Neidio i'r prif gynnwy

Diben dynodi

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yn benodol at ddiben denu cymorth statudol i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru fel arfer, yn unol â’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr. Mae’n gymwys o 1 Awst 2024 ymlaen. Mae’n amlinellu’r materion y mae Gweinidogion yn debygol o'u hystyried yn berthnasol wrth benderfynu a ddylid dynodi cyrsiau’n benodol at ddiben cymorth i fyfyrwyr drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Mae Atodiad A yn darparu diagram sy'n dangos y broses hon.

Mae rheoliadau a wnaed o dan adran 22 Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud grantiau neu fenthyciadau i fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â’u presenoldeb ar gyrsiau dynodedig. Dynodir cyrsiau naill ai drwy ddynodi awtomatig neu benodol, a nodir y meini prawf ar eu cyfer isod.

Er bod y ddau lwybr i ddynodi yn unigryw, mae Gweinidogion Cymru o’r farn gyffredinol y dylai’r un egwyddorion craidd ategu’r ddau. Dylai darparwyr addysg uwch fod yn hyfyw yn ariannol, gan ddarparu addysg o ansawdd digonol, a gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaus at fudd y cyhoedd mewn perthynas ag addysg.

Llwybrau i ddynodi

Dynodiad awtomatig

Mae cwrs ond yn cael ei ddynodi'n awtomatig os bodlonir amodau penodol a nodir yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr[troednodyn 1]. Nodir yr amodau hyn yn Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru 'Dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig (SFWIN 01/2024)', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024.

Dynodiad penodol

Pan nad yw cwrs addysg uwch israddedig neu ôl-raddedig yn cael ei ddynodi’n awtomatig, bydd angen ei ddynodi’n benodol er mwyn i fyfyrwyr allu gwneud cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Gall Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau o’r fath ar sail pob cwrs yn unigol. 

O 1 Awst 2024, mae'r cyfrifoldeb am reoli'r broses ddynodi benodol yn trosglwyddo i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr). Mae gan Medr gyfrifoldeb am brosesu ceisiadau am ddynodiad a rhoi cyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r ceisiadau hynny. Mae Medr hefyd yn ymgymryd â monitro parhaus o ddarparwyr sydd â chyrsiau a ddynodwyd yn benodol.

Cyrsiau sy’n gymwys i’w dynodi

Cyrsiau gradd

Gellir dynodi cwrs gradd os yw’n:

  • gwrs gradd gyntaf
  • cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch. Cwrs ar gyfer y Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) a ddyfernir naill ai gan Pearson (y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg (BTEC) gynt) neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban (SQA)
  • cwrs ar gyfer y dystysgrif Addysg Uwch
  • cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon
  • cwrs ar gyfer hyfforddiant pellach gweithwyr ieuenctid a chymunedol
  • cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol sydd o safon uwch nag:

    • arholiad ar lefel uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu ar lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban
    • arholiad ar gyfer y Dystysgrif Genedlaethol neu'r Diploma Cenedlaethol a ddyfernir gan Pearson (BTEC gynt) neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban.

    cyn belled nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfwerth) ar ei gyfer fel arfer

  • cwrs sy’n darparu addysg (waeth i baratoi ar gyfer arholiad ai peidio) y bydd ei safon yn uwch na safon y cyrsiau a grybwyllir uchod ond nad yw’n uwch na safon cwrs gradd gyntaf, ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfwerth) ar ei gyfer fel arfer
  • mae'r cwrs naill ai'n gwrs llawnamser, yn gwrs rhyngosod, neu'n gwrs rhan-amser
  • mae hyd y cwrs yn un flwyddyn academaidd o leiaf
  • mae o leiaf hanner yr addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig
  • mae'r cwrs yn arwain at ddyfarniad a ddyfernir neu sydd i'w ddyfarnu gan gorff sy'n dod o fewn cwmpas adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 oni bai bod y cwrs yn Ddiploma Cenedlaethol Uwch neu'n Dystysgrif Genedlaethol Uwch a ddyfernir gan Pearson (BTEC gynt) neu SQA, neu'n gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon

Cyrsiau ôl-radd

Mae cwrs meistr ôl-raddedig yn gwrs dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  • Mae’r cwrs yn arwain at ddyfarniad a ddyfernir neu sydd i'w ddyfarnu gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac mae'r addysgu a'r oruchwyliaeth sy'n ffurfio'r cwrs wedi'u cymeradwyo gan y corff hwnnw.
  • Mae’r cwrs yn un o’r canlynol:
    • cwrs llawn amser am flwyddyn neu ddwy flynedd academaidd
    • cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen pedair blynedd academaidd
  • Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig.

Mae cwrs doethurol ôl-raddedig yn gwrs dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau canlynol.

  • Nid yw hyd y cyfnod cofrestru arferol ar gyfer y cwrs yn llai na thair blynedd academaidd nac yn fwy nag wyth mlynedd academaidd.
  • Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae'r cwrs yn arwain at radd ddoethuriaeth a ddyfernir neu sydd i'w ddyfarnu gan gorff sy'n dod o fewn cwmpas adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988; ac mae'r addysgu a'r oruchwyliaeth wedi'u cymeradwyo gan y corff hwnnw.

Hefyd, mae cyrsiau sy’n arwain at ddyfarniad ôl-radd yn gallu cael eu dynodi’n unswydd er mwyn darparu Lwfans i Fyfyrwyr Anabl i fyfyrwyr cymwys.

Gwybodaeth ategol

Polisi Gweinidogion Cymru yw y bydd cyrsiau'n cael eu dynodi os yw'r rhai sy'n ceisio dynodiad yn hyfyw yn ariannol, yn darparu addysg o ansawdd digonol, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaus i les y cyhoedd mewn cysylltiad ag addysg. Dylai sefydliadau ddarparu gwybodaeth i ddangos sut y maent yn cyflawni'r amcanion hynny drwy gynnwys:

  • manylion y cwrs, y cymhwyster y mae'r cwrs yn arwain ato, a thystiolaeth bod y cwrs yn cael ei ddilysu gan gorff priodol
  • tystiolaeth bod y ddarpariaeth a gynigir gan y darparwr o ansawdd digonol
  • cadarnhad nad yw’r myfyrwyr yn derbyn cyflog o’r cwrs
  • tystiolaeth bod y darparwr yn hyfyw yn ariannol
  • manylion am sut mae'r darparwr yn gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaus at fudd y cyhoedd mewn perthynas ag addysg

Bydd disgwyl i bob sefydliad gydymffurfio’n barhaus â’r meini prawf (gweler yr adran ar fonitro). 

Er mai mater i sefydliadau yw penderfynu pa wybodaeth i'w chyflwyno i gefnogi eu cais am ddynodi cwrs, dylai sefydliadau ystyried yr adrannau canlynol sy'n nodi'r wybodaeth sy'n debygol o fod yn berthnasol.

Dilysu

Cyrsiau gradd

Mae’n rhaid i ddarparwyr ddarparu dogfennau dilysu sy’n nodi modd, hyd a lleoliad darpariaeth pob cwrs yn y cais. Mae’n rhaid iddynt arddangos bod y cwrs yn cael ei ddilysu gan gorff dyfarnu priodol a'i fod yn arwain at:

  • Ddyfarniad gan gorff sy’n dod o dan adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (er enghraifft, corff cydnabyddedig fel y rhagnodir yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2016).
  • Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch gan Gyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, Asiantaeth Cymwysterau’r Alban, neu gorff cydnabyddedig fel y rhagnodir yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2016.

Cyrsiau ôl-radd

Mae’n rhaid i gwrs arwain at ddyfarniad a roddir neu a fydd yn cael ei roi gan gorff sy'n dod o dan adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae cyrsiau sy’n arwain at ddyfarniad ôl-radd hefyd yn gallu cael eu dynodi’n unswydd er mwyn darparu Lwfansau Myfyrwyr Anabl i fyfyrwyr cymwys. Mae’n rhaid i gorff cydnabyddedig fel y rhagnodir gan Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2016 ddilysu’r cyfryw gyrsiau. 

Ansawdd

Mae’n rhaid i’r cwrs sydd i gael ei ddynodi fod o ansawdd digonol. Bydd gofyn i ddarparwyr ddarparu tystiolaeth o hyn gan y sefydliad neu asiantaeth sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd y cwrs. Y sefyllfa yng Nghymru, a rhannau eraill o'r DU, yw y dylid asesu ansawdd drwy adolygiadau ansawdd allanol cylchol. Yn y rhannau hynny o'r DU lle nad yw'n ofynnol i ddarparwyr asesu eu hansawdd drwy adolygiadau ansawdd allanol cylchol, bydd Medr yn darparu arweiniad pellach ar yr wybodaeth sydd ei hangen i'w galluogi i roi sicrwydd i Weinidogion Cymru ynghylch ansawdd y ddarpariaeth.

Hyfywedd ariannol

Mae’n rhaid i’r darparwr sydd am i’w gwrs gael ei ddynodi ddangos ei fod yn gynaliadwy yn ariannol ac felly y gall myfyrwyr fod yn hyderus y bydd yn parhau i fod yn hyfyw yn ariannol gydol eu hastudiaethau. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth ganlynol er mwyn arddangos eu bod yn gweithredu mewn ffordd sy’n hyfyw yn ariannol. Er enghraifft:

  • datganiadau ariannol y tair blynedd diwethaf wedi’u harchwilio’n allanol, neu ddatganiadau ariannol wedi’u harchwilio’n allanol ar gyfer pob blwyddyn o fasnachu lle nad yw’r darparwr wedi bod yn masnachu ers tair blynedd
  • blaengynlluniau busnes
  • rhagolygon ariannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol a’r tair blynedd nesaf, gan gynnwys sylwadau ar ragdybiaethau a wnaed mewn rhagolygon a sut y rheolir risgiau ariannol
  • amlinelliad o drefniadau wrth gefn ar gyfer myfyrwyr os yw cyrsiau dod i ben am unrhyw reswm
  • unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i hyfywedd ariannol y darparwr a rheolaeth ei faterion ariannol fel agwedd ar lywodraethu da

Bydd Medr yn darparu canllawiau pellach ar y wybodaeth sy’n ofynnol am hyfywedd ariannol a rheolaeth materion ariannol sefydliad.

Cyfrannu at fudd y cyhoedd

Mae gan Lywodraeth Cymru adnoddau y mae pen draw iddynt ac mae’n rhaid iddi sicrhau’r gwerth gorau ar gyfer myfyrwyr a threthdalwyr. Mae hyn yn cynnwys sicrhau, cyn belled â bod hynny’n bosibl, bod buddsoddiad trethdalwyr mewn addysg yn cael ei ail-fuddsoddi gan ddarparwyr at ddibenion addysgol, gan gynnwys gweithgareddau sy’n cefnogi mynediad i, neu’n hyrwyddo, addysg uwch, yn cyfrannu at yr addysg sydd ar gael neu’n gwella cyfraddau cadw myfyrwyr a chyflogadwyedd graddedigion. I bob diben, mae darparwyr addysg uwch y mae eu cyrsiau wedi’u dynodi ar gyfer cymorth myfyrwyr yn derbyn cymhorthdal gan y trethdalwr drwy’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar ffurf benthyciadau ffioedd dysgu i’r myfyrwyr ynghyd â grantiau a benthyciadau cynhaliaeth. 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr arddangos eu bod yn gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaus at fudd y cyhoedd yn gyffredinol ym maes addysg drwy gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio’r meysydd cyffredinol canlynol fel rhai lle gall darparwyr AU ddangos eu bod yn gwneud cyfraniad o’r fath. Nid ydynt yn gategorïau cwbl ddigyswllt. Er enghraifft, gall datblygu addysg Gymraeg gyfrannu at gyfle cyfartal a hyrwyddo addysg uwch.

Cyfle cyfartal

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Mesurau i ddenu a chadw myfyrwyr o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol.
  • Darparu cymorth academaidd a lles i’r rhai o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig.
  • Darpariaeth cynlluniau bwrsari, hepgor ffioedd, ysgoloriaethau neu gyllid caledi; 
  • Defnyddio a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg a/neu’r iaith Gymraeg sy’n cefnogi amcanion strategaeth iaith Llywodraeth Cymru gan ddarparwyr sydd wedi’u lleol yng Nghymru.

Hyrwyddo addysg uwch

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Gweithio gydag ysgolion, colegau a chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill i gyfathrebu manteision addysg uwch a hyrwyddo diwylliant o ddysgu ac addysg
  • Datblygu cyflogadwyedd myfyrwyr, y tu hwnt i ddarpariaeth addysg, gan gynnwys cysylltiadau â chyflogwyr, datblygu cyflogadwyedd, menter neu sgiliau effeithlonrwydd personol, neu leoliadau gwaith.
  • Ymgysylltu â’r gymuned leol drwy ddarparu mynediad i gyfleusterau, darparu mynediad am ddim neu ratach i gyrsiau neu ddarlithoedd, neu gynnig gwasanaeth fel rhan annatod o ddyletswydd ddinesig sefydliad. Gall hyn fod i’r cyhoedd neu i rai grwpiau penodol. Gall hefyd gynnwys rhaglenni lle mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi i fod yn fwy gweithgar yn eu cymuned leol.

Nid yw’r rhestr uchod yn cynnwys pob enghraifft bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan ddarparwyr ystod eang o amcanion ac efallai y gallant ddangos cyfraniad ystyrlon at fudd y cyhoedd mewn ffyrdd eraill. Dylai’r datganiad ysgrifenedig gynnwys enghreifftiau a thystiolaeth drwy gyfeirio at rai at bob un o’r meysydd uchod ac unrhyw dystiolaeth arall y mae sefydliad yn ei hystyried yn berthnasol.

Bydd angen i’r wybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr ddangos bod y gweithgarwch yn arwyddocaol ac yn barhaus, er enghraifft, drwy gyfeirio at swm y gwariant ar weithgareddau o’r fath, hyd y gweithgareddau hynny a niferoedd y cyfranogwyr.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod posibilrwydd rhesymol o recriwtio myfyrwyr sy’n gymwys i dderbyn cymorth gan Weinidogion Cymru ar y cyrsiau y gwneir cais i’w dynodi’n benodol. 

Y broses

Ni ddylai darparwyr hysbysebu’r cymorth i fyfyrwyr sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cwrs penodol tan fod cadarnhad bod y cwrs hwnnw wedi’i ddynodi.

Mae’n rhaid i geisiadau i ddynodi cyrsiau’n benodol gael eu gwneud gan y sefydliad sy’n gyfrifol am gynnwys a darpariaeth y cwrs i fyfyrwyr. Yn mhob achos, mae’n rhaid i’r cais gwmpasu a chynnwys gwybodaeth ategol mewn perthynas â phob sefydliad sy’n cyfrannu at ddyfarnu cymwysterau a chynllun, goruchwyliaeth a darpariaeth y cyrsiau hynny. Pan ddarperir cwrs ar ran sefydliad arall, bydd hyn yn golygu darparu gwybodaeth ategol fanwl gan y ddau sefydliad lle bo hynny'n briodol.

Dylid anfon ceisiadau i Medr, sydd wedi datblygu canllawiau ategol i gefnogi’r broses. Bydd Medr yn asesu pob cais ar sail yr wybodaeth a dderbynnir ac yna bydd yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch a ddylid dynodi'r cwrs. Bydd y dynodiad yn cael ei roi gan Weinidogion Cymru. Cyfrifoldeb ymgeiswyr yw sicrhau bod yr wybodaeth a gyflwynir i gefnogi eu cais yn gyflawn. 

Mae angen dynodiad penodol ar gyfer pob lleoliad lle cynigir y cwrs. Os yw darparwyr wedi derbyn dynodiad ar gyfer lleoliadau penodol ac am ychwanegu lleoliadau ychwanegol wedi hynny, bydd angen iddynt wneud cais ar gyfer y lleoliadau hynny ar wahân. Os yw darparwyr am gael gwared ar leoliad neu ei newid, yna dylent gysylltu â Medr am wybodaeth am y broses i’w dilyn yn sgil newid mewn amgylchiadau. 

Er y gall darparwyr gyflwyno cais am ddynodiad penodol i gwrs ar unrhyw adeg yn y flwyddyn, bydd angen iddynt neilltuo digon o amser i’r cais gael ei ystyried cyn dechrau’r cwrs (cyrsiau) dan sylw. Noder y gall y broses o ystyried ceisiadau gymryd hyd at dri mis o gyflwyno'r cais i benderfyniad terfynol. Gall gymryd yn hirach mewn achosion penodol, er enghraifft, os yw’r wybodaeth yn anghyflawn neu’n annigonol neu os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu dynodi cwrs a bod y ceisydd yn cyflwyno’i achos. 

Cyfrifoldeb y darparwyr yw sicrhau eu bod yn cynllunio'r cais i ddynodi cwrs a threfniadau ar gyfer recriwtio myfyrwyr yn brydlon. O wneud hyn, pan benderfynir dynodi cwrs, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr, ac yn amodol ar gymhwysedd personol, ei dderbyn cyn i’w cyrsiau ddechrau. 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wybodaeth a roddir i fyfyrwyr gan ddarparwyr am y cymorth i fyfyrwyr sydd ar gael. Cyfrifoldeb darparwyr unigol yw rhoi gwybodaeth gywir i fyfyrwyr ynghylch a yw cwrs wedi'i ddynodi at ddibenion cymorth i fyfyrwyr neu lle bo cais am ddynodiad o'r fath heb ei benderfynu eto.

Asesu a hysbysu

Bydd Medr yn adolygu pob cais ac yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch a ddylid dynodi cwrs. Yna, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at y darparwr i’w hysbysu o’i phenderfyniad. Os nad yw Gweinidogion Cymru am ddynodi cwrs, bydd y rhesymau’n cael eu rhoi. Bydd darparwyr yn cael cynnig cyfle i ddarparu gwybodaeth ychwanegol a all effeithio ar y penderfyniad i ddynodi ai peidio. Bydd Medr yn cynnwys manylion pellach yn ei ganllawiau ei hun ar gyfer ymgeiswyr.

Bydd statws dynodi penodol ar gyfer cyrsiau unigol yn cael ei ddyfarnu ar sail dreigl fesul blwyddyn academaidd. Bydd gofyn i ddarparwyr ddangos eu bod yn parhau i fodloni’r meini prawf bob blwyddyn drwy broses fonitro Medr. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu yn nogfen ganllawiau Medr.

Monitro

Medr fydd yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth darparwyr â meini prawf dynodiad penodol cwrs yn dilyn dynodi’r cyrsiau. Bydd Medr hefyd yn darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth barhaus sefydliadau â’r meini prawf ar gyfer dynodi penodol. 

Disgwylir i ddarparwyr gydymffurfio’n brydlon â’r cais rhesymol am wybodaeth gan Medr mewn perthynas â chyrsiau dynodedig. Bydd Medr yn adrodd i Weinidogion Cymru os yw gwybodaeth y gwneir cais amdani yn cael ei gwrthod neu ei dal yn ôl gan ddarparwyr.

Ymchwiliadau

Fel arfer, ni fydd cais am ddynodiad yn cael ei gymeradwyo tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r darparwr:

  • gan lywodraethau Cymru, y DU, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu gan y rheoleiddiwr yn y gwledydd hyn
  • gan y corff sy'n gyfrifol am ddilysu ei ddyfarniadau
  • gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr mewn perthynas â mater sy'n ymwneud â darpariaeth addysg uwch y darparwr
  • gan sefydliad neu asiantaeth sy’n gyfrifol am ansawdd yr addysg uwch a ddarperir
  • gan ei reoleiddiwr elusen
  • mewn cysylltiad â throsedd honedig

Gall Gweinidogion Cymru ystyried canlyniad ymchwiliad wrth benderfynu a ddylid dynodi cwrs ai peidio.

Atal neu dynnu statws dynodiad penodol yn ôl

Mae’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr yn caniatáu i Weinidogion Cymru atal neu ddiddymu dynodiad cyrsiau penodol. Wrth wneud hyn, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi ystyriaeth i bob ffactor perthnasol. 

Er enghraifft, caiff Gweinidogion Cymru atal neu ddiddymu dynodiad os na pharheir i gydymffurfio â’r meini prawf neu os na ddarperir gwybodaeth y gofynnir amdani gan Medr neu os oes oedi cyn darparu’r wybodaeth honno. 

Gall Gweinidogion Cymru atal taliadau cymorth myfyrwyr i ddarparwyr i ddiogelu cronfeydd cyhoeddus a myfyrwyr. Gellir cymryd camau o’r fath mewn achosion lle mae twyll, camliwio neu gamwedd arall gan ddarparwyr a/neu fyfyrwyr yn destun ymchwiliad neu wedi’u profi. 

Gellir atal dynodiad darparwr os nad oes unrhyw fyfyrwyr yn cael eu hymrestru ar gwrs am gyfnod o ddwy flynedd academaidd yn olynol.

Lle caiff dynodiad penodol ei atal neu ei dynnu'n ôl, bydd myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau ac sydd eisoes yn derbyn cymorth i fyfyrwyr yn parhau i dderbyn y cymorth hwnnw am weddill eu hastudiaethau.

Newid amgylchiadau

Mae’n ofynnol i ddarparwyr hysbysu Medr yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eu gallu i fodloni meini prawf dynodiad penodol cwrs. Mae’n rhaid iddynt hefyd roi gwybod am unrhyw newid mewn rheolaeth neu berchnogaeth. Bydd sefydliad yn cael dynodiad ar sail y wybodaeth a ddarperir i ddangos tystiolaeth o gydymffurfio yn erbyn y meini prawf a nodir yn y polisi hwn ac yng nghanllawiau Medr. Gall newid rheolaeth neu berchnogaeth newid gallu darparwr i barhau i fodloni’r meini prawf dynodi. Mae hyn yn golygu os oes newid i reolaeth neu berchnogaeth darparwr, nid yw dynodiad penodol cwrs yn parhau yn awtomatig, a bydd angen i ddarparwyr arddangos eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r meini prawf. Mae’n bwysig bod darparwyr y mae eu cyrsiau wedi’u dynodi gan Weinidogion Cymru yn cysylltu â Medr cyn gynted â phosibl cyn i unrhyw newid o’r fath ddigwydd. 

Mae’n ofynnol i ddarparwyr hysbysu Medr os oes newidiadau yn cael eu gwneud i unrhyw un o’u cyrsiau dynodedig. Mae newidiadau o’r fath yn cynnwys mân-newidiadau i deitlau cyrsiau nad ydynt yn cael effaith sylweddol ar gynllun neu strwythur y cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn angenrheidiol i sicrhau bod cofrestr Medr o gyrsiau dynodedig yn gywir a bod y wybodaeth a gyflenwir i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac i fyfyrwyr am gyrsiau dynodedig yn gywir.

Os oes newidiadau mawr yn cael eu gwneud, yna mae’n debyg y bydd angen cofrestru’r cwrs (cyrsiau) fel cwrs newydd ac efallai y bydd angen dynodiad o’r newydd. Mae newidiadau o’r fath yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: 

  • cynnwys y cwrs
  • dull astudio
  • hyd y cwrs
  • lleoliad darparu’r cwrs
  • corff dilysu

Dylai darparwyr hysbysu Medr o unrhyw newidiadau o’r fath yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi gormodol cyn i fyfyrwyr allu cael gafael ar gymorth i fyfyrwyr. 

Os nad yw darparwyr am i gwrs penodol gael dynodiad, yna dylent hysbysu Medr o hyn fel newid mewn amgylchiadau a bydd Medr yn cael gwared ar y cwrs oddi ei gofrestr o gyrsiau dynodedig.

Dylid cyflwyno unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â newidiadau i amgylchiadau i Medr.

Cyfrinachedd a Rhyddid Gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw wybodaeth sy’n cael ei dal ym meddiant Llywodraeth Cymru fod yn destun cais am Ryddid Gwybodaeth ac, os felly, byddai angen ei hystyried ar gyfer ei datgelu. Os oes unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chais yn destun cais Rhyddid Gwybodaeth, fel arfer byddwn yn ymgynghori â’r ceisydd perthnasol i holi am eu barn ynghylch a oes ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â rhyddhau’r wybodaeth i’r cyhoedd.

Heb wrthsefyll ei hymrwymiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bydd Llywodraeth Cymru ond yn rhannu’r wybodaeth a ddarperir i ategu'r cais gyda’r unigolion a’r sefydliadau hynny y mae Llywodraeth Cymru yn barnu sy’n angenrheidiol at ddiben penderfynu ar gais i ddynodi, cyhyd ag y gellir cymhwyso dyletswydd hyder i’r wybodaeth. Gall y cyfryw sefydliadau gynnwys, ymysg eraill, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, cyrff dilysu a dyfarnu, Medr a’r Swyddfa Myfyrwyr.

Gellir defnyddio gwybodaeth a gyflenwir gan ymgeiswyr i atal a datgelu troseddau o unrhyw fath, gan gynnwys twyll. Rydym yn cadw’r hawl i rannu, neu efallai y byddwn yn gorfod rhannu gwybodaeth, ar sail ceisiadau a chofnodion cysylltiedig, â sefydliadau allanol, gan gynnwys yr heddlu, asiantaethau atal a datgelu troseddau eraill, y Swyddfa Gartref, Fisâu a Mewnfudo y DU, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, CThEM, Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban, Llywodraeth Gogledd Iwerddon, Adran Addysg Llywodraeth y DU ynghyd â byrddau arholi neu gyrff dyfarnu.

Bydd gwybodaeth am ddarparwyr y mae eu cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol gan Weinidogion Cymru at ddiben cymorth i fyfyrwyr yn cael ei rhyddhau i’r cyhoedd mewn rhestr o gyrsiau a gyhoeddir gan, neu ar ran, Medr.

Efallai y bydd darparwyr am nodi bod Gweinidogion Cymru yn cadw’r hawl i newid y polisi hwn yn ddirybudd neu adolygu dynodiadau cwrs presennol. 

Troednodyn

[1] Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019