Neidio i'r prif gynnwy

Lansio arolwg adborth ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025, a chyfle i gofrestru ar gyfer gweminarau.

Rydym yn gofyn am farn ar ein dangosyddion arfaethedig i'w cynnwys yn y MALlC nesaf. Bwriedir cyhoeddi’r mynegai nesaf yn yr hydref y flwyddyn nesaf (2025).

Bydd yr arolwg adborth ar agor ar gyfer ymateb am 5 wythnos ac yn cau ar ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024.

Gallwch ddod o hyd i'n cynigion ar gyfer dangosyddion i fwydo i mewn i MALlC 2025 a dolen i'r arolwg adborth yn yr adroddiad isod. 

Rydym yn gofyn am farn ar ba ddangosyddion i'w cynnwys ym mhob un o'r 8 meysydd MALlC. Mae'r arolwg yn cynnwys:

  • newidiadau arfaethedig i rai o’r dangosyddion presennol a gynhwysir yn MALlC 2019
  • ffynonellau data a dangosyddion newydd posibl
  • sut i flaenoriaethu'r ffynonellau data newydd posibl

Byddwn yn cynnal gweminarau gan roi cyfle i unrhyw un â diddordeb i wrando ar ein cynigion mewn mwy o fanylder ac i ofyn cwestiynau. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar:

  • Dydd Mercher 20 Tachwedd, 10:15 i 12:00, gweminar trwy gyfrwng y Saesneg
  • Dydd Mawrth 3 Rhagfyr, 10:15 i 12:00, gweminar trwy gyfrwng y Saesneg a/neu Gymraeg

I gofrestru am y weminar, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru gan nodi pa sesiwn a hoffech chi fynychu. Cynnwys eich enw, eich sefydliad a'ch rôl swydd (os yw'n berthnasol). Byddwn wedyn mewn cysylltiad â mwy o wybodaeth ar sut i ymuno â'r weminar o'ch dewis.

Ar gyfer y weminar ar 3 Rhagfyr, i gydymffurfio â Safonau Iaith Gymraeg, ac er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y gwasanaeth cywir, rhowch wybod i ni os byddai’n well gennych ddefnyddio Cymraeg neu Saesneg yn ystod y weminar.

Os fydd o leiaf 10% o’r rhai a wahoddwyd yn dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg ar 3 Rhagfyr bydd cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ar gyfer y weminar. Er mwyn ein galluogi i drefnu’r gwasanaeth yma nid ydym yn gallu cynnwys eich dewis iaith ar ôl 18 Tachwedd 2024 wrth ystyried os fydd angen cyfieithu ar y pryd.

Cyswllt

Nia Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.