunyddiau addysgu a dysgu Cymraeg a dwyieithog) yn bwrw ymlaen â gwaith i nodi bylchau mewn adnoddau a fydd yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid a hefyd yn parhau â’i waith gyda Llywodraeth Cymru yn ei hadolygiad o’r holl adnoddau presennol ar Hwb er mwyn helpu i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.
  • Gan weithio mewn partneriaeth â Hwb, datblygu strategaeth gynnwys i sicrhau bod trefniadau comisiynu yn y dyfodol (gan gynnwys fframweithiau sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu’r gwaith o ddatblygu a chynhyrchu adnoddau) yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru a pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae portffolio Addysg a’r Gymraeg wedi bod yn cydweithio gydag:

  • Awdurdodau Lleol
  • Llywodraeth Cymru
  • y Gwasanaethau Addysg i Deithwyr
  • Sefydliadau rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Trydydd Sector
  • Penaethiaid
  • Pwyllgor Disgyblu Disgyblion
  • Estyn
  • Consortia Rhanbarthol
  • Prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARL)
  • Partneriaeth AGA
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Gyrfa Cymru
  • Ysgolion
  • Y Brifysgol Agored
  • Medr
  • Black Leadership Group
  • Colegau Cymru
  • Sefydliadau Addysg Bellach
  • Partneriaid a Grŵp Cynghori FfCChC
  • Undebau Llafur ar y cyd
  • Darparwyr Addysg Drydyddol
  • Prifysgolion Cymru
  • Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol a Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
  • Cymraeg 2050 a’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn Llywodraeth Cymru
  • Sefydliadau sy’n Cael Cyllid Grant
  • Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Staff cyfathrebu Llywodraeth Cymru ac yn olaf
  • Adnodd

Mae’r arweinwyr a’r partneriaid hyn wedi helpu i adolygu, ffurfio ac adnewyddu nodau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae is-grŵp y Cynllun ar Addysg a’r Gymraeg wedi cynnig llwyfan i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Diwylliant, treftadaeth a chwaraeon

Crynodeb o’r Dystiolaeth: cynlluniau Presennol a Chynlluniau ar gyfer y Dyfodol

Mae’r adran o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy’n ymwneud â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: arweinyddiaeth, cyllido, dathlu amrywiaeth, y naratif hanesyddol a dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol. Nodwyd y rhain yn feysydd â blaenoriaeth drwy ymgynghori ac ymgysylltu uniongyrchol â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ystod y broses o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyllid grant amlflwydd ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2022 i 2025 i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Nodau Diwylliant, Treftadaeth a ChwaraeonMae hyn yn cynnwys cyrff hyd braich a sefydliadau lleol, rhanbarthol ac ar lawr gwlad. Mae’r ffocws ar ddad-drefedigaethu casgliadau amgueddfeydd, creu mannau cynhwysol, a chynyddu lefelau ymgysylltu a chyfranogi ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae’r Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad wedi ariannu mwy na 50 o grwpiau, gyda mwy na 90% yn rhai a arweinir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mae data o arolygon ac adroddiadau, gan gynnwys yr Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd  a’r adroddiad Llesiant Cymru 2023: Ethnigrwydd a Llesiant, wedi cael eu defnyddio i ddeall cyfraddau cyfranogi ymhlith oedolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru yn tynnu sylw at anghysondebau mewn cyfraddau cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm ysgol ymhlith pobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Yn 2024 i 2025, caiff gwerthusiad damcaniaeth newid annibynnol ei gynnal i asesu effaith ac effeithiolrwydd y cynlluniau grant. Bydd y canfyddiadau yn llywio nodau a chamau gweithredu yn y dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu trafodaethau ar arweinyddiaeth a chynrychiolaeth â chyrff hyd braich. Caiff llwyfan dysgu digidol ei ddatblygu i gryfhau dysgu a datblygiad proffesiynol ar wrth-hiliaeth yn y sectorau Diwylliant, Treftadaeth, a Chwaraeon.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd o’r rhaglenni o gyllid grant yn dangos bod newid penodol wedi bod tuag at fwy o ymgysylltu a chyfranogi mewn gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth, a chwaraeon ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae’r cynnydd hwn yn deillio’n uniongyrchol o’r cyllid wedi’i dargedu ar gyfer diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, sydd wedi bod yn fodd i barhau â’r broses o ddad-drefedigaethu casgliadau amgueddfeydd a sefydlu mannau cynhwysol, gan hwyluso ffordd ehangach o ddehongli diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau. Mae’r Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad a weinyddir gan Diverse Cymru wedi mabwysiadu dulliau newydd o ehangu mynediad i gyllid i grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. O ganlyniad, mae’r Cynllun hwn wedi ariannu mwy na 50 o grwpiau a sefydliadau, gyda mwy na 90% ohonynt yn cael eu harwain gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Hefyd, nododd yr Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd fod 23% o amgueddfeydd lleol a chenedlaethol yng Nghymru wedi cynnig rhaglenni sy’n ymwneud yn benodol â chymunedau ethnig lleiafrifol yn 2022. 

Mae prosiect Sport4All wedi galluogi dros 200 o fenywod a merched ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol amrywiol i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadw’n heini a chwaraeon. Hefyd, mae Amgueddfa Cymru wedi creu adnoddau newydd er mwyn helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys adnodd dysgu Windrush Cymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi mynd at i sicrhau bod y Bywgraffiadur Cymreig yn fwy amrywiol drwy gomisiynu erthyglau newydd am bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 

Bydd y ffocws yn y dyfodol ar ddogfennu arferion gorau a gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglenni a ariennir drwy grantiau ar hyn o bryd er mwyn gwella ein dull gweithredu o 2025 i 2026, gan gynnwys anelu at greu llwyfan dysgu digidol i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus mewn gwrth-hiliaeth yn y sectorau Diwylliant, Treftadaeth, a Chwaraeon. 

Crynodeb i gloi 

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrth-hiliaeth ym maes Diwylliant, Treftadaeth, a Chwaraeon yn amlwg drwy ei chyllid amlflwydd, ei chynlluniau grant wedi’u targedu, a’i phrosesau monitro cadarn. Mae’r penderfyniad i sefydlu Is-grŵp Atebolrwydd Allanol ar gyfer Diwylliant, Treftadaeth, a Chwaraeon yn sicrhau bod lefel o graffu a chefnogaeth o ran sut mae’r nodau a’r camau gweithredu’n cael eu cyflawni. Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru yn dechrau ysgogi ymchwilio beirniadol o fewn sefydliadau ynghylch sut y gallant greu amgylcheddau mwy cynhwysol, gan ddathlu safbwyntiau diwylliannol amrywiol, a hyrwyddo arferion gwrth-hiliol ledled Cymru.

Nodau a chamau gweithredu

Erys nodau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon ar gyfer 2024 i 2025 yn ddigyfnewid am nad yw eu terfynau amser y cytunwyd arnynt wedi dod i ben eto. Mae’r partneriaid cyflawni, gyda chymorth y rhaglenni cyllid grant a llythyrau cylch gwaith y llywodraeth, wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu presennol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ystyried anghenion sy’n dod i’r amlwg a datblygiadau yn y sector drwy ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth.

Arweinyddiaeth

Nod: dwyn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus i gyfrif am roi mesurau a chamau gweithredu gwrth-hiliol ar waith, fel y’u nodir yn y cynllun gweithredu hwn
Camau gweithredu
  • Ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ac uwch-arweinwyr pob sefydliad a ariennir fodloni gofynion perfformiad mewn perthynas â gwrth-hiliaeth. Mae’n bosibl y caiff y gofynion hyn eu nodi drwy lythyrau cylch gwaith, llythyrau dyfarnu grant ac amodau grant eraill fel y bo’n briodol.
  • Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sefydlu amgylcheddau gwaith sy’n gynhwysol iawn ac yn wrth-hiliol, gan gynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth fel elfen graidd dysgu a datblygiad proffesiynol.
  • Sicrhau bod sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yn casglu/adolygu data ar amrywiaeth ethnig ym mhob rhan o’r sefydliad ac, fel y bo’n briodol, yn rhoi camau ar waith i gynyddu amrywiaeth ethnig ar bob lefel, yn benodol mewn timau arwain ac ar fyrddau, drwy gynnig cyfleoedd swyddi o ansawdd ym meysydd cynllunio, dylunio, curadu a gwneud penderfyniadau a mesur cynnydd.
  • Annog pob sefydliad a ariennir yn gyhoeddus i fabwysiadu polisïau recriwtio ‘cadarnhaol’ a fydd yn cefnogi ac yn galluogi ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a llwybrau gyrfa ar eu cyfer; er enghraifft, drwy adolygu a diwygio dyluniad ffurflenni cais a dulliau hysbysebu swyddi, a darparu hyfforddiant i ymgeiswyr a phaneli dethol.
  • Adolygu’r systemau presennol ar gyfer rhoi gwybod am gwynion yn ymwneud â gwahaniaethu, ac ymdrin â nhw, gan gynnwys nodi a dileu pob math o wahaniaethu ar sail hil.

Cyllid

Nod: gweithio gyda’r cyrff a noddir gennym i sicrhau eu bod yn defnyddio eu pwerau gwario i roi arferion gwrth-hiliol ar waith, hwyluso mynediad a chanlyniadau cydradd, a chynyddu lefelau cyfranogiad ymhlith pobl ethnig leiafrifol i’r eithaf
Camau gweithredu
  • Cynnal asesiadau ariannol manwl (gan gynnwys gwariant ar y gweithlu) a phennu gofyniad adrodd penodol ynglŷn â sut y caiff sefydliadau llawr gwlad eu cefnogi a sut y caff adnoddau cyllid eu defnyddio ar hyn o bryd. Dylai hyn fod yn seiliedig ar ddata ansoddol a meintiol a phrofiadau bywyd.
  • Adolygu’r broses gwneud cais am gyllid er mwyn gwella canlyniadau i bobl neu sefydliadau a arweinir gan bobl Ddu Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys, drwy gefnogi ymgeiswyr a darpar ymgeiswyr i wneud ceisiadau.
  • Gweithio gyda chyrff cyllido i sicrhau bod cyd-lunio yn cael ei ymgorffori yn y gwaith o ddatblygu prosiectau a ariennir, gan weithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn gwella canlyniadau i grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Nodi adnodd penodol wedi’i neilltuo i gefnogi gweithgareddau diwylliannol, creadigol a chwaraeon ar lawr gwlad ymhlith grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a hyrwyddo hyn i annog ceisiadau, gan ystyried anfanteision croestoriadol a materion penodol yn ymwneud ag ieithoedd cymunedol.
  • Annog menywod a merched o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i fyw bywydau egnïol, gan ystyried anfanteision croestoriadol, ieithoedd a’r grwpiau mwyaf difreintiedig.

Dathlu amrywiaeth

Nod: helpu pob rhan o gymdeithas yng Nghymru i groesawu a dathlu ei threftadaeth ddiwylliannol amrywiol, gan ddeall a chydnabod yr hawl i ryddid mynegiant diwylliannol
Camau gweithredu
  • Cyd-lunio cyfleoedd â sefydliadau cymunedol llawr gwlad i annog unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys menywod, merched, pobl anabl, yr henoed, pobl sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+, a phobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf) i fynegi eu creadigrwydd, eu treftadaeth, eu hiaith, eu hunaniaeth ddiwylliannol a’u gwreiddiau. Bydd y gweithgareddau hyn yn galluogi pobl i ddod ynghyd i ddathlu ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ond cyffredin, gan gynnwys drwy’r celfyddydau gweledol a pherfformio, gan gynnwys celf stryd gyfoes, ffasiwn, barddoniaeth, dawns, chwaraeon a cherddoriaeth.
  • Sicrhau bod deunyddiau marchnata a hysbysebu yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu gwir ddyfnder ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol, gan osgoi stereoteipiau a chamfeddiannu diwylliannol.
Cam Gweithredu newydd
  • Defnyddio mecanweithiau cyllido Cymru Greadigol a’i chydberthynas â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys drwy ddatblygu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth â’r BBC a S4C, i annog a chefnogi sector mwy gwrth-hiliol sy’n llunio cynnwys sy’n adlewyrchu realiti ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ac sy’n cynnig cyfleoedd i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o flaen y camera a’r tu ôl iddo.
  • Gweithio gyda phartneriaid drwy grwpiau rhanddeiliaid Cymru Greadigol ar gyfer sectorau â blaenoriaeth a thrwy’r Panel Cynghori Sgiliau Creadigol i hyrwyddo pwysigrwydd ffocws a chamau gweithredu gwrth-hiliol sy’n mynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y diwydiannau creadigol ac sy’n cefnogi llwybrau cynhwysol i mewn i’r sector.

Y naratif hanesyddol

Nod: gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb (yn unigol ac ar y cyd) am gyflwyno’r naratif hanesyddol priodol, gan hyrwyddo a chyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi’i ddad-drefedigaethu o’r gorffennol – disgrifiad sy’n cydnabod anghyfiawnderau hanesyddol ac effaith gadarnhaol cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Camau gweithredu
  • Adolygu a dad-drefedigaethu ein mannau a’n casgliadau cyhoeddus drwy ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.
  • Gweithio gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i nodi a chodi rhwystrau i fwynhau safleoedd treftadaeth a chasgliadau diwylliannol.
  • Adrodd straeon o safbwynt profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (ddoe a heddiw) yn ein horielau a’n hamgueddfeydd, gan gynnwys drwy arddangosiadau parhaus, a thrwy ddathlu eu cyfraniad a chydnabod eu presenoldeb yn hanes Cymru.
  • Bydd cyrff perthnasol yn adrodd ar y ffordd y maent wedi adolygu ac wedi ail-lunio’r naratif hanesyddol yn seiliedig ar brofiadau amrywiol, gan sicrhau y caiff unigolion a grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n cymryd rhan ac yn rhannu eu profiadau ymarferol eu talu’n briodol am eu hamser a’u profiad.

Dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol

Nod: nodi a chyrraedd targedau i gyflwyno addysg a dysgu gwrth-hiliol; gan gynnwys deunyddiau dehongli, marchnata ac addysgol sy’n cydnabod ac yn dathlu cymysgedd diwylliannol cyfoethog ac amrywiol ein cymdeithas, yn annog ymgysylltu corfforol a deallusol eang ac yn hyrwyddo arferion ac egwyddorion gwrth-hiliol drwyddi draw
Camau gweithredu
  • Adolygu cynnwys ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol i wella gwelededd ac annog hygyrchedd – gan chwilio am grwpiau ac unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a gweithio gyda nhw i ddatgelu straeon heb eu hadrodd a dathlu llwyddiant.
  • Adeiladu ar straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n rhan o raglenni addysgol a diwylliannol sy’n bodoli eisoes a chysylltu’r straeon hynny ymhellach, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, Cyfuno, Hwb, Cynefin a Chasgliad y Werin Cymru.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon wedi bod yn cydweithio ag:

  • Amgueddfa Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Chwaraeon Cymru
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Diverse Cymru ac eraill

Mae’r partneriaid a’r sefydliadau arweiniol hyn yn allweddol o ran cyflawni’r nodau a’r camau gweithredu a amlinellir yn y Cynllun a sicrhau llwyddiant gwahanol brosiectau a mentrau. Mae is-grŵp y Cynllun wedi cynnig llwyfan i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Iechyd

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Ers cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022, bu ffocws ar wella prosesau casglu data, tryloywder, a gwaith dadansoddi er mwyn deall profiadau staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’r rhai sy’n ceisio gofal a chymorth.

Mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio eu pwerau i sicrhau bod byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, ac awdurdodau iechyd arbennig yn GIG Cymru yn dangos arweinyddiaeth wrth-hiliol weladwy. Mae pob sefydliad wedi penodi hyrwyddwyr cydraddoldeb gweithredol ac wedi llunio cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth. Hefyd, mae’r broses o gyflwyno Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu wedi dechrau sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau ym mhrofiadau staff y GIG. Disgwylir i sefydliadau GIG Cymru ddefnyddio’r data hyn i fireinio a blaenoriaethu camau gweithredu yn eu cynlluniau gwrth-hiliaeth lleol. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu goruchwylio a’u gwerthuso, sy’n sicrhau atebolrwydd ar y lefelau uchaf.

Caiff polisïau ar gyfer gweithlu’r GIG yng Nghymru yn y dyfodol eu llywio gan argymhellion adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar brofiadau gweithwyr ethnig leiafrifol â chyflogau is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol (2022) a’r Archwiliad annibynnol o Bolisi Gweithlu GIG Cymru (Diverse Cymru, 2023).

Er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau iaith, mae mesurau megis gwella mynediad at gyfieithwyr, fel y’i hawgrymwyd yn yr astudiaeth o Brofiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru yn 2023 yn cael eu rhoi ar waith.

Hefyd, mae canfyddiadau allweddol o’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant newydd, yn ogystal â’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, yn cael eu hadolygu i’w rhoi ar waith.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae’r cyflawniadau allweddol yn cynnwys gweithredu Rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru i wella prosesau olrhain data a phenderfyniadau clinigol mewn amser real. Sefydlu’r fforwm cymorth cymheiriaid, Mamolaeth Ddigidol Cymru, i roi arweiniad a grymuso pobl ethnig leiafrifol yn y gweithlu, a chyflwyno pecyn e-ddysgu sylfaen ar ymarfer gwrth-hiliol i holl staff y GIG. Mae fframwaith ymgysylltu amenedigol i Gymru gyfan hefyd yn cael ei ddatblygu ar y cyd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cymunedau, a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau prosesau llunio polisïau cynhwysol. Mae prifysgolion yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm bydwreigiaeth, gwella prosesau recriwtio, a hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a lleihau rhagfarn ddiarwybod ar yr un pryd. Nododd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Iechyd Meddwl Lleiafrifoedd Ethnig ddata a oedd yn ymwneud â mynediad cymunedau ethnig lleiafrifol at wasanaethau iechyd meddwl a’u profiadau ohonynt, gan gefnogi newidiadau i leihau annhegwch a gwella’r ffordd y darperir gwasanaethau. Bydd canllawiau arfer da Gwelliant Cymru i wella mynediad pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol at ymyriadau seicolegol a’u hansawdd ar gael i GIG Cymru yn fuan. Mae Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn cynnwys ffocws ar effeithiau hiliaeth, ac mae Amser i Newid Cymru yn parhau i gydweithio â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i greu deunyddiau ymgyrchu a hyfforddi ystyrlon i fynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Bydd meysydd i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol yn cynnwys ymdrech o hyd i fynd i’r afael â gwahaniaethau ar sail hil a nodwyd gan ddata Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu a’r Archwiliad annibynnol o Bolisi Gweithlu GIG Cymru (Diverse Cymru, 2023), gan gryfhau systemau cwynion i sicrhau tryloywder ac effeithiolrwydd wrth roi gwybod am hiliaeth, a gwella cynrychiolaeth a chynghreiriaeth ar bob lefel yn GIG Cymru.

Crynodeb i gloi

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol wedi gosod sylfaen gadarn dros newid systemig ym maes gofal iechyd, ac mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud. Fodd bynnag, er bod llawer o gynnydd wedi’i wneud, mae’n amlwg o hyd fod angen gwneud mwy, a hynny’n gynt. Parheir i roi gwybod am achosion o hiliaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol y tu mewn i’r systemau cwynion presennol a’r tu allan iddynt. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod GIG Cymru yn wrth-hiliol ac yn gynrychioliadol o’i weithlu a bydd yn cael ei llywio gan y meysydd blaenoriaeth a osodwyd gan y Grŵp Atebolrwydd Allanol. Mae blaenoriaethau allweddol yn cynnwys: 

  • ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau’r GIG fynd i’r afael â’r gwahaniaethau ar sail hil a nodwyd gan ddata Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ac integreiddio argymhellion o adolygiadau o bolisïau’r gweithlu
  • rhoi Rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru ar waith i wella prosesau olrhain data a chanlyniadau iechyd i gymunedau ethnig lleiafrifol
  • cydweithio â phobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ymateb i’w heriau a’u hanghenion penodol
  • cryfhau systemau cwynion i sicrhau tryloywder, cymorth effeithiol, a datrysiadau adferol
  • ymgorffori gwrth-hiliaeth mewn prosesau cynllunio a goruchwylio, gyda fframweithiau atebolrwydd i fonitro cynnydd

Bydd y Grŵp Atebolrwydd Allanol yn parhau i chwarae rôl hollbwysig i sicrhau bod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cael ei roi ar waith yn effeithiol, gyda ffocws ar arweinyddiaeth, data, a mynediad at wasanaethau. Gyda’n gilydd, gallwn greu system gofal iechyd sy’n wirioneddol wrth-hiliol a theg i bawb. 

Nodau a chamau gweithredu

Erys y pum nod cyffredinol yn y bennod ar iechyd yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, mae rhai camau gweithredu wedi cael eu haddasu i wella’r ffordd y cânt eu cwblhau, eu heffaith a’r gallu i’w mesur, a fydd yn ei gwneud yn haws i fonitro canlyniadau a chynnydd. Mae rhai camau gweithredu newydd hefyd wedi codi o ganlyniad i ddatblygiad naturiol, lle mae hen gamau gweithredu wedi cael eu cwblhau ac mae camau gweithredu dilynol newydd wedi cael eu datblygu.

Arweinyddiaeth

Nod: bydd y GIG yng Nghymru yn wrth-hiliol ac ni fydd yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu nac anghydraddoldeb i gyflogeion na defnyddwyr gwasanaethau
Camau gweithredu
  • Mynnu arweinyddiaeth wrth-hiliol ar bob lefel drwy gyfarwyddyd. Bydd pob un o Fyrddau, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig y GIG yn nodi cynnydd y gellir ei ddangos o ran hyrwyddo gwrth-hiliaeth ar bob lefel drwy’r canlynol: 
    • Rhoi sicrwydd bod yr hyrwyddwyr cydraddoldeb gweithredol penodedig yn gweithio gyda rhwydweithiau staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gyd-ddatblygu cynlluniau gwrth-hiliaeth blynyddol y sefydliad er mwyn unioni unrhyw achosion o annhegwch a nodir gan y gweithlu ac mewn ffynonellau data ar gleifion e.e. Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu a’r Archwiliad annibynnol o Bolisi Gweithlu GIG Cymru (Diverse Cymru, 2023).
Cam gweithredu blaenoriaeth 1 newydd:
  • Defnyddio’r fframweithiau deddfwriaethol presennol i’w gwneud yn ofynnol i sefydliadau’r GIG ddatblygu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth, ar gyfer cyflogaeth a darparu gwasanaethau, fel rhan benodol o’r ffordd ehangach y maent yn ymdrin â chydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth. Bydd cynnydd a wneir o ran rhoi’r cynlluniau ar waith yn cael ei nodi drwy’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’i fonitro drwy systemau Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig a sicrwydd polisïau.
Camau gweithredu
  • Bydd pob un o aelodau bwrdd y GIG yn dangos arweinyddiaeth wrth-hiliol drwy eu hamcan amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn sicrhau bod cynllun gwrth-hiliaeth eu sefydliad yn cael effaith ystyrlon.
  • Bydd Uwch-arweinwyr Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn monitro yn erbyn Nodau a Chamau Gweithredu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn sicrhau cynnydd ar y cyd drwy Fwrdd Gweithredu a Herio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Nod: y gweithlu; bydd staff yn gweithio mewn amgylcheddau diogel a chynhwysol, sydd wedi’u hadeiladu ar arweinyddiaeth wrth-hiliol ac yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial llawn, a chaiff staff ethnig lleiafrifol a’u cynghreiriaid eu grymuso i nodi arferion hiliol a mynd i’r afael â nhw
Camau gweithredu
  • Bydd Byrddau, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig y GIG a Fforwm Partneriaeth Cymru yn gweithredu ar argymhellion yr Archwiliad annibynnol o Bolisi Gweithlu GIG Cymru (Diverse Cymru, 2023), gan weithio gyda grwpiau staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i helpu i’w rhoi ar waith yn effeithiol.
  • Bydd Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) a sefydliadau’r GIG yn cydlunio rhaglenni addysg gwrth-hiliol â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Bydd yn ofynnol i holl staff y GIG, gwirfoddolwyr y GIG a myfyrwyr gwblhau rhaglenni addysg gwrth-hiliol ar eu newydd wedd.
  • Bydd pob un o sefydliadau’r GIG yn ymrwymo i barhau i fod yn rhan o Raglen Darpar Aelodau Bwrdd, gan sicrhau addysg, mentora a chymorth i gyfranogwyr a fydd yn dod o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Bydd Academi Wales yn gweithio mewn partneriaeth â’r GIG a sefydliadau priodol eraill i ddatblygu a chynnal Rhaglen i Ddarpar Aelodau Bwrdd.
  • Bydd AaGIC yn sicrhau bod pob rhaglen sy’n cael ei chomisiynu yn rhoi tystiolaeth o egwyddorion gwrth-hiliol ac yn adlewyrchu Cynllun Cydraddoldeb Strategol AaGIC er mwyn cyflawni amcanion ynglŷn â gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad, ehangu mynediad a thangynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn GIG Cymru.
Nod: caiff data ar hil, ethnigrwydd ac anfantais groestoriadol eu casglu’n rheolaidd, eu rhannu a’u defnyddio mewn ffordd dryloyw, er mwyn dileu anghydraddoldebau mewn iechyd a mynediad at wasanaethau iechyd, a rhoi sicrwydd bod GIG Cymru yn amgylchedd gwrth-hiliol a diogel i staff a chleifion
Cam blaenoriaeth 2
  • Bydd Byrddau, Ymddiriedolaethau, ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yn parhau i wneud y canlynol:
    • gwella ansawdd data ar y gweithlu
    • hwyluso a chefnogi prosesau casglu data yn erbyn dangosyddion Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu
    • craffu ar ddata Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu i gymryd camau gweithredu gwrth-hiliol wedi’u targedu ar gyfer gweithlu sy’n cael eu cofnodi mewn cynlluniau gweithredu gwrth-hiliol sefydliadol, mewn ymateb i sylfaen dystiolaeth drwy newid strwythurol a dargedir
Cam gweithredu blaenoriaeth 3 newydd
  • Rhoi prosesau systemig ar waith i fonitro pryderon ynglŷn â gwahaniaethu a bwlio yn y gweithlu a godir gan y staff drwy broses y Tîm Gweithredol ar y Cyd.
Camau gweithredu
  • Sicrhau bod y gwaith o ddatblygu setiau data yn GIG Cymru yn ystyried nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys ethnigrwydd.
Nod: byddwn yn nodi ac yn chwalu rhwystrau sy’n atal mynediad teg at wasanaethau gofal iechyd i bobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam blaenoriaeth 4
  • Cefnogi a goruchwylio cam gweithredu’r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol (2024-2027), gyda’r nod o gymryd camau gweithredu lleol a chenedlaethol i gefnogi gwelliannau ym mhrofiadau a chanlyniadau menywod, babanod a’u teuluoedd o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Camau gweithredu
  • Sefydlu gweithgor penodol i nodi a gwneud argymhellion i ddileu rhwystrau sy’n atal pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhag cael mynediad teg at wasanaethau gofal iechyd.
  • Bydd “Amser i Newid Cymru” yn parhau i gyflwyno rhaglen iechyd meddwl gwrth-stigma gwrth-hiliol sydd wedi cael ei chydlunio â phobl sydd â phrofiad bywyd a chan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Nod: bydd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn hyderus bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a bod eu llais yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sy’n effeithio arnynt
Camau gweithredu
  • Cyflawni’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu a nodwyd yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a’r cynlluniau cyflawni ategol er mwyn sicrhau mynediad, profiad a chanlyniadau teg i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • Mae hyn yn cynnwys rhoi’r Rhaglen Iechyd Meddwl Strategol a’r Rhwydweithiau Clinigol Strategol ar waith i wella ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
  • Bydd y Rhaglen Genedlaethol Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yn parhau i gyflawni’r ymrwymiadau ynglŷn â gwella gofal diwedd oes i bobl ethnig leiafrifol.
  • Gweithio gyda chynrychiolwyr cymunedau ethnig lleiafrifol i hyrwyddo Gweithio i Wella, sef y weithdrefn i godi pryderon a chwynion, gan gynnwys y gwasanaethau eirioli sydd ar gael, gan sicrhau hygyrchedd drwy ieithoedd ychwanegol a argymhellir.
  • Diwygio canllawiau Gweithio i Wella i sefydliadau’r GIG a chynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i gofnodi cwynion cleifion am hiliaeth yn y gwasanaethau a ddarperir gan y GIG ac ymateb iddynt.
  • Monitro’r hyn sy’n cael ei gofnodi gan sefydliadau a’u hymateb i achosion hiliol.
  • Monitro’r defnydd o’r broses gwyno gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Sicrhau bod Llais, Corff Llais y Dinesydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn parhau i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ei brosesau recriwtio, ei drefniadau llywodraethu a’i bolisïau.
  • Mae Llais yn meithrin cydberthnasau â sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol, awdurdodau lleol, cyrff y GIG a phobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu clywed a’u hadlewyrchu.
  • Sicrhau bod Llais yn dangos ei fod yn ymgysylltu’n ystyrlon â’r cyhoedd mewn ymateb i faterion sy’n ymwneud â hiliaeth ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
  • Bydd Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol yn atgyfnerthu’r gofynion uchod, ynghyd â’r angen i werthuso effeithiolrwydd y ffordd y mae’n gweithredu.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar Reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd i lywio’r gwaith o ddatblygu canllawiau sy’n argymell bod lleisiau a phrofiad bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cofnodi fel rhan o broses yr Asesiad o Effaith ar Iechyd fel mater o drefn.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio iechyd wedi bod yn rhan o ymdrechion ar y cyd â:

  • Byrddau’r GIG
  • Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig y GIG

yn ogystal â:

  • Gweithrediaeth GIG Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • AGIC
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • MIND Cymru Adferiad
  • awdurdodau lleol
  • y trydydd sector
  • Llais

Gyda’i gilydd, maent wedi mynd ati i adolygu, llunio a diweddaru camau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae is-grŵp y Cynllun wedi cynnig llwyfan i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Gofal cymdeithasol

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yng Nghymru, ers 2017 mae nifer y plant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n derbyn gofal wedi bod yn cynyddu. Mae’r niferoedd wedi dyblu bron o 455 i 830. Mae plant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol bellach yn cyfrif am 11.6% o’r plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru, sef cynnydd o 3.3 pwynt canrannol o gymharu â’r data a nodwyd yn yr iteriad cychwynnol o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (StatsCymru, 2023) Mewn cymhariaeth, yn y boblogaeth ehangach, mae tua 9.5% o blant 0-15 oed yn nodi eu bod yn dod o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth). Mae 7.1% o blant ar y gofrestr amddiffyn plant a 2.4% o oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Fodd bynnag, erys bylchau sylweddol yn y data, ac mae gwybodaeth am ethnigrwydd ar goll ar gyfer 25.9% o oedolion sy’n wynebu risg a 18.4% o blant ar y gofrestr amddiffyn plant.

Mae adroddiad data y gweithlu gofal cymdeithasol 2022 gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos bod ethnigrwydd y gweithlu gofal cymdeithasol yn adlewyrchu ethnigrwydd poblogaeth Cymru i raddau helaeth, gyda 5.5% o weithwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Fodd bynnag, gwelir gwahaniaethau mewn cynrychiolaeth yn y rolau gwahanol, yn enwedig mewn gofal preswyl i oedolion lle mae gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy cyffredin. Canfu arolwg gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd fod bron hanner (45%) o weithwyr gofal cymdeithasol o dreftadaeth Ddu, Ddu Prydeinig, Garibïaidd neu Affricanaidd yn nodi eu bod wedi cael profiad o wahaniaethu, o gymharu ag 21% o’r rhai â threftadaeth Asiaidd a 14% o weithwyr Gwyn.

Gan edrych i’r dyfodol, bydd ffocws ar wella prosesau casglu data ac ansawdd data er mwyn deall profiadau ac anghenion pobl ethnig leiafrifol ym maes gofal cymdeithasol yn well, boed hynny ymhlith y rhai sy’n gweithio yn y sector a’r rhai sy’n derbyn gofal a chymorth. Mae cynlluniau at y dyfodol yn cynnwys ehangu’r ymchwil i’r rhesymau dros y niferoedd cynyddol o blant ethnig leiafrifol sy’n derbyn gofal, gwella amrywiaeth ymhlith y gweithlu, a gwella cymhwysedd diwylliannol gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i ymateb i’r heriau a nodwyd yn y sector gofal cymdeithasol drwy wahanol gamau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r gwaith o ddatblygu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu a’r Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth yn gyflawniadau allweddol sy’n rhoi sylfaen ar gyfer camau gweithredu sy’n seiliedig ar well gwybodaeth ac wedi’u targedu’n well. Mae’r penderfyniad i greu gweithgor chwarterol a fydd yn cynnwys partneriaid statudol, partneriaid annibynnol a’r trydydd sector, yn sicrhau prosesau craffu ac atebolrwydd am gynnydd tuag at amcanion gwrth-hiliol ym maes gofal cymdeithasol.

Mae Arlolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal gweithdai a digwyddiadau datblygu sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd, microymosodiadau, ac effeithiau meddyliol a chorfforol hiliaeth. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei ategu gan ymdrechion i adolygu a mireinio prosesau dewis a dyrchafu yn y gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn mynd i’r afael ag achosion lle mae gweithwyr proffesiynol ethnig leiafrifol yn ei adael.

Er y gwaith sy’n mynd rhagddo, mae llawer i’w wneud o hyd. Mae’n amlwg o’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma fod y nifer o blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cynyddu, bod data anghyflawn ynglŷn ag ethnigrwydd o ran pobl sy’n derbyn gofal a chymorth a bod pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn wynebu hiliaeth o hyd. Er ei bod yn hanfodol cael dealltwriaeth ddyfnach o’r problemau er mwyn cymryd camau gweithredu priodol, mae’n hollbwysig bod angen gweithredu fel mater o frys. Mae’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth newydd (y Swyddfa Genedlaethol) yn cynnig ffordd o gydlynu ymateb ar y cyd gan y sector cyfan. 

Crynodeb i gloi

Mae’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cymryd camau breision i ymdrin ag anghenion pobl ethnig leiafrifol a’r heriau a wynebir ganddynt, a hynny yn y gweithlu ac ymhlith y rhai sy’n derbyn gofal. Fodd bynnag, fel y’i nodir uchod, mae’r dystiolaeth yn tanlinellu’r ffaith bod llawer o waith i’w wneud o hyd, yn enwedig o ran gwella prosesau casglu data, deall y rhesymau dros y niferoedd cynyddol o blant ethnig leiafrifol sy’n derbyn gofal, a mynd i’r afael â phrofiadau o wahaniaethu a nodwyd gan weithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Bydd y Grŵp Atebolrwydd Allanol yn parhau i fonitro cynnydd, a’i brif flaenoriaethau fydd cael dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau a wynebir gan unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym maes gofal cymdeithasol, gan sicrhau gwell cynrychiolaeth mewn rolau arwain iddynt, a gwella cymhwysedd diwylliannol wrth ddarparu gwasanaethau. Bydd ymdrechion yn canolbwyntio ar fireinio’r system gwynion er mwyn sicrhau ei bod yn ymatebol ac yn hygyrch i’r rhai sy’n wynebu hiliaeth. Caiff ymchwil bellach ei chynnal er mwyn deall croestoriadedd yn well, ac ymdrin ag anghenion penodol pobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Nodau a chamau gweithredu

Erys y pum nod cyffredinol yn y bennod o’r Cynllun ar Ofal Cymdeithasol yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, mae rhai camau gweithredu wedi cael eu diwygio i’w gwneud yn haws i’w cyflawni a’u mesur, ac felly’n haws i fonitro canlyniadau a chynnydd. Mae rhai camau gweithredu newydd hefyd wedi codi o ganlyniad i ddatblygiad naturiol, lle mae hen gamau gweithredu wedi cael eu cwblhau ac mae camau gweithredu dilynol newydd wedi cael eu datblygu.

Arweinyddiaeth

Nod: sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn modelu ac yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn cyflwyno sector gofal cymdeithasol gwrth-hiliol i bobl sy’n cael gofal a chymorth ac i’r gweithlu gofal cymdeithasol

Bydd hyn hefyd yn cynnwys gwaith datblygu er mwyn creu uwch-weithlu â mwy o amrywiaeth ethnig.

Camau gweithredu
  • Cyflwyno adroddiad ar y broses o roi Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith a’r camau gweithredu sy’n deillio ohoni o ran cydraddoldebau, gan gynnwys ethnigrwydd.
  • Mae’r Fframwaith Ymddygiadau i Arweinwyr sy’n hyrwyddo gwrth-hiliaeth, gan gynnwys arweinyddiaeth dosturiol, yn cael ei hyrwyddo’n rhagweithiol i arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol.
  • Rhoi rhaglen allgymorth arweinyddiaeth beilot ar waith ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol ethnig leiafrifol, gan adeiladu ar yr ymchwil a’r argymhellion a wnaed hyd yma. Bydd hyn hefyd yn hyrwyddo cymhwysedd diwylliannol sefydliadol.
  • Datblygu cynnwys gofal cymdeithasol ar gyfer Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o’r Fframwaith Iechyd a Lles y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.
  • Cyhoeddi’r adroddiad cyntaf ar Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru a bydd awdurdodau lleol yn defnyddio’r canlyniadau i lywio eu strategaethau a’u cynlluniau gweithredu drwy gyfeirio’n benodol at y canlyniadau yn Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu.
  • Bydd gwrth-hiliaeth wedi’i hymgorffori mewn unrhyw ddiwygiad i’r Codau i Gyflogwyr a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
  • Ar ôl ymgynghori ynglŷn ag unrhyw god diwygiedig, ystyried a oes angen canllawiau ymarfer penodol ar gyfer gwrth-hiliaeth er mwyn dangos enghreifftiau o’r cod diwygiedig. 
  • Datblygu rôl gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol a fydd yn cynghori ar gyflwyno ymarfer gwaith cymdeithasol a’r datblygiad proffesiynol er mwyn sicrhau bod ymarfer yn datblygu ynglŷn â gweithio ag unigolion sy’n wynebu risg o fod o dan anfantais yn seiliedig ar darddiad ethnig.

Darparu gwasanaethau 

Nod: parhau i nodi’r rhwystrau i wasanaethau gofal cymdeithasol a wynebir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a mynd ati i’w chwalu, er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a bod y gwasanaethau a ddarperir yn wrth-hiliol, yn hygyrch ac yn ddiwylliannol briodol
Camau gweithredu
  • Cynnal gweithgor o bartneriaid gwasanaethau statudol, annibynnol a thrydydd sector er mwyn cyd-lunio gwasanaethau gofal cymdeithasol gwrth-hiliol sy’n ddiwylliannol gymwys i ddefnyddwyr o bob oed.
  • Bydd y grŵp yn rhoi cyngor a chymorth i swyddogion gofal cymdeithasol. Bydd aelodaeth y grŵp yn cynrychioli pobl ethnig leiafrifol a bydd hefyd yn cynnwys arbenigwyr ym maes gofal cymdeithasol er mwyn cynnig eu profiadau ymarferol a’u harbenigedd.
  • Fel rhan o’i Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn ei gwaith rheoleiddio, arolygu ac adolygu, er mwyn sbarduno gwelliannau yn y ffordd y darperir gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant i bobl ethnig leiafrifol. Bydd hyn yn cynnwys disgwyl i bob arolygydd ymgymryd â hyfforddiant gwrth-hiliaeth.
  • Cynnal adolygiad o’r gwasanaethau i weld a oes newidiadau wedi cael eu gwneud mewn ymateb i argymhellion, a rhoi rhagor o gymorth a chyngor lle y bo angen.
  • Sicrhau bod Llais, Corff Llais y Dinesydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn parhau i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ei brosesau recriwtio, ei drefniadau llywodraethu a’i bolisïau.
  • Mae Llais yn meithrin cydberthnasau â sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol, awdurdodau lleol, darparwyr gofal cymdeithasol a phobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu clywed a’u hadlewyrchu.
  • Sicrhau bod Llais yn dangos ei fod yn ymgysylltu’n ystyrlon â’r cyhoedd mewn ymateb i faterion sy’n ymwneud â hiliaeth mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Y gweithlu

Nod: sicrhau na fydd pobl ethnig leiafrifol yn wynebu unrhyw rwystrau wrth geisio dilyn gyrfa neu ymgymryd â rôl ym maes gofal cymdeithasol

Bydd hyfforddiant o ansawdd uchel ar gael iddynt drwy gydol eu gyrfa, byddant yn teimlo’n ddiogel yn eu gweithle a byddant yn ymddiried yn llawn yn eu harweinwyr i weithredu polisi dim goddefgarwch mewn perthynas â gwrth-hiliaeth ac unrhyw fath arall o wahaniaethu neu anghydraddoldeb.

At hynny, bydd hyfforddiant o ansawdd uchel yn sicrhau bod pob aelod o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn meddu ar y cymhwysedd diwylliannol i weithio’n effeithiol gyda phobl o gefndiroedd ethnig a diwylliannol amrywiol.

Camau gweithredu
  • Adolygu prosesau dethol a dyrchafu, gan ddechrau gyda rolau rheolwyr canol ac arweinwyr awdurdodau lleol, a nodi’r rhesymau pam mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ethnig lleiafrifol yn ymadael â’r gweithlu.
  • Bydd yr adolygiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer dileu rhagfarn mewn perthynas â’r prosesau a’r polisïau perthnasol a threfniadau i’w gwerthuso’n barhaus.
  • Edrych eto ar awdurdodau lleol i weld pa gamau gweithredu a gwelliannau sydd wedi digwydd o ganlyniad i adolygu prosesau dewis a dyrchafu. 
  • Sicrhau bod canllawiau ar gymwysterau gofal cymdeithasol, ar gyfer cymwysterau lefel 2 i 5, wedi cael eu hadolygu mewn perthynas â chynnwys gwrth-hiliol, gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gwrth-hiliaeth.
  • Gweithio gyda SAUau ar wrth-hiliaeth mewn rhaglenni gwaith cymdeithasol rheoleiddiedig yng Nghymru, gan gynnwys cynnal adolygiad thematig o ddarpariaeth wrth-hiliol.
  • Datblygu adnodd sy’n gyflwyniad i wrth-hiliaeth ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, er mwyn ehangu ymhellach ar ddysgu mewn cymwysterau, yn enwedig o ran gwrth-hiliaeth, ac er mwyn ategu cymhwysedd diwylliannol.
  • Datblygu hyder arweinwyr gofal cymdeithasol i ddefnyddio’r adnodd yng Nghymru.
  • Mapio anghenion hyfforddiant Cymraeg y gweithlu gofal cymdeithasol ethnig lleiafrifol a sut y gellir cyrraedd y cymunedau hyn o weithwyr proffesiynol yn fwy effeithiol i’w hannog i fanteisio ar hyfforddiant Cymraeg neu hyfforddiant iaith arall sydd ei angen/a nodwyd.
  • Yn unol â’r adroddiad a gyhoeddwyd ar Ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Brofiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: trin gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is, byddwn yn parhau i ystyried canfyddiadau’r Ymchwiliad a gwireddu uchelgeisiau ei argymhellion.
  • Datblygu pecynau cymorth Diwylliannau Cadarnhaol ar y cyd i Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru, sy’n disgrifio’n glir bwysigrwydd cynhwysiant a chydraddoldeb ar sail hil, gan fanteisio ar brofiadau bywyd pobl.
  • Hyrwyddo “Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu” ac adnoddau cymhwysedd diwylliannol yn y pecynnau cymorth Diwylliannau Cadarnhaol newydd.
  • Codi ymwybyddiaeth o brosesau Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru a lle y gellir eu defnyddio i herio achosion o gam-drin hiliol yn y gweithle.
  • Nodi’n glir beth fydd y goblygiadau i’r rhai sy’n ymddwyn mewn ffordd hiliol. 
  • Sicrhau bod y cymorth o ran llesiant a’r cymorth i ddioddefwyr a gynigir yn cael ei ddisgrifio’n glir i bobl sy’n ystyried gwneud cwyn.
  • Mae’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer egwyddorion a safonau comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth yn cael ei ddilyn wrth gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth sy’n ystyried gwrth-hiliaeth wrth gomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
  • Bydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cael ei ddarparu fel adnodd i godi ymwybyddiaeth comisiynwyr ohono.
  • Defnyddio Adroddiadau Blynyddol newydd Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol i fonitro’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflwyno ymarfer a phrosesau cyflawni a chomisiynu gwrth-hiliol.
  • Bydd y pecyn comisiynu sy’n lansio’r Fframwaith Comisiynu Cenedlaethol yn cael ei ddarparu mewn ffordd gyfartal a gwrth-hiliol.
  • Datblygu prosesau clir lle y gall darparwyr gofal cymdeithasol a gomisiynwyd godi pryderon ynglŷn â’r unigolion y maent wedi cael eu comisiynu i roi gofal iddynt.
  • Bydd awdurdodau lleol yn nodi’r broses y dylai darparwyr ei dilyn os bydd y rhai sy’n derbyn gofal yn hiliol yn erbyn y bobl sy’n rhoi’r gofal.

Atebolrwydd

Nod: ymgorffori camau gweithredu ac ymddygiadau mewn perthynas ag atebolrwydd ym mhob rhan o’r sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys strwythurau llywodraethu cadarn a metrigau clir a mesuradwy, er mwyn canfod effaith ac effeithiolrwydd y sector gofal cymdeithasol wrth gyflawni’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Gweithredu hwn
Camau gweithredu
  • Cynnal adolygiad o’r wybodaeth gan y gweithlu gofal cymdeithasol am bryderon, cwynion, cwynion cyflogaeth, atgyfeiriadau addasrwydd i ymarfer, atgyfeiriadau diogelu, ymyriadau gan undebau llafur, arolygon staff, adolygiadau/arfarniadau blynyddol; ymweliadau ymadael, a phrosesau chwythu’r chwiban i nodi ymddygiadau hiliol yn y gweithle ac unrhyw batrymau cysylltiedig.
  • Bydd yr adolygiad o gwynion yn cael ei asesu drwy werthusiad ac adroddiad flwyddyn ar ôl i brosesau a gweithdrefnau diwygiedig gael eu cyflwyno.

Data ac ymchwil 

Nod: gwella data ansoddol a meintiol, ymchwil, tystiolaeth, dadansoddi, gwybodaeth a dealltwriaeth; gan gynnwys cynnydd sylweddol yn y data ar brofiadau bywyd sy’n cael eu casglu oddi wrth bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i lenwi’r bylchau presennol mewn data a helpu i gyflawni pob un o’r Nodau a’r Camau Gweithredu ym maes gofal cymdeithasol
Camau gweithredu
  • Cynnal dadansoddiad o’r holl ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ym maes gwasanaethau cymdeithasol sy’n cynnwys mesur o ethnigrwydd a gwneud hynny yn erbyn data poblogaeth cenedlaethol a lleol a chroestoriadedd â nodweddion gwarchodedig eraill. Bydd y dadansoddiad hwn hefyd yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut i lenwi unrhyw fylchau yn y data cyhoeddedig.
  • Adolygu ansawdd data ynglŷn ag ethnigrwydd a nodweddion gwarchodedig i weld a oes angen cymryd camau gweithredu pellach.
  • Gweithio gyda darparwyr data awdurdodau lleol i benderfynu pa gamau y gellir eu cymryd i wella’r ffordd y nodir hunaniaethau o ran hil ac ethnigrwydd (ochr yn ochr â nodweddion gwarchodedig eraill).
  • Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol yn parhau i wneud y canlynol: 
    • gwella ansawdd data ar y gweithlu
    • hwyluso a chefnogi prosesau casglu data yn erbyn dangosyddion Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu
    • craffu ar ddata Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu er mwyn cwblhau camau gweithredu gwrth-hiliol wedi’u targedu ar gyfer y gweithlu 

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Gofal Cymdeithasol wedi cydweithio â rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys:

  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Undebau Llafur
  • Sefydliadau yn y Trydydd Sector
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • CAFCASS Cymru
  • BASW Cymru
  • Prifysgolion a Cholegau sy’n cynnig addysg a hyfforddiant gofal cymdeithasol
  • Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • sefydliadau partner Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i adolygu, mireinio, a diweddaru nodau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae is-grŵp y Cynllun wedi bod yn llwyfan canolog i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Cartrefi a lleoedd

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae Cyfrifiad 2021 yn dangos bod pob grŵp ethnig lleiafrifol yn parhau i wynebu lefelau uwch o orlenwi na’r grŵp Gwyn Prydeinig ym mhob math o leoliad. Mae 16.1% o aelwydydd lle mae preswylwyr yn nodi eu bod o gefndir ‘Du, Du Prydeinig, Du Cymreig, Caribïaidd neu Affricanaidd’ yn byw mewn tai gorlawn o gymharu â 2.5% o’r grŵp ethnig Gwyn. Cofnodwyd lefelau uchel o orlenwi (14.6%) hefyd mewn aelwydydd lle mae preswylwyr yn nodi eu bod yn ‘Asiaidd, yn Asiaidd Prydeinig neu’n Asiaidd Cymreig’. Mae dadansoddiad manylach yn dangos amrywiadau sylweddol, gyda’r lefelau gorlenwi uchaf ymhlith aelwydydd Bangladeshaidd (39%), Pacistanaidd (31%), ac Affricanaidd (32%).

Mae pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn dal i fod wedi’u gorgynrychioli mewn ystadegau ynglŷn â digartrefedd. Yng Nghymru, roedd 10% o ymgeiswyr yr aseswyd eu bod yn ddigartref, neu a oedd yn wynebu bygythiad o ddigartrefedd yn 2022 i 2023 yn dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol, er eu bod ond yn cyfrif am 6% o’r boblogaeth.

Datgelodd Trydydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan TPAS Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024 fod 4.6% o’r ymatebwyr wedi nodi eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol. Roedd 2.6% o’r tenantiaid hyn mewn tai cymdeithasol ac roedd 6.8% mewn tai rhent preifat. Mae’r data hyn yn gyson â chanfyddiadau blaenorol a oedd yn dangos bod teuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o breswylio yn y sector rhentu preifat, lle mae rhenti yn tueddu i fod yn uwch ac mae’r ansawdd yn tueddu i fod yn is o gymharu â thai cymdeithasol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl menter. Ers mis Mawrth 2023, nododd Rhentu Doeth Cymru fod 1,207 o sesiynau ymwybyddiaeth o droseddau casineb wedi cael eu cwblhau. Hefyd, ers haf 2019, mae dros 4,500 o sesiynau hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael eu cyflwyno. Mae Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol rhentu fforddiadwy yn ystod tymor presennol y Senedd, yn anelu at leihau tlodi a digartrefedd drwy bolisïau tai gwell. Mae’r camau gweithredu hyn, sy’n canolbwyntio ar ddarparu tai gweddus a gwella cymorth, yn hollbwysig o ran lleihau tlodi a digartrefedd, a hyrwyddo cynhwysiant i bawb yng Nghymru, yn enwedig y rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n parhau i wynebu gwahaniaethu. 

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Ers lansio Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn 2022, mae rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthsefyll gwahaniaethu. O ran pobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, bydd cyllid o £3.44 miliwn ar gael drwy gronfa’r Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn 2024 i 2025. Bwriedir i’r cyllid hwn gefnogi’r gwaith o ddatblygu safleoedd, sy’n cynnwys adnewyddu safleoedd llety sy’n bodoli eisoes, prynu tir ar gyfer lleiniau, adeiladu lleiniau newydd, gwella cynaliadwyedd safleoedd i breswylwyr, a mathau eraill o wariant cyfalaf sy’n ymwneud â gwella safleoedd. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer safleoedd preswyl a thramwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu contract cyngor ac eiriolaeth tair blynedd newydd yn dechrau o fis Medi 2024. Nod y contract hwn yw rhoi cymorth i deuluoedd yn y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan gynnig arweiniad ar eu hawliau a chymorth ar faterion megis llety, safleoedd, cynllunio, a defnyddio gwasanaethau. At hynny, cyflwynwyd rhaglen Cymorth Tanwydd y Gaeaf i Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar gyfer 2023 i 2024.

Cyflawniad arall yw’r cynnydd yng nghyfran yr aelodau bwrdd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i 9%, sy’n fwy na’r gynrychiolaeth yn y boblogaeth gyffredinol. Mae mentrau megis y Prosiect Llwybr i’r Bwrdd a’r Prosiect Cychwyn Tai wedi cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol a lleoliadau gwaith i unigolion o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Mae ymgyrch recriwtio a lansiwyd ym mis Chwefror 2023 i ddenu amrywiaeth eang o ymgeiswyr i fod yn rhan o’r sector digartrefedd a chymorth tai wedi llwyddo i wella amrywiaeth, niferoedd, ac ansawdd ymgeiswyr. 

Crynodeb i gloi

ymrwymo i sawl menter strategol sydd â’r nod o feithrin cynhwysiant a chydraddoldeb yn y sector tai. Mae’r ymdrechion hyn yn cynnwys sicrhau bod polisïau tai yn diwallu anghenion pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a chydweithio â phartneriaid yn y sector i wella cymorth ac arweiniad ar gyfer prosesau dylunio ac asesu effaith cynhwysol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Sector Rhentu Preifat i wella agweddau ac ymddygiadau gwael a allai fod yn parhau ar draws y sector. Bydd Grŵp penodol ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael ei sefydlu i lywio penderfyniadau polisi drwy brofiadau bywyd ac ymgysylltu â’r gymuned. Bydd y canllawiau presennol ynglŷn â rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, gwersylla heb awdurdod, ac asesiadau llety yn cael eu diweddaru.

Nod Llywodraeth Cymru yw caffael rhaglen beilot i roi cyngor proffesiynol ar faterion cynllunio i deuluoedd sy’n prynu tir ar gyfer safleoedd preifat. Bydd hefyd yn creu sylfaen dystiolaeth genedlaethol i argymell lleoliadau addas ar gyfer darpariaeth dramwy ledled Cymru. Mewn cydweithrediad â heddluoedd Cymru, bydd yn ffurfioli Protocolau i Heddluoedd ar Reoli Gwersylla Diawdurdod.

Mae’r mentrau hyn yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i feithrin amgylchedd tai tecach a mwy cynhwysol i bob cymuned yng Nghymru. 

Nodau a chamau gweithredu

Erys y pum nod cyffredinol yn y bennod o’r Cynllun ar Gartrefi a Lleoedd yn ddigyfnewid, ond mae rhai camau gweithredu wedi cael eu diwygio i wella’r ffordd y cânt eu cyflawni, eu heffaith, a’r gallu i’w mesur, gan ei gwneud yn haws i olrhain canlyniadau a chynnydd. Bydd is-grŵp Cartrefi a Lleoedd y Grŵp Atebolrwydd Allanol yn parhau i adolygu’r broses hon, gyda’r disgwyliad y bydd y camau gweithredu yn cael eu mireinio a’u cryfhau ymhellach i gyflawni’n well ein nod cyffredin o wneud gwahaniaeth gweladwy ym mhrofiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol.

Cynrychiolaeth 

Nod: cynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn swyddi uwch-arweinwyr ac ar bob lefel o weithlu’r sector tai yn sylweddol, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth a wasanaethir
Camau gweithredu
  • Sicrhau bod byrddau sefydliadol, grwpiau cynghori, uwch-arweinwyr a’r gweithlu yn adlewyrchu amrywiaeth eu poblogaethau lleol neu ddefnyddwyr eu gwasanaethau. Er mwyn gwneud hynny, bydd sefydliadau yn:
    • adolygu eu gweithdrefnau recriwtio er mwyn sicrhau eu bod yn agored ac yn dryloyw
    • dangos bod camau wedi cael eu cymryd i annog ceisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
    • sicrhau bod cynrychioliaeth ar grwpiau cynghori gweinyddol, gan gynnwys y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd, ond heb fod yn gyfyngedig iddo, yn adlewyrchu amrywiaeth defnyddwyr eu gwasanaethau
    • paratoi a chyhoeddi cynlluniau sy’n nodi sut mae amrywiaeth a gwrth-hiliaeth yn cael eu hyrwyddo yn eu sefydliad a chyflwyno adroddiadau arnynt
  • Bydd sefydliadau tai yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth a dim goddefgarwch i Fyrddau a phob grŵp o staff ar ddeall a herio hiliaeth yn barhaus.
    Monitro’r ffordd y caiff safonau rheoleiddio diwygiedig a osodir ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eu gweithredu i fynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu.

Safonau, darpariaethau a gwasanaethau

Nod: sicrhau bod safonau, darpariaeth a gwasanaethau mewn perthynas â darparu cartrefi yn hyrwyddo cydraddoldeb hil, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth, cydraddoldeb a hawliau dynol, ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol
Camau gweithredu
  • Adolygu safonau a chanllawiau sy’n ymwneud â thai er mwyn deall sut y gellir llunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau a nodi gwahaniaethu ar sail hil a throseddau casineb.
  • Sicrhau bod y fframwaith polisi a deddfwriaethol yn cefnogi’r broses o gomisiynu gwasanaethau cymorth tai a llety sy’n ystyried agweddau diwylliannol, er mwyn diwallu anghenion pobl ethnig leiafrifol amrywiol.
  • Sicrhau bod trefniadau ar waith i roi gwybodaeth i denantiaid ynglŷn â sut y dylid rhoi gwybod am droseddau casineb.
  • Bydd gwaith ymchwil a gwerthuso a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau yn y trydydd sector yn cael ei gyflawni mewn ffordd sy’n ei gwneud yn bosibl i brofiadau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys hil, gael eu cofnodi a’u hadrodd er mwyn sicrhau bod rhaglenni wedi’u cysoni i gyflawni blaenoriaethau, megis lleihau lefelau gorlenwi a digartrefedd.
  • Mae gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth mewn perthynas â sicrhau tai priodol, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr, menywod ethnig leiafrifol a cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn cael eu llunio i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau.
  • Gan weithio gyda sefydliadau a phobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys hil, paratoi Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol yn unol â’r canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn asesu anghenion tai eu poblogaeth leol yn gywir. Unwaith y bydd yr angen am dai wedi’i nodi, gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddarparu tai sy’n ateb y galw yn well.

Y sector rhentu preifat

Nod: sicrhau bod tai a llety a’r gwasanaethau a ddarperir gan y sector rhentu preifat yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol
Camau gweithredu
  • Gweithio gyda landlordiaid ac asiantau ar draws y sector rhentu preifat er mwyn gwella agweddau ac ymddygiadau hiliol a allai fod yn parhau. Bydd yn cynnwys:
    • cymorth i’r rhai ar incymau is i gael tenantiaethau fforddiadwy a thymor hwy
    • parhau i gyflwyno hyfforddiant ar wrth-hiliaeth a throseddau casineb i landlordiaid ac asiantau
    • rhoi gwybodaeth i denantiaid er mwyn eu galluogi i roi gwybod am hiliaeth a throseddau casineb
    • gwella cyfathrebu ac ymgysylltu â thenantiaid ethnig leiafrifol yn y sector rhentu preifat er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau a sut i’w gorfodi, a bod ganddynt yr hyder i wneud hynny
Nod: sicrhau bod gan bobl ethnig leiafrifol ledled Cymru lais a dylanwad i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cartrefi yn adlewyrchu amrywiaeth anghenion a blaenoriaethau pobl ethnig leiafrifol
Camau gweithredu
  • Sicrhau bod ymgyrchoedd a deunyddiau gwybodaeth wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion y gynulleidfa fwriadedig.
  • Cymryd camau i ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i wella lefelau ymgysylltu.
  • Sefydlu Grŵp i barhau i oruchwylio’r broses o roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith yn y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio, gan gynnwys strwythurau ar gyfer rhannu gwybodaeth ac arferion effeithiol.

Llety Sipsiwn a Theithwyr

Nod: cydnabod bod angen llety diogel diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau ac er mwyn ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru
Camau gweithredu
  • Gweithio gydag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, awdurdodau lleol ac eraill i alluogi darpariaeth dramwy briodol. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth pan fydd angen darpariaeth dramwy.
  • Treialu ffyrdd ychwanegol neu newydd o ariannu darpariaeth barhaol.
  • Ariannu astudiaeth i edrych ar opsiynau ar gyfer cynllun rhentu cartref symudol drwy dai cymdeithasol. 
  • Yn dibynnu ar ganlyniad yr astudiaeth o gynllun rhentu cartref symudol, sefydlu cynllun peilot.
  • Byddwn yn caffael fframwaith er mwyn i gwmni hyfforddiant allanol ddatblygu a chyflwyno cwrs hyfforddiant i uwchsgilio pob un o’r 22 o awdurdodau lleol ar ffyrdd nomadaidd o fyw ymhlith Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Caiff hwn ei ddatblygu gydag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • Comisiynu rhaglen beilot tair blynedd i roi cyngor i’r rhai sy’n ceisio datblygu safleoedd preifat.
  • Adolygu’r canllawiau ar safleoedd cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr. Bydd hyn yn cynnwys adolygu’r cynllun peilot ar gyfer cyllid i brynu tir, adborth gan y cymunedau a phenderfyniad ar gyllid ar gyfer safleoedd preifat.
  • Ailddrafftio a symleiddio’r Canllawiau ar Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys aelodau o’r gymuned er mwyn adlewyrchu eu hanghenion.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio ei phwerau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014.
Nod: parhau i wella ein prosesau datblygu polisïau i greu dulliau gweithredu gwrth-hiliol ym mhob agwedd o greu polisïau
Camau gweithredu
  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phobl a rhanddeiliaid o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i lywio polisi Llywodraeth Cymru. Sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y cyfarfodydd.
  • Darparu gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Cartrefi a Lleoedd wedi bod yn cydweithio â’r canlynol:

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru
  • Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru
  • Is-adran Tir Llywodraeth Cymru
  • Cymunedau a rhanddeiliaid o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithasau Tai
  • CLlLC
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Cartrefi Cymunedol Cymru
  • Sefydliadau yn y Trydydd Sector, a Rhentu Doeth Cymru i adolygu, llunio ac adnewyddu nodau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • Mae is-grŵp y Cynllun wedi cynnig llwyfan i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Llywodraeth leol

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yn yr arolwg o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2017, roedd 2.3% o ymgeiswyr ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a 1.9% o ymgeiswyr ar gyfer cynghorau tref a chymuned a nododd eu hethnigrwydd yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. O’r rhai a etholwyd i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, roedd 1.8% ac 1.2% mewn cynghorau tref a chymuned yn dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol.

Yn yr Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yn 2022, nododd 96% o ymgeiswyr eu bod yn dod o grŵp ethnig Gwyn, nododd 1% eu bod yn dod o grwpiau cymysg neu grwpiau ethnig lluosog, a nododd llai nag 1% eu bod yn dod o grwpiau ethnig Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd.

Amcangyfrifodd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth fod 4.7% o’r boblogaeth yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2017.

Nododd Cyfrifiad 2021 fod pobl o gefndiroedd Du, Du Prydeinig, Du Cymreig, Caribïaidd, neu Affricanaidd yn cyfrif am 0.9% o’r boblogaeth yng Nghymru. Roedd grwpiau ethnig Asiaidd, Asiaidd Prydeinig, neu Asiaidd Cymreig yn cyfrif am 2.9% ac roedd grwpiau ethnig cymysg neu luosog yn cyfrif am 1.6% o’r boblogaeth.

Roedd y cyfraddau ymateb ar gyfer yr arolygon o ymgeiswyr llywodraeth leol yn 2017 a 2021 yn isel, sy’n awgrymu nad yw’r canlyniadau yn gwbl gynrychioliadol o bosibl. Fodd bynnag, mae’r arolygon yn awgrymu nad yw democratiaeth leol mor amrywiol â’r boblogaeth yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydledig i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth leol ledled Cymru. Rhennir yr ymrwymiad hwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Un Llais Cymru. Bydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y Cynllun) yn cael ei ategu drwy ddatblygu cydberthynas strategol ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mwy o gyfleoedd i ymgysylltu rhwng Cabinet Llywodraeth Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol, a chydweithio agosach ar bolisïau a chynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol. 

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud o ran hyrwyddo nodau gwrth-hiliaeth, cynhwysiant, a chynrychiolaeth mewn llywodraeth leol. Mae’r cyflawniadau yn cynnwys gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed, rhoi pleidlais i wladolion tramor cymhwysol, rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol gynnal cyfarfodydd hybrid a rhithwir, galluogi trefniadau rhannu swydd i swyddogion gweithredol awdurdodau lleol, ac ymgynghori ar rannu swydd ar gyfer uwch-rolau gwleidyddol eraill megis cadeiryddion pwyllgorau.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno absenoldeb teuluol i gynghorwyr mewn prif gynghorau a chyflwyno arolwg o ymgeiswyr er mwyn casglu data amrywiaeth ar y rhai sy’n sefyll etholiad ac sy’n cael eu hethol mewn llywodraeth leol. Mewn ymateb i adborth rhanddeiliaid, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i’r naill a’r llall ers iddynt gael eu cyflwyno ac mae ymrwymiad i barhau i’w hadolygu a nodi cyfleoedd i gryfhau eu heffaith.

Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru sefydlu cynlluniau cymorth ariannol ac anariannol i ddileu rhwystrau sy’n atal pobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig a’r rhai yr effeithir arnynt gan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol rhag sefyll etholiad. Byddwn yn gweithio gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i nodi cynlluniau cymorth i ymgeiswyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi eu teilwra. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys mabwysiadu dull gweithredu ehangach, gan ganolbwyntio ar greu piblinell o unigolion sydd â diddordeb mewn sefyll etholiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi fframwaith perfformiad a llywodraethu newydd ar waith ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol. Mae’r fframwaith hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau adolygu eu perfformiad drwy’r amser, ac ystyried safbwyntiau dinasyddion a chymunedau fel rhan o’r asesiad hwn. Rydym yn disgwyl i gynghorau geisio barn pobl ethnig leiafrifol fel rhan o’r broses o adolygu eu perfformiad. Mae’n ofynnol i gynghorau gyhoeddi eu hunanasesiadau ac asesiadau panel ac ymateb yn agored i argymhellion.

Crynodeb i gloi

Bydd y ffocws dros y ddwy flynedd nesaf ar helpu arweinwyr llywodraeth leol i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol drwy ymgysylltu’n rheolaidd â Gweinidogion ac uwch-swyddogion. Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, am y tro cyntaf, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynllun cymorth ariannol i gefnogi ymgeiswyr anabl. Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar y dull gweithredu a fabwysiadwyd, a'r gwersi a ddysgwyd, yn ein cynllun peilot Cronfa Mynediad i Swyddfa Etholedig, a bydd hyn yn rhoi cymorth i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol anabl i sefyll am swydd etholedig. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â rhanddeiliaid i nodi cynlluniau cymorth ariannol ac anariannol sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn dileu rhwystrau sy’n atal pobl â nodweddion gwarchodedig eraill a’r rhai yr effeithir arnynt gan heriau economaidd-gymdeithasol rhag cymryd rhan. Byddwn hefyd yn mabwysiadu ymagwedd wrth-hiliol wrth hyrwyddo’r arolwg o ymgeiswyr llywodraeth leol ymhellach i roi hwb i’w gyfraddau cwblhau.

Rydym wrthi’n ystyried, ar y cyd â phartneriaid, sut y gellir mynd i’r afael ag achosion o gam-drin mewn gwleidyddiaeth. Gan fod y mater hwn yn effeithio ar bobl ethnig leiafrifol, rydym yn ymrwymo i ddatblygu hyn ymhellach, gan ystyried profiadau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, er mwyn nodi’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd. Bydd ymdrechion i fireinio’r broses cofrestru etholiadol yn galluogi pob pleidleisiwr cymwys i gael ei gofrestru, gyda ffocws ar roi gwell gwybodaeth i etholwyr ethnig leiafrifol. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn ennyn hyder i gymryd rhan mewn etholiadau. 

Nodau a chamau gweithredu

Erys un o nodau cyffredinol y bennod o’r Cynllun ar Lywodraeth Leol yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, mae llywodraeth leol fel partneriaid, darparwyr gwasanaethau a chyflogwyr yn hollbwysig, sy’n golygu ei bod yn allweddol ei chynnwys er mwyn rhoi’r Cynllun ar waith yn effeithiol. Felly, ychwanegwyd un nod, a diwygiwyd un nod. Mae nifer o gamau gweithredu hefyd wedi cael eu cyflwyno yn yr ail iteriad hwn. Mae rhai camau gweithredu wedi cael eu haddasu i wella’r ffordd y cânt eu cymryd a’r gallu i’w mesur, gan ei gwneud yn haws olrhain canlyniadau a chynnydd.

Nod: ymgysylltu â llywodraeth leol i’w hannog i arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Camau gweithredu
  • Ymgorffori gwrth-hiliaeth wrth wraidd ein gwaith partneriaeth strategol â llywodraeth leol.

Nod: sicrhau bod deddfwriaeth a chanllawiau yn herio llywodraeth leol i gynrychioli’n well y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ac i ymgysylltu’n llawn â nhw

Camau gweithredu
  • Creu fframwaith deddfwriaethol sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu trefniadau cymorth ariannol ac anariannol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a grwpiau eraill heb gynrychioliaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, cyn etholiadau nesaf y Senedd a llywodraeth leol.
  • Adeiladu ar y trefniadau i uwch-gynghorwyr mewn prif gynghorau ymgymryd â rolau ar sail rhannu swydd. 
  • Adeiladu ar ganlyniad ymgyngoriadau drwy ddeddfwriaeth a chanllawiau wedi’u diweddaru mewn perthynas â’r fframwaith moesegol.
  • Canfod natur a graddau strategaethau cyfranogiad y cyhoedd.
  • Gwerthuso effaith canllawiau a gyhoeddwyd yn 2023 ar ymwneud a chyfranogi mewn llywodraeth leol.
  • Treialu proses o gofrestru pleidleiswyr heb wneud cais, gan ddefnyddio’r pwerau yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. 

Nod: sicrhau bod llywodraeth leol yn datblygu’n gyflogwr sy’n dangos esiampl, er mwyn creu amgylchedd diogel a chynhwysol i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Camau gweithredu
  • Gweithio gyda CLlLC i gefnogi dulliau gwella presennol cynghorau er mwyn parhau i ymgorffori gwrth-hiliaeth mewn polisïau adnoddau dynol i brif gynghorau.
  • Ystyried, ar y cyd â llywodraeth leol, sut y gellir datblygu’r prosesau casglu presennol yn lleol ac yn genedlaethol.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Llywodraeth Leol wedi bod yn cydweithio â:

  • Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Awdurdodau Lleol
  • Cyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru
  • Un Llais Cymru
  • Pleidiau Gwleidyddol
  • Partneriaid yn y Trydydd Sector
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Swyddogion Cofrestru Etholiadol Awdurdodau Lleol
  • Comisiwn Etholiadol ac Undebau Llafur i adolygu, llunio ac adnewyddu nodau a chamau gweithredu’r Cynllun

Mae aelodau o Grŵp Atebolrwydd Allanol y Cynllun wedi chwarae rhan annatod i hyrwyddo’r gwaith hwn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg ac Entrepreneuriaeth

Cyflogadwyedd a sgiliau 

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Er gwaethaf rhai gwelliannau, mae’r gyfradd cyflogaeth i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn parhau’n is na’r gyfradd i’w cymheiriaid Gwyn. Rhwng mis Mawrth 2014 a mis Mawrth 2024, mae'r bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth unigolion Gwyn a'r rhai o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi gostwng 5.0 pwynt canran. Fodd bynnag, mae cyfraddau cyflogaeth (blwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth 2024) ymhlith poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed yn uwch ymhlith unigolion o gefndir ethnig Gwyn (74.0%) nag ar gyfer unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (66.2%). Mae'r bwlch hwn mewn cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu ers y flwyddyn flaenorol (Llesiant Cymru, 2024 ). Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 16 oed a hŷn yng Nghymru oedd 8.9%, cynnydd o 2.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl Gwyn oedd 3.2%, cynnydd o 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn. (Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth): Ebrill 2023 i Fawrth 2024). Gwnaeth adroddiad Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach? hefyd nodi bod gweithwyr ethnig yng Nghymru hefyd yn fwy tebygol o fod mewn swyddi ansicr o’u cymharu â gweithwyr Gwyn Prydeinig.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn anelu at greu gwlad sy’n deg ac yn gyfartal gyda chyfleoedd addysg a chyflogaeth o ansawdd uchel i bawb. Mae’r mentrau allweddol yn cynnwys: 

  • Y Warant i Bobl Ifanc: Mae’r rhaglen hon yn cynnig cymorth parhaus i bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Yn y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, roedd pobl ifanc Gwyn yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Amcangyfrifwyd bod 13.1% o bobl ifanc Gwyn yn NEET o'i gymharu ag 8.3% o bobl ifanc Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2023 i Fawrth 2024).
  • Ymchwil i Brofiadau Bywyd: Gwnaeth yr ymchwil hon, a gynhaliwyd ym mis Mai 2023, dynnu sylw at bwysigrwydd cynrychiolaeth ac allgymorth yn y gymuned mewn rhaglenni cyflogadwyedd. Mae’r wybodaeth hon wedi cael ei hintegreiddio yn rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws, sydd wedi gweld mwy o bobl ethnig leiafrifol ifanc yn cymryd rhan. 

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol wedi sbarduno cynnydd mewn tri nod cyflogadwyedd a sgiliau allweddol: gwella data ar gyfranogiad ethnig leiafrifol, gan sicrhau amgylcheddau diogel a chynhwysol, a chynyddu nifer y prentisiaethau y mae pobl ethnig leiafrifol yn eu dechrau. 

Mae’r cyflawniadau allweddol yn cynnwys: 

Crynodeb i gloi

I gloi, er bod camau breision wedi cael eu cymryd i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl ethnig leiafrifol yng Nghymru, erys Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig o hyd i wneud cynnydd pellach. Drwy ganolbwyntio ar ddulliau a ysgogir gan ddata, llunio rhaglenni cynhwysol, ac arferion gwrth-hiliaeth cadarn, rydym yn anelu at greu marchnad swyddi decach. Bydd ein hymdrechion parhaus i wella cynrychiolaeth ymhlith arweinwyr, mynd i’r afael â chroestoriadedd, a diwallu anghenion penodol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle i ffynnu mewn economi deg a chynhwysol.

Nodau a chamau gweithredu

Erys y tri nod cyffredinol yn y bennod o’r Cynllun ar Gyflogadwyedd a Sgiliau yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, mae rhai camau gweithredu wedi cael eu haddasu i wella’r ffordd y cânt eu cwblhau a’r gallu i’w mesur, a fydd yn ei gwneud yn haws i fonitro canlyniadau a chynnydd.

Nod: bydd rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn cynnig amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol i bob aelod o staff a phawb sy’n cymryd rhan, lle yr eir i’r afael â hiliaeth
Camau gweithredu
  • Bydd data ar berfformiad rhaglenni yn cael eu casglu a’u cyhoeddi ynglŷn â chyfranogwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn Rhaglenni Cyflogadwyedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddwyn ynghyd set ddata wedi’i dadgrynhoi er mwyn targedu ein rhaglenni yn fwy effeithiol. 
  • Cynnal cyfres o archwiliadau dwfn o ddarparwyr sy’n cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
    • cyfranogiad a chanlyniadau i grwpiau gwahanol o ddysgwyr
    • y camau rheoli y mae darparwyr yn eu cymryd ynglŷn â gwrth-hiliaeth, gan gynnwys cwynion a sut mae darparwyr yn deall profiadau negyddol pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, yn enwedig menywod, ac yn mynd i’r afael â nhw
    • effeithiolrwydd darparwyr o ran ymgysylltu â chymunedau ethnig lleiafrifol, gyda ffocws penodol ar bobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr
    • I ba raddau y mae hyfforddiant ar wrth-hiliaeth a sesiynau codi ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth wedi cael eu darparu ar gyfer staff sy’n gweithio ar raglenni cyflogadwyedd, a gwerthusiad o effeithiolrwydd yr hyfforddiant
    • caiff archwiliadau dwfn eu hintegreiddio yn ein fframwaith gwerthuso er mwyn mesur cynnydd
  • Archwilio manylion ynglŷn â hil a hiliaeth o safbwynt beirniadol gan ddefnyddio profiadau bywyd wrth inni lunio, datblygu a chyflwyno rhaglennu cyflogadwyedd newydd.
  • Sicrhau bod y Model Gweithredu Sengl newydd ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd yn cynnig ymgysylltu ehangach a chanlyniadau cadarnhaol i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, yn enwedig pan fyddant yn wynebu rhwystrau sydd o natur groestoriadol er mwyn sicrhau bod gwell cyfleoedd ar gael.
  • Sicrhau bod y Model Gweithredu Sengl yn canolbwyntio ar yr angen i gynyddu faint o hyfforddiant ar wrth-hiliaeth sydd ar gael drwy ei rwydwaith cyflawni a’i fod yn cael ei ymgorffori mewn arferion cyflawni.
  • Bydd Gyrfa Cymru yn mynd ati i adolygu ethnigrwydd a chroestoriadedd cwsmeriaid mewn ffordd strategol, gan gofnodi eu profiadau a datblygu mentrau a fydd yn llywio’r ffordd y darperir ei wasanaeth yn y dyfodol.
  • Caiff hyn ei integreiddio gydag archwiliadau dwfn o Raglenni Cyflogadwyedd ac o fewn y Model Gweithredu Sengl ar gyfer Cyflogadwyedd.
  • Defnyddio Cronfa Ddysgu Undebau Cymru. Gweithio gydag undebau llafur i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais penodol ar ddileu rhwystrau i’r rhai nad ydynt yn ddysgwyr yn draddodiadol.
Nod: cynyddu nifer y bobl ethnig leiafrifol sy’n dechrau ac yn cwblhau Prentisiaethau
Camau gweithredu
  • Gan weithio gyda Medr, bydd data perfformiad rhaglenni, gan gynnwys tueddiadau, meincnodi a data cwblhau, yn cael eu casglu a’u cyhoeddi ynglŷn â phobl ethnig leiafrifol sy’n ymgymryd â phrentisiaethau. Byddwn hefyd yn rhannu arferion da, yn datblygu astudiaethau achos ac yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau hyrwyddo yn cynnwys pobl ethnig leiafrifol.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Cyflogaeth a Sgiliau wedi bod cydweithio gydag:

  • Awdurdodau Lleol
  • Darparwyr Prentisiaethau
  • Darparwyr o dan Gontract
  • Busnesau
  • Gyrfa Cymru
  • Dysgwyr
  • Sefydliadau Cydraddoldeb
  • Llywodraeth Cymru
  • TUC Cymru

Mae’r is-grŵp Cyflogadwyedd a Sgiliau wedi bod yn allweddol o ran cydlynu a hyrwyddo’r camau gweithredu ar eu newydd wedd yn y Cynllun.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae tystiolaeth ddiweddar (Llesiant Cymru 2023: Ethnigrwydd a Llesiant) yn dangos bod y bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth wedi lleihau dros gyfnod o amser, er bod y rhai o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn parhau i weld cyfradd gyflogaeth is nag unigolion Gwyn. Yn gyffredinol, mae’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi mynd yn fwy ers 2019, ond mae data ar gyfer 2023 yn dangos gostyngiad yn y bwlch cyflogau, yn syrthio o 16.8% yn 2022 i 13.8% yn 2023 (Llesiant Cymru, 2024). Mae gweithwyr ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth ansicr o’u cymharu â’u cymheiriaid Gwyn Prydeinig (Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach?) ac maent yn fwy tebygol o roi gwybod am brofiadau o wahaniaethu a bwlio yn y gweithle (Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru’n Decach?

Gan edrych i’r dyfodol, mae bwriad i gau’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd erbyn 2050 drwy fwy o dryloywder a chysondeb mewn prosesau adrodd ar y bwlch cyflog o safbwynt amrywiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i sicrhau a dadansoddi data manwl ar wahaniaethau o ran cyflog a chanlyniadau cyflogaeth i grwpiau ethnig lleiafrifol. Bydd y ffocws ar hyrwyddo arferion gwrth-hiliol mewn gweithleoedd yng Nghymru yn parhau, yn enwedig drwy gryfhau cydweithio â sectorau allweddol ac undebau llafur. 

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae’r portffolio wedi gwneud cynnydd o ran ymgorffori gwrth-hiliaeth yn arferion gweithleoedd. Mae’r is-grŵp ‘Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant’ a sefydlwyd o fewn Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo arferion gorau ym maes monitro amrywiaeth a gwella tryloywder ynglŷn â bylchau cyflog. Mae fforymau sector, megis y Fforwm ManwerthuFforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, wedi cael eu defnyddio’n effeithiol i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn y gweithle. Mae cyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern cyntaf Llywodraeth Cymru a ffurfio Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru wedi bod yn gamau pwysig tuag at wrthsefyll cam-drin yn y farchnad lafur a chefnogi goroeswyr. Mae’r ymgais i hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar weithwyr ethnig leiafrifol sy’n ennill cyflogau isel, yn enwedig yn y sector manwerthu a’r sector gofal cymdeithasol.

Yn y dyfodol, bydd y portffolio yn canolbwyntio ar hwyluso gweithgarwch ymgysylltu trawslywodraethol ac ymgysylltu â’r sector cyhoeddus er mwyn cyfrannu at y garreg filltir o gau bylchau cyflog erbyn 2050. Bydd ymdrechion i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, a gwrth-hiliaeth yn rhaglenni gwaith y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu yn parhau. Bydd pwyslais parhaus hefyd ar godi ymwybyddiaeth o hawliau yn y gweithle ymhlith gweithwyr a chyflogwyr, gyda ffocws penodol ar arferion cynhwysol a theg. 

Crynodeb i gloi

Mae’r portffolio Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg wedi gwneud cynnydd ystyrlon i ymateb i’r heriau a wynebir gan weithwyr ethnig lleiafrifol yng Nghymru drwy fanteisio ar strwythurau partneriaeth gymdeithasol a blaenoriaethu gwaith teg. Er gwaethaf y cyflawniadau, erys heriau o hyd, yn enwedig o ran y data sydd ar gael a’r cyfyngiadau sy’n codi o ganlyniad i gyfraith cyflogaeth a gadwyd yn ôl.

Gan edrych i’r dyfodol, mae’r portffolio yn ymrwymedig i gryfhau cydweithio traws-sector, gwella prosesau casglu data, a pharhau i hyrwyddo arferion gwaith teg a chynhwysol ledled Cymru. Bydd y portffolio hwn yn canolbwyntio ar wella arweinyddiaeth a chynrychiolaeth mewn cyrff yn y sector cyhoeddus, meithrin diwylliannau cynhwysol yn y gweithle, a sicrhau bod arferion gwaith teg yn ystyried croestoriadedd hil, rhywedd, anabledd, a hunaniaethau eraill. Mae’r ymdrechion hyn yn hollbwysig wrth greu amgylcheddau gwaith tecach a mwy cyfiawn i bawb.

Nodau a chamau gweithredu

Mae’r gyfres o gamau gweithredu ar eu newydd wedd wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â’r Grŵp Atebolrwydd Allanol a’r is-grŵp. Erys pob un o dri nod Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg ar gyfer y cyfnod 2024 i 2026 yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, mae’r portffolio hwn wedi ymrwymo i ganolbwyntio ei ymdrechion ar gyfres o gamau gweithredu sy’n cydnabod cyflawniadau hyd yma, yn ogystal â’r anghenion sy’n dod i’r amlwg a datblygiadau. Lle mae camau gweithredu wedi cael eu diwygio, mae hyn er mwyn ei gwneud yn haws i’w cyflawni a’u mesur, ac felly’n haws i fonitro canlyniadau a chynnydd.

Nod: ymgorffori gwrth-hiliaeth yn strwythurau ein partneriaeth gymdeithasol ac yn y ffyrdd rydym yn cynyddu cyffredinrwydd gwaith teg
Camau gweithredu
  • Cynnwys gwrth-hiliaeth yn nhrefniadau gweithredu’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol newydd yn y dyfodol. Byddwn yn dadlau o blaid gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y ffordd y mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu yn gweithredu.
  • Parhau i sbarduno gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; bydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ei waith ar gytundebau gwirfoddol, gan rannu arferion da, a dylanwadu ar y broses o ddatblygu polisïau yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
  • Bydd Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle yn sicrhau bod lleisiau ethnig leiafrifol yn dod i’r wyneb.
  • Chwilio am ymchwil ansoddol, gan gynnwys adolygiad llenyddiaeth, a gwrando ar brofiadau bywyd gweithwyr ethnig lleiafrifol. Byddwn yn defnyddio hyn i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi ar bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg ac ymyriadau perthnasol.
Nod: codi ymwybyddiaeth o arferion, prosesau a diwylliannau yn y gweithlu sy’n wrth-hiliol, eu deall yn well a’u mabwysiadu
Camau gweithredu
  • Ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol i sicrhau bod cyflogwyr ac undebau llafur yn gweithredu fel hyrwyddwyr dros newid wrth godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o arferion gwrth-hiliol a mynd i’r afael ag aflonyddu yn y gweithle. Byddwn yn gweithio gyda’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil i ystyried ffyrdd o fesur cynnydd.
  • Parhau i godi ymwybyddiaeth cyflogeion o hawliau gweithwyr ac ymwybyddiaeth a dealltwriaeth cyflogwyr o’u cyfrifoldebau cyfreithiol, er mwyn cynyddu lefelau cydymffurfiaeth.
  • Byddwn yn parhau i feithrin cydberthynas fwy effeithiol â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i gefnogi’r gwaith hwn.
Nod: lleihau a dileu’r bwlch ethnigrwydd rhwng cyflogeion ethnig lleiafrifol a gwyn
Camau gweithredu
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflawni’r Garreg Filltir Genedlaethol i gau’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd erbyn 2050. Byddwn yn gwneud hynny drwy hwyluso gweithgarwch ymgysylltu trawslywodraethol ac ymgysylltu â’r sector cyhoeddus a chwmpasu ysgogwyr ac ymyriadau a fydd yn cael effaith ar fylchau cyflog.
  • Nodi cyfleoedd i leihau a dileu’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yn y pum maes a fu’n destun archwiliadau dwfn a amlinellwyd yn y genhadaeth economaidd.
  • Gweithio gyda’n partneriaid cymdeithasol i fynd ati i hyrwyddo manteision gweithlu amrywiol i bawb ac amgylcheddau gwaith sy’n helpu gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gymryd rhan, camu ymlaen yn eu gwaith a ffynnu.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg wedi bod yn gweithio’n agos gyda:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
  • Cyngor Partneriaeth y Gweithlu
  • Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle
  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Partneriaid Cymdeithasol, gan gynnwys cyflogwyr, cyrff sy’n cynrychioli cyflogwyr, ac undebau llafur

I adolygu, llunio ac adnewyddu nodau a chamau gweithredu’r Cynllun.

Mae is-grŵp y Cynllun wedi chwarae rôl ganolog o ran cydlynu a hyrwyddo’r ymdrechion hyn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Entrepreneuriaeth

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae rhaglen Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i gefnogi entrepreneuriaeth drwy feithrin twf micro-fusnesau, BBaChau a mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar gynhwysiant a chynaliadwyedd. Mae Busnes Cymru yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cymunedol megis y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST), Assadaqaat Community Finance (ACF), y Ganolfan ar gyfer Entrepreneuriaeth Affricanaidd, Siambr Fasnach Fangladeshaidd Cymru a Chymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru (CIWA) i ymgysylltu â chymunedau amrywiol yng Nghymru. Ers i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gael ei lansio yn 2022, mae Busnes Cymru wedi cymryd camau breision i hyrwyddo’r nod a’r camau gweithredu yn y bennod ar Entrepreneuriaeth. Mae’r broses o ddatblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Busnes Cymru a datganiad gwrth-hiliol wedi helpu i ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol yn ei wasanaethau. Mae’r dogfennau hyn yn amlinellu camau gweithredu ac ymrwymiadau clir i sicrhau bod pob cleient sy’n defnyddio gwasanaethau Busnes Cymru yn cael ei drin yn deg, heb ragfarn, gwahaniaethu, nac ymyleiddio.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Hyd yma, mae Busnes Cymru wedi gwneud cynnydd clodwiw. Ers 2016, o blith y 7,614 o gleientiaid sydd wedi cael cymorth gan Busnes Cymru i ddechrau busnes, mae 548 (7%) yn nodi eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae Busnes Cymru wedi helpu mwy na 21,272 o berchnogion busnes i ddatblygu a thyfu eu busnesau, gyda 1,211 (6%) yn nodi eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; cynnydd o 1.6% ers ei adroddiadau blaenorol. Mae’r Gronfa Cymryd Rhan Ddewisol hefyd wedi cael ei defnyddio 45 o weithiau ers mis Hydref 2023 ar gyfer gwasanaethau cyfieithu, y gall cleientiaid eu defnyddio i gael gafael ar gymorth mewn ieithoedd megis Arabeg, Tamil, Wcreineg, a Sinhala. 

Mae Busnes Cymru hefyd wedi cymryd camau i ddeall anghenion pobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’u diwallu. Er enghraifft, yn ystod y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2023 a 31 Ionawr 2024, cofrestrodd Busnes Cymru 0.2% o bobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr â’r gwasanaeth, sef ffigur sy’n gyson â Chyfrifiad 2021. Fodd bynnag, gan gydnabod bod angen ymgysylltu ymhellach, mae Busnes Cymru yn bwriadu gweithio’n agosach gyda’r cymunedau amrywiol hyn i nodi rhwystrau ac, o bosibl, ymgymryd â gweithgareddau allgymorth wedi’u targedu.

Gan edrych ymlaen at 2024 i 2026, bydd y ffocws ar gyflawni a monitro Cynllun Gweithredu Busnes Cymru yn parhau. Bydd hyn yn cynnwys parhau â’r ymdrechion i greu gwasanaeth Busnes Cymru gwrth-hiliol, gan gynyddu nifer yr egin fusnesau a thwf busnesau ymhlith pobl ethnig leiafrifol, a chyflwyno modiwl e-ddysgu gwrth-hiliol i staff Busnes Cymru a’r gymuned fusnes ehangach. Gan gydnabod pwysigrwydd hyrwyddo egwyddorion gwrth-hiliaeth ymhlith busnesau a chyflogwyr ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu gweithdy gwrth-hiliol ar BOSS, a fydd yn hygyrch drwy wefan Busnes Cymru. Bydd y modiwlau e-ddysgu ar gael yn ystod hydref 2024, a chaiff eu heffeithiolrwydd ei fonitro drwy gyfraddau cymryd rhan a gwerthusiadau cyn ac ar ôl hyfforddiant.

Crynodeb i gloi

Mae rhaglen Busnes Cymru wedi gwneud cynnydd o ran hyrwyddo ei agenda wrth-hiliol, gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r nod a amlinellwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Drwy fynd ati i ymgysylltu â phartneriaid yn y gymuned a gwella prosesau casglu data, mae Busnes Cymru nid yn unig wedi cynyddu cymorth i entrepreneuriaid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ond hefyd wedi sicrhau bod ei wasanaethau yn hygyrch ac yn ddiwylliannol briodol. Mae’r penderfyniad i gyflwyno gwasanaethau cyfieithu, ynghyd â phwyslais cryf ar fonitro a gwerthuso, yn adlewyrchu ymrwymiad i welliant parhaus a chynhwysiant. 

Gan edrych i’r dyfodol, bydd y ffocws ar gyfer 2024 i 2026 ar barhau â’r broses o roi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Busnes Cymru ar waith a’i fonitro. Mae hyn yn cynnwys y modiwl e-ddysgu gwrth-hiliol ar BOSS sydd yn yr arfaeth. Y nod o hyd yn y pen draw yw creu amgylchedd busnes teg a chyfiawn sy’n cefnogi twf a llwyddiant entrepreneuriaid o bob cefndir. 

Mae’r portffolio hwn wedi ymrwymo ymhellach i weithio gyda rhanddeiliaid i wella amrywiaeth o fewn strwythurau arweinyddiaeth a gweithlu Busnes Cymru a gwella’r ffordd y dadansoddir data croestoriadol er mwyn llywio blaenoriaethau allgymorth.

Nodau a chamau gweithredu

Erys y nod ar gyfer y cyfnod 2024 i 2026 yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, ceir ymrwymiad i ganolbwyntio camau gweithredu ar gyfer y cyfnod hwn ar y gwaith o gyflawni a monitro Cynllun Gweithredu Busnes Cymru er mwyn datblygu gwasanaeth gwrth-hiliol gan Busnes Cymru a chynyddu nifer yr egin fusnesau a thwf ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Lle mae camau gweithredu wedi cael eu diwygio, mae hyn er mwyn ei gwneud yn haws i’w cyflawni a’u mesur, ac felly’n haws i fonitro canlyniadau a chynnydd.

Nod: creu gwasanaeth Busnes Cymru sy’n wrth-hiliol ac sy’n ymgysylltu â chymunedau amrywiol mewn ffordd ddiwylliannol briodol er mwyn cynyddu nifer y cwmnïau newydd a thwf cwmnïau ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Camau gweithredu
  • Cam Gweithredu: Bydd Busnes Cymru yn parhau i roi Cynllun Gweithredu Busnes Cymru ar waith a’i fonitro.
  • Sicrhau bod hyfforddiant gwrth-hiliol i staff Busnes Cymru yn cael ei gyflwyno.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro gofynion cytundebol i sicrhau darpariaeth wrth-hiliol drwy gontractau Busnes Cymru.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Entrepreneuriaeth wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac is-grŵp y Cynllun i adolygu, lunio ac adnewyddu nodau a chamau’r Cynllun. 

Mae is-grŵp y Cynllun wedi chwarae rôl ganolog o ran cydlynu a hyrwyddo’r ymdrechion hyn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Cenedl Noddfa

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa, a nodwyd yn gyntaf yng Nghynllun Gweithredu Cenedl Noddfa a gyhoeddwyd yn 2019 ac yr adeiladwyd arni yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022. Addawodd Llywodraeth Cymru hefyd i barhau â gwaith Cenedl Noddfa fel rhan o’r Compact Byd-eang ar Ffoaduriaid ym mis Rhagfyr 2023. Mae’r bennod ddiwygiedig hon yn cydgrynhoi ac yn diweddaru ymrwymiadau blaenorol a wnaed yng Nghynllun 2019, pennod 2022, ac ymrwymiadau a wnaed mewn dogfennau eraill.

Mae’r camau gweithredu yn y Cynllun Cenedl Noddfa yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan ganolbwyntio’n benodol ar ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’, ‘Cymru o gymunedau cydlynus’, a ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’. Mae’r cynllun y pwysleisio bod angen gweithio ochr yn ochr â’r rhai sydd â phrofiadau bywyd o anghydraddoldeb ac anfantais a gwrando arnynt.

Mae pedair ardal yng Nghymru, sef Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, wedi cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae pob cymuned yng Nghymru bellach yn ymwneud â chefnogi ceiswyr noddfa. Mae’r Swyddfa Gartref bellach yn gweithredu system lloches ‘Gwasgaru Llawn’ ac mae’r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol sicrhau bod plant sydd ar eu pen eu hunain yn derbyn gofal. Mae Wcreiniaid wedi cyrraedd pob cymuned drwy’r Cynllun Cartrefi i Wcráin a’r cynllun Cynllun Teuluoedd o Wcráin, ar ôl ailsefydlu dinasyddion o Affganistan a Syria dros Gymru gyfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ers i Gynllun Cenedl Noddfa 2019 gael ei gyhoeddi, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cychwyn tair Deddf Mewnfudo. Mae’r rhain wedi ychwanegu cymhlethdod at y system fewnfudo ac wedi creu risgiau newydd y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn osgoi a lliniaru canlyniadau niweidiol a chydlyniant cymunedol ac integreiddio aneffeithiol. Mae’r newidiadau cyflym mewn cynlluniau a deddfwriaeth newydd ym maes mewnfudo, a pholisïau a gweithdrefnau Llywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi golygu bod angen ffordd newydd o weithredu’r polisi Cenedl Noddfa. Nid oes modd rhagweld y set nesaf o newidiadau na digwyddiadau byd-eang, felly mae’r dull gweithredu diwygiedig yn rhoi egwyddorion wrth wraidd y cynllun, yn hytrach na chanolbwyntio gormod ar gamau gweithredu a nodir. Disgrifir y 10 egwyddor hyn yn llawn yn y bennod dechnegol lawn. 

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Ers i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gael ei gyhoeddi yn 2022, mae Llywodraeth y DU wedi creu sawl llwybr mewnfudo newydd o dan drefn diogelwch dyngarol ac wedi gwneud newidiadau sylweddol i ddeddfwriaeth a phrosesau. Mae hyn wedi cynnwys tri chynllun fisa i bobl o Wcráin yn sgil ymosodiad ar Wcráin ar raddfa eang, dau gynllun ailsefydlu i bobl o Affganistan ar ôl i luoedd NATO dynnu’n ôl o’r wlad ac ar ôl i’r Taliban ddod i rym unwaith eto, a’r llwybr fisa i Wladolion Prydeinig Tramor o Hong Kong ers i’r Gyfraith Diogelwch Gwladol gael ei gweithredu yn Hong Kong. Bu hefyd gynnydd yn nifer y ceiswyr lloches sy’n cyrraedd mewn cychod bach, sy’n digwydd, ym marn Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i’r ymadawiad â’r UE. Y cynnydd hwn yn nifer y ceiswyr lloches sy’n cyrraedd y DU sydd wedi ysgogi’r model lloches Gwasgaru Llawn a’r gofyniad ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gymryd rhan yn y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches.

Gall fod yn anodd iawn casglu data ynglŷn â’r canlyniadau a brofir gan geiswyr noddfa sy’n byw yng Nghymru oherwydd y gyfran gymharol fach o geiswyr noddfa sy’n defnyddio gwasanaethau, ystyriaethau diogelwch data, ac ofn erledigaeth ymhlith llawer o’r rhai sy’n cyrraedd gan ddarparwyr gwasanaethau yng Nghymru oherwydd y profiadau a achosodd iddynt gael eu dadleoli. Mae’r heriau hyn wedi’u dwysáu gan fethiant Llywodraeth y DU i rannu data neu gyhoeddi data ar lefel Cymru. Cyhoeddir rhywfaint o ddata ond nid mewn perthynas â phob cynllun. Mae hon yn her sy’n cael ei hateb yn rhannol drwy roi Fframwaith Integreiddio Mudwyr Cymru ar waith a thrafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU.

Yn 2024 i 2025, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth ar gyflawni’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gynnal hawliau plant ar eu pen eu hunain a sicrhau eu budd pennaf. Bydd hefyd yn adolygu effeithiolrwydd Gwasanaeth Noddfa Cymru ac yn ystyried y posibilrwydd o estyn y gwasanaeth ar gyfer 2025 i 2027. Bydd y ffocws ar atal yr effeithiau mwyaf niweidiol a brofir gan geiswyr noddfa, megis digartrefedd, cyni, camfanteisio, diweithdra, a salwch meddwl. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi’r rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus a chynorthwyo ceiswyr noddfa ar adegau pontio allweddol, megis cyrraedd Cymru a gadael llety i geiswyr lloches. 

Crynodeb i gloi

I gloi, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi ceiswyr noddfa yng Nghymru. Bydd yn adolygu effeithiolrwydd Gwasanaeth Noddfa Cymru ac yn ystyried ei estyn o 2025 i 2027. Caiff cymorth penodol ei ddatblygu i geiswyr noddfa LHDTC+ ac anabl ynghyd ag ymyriadau ar gyfer menywod a phlant. 

Bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i wella prosesau casglu a chyhoeddi data drwy gydweithio â rheolyddion data amrywiol. Mae hyn yn cynnwys datblygu dangosyddioon dibynadwy i fesur sut mae mudwyr yn integreiddio a monitro nifer yr unigolion heb hawl i gyllid cyhoeddus sy’n cael eu cefnogi oherwydd anghenion gofal. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau’r system gwynion i geiswyr noddfa, gan roi cymorth eiriolaeth effeithiol ac annog cyrff cyhoeddus i gyfyngu ar y data a rennir â’r Swyddfa Gartref at ddibenion gorfodi cyfraith mewnfudo er mwyn ennyn hyder mewn prosesau cwyno. 

Caiff camau gweithredu cadarnhaol eu cymryd hefyd i hyrwyddo cydraddoldeb, meithrin cysylltiadau da, a dileu achosion o wahaniaethu a chasineb, gan atgyfnerthu’r weledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa.

Nodau a chamau gweithredu

Mae’r bennod hon ar ei newydd wedd yn cydgrynhoi ac yn diweddaru ymrwymiadau blaenorol a wnaed yng Nghynllun Cenedl Noddfa 2019, y bennod yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022, ac ymrwymiadau a wnaed mewn dogfennau eraill.

Nod: dod yn Genedl Noddfa drwy wireddu gweledigaeth Cenedl Noddfa

Camau gweithredu
  • Sicrhau y gall ceiswyr noddfa sy’n byw yng Nghymru gael mynediad teg at wasanaethau cynghori ac eiriolaeth ym mhob rhan o Gymru drwy gaffael a rheoli Gwasanaeth Noddfa Cymru.
  • Rhoi ein Fframwaith Integreiddio Mudwyr i Gymru ar waith.
  • Cynnal Polisi Cymru ar Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a chefnogi mynediad at ddarpariaeth dysgu iaith briodol, gan gynnwys mynediad at asesiadau o hyfedredd iaith o ansawdd da a chyrsiau iaith priodol.
  • Rhoi mynediad a chyfleoedd i geiswyr noddfa ddysgu Cymraeg drwy brosiectau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  • Sicrhau y caiff ffoaduriaid eu cefnogi er mwyn osgoi cyni a digartrefedd drwy barhau i ariannu prosiect llety ‘Symud Ymlaen’.
  • Ystyried cyfleoedd i nodi llwybrau cliriach tuag at lety amgen.
  • Rhoi arweiniad a hyfforddiant i gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector er mwyn sicrhau bod y rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl iddynt.
  • Datblygu prosesau casglu data a llwybrau heb hawl i gyllid cyhoeddus ar y cyd â llywodraeth leol.
  • Sicrhau bod adnoddau lletya a modelau tai arloesol yn cael eu datblygu i’r rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus sy’n ymwneud â phrosesau mewnfudo’r DU.
  • Datblygu cronfa ddata o noddwyr a lletywyr er mwyn sicrhau y gall ceiswyr noddfa gael llety pan fo’i angen.
  • Datblygu ‘Llwybr Asesu a Sgrinio Iechyd ar gyfer Ceiswyr Noddfa’ er mwyn sicrhau bod pobl sydd newydd gyrraedd yn cael eu sgrinio’n effeithiol, eu cofrestru ar gyfer gofal iechyd, ac yn cael cynnig brechiadau priodol.
  • Sicrhau cynaliadwyedd Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro a hyrwyddo arferion gorau i fyrddau iechyd eraill.
  • Cadw ffocws ar iechyd meddwl ceiswyr noddfa fel rhan o Straen Trawmatig Cymru oherwydd y trawma y maent yn debygol o fod wedi’i brofi.
  • Sicrhau bod gofal iechyd yn hygyrch i’r rhai nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, yn unol â Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch a Chyfathrebu.
  • Gweithio gyda chyflogwyr i wella lefelau cyflogaeth ymhlith ceiswyr noddfa sydd â hawl i weithio. Annog rôl y sector preifat o ran cyflogaeth ac integreiddio, drwy Borth Swyddi Cymru i ddechrau.
  • Bydd cynlluniau cymorth entrepreneuriaeth (Busnes Cymru) yn hygyrch i geiswyr noddfa sydd â hawl i weithio, gan gynnwys drwy wasanaethau cyfieithu, gweithdai a chyngor un i un.
  • Datblygu a chynnal llwybrau ar gyfer cyflogaeth i geiswyr noddfa mewn sectorau allweddol megis iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Sicrhau bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn parhau i gefnogi mentrau megis Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru i fanteisio ar dalentau ceiswyr noddfa sydd yng Nghymru. Ystyried estyn y dull gweithredu hwn i sectorau a phroffesiynau eraill.
  • Gweithio gyda Talent Beyond Boundaries i gefnogi prosesau mudo diogel a chyfreithiol o dan drefn diogelwch dyngarol i gefnogi’r sectorau hyn.
  • Ar y cyd â Llywodraeth y DU, ystyried y posibilrwydd o adolygu Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil i wella cymhwystra i ffoaduriaid er mwyn iddynt gael eu hystyried am gyflogaeth yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
  • Hyrwyddo Llywodraeth Cymru fel cyflogwr, gan ddangos tegwch a bod yn agored ac yn dryloyw er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl ymgeisio.
  • Gweithio gyda sefydliadau addysg uwch er mwyn nodi cyfleoedd i gynyddu lefelau cyfranogi a chadw ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn addysg uwch.
  • Sicrhau bod gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion croestoriadol ceiswyr noddfa sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol. Dadlau o blaid gwelliannau i brosesau Llywodraeth y DU lle y nodir effeithiau croestoriadol negyddol.
  • Bydd pob plentyn mudol ar ei ben ei hun yn cael ei drin fel unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Mae gan bob plentyn sy’n derbyn gofal hawl statudol i eiriolaeth.
  • Ymgymryd â gwaith â darparwyr eiriolaeth ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o geiswyr lloches a phrosesau lloches.
  • Helpu Maethu Cymru i wella prosesau recriwtio, hyfforddi a chymorth i ofalwyr maeth sy’n gofalu am bobl ifanc sy’n cyrraedd, gan gynnwys o dan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol.
  • Gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Cynghorau Gwirfoddol Sirol a phartneriaid eraill i nodi a hyrwyddo cyfleoedd i geiswyr noddfa gael cyfleoedd i wirfoddoli.
  • Meithrin cydgysylltiadau da rhwng y rhai sy’n cyrraedd a chymunedau lletyol er mwyn creu cydlyniant cymunedol.
  • Parhau i gyllido’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol hyd at fis Mawrth 2026 o leiaf a hwyluso ymgysylltu rhwng cymunedau, a hefyd rhwng y rhai sy’n cyrraedd a heddluoedd.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth o weledigaeth Cenedl Noddfa.
  • Cynnwys ceiswyr noddfa fel arbenigwyr drwy brofiad wrth wraidd y broses o ddatblygu polisïau a gwella’r ffordd y mae’r rhai sydd newydd gyrraedd yn integreiddio.
  • Rhoi prosiect Welcome Connectivity ar waith i’w gwneud yn bosibl i geiswyr lloches â chais gweithredol gysylltu â’r cynllun teithiau bws Tocyn Croeso a’r cynllun rhyngrwyd Cronfa Ddata.
  • Cynnal a hyrwyddo cysondeb rhwng Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, Fframwaith Cymwysterau’r DU a’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd er mwyn cefnogi ceiswyr noddfa sy’n ceisio cydnabyddiaeth am eu cymwysterau presennol.
  • Cynyddu’r niferoedd sy’n gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant er mwyn galluogi ceiswyr noddfa cymhwysol i fynd i wersi iaith neu ddechrau cyflogaeth.
  • Gwella mynediad at y Gronfa Ariannol Wrth Gefn er mwyn sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i geiswyr noddfa er mwyn helpu i ddileu’r rhwystrau ariannol sy’n atal pobl rhag astudio yn y coleg.
  • Gweithio gyda sefydliadau trais ar sail rhywedd a chymorth i geiswyr noddfa er mwyn cefnogi mynediad at wasanaethau cymorth penodol ar gyfer trais ar sail rhywedd, gan gynnwys i bobl heb hawl i gyllid cyhoeddus.
  • Helpu i ddatblygu cynlluniau ailsefydlu diogel a chyfreithiol yng Nghymru ac i’w rhoi ar waith yn effeithiol. 
  • Datblygu llawlyfr i ymateb i gynlluniau newydd a phennu meini prawf ar gyfer cyfleoedd i uwch-noddwyr yn y dyfodol, ni waeth beth fo tarddiad cenedlaethol nac ethnig y rhai y mae angen noddfa arnynt.
  • Bydd rheolau cymhwystra cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cael eu diweddaru’n brydlon er mwyn sicrhau mynediad teg at wasanaethau i’r rhai sydd newydd gyrraedd.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru, cymunedau a phartneriaid eraill i gynyddu’r rôl y gall nawdd cymunedol ei chwarae i helpu i ailsefydlu ffoaduriaid.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido gwasanaethau integreiddio aduno teuluoedd yng Nghymru hyd at fis Mawrth 2025 o leiaf ac i ddadlau dros ddiffiniad eang o deulu er mwyn sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl i aduno teuluoedd o fewn rheolau mewnfudo Llywodraeth y DU.
  • Cefnogi dioddefwyr troseddau casineb, gan gynnwys drwy gyllid Canolfan Cymorth Casineb Cymru. Codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ymhlith ceiswyr noddfa ac annog mwy i roi gwybod am unrhyw achosion o’r fath.
  • Helpu ceiswyr noddfa i gael gafael ar wybodaeth am gadernid ariannol a lliniaru tlodi. Hyrwyddo proses hawliadau eithriadol y Gronfa Cymorth Dewisol i bobl sy’n ceisio noddfa.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o hyfforddiant mewn risgiau diogelu, caethwasiaeth fodern a’r potensial i gamfanteisio ar geiswyr noddfa (gan gynnwys y rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus), gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain, a mynediad ato.
  • Monitro’r lefelau o gyngor ac eiriolaeth ynglŷn â mewnfudo sydd ar gael a phwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau adnoddau digonol. Darparu adnoddau cyngor cyfreithiol cyfyngedig i atal y canlyniadau mwyaf niweidiol.
  • Cynnal y wefan ar Noddfa fel y brif ffynhonnell o wybodaeth gyfredol am hawliau a gwasanaethau yng Nghymru i geiswyr noddfa. Sicrhau bod y wefan yn parhau i fod yn hygyrch mewn nifer o ieithoedd.
  • Sicrhau bod gwybodaeth am newidiadau allweddol mewn statws mewnfudo yn cael ei chyfleu’n briodol.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae portffolio Cenedl Noddfa wedi bod yn cydweithio ag:

  • Is-adran Cymunedau Cydlynus Llywodraeth Cymru
  • partner(iaid) cyflawni Gwasanaeth Noddfa Cymru
  • y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
  • Partneriaeth REACH (a arweinir gan Goleg Caerdydd a’r Fro)
  • Medr: y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
  • Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru
  • y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • yr Is-adran Polisi Tai
  • Cyngor Ffoaduriaid Cymru
  • Diogelu ac Eiriolaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Awdurdodau Lleol yng Nghymru
  • Cynghrair Ffoaduriaid Cymru
  • CLlLC/Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Iechyd Meddwl
  • Diogelu Iechyd a Gofal Sylfaenol
  • Tîm Cydraddoldebau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
  • Sgiliau a Chyflogadwyedd Llywodraeth Cymru
  • Gweithlu GIG Llywodraeth Cymru
  • Gweithlu Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
  • Adnoddau Dynol ac Adnoddau
  • Is-adran Profiad Dysgwyr Llywodraeth Cymru
  • Sefydliadau Addysg Uwch Cymru
  • UCAS
  • Gwasanaethau Cymdeithasol, Diogelu ac Eiriolaeth Llywodraeth Cymru
  • yr Is-adran Galluogi Pobl
  • Good Things Foundation
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru
  • Gofal Plant a Theuluoedd
  • Llwybrau Dysgwyr Llywodraeth Cymru
  • Sefydliadau cymorth trais ar sail rhywedd
  • Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd Llywodraeth Cymru
  • Canghennau Diogelu ac Eiriolaeth a Chaethwasiaeth Fodern a Hawliau Gweithwyr
  • Llywodraeth Cymru a darparwyr cyngor cyfreithiol ar fewnfudo

Mae’r uchod wedi bod yn rhan annatod o’r adolygiad, gan lunio ac adnewyddu’r nodau a’r camau gweithredu hyn yn y Cynllun. Mae is-grŵp y Cynllun wedi cynnig llwyfan i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Troseddu a chyfiawnder, gan gynnwys troseddau casineb

Troseddu a chyfiawnder

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Nid yw cyfiawnder troseddol (carchardai, heddluoedd, gwasanaeth prawf, llysoedd a meysydd cysylltiedig) wedi’i ddatganoli yng Nghymru; fodd bynnag, Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am feysydd a all ddylanwadu ar gyfraddau troseddu megis iechyd, camddefnyddio sylweddau, llety ac addysg. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw, er ein bod yn gyfrifol am lawer o’r ffactorau a all effeithio ar droseddu, nid ydym ni ar ein pennau ein hunain yn gyfrifol am y ffactorau i fynd i’r afael â’r anghymesuredd a welir drwy’r system cyfiawnder troseddol gyfan. Er mwyn sicrhau newid bydd angen inni weithio gyda’n partneriaid i wneud popeth o fewn ein gallu i ymdrin â phryderon gwirioneddol pobl ethnig leiafrifol.

Er y cydnabyddwn mai un sefydliad ydym ymhlith nifer sydd â chyfrifoldebau yn y maes cyfiawnder, mae cyfrifoldeb arnom o hyd i ddangos arweinyddiaeth a chynrychiolaeth. Mae ein rôl yn cynnwys cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod data dibynadwy ar gael ac i sbarduno newidiadau sylweddol sy’n mynd i’r afael â’r problemau a wynebir gan bobl ethnig leiafrifol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r gweithgarwch sylweddol a wneir gan bartneriaid yn y maes hwn, sy’n ategu’r cynllun gweithredu hwn.

Lansiwyd y Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru ym mis Medi 2022. Fe’i datblygwyd ar y cyd gan bartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan gynnwys Plismona yng Nghymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n nodi saith ymrwymiad i helpu i wireddu system gyfiawnder wrth-hiliol yng Nghymru. Mae’r cynllun yn ategu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac rydym wedi cytuno ar ddull gweithredu er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y ddau gynllun. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ddadlau o blaid datganoli rhannau o’r system gyfiawnder i fynd i’r afael â hiliaeth yn fwy uniongyrchol.

Y cynllun yw’r brif ffordd o sbarduno newid ym maes cyfiawnder troseddol ac rydym yn chwarae rôl bwysig yn cefnogi a chraffu er mwyn gwneud i hyn ddigwydd.

Mae Plismona yng Nghymru hefyd wedi datblygu ei gynllun gwrth-hiliaeth ei hun sy’n dwyn ynghyd yr elfennau allweddol i’w cyflawni ganddo o dan y Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru a Chynllun Gweithredu Hil yr Heddlu a ddatblygwyd gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cydgysylltu’n agos â phartneriaid ym maes plismona er mwyn deall y cynnydd y maent yn ei wneud yn erbyn eu nodau a gweithio gyda’n gilydd i wireddu ffordd wrth-hiliol o weinyddu cyfiawnder yn ymarferol.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Ers cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â sawl partner ym maes cyfiawnder troseddol, gan gynnwys Plismona yng Nghymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, er mwyn cyflawni’r nodau cyffredin a amlinellwyd yn y bennod ar Droseddu a Chyfiawnder. Ar ôl cael arweiniad gan is-grŵp y Grŵp Atebolrwydd Allanol, mae’r bennod ar Droseddu a Chyfiawnder ar ei newydd wedd yn cadw ei blaenoriaethau gwreiddiol ond mae’n anelu at symleiddio camau gweithredu a chanolbwyntio ar fanteisio ar bwerau penodol Llywodraeth Cymru i ymgorffori gwrth-hiliaeth, gan sicrhau’r effaith ymarferol fwyaf posibl.

Crynodeb i gloi

Er bod cyfiawnder troseddol yn faes cymhleth, a heriol yn aml, mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hiliaeth yn gadarn o hyd. Drwy gydweithio â phartneriaid a phwyso am ddatganoli, rydym yn ymdrechu i fynd i’r afael â’r problemau systemig a wynebir gan bobl ethnig leiafrifol yng Nghymru. Wrth inni barhau i hyrwyddo ein nodau ym maes cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, bydd yr adran nesaf yn ymhelaethu ar ein hymdrechion manwl i wrthsefyll troseddau casineb, ac yn dangos mentrau sydd â’r nod o gefnogi unigolion a chymunedau yr effeithir arnynt.

Mae pedwar o bum nod y bennod o’r Cynllun ar Droseddu a Chyfiawnder wedi aros yn ddigyfnewid. Mae’r cam gweithredu penodol ynglŷn â datganoli cyfiawnder wedi cael ei ddileu, a cheir trafodaeth am ddatganoli yn naratif rhagarweiniol y ddogfen dechnegol bellach. Nod y newidiadau a wnaed i’r camau gweithredu eraill yw sicrhau eu bod yn fwy effeithiol, yn cael mwy o effaith, ac yn haws i’w mesur, gan hwyluso gwell prosesau monitro canlyniadau a chynnydd. 

Cyfeiriodd y fersiwn gyntaf o’r Cynllun a gyhoeddwyd yn 2022, at adroddiad ar brofiadau menywod ethnig leiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol. Roedd yr adroddiad hwn yn seiliedig ar adolygiad llenyddiaeth anffurfiol a gomisiynwyd o dan y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod yr iaith yn y Cynllun gwreiddiol wedi awgrymu ei fod yn adroddiad mwy ffurfiol a phendant.Mae’r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu’r ffaith bod y sylfaen dystiolaeth yn y maes hwn yn dal i ddatblygu. Wrth ddiweddaru’r Cynllun ar gyfer y fersiwn hon, rydym wedi dileu’r cyfeiriad llawn at y gwaith hwn er mwyn canolbwyntio’n fwy penodol ar y camau gweithredu a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn unig. Byddwn yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd yn erbyn y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod drwy ein Cynllun Gweithredu.

Nodau a chamau gweithredu

Nod: gweithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill ym maes cyfiawnder troseddol (e.e. Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a’i aelodau) i greu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol yng Nghymru, gan fabwysiadu dull heriol a radical o wella canlyniadau a mynd i’r afael â hiliaeth systemig
Camau gweithredu
  • Drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, gan sicrhau cynnydd a gwella canlyniadau.
Nod: defnyddio’r ysgogwyr yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i fynd i’r afael â gwahaniaethu a chefnogi dull gweithredu gwrth-hiliol
Camau gweithredu
  • Archwilio camau gweithredu cadarnhaol ehangach i recriwtio mwy o bersonél ethnig leiafrifol ym mhob heddlu yng Nghymru ac ar lefelau gwahanol.
  • Defnyddio’r broses gweinyddu grantiau a Grŵp Llywio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Cymru i fonitro ethnigrwydd y swyddogion hyn yng Nghymru, gan herio mewn modd adeiladol pan fydd angen gwneud hynny er mwyn deall pam nad yw’r niferoedd yn adlewyrchu poblogaeth pob ardal heddlu.
Nod: cryfhau’r sylfaen dystiolaeth i nodi gwahaniaethau ar sail hil yn y system gyfiawnder drwy roi cyngor ac arweiniad i randdeiliaid, a thrwy ennyn hyder ac ymddiriedaeth pobl ethnig leiafrifol o ran y defnydd a wneir o’u data
Camau gweithredu
  • Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil yn parhau i weithio gyda phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol er mwyn cynghori ar y ffordd orau o wella’r dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â gwahaniaethau ar sail hil yn y system gyfiawnder yng Nghymru a chefnogi gwell penderfyniadau polisi a gwaith monitro.
  • Nodi’r bylchau mewn tystiolaeth mewn perthynas â’r holl barthau, gan gynnwys data a gasglwyd ac a gofnodwyd ar ethnigrwydd a hil yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Gan adeiladu ar yr asesiad cychwynnol hwn, mynd ar drywydd rhaglen o waith i wella’r sylfaen dystiolaeth er mwyn nodi gwahaniaethau ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys ymgysylltu’n barhaus â phobl ethnig leiafrifol i wella eu gwybodaeth/ymddiriedaeth o ran y ffordd y caiff eu data eu defnyddio, er mwyn ennyn eu hyder i rannu data.
Nod: meithrin ein sgiliau a’n hyder i ddeall sut beth yw system gyfiawnder wrth-hiliol ac annog a dylanwadu’n gadarn ar bolisi gwrth-hiliol gan Lywodraeth y DU
Camau gweithredu
  • Sicrhau bod cyfleoedd datblygu a hyfforddiant ar wrth-hiliaeth ar waith ar gyfer tîm Troseddu a Chyfiawnder Llywodraeth Cymru a swyddogion perthnasol eraill, fel y gallant lwyr ymgorffori’r dull gweithredu hwn yn eu gwaith.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Troseddu a Chyfiawnder wedi bod yn cydweithio’n agos ag:

  • Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru
  • Partneriaid ym maes Cyfiawnder Troseddol
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Swyddogion Arweiniol Llywodraeth y DU
  • Is-adran Polisi Cyfiawnder Llywodraeth Cymru

Mae is-grŵp Troseddu a Chyfiawnder y Cynllun wedi chwarae rhan allweddol i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith ar y bennod hon ar ei newydd wedd.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Troseddau Casineb

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yn ôl yr Ystadegau Gwladol ynglŷn â Throseddau Casineb ar gyfer Cymru a Lloegr 2022 i 2023, cofnodwyd 6,041 o droseddau casineb ym mhedair Ardal Heddlu Cymru, gyda 3,727 (62%) ohonynt yn droseddau casineb hil. Roedd hyn yn ostyngiad o 4% yn nifer y troseddau casineb hil a gofnodwyd o gymharu â 2021 i 2022, sef y gostyngiad blynyddol cyntaf ers y dechreuwyd casglu data cymaradwy ddeng mlynedd yn ôl (Llywodraeth y DU, 2023). 

Fodd bynnag, gwnaeth y gostyngiad hwn o 4%  godi pryderon ar unwaith nad oedd y cyhoedd yn rhoi gwybod am y troseddau hyn oherwydd gwahanol rwystrau. Cynhaliodd Fforwm Eiriolaeth Profiad Bywyd y Ganolfan astudiaeth o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag rhoi gwybod am droseddau casineb, a nododd sawl problem gyffredin, gan gynnwys: 

  • profiad gwael blaenorol wrth roi gwybod am drosedd casineb
  • diffyg ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr
  • pryderon na fyddent yn cael eu cymryd o ddifrif
  • diffyg ymddiriedaeth yn y system cyfiawnder troseddol 

Er nad yw cyfiawnder yng Nghymru wedi’i ddatganoli, sy’n ei gwneud yn heriol mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau hyn, mae cydweithrediad â phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol drwy Fwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru yn ganolog i’r ffordd rydym yn gweithredu. 

Ym mis Chwefror 2023, ail-lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, gyda gweithgareddau yn y cyfryngau drwy gydol y flwyddyn gyda’r nod o rymuso dioddefwyr a thystion i roi gwybod am droseddau casineb. Er bod lefel y parodrwydd cyffredinol i roi gwybod am droseddau casineb wedi gostwng, cafodd yr ymgyrch ymateb cadarnhaol ymhlith pobl ethnig leiafrifol, a oedd yn dangos y gall ymgyrchoedd cyfathrebu wedi’u targedu godi ymwybyddiaeth yn efffeithiol ac annog pobl i roi gwybod am droseddau.

Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn parhau i roi gwasanaeth cymorth ac eiriolaeth annibynnol o safon uchel i ddioddefwyr troseddau casineb ar sail hil ledled Cymru. Mae’r Ganolfan yn amlieithog, ar gael 24/7, ac yn cyrraedd cymunedau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol ac yn ddaearyddol. Mae bellach yn darparu gwasanaeth troseddau casineb cenedlaethol i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cymorth i aelodau o’r teulu y mae troseddau casineb hil yn effeithio arnynt. 

“Roeddwn i’n teimlo ar goll yn llwyr. Ond mae eich cymorth wedi fy helpu i ddeall beth ddylai fod yn digwydd, mae wedi fy helpu i weld goleuni yn y tywyllwch roeddwn i’n ei deimlo. Roedd fy nheulu ar goll yn llwyr. Diolch yn fawr iawn.”

(Defnyddiwr gwasanaeth Canolfan Cymorth Casineb Cymru).

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol

Mae gwaith Llywodraeth Cymru gyda phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol yn cynnwys cydgynhyrchu ymchwil i’r rhai sy’n cyflawni troseddau casineb ac archwilio arferion cyfiawnder adferol er mwyn deall technegau effeithiol i newid ymddygiad.

Rydym yn mabwysiadu dull gweithredu cyfannol o fynd i’r afael â throseddau casineb sy’n cynnwys gwaith ataliol, rhoi cymorth i ddioddefwyr, a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, drwy gyllido a sefydlu Canolfan Cymorth Casineb i Gymru, ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, a Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Fel y nodir uchod, mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn rhoi gwasanaeth cymorth ac eiriolaeth cyfrinachol, amlieithog am ddim i bob dioddefwr troseddau casineb, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn parhau i fod yn hyblyg, gan sicrhau y gall gefnogi cymunedau yn ystod cyfnodau o densiynau cynyddol. Byddwn yn rhoi pwyslais arbennig ar fynd i’r afael â throseddau casineb sy’n ymwneud ag Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth, gan gydweithio ag Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost i goffáu dyddiadau pwysig a gwella’r broses o gasglu data ar droseddau casineb sy’n ymwneud â chrefydd. 

Crynodeb i gloi

Mae’r bennod ar Droseddau Casineb yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â throseddau casineb drwy gydweithio, cymorth wedi’i dargedu, a chodi ymwybyddiaeth. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru a mentrau fel Mae Casineb yn Brifo Cymru yn dangos y camau breision a gymerwyd i gefnogi dioddefwyr a’u hannog i roi gwybod am droseddau. Bydd ein ffocws yn y dyfodol yn cynnwys mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag rhoi gwybod am droseddau, gwella gwasanaethau cymorth, a blaenoriaethu anghenion croestoriadol ac anghenion cymunedau penodol. 

Drwy integreiddio dirnadaethau o’r Fforwm Eiriolaeth Profiad Bywyd a chryfhau cysylltiadau â phartneriaid allweddol, rydym yn anelu at feithrin amgylchedd cynhwysol ac ymatebol i holl ddioddefwyr troseddau casineb. Wrth inni barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ac asiantaethau cyfiawnder troseddol, bydd ein hymdrechion ar y cyd yn sbarduno newid ystyrlon, gan sicrhau yr ymdrinnir â throseddau casineb yn effeithiol a bod pob cymuned yn teimlo ei bod yn cael ei chefnogi a’i hamddiffyn.

Nodau a chamau gweithredu

Erys pob un o’r pedwar nod yn y bennod o’r Cynllun ar Droseddu a Chyfiawnder yn ddigyfnewid. Lle mae camau gweithredu wedi cael eu diwygio, mae hyn er mwyn ei gwneud yn haws i’w cyflawni a’u mesur, ac felly’n haws i fonitro canlyniadau a chynnydd.

Nod: sicrhau bod Cymru yn parhau i anelu at fod yn wlad wrth-hiliol sy’n lle diogel i fyw ynddo, drwy ddileu agweddau atgas a chefnogi’r rhai sy’n dioddef troseddau casineb â chymhelliant hiliol
Camau gweithredu
  • Codi ymwybyddiaeth o effaith troseddau casineb ar ddioddefwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol drwy ein hymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’, annog dioddefwyr a’r rhai sy’n dyst i droseddau i roi gwybod am droseddau casineb ac atgyfnerthu’r neges bod dioddefwyr troseddau casineb yn cael eu diogelu o dan y gyfraith yn y DU.
  • Gwella ein cymorth a’n heiriolaeth i’r rhai sydd wedi cael profiad o drosedd gasineb hiliol drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru. Caiff cymorth ei ‘gydadolygu’ â phobl sy’n profi troseddau casineb croestoriadol.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ganolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd o wrthannog cyflawnwyr posibl cyn eu bod yn cyflawni troseddau casineb a dod yn rhan o’r system gyfiawnder. Nid yw polisi cyfiawnder troseddol wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
  • Gweithio gydag Ofcom a chwmnïau technoleg i wrthsefyll troseddau casineb hiliol ar-lein.
  • Nid yw telathrebu na rheoleiddio ar-lein wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Gallwn ond ceisio dylanwadu ar weithredoedd Llywodraeth y DU drwy bartneriaeth.
  • Darparu cyllid yn y trydydd sector i feithrin cydlyniant cymunedol a mynd i’r afael â thensiynau cymunedol.
Nod: mynd i’r afael â phob math o wrth-Semitiaeth
Camau gweithredu
  • Mynd i’r afael â throseddau casineb gwrth-Semitaidd drwy fentrau codi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at gasineb crefyddol drwy Mae Casineb yn Brifo Cymru.
Nod: mynd i’r afael â phob math o droseddau casineb sy’n ymwneud ag Islamoffobia
Camau gweithredu
  • Mynd i’r afael â throseddau casineb sy’n ymwneud ag Islamoffobia drwy fentrau codi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at gasineb crefyddol drwy Mae Casineb yn Brifo Cymru.
Nod: mynd i’r afael â hiliaeth drwy adeiladu cymunedau cydlynus ac integredig
Camau gweithredu
  • Bydd y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ymgysylltu ac yn ymgymryd â gweithgareddau sy’n meithrin cydberthnasau da rhwng grwpiau drwy leihau achosion o wahanu a chynyddu empathi a dealltwriaeth. Caiff ymgysylltu o’r fath ei deilwra at bob ardal leol a bydd yn ymateb i densiynau cymunedol sy’n bodoli eisoes neu sy’n dod i’r amlwg lle y bo angen.
  • Sicrhau bod timau cydlyniant yn gweithredu fel cyswllt rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus er mwyn annog cyfranogiad wrth lunio polisïau a sicrhau cyfle cyfartal i gymunedau ethnig lleiafrifol.

Cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Nod: mynd i’r afael â hiliaeth drwy adeiladu cymunedau cydlynus ac integredig
Camau gweithredu
  • Diweddaru’r canllawiau ar Reoli Gwersylla Diawdurdod, gan gynnwys aelodau o’r gymuned er mwyn adlewyrchu eu hanghenion.
  • Gweithio gyda’r heddlu ac aelodau o’r gymuned i fabwysiadu protocol ynglŷn â gwersylla diawdurdod.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffollio Troseddu a Chyfiawnder wedi bod yn cydweithio’n agos ag:

  • Is-adran Cymunedau Cydlynus Llywodraeth Cymru
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru
  • Is-adran Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru
  • Is-adran Tai Llywodraeth Cymru
  • Is-adran Troseddu a Chyfiawnder Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • CLlLC
  • Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Cymorth i Ddioddefwyr
  • Cydweithwyr yn yr heddlu a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru

Mae is-grŵp Troseddu a Chyfiawnder y Cynllun wedi chwarae rhan allweddol i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith ar y Cynllun ar ei newydd wedd.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Gofal plant a chwarae

Tystiolaeth: cynlluniau presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol 

Fel y nodwyd yn y Bennod o’r Cynllun ar Ofal Plant a Chwarae mae’r Cynllun ar ei newydd wedd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau a welir o hyd mewn data ar gyrhaeddiad yn ystod y blynyddoedd cynnar yng Nghymru, gyda’r lefelau isaf ymhlith plant o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’r lefelau uchaf ymhlith plant Indiaidd, Tsieineaidd a Phacistanaidd (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2023). Mae’r data hefyd wedi dangos bod lefelau cyrhaeddiad plant Du a Du Prydeinig yn is yn ystod y blynyddoedd cynnar o gymharu â’u cyfoedion (StatsCymru, 2017 i 2019). Datgelodd astudiaeth yn 2021 fod rhieni Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn wynebu ystyriaethau diwylliannol ac addysgol unigryw wrth ddefnyddio gofal plant (Llywodraeth Cymru, 2021). Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn gweithio ar brosiectau fel yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Ryngwladol ac ymchwil i brofiad bywyd Mentoriaid Cymunedol. Bydd cynlluniau yn y dyfodol yn cynnwys casglu data manwl ar amrywiaeth ethnig y gweithlu a defnyddwyr gofal plant drwy gwestiynau dewisol mewn ceisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru gan ddechrau yn 2024.

Cyflawniadau a’r ffocws yn y dyfodol 

Ers yr iteriad cyntaf o’r Cynllun, mae’r cyflawniadau yn cynnwys lansio adnoddau dysgu gwrth-hiliol cyntaf Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Phecyn Cymorth Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Lleoliadau Gofal Plant. Er mwyn ategu hyn, mae Map Tiwb hefyd wedi cael ei ddatblygu a fydd yn helpu unigolion ar bob lefel i nodi adnoddau a hyfforddiant priodol. Mae ymwneud Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL)CWLWM (Yn uno gofal plant Cymru) a Mentoriaid Cymunedol wedi bod yn allweddol i’r cynnydd a wnaed. 

Mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cydweithio i wella llythrennedd o ran hil ymhlith arolygwyr. Gyda chymorth DARPL, mae arweinwyr AGC wedi ffurfio grŵp hyrwyddwyr gwrth-hiliol ac maent yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Gan edrych i’r dyfodol, ni fydd y blaenoriaethau dros y ddwy flynedd nesaf yn sylweddol wahanol i’r rhai a welwyd yn yr iteriad cyntaf o’r Cynllun. Bydd y ffocws ar hyrwyddo arweinyddiaeth wrth-hiliol, gwella prosesau casglu data ar nodweddion gwarchodedig, a helpu cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gael gafael ar wasanaethau. Bydd yr ymdrechion i ddatblygu adnoddau ymarferol, darparu dysgu proffesiynol parhaus, a gwella ffyrdd o fynd i’r afael â hiliaeth mewn lleoliadau gofal plant yn parhau.

Crynodeb i gloi 

Mae’r sector gofal plant a chwarae yng Nghymru yn cymryd camau breision tuag at amgylchedd cynhwysol a gwrth-hiliol, a fydd yn cael ei gefnogi gan ddata cadarn ac ymdrechion ar y cyd. Er ei fod yn cydnabod y gwahaniaethau a geir ar hyn o bryd, mae’r sector yn ymrwymedig i welliant parhaus drwy ymchwil, dysgu proffesiynol, ac ymgysylltu cymunedol a dargedir. Gyda ffocws clir ar arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac arweinyddiaeth gryf, mae’r sector yn anelu at sicrhau bod pob plentyn a theulu yn cael mynediad teg at wasanaethau gofal plant a chwarae o safon.

Nodau a chamau gweithredu

Erys y tri nod cyffredinol yn y bennod o’r Cynllun ar Ofal Plant a Chwarae yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, mae rhai camau gweithredu wedi cael eu haddasu i wella’r ffordd y cânt eu cwblhau a’r gallu i’w mesur, a fydd yn ei gwneud yn haws i fonitro canlyniadau a chynnydd.

Gwella’r profiad yn y gweithle

Nod: bydd staff yn gweithio mewn amgylcheddau cynhwysol a diogel sy’n seiliedig ar Gynghreiriaeth, ac yn cael cymorth i gyflawni eu potensial llawn a’u grymuso i nodi arferion hiliol a mynd i’r afael â nhw
Camau gweithredu
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgorau a fydd yn cyfarfod o leiaf bob chwe mis i weithio gyda chyrff cynrychioliadol y sector, cyrff a noddir ac unigolion â phrofiad bywyd. Bydd y gweithgorau yn helpu i roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith yn eu gwaith ac yn nodi cynnydd yn erbyn yr amcanion sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth fel rhan o waith eu sefydliadau i wireddu’r weledigaeth o Gymru wrth-hiliol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid yn y sector a phartneriaid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i hyrwyddo hyfforddiant gwrth-hiliol ac annog y gweithlu gofal plant a chwarae i ymgymryd ag ef. Caiff cyfraddau cyfranogi eu monitro drwy’r dulliau cofnodi presennol. Adolygiad blynyddol o gynnydd.
  • Gan ddwyn ynghyd y camau gweithredu 1.3 a 1.4 gwreiddiol (gweler y ddogfen dechnegol) bydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â phartneriaid yn y sector yn datblygu pecyn cymorth o arferion gorau gwrth-hiliol (a pharhau i’w adolygu) i’w atodi i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol – bydd hyn yn cynnwys cyngor arfer gorau ymarferol ar y canlynol:
    • llywodraethu ac arweinyddiaeth
    • llawr / amgylchedd lleoliad
    • rhieni, partneriaethau gofalwyr a chymunedau
    • dysgu proffesiynol
    • ymarfer, chwarae a’r cwricwlwm
    • ymdrin ag achosion o hiliaeth/bwlio
  • Gan gefnogi newid yn y gweithlu, bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid CWLWM yn hyrwyddo’r defnydd o’r pecyn cymorth o arferion gorau ac yn ei adolygu o fewn blwyddyn i’w lansio. Bydd partneriaid CWLWM yn helpu lleoliadau i ddefnyddio’r pecyn cymorth, gan ymgorffori dull gwrth-hiliol o bennu polisïau ac arferion.
  • Er mwyn helpu i ddatblygu ymarfer gwrth-hiliol mewn lleoliadau, bydd AGC yn datblygu rhaglen o ddysgu proffesiynol i arolygwyr ac yn ei rhoi ar waith.
  • Bydd Llywodraeth Cymru ac AGC yn adolygu ac yn diweddaru’r fframwaith arolygu bob blwyddyn o safbwynt gwrth-hiliol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid yn y sector, yn adeiladu ar yr ymchwil bresennol ar y cyd â’r rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn deall eu profiadau o weithio yn y sector a chydgynhyrchu cynigion i gefnogi mwy o amrywiaeth o ran hil yn y sector.

Cynnig darpariaeth sy’n fwy priodol yn ddiwylliannol

Nod: bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i wella mynediad at leoliadau gofal plant a chwarae yn ogystal â mynediad at gyfleoedd chwarae
Camau gweithredu 
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Is-grwpiau, gan gynnwys Mentoriaid Cymunedol i weithio ochr yn ochr â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, i nodi’r rhwystrau a wynebir gan y cymunedau hyn i gael gafael ar wasanaethau. Bydd y gweithgor yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir dileu rhwystrau er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau.
  • Bydd partneriaid mewn awdurdodau lleol yn ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn nodi sut y gall llais a phrofiadau bywyd pobl yn y cymunedau hyn gael eu cofnodi’n fwy effeithiol fel rhan o’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ei gynnal.

Gwella profiad plant

Nod: caiff pob plentyn gyfle i ystyried a dathlu amrywiaeth hil mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol
Camau gweithredu
  • Bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector yn gweithio i wella ymwybyddiaeth darparwyr o wrth-hiliaeth yn y Cwricwlwm i Gymru.
  • Gan ganolbwyntio ar brofiad bywyd, gwrth-hiliaeth, cynghreiriaeth, eiriolaeth a chymhwysedd diwylliannol, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector, ar y cyd â phartneriaid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl â phrofiadau bywyd, i adolygu a llunio adnoddau i helpu lleoliadau i fod yn ddiwylliannol sensitif a chynnig darpariaeth amrywiol mewn lleoliadau gofal plant a chwarae a sicrhau bod ymarferwyr yn cael cymorth i wneud hynny.

Partneriaid cyflawni arweiniol a chefnogol dynodedig

Mae’r portffolio Gofal Plant a Chwarae wedi bod yn cydweithio â chyrff cynrychioliadol y sector, cyrff a noddir, awdurdodau lleol, unigolion â phrofiad bywyd, a phartneriaid mewnol allweddol i adolygu, llunio, ac adnewyddu nodau a chamau gweithredu’r Cynllun. Mae is-grŵp y Cynllun wedi cynnig llwyfan i gydgysylltu a hyrwyddo’r gwaith hwn.

Mae’r cyrff a’r partneriaid allweddol hyn yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

  • CWLWM: consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae. Ei ffocws yw darparu gwasanaeth integredig dwyieithog a fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ledled Cymru.
  • Chwarae Cymru: yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru. Mae’n ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar drwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.
  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC): sy’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.
  • Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL): mae DARPL yn dwyn ynghyd tîm amrywiol a chymuned ymarfer ddynamig sy’n cynnwys y rhai sydd â phrofiadau bywyd a phrofiad proffesiynol. Mae DARPL yn darparu dysgu proffesiynol gwrth-hiliol ar gyfer y sector addysg a’r sector gofal plant.
  • Mentoriaid Cymunedol: unigolion sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac sy’n dod o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n meddu ar wybodaeth neu brofiad o effaith hiliaeth ym maes gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Er mwyn gofyn am y bennod dechnegol lawn, e-bostiwch: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Casgliad

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Cymru, lle mae pob dinesydd yn cael budd o gymdeithas decach, fwy cyfartal, gydlynus a chynhwysol, a Chymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae’r weledigaeth gyffredin hon yn adlewyrchu dull cadarnhaol a rhagweithiol o sbarduno newid.

Mae’r Cynllun wedi gosod sylfeini cadarn dros newid systemig, ac mae cynnydd da eisoes wedi cael ei wneud. Fodd bynnag, er bod llawer o gynnydd wedi’i wneud, erys anghydraddoldebau ar sail hil yn ein cymdeithas o hyd. Mae’n amlwg bod yn rhaid gwneud rhagor, a hynny’n gynt. Erys Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud rhagor o gynnydd.

Ers cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022, bu ffocws cadarn ar wella prosesau casglu data a datblygu’r adnoddau a’r seilwaith llywodraethu i fonitro a gwerthuso cynnydd. Gwnaed mwy o ymdrech i ddeall a dadansoddi profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn nifer o feysydd polisi. Bydd gwaith monitro a gwerthuso parhaus, sy’n cael ei lunio drwy gydgynhyrchu, yn sicrhau bod y Cynllun yn cael ei adolygu o hyd ac y gellir ei addasu at wybodaeth newydd.

Mae pob pennod yn y Cynllun hwn yn nodi camau gweithredu clir a mesuradwy sy’n benodol i faes polisi. Daw nifer o themâu cyffredin i’r amlwg yn y penodau, sy’n nodi meysydd blaenoriaeth y bydd angen canolbwyntio arnynt a rhoi sylw iddynt am gyfnod estynedig. Mae’r themâu craidd hyn yn bwyntiau ymyrryd allweddol ac maent yn hollbwysig o ran cyflawni’r nod cyffredinol o sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym yn amlinellu isod y themâu trawsbynciol hyn ac yn trafod eu goblygiadau ehangach i’r cynllun yn ei gyfanrwydd.

Mae meysydd polisi yn gydgysylltiedig, a thrwy nodi synergeddau rhwng meysydd gwahanol cynigir cyfleoedd i gydweithio a chydlynu. Er mwyn cyflawni effeithiau diriaethol mae’n bosibl y byddwn yn dibynnu ar y synergeddau hyn, oherwydd bydd angen o bosibl gymryd camau gweithredu cydgysylltiedig rhwng meysydd polisi ar wahân er mwyn cyflawni effeithiau penodol. Mae’n bwysig edrych ar y Cynllun fel un cwbl integredig.

Mae’r cyfleoedd a gynigir gan Cymraeg 2050 yn groestoriad pwysig ag uchelgeisiau’r Cynllun hwn. Mae gan wasanaethau cyhoeddus heddiw y potensial i sicrhau gweledigaeth fwy cynhwysol o wlad ddwyieithog, ac ehangu ymwneud, cynrychiolaeth, a chyfranogiad ym mhob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru.

Ni all Llywodraeth Cymru gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar ei phen ei hun. Mae llwyddiant y Cynllun yn dibynnu ar sefydliadau partner allweddol ac mae pob pennod yn nodi’n glir y partneriaid arweiniol a chydweithredol dynodedig allweddol, gan amlinellu eu priod gyfrifoldebau. Er mwyn i’r Cynllun gael ei roi ar waith yn llwyddiannus, bydd hynny’n dibynnu ar gamau gweithredu a gymerir yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ac yn benodol gan y partneriaid arweiniol sy’n rhanddeiliaid a nodwyd ym mhob un o’r penodau.

Drwy’r nodi’r themâu cyffredin hyn bydd potensial i nodi dulliau ar y cyd o sicrhau newid a thynnu sylw at y mathau o synergeddau sydd eu hangen i gynnal camau gweithredu mewn cyfnod pan fo llai o gyllid ac adnoddau prin.

Themâu trawsbynciol craidd

Cyfrifoldeb arweinyddiaeth a Chynrychiolaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn genedl sy’n arwain y ffordd o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar sail hil. Ym Mhennod Un, rydym yn adolygu cyfrifoldebau arweinyddiaeth ac yn amlinellu sut rydym yn anelu at lywio newid sylweddol mewn diwylliant tuag at wrth-hiliaeth yng Ngwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru ac yn nodi’r disgwyliadau gan y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae pob pennod o’r Cynllun wedi nodi rôl hollbwysig uwch-arweinwyr o ran llunio ymyriadau i sicrhau newid cynaliadwy; newid sy’n ystyrlon, yn berthnasol, ac yn glir ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Caiff arweinwyr eu hannog i nodi blaenoriaethau ar gyfer camau gweithredu sy’n rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol ac sy’n pennu llinellau atebolrwydd clir ac yn adlewyrchu eu dyletswyddau statudol i hyrwyddo cydraddoldeb. Mae’r amcanion yn cynnwys creu diwylliant yn eu priod sefydliadau a fydd yn fodd i gynnal deialog a herio dros newid, gan nodi disgwyliadau sy’n ymdrin ag ymddygiadau ac sy’n sicrhau llesiant a diogelwch pob un o aelodau’r gweithlu. Nodir yn gyson fod dulliau o sicrhau gweithlu ac arweinyddiaeth weithredol ac anweithredol fwy cynrychioliadol yn ganolog i’r broses o roi’r Cynllun ar waith. Cydnabyddir mai dim ond drwy ymrwymiad arweinwyr a rheolwyr i wneud pethau’n wahanol y gellir cyflawni nodau’r Cynllun. Dyna pam y credwn y dylai’r nodau hyn, fel mentrau sefydliadol pwysig eraill, gael eu cynnwys fel rhan o ddangosyddion perfformiad a gwobrwyo allweddol arweinwyr er mwyn hwyluso newid.

Data 

Mae’r Cynllun wedi’i wreiddio mewn prosesau gwneud polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae pob pennod yn rhoi corff o dystiolaeth i gefnogi’r camau gweithredu arfaethedig ac yn amlinellu’r math o ddata sydd ei angen i asesu canlyniadau ac effeithiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil i gasglu a monitro’r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer y Cynllun a chomisiynu ymchwil berthnasol. Fodd bynnag, cydnabyddir nad yw pobl ethnig leiafrifol yn homogenaidd, ac mae’r amrywiaeth mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gofyn am ddata cynnil, wedi’u dadgrynhoi i olrhain cynnydd yn erbyn y nodau y cytunwyd arnynt. Mae pob pennod bolisi yn cydnabod yr heriau sy’n gysylltiedig â gofynion data, y bylchau a’r anhawster i allosod tystiolaeth o setiau data bach, gan nodi rôl hollbwysig data manwl i wireddu dyheadau’r Cynllun. Pwysleisir dau bwynt allweddol: yn gyntaf, yr angen i wella ansawdd data a’r data sydd ar gael; ac yn ail, pwysigrwydd amrywiaeth eang o gyrff cyhoeddus yn blaenoriaethu gofynion o ran data ac yn eu bodloni.

Llais a chynrychiolaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Mynegir pryder mewn nifer o’r penodau ynghylch y diffyg cynrychiolaeth i bobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae hyn yn cynnwys tangynrychiolaeth ar gyrff sy’n gwneud penderfyniadau a diffyg data meintiol ac ansoddol manwl ar y materion allweddol sy’n effeithio ar y grwpiau hyn. Mae sawl maes polisi wedi ymrwymo i ymgynghori’n fanylach a chanolbwyntio ymdrechion ar harneisio mwy o gynrychiolaeth i leisiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a hefyd i bennu camau gweithredu a nodau’n glir a’u blaenoriaethu. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen cymorth gofalus i feithrin gallu a chydgynhyrchu.

Croestoriadedd 

Un thema allweddol sy’n codi drwy’r Cynllun cyfan hwn yw pwysigrwydd ystyried croestoriadau â hil, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig eraill a ffactorau economaidd-gymdeithasol. Tynnir sylw at rywedd, oedran ac anabledd yn y dystiolaeth fel nodweddion gwarchodedig lle mae croestoriadau hollbwysig â hil sydd naill ai’n rhwystro neu’n hwyluso mynediad at wasanaethau. Cydnabyddir bod angen deall y ffactorau croestoriadol hyn yn well ac mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil wedi comisiynu sawl darn o ymchwil i’w hystyried ymhellach. Mae pob pennod yn disgrifio sut y bydd yn ymdrin â’r croestoriadau hyn. 

Mae tegwch o ran mynediad at wasanaethau yn fater allweddol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Mae’n amlwg bod croestoriad sylweddol rhwng anghydraddoldebau ar sail hil ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol fel y nododd adroddiad yr Athro Ogbonna: Adroddiad Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig COVID-19: ymateb Llywodraeth Cymru. Nodir bod mentrau ehangach gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o fynd i’r afael â thlodi, anfantais, a hyrwyddo llesiant yn allweddol er mwyn cyflawni nodau’r Cynllun. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 hefyd yn nodi cyfrifoldebau clir am greu Cymru sy’n fwy cyfartal.

Cwynion 

Mae gallu myfyrwyr, disgyblion, cleifion, aelodau o’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau a’r gweithlu i wneud cwynion yn ddiogel, rhoi gwybod am achosion o hiliaeth a sicrhau bod camau dilynol yn cael eu cymryd ac yr ymdrinnir â’u cwyn yn briodol yn achos pryder o hyd ym mhob maes polisi. Er bod prosesau yn bodoli, mae’n amlwg nad ydynt yn ddigon cadarn i sicrhau ymatebion priodol na lleihau/dileu hiliaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol. 

Nodir pryderon y gweithlu, yn enwedig o ran risgiau, diogelwch, a llesiant cyflogeion ethnig leiafrifol, drwy’r holl benodau. Mae pob pennod yn pwysleisio’r angen i gryfhau prosesau cwynion, gan gynnwys rhoi gwybod am gwynion a’u cofnodi, ac i gryfhau cyfleoedd i’r staff roi adborth ar eu profiadau yn y gweithle. Mae monitro achosion a chasglu data ar gadw staff yn rhan o’r broses hon. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen ystyried proses annibynnol o ddyfarnu ynghylch cwynion er mwyn sicrhau tegwch ac atebolrwydd.

Gweithredu Cadarnhaol

Mae natur ragweithiol gwrth-hiliaeth, yn wahanol i anhiliaeth, yn gofyn am fanteisio i’r eithaf ar strategaethau gweithredu cadarnhaol. Ym mhob maes polisi, manylir ar fentrau gweithredu cadarnhaol mewn meysydd megis recriwtio a chadw staff, gallu staff i gamu ymlaen yn eu gyrfa, a gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu wedi’u targedu. Hefyd, ceir camau sy’n anelu at gael cyd-destun sefydliadol ehangach y llywodraeth a phartneriaid sy’n rhanddeiliad allweddol i edrych ar strategaethau gweithredu cadarnhaol ar y cyd a fydd yn creu effaith i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ystyrir bod gweithredu cadarnhaol yn ffordd allweddol o gyflawni uchelgeisiau’r Cynllun. Mae’n bwysig bod swyddogion gweithredol a rheolwyr yn deall y gwahaniaeth rhwng gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol ac yn teimlo’n hyderus wrth gymryd camau gweithredu cadarnhaol. Mae ailfeddwl am ddulliau gweithredu a llunio camau gweithredu cadarnhaol perthnasol y gellir eu cyflawni yn hollbwysig i hyrwyddo cydraddoldeb, meithrin cydberthnasau da, a dileu gwahaniaethu a chasineb, a thrwy hynny gefnogi gweledigaeth Cymru am gymdeithas wrth-hiliol a mwy cynhwysol.

Hyfforddiant

Mae’r angen am hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth ac uwchsgilio mewn perthynas â gwrth-hiliaeth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn flaenoriaeth a rennir gan bob maes polisi. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar hyn fel gofyniad hollbwysig i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus. Un mater allweddol fu’r angen i ddatblygu ffyrdd o fonitro ansawdd hyfforddiant ac adnoddau i werthuso a mesur y canlyniadau. Mae hyfforddiant ar wrth-hiliaeth yn hanfodol ar bob lefel o’r hierarchaeth, yn enwedig ar lefelau uwch lle mae penderfyniadau sy’n cael effaith anghymesur ar bobl ethnig leiafrifol yn cael eu gwneud. Dylai hyfforddiant effeithiol ar y lefelau hyn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall y gwahaniaethau rhwng hiliaeth, anhiliaeth a gwrth-hiliaeth. Mae’r penodau yn pwysleisio pwysigrwydd hyfforddiant mewn sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i ategu gan ffyrdd o fonitro ei effaith. Bydd uwchsgilio personél adnoddau dynol mewn gwasanaethau cyhoeddus i gyflwyno hyfforddiant, ei arwain a’i roi ar waith, a monitro ei effeithiau yn hollbwysig er mwyn i strwythurau atebolrwydd gael eu datblygu’n gadarn.

Amrywiadau rhanbarthol ledled Cymru a rôl llywodraeth leol

Cydnabyddir pwysigrwydd lleoliaeth o ran mynediad teg at wasanaethau rheng flaen ac ysgogwyr lleol fel modd rhoi’r Cynllun ar waith fel thema drawsbynciol. Nodir bod rôl bwysig llywodraeth leol fel partner, darparwr gwasanaethau a chyflogwr yn hanfodol am fod cymaint o’r hyn y mae’r Cynllun am ei gyflawni yn nwylo’r cynghorau eu hunain ac felly mae eu hymrwymiad yn hollbwysig. Maent yn cynrychioli ac yn cyfleu amrywiadau rhanbarthol ledled Cymru sy’n groestoriad pwysig â strategaeth wrth-hiliol. Erys cyfrifoldebau statudol cynghorau lleol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn sbardun pwysig i newid. Mae pob rhan o’r Cynllun yn tanlinellu ac yn cyfeirio at bwysigrwydd cynnal deialog gydategol a strategaethau gweithredu sy’n cael eu cydgynhyrchu rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid mewn llywodraeth leol.

Creu Cymru Wrth-hiliol

Mae’r ffaith bod y themâu uchod yn codi dro ar ôl tro ym mhob un o’r penodau yn pwysleisio eu harwyddocâd o ran hyrwyddo uchelgais y Cynllun i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Cafodd llawer o’r pryderon hyn eu nodi hefyd yn adroddiad Gweithredu, nid Geiriau, gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder, a adolygodd hynt y Cynllun ddwy flynedd ar ôl iddo gael ei roi ar waith.

Ni waeth beth fo’r maes polisi, mae’r ysgogwyr hyn yn berthnasol i gynnydd, gan ddibynnu, nid yn unig ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar gydweithredu a chydweithio gan nifer o bartneriaid allweddol. Mae sefydliadau partner yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun. Dylid pwysleisio bod cyfrifoldebau statudol ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y mae pob un ohonynt yn rhoi’r mandad i ymdrin â sawl un o’r materion allweddol a restrir uchod.

Bydd cysoni â dyletswyddau a chynlluniau eraill yn dod yn fwyfwy pwysig yn y cyfnod hwn o gyni cyllidol. Drwy ddefnyddio’r adnoddau hyn sy’n bodoli eisoes a’u mentrau cysylltiedig ac integreiddio’r Cynllun â Chynlluniau Cydraddoldeb Statudol ochr yn ochr â chamau gweithredu eraill wedi’u teilwra bydd hyn yn helpu i’w roi ar waith.

Bydd cydweithio a chydgynhyrchu mewn rhanbarthau sy’n wynebu heriau tebyg hefyd yn gwella effeithlonrwydd o ran cyflawni’r Cynllun. Bydd Cynullwyr Rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau ymatebolrwydd lleol. Bydd rhannu arferion da, adnoddau ac ymdrech, ynghyd â chyd-ddatblygu adnoddau monitro, yn hollbwysig i ymateb i anghenion penodol megis anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a sicrhau gwaith mapio data cywir a chynnil i gefnogi polisïau.

Un o negeseuon clir y Cynllun yw na all Llywodraeth Cymru roi cynllun mor fawr ar waith ar ei phen ei hun. Dim ond os bydd y llywodraeth, rhanddeiliaid allweddol, a phobl Cymru ar y cyd yn ymroi i newid y bydd llwyddiant yn bosibl.

Ni fydd y Cynllun yn gynllun cydraddoldeb hil arall eto sydd â bwriadau da nas cyflawnir. Erys ymrwymiad Gweinidogol trawsbleidiol i’r Cynllun yn gadarn o hyd. Gwaddol y Cynllun fydd yr effaith gyffredinol, wrth inni weld gwybodaeth, credoau, profiadau, ac ymddygiad yn newid yn ogystal â newidiadau systemig a diwylliannol a chlywed lleisiau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cadarnhau newidiadau gweladwy i’w profiadau bywyd. Bydd hyn yn golygu ein bod wedi gwireddu gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.