Adroddiad tystiolaeth gwrth-hiliol Cymru: profiad o hiliaeth yn ymwneud â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig
Adroddiad ar brofiadau ac uchelgeisiau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn perthynas â materion sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb gweithredol
Ym mis Mehefin 2022, daeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i'r amlwg fel llwybr trawsnewidiol tuag at greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Yn ogystal â diffinio hanfod gwrth-hiliaeth, mae'r cynllun arloesol hwn hefyd yn hynodi ei hun fel fframwaith dynamig yn hytrach na strategaeth sefydlog. Fe'i datblygwyd drwy broses gydgynhyrchu, gan adlewyrchu'r ystod amrywiol o randdeiliaid.
Cyfeiriodd y fersiwn gyntaf o'r Cynllun Gweithredu at yr angen i gynnwys newid hinsawdd a materion gwledig fel meysydd gweithredu. Mae adroddiadau ar amrywiaeth mewn gweithleoedd yn y DU yn nodi'n gyson mai'r sector amgylcheddol, ac yna broffesiynau ffermio, pysgota a choedwigaeth yw'r sectorau lleiaf amrywiol yn y DU. At hynny, nid yw profiadau a safbwyntiau pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru mewn perthynas â materion ‘amgylcheddol’ erioed wedi cael eu hystyried yn ffurfiol.
Ceisiodd y dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn:
- archwilio data ar gyfer Cymru er mwyn profi a yw rhai o'r canfyddiadau mewn rhannau eraill o'r DU (Lloegr yn bennaf) hefyd yn wir yng Nghymru
- sganio'r llenyddiaeth ymchwil yn systematig er mwyn deall yr hyn a gasglwyd gan ymchwil flaenorol mewn perthynas â rhyngweithiadau cymunedau ethnig lleiafrifol â materion sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig a chanfod unrhyw ymchwil a chanfyddiadau sy'n benodol i Gymru
- sbarduno deialogau cymunedol â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol am eu barn, eu profiadau a'u huchelgeisiau mewn perthynas â materion sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig
Caiff y tri darn hyn o ymchwil eu dwyn ynghyd yn yr adroddiad hwn, gyda phwyslais ar yr hyn a ddysgwyd o'r deialogau cymunedol.
Canfyddiadau
Drwy sganio'r llenyddiaeth ymchwil, nodwyd mai mynediad i fannau gwyrdd yw'r maes yr ymchwiliwyd iddo fwyaf, naill ai mynediad i fannau gwyrdd trefol neu fynediad i gefn gwlad gan bobl ethnig leiafrifol. Mae'r adolygiad yn dangos darlun clir o anghydraddoldeb o ran mynediad i fannau gwyrdd yn seiliedig ar ethnigrwydd, er ei bod yn anodd datgysylltu ethnigrwydd oddi wrth amrywiaeth o benderfynyddion demograffig eraill, yn enwedig statws economaidd-gymdeithasol.
Mae gwaith dadansoddi gofodol yn dangos bod grwpiau ethnig lleiafrifol wedi'u gorgynrychioli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran ansawdd aer, mannau gwyrdd amgylchynol a pherygl llifogydd yng Nghymru, sy'n gyson â thystiolaeth o Loegr.
Drwy'r deialogau cymunedol, casglwyd gwybodaeth hynod bwysig am brofiadau, blaenoriaethau ac uchelgeisiau pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru. Rhoddodd y pum grŵp ethnig lleiafrifol a oedd yn cynrychioli ystod o gymunedau ethnig ledled Cymru adroddiadau ar y deialogau yn eu priod gymunedau.
Dangosodd y deialogau ddyhead mewn cymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru i ymwneud â materion amgylcheddol ar raddfa leol a chenedlaethol. Pwysleisiodd trafodaethau rôl y gymuned, a'r cyfleoedd y gallai gwaith a sgyrsiau amgylcheddol eu cynnig o ran dod â phobl ynghyd. Cafodd y cyfle i dyfu eich bwyd eich hun ei nodi'n benodol fel rhywbeth yr oedd gan lawer ddiddordeb arbennig ynddo. I'r gwrthwyneb, datgelodd y deialogau rwystrau sylweddol megis bylchau mewn gwybodaeth, arferion gwahaniaethol, ac ymdeimlad o ynysigrwydd cymdeithasol yn atal pobl rhag cymryd rhan lawn mewn mentrau amgylcheddol a chael mynediad i fannau gwyrdd. Roedd diffyg pobl ethnig leiafrifol mewn rolau arwain i'w cynrychioli nhw a'u pryderon yn thema gyffredin ym mhob grŵp.
I grynhoi, mae pobl o gefndir ethnig leiafrifol yng Nghymru yn wynebu rhwystrau a gaiff eu creu gan eithriadau a hiliaeth sy'n eu hatal rhag cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau ‘amgylcheddol’. Yng Nghymru, maent yn nodi eu bod yn wynebu hiliaeth yn agored wrth ddefnyddio mannau gwyrdd neu ymweld â nhw. Mae'r achosion hyn o allgáu gorfodol o fannau cyhoeddus yn arwain at ymdeimlad o eithrio, ynysu a datgysylltu â phobl a byd natur. Maent hefyd yn agored i beryglon amgylcheddol ar raddfa anghymesur, megis ansawdd aer gwael a pherygl llifogydd. Mae diffyg cynrychiolaeth ac amrywiaeth mewn rolau arwain mewn sefydliadau amgylcheddol a'r llywodraeth yn dangos bod anghydraddoldebau systemig a diffyg cyfleoedd i bobl o gefndir ethnig leiafrifol ddilyn gyrfa yn y sectorau hyn neu deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli yn y dadleuon cyhoeddus am y materion.
Fodd bynnag, mae pobl yn y cymunedau ethnig lleiafrifol sy'n poeni o ddifrif am faterion amgylcheddol ac sy'n ymddiddori yn y maes, yn gwybod llawer amdano ac yn gweithio yn eu cymunedau, ond nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y fforymau trafod prif ffrwd.
Cyflwyniad
Daeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i'r amlwg yn 2022 fel llwybr trawsnewidiol tuag at greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Yn ogystal â diffinio hanfod gwrth-hiliaeth, mae'r cynllun arloesol hwn hefyd yn hynodi ei hun fel fframwaith dynamig yn hytrach na strategaeth sefydlog. Mabwysiadwyd proses gydgynhyrchu i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu. Mae'r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys undebau llafur, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, sefydliadau cymunedol a mentoriaid, gan sicrhau ei fod yn gadarn ac yn groestoriadol, ac wedi'i wreiddio'n ddwfn ym mhrofiadau bywyd ei gyd-awduron.
Mae 11 thema polisi wrth wraidd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac mae pob un ohonynt yn crynhoi'r nodau lefel uchel a'r strategaethau y gellir eu gweithredu. Nod y mentrau hyn yw sicrhau newidiadau trawsnewidiol mewn chwe maes o fywyd unigolyn: hiliaeth systemig mewn cysylltiadau pob dydd, darparu gwasanaethau, dynameg gweithleoedd, cyfleoedd gwaith, cynrychiolaeth mewn rolau ag awdurdod, a'r profiadau penodol a wynebir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Y nod cyffredin yw sbarduno gwelliannau mesuradwy ar y cyd i fywydau unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Yn ei fersiwn gyntaf, mae'r Cynllun Gweithredu yn cydnabod na chafodd camau i fynd i'r afael â hiliaeth ym meysydd polisi'r amgylchedd, newid hinsawdd a materion gwledig eu cynnwys ac y byddent yn cael sylw mewn fersiynau yn y dyfodol. Mae'r adroddiad hwn yn cynrychioli'r cam cyntaf yn y broses o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw, gan ymgymryd â synthesis o dystiolaeth i daflu goleuni ar brofiadau lleiafrifoedd ethnig wrth ymdrin â hiliaeth ym meysydd newid hinsawdd, stiwardiaeth amgylcheddol a systemau bwyd.
Mae adroddiadau ar amrywiaeth mewn gweithleoedd yn y DU yn nodi'n gyson mai'r sector amgylcheddol, ac yna broffesiynau ffermio, pysgota a choedwigaeth yw'r sectorau lleiaf amrywiol yn y DU. At hynny, nid yw profiadau pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru mewn perthynas â'r materion hyn erioed wedi cael eu hystyried yn ffurfiol. A yw eu profiadau yn adlewyrchu canlyniadau ymchwil ar lefel y DU neu a yw'r profiadau, yr uchelgeisiau a'r blaenoriaethau yn wahanol i bobl ethnig leiafrifol yng Nghymru?
Yn y gwaith hwn, ceisiodd Llywodraeth Cymru ddeall pa wybodaeth oedd eisoes ar gael am y gydberthynas rhwng pobl ethnig leiafrifol a materion amgylcheddol a lle roedd bylchau yn y dystiolaeth. Aeth ati hefyd i gasglu gwybodaeth gan bobl ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Ceisiodd y dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn:
- archwilio data ar gyfer Cymru er mwyn profi a yw rhai o'r canfyddiadau mewn rhannau eraill o'r DU (Lloegr yn bennaf) hefyd yn wir yng Nghymru
- sganio'r llenyddiaeth ymchwil er mwyn meithrin dealltwriaeth o'r hyn a gasglwyd gan ymchwil flaenorol mewn perthynas â rhyngweithiadau grwpiau ethnig leiafrifol â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig a chanfod unrhyw ymchwil a chanfyddiadau sy'n benodol i Gymru
- sbarduno deialog gyda chymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru am eu barn, eu profiadau a'u parodrwydd i ymwneud â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig.
Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r tri darn hyn o ymchwil, gyda phwyslais ar yr hyn a ddysgwyd o'r deialogau cymunedol.
Drwy ganolbwyntio ar leisiau cymunedau ethnig yng Nghymru, mae'r adroddiad hwn yn ceisio integreiddio eu safbwynt yn nodau a chamau gweithredu cyffredin Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Adolygiad o dystiolaeth empirig
Mae'r adran hon o'r adroddiad yn cynnwys:
- Archwiliad o ddata ar gyfer Cymru er mwyn profi a yw rhai o'r canfyddiadau mewn rhannau eraill o'r DU (Lloegr yn bennaf) hefyd yn wir yng Nghymru.
- Sgan systematig cyflym o'r llenyddiaeth ymchwil er mwyn deall yr hyn a gasglwyd gan ymchwil flaenorol mewn perthynas â rhyngweithiadau cymunedau ethnig lleiafrifol â materion sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig a chanfod unrhyw ymchwil a chanfyddiadau sy'n benodol i Gymru.
Diffiniadau
Ar gyfer y dadansoddiadau hyn, caiff mannau gwyrdd eu disgrifio fel tir â llystyfiant, parciau cyhoeddus, caeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon, ardaloedd chwarae, rhandiroedd, mannau anffurfiol, mannau tyfu bwyd, afonydd, camlesi, llynnoedd, pyllau a glannau môr a gynhelir at ddibenion hamdden a mwynhad cymunedau mewn lleoliadau trefol (pentrefi, trefi a dinasoedd).
Is-set o fannau gwyrdd yw mannau glas a chânt eu disgrifio'n swyddogol fel amgylcheddau awyr agored; naill ai rhai naturiol neu artiffisial; sy'n cynnwys dŵr fel elfen amlwg ac sy'n hygyrch i bobl’.
Caiff y dangosyddion canlynol eu defnyddio i fesur y maes amgylchedd ffisegol ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019. MALlC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach (ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, neu ACEHIau) yng Nghymru. Mae'n nodi ardaloedd â'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol (neu faes) o amddifadedd. Rhestrodd MALlC 2019 bob ardal fach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig) o ran amddifadedd cyffredinol ac ym mhob un o'r meysydd a dangosyddion.
Mae mynediad i fannau gwyrdd yn ddangosydd a gaiff ei fesur drwy gyfrifo cyfran yr aelwydydd ym mhob ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI) sydd o fewn pum munud ar droed (tua 300 metr) i fan gwyrdd naturiol hygyrch. Diffiniwyd mannau gwyrdd naturiol hygyrch gan ddefnyddio MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans ar y cyd â theipoleg mannau gwyrdd naturiol a gydnabyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r allbwn yn nodi safleoedd y gellid eu disgrifio'n hyderus fel lleoedd ag ymdeimlad naturiol y mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddynt. Ni chafodd safleoedd megis cyrsiau golff, rhandiroedd a mynwentydd eu cynnwys yn y rhestr.
Dangosydd yw man gwyrdd amgylchynol sy'n mesur pa mor “wyrdd” yw'r amgylchedd o fewn 300m i bob annedd. Mae'r dangosydd hwn yn mesur adlewyrchedd isgoch agos ac isgoch yr ardal o fewn 300m gan fesur ‘deiliogrwydd’ y gerddi adlewyrchol yn y gymdogaeth, coed, perthi a llystyfiant trefol yng nghyffiniau pob annedd.
Mae ansawdd aer yn un o is-feysydd MALlC 2019 sy'n cynnwys tri dangosydd llygryddion, a gaiff eu mesur drwy neilltuo crynodiad o NO2, PM10 a PM2.5 i bob annedd breswyl yng Nghymru yn seiliedig ar ba gilometr sgwâr yng Nghymru y mae'r annedd ynddo. Ar gyfer pob AGEHI, nodwyd cyfartaledd y crynodiadau o lygryddion sy'n gysylltiedig â phob annedd sydd ynddi er mwyn rhoi gwerthoedd crynodiad NO2, PM10 a PM2.5 cyfartalog. Yna cafodd y gwerthoedd hyn eu pwysoli yn ôl y boblogaeth (ceir rhagor o wybodaeth am newid methodolegol diweddar a'r penderfyniad i beidio â diwygio data hanesyddol ym metadata ciwb StatsCymru ar gyfer y dangosydd cenedlaethol). Mae'r is-faes ansawdd aer yn cyfeirio at y sgôr amddifadedd yn seiliedig ar sgoriau cyfunol y tri dangosydd llygryddion.
Caiff perygl llifogydd ei gyfrifo fel cyfran yr aelwydydd ym mhob ardal fach sy'n wynebu perygl llifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Mae'r risg yn seiliedig ar amlder rhagfynegol yn hytrach na lefel y difrod a achosir gan lifogydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion hyn yn MALlC 2019 yn adroddiad technegol MALlC 2019.
Dadansoddiadau gofodol
Mae'r amcangyfrifon a gyflwynir yn yr adran hon yn dangos cyfran y grwpiau ethnig lleiafrifol (fel y'u cofnodwyd yng Nghyfrifiad 2021) sy'n byw yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru mewn perthynas â dangosyddion MALlC 2019 ar gyfer yr amgylchedd ffisegol. Ar gyfer pob dangosydd, mae'r 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cynnwys tua 190 o ACEHIau.
Daw'r data o ddangosyddion amddifadedd amrywiol mewn perthynas â'r amgylchedd ffisegol o MALlC 2019 a phoblogaethau grwpiau ethnig o Gyfrifiad 2021. Defnyddiwyd adnodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar gyfer creu set ddata wedi'i theilwra er mwyn casglu data ar grwpiau ethnig ardaloedd bach yng Nghymru. Ceir gwybodaeth fanwl am newidyn grŵp ethnig y Cyfrifiad ar wefan y SYG.
Mae hyn yn estyniad o waith dadansoddi a gynhyrchwyd yn 2023 yn ymchwilio i ddosbarthiad grwpiau ethnig ar draws grwpiau amddifadedd cyffredinol MALlC 2019 ar gyfer Cymru. Caiff y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gysylltu data Cyfrifiad 2021 ar ardaloedd bach â data MALlC ar ardaloedd bach ei disgrifio yn adran ansawdd a methodoleg y datganiad ystadegol.
Mae adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu bod pobl ethnig leiafrifol yn agored i risgiau amgylcheddol ar raddfa anghymesur yn Lloegr. Er mwyn ymchwilio i b'un a oedd hyn yn wir yng Nghymru hefyd, gwnaethom ddefnyddio'r dangosyddion amddifadedd canlynol ar gyfer yr amgylchedd ffisegol o MALlC 2019: is-faes ansawdd aer, dangosydd mynediad i fannau gwyrdd, dangosydd mannau gwyrdd amgylchynol, a dangosydd perygl llifogydd.
Mae Tablau 1a-1d yn dangos y cyfrannau o bob grŵp ethnig sy'n byw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn perthynas â phob mesur amgylchedd ffisegol ym MALlC. Mae'r grwpiau ethnig yng ngholofn gyntaf y tabl wedi'u grwpio yn unol â'r categorïau grŵp ethnig lefel uchel a ddangoswyd ar ffurflen Cyfrifiad 2021, o'r brig i'r gwaelod: “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig ”, “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”, “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig”, “Gwyn” and “Grŵp Ethnig Arall”.
Tablau 1a i 1d
Y gyfran o bob grŵp ethnig sy'n byw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn perthynas â phob mesur amgylchedd ffisegol ym MALlC.
Ethnigrwydd | Y ganran sy'n byw yn y 10% o ACEHIau mwyaf difreintiedig |
---|---|
Bangladeshaidd | 51 |
Tsieineaidd | 29 |
Indiaidd | 36 |
Pacistanaidd | 61 |
Asiaidd Arall | 27 |
Affricanaidd | 48 |
Caribïaidd | 33 |
Du Arall | 43 |
Gwyn ac Asiaidd | 21 |
Gwyn a Du Affricanaidd | 26 |
Gwyn a Du Caribïaidd | 26 |
Grwpiau cymysg neu amlethnig eraill | 26 |
Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig | 15 |
Gwyddelig | 15 |
Roma | 45 |
Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig | 8 |
Gwyn arall | 21 |
Arabaidd | 50 |
Unrhyw grŵp ethnig arall | 36 |
Ethnigrwydd | Y ganran sy'n byw yn y 10% o ACEHIau mwyaf difreintiedig |
---|---|
Bangladeshaidd | 10 |
Tsieineaidd | 8 |
Indiaidd | 10 |
Pacistanaidd | 13 |
Asiaidd Arall | 8 |
Affricanaidd | 8 |
Caribïaidd | 9 |
Du Arall | 8 |
Gwyn ac Asiaidd | 10 |
Gwyn a Du Affricanaidd | 7 |
Gwyn a Du Caribïaidd | 8 |
Grwpiau cymysg neu amlethnig eraill | 8 |
Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig | 6 |
Gwyddelig | 11 |
Roma | 10 |
Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig | 10 |
Gwyn arall | 8 |
Arabaidd | 8 |
Unrhyw grŵp ethnig arall | 9 |
Ethnigrwydd | Y ganran sy'n byw yn y 10% o ACEHIau mwyaf difreintiedig |
---|---|
Bangladeshaidd | 33 |
Tsieineaidd | 26 |
Indiaidd | 27 |
Pacistanaidd | 34 |
Asiaidd Arall | 20 |
Affricanaidd | 35 |
Caribïaidd | 26 |
Du Arall | 29 |
Gwyn ac Asiaidd | 18 |
Gwyn a Du Affricanaidd | 21 |
Gwyn a Du Caribïaidd | 20 |
Grwpiau cymysg neu amlethnig eraill | 21 |
Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig | 19 |
Gwyddelig | 15 |
Roma | 27 |
Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig | 9 |
Gwyn arall | 18 |
Arabaidd | 40 |
Unrhyw grŵp ethnig arall | 24 |
Ethnigrwydd | Y ganran sy'n byw yn y 10% o ACEHIau mwyaf difreintiedig |
---|---|
Bangladeshaidd | 27 |
Tsieineaidd | 10 |
Indiaidd | 14 |
Pacistanaidd | 31 |
Asiaidd Arall | 11 |
Affricanaidd | 19 |
Caribïaidd | 15 |
Du Arall | 14 |
Gwyn ac Asiaidd | 11 |
Gwyn a Du Affricanaidd | 14 |
Gwyn a Du Caribïaidd | 13 |
Grwpiau cymysg neu amlethnig eraill | 12 |
Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig | 22 |
Gwyddelig | 10 |
Roma | 19 |
Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig | 10 |
Gwyn arall | 12 |
Arabaidd | 11 |
Unrhyw grŵp ethnig arall | 13 |
Mae'r dadansoddiad uchod yn dangos bod grwpiau ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn cael eu cynrychioli'n anghymesur yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn perthynas ag ansawdd aer, mannau gwyrdd amgylchynol a pherygl llifogydd. Ar y llaw arall, ni ddangosodd y dadansoddiad hwn gymaint o wahaniaeth ymhlith grwpiau ethnig o ran mynediad i fannau gwyrdd.
Is-faes ansawdd aer
Roedd rhai grwpiau ethnig lleiafrifol wedi'u gorgynrychioli'n sylweddol yn y 10% o ACEHIau mwyaf difreintiedig mewn perthynas â sgoriau ansawdd aer, gan gynnwys:
- 3 o bob 5 person a nododd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” (61%).
- Tua hanner y rhai a nododd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (51%).
- Tua hanner y rhai a nododd “Grŵp ethnig arall: Arabaidd” (50%).
- Tua hanner y rhai a nododd “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (48%).
Fel cyd-destun, roedd tua 11% o boblogaeth gyfan Cymru yn byw yn yr ardaloedd hyn.
Dangosydd mynediad i fannau gwyrdd
Roedd y tebygolrwydd o fyw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran mynediad i fannau gwyrdd yn llawer llai amrywiol ar draws y grwpiau ethnig gwahanol na'r dangosyddion eraill. Eto, roedd y rhai a nododd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd hyn (13%), ond roedd hyn yn gymharol agos at y gyfran ar gyfer y boblogaeth gyfan (10%).
Dangosydd mannau gwyrdd amgylchynol
Y grwpiau mwyaf tebygol yn y 10% o ACEHIau mwyaf difreintiedig mewn perthynas â mannau gwyrdd amgylchynol oedd:
- “Grŵp ethnig arall: Arabaidd” (40%).
- “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (35%).
- “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” (34%).
- “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (33%).
Roedd cyfrannau’r grwpiau hyn sy’n byw mewn ardaloedd â’r sgoriau mannau gwyrdd amgylchynol gwaethaf yn sylweddol uwch nag ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru (10%). Y rhain oedd yr un grwpiau ethnig a oedd wedi'u gorgynrychioli'n sylweddol ym mhob ardal ag ansawdd aer gwael hefyd.
Dangosydd perygl llifogydd
Y grwpiau ethnig â'r cyfrannau uchaf o bobl sy'n byw yn y 10% o ACEHIau mwyaf difreintiedig o ran perygl llifogydd oedd:
- “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” (31%).
- “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (27%).
- “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (22%).
- “Gwyn: Roma” (19%).
- “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (19%).
Y gyfran gyfatebol o boblogaeth gyfan Cymru a oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn oedd 10%.
Adolygiad cyflym o lenyddiaeth
Comisiynodd Llywodraeth Cymru dîm Advancing Capacity for Climate and Environment Social Science (ACCESS) ym Mhrifysgol Caerwysg i gynnal adolygiad cyflym o lenyddiaeth. Rhwydwaith gwyddor gymdeithasol ar yr hinsawdd a'r amgylchedd yw ACCESS sydd wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol am bum mlynedd. Mabwysiadodd y tîm fethodoleg gyflym, fyrdymor er mwyn cynnal yr adolygiad llenyddiaeth. Ystyriwyd y saith pwnc isod.
Rhestr 1: rhestr o feysydd pwnc a ystyriwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth a'r deialogau cymunedol
- Hamdden.
- Gweithleoedd, gwirfoddoli ac ymgyrchu.
- Yr amgylchedd lleol.
- Materion newid hinsawdd.
- Argyfwng bioamrywiaeth.
- Bwyd a diwylliannau bwyd.
- Arweinyddiaeth, cynrychiolaeth a modelau rôl.
Gan ddefnyddio'r paramedrau cyfyngedig y cytunwyd arnynt yn y sgan cychwynnol o'r llenyddiaeth, llwyddodd tîm ACCESS i ddod o hyd i ddigon o lenyddiaeth ar gyfer adolygiad systematig o lenyddiaeth ar unrhyw un o'r pynciau heblaw am fynediad i fannau gwyrdd a chefn gwlad. O ganlyniad, cytunwyd y byddai adolygiad y tîm yn canolbwyntio ar faes pwnc hamdden, gan gynnwys mynediad i fannau gwyrdd (gan gynnwys yr is-set mannau glas) a mynediad i gefn gwlad.
Ar gyfer pwnc mannau gwyrdd a mynediad i gefn gwlad, casglwyd 41 o gyfeiriadau perthnasol, llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd, astudiaethau meintiol ac ansoddol, ac ymchwil wreiddiol ochr yn ochr ag adolygiadau systematig o lenyddiaeth. Yn ddaearyddol, roedd y pwyslais ar y DU yn bennaf, gyda thuedd nodedig tuag at Loegr. Roedd y cyhoeddiadau a oedd yn adlewyrchu sefyllfa Cymru naill ai'n canolbwyntio ar Gymru yn unig neu'n cynnwys astudiaethau achos ar gyfer Cymru. Roedd y llenyddiaeth yn cynnwys pwyslais eang ar faterion mannau gwyrdd, heb roi llawer o sylw i bryderon o ran 'mannau glas'. O ran pynciau, roedd mwy o gyfeiriadau at fynediad o gymharu â gwirfoddoli, er bod rhai astudiaethau yn integreiddio'r ddau mewn trafodaethau ehangach am ethnigrwydd ac ymgysylltu amgylcheddol.
Yn bennaf, mae anghydraddoldebau mewn perthynas ag ethnigrwydd a mynediad i fannau gwyrdd wedi cael eu trafod ers canrifoedd, gyda gwaith cynnar, megis llenyddiaeth Julian Agyeman, yn dyddio'n ôl i ddiwedd yr 1980au. Gellir categoreiddio'r llenyddiaeth yn fras i ddwy is-lenyddiaeth: un yn archwilio ethnigrwydd a chyfleoedd i ymgysylltu â byd natur o safbwynt 'tirwedd', gan ganolbwyntio ar hil, hunaniaeth, a chefn gwlad Lloegr; a'r llall yn defnyddio safbwynt 'iechyd a llesiant', gan ymdrin â materion yn ymwneud â mynediad i fannau gwyrdd ymhlith grwpiau demograffig amrywiol. Er bod ymgysylltu â mannau gwyrdd yn cynnig llu o fuddion i iechyd a llesiant, mae tystiolaeth yn dangos na all pob grŵp demograffig fanteisio ar y buddion hyn mewn ffordd deg, yn enwedig pobl ethnig leiafrifol.
Mae'r adolygiad yn dangos bod cadernid y dystiolaeth yn amrywio a bod datgysylltu ethnigrwydd oddi wrth benderfynyddion demograffig eraill, megis statws economaidd-gymdeithasol, yn heriol. Fodd bynnag, mae adroddiadau diweddar yn creu darlun clir o anghydraddoldeb o ran mynediad i fannau gwyrdd yn seiliedig ar ethnigrwydd. Mae'r adroddiadau diweddar hyn yn cynnwys y canlynol:
- Canfu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020) fod unigolion Du 2.4 gwaith yn llai tebygol o feddu ar ardd breifat nag unigolion Gwyn.
- Nododd CPRE/NEF (2021) fod lleiafrifoedd ethnig 11 gwaith yn llai tebygol o gael mynediad i fannau gwyrdd ar gyfartaledd.
- Datgelodd arolwg gan Ramblers/YouGov (2020) fod pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn llai tebygol o fyw o fewn pum munud ar droed i fan gwyrdd a nodi bod amrywiaeth o fannau gwyrdd o fewn pellter cerdded.
- Canfu Cyfeillion y Ddaear (2020) fod bron 40% o bobl o gefndiroedd Ethnig Leiafrifol Du ac Asiaidd yn byw yn y cymdogaethau lleiaf breintiedig o ran mannau gwyrdd yn Lloegr, o gymharu â 14% o bobl Wyn.
- Canfu astudiaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (2020) fod pobl Ddu ac Asiaidd yn ymweld â lleoliadau naturiol 60% yn llai na phobl Wyn.
- Nododd Natural England (2019) fod pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol Du ac Asiaidd ond yn cyfrif am 1% o ymwelwyr â Pharciau Cenedlaethol, er eu bod yn cyfrif am 10% o'r boblogaeth genedlaethol.
Ar y cyd, mae'r adroddiadau hyn yn dangos bod gan unigolion o grwpiau ethnig lleiafrifol lai o fynediad i fannau awyr agored gartref a'u bod yn llai tebygol o fyw ger mannau gwyrdd, ymweld â chefn gwlad neu barciau cenedlaethol neu dreulio amser ym myd natur.
Mae data Natural England ar Fonitro Ymgysylltiad â'r Amgylchedd Naturiol (MENE) yn fan cychwyn defnyddiol i gael ymdeimlad o'r hyn sy'n atal pobl o bob rhan o gymdeithas rhag cael mynediad i fannau gwyrdd ac ymgysylltu â nhw. Arolwg o bobl yn Lloegr oedd arolwg MENE a chafodd ei gynnal bob blwyddyn rhwng 2009 a 2019 gan gasglu data ar hamddena awyr agored, agweddau tuag at yr amgylchedd naturiol ac ymgysylltiad ag ef. Dros 10 mlynedd yr arolwg, casglodd wybodaeth gan bron hanner miliwn o ymatebwyr. Mae'n un o'r setiau data mwyaf o'i bath yn y byd, ac mae wedi'i dynodi yn ystadegyn swyddogol cenedlaethol. Mae'n set ddata hynod ddefnyddiol a chadarn.
Yr hyn sy'n amlwg ar unwaith o ddata MENE yw bod llawer o resymau pam nad yw pobl o bob hil yn ymweld â'r amgylchedd naturiol. Gwnaeth arolwg MENE godio ymatebion mewn cyfweliadau i 23 o gategorïau gwahanol. Mewn astudiaeth a ddefnyddiodd data o chwe chylch cyntaf yr arolwg, 2009 i 2010, 2015 i 2016, rhestrodd Boyd et al. (2018) y rhesymau a roddwyd gan ymatebwyr i'r arolwg dros beidio ag ymweld ag amgylcheddau naturiol yn eu trefn (gweler Tabl 1). Yn ôl eu dadansoddiad, y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd oedd ‘rhy brysur yn y gwaith’, yna ‘iechyd gwael’, ‘rhy brysur yn y cartref’, a ‘dim rheswm penodol’.
Safle | Rhesymau dros beidio ag ymweld ag amgylcheddau naturiol | % |
---|---|---|
1 | Rhy brysur yn y gwaith | 20.2 |
2 | Iechyd gwael | 18.5 |
3 | Rhy brysur yn y cartref | 15.8 |
4 | Dim rheswm penodol | 14.7 |
5 | Henaint | 13.9 |
6 | Tywydd gwael | 9.7 |
7 | Anabledd corfforol | 9.3 |
8 | Dim diddordeb | 6.2 |
9 | Rhy ddrud | 4.8 |
10 | Dim car | 3.6 |
15 | Ddim yn rhywbeth i mi/pobl fel minnau | 1.4 |
17 | Diffyg lleoedd addas i fynd/llwybrau addas | 0.6 |
21 | Ddim yn teimlo bod croeso i mi/yn teimlo'n lletchwith | 0.2 |
Ffynhonnell: Boyd et al. (2018) yn seiliedig ar ddata MENE
Nid yw'r 10 rheswm uchaf a roddwyd yn crybwyll ethnigrwydd yn benodol. Gan fod yr arolwg yn cynrychioli cymdeithas, efallai nad yw'r absenoldeb hwn yn syndod. Fodd bynnag, o ystyried y mynediad anghyfartal i fannau gwyrdd a chynrychioldeb yr arolwg o boblogaeth Lloegr, gallai rhywun ddisgwyl y byddai rhesymau fel ‘diffyg lleoedd addas i fynd iddynt’, ‘ddim yn rhywbeth i mi’ a ‘teimlo'n lletchwith’ mewn safle uwch. Mae'r ffaith nad ydynt mewn safle uwch yn awgrymu, er bod yr arolwg yn gadarn ac yn werthfawr, nad yw efallai'n crynhoi'n llawn brofiadau lleiafrifoedd ethnig, eu rhesymau dros beidio ag ymweld ag amgylcheddau naturiol na'r rhwystrau amrywiol y maent yn eu hwynebu.
Er mwyn cael dealltwriaeth fwy cadarn, mae llenyddiaeth academaidd megis Robinson et al. (2023) yn darparu'r dystiolaeth empirig y mae angen dybryd amdani i ni. Er bod y rhan fwyaf o'r ymchwil yn y maes hwn yn ystyried rhwystrau i fynediad ymhlith amrywiaeth o grwpiau demograffig, gyda'r ffocws ar gymunedau difreintiedig o safbwynt economaidd-gymdeithasol, mae Robinson et al. (2023) wedi edrych yn benodol ar y rhwystrau i fynediad i fannau gwyrdd a wynebir gan unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio, fel y cyfeirir atynt.
Yn seiliedig ar adolygiad systematig o lenyddiaeth, a ffocws dilynol ar 10 astudiaeth feintiol allweddol a gynhaliwyd yn y DU a'r UD (Robinson et al. 2023), cafodd y prif rwystrau i fynediad i fannau gwyrdd ymhlith unigolion a chymunedau wedi'u hileiddio eu nodi a'u categoreiddio (gweler isod):
- Rhwystrau seicogymdeithasol neu ryngbersonol gydag ymatebion i'r rhwystrau yn cynnwys ddim yn teimlo bod croeso, rhwystrau diwylliannol neu o ran iaith, neu gymhelliant isel i wneud ymarfer corff.
- Rhwystrau ymarferol, gydag ymatebion i'r rhwystrau yn cynnwys pryderon ariannol megis costau teithio, parcio a ffioedd mynediad. Ansawdd neu estheteg wael y man gwyrdd yr ymwelir ag ef oherwydd diffyg amwynderau, sbwriel neu ddiffyg gwaith cynnal a chadw digonol.
- Rhwystrau amgylcheddol gydag ymatebion i'r rhwystrau yn cynnwys llai o fynediad i fannau gwyrdd oherwydd y lleoliad a phryderon ynglŷn â diogelwch, cysur neu lai o ymddiriedaeth yn y gymdogaeth lle mae'r man gwyrdd wedi'i leoli.
- Rhwystrau o ran profiad neu wybodaeth gydag ymatebion i'r rhwystrau yn cynnwys gwybodaeth flaenorol am y cyrchfan neu ddiffyg cysylltiad â byd natur.
Y rhwystrau i fynediad a nodwyd amlaf yn y 10 astudiaeth oedd: 1.) ansawdd/estheteg wael mannau gwyrdd; 2.) pryderon ynglŷn â diogelwch/cysur; 3.) pryderon ariannol; a 4.) argaeledd mannau gwyrdd, yn seiliedig ar leoliad.
Tystiolaeth o ddeialogau cymunedol
Cyflwyniad
Datgelodd y sgan cyntaf o'r llenyddiaeth ar gyfer yr adolygiad llenyddiaeth ymchwil, gwybodaeth neu drafodaeth gyfyngedig ar gydberthynas pobl ethnig leiafrifol â materion amgylcheddol, a hyd yn oed llai ar gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn benodol (dylid nodi nad yw dull yr adolygiad cyflym o lenyddiaeth yn gyfystyr â chwiliad cynhwysfawr o'r llenyddiaeth). Mewn ymateb i ganfyddiadau cyfyngedig yr adolygiad cyflym o lenyddiaeth, ariannodd Llywodraeth Cymru nifer o grwpiau cymunedol i gynnal ymchwil yn eu cymunedau mewn perthynas ag ystod o bynciau amgylcheddol.
Er mwyn adlewyrchu nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, canolbwyntiodd y deialogau cychwynnol hyn ar bynciau polisi a oedd â'r potensial i gael effaith gadarnhaol ar fywydau lleiafrifoedd ethnig ar unwaith. Mae'r deialogau yn cwmpasu meysydd amrywiol, gan gynnwys hygyrchedd mannau hamdden, cyfranogiad mewn sectorau amgylcheddol a newid hinsawdd, pryderon amgylcheddol cymunedol, gweithredu mewn perthynas â newid hinsawdd, diogelu bioamrywiaeth, arferion o ran y defnydd o fwyd, a chynrychiolaeth mewn rolau arwain. Defnyddiwyd y meysydd thematig hyn i ysgogi cymunedau i gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon, gan ymchwilio i awgrymiadau o hiliaeth a chyd-greu datrysiadau sy'n meithrin cynwysoldeb a thegwch.
Mae'r deialogau â'r grwpiau ethnig lleiafrifol yn cynnig ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth, gan ystyried yr agweddau amlochrog ar hiliaeth sydd wedi'u hen sefydlu yn y meysydd hyn mewn bywyd. Drwy groesawu safbwyntiau a phrofiadau amrywiol, mae'r deialogau hyn yn arwain y ffordd ar gyfer strategaethau y gellir eu rhoi ar waith er mwyn creu Cymru lle y gall pob unigolyn, ni waeth beth fo'i gefndir, ffynnu mewn cymdeithas sy'n seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder a chydraddoldeb.
Mae lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn wynebu heriau economaidd-gymdeithasol anghymesur sydd wedi'u cydblethu â materion amgylcheddol. Gan gydnabod y rheidrwydd i roi mwy o sylw i leisiau cymunedau lleiafrifol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn yn effeithiol, mae'r adroddiad hwn yn cyfosod gwybodaeth a gafwyd o ddeialogau cymunedol â grwpiau ethnig lleiafrifol amrywiol yng Nghymru.
Methodoleg
Comisiynodd Llywodraeth Cymru bum grŵp cymunedol i gynnal deialogau yn eu cymunedau. Cynigiwyd casgliad o bynciau i'r grwpiau hyn ddewis ohonynt (gweler Rhestr 1) a fyddai fwyaf tebygol o ennyn diddordeb eu cymuned a'r grwpiau cymdeithasol roeddent yn bwriadu gweithio gyda nhw.
Cynigiodd pob grŵp ei ddull ymgysylltu ei hun wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion ei gyfranogwyr, mewn perthynas â diddordebau, normau diwylliannol, iaith a statws cyfreithiol; er enghraifft, roedd angen i rai grwpiau fod yn ddienw er mwyn iddynt allu cymryd rhan. Roedd y methodolegau hefyd yn cynnwys ystyriaethau economaidd-gymdeithasol, megis cynnal cyfarfodydd gyda'r nos neu brydau cymunedol er mwyn helpu teuluoedd a'r rhai sy'n gweithio sawl swydd i gymryd rhan yn y deialogau.
Roedd rhyddid i bob grŵp ddehongli teitl y pwnc fel yr oedd yn dymuno gyda'i gyfranogwyr. Mewn perthynas â mannau gwyrdd, gwnaeth y rhan fwyaf o'r grwpiau ddehongli hyn fel ardaloedd â llystyfiant a gynhelir at ddefnydd y cyhoedd mewn lleoliad trefol, gan ei wahaniaethu oddi wrth ‘mynediad i gefn gwlad’ a oedd, i bob pwrpas, yn golygu mynd i ardal wledig i fwynhau cefn gwlad mewn ystyr ehangach.
Cynhaliwyd deialogau gan y sefydliadau canlynol:
- Green Soul: yn cynrychioli pobl Ddu, Asiaidd, Arabaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill yn Ne Cymru.
- Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru: yn cynrychioli amrywiaeth o gefndiroedd ethnig gwahanol.
- Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani yn cynrychioli cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru: yn cynrychioli pobl o gefndiroedd Affricanaidd ac Affro-Garibïaidd.
- KIRAN Cymru: grŵp cymunedol sy'n dod â holl aelodau'r gymuned ynghyd gyda phwyslais ar gynnwys pobl ethnig leiafrifol.
O ran y themâu polisi a ddewiswyd gan y grwpiau cymunedol i ddechrau trafodaethau, dechreuodd pedwar grŵp gyda mynediad i fannau gwyrdd neu gefn gwlad, aeth un grŵp ati i drafod materion yn y gweithle, siaradodd dau grŵp am newid hinsawdd, trafododd dau grŵp yr amgylchedd lleol, siaradodd dau grŵp am brynu bwyd a gwastraff bwyd, trafododd tri grŵp dyfu eich bwyd eich hun, a dewisodd un grŵp arweinyddiaeth fel thema. Dylid nodi mai mannau cychwyn oedd y rhain ac aethpwyd ymlaen i drafod nifer o themâu fel rhan o'r trafodaethau.
Dylid nodi nad oedd y meysydd thematig yr ymchwiliwyd iddynt yn cynnwys ffermio, pysgota a choedwigaeth am y tro. Fodd bynnag, mae lle i gasglu tystiolaeth ychwanegol er mwyn cwmpasu'r meysydd hyn yn y dyfodol.
Nododd y dystiolaeth o'r adolygiad llenyddiaeth y rhwystrau a'r heriau y mae lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu wrth ymgysylltu â materion amgylcheddol. Mae'r deialogau yn rhoi disgrifiad pwerus o brofiadau bywyd o'r rhwystrau a'r heriau hyn i bobl ethnig leiafrifol sy'n byw yng Nghymru.
Gan ddefnyddio dull ymchwil amlweddog, mae'r astudiaeth syntheseiddio tystiolaeth hon yn cwmpasu'r methodolegau gwahanol a ddefnyddir gan y grwpiau cymunedol gwahanol, gan amrywio o arolygon a grwpiau ffocws i gyfweliadau a sesiynau deialog, gan grynhoi data meintiol a naratifau ansoddol. O'r safbwynt cynhwysfawr hwn, mae'r ymchwil hon yn crynhoi'r tapestri cyfoethog o safbwyntiau a phrofiadau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, gan gynnig gwybodaeth werthfawr er mwyn llywio mentrau a pholisïau yn y dyfodol.
Gellir dod o hyd i fanylion am y dulliau a ddefnyddiwyd ym mhob un o'r deialogau cymunedol, y bobl yr ymgysylltwyd â nhw ac allbynnau'r deialogau yn adroddiadau'r cymunedau unigol a gyhoeddir ochr yn ochr â'r adroddiad hwn.
Synthesis o allbynnau'r adroddiadau cymunedol
Hamdden: mannau gwyrdd a mynediad i gefn gwlad ac ardaloedd arfordirol
Yn gyffredinol, mynegodd y rhai a gymerodd ran yn y deialogau cymunedol awydd cryf i ymweld â chefn gwlad ac ymgysylltu â mannau gwyrdd er eu mwynhad a'u lles, er gwaethaf ffactorau lliniarol posibl. Fodd bynnag, codwyd pryderon mewn perthynas ag ansawdd a hygyrchedd mannau gwyrdd mewn lleoliadau trefol, gyda rhai pobl yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu oddi wrth y mannau hyn ac nad oes croeso iddynt ynddynt. Yn ogystal, roedd mynediad i fannau gwyrdd i leiafrifoedd ethnig wedi'i gyfyngu gan ddiffyg amrywiaeth ac opsiynau o ran cyfleusterau.
Nid yw'r mannau gwyrdd yn cael eu parchu mewn ardaloedd lle mae poblogaeth fwy o bobl ethnig leiafrifol’ ‘Mae llawer o nodwyddau yn cael eu gadael gan ddefnyddwyr cyffuriau ym Mharc y Gamlas yn y dociau.
Green Soul
Nododd lleiafrifoedd ethnig fod materion yn ymwneud â hunaniaeth o ran hil neu grefydd yn rhwystrau posibl i ymweld â'r man gwyrdd i rai cyfranogwyr, gan arwain at deimladau pryderus.
Rwy'n Fwslim ac rwy'n gwisgo Pathani Salwar. Un diwrnod roeddwn ym Mharc y Rhath, a dechreuodd grŵp o bobl ifanc fy ngalw'n ‘Bin Laden’ o'r tu ôl i mi. Yn ddiweddarach, wrth fynd i ffwrdd, roedden nhw'n dal i chwerthin arna' i a phan aeth pob un ohonyn nhw i ffwrdd, roedden nhw'n gweiddi ‘Bin Laden’ ac yn pwyntio ata' i. Gwnaeth y profiad cyfan roi sioc i mi a fy ngwneud yn drist iawn.
KIRAN Cymru
Roeddwn allan gyda fy nheulu pan gynigiodd dyn Gwyn Prydeinig dynnu llun ohonon ni a dywedodd “say monkey”. Mi wnes i roi cerydd iddo a dweud na allai ddweud hynny gan fod plant yno.
Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru
Fodd bynnag, nodwyd bod plant iau o leiafrifoedd ethnig yn ymweld â pharciau a mannau gwyrdd yn aml ac yn haws, tra bod unigolion hŷn yn aml yn teimlo'n ynysig ac wedi'u hymddieithrio mewn mannau gwyrdd lleol.
Gall ffordd o fyw cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr gyflwyno amgylchiadau penodol mewn perthynas â'r cydberthnasau â'u cymdogaeth. Yn ei ddeialogau, trafododd y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani y potensial am hiliaeth mewn perthynas â safleoedd a ddyrennir gyda'i gyfranogwyr. Fodd bynnag, dywedodd y cyfranogwyr fod eu cydberthnasau â'r cymunedau lleol yn gadarnhaol, a bod cydberthnasau da yn y gymdogaeth heb lawer o wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil. O ran cael mynediad i fannau gwyrdd a'u defnyddio, cyfeiriodd cyfranogwyr Romani at ddau barc hygyrch yng Nghasnewydd y mae eu cymunedau yn ymgysylltu â nhw.
Trafododd cyfranogwyr o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru y ffordd roedd ei haelodau yn mwynhau defnyddio mannau gwyrdd ar gyfer iechyd corfforol, hamddena a chysylltiadau cymdeithasol. Fodd bynnag, y mannau gwyrdd a ddefnyddir fel arfer yw'r rhai y gellir eu cyrraedd ar droed, tra bod mynediad i fannau gwyrdd fel gwarchodfeydd natur drwy drafnidiaeth gyhoeddus yn bennaf, sy'n gostus i lawer nad ydynt yn berchen ar geir.
Ategodd KIRAN Cymru ddyhead tebyg i ymweld â mannau gwyrdd ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus a manteision iechyd corfforol. Roedd diffyg amrywiaeth mewn mannau gwyrdd, pryderon ynglŷn â hygyrchedd ac ansawdd, a'r ddibyniaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cael mynediad yn faterion cyffredin a nodwyd gan bob grŵp cymunedol a arolygwyd. At hynny, nododd canfyddiadau KIRAN Cymru sawl mater mewn perthynas â hiliaeth a brofwyd mewn parciau ac effeithiau'r profiadau hynny, ynghyd â'r farn bod diffyg mannau gwyrdd addas i grwpiau ethnig lleiafrifol yng Nghymru. Roedd materion eraill a nodwyd yn cynnwys parciau na chânt eu cynnal a'u cadw'n dda, palmentydd peryglus, gwaith cynnal a chadw gwael i ffyrdd yn arwain at anafiadau, a phryderon ynglŷn â diogelwch megis beicwyr cyflym ar balmentydd parciau. Fodd bynnag, mae'r heriau hyn yn gyffredin â chymdogaethau ac amodau byw cyffredinol lleiafrifoedd ethnig. Yn ogystal, roedd cael gwared ar feinciau mewn parciau yn ei gwneud hi'n anodd i unigolion orffwys wrth gerdded, ac roedd problemau o ran hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus a chost ymweld â pharciau neu ardaloedd gwledig sy'n bellach i ffwrdd i deuluoedd.
Rwy'n hoffi mynd i Fannau Brycheiniog o bryd i'w gilydd, ond fyddwn i ddim yn gwybod sut i gyrraedd yno heb gar'.
Green Soul
Gwybod pa fannau gwyrdd lleol sy'n bodoli ac a oes trafnidiaeth gyhoeddus, os ydyn nhw ychydig yn bellach i ffwrdd, byddai hynny'n rhwystr i mi.
Green Soul
Helo, wynebais hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin. Pan oeddwn yn ciwio ger fan hufen iâ mewn parc, gwnaeth criw o ddieithriaid fy ngalw'n ‘China Man’. Roedd geiriau cas yr unigolion yn fynegiant uniongyrchol o'u rhagfarn a'u hanoddefgarwch tuag at fy etifeddiaeth Asiaidd.
KIRAN Cymru
At hynny, mae'r hyn a ddisgrifir gan y cyfranogwyr yn dangos bod hiliaeth yn cael effaith ddofn ar grwpiau ethnig lleiafrifol yng Nghymru, gan arwain at ddrwgdybiaeth reddfol, trallod emosiynol ac ymdeimlad treiddiol o beidio â pherthyn. Dywed pobl eu bod yn teimlo'n agored i niwed, yn ofnus o ran eu diogelwch, yn ynysig ac fel pe bai'r gymuned ehangach yn eu gwrthod. Roedd achosion penodol o hiliaeth yn cynnwys aflonyddu geiriol, difaterwch ger safleoedd bws, ymosodiadau corfforol, sylwadau sarhaus, ac arferion gwahaniaethol yn seiliedig ar hyfedredd ieithyddol ac ethnigrwydd. Roedd y digwyddiadau hyn yn dangos yr heriau parhaus a wynebir gan grwpiau ethnig lleiafrifol yng Nghymru oherwydd hiliaeth. Er mwyn goresgyn y pryderon hyn, wrth fynd i'w man gwyrdd lleol, roedd oedolion ethnig leiafrifol yn tueddu i geisio diogelwch drwy feithrin cysylltiadau â phobl sy'n edrych fel nhw mewn mannau gwyrdd neu ymweld fel rhan o gynulliad cymdeithasol.
O ran y defnydd o fannau gwyrdd, dywedodd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr eu bod yn gallu cael mynediad i fannau gwyrdd yn hawdd mewn lleoliadau trefol, gyda phryderon ynglŷn ag ansawdd a natur groesawgar y mannau hyn. Cyfeiriwyd at ddiffyg mannau gwyrdd ymarferol mewn ardaloedd trefol a phroblemau trafnidiaeth fel rhwystrau i fwynhau mannau gwyrdd yng Nghymru a rhyngweithio â nhw. Mynegodd rhai cyfranogwyr bryderon ynglŷn ag ymweld â chefn gwlad oherwydd eu hunaniaeth o ran hil neu grefydd, o ganlyniad i'w profiadau bywyd yng Nghymru. Dangosodd y deialogau y pryderon o ran diffyg dealltwriaeth a chydberthnasau ymhlith y boblogaeth Wyn ehangach, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn seiliedig ar brofiadau personol.
Blêr â glaswellt wedi gordyfu” a ‘diffyg diogelwch cyffredinol.
Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru
Dywedodd un fenyw Ddu Affricanaidd nad yw'n teimlo'n ddiogel pan fydd cŵn o gwmpas gan fod arni ofn y byddant yn ymosod arni, ‘cŵn heb fwsel neu dennyn yn crwydro o gwmpas parciau.
Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru
Mae'r adroddiadau hyn yn dangos profiadau pobl yng Nghymru o'r materion a ddisgrifiwyd gan y dadansoddiadau empirig.
Gweithleoedd, gwirfoddoli ac ymgyrchu: gweithio yn y sectorau amgylcheddol a newid hinsawdd
Dangosodd pob grŵp a gymerodd ran wybodaeth a lefel o ymgysylltiad o ran gweithleoedd, gwirfoddoli ac ymgyrchu yn y sectorau amgylcheddol a newid hinsawdd. Gwnaethant hefyd ddangos parodrwydd i gymryd rhan mewn ymdrechion i fynd i'r afael â materion amgylcheddol a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu natur y grwpiau cymunedol sy'n ymwneud â'r gwaith hwn gan eu bod yn dod o sefydliadau ymgyrchu a gwirfoddoli.
O ran gweithleoedd, daeth Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru ynghyd i gynnal deialog benodol i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr ôl-raddedig sy'n gweithio'n uniongyrchol ar faterion amgylcheddol. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, roedd gan y grŵp ddealltwriaeth fanylach o faterion yn ymwneud â newid hinsawdd a'r amgylchedd (gan gynnwys tymhorau ansefydlog, datgoedwigo, teneuo’r osôn, llifogydd gormodol, carbon deuocsid a gaiff ei allyrru o geir, ailgylchu, a gwaredu gwastraff yn briodol). Mwynhaodd y grŵp sgwrs ddwys am faterion amgylcheddol, ond ni wnaeth y sgwrs tuag at brofiadau personol yn y gweithle.
Dangosodd y deialogau a oedd yn canolbwyntio ar wirfoddoli fod pob cymuned ethnig leiafrifol a gontractiwyd i gynnal y deialogau cymunedol yn ymwneud yn weithgar â gwaith gwirfoddol, ac mae rhai ohonynt, e.e. Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a KIRAN Cymru, yn elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Grŵp cymunedol ar lawr gwlad yw Green Soul sy'n cynnwys lleiafrifoedd ethnig yn Ne Cymru ac yn canolbwyntio ar weithio a gwirfoddoli mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â newid hinsawdd a'r amgylchedd. O ran yr ymatebion gan y gymuned hon, mynegodd pob cyfranogwr bryderon am yr argyfwng hinsawdd a nodwyd bod ymrwymiad cryf i fynd i'r afael â materion amgylcheddol yn sefydliad Green Soul. Is-grŵp o Climate Cymru yw Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru. Cafodd ei sefydlu er mwyn i unigolion ethnig leiafrifol gael llwyfan i ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned ehangach. Yn ystod y deialogau cymunedol, dangosodd aelodau o'r grŵp hwn ddealltwriaeth gyffredinol o faterion yn ymwneud â newid hinsawdd. Roedd cyfranogwyr o grwpiau Green Soul a Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru yn cytuno, heblaw am y llywodraeth, fod yn rhaid i unigolion a chymdeithas chwarae rôl bwysig o ran ymgysylltu â materion yn ymwneud â newid hinsawdd a'r amgylchedd.
Dangosodd y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru bryder cyffredin am yr argyfwng hinsawdd, gyda phob cyfranogwr yn mynegi rhywfaint o bryder. Mae hyn yn dangos bod y cymunedau hyn yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â materion amgylcheddol. Yn yr un modd, dangosodd KIRAN Cymru, fel cymuned, bryder am yr argyfwng hinsawdd hefyd, gyda phob cyfranogwr yn mynegi gofid neu bryder yn hyn o beth.
O ran ymgyrchu, nododd Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru a Green Soul eu bod wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud â'r hinsawdd a'r amgylchedd.
Yr Amgylchedd Lleol: materion amgylcheddol cymunedol megis tipio anghyfreithlon, llygredd aer, ailgylchu ac ailddefnyddio
Mynegodd tua 80% o'r holl gyfranogwyr o bob un o'r grwpiau foddhad â'r system rheoli gwastraff yng Nghymru, a nododd tua 10% o grŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru nad oeddent yn fodlon a bod angen gwella'r system. At hynny, nododd cyfranogwyr o grŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru eu bod wedi cael profiadau o wahaniaethu ar sail hil wrth ddelio â'r contractwyr sy'n gyfrifol am gasglu biniau ailgylchu/sbwriel o gwmpas ardal cyngor lleol Bangor. Dywedodd Sipsiwn, Roma a Theithwyr a gymerodd ran fod eu hamgylchedd lleol yn eithaf gwael, gyda safonau byw isel iawn, a dywedwyd ei fod yn amgylchedd ‘peryglus’, ‘gwarthus’, ac ‘anniogel’.
Cydnabu llawer o ymatebwyr o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru y manteision o ran iechyd a'r amgylchedd sy'n gysylltiedig â gofalu am ardaloedd cyfagos i bobl, anifeiliaid a bywyd dyfrol.
Materion Newid Hinsawdd: gan gynnwys rôl cymdeithas wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd; cefnogi camau gweithredu ar lefel unigol a chymunedol
Trawsnewidiad cyfiawn i economi sero net ac ymaddasu i newid hinsawdd.
Dangosodd cyfranogwyr o grŵp Green Soul ddealltwriaeth glir o effeithiau newid hinsawdd. Roeddent hefyd am gymryd rhan mewn ymgyrchoedd amgylcheddol. Roedd rhwystrau i gymryd rhan yn cynnwys y ffordd roedd negeseuon yn cael eu cyfleu, diffyg amser, a gwybodaeth ac ymgysylltiad cyfyngedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r hinsawdd. Yng nghymuned Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru, mynegwyd dyhead cryf i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd amgylcheddol. Cyfeiriwyd at ddiffyg amrywiaeth a chynhwysiant mewn sefydliadau, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth mewn swyddi arwain, fel rhesymau dros ymgysylltiad cyfyngedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â newid hinsawdd. Nodwyd bod ymgynghori ag awdurdodau lleol ar strategaethau sy'n croesawu amrywiaeth yn bwysig hefyd.
Argyfwng Bioamrywiaeth: safbwyntiau a blaenoriaethau mewn perthynas â cholli bioamrywiaeth yng Nghymru a thramor
Ni wnaeth yr un o'r grwpiau cymunedol ddewis ymdrin â'r pwnc hwn gyda'r rhai yn eu cymuned. Bydd angen gwneud gwaith pellach wedi'i dargedu er mwyn taflu goleuni ar farn a phrofiadau pobl ethnig leiafrifol yn y maes hwn.
Bwyd a diwylliannau bwyd: profiadau o hiliaeth wrth brynu bwyd i'w fwyta gartref a'r tu allan i'r cartref, gwastraff bwyd ac ati
Yng ngrŵp Green Soul, mynegodd llawer o gyfranogwyr bryderon am amodau byw ac ansawdd bwyd wrth brynu bwyd i'w fwyta gartref. Dywedodd y mwyafrif o'r rhai a gymerodd ran yn y deialogau nad oeddent yn gwybod am fentrau tyfu bwyd lleol neu nad oeddent yn gallu cymryd rhan ynddynt. Roedd tyfu eich bwyd eich hun yn gymharol anodd i lawer o bobl ym mhob grŵp oherwydd materion yn ymwneud â lle a sgiliau. Nid oedd llawer o ymatebwyr yn teimlo eu bod yn gallu tyfu bwyd gartref am nad oedd ganddynt yr adnoddau neu'r wybodaeth i wneud hynny. Ar gyfer y cyfranogwyr o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, y ddau brif ffactor a oedd yn pennu pa fwyd a brynwyd oedd y pris a dyddiad defnyddio'r bwyd. Roeddent yn deall pwysigrwydd cynhyrchu llai o wastraff bwyd a phrynu'r hyn sydd ei angen arnynt yn unig er mwyn osgoi gwastraff diangen.
Roedd aelodau o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn blaenoriaethu prynu bwyd ffres a glân o darddiad y gallent ymddiried ynddo. Roeddent hefyd yn deall pwysigrwydd cynhyrchu llai o wastraff bwyd a phrynu'r hyn sydd ei angen arnynt yn unig er mwyn osgoi gwastraff diangen. Roeddent yn cydnabod pwysigrwydd peidio â gwastraffu bwyd yn ddiangen os yw o fewn y dyddiad defnyddio, a nodwyd hefyd mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch y dylech ei brynu. Roedd rhai yn dioddef rhagfarn ac annymunoldeb wrth siopa, gan beri iddynt ddefnyddio cyfleusterau talu hunanwasanaeth er mwyn rhyngweithio llai â'r staff a chwsmeriaid eraill.
Nododd cyfranogwyr yng nghymuned KIRAN Cymru anawsterau wrth dyfu eu bwyd eu hunain oherwydd problemau o ran lle a sgiliau. Gwnaethant hefyd nodi na allent dyfu bwyd gartref am nad oedd ganddynt yr adnoddau neu'r wybodaeth i wneud hynny. Roeddent yn deall pwysigrwydd cynhyrchu llai o wastraff bwyd a phrynu'r hyn sydd ei angen arnynt yn unig er mwyn osgoi gwastraff diangen. Roedd rhai yn dioddef rhagfarn ac annymunoldeb wrth siopa, gan hefyd beri iddynt ddefnyddio cyfleusterau talu hunanwasanaeth er mwyn rhyngweithio llai â'r staff a chwsmeriaid eraill.
Tyfu eich bwyd eich hun am resymau yn ymwneud â'r gymuned, iechyd, dewis deietegol, yr amgylchedd neu newid hinsawdd: mynediad at fentrau tyfu cymunedol, gerddi, rhandiroedd neu erddi cymunedol
O ran tyfu bwyd, nodwyd bod cyfranogwyr benywaidd yn fwy parod i ymgysylltu â gweithgareddau o'r fath. Yng ngrŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru, dywedodd y mwyafrif fod y syniad o dyfu eu bwyd eu hunain ‘yn ddymunol iawn’ ac ‘yn syniad da’, yn enwedig cyfranogwyr benywaidd hŷn. Dangosodd canfyddiadau rwystrau i dyfu eu bwyd eu hunain, megis: diffyg gardd neu le/rhandir annigonol; gwybodaeth gyfyngedig am dyfu bwyd yn yr ardd gartref yn y DU; diffyg hadau ar gyfer planhigion sy'n ddiwylliannol briodol (ffrwythau a llysiau); diffyg gwybodaeth ddigonol am fentrau cymunedol sydd wedi'u teilwra at gymunedau ethnig lleiafrifol. Yng Nghymdeithas Affrica Gogledd Cymru, disgrifiwyd y syniad o dyfu eich bwyd eich hun fel rhywbeth cadarnhaol, gyda'r rhan fwyaf o gyfranogwyr yn dweud ei fod yn ‘syniad da iawn’ ac yn ‘rhatach’, yn enwedig cyfranogwyr benywaidd hŷn.
Arweinyddiaeth, cynrychiolaeth a modelau rôl ar Fyrddau a fforymau gwneud penderfyniadau yn y 3 sector
Mae cael cynrychiolaeth mewn rolau arwain yn allweddol wrth wneud penderfyniadau. Yng ngrŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru, nid oedd 90% o'r cyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd yn ymwybodol o strwythur arweinyddiaeth y sector amgylcheddol yng Nghymru, ac nid oeddent chwaith yn gwybod am unrhyw un fel nhw mewn swydd arwain neu gynrychioladol. Roedd gan gyfranogwyr yng Nghymdeithas Affrica Gogledd Cymru bryderon am gynrychiolaeth wrth wneud penderfyniadau. Nodwyd gwybodaeth gyfyngedig am Lywodraeth Cymru ymhlith cyfranogwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr hefyd a chyfeiriwyd at ddiffyg cynrychiolaeth eu haelodau wrth wneud penderfyniadau. Yn KIRAN Cymru, dywedodd 239 o'r 248 o gyfranogwyr nad oeddent yn gwybod dim am Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Casgliad
Gan ddefnyddio 3 dull ymchwilio gwahanol, mae'r adroddiad hwn wedi nodi saith gwirionedd cyffredinol am bobl ethnig leiafrifol a'u profiadau bywyd mewn agweddau ar fywyd sy'n ymwneud â'r amgylchedd, newid hinsawdd a materion gwledig. Hefyd, datgelodd yr ymchwil rai gwahaniaethau penodol i Gymru yn y canfyddiadau y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach.
Nododd tystiolaeth a gasglwyd o lenyddiaeth ymchwil mai mynediad i fannau gwyrdd a'r defnydd ohonynt (naill ai mynediad i fannau gwyrdd trefol neu fynediad i gefn gwlad gan bobl ethnig leiafrifol) yw'r maes yr ymchwilir iddo fwyaf mewn perthynas â phobl ethnig leiafrifol yn ymgysylltu â materion amgylcheddol. Mae'r dystiolaeth yn cyflwyno darlun clir o anghydraddoldeb o ran mynediad i fannau gwyrdd yn seiliedig ar ethnigrwydd. Fodd bynnag, mae ansicrwydd wrth geisio datgysylltu ethnigrwydd oddi wrth amrywiaeth o benderfynyddion demograffig eraill, yn enwedig statws economaidd-gymdeithasol.
Mae'r deialogau cymunedol yn rhoi adroddiadau uniongyrchol am y ffordd y mae pobl ethnig leiafrifol wedi dioddef hiliaeth ac wedi cael eu hallgáu o'r mannau hyn, fel y disgrifir yn y llenyddiaeth. Maent hefyd yn amlygu'r rhwystrau economaidd-gymdeithasol a drafodwyd yn y llenyddiaeth sy'n atal mynediad i fannau gwyrdd, er enghraifft dibyniaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ddiffyg mynediad i gar. Fodd bynnag, mae'r deialogau hefyd yn rhoi adroddiadau am y ffordd y mae pobl ethnig leiafrifol yn mwynhau'r mannau gwyrdd y gallant gael mynediad iddynt ac, yn fwy pwerus, faint roeddent yn mwynhau mynd i gefn gwlad pan oeddent yn cael y cyfle a'r cymorth i wneud hynny.
Mae'r dadansoddiad gofodol a gynhaliwyd yn dangos bod grwpiau ethnig lleiafrifol wedi'u gorgynrychioli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran ansawdd aer, mannau gwyrdd amgylchynol, a pherygl llifogydd yng Nghymru, sy'n gyson â thystiolaeth o Loegr.
Gan ddod â'r adolygiad llenyddiaeth a'r dadansoddiad gofodol ynghyd, mae'r adolygiad llenyddiaeth yn awgrymu bod gan bobl ethnig leiafrifol yn Lloegr lai o fynediad i fan awyr agored gartref, h.y. mae gan y tai y maent yn byw ynddynt erddi cyfyngedig neu nid oes ganddynt erddi o gwbl. Mae'r dadansoddiad gofodol yn awgrymu bod hyn yn wir yng Nghymru hefyd, ac mai cymdogaethau pobl ethnig leiafrifol yn bennaf sydd â'r dangosydd isaf o ran mannau gwyrdd amgylchynol. Mae'r adolygiad llenyddiaeth hefyd yn awgrymu bod gan gymunedau ethnig lleiafrifol lai o fynediad i fannau gwyrdd trefol yn Lloegr. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad gofodol i Gymru yn dangos nad yw hyn yn wir yng Nghymru yn ffisegol gan fod gan gymdogaethau â phobl ethnig leiafrifol yn bennaf lefel debyg o fynediad i fannau gwyrdd â'r boblogaeth gyffredinol. Mae'r deialogau cymunedol yn disgrifio ystod o brofiadau o agweddau cadarnhaol a negyddol ar ymgysylltiad amgylcheddol, hygyrchedd mannau gwyrdd, a phrofiadau o wahaniaethu.
Mae myfyrdodau cadarnhaol yn pwysleisio'r awydd ymhlith unigolion yng Nghymru i ymgysylltu â materion amgylcheddol, gan bwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad cymunedol a manteision posibl tyfu eich bwyd eich hun. Eto i gyd, ymhlith y canfyddiadau cadarnhaol hyn, ymddengys rhwystrau megis bylchau mewn gwybodaeth, arferion gwahaniaethol, ac ymdeimlad o ynysigrwydd sy'n atal pobl ethnig leiafrifol rhag cymryd rhan lawn mewn mentrau amgylcheddol a chael mynediad i fannau gwyrdd.
Yn ogystal, mae'r adroddiadau yn taflu goleuni ar y rhwystrau penodol a wynebir gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan gynnwys heriau yn ymwneud â lleoedd byw, cynaliadwyedd a chynrychiolaeth mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos pa mor bwysig yw cael atebion wedi'u teilwra a dulliau cefnogi er mwyn ymdrin â phryderon unigryw y cymunedau ethnig lleiafrifol gwahanol. At hynny, mae'r adroddiadau yn pwysleisio'r angen dybryd i feithrin Cymru wrth-hiliol, lle y caiff lleiafrifoedd ethnig eu grymuso i ymgysylltu'n weithredol â materion amgylcheddol a chael mynediad i fannau gwyrdd yn eu ffordd eu hunain, ac y caiff hyn ei gydnabod mewn cymdeithas ehangach er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig.
Yn ei hanfod, mae'r adroddiad hwn yn nodi'r angen am gamau gweithredu ar y cyd gan bawb sy'n gweithio yn y sector amgylcheddol (ar ei ffurf ehangaf) i roi sylw i safbwyntiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, gan hyrwyddo dulliau gweithredu cynhwysol sy'n meithrin cyfiawnder amgylcheddol a mynediad teg i fannau gwyrdd i bawb.
Ieithoedd amgen
Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.