Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ystadegau ar gyfer Cymru am gludo nwyddau ar y ffyrdd yn cynnwys gwybodaeth am fewnforion ac allforion, y nwyddau a godir a'r nwyddau sy'n cael eu cludo ar y ffyrdd i Gymru ac o Gymru gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm (HGVs) sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Mae'r data'n cael eu darparu gan yr Adran Drafnidiaeth.

Newidiodd yr Adran Drafnidiaeth ei dull o gasglu data ar gyfer ystadegau ar gludo nwyddau ffyrdd gan gerbydau domestig yn unig o arolwg papur i arolwg ar-lein hanner ffordd drwy 2021. O ganlyniad, ni ddylid cymharu data cyn Gorffennaf 2021 â data ar-lein o fis Gorffennaf 2021 ymlaen. Nid effeithiwyd ar ddata am gludo nwyddau ar y ffyrdd yn rhyngwladol. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn methodoleg yr Adran Drafnidiaeth.

Prif bwyntiau

Yn 2023 cafodd cyfanswm o 95.0 miliwn tunnell (Mt) o nwyddau eu codi yng Nghymru gan gerbydau nwyddau trwm (HGVau) sydd wedi’u cofrestru yn y DU), sef gostyngiad o 12% o 107.7Mt yn 2022. O'r cyfanswm hwn:

  • cafodd 45.9Mt o nwyddau eu cludo ar y ffordd yng Nghymru, sef gostyngiad o 15% ers y flwyddyn ddiwethaf; y categori mwyaf o nwyddau oedd 'mwyn metel a deunyddiau mwyngloddio a chwarela eraill' 24% o gyfanswm y nwyddau a gludwyd yng Nghymru
  • daeth 26.4Mt o nwyddau i Gymru o weddill y DU, sef cynnydd o 8% ers y flwyddyn ddiwethaf; y categori mwyaf o'r rhain oedd 'nwyddau wedi'u grwpio' (cymysgedd o fathau o nwyddau sy'n cael eu cludo gyda'i gilydd)  a oedd yn cynnwys 25% o nwyddau a ddaeth i Gymru
  • cafodd 22.7Mt o nwyddau eu cludo o Gymru i weddill y DU, sef gostyngiad o 22% ers y flwyddyn ddiwethaf; y categori mwyaf o'r rhain oedd 'nwyddau wedi'u grwpio' a oedd yn cynnwys 25% o'r nwyddau a aeth o Gymru
  • cafodd 406,000 tunnell (0.41Mt) o nwyddau eu cludo ar y ffyrdd rhwng Cymru a'r UE yn 2023

Cafodd y gostyngiad mewn cludo nwyddau ei yrru'n rhannol gan amseriad yr arolwg cludo nwyddau ar y ffyrdd domestig 2023, a esboniwyd yn fanwl yn cyhoeddiad yr Adran Drafnidiaeth ar Ystadegau cludo nwyddau ar y ffyrdd domestig, Deyrnas Unedig: 2023.

Ffigur 1: Nwyddau sy’n cael eu cludo ar y ffyrdd yng Nghymru, i Gymru ac o Gymru gan HGVau sydd wedi’u cofrestru yn y DU, 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar yn dangos pwysau'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd yng Nghymru, i Gymru ac o Gymru gan HGVau wedi'u cofrestru yn y DU yn 2023.

[Nodyn 1] Diffiniad nwyddau a godir yw pwysau'r nwyddau a gludwyd, wedi'u mesur mewn tunellau. Dyma fesur o gyfanswm y nwyddau sy'n cael eu cludo yn y DU gan HGVau sydd wedi'u cofrestru yn y DU.

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am gludo nwyddau ar y ffyrdd

Grwpiau nwyddau

Mae Ffigur 2 yn dangos y 5 grŵp mwyaf o nwyddau a gludwyd gan HGVau yng Nghymru yn 2023. Y grŵp o nwyddau â'r pwysau uchaf oedd nwyddau wedi’u grŵpio ar 21.4Mt, ac wedyn mwyn metel (14.7Mt). Roedd cynhyrchion bwyd yn cyfrif am 15% o'r nwyddau a gludwyd gan HGVau yng Nghymru dros yr un cyfnod.

Mae rhagor o fanylion am grwpiau o nwyddau ar gael yng nghyhoeddiad yr Adran Drafnidiaeth Road Freight Statistics Notes and Definition (tudalennau 17 i 18).

Ffigur 2: Grwpiau o nwyddau a gludwyd (yn ôl pwysau) yng Nghymru gan HGVau wedi'u cofrestru yn y DU yn 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart colofn yn dangos pwysau'r nwyddau a gludwyd gan HGVau ar gyfer y pum grŵp mwyaf o nwyddau yng Nghymru yn 2023.

[Nodyn 1] Nwyddau wedi'u grwpio: cymysgedd o fathau o nwyddau sy'n cael eu cludo gyda'i gilydd

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am gludo nwyddau ar y ffyrdd

Cyrchfannau yn y DU 2023

Mae'r adran hon yn edrych ar weithgarwch domestig cerbydau nwyddau trwm (HGVau) sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr yn ôl faint o nwyddau a gafodd eu codi a'u symud ar y ffyrdd o fewn y DU i Gymru ac o Gymru.

Prif bwyntiau

  • Yn 2023, dim ond yng Nghymru ei hun y teithiodd 76% o'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd. 
  • O’r nwyddau a gludwyd (nwyddau a godwyd) o Gymru i rannau eraill o'r DU, aeth 24% i Dde-orllewin Lloegr, 23% i Orllewin Canolbarth Lloegr a 19% i Ogledd-orllewin Lloegr (Ffigur 3. Roedd y rhanbarthau hyn yn cyfrif am gyfanswm o 66% o nwyddau a gludwyd o Gymru i weddill y DU.
  • Roedd yr un tri rhanbarth yn cyfrif am 68% o'r nwyddau a gludwyd i Gymru o weddill y DU. Daeth 27% o Orllewin Canolbarth Lloegr, 25% o Dde-orllewin Lloegr a 17% o Ogledd-orllewin Lloegr.
  • Yn 2023, o'r 9.6 biliwn tunnell-gilomedr o nwyddau a gludwyd i Gymru ac o Gymru, aeth 47% o'r holl nwyddau a symudwyd o Gymru i wledydd a rhanbarthau eraill y DU a daeth 53% o'r nwyddau a symudwyd i Gymru.

Diffiniadau

Nwyddau a symudwyd

Pwysau'r nwyddau a gludwyd wedi'i luosi â'r pellter y cludwyd y nwyddau, wedi'i fesur mewn cilometrau-tunnell. Mae hwn yn fesur o'r gweithgarwch cyffredinol yn y DU gan HGVau wedi'u cofrestru yn y DU, gan gyfrif am y pellter a deithiwyd gan bob cerbyd a phwysau ei lwyth.

Nwyddau a godwyd

Pwysau'r nwyddau a gludwyd wedi'i fesur mewn tunellau. Dyma fesur o gyfanswm y nwyddau sy'n cael eu cludo yn y DU gan HGVau sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Nodiadau a diffiniadau ar gyfer cludo nwyddau ar y ffyrdd (Adran Drafnidiaeth).

Ffigur 3: Nwyddau a gludwyd (nwyddau a godwyd) gan HGVau rhwng rhanbarthau Cymru a'r DU yn 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn yn dangos cyfeiriad cludo nwyddau ar y ffyrdd gan gerbydau domestig yn ôl rhanbarth y DU a Chymru yn 2023.

[Nodyn 1] Diffiniad nwyddau a godir yw pwysau'r nwyddau a gludwyd, wedi'u mesur mewn tunellau. Dyma fesur o gyfanswm y nwyddau sy'n cael eu cludo yn y DU gan HGVau sydd wedi'u cofrestru yn y DU.

[Nodyn 2] Nid yw data ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban wedi'u cynnwys oherwydd maint bach y samplau.

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am Gludo Nwyddau ar y Ffyrdd

Cyrchfannau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) 2023

Cafodd 406,000 tunnell (0.41Mt) o nwyddau eu cludo ar y ffyrdd rhwng Cymru a'r UE yn 2023 (Ffigur 4). 

Ar gyfer yr UE cyfan, gostyngodd cyfanswm y mewnforion a'r allforion nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd  gan  6% yn 2023 o'i chymharu â 2022. Gostyngodd cyfanswm pwysau'r nwyddau a gludwyd gan HGVau rhwng Cymru a chyrchfannau'r UE rhwng 2019 a 2023 ac mae'n parhau i fod yn is na lefelau 2019. Mae'r ystadegau hyn yn cwmpasu cyfnod y mae'n debyg yr effeithiwyd arno gan y pandemig COVID-19 yn ogystal ag ymadawiad y DU â'r UE.

Ffigur 4: Y nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd gan HGVau (yn ôl pwysau) rhwng Cymru a'r UE, 2000 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell yn dangos y duedd mewn cludo nwyddau ar y ffyrdd (yn ôl pwysau) a gludwyd gan HGVau rhwng Cymru a'r UE rhwng 2000 a 2023.

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am gludo nwyddau ar y ffyrdd

Cafodd 51% o'r tunelledd a gludwyd ar y ffyrdd o'r UE ac i'r UE ei lwytho/ddadlwytho yng Ngwlad Belg, Lwcsembwrg neu'r Almaen yn 2023. Cynyddodd cyfanswm cyfunol mewnforion ac allforion nwyddau a gludwyd ar y ffordd i'r gwledydd hyn ac o'r gwledydd hyn 15% yn 2023, fodd bynnag, mae'r lefelau presennol 18% yn is na lefelau 2019.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Oscar Carrel
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099