Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn 2022-23, gofynnodd yr Arolwg Cenedlaethol gwestiynau i bobl am eu gweithgareddau a'u hymddygiadau gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae’r canlyniadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Roedd yr ymatebwyr i'r arolwg yn 18 oed ac yn hŷn.

Mae gan bob un o'r gwahanol ddadansoddiadau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn gysylltiad annibynnol â gamblo, hyd yn oed ar ôl ystyried amrywiaeth o ffactorau eraill. Fel gyda phob dadansoddiad o’r math hwn, er inni drafod cysylltiadau rhwng gwahanol ffactorau, ni allwn briodoli achos ac effaith ar gyfer y cysylltiadau hyn, nac ystyried ffactorau na chawsant eu mesur yn yr arolwg. Gweler Gwybodaeth am ansawdd.

Y prif bwyntiau

Yn 2022-23:

  • dywedodd 63% o bobl eu bod wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf
  • dywedodd 24% o bobl eu bod wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd gamblo nad yw'n gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu yn ystod y 12 mis diwethaf

Gweithgareddau gamblo

Gofynnwyd i bobl a oeddent yn cymryd rhan mewn 19 o wahanol weithgareddau gamblo, wedi'u rhannu'n 8 grŵp. Dangosir canran y bobl sy'n cymryd rhan ym mhob grŵp o weithgareddau, yn Ffigur 1.

Ffigur 1: Canran yr unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau gamblo (wedi'u rhannu'n grwpiau), 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart sy'n dangos canran y bobl a ddywedodd eu bod wedi cymryd rhan yn ôl 8 grŵp o weithgareddau gamblo, ynghyd â bar ychwanegol yn dangos y rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw fath o gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf. Loterïau a chardiau crafu oedd y math mwyaf cyffredin o weithgaredd gamblo o bell ffordd, gyda 58% o bobl yn gwneud y rhain, o'i chymharu â 11% ar gyfer betio ar-lein a 11% ar gyfer peiriannau bingo neu gemau bwrdd. Dywedodd 37% o bobl nad oedden nhw'n gamblo.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gamblo yn gwneud hynny drwy loterïau neu gardiau crafu yn unig. Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 39% o bobl yng Nghymru wedi gamblo drwy ddefnyddio loterïau neu gardiau crafu yn unig, o'i chymharu â 24% o bobl a oedd wedi gamblo mewn ffyrdd eraill. 

Mae'r gweithgareddau gamblo sy'n ffurfio'r grŵp 'loterïau a chardiau crafu' yn cynnwys y canlynol: 

  • prynu tocynnau ar gyfer y Loteri Genedlaethol
  • prynu cardiau crafu
  • prynu tocynnau ar gyfer loteri arall

O'r 3 gweithgaredd hyn, prynu tocynnau'r Loteri Genedlaethol oedd y mwyaf cyffredin, gyda bron i hanner y bobl yng Nghymru wedi gwneud hynny. 

Ffigur 2: Canran yr unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau gamblo yn y grŵp 'loterïau a chardiau crafu', 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart yn dangos canran y bobl sy'n cymryd rhan yn yr ymddygiadau gamblo unigol sy'n ffurfio'r grŵp 'loterïau a chardiau crafu' yn Ffigur 1. Prynu tocynnau ar gyfer y Loteri Genedlaethol oedd y gweithgaredd gamblo mwyaf cyffredin, gyda bron i hanner yr holl bobl a gyfwelwyd yn dweud eu bod wedi gwneud hynny yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd prynu cardiau crafu yn weithgaredd llai cyffredin, ac roedd prynu tocynnau ar gyfer loteri arall yn llai cyffredin eto.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Ffactorau sy'n gysylltiedig â gamblo

Cwblhawyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng gamblo (gan gynnwys loterïau a chardiau crafu, a hefyd heb eu cynnwys) ac amrywiaeth o ffactorau demograffig a daearyddol. Fel gyda phob dadansoddiad o'r math hwn, ni allwn briodoli achos ac effaith ar gyfer y cysylltiadau hyn, nac ystyried ffactorau na chawsant eu mesur yn yr arolwg. Gweler Gwybodaeth am ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Pob math o gamblo gan gynnwys loterïau a chardiau crafu

Wrth reoli ar gyfer cysylltiadau â ffactorau eraill, roedd y ffactorau canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol â bod rhywun wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd gamblo (gan gynnwys loterïau a chardiau crafu) yn ystod y 12 mis diwethaf.

Canfuwyd bod oedran yn ffactor cysylltiedig, gyda 70% o bobl 45 i 64 oed wedi gamblo, sef yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 64%. Roedd pobl 65+ oed yn llai tebygol o fod wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda chanran o 55%. Ni ddangosodd y rheini 18 i 44 oed unrhyw wahaniaeth o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 64% o'r grŵp oedran hwnnw yn dweud eu bod wedi gamblo.

Canfuwyd bod ethnigrwydd hefyd yn gysylltiedig â gamblo. Roedd 65% o bobl a oedd yn disgrifio'u hunain fel ‘Gwyn (Cymraeg, Saesneg, Albanaidd neu Gwyddelig Gogledd Iwerddon)’ wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, heb unrhyw wahaniaeth o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol.  Roedd pobl a oedd yn disgrifio'u hunain fel ‘Gwyn (Gwyddeleg, Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig neu gefndir gwyn arall)’ yn llai tebygol o fod wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 50% o'r grŵp ethnig hwn wedi gwneud hynny. Yn yr un modd, roedd y rheini a oedd yn nodi eu bod yn rhan o'r grŵp ‘Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol’ hefyd yn llai tebygol o fod wedi gamblo o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 32% o'r grŵp wedi gwneud hynny. Fodd bynnag, oherwydd ansicrwydd mawr ni ellir nodi unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddau grŵp ethnig uchod o'u cymharu â'i gilydd mewn perthynas â gamblo. 

Roedd 39% o bobl, nad ydynt fel unigolion yn defnyddio'r rhyngrwyd, wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, cyfran is na'r bobl sy'n defnyddio'r rhyngrwyd ac a oedd wedi gamblo (65%).

Canfuwyd bod statws economaidd hefyd yn ffactor cysylltiedig. Roedd pobl mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o gamblo o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 69% o bobl gyflogedig wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd pobl a oedd yn economaidd anweithgar yn llai tebygol na'r cyfartaledd cenedlaethol o fod wedi gamblo, gyda 57% o'r grŵp hwn wedi gamblo. Nid oedd unrhyw wahaniaethau amlwg mewn patrymau gamblo ar gyfer pobl ddi-waith o'u cymharu â'r grwpiau eraill neu'r cyfartaledd cenedlaethol.

Canfuwyd bod cyfeiriadedd rhywiol yn gysylltiedig â thebygolrwydd gamblo, ond ni welwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol yn y data.

Ni chanfuwyd bod rhyw, dioddef salwch cyfyngus hirdymor, statws priodasol, a chredoau crefyddol yn gysylltiedig yn annibynnol â bod yr unigolyn wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gamblo nad yw'n gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu

Oherwydd bod y mwyafrif o gamblwyr wedi prynu tocynnau loteri a chardiau crafu yn unig (gyda dim ond 24% o bobl wedi cymryd rhan mewn rhyw fath arall o gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf), fe wnaed y dadansoddi eto ar gyfer gamblwyr a oedd wedi gwneud rhyw fath o gamblo ar wahân i brynu tocynnau loteri neu gardiau crafu yn ystod y 12 mis diwethaf.

Wrth reoli ar gyfer cysylltiadau â ffactorau eraill, roedd y ffactorau canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol â gweithgaredd gamblo nad yw'n gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu yn ystod y 12 mis diwethaf.

Unwaith yn rhagor, roedd oedran yn ffactor cysylltiedig, ond mae tueddiad y canlyniadau yn wahanol i'r hyn yn yr adran flaenorol. Pobl 18 i 44 oed oedd y rhai mwyaf tebygol o fod wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda 33% o'r grŵp wedi gamblo yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hynny'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 24%, yn ogystal ag yn uwch nag ar gyfer pobl 45 i 64 oed (22%) a phobl 65+ oed (11%). Roedd pobl 65+ oed hefyd yn llai tebygol o gamblo na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Hefyd, unwaith yn rhagor, canfuwyd bod ethnigrwydd yn gysylltiedig â gamblo nad yw'n gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu. Roedd 26% o'r rheini a oedd wedi disgrifio'u hunain fel ‘Gwyn (Cymraeg, Saesneg, Albanaidd neu Gwyddeleg o Ogledd Iwerddon)’ wedi cymryd rhan mewn  gweithgaredd gamblo nad oedd yn gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu. Yn debyg i'r uchod, roedd pobl a oedd yn disgrifio'u hunain fel ‘Gwyn (Gwyddeleg, Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig neu gefndir gwyn arall)’ yn llai tebygol o fod wedi gamblo o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 5% o'r grŵp wedi gwneud hynny. Roedd pobl a oedd yn disgrifio'u hunain fel Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol hefyd yn llai tebygol o fod wedi gamblo o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 8% o'r grŵp wedi gwneud hynny. Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng cyfraddau gamblo'r ddau grŵp hyn, ond roedd y cyfraddau ar gyfer y ddau grŵp yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Roedd statws economaidd hefyd yn gysylltiedig yn annibynnol â gweithgaredd gamblo nad yw'n gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu, ac mae'n dilyn yr un tueddiadau ag a geir ym mhob math o gamblo. Roedd y rhai mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o fod wedi gamblo o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 30% yn gwneud hynny. Roedd 15% o bobl economaidd anweithgar wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, sef yn llai na phobl gyflogedig a'r cyfartaledd cenedlaethol.

Canfuwyd bod rhyw yn ffactor cysylltiedig, ond ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol wrth gymharu dynion a menywod â'i gilydd, neu â'r cyfartaledd cenedlaethol.

Pan fydd tocynnau loteri a chardiau crafu heb eu cynnwys, ni chanfuwyd bod defnydd o'r rhyngrwyd, cyfeiriadedd rhywiol, salwch hirdymor, statws priodasol na chredoau crefyddol yn gysylltiedig yn annibynnol â gweithgareddau gamblo, nad ydynt yn gysylltiedig â loterïau/cardiau crafu, yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ymddygiadau gamblo

Aseswyd y canlyniadau ar gyfer yr holl bobl a oedd wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf (gan gynnwys prynu tocynnau loteri neu gardiau crafu) gan ddefnyddio'r Problem Gambling Severity Index (PGSI) (Comisiwn Gamblo) i nodi a oeddent yn dangos unrhyw ymddygiadau gamblo a allai arwain at ganlyniadau niweidiol. Mae'r sgoriau yn y PGSI yn amrywio o 0 i 27, ac maent wedi'u rhannu'n 4 categori:

  • 0: dim ymddygiad na risgiau problemus
  • 1 i 2: gamblo risg isel
  • 3 i 7: gamblo risg ganolig
  • 8+: gamblo risg uchel

Mae'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn cael canlyniadau niweidiol o'i weithgareddau gamblo yn cynyddu gyda'i sgôr PGSI.

Ar gyfer pobl sy'n gamblo, y sgôr PSGI ar gyfartaledd oedd 0.28, gyda 10% o bobl â sgôr PSGI o 1 neu fwy. Gweler y dadansoddiadau pellach yn Ffigur 3.

Ffigur 3: Canrannau'r unigolion y nodwyd eu bod 'mewn perygl' o ganlyniad i'w risg gamblo gan ddefnyddio'r categorïau yn y Problem Severity Gambling Index (PSGI), 2022-23 

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Dyma siart sy’n dangos pa mor aml y bydd pobl sy'n gamblo yn amlygu ymddygiadau gamblo problemus, wedi eu rhannu yn ôl sgôr PSGI. Sgoriodd 90% o gamblwyr 0 pwynt ar y PSGI. Mae'r canrannau o bobl sy'n gamblo ym mhob lefel o risg yn lleihau wrth i'r difrifoldeb gynyddu. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23

Cwblhawyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng ymddygiadau gamblo peryglus (wedi'u diffinio yma fel rhai sy'n sgorio o leiaf 1 ar y PSGI) ag amrywiaeth o ffactorau demograffig a daearyddol. Fel gyda phob dadansoddiad o'r math hwn, ni allwn briodoli achos ac effaith ar gyfer y cysylltiadau hyn, nac ystyried ffactorau na chawsant eu mesur yn yr arolwg. Gweler Gwybodaeth am ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Wrth reoli cysylltiadau â ffactorau eraill, roedd y ffactorau canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol ag ymddygiadau gamblo peryglus yn ystod y 12 mis diwethaf:

Canfuwyd bod oedran yn ffactor, gyda phobl 18 i 44 oed y rhai mwyaf tebygol o adrodd am ymddygiad gamblo a oedd yn gysylltiedig â lefel gamblo beryglus, gyda 17% o'r grŵp wedi gwneud hynny, o'i chymharu â 7% o bobl 45 i 64 oed a 2% o bobl 65+ oed. Roedd y sgoriau PSGI cymedrig hefyd yn dilyn yr un tueddiad, gyda sgoriau o 0.52, 0.18, a 0.03 ar gyfer y grwpiau oedran 18 i 44, 45 i 64, a 65+ yn y drefn honno.

Canfuwyd hefyd bod byw mewn amddifadedd materol yn ffactor, gyda 20% o gamblwyr sy'n byw mewn amddifadedd materol yn adrodd am ymddygiad gamblo a oedd yn gysylltiedig â lefel beryglus, gyda sgôr PSGI gymedrig o 0.63, o'i chymharu â 8% o gamblwyr nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol yn dangos ymddygiadau gamblo peryglus, gyda sgôr gymedrig o 0.23.

Roedd cymryd rhan mewn gweithgareddau gamblo nad ydynt yn gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu, hefyd yn gysylltiedig yn annibynnol â bod yn fwy tebygol o fod ag ymddygiadau gamblo peryglus. Roedd 18% o bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn gamblo nad yw'n gysylltiedig â loterïau a chardiau crafu, wedi sgorio o leiaf 1 ar y PSGI, gyda sgôr gymedrig o 0.60. Mewn cymhariaeth, sgoriodd 4% o'r rheini, a oedd wedi gamblo drwy brynu tocynnau loteri neu gardiau crafu yn unig, o leiaf 1 pwynt ar y PSGI, gyda sgôr gymedrig o 0.23.

Canfuwyd bod dioddef o salwch cyfyngus hirdymor yn ffactor cysylltiedig, ond ni nodwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol wrth gymharu'r rhai sydd â salwch o'r fath â'r rhai heb salwch o'r fath, neu wneud cymhariaeth â'r cyfartaledd cenedlaethol.

Ni chanfuwyd bod rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol a chredoau crefyddol yn gysylltiedig yn annibynnol ag ymddygiadau gamblo peryglus.

Y Cyd-destun Polisi

Mae gamblo yn ddifyrrwch poblogaidd, ac mae llawer o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gamblo heb unrhyw broblemau. I eraill, fodd bynnag, gall gamblo droi'n broblem, gan achosi dibyniaeth, niwed i iechyd a chydberthynas, a cholledion ariannol sy'n newid bywyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull gweithredu ataliol ac ymyrraeth gynnar yn seiliedig ar iechyd y cyhoedd ar gyfer ymdrin â gamblo, ac rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gefnogi'r rhai y mae niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn effeithio arnynt. Hefyd rydym yn gwbl gefnogol i'r syniad o ddiwygio'r diwydiant mewn modd cynhwysfawr, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i gymryd camau mwy effeithiol i niwed gamblo ac amddiffyn y rheini sydd mewn perygl, gan sicrhau bod arferion gamblo yn gyfrifol. 

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu dealltwriaeth o ymddygiadau gamblo yng Nghymru, y mathau o weithgareddau y mae pobl yn cymryd rhan ynddynt, a gwybodaeth am bobl sydd â phroblemau gamblo.

Cymharu â ffynonellau eraill

Mae Arolwg Gamblo Prydain Fawr, a gynhelir gan Gomisiwn Gamblo'r DU, yn casglu gwybodaeth am gamblo ar draws y DU gyfan. Mae'n bosibl cymharu'r data yn rhannol â'r Arolwg Cenedlaethol, gan fod cwestiynau'r Problem Gambling Severity Index yr un fath yn y ddau arolwg. Fodd bynnag, ni ellir cymharu'r cwestiynau am weithgareddau gamblo yn uniongyrchol, gan fod cwestiynau'r Comisiwn Gamblo yn ymwneud â'r 4 wythnos diwethaf, yn hytrach na'r 12 mis diwethaf fel yng nghwestiynau’r Arolwg Cenedlaethol.

Gwybodaeth am ansawdd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg hapsampl a pharhaus a gynhelir dros y ffôn, ac a wneir ar raddfa fawr er mwyn cynnwys pobl ledled Cymru. Dewisir cyfeiriadau ar hap, ac anfonir gwahoddiadau drwy'r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, llinell ymholiadau ffôn, neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos penodol. Os na ddarperir rhif ffôn, mae'n bosibl y bydd cyfwelydd yn galw yn y cyfeiriad ac yn gofyn am rif ffôn. 

Mae siartiau a thablau manwl o'r canlyniadau ar gael yn ein Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu data a methodoleg, gweler ein tudalennau Adroddiad Ansawdd, Adroddiad Technegol, ac Adroddiad Atchweliad.

Mae traws-ddadansoddi yn awgrymu y gallai amrywiaeth o ffactorau fod yn gysylltiedig â'r ymatebion a roddwyd i bob cwestiwn a ofynnwyd yn yr Arolwg Cenedlaethol. Serch0 hynny, mae'r ffactorau hyn yn aml yn gysylltiedig â'i gilydd (er enghraifft, gall pobl sydd â salwch cyfyngus hirdymor fod yn hŷn hefyd). Er mwyn deall effaith pob ffactor unigol yn well, rydym wedi defnyddio dulliau ystadegol i wahanu effaith unigol pob ffactor. Mae'r dulliau hyn yn caniatáu inni edrych ar effaith un ffactor, gan gadw'r ffactorau eraill yn gyson – sef rheoli ar gyfer ffactorau eraill. Nodwyd pob dadansoddiad a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn fel ffactor unigol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai pob ystadegyn swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt ar ôl i gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU eu hasesu. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau’n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at drafodaethau a phenderfyniadau cyhoeddus. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol ai peidio, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg os na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i adfer pan fydd cydymffurfiaeth â'r safonau.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020, yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau) (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu'n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2013 (adroddiad llawn) (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig)

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, er enghraifft drwy: 

  • ddarparu dadansoddiadau manylach yn y Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau
  • diweddaru pynciau’r arolwg yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy’n newid
  • parhau i gynnal dadansoddiadau atchweliad fel rhan safonol o'n hallbynnau, er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Manylion cyswllt

E-bost: arolygon@llyw.cymru 

Y cyfryngau: 0300 025 8099
SB 35/2024