Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Milltir y Dydd yn fenter syml ond arloesol i ysgolion, sy'n annog plant cynradd i gerdded, loncian neu redeg milltir y dydd. Mae'n gynhwysol ac yn hwyliog, heb fod yn gystadleuol, ac mae modd ei addasu ar gyfer anghenion pob ysgol gynradd.
Mae creu mwy o gyfleoedd i wneud gweithgarwch corfforol o fewn amgylchedd yr ysgol gynradd yn allweddol os ydym am sicrhau bod pob plentyn yn cael y 60 munud y dydd o weithgarwch corfforol a argymhellir gan y Prif Swyddog Meddygol. Gall Milltir y Dydd chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwnnw.
Gall y cynllun arwain at nifer o fanteision eraill yn ogystal â gwella ffitrwydd, gan gynnwys gwella gallu’r disgyblion i ganolbwyntio yn y dosbarth a'u parodrwydd i ddysgu. Gall helpu plant i wneud mwy yn yr awyr agored, cynyddu hunan barch a hyder, a helpu i ddatblygu sgiliau gweithio fel tîm. Fe wyddom fod nifer o ysgolion ar draws Cymru eisoes wedi mabwysiadu'r cynllun Milltir y Dydd, ac rydym wedi cael adborth brwdfrydig iawn gan ddisgyblion, rhieni a staff dysgu am y manteision yn ei sgil.
Rydym wedi anfon llythyr ar y cyd at holl benaethiaid ysgolion cynradd Cymru er mwyn eu hannog i ystyried ffyrdd syml ac arloesol o wella iechyd a llesiant plant yn ystod y diwrnod ysgol - gan gynnwys mabwysiadu menter Milltir y Dydd, os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny.
Mae Milltir y Dydd yn adeiladu ar ein gwaith ar y cyd i wella iechyd a llesiant plant, er enghraifft drwy Rwydwaith Ysgolion Iach Cymru a’r Rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion. Yn wir, bydd Milltir y Dydd yn helpu ysgolion i gyflawni nifer o'r meini prawf ar gyfer dyfarniadau ansawdd cenedlaethol cynlluniau Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru.
Drwy fod yn rhan o gynllun Milltir y Dydd, bydd ysgolion cynradd yn helpu i sicrhau llesiant eu disgyblion ac yn symud tuag at weithredu’r cwricwlwm newydd - gan fod cymryd camau i gynyddu gweithgarwch corfforol yn rhan hanfodol o’r rhaglen.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Milltir y Dydd am rannu eu hadnoddau gyda ni. Byddwn yn sicrhau bod yr wybodaeth a'r cyngor ar gael i ysgolion, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar wefan. Byddwn yn monitro'r defnydd o gynllun Milltir y Dydd drwy fap ar y wefan, ac fe fyddwn yn annog ysgolion i rannu enghreifftiau o systemau tebyg, dyfeisgar sydd wedi'u cyflwyno ganddynt i gynyddu gweithgarwch corfforol yn ystod y diwrnod ysgol.