Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiadau tystiolaeth sy'n archwilio rhwystrau ac uchelgeisiau grwpiau ethnig lleiafrifol mewn perthynas â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r adroddiadau hyn yn helpu i lywio ein cynlluniau i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Adroddiadau tystiolaeth cymunedau

Mae'r adroddiadau canlynol yn gofnodion o sgyrsiau a thystiolaeth pobl o gefndir ethnig leiafrifol yng Nghymru yn siarad am eu profiadau o hiliaeth ynghyd â'u syniadau a'u dyheadau o ran y newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol. 

Cynhaliwyd llawer o'r sgyrsiau hyn mewn ieithoedd heblaw am y Gymraeg neu’r Saesneg ac fe'u cyfieithwyd i’r Saesneg gan yr hwyluswyr. Cynhaliwyd sgyrsiau eraill yn Saesneg, gan gofio ei bod yn ail iaith i lawer o’r cyfranogwyr. Gan fod yr adroddiadau hyn yn adlewyrchu'r union eiriau a ddywedwyd, nid ydynt wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.