Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Statws:

Cydymffurfio.

Categori: 

Safonau data.

Teitl:

Cyflwyno'r Geiriadur Meddyginiaethau a Dyfeisiau (dm+d) yn safon sylfaenol ym mhob un o gyrff GIG yng Nghymru.

Dyddiad adolygu:

4 Tachwedd 2027.

I'w weithredu gan:

  • Byrddau iechyd lleol y GIG.
  • Ymddiriedolaethau'r GIG.
  • Awdurdodau iechyd arbennig y GIG.

Er gwybodaeth:

Cyflenwyr iechyd a gofal digidol.

Angen gweithredu erbyn:

Ar unwaith.

Anfonir gan:

Mike Emery, Cyfarwyddwr Technoleg a Digidol,
Iechyd Digidol a Thrawsnewid / y Prif Swyddog Digidol,
y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Flynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.

Enw cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Amir Ramzan,
Uwch Reolwr - Safonau Iechyd Digidol,
y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a'r Flynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.
Email: amir.ramzan@gov.wales

Dogfennau amgaeedig:

Canllawiau.

Cyflwyno'r Geiriadur Meddyginiaethau a Dyfeisiau (DM+D) yn safon sylfaenol ym mhob un o gyrff GIG yng Nghymru

Y cefndir

Annwyl gydweithwyr,

Mae'r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2023, yn cydnabod pwysigrwydd canolog rheolau sy'n seiliedig ar safonau sy'n llywodraethu mynediad at gofnodion iechyd a gofal cymdeithasol a rennir at wahanol ddibenion gan gynnwys ym meysydd gofal clinigol, cynllunio gwasanaethau iechyd a'u rheoli, ymchwil ac arloesi.

I gyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod pedair egwyddor arweiniol ar gyfer data iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu mabwysiadu. Hynny yw, dylai data fod yn ganfyddadwy (Findable), yn hygyrch (Accessible), yn rhyngweithredol (Interoperable), ac yn ddata y gellid ei ailddefnyddio (Reusable). I gefnogi'r egwyddorion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi mandadu nifer o safonau agored i sicrhau bod data yn cael ei ddisgrifio mewn perthynas â'i gystrawen, sgema, geiriadur data neu gyfeiriad, ac yn mabwysiadu, lle bo hynny'n bosibl, safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi'u dogfennu'n dda, sydd ar gael yn agored, er mwyn manteisio i'r eithaf ar ryngweithredu.

Mae'r dull hwn yn golygu nad oes angen unrhyw ymdrechion arbennig ychwanegol yn y camau mapio a thrawsnewid wrth gael gafael ar y data a'i ddefnyddio, gan gynnal strwythur a chyd-destun i wella ei ansawdd a'i gywirdeb.

Mae'r DM+D yn ddosbarthiad sy'n cynnwys dyfeisiau adnabod unigryw a disgrifiadau testunol cysylltiedig ar gyfer meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, gan gynnwys gwybodaeth am y berthynas rhwng meddyginiaethau tebyg, eu henwau darllenadwy dynol, a rheolau ychwanegol i gynnal y gwaith o'u defnyddio. Mae wedi'i ddatblygu gan GIG Lloegr i'w ddefnyddio ledled y GIG (ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd) fel ffordd o nodi yn unigryw y meddyginiaethau neu'r dyfeisiau penodol a ddefnyddir wrth wneud diagnosis neu drin cleifion.

Gall y geiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau wneud y canlynol:

a. Uno cysyniadau megis llwybrau ac unedau mesur, rhagnodi brandiau, hwyluso gwaith nodi cywir a helpu i leihau gwallau wrth ragnodi, dosbarthu a gweinyddu.
b. Mae'n cynnwys dyfeisiau adnabod unigryw a disgrifiadau testunol cysylltiedig ar gyfer meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, gan gynnwys gwybodaeth am y berthynas rhwng meddyginiaethau, eu henwau darllenadwy dynol, a rheolau ychwanegol i gynnal y gwaith o'u defnyddio.
c. Galluogi rhyngweithredu o ran gwybodaeth cleifion ynghylch meddyginiaethau gan ddefnyddio iaith gyffredin, gan felly wella cydweithio a sicrhau cysondeb a phontio gofal yn ddi-dor.

Defnyddio SCCI0052: Ar 7 Ebrill 2017, cafodd DM+D ei fabwysiadu gan GIG Lloegr yn safon wybodaeth genedlaethol, ac ers y dyddiad hwnnw, mae'n ofyniad cytundebol ar gyfer darparwyr systemau GIG Lloegr. Y diben pennaf oedd cefnogi rhyngweithredu. Mae'n rhaid i bob darparwr gofal iechyd y GIG yn Lloegr sy'n cyfnewid neu'n rhannu gwybodaeth am feddyginiaethau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gofal cleifion ddefnyddio dyfeisiau adnabod a disgrifiadau dm+d wrth drosglwyddo gwybodaeth. Mae cynnwys arall y DM+D, megis dyfeisiau meddygol, wedi'u heithrio o ran cydymffurfio â'r safon. Fodd bynnag, gall defnyddwyr ddefnyddio holl gynnwys y dm+d os yw o gymorth i'w hanghenion.

Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig sydd yn berchen ar y DM+D, drwy Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, ac mae'n gyfrifol am gynnal a dosbarthu'r dosbarthiad o dan Drwydded Llywodraeth Agored drwy GIG Lloegr, sef NHS Digital yn flaenorol. Mae GIG Lloegr yn rhyddhau'r geiriadur drwy'r gwasanaeth Dosbarthu Diweddariadau Cyfeiriadau Technoleg (TRUD) neu'r Gweinyddwr Terminoleg.

Mae Llywodraeth Cymru felly yn mandadu'n ffurfiol y defnydd o'r 'Geiriadur meddyginiaethau a dyfeisiau' yn safon rhyngweithredu sylfaenol ym mhob corff y GIG yng Nghymru.

Mae mabwysiadu'r safon sylfaenol hon yn unioni GIG Cymru yn strategol â GIG Lloegr a bydd yn gwella ac yn sicrhau cysondeb ac effeithlonrwydd rheoli meddyginiaethau yng Nghymru yn sgil ei photensial i helpu i wella gofal cleifion, canlyniadau cleifion a rhyngweithredu.

Bydd hyn hefyd yn hwyluso unioni â thueddiadau rhyngwladol, gan fod geiriaduron eraill wedi'u datblygu i'w defnyddio gan gyrff gofal iechyd cenedlaethol, gan gynnwys RxNorm yn yr Unol Daleithiau, AMT (Terminoleg Meddyginiaethau Awstralia) yn Awstralia, a G-Standaard yn yr Iseldiroedd.

Gofynion o ran gweithredu

Pan fo system ddigidol yn cofnodi meddyginiaethau ac yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i system arall, rhaid i fyrddau iechyd lleol y GIG, ymddiriedolaethau'r GIG, ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG sicrhau bod y DM+D yn cael ei ddefnyddio i nodi'r meddyginiaethau hynny ar y lefel strwythurol briodol.

Cydnabyddir nad yw pob defnydd posibl o ddata meddyginiaethau yn gofyn am weithredu cynnwys llawn y DM+D, a dim ond yr agweddau hynny sy'n berthnasol i'r defnydd a fwriedir o system sy'n ofynnol i'w rhoi ar waith. Rhaid i fyrddau iechyd lleol y GIG, ymddiriedolaethau'r GIG, ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu nodi'n briodol wrth greu, caffael neu ddiweddaru system ddigidol sy'n cofnodi meddyginiaethau a throsglwyddo'r wybodaeth honno i system arall.

Gan fod y DM+D yn cael ei ddiweddaru'n wythnosol, cyfrifoldeb pob bwrdd iechyd lleol y GIG, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG yw sicrhau bod eu systemau digidol yn gallu derbyn a phrosesu'n briodol unrhyw godau DM+D dilys sy'n berthnasol i'r system.

Yn gywir,

Mike Emery,

Cyfarwyddwr Technoleg a Digidol,
Iechyd Digidol a Thrawsnewid / y Prif Swyddog Digidol,
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a'r Flynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.