Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Yn ystod 2023, cynhaliwyd prosiect cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i archwilio'r opsiynau a'r cyfleoedd ar gyfer datblygu rôl nyrsio band 4 yn y dyfodol ar draws GIG Cymru, gan nodi nad oedd bydwreigiaeth yn rhan o gwmpas y prosiect. Dyma’r adolygiad mwyaf arwyddocaol o'r gweithlu nyrsio ers y penderfyniad i gyflwyno'r nyrs raddedig yn 2004. Comisiynwyd y prosiect ym mis Ionawr 2023 gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Ysgrifennydd y Cabinet bellach), gyda chymorth Prif Swyddog Nyrsio Cymru a Chyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol, Llywodraeth Cymru.

Nod y prosiect oedd ystyried a yw rôl cydymaith nyrsio, sydd ar waith yn Lloegr yn unig ar hyn o bryd, yn ddymunol, yn briodol ac yn ychwanegu gwerth at GIG Cymru. Roedd y fethodoleg yn cyfuno barn rhanddeiliaid Cymru â phrofiad bywyd y cydymaith nyrsio cofrestredig yn Lloegr, gan asio barn gyda'r llenyddiaeth. Cafwyd 20 o argymhellion yn adroddiad y prosiect, a chafodd pob un ei dderbyn yn llawn gan y Gweinidog Iechyd ym mis Tachwedd 2023. Mae 2 o'r egwyddorion a'r argymhellion sylfaenol wedi'u hamlinellu isod.

Argymhelliad 1

Dim ond un rôl nyrsio band 4 fydd yn bodoli yn GIG Cymru, sef cydymaith nyrsio cofrestredig, a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fydd yn gyfrifol am reoleiddio'r rôl.

Argymhelliad 2

Defnyddio dull gweithredu canolog, unwaith i Gymru, wrth bennu paramedrau ymarfer, sy'n gwahaniaethu'n ddiamwys rhwng rolau nyrs gofrestredig a chydymaith nyrsio cofrestredig, gan osgoi disodli'r naill gan y llall. Bydd y paramedrau ymarfer yn destun ymgynghoriad.

I roi cyd-destun, aelod cynorthwyol o'r tîm nyrsio yw'r cydymaith nyrsio cofrestredig, sydd wedi ennill Gradd Sylfaen Cyswllt Nyrsio a ddyfernir gan ddarparwr a gymeradwyir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, sy'n cynnwys cwblhau astudiaeth lefel uchel dros 2 flynedd yn llawn amser (ond gellir ei gwblhau'n rhan amser), gan alluogi cymdeithion nyrsio i gyflawni gweithgareddau gofal mwy sylweddol a chymhleth na gweithiwr cymorth gofal iechyd ond nid cwmpas nyrs gofrestredig.

Mae'r rôl ganolog wedi'i chyflwyno yn Lloegr i feithrin gallu’r gweithlu nyrsio, gan helpu i ddarparu gofal o'r radd flaenaf, seiliedig ar dystiolaeth, trwy gynorthwyo'r nyrs gofrestredig, ac aelodau'r tîm amlddisgyblaethol, gan eu galluogi nhw i ganolbwyntio ar ofal a gweithgareddau mwy dyrys a chymhleth, gan groesawu egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Gellir cyflwyno'r rôl cydymaith nyrsio cofrestredig ym mhob lleoliad iechyd a gofal, gyda phobl o bob oed ac mae'n rôl a addysgir ar draws y 4 maes ymarfer:

  • oedolion
  • plant
  • iechyd meddwl
  • anableddau dysgu

Mae cyflwyno'r rôl yn Lloegr wedi helpu i feithrin gyrfaoedd gweithiwr cymorth gofal iechyd ac ehangu'r gweithlu nyrsys cofrestredig drwy fraenaru'r tir i'r cydymaith nyrsio cofrestredig ddod yn nyrs gofrestredig. Mae'r rôl yn gyrchfan, gan wneud cyfraniad gwerthfawr at ofal cleifion ac ychwanegiad at y gweithlu nyrsio, a’r hyn sy’n bwysig yw y gall fod yn gam tuag at nyrs gofrestredig hefyd.

Nod yr ymgynghoriad

Cwmpas a paramedrau ymarfer

At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaeth rhwng cwmpas ymarfer a pharamedrau ymarfer. 

Cwmpas ymarfer

Mae cwmpas ymarfer yn amrywio ar draws meysydd clinigol a meysydd ymarfer, mae'n ailadroddol ac yn gallu cael ei lywio gan newid cymdeithasol. Adeg cofrestru, mae'r cwmpas ymarfer yn cael ei bennu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Ar ôl cofrestru, fe'i nodir mewn disgrifiadau swydd a pholisi, wedi'i ategu gan god ymarfer NMC. Nid yw cwmpas ymarfer cydymaith nyrsio cofrestredig dan ystyriaeth yn yr ymgynghoriad hwn ond bydd yn ffrwd waith yn y dyfodol fel rhan o'r cynllun gweithredu cymdeithion nyrsio cofrestredig ar gyfer Cymru.

Paramedrau ymarfer

Mae paramedrau ymarfer yn nodi'r terfynau ffiniau neu'r 'llinellau coch' na ellir eu croesi, gan gydnabod elfennau unigryw a nodedig rôl sy'n rhaid eu diogelu a chydnabod y bydd achosion o rolau’n gorgyffwrdd yn digwydd. Mae paramedrau ymarfer sydd wedi'u diffinio'n glir yn cadarnhau dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau clinigol, gan sicrhau gofal diogel i gleifion, ynghyd â gwahaniaethu rhwng rolau. Bydd paramedrau ymarfer yn ddull polisi penodol i Gymru, na chaiff ei orfodi gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Mae'r fframwaith rheoleiddio proffesiynol NMC yn gyffredin ledled Cymru a Lloegr ac mae'n cynnwys y cod, gwirio cymeriad, hyfedredd a gofynion ail-ddilysu.

Y nyrs gofrestredig

Mae nyrsio yn broffesiwn lle mae diogelwch yn hanfodol wedi'i seilio ar 4 conglfaen:

Mae nyrsys cofrestredig yn cymhwyso lefelau uchel o wyliadwriaeth a gwybyddiaeth wrth ddefnyddio gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth, barn broffesiynol a chlinigol i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae elfennau o ymarfer sy'n ymwneud â'r nyrs gofrestredig nad ydynt yn berthnasol i ymarfer cydymaith nyrsio cofrestredig. Mae'r rhain wedi'u pennu gan y gyfraith neu mewn canllawiau anstatudol, ac o'r herwydd, wedi'u heithrio rhag eu trafod yn yr ymgynghoriad hwn. Mae'r eithriadau hyn yn cynnwys:

  • y teitl gwarchodedig 'nyrs gofrestredig’
  • bod yn broffesiwn i raddedigion
  • cofrestru penodol ar gyfer maes NMC (wrth nodi'r gallu i fod yn ddeuol-gofrestredig)
  • presgripsiynu anfeddygol (presgripsiynu annibynnol)
  • gweinyddu meddyginiaethau yn erbyn Cyfarwyddeb Grŵp Cleifion (PGD)
  • rhoi meddyginiaeth intrathecal
  • trawsgrifio meddyginiaethau
  • Rheoliadau 17(a) Ymbelydredd Ïoneiddio (cysylltiad meddygol)
  • diagnosis a chadarnhad o farwolaeth (wedi marw)
  • ardystio a chyhoeddi nodyn ffitrwydd
  • Deddf Iechyd Meddwl (1983) diweddarwyd yn 2007
    • mae adran 5(4) yn rhoi'r gallu i nyrsys cofrestredig gadw rhywun yn yr ysbyty am hyd at 6 awr (gall nyrsys cofrestredig lefel 1 ddefnyddio'r pŵer cadw hwn mewn cyfleusterau cleifion mewnol iechyd meddwl)
    • mae adran 17 yn rhoi'r gallu i nyrsys cofrestredig gynnal asesiad risg cyn gadael (nid yw cydymaith nyrsio cofrestredig wedi'u dosbarthu ar hyn o bryd fel 'aelodau awdurdodedig o’r tîm amlddisgyblaethol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl’)
  • Deddf Galluedd Meddyliol (MCA) (2005) a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS): Archwiliad Statws Meddygol (MSE) ac asesu a gwneud penderfyniadau sy'n pennu galluedd meddyliol
  • ceisiadau ac awdurdodiadau safonol a brys ar gyfer DoLS adrannau 42 a 43 o'r ddeddf
  • aseswr buddiannau gorau (adran 4 o'r MCA)

Y nyrs gofrestredig a'r cydymaith nyrsio cofrestredig

Mae yna lawer o elfennau rheoleiddio ac ymarfer proffesiynol sy'n berthnasol i'r nyrs gofrestredig a'r cydymaith nyrsio cofrestredig, yn arbennig:

  • rheoleiddio a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • ail-ddilysu
  • atebolrwydd
  • ymreolaeth
  • dirprwyo
  • darparu gofal
  • monitro gofal
  • blaenoriaethu pobl
  • ymarfer effeithiol
  • cadw diogelwch
  • hyrwyddo proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth
  • gwella diogelwch ac ansawdd gofal
  • gweithio mewn timau a chyfrannu at ofal integredig
  • hybu iechyd a llesiant ac atal salwch
  • meddwl yn feirniadol
  • ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • goruchwylio ac asesu myfyrwyr ar lefel 4 a 5 (nid yw'r cydymaith nyrsio cofrestredig yn gallu goruchwylio nac asesu ar lefel 6)
  • dyletswydd gofal, iechyd a diogelwch a swydd gyfrifol

Rheoleiddio

Dull penodol i Gymru yw'r paramedrau ymarfer, na fydd yn cael ei orfodi gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae fframwaith proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn gyffredin ledled Cymru a Lloegr, sy'n cynnwys y cod, gwiriadau cymeriad, hyfedredd a gofynion ail-ddilysu.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi'n credu dylai'r dasg o arwain, cydlynu, rheoli gofal a bod 'wrth y llyw' gael ei chadw gyda’r nyrs gofrestredig, gyda'r cydymaith nyrsio cofrestredig yn cyfrannu at ofal ond nid ei arwain?

Cwestiwn 2

Ydych chi'n credu dylai asesiad cyfannol[troednodyn 1] o gleifion gael ei gadw gyda’r nyrs gofrestredig, gyda’r cydymaith nyrsio cofrestredig yn cymryd rhan mewn elfennau o asesu cleifion yn unig?

Cwestiwn 3

Ydych chi'n credu dylai cynllunio gofal cleifion mewn modd cyfannol a datblygu cynllun gofal gael ei gadw gyda’r nyrs gofrestredig?

Cwestiwn 4

Ydych chi'n credu dylai gwerthusiad cyfannol o ofal cleifion gael ei gadw gyda’r nyrs gofrestredig, gyda chymdeithion nyrsio cofrestredig yn cymryd rhan mewn elfennau o werthuso cleifion yn unig?

Cwestiwn 5

Ydych chi'n credu dylai gwaith llywio, ymateb a chefnogi ymholiadau diogelu i achos o gam-drin a/neu esgeuluso oedolion a phlant gael ei gadw gyda’r nyrs gofrestredig?

Cwestiwn 6

Ydych chi'n credu dylai trafodaethau cymhleth a sensitif gyda chleifion a theuluoedd (neu eraill arwyddocaol) am derfynau triniaeth (y lefel uchaf o driniaeth mae'r claf yn debygol o'i derbyn) gael eu cadw gyda'r nyrs gofrestredig?

Cwestiwn 7

Ydych chi'n credu dylai trafodaeth glinigol am achos rhagweladwy o ataliad y galon a phenderfyniad 'na cheisier dadebru cardio-anadlol' gael ei chadw gyda’r nyrs gofrestredig?

Cwestiwn 8

Ydych chi'n credu dylai atebolrwydd proffesiynol am benderfyniad i ryddhau claf gael ei gadw gyda’r nyrs gofrestredig, gyda chymdeithion nyrsio cofrestredig yn cyfrannu at elfennau o'r broses ryddhau yn unig?

Cwestiwn 9

Ydych chi'n credu dylai penderfyniad i atgyfeirio claf at weithiwr proffesiynol neu ddarparwr arall a reoleiddir gael ei gadw gyda’r nyrs gofrestredig, gyda chymdeithion nyrsio cofrestredig yn cefnogi'r broses atgyfeirio yn unig?

Cwestiwn 10

Gofynnwyd naw cwestiwn penodol. Os ydych chi'n credu bod angen ystyried agweddau hollbwysig, sy'n baramedrau pwysig o ran ymarfer, na chyfeiriwyd atynt yma, ysgrifennwch nhw isod.

Cwestiwn 11

Hoffem glywed eich barn am yr effeithiau y gallai paramedrau ymarfer cytunedig eu cael ar y Gymraeg, yn benodol:

  • cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg
  • pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Cwestiwn 12

Eglurwch hefyd sut ydych chi’n credu y gellir llunio’r paramedrau ymarfer er mwyn:

  • cael effeithiau positif neu fwy o effeithiau positif ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Cwestiwn 13

Hoffem gael eich barn am yr effaith y gallai paramedrau ymarfer ei chael ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

Mae nodweddion gwarchodedig yn golygu: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.

  • Ydych chi’n credu y bydd cynigion yr ymgynghoriad hwn yn cael unrhyw effeithiau cadarnhaol ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig? Os felly, pa rai a pham/pam ddim?
  • Ydych chi’n credu y bydd cynigion yr ymgynghoriad hwn yn cael unrhyw effeithiau negyddol ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig? Os felly, pa rai a pham/pam ddim?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Rhagfyr 2024, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Cyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch, a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gweler y manylion cyswllt isod.

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 03031 231 113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae gan weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Art 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgynghoriadau, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG50275.

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Rhagor o wybodaeth:

Cyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ansaddanyrsio@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Troednodiadau

[1] Ystyr "cyfannol" yn y cyd-destun hwn yw dull sy'n ystyried agweddau aml-ddimensiwn ar iechyd a lles, gan gydnabod y person cyfan o safbwynt corfforol, meddyliol, emosiynol, seicolegol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol.