Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae fy nghydymdeimlad gyda theulu'r dyn a gollodd ei fywyd yn y digwyddiad ar y rheilffordd ym Mhowys nos Lun. Mae fy meddyliau gyda phawb a effeithiwyd gan y digwyddiad ar y rheilffordd.

Yn dilyn y digwyddiad ar y rheilffordd yn yr ardal nos Lun, rydym wedi adolygu’r gwaith ffordd arfaethedig ar yr A470 yn Nhalerddig sydd i fod i ddechrau ar 31 Hydref. Gallaf gadarnhau nawr y bydd y gwaith hwn yn cael ei ohirio tan y Flwyddyn Newydd.

Gohirio'r gwaith yn Nhalerddig tan y Flwyddyn Newydd yw'r peth iawn i'w wneud ar hyn o bryd i roi amser i'r gymuned ddod i delerau â'r digwyddiadau trist.  Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, byddai dechrau'r gwaith yr wythnos nesaf wedi dod ag ansicrwydd ar adeg anodd. 

Yn ystod y ddau fis nesaf bydd y goleuadau traffig dwy ffordd yn parhau ar y ffordd gydag un lôn ar gau. Bydd gwaith monitro rheolaidd ar ardal y wal gynnal yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd.

Bydd diweddariadau pellach ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y gwaith ffordd yn cael eu darparu yn y Flwyddyn Newydd.