Rydym yn awyddus i gael eich barn ar ganllawiau drafft sydd â’r nod o gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant o ran y rhai sy’n ymgeisio yn etholiadau Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ein nod yw gwneud y Senedd a llywodraeth leol yn fwy amrywiol ac yn fwy cynrychioliadol o'r bobl maent yn eu gwasanaethu.
Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i helpu pleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru i:
- ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymru, ac adolygu’r rhain yn rheolaidd
- casglu a chyhoeddi gwybodaeth amrywiaeth ynglŷn ag ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd ac Aelodau etholedig
- ystyried y camau y gallant eu cymryd o ran cwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod
Dogfennau ymgynghori
Atodiad , HTML
Dogfen ymgynghori: hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Canllawiau drafft: hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Ionawr 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelwch at:
Ymgynghoriad ar ganllawiau amrywiaeth
Is-adran Diwygio'r Senedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ