Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw’r System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi’i gyflenwi a’i ddilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG.

Prif bwyntiau

Yng Nghymru, ar 30 Mehefin 2024

  • 372 o bractisau meddygon teulu yn weithredol, sef gostyngiad o 7 (1.8%) ers 30 Mehefin 2023.
  • 1,606 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALI, sef cynnydd o 29 (1.8%) ers 30 Mehefin 2023. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig.
  • 414 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) CALI, sef cynnydd o 17 (4.2%) ers 30 Mehefin 2023.
  • 5,961 o staff eraill practisau CALI, sef cynnydd o 9 (0.2%) ers 30 Mehefin 2023.

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff

  • 1,452 o ymarferwyr cyffredinol CALI, sef cynnydd o 23 (1.6%) ers 30 Mehefin 2023. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig.
  • 11 o feddygon teulu wrth gefn CALI, sef gostyngiad o 1 ers 30 Mehefin 2023.
  • 142 o feddygon teulu locwm gweithredol CALl, cynnydd o 7 (5.4%) ers 30 Mehefin 2023.  Gweler yr adran ansawdd allweddol a methodoleg i gael gwybodaeth am newidiadau i gwmpas y term locwm o ddata 31 Mawrth 2024.
  • 1,040 o nyrsys cofrestredig CALI, sef gostyngiad o 5 (0.5%) ers 30 Mehefin 2023.
  • 967 o staff gofal uniongyrchol i gleifion CALI (sef staff nad ydynt yn feddygon teulu nac yn nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion, megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef cynnydd o 6 (0.6%) ers 30 Mehefin 2023.
  • 3,954 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill CALI, sef cynnydd o 9 (0.2%) ers 30 Mehefin 2023.

Os nad oes contract ar waith rhwng y bwrdd iechyd a phartner meddyg teulu, gall y bwrdd iechyd lleol reoli practis cyffredinol gyda staff a allai gynnwys meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu locwm.

Ar 30 Mehefin 2024 roedd 20 o bractisau'n cael eu rheoli gan fyrddau iechyd lleol, 6 yn llai nag ar 30 Mehefin 2023. Roedd y practisau hyn yn cyflogi 74 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn a 361 o staff practis ehangach cyfwerth ag amser llawn. Mae'r staff hyn wedi'u cynnwys yn y cyfansymiau ar gyfer staff.

Ansawdd allweddol a methodoleg

Fel y nodwyd yn yr adroddiad ansawdd, o ddata 31 Mawrth 2024, cyfrifir yr holl locwm a oedd yn weithredol yn y chwarter, gan gynnwys gwaith locwm mewn practisau a reolir gan y bwrdd iechyd lleol na chafodd eu cofnodi trwy Locum Hub Wales (LHW). Cofnodwyd cyfanswm o 3.7 locwm CALl mewn practisau a reolir gan fyrddau iechyd ac nid trwy LHW ar 30 Mehefin 2024 (cyfrif pen o 10), 2.6% o'r cyfanswm meddyg teulu locwm CALl.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sabir Ahmed
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099