Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ddogfen hon yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio Deddf Treth Trafodiadau a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Bydd y diwygiadau yn darparu rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau cymhwysol o fewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru.

Er nad oedd unrhyw ddyletswydd statudol i ymgynghori, mae ymgynghori yn parchu egwyddorion sefydledig cyfraith gyhoeddus, am ei bod yn debygol bod disgwyliad dilys y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y mater hwn.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad dros gyfnod o wyth wythnos, sy'n fyrrach na'r cyfnod ymgynghori safonol o 12 wythnos. Fodd bynnag, oherwydd natur dechnegol y darpariaethau deddfwriaethol drafft sy'n ymwneud â meysydd penodol, ystyriwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus byrrach yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynigion rhwng 19 Rhagfyr 2023 a 18 Chwefror 2024 a chafwyd pum ymateb. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried pob un o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a hoffai ddiolch i bob ymatebydd.

Camau i'w Cymryd

Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru:

Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru ar LLYW.CYMRU

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig
Yr Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
Trysorlys Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays (2il lawr Gorllewin)
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: YmgynghoriadLTT.RhyddhadSafleoeddTrethArbennig@llyw.cymru

Copïau ychwanegol

Ar ffurf electronig yn unig y caiff y crynodeb hwn o’r ymatebion a chopïau o'r holl ddogfennaeth ymgynghori eu cyhoeddi, a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael yma:

Ar-lein: Rhyddhad Treth Trafodiadau Tir ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig

Mae'r ddogfen ymgynghori hefyd ar gael yn Saesneg:

Ar-lein: Land Transaction Tax Special Tax Sites Relief

1.0 Cyflwyniad

1.1 Gofynnodd yr ymgynghoriad hwn am farn ar ddiwygiadau deddfwriaethol arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Bydd y diwygiadau yn darparu rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau cymhwysol o fewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru am gyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn cynnwys trafodiadau cymhwysol yn y porthladdoedd rhydd arfaethedig yng Nghymru a, lle y bo'n briodol, ar gyfer parth(au) buddsoddi yng Nghymru. Os bydd y rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir sy'n gymwys i barthau buddsoddi yn wahanol i'r hyn a ddarperir mewn Porthladdoedd Rhydd, efallai y bydd angen datblygu polisi ac ymgynghori ymhellach a llunio rheoliadau ychwanegol i ddiwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

1.2 Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU ar y cyd y Porthladd Rhydd Celtaidd a Phorthladd Rhydd Ynys Môn fel y cynigwyr llwyddiannus i symud ymlaen i gam yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer statws porthladd rhydd. Bydd y porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn cynnig cymhellion treth a thollau tramor i fusnesau newydd sy'n ymsefydlu yn ardal y porthladd rhydd neu fusnesau presennol yn ardal y porthladd rhydd sy'n ehangu eu gweithrediadau.

1.3 Mae'r cymhellion treth yn cynnwys rhyddhad wedi'i dargedu rhag cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwr, lwfansau strwythurau ac adeiladau uwch a lwfansau cyfalaf uwch. Mae a wnelo'r cymhellion treth penodol hyn â threthi a gedwir yn ôl i lywodraeth y DU. Mae cymhellion treth yn Lloegr hefyd yn cael eu darparu ar gyfer ardrethi annomestig a Threth Dir y Dreth Stamp. Mae'r naill a'r llall yn faterion datganoledig i Weinidogion Cymru a'r Senedd. Datganolwyd Treth Dir y Dreth Stamp i Gymru yn 2018 ac fe'i disodlwyd gan y Dreth Trafodiadau Tir.

1.4 Mae cymhellion treth y porthladdoedd rhydd, gan gynnwys y rhyddhad arfaethedig rhag y Dreth Trafodiadau Tir, yn ysgogwyr allweddol o ran y Rhaglen a bwriedir iddynt helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat a chyflawni amcanion polisi'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd i Gymru.

2.0 Y broses ymgynghori

2.1 Gofynnwyd am sylwadau ar y cynigion dros gyfnod ymgynghori cyhoeddus o wyth wythnos, a ddechreuodd ar 19 Rhagfyr 2023 ac a ddaeth i ben ar 18 Chwefror 2024. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar dudalennau ymgyngoriadau gwefan Llywodraeth Cymru. Gallai'r ymatebwyr gyflwyno eu safbwyntiau a'u sylwadau ar bapur, dros e-bost neu ar-lein, ac yn Gymraeg neu yn Saesneg. Cafodd manylion yr ymgynghoriad a'r ddeddfwriaeth ddrafft eu trafod a'u he-bostio at randdeiliaid allweddol, gan gynnwys y cynigwyr ar gyfer y Porthladdoedd Rhydd. Roedd yr ymgynghoriad yn gymwys i Gymru yn unig.

2.2 Roedd y ddogfen ymgynghori yn cynnwys 26 o gwestiynau am y diwygiadau arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, o dan yr adrannau canlynol:

  • Ystyr safle treth arbennig
  • Tir Cymhwysol o fewn Safle Treth Arbennig
  • Modd cymhwysol
  • Rhyddhad ar gyfer llety gofalwyr a staff diogelwch
  • Tir ategol a masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol
  • Diffiniad o ‘renti wedi eu heithrio’
  • Rhyddhad Llawn
  • Rhyddhad Rhannol a thrafodiadau gan gynnwys tir o fewn y safle treth dynodedig a'r tu allan iddo
  • Trefniadau cyllid eiddo amgen
  • Hawlio'r Rhyddhad
  • Gwaredu cyfran sylweddol o'r buddiant economaidd mewn tir cymhwysol o fewn safle treth arbennig yn ystod y cyfnod rheoli
  • Achosion pan fo aseinio les yn cael ei drin fel rhoi les
  • Ystyriaethau o ran y Gymraeg
  • Ystyriaethau cyffredinol

2.3 Cafwyd cyfanswm o bum ymateb i'r ymgynghoriad, gan gyrff proffesiynol, y sector cyhoeddus, busnes ac un unigolyn a oedd yn ymateb yn breifat. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ymatebion ac nid yw'n cyfeirio at bob pwynt a godwyd gan ymatebwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried pob un o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn a hoffai ddiolch i bob ymatebydd.

3.0 Crynodeb o'r ymatebion

3.1 Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd. Gan mai dogfen gryno yw hon, ni all nodi'r holl fanylion a godwyd gan yr ymatebwyr, ond mae pob ymateb wedi cael ei ystyried yn ofalus. Gan fod 26 o gwestiynau am y diwygiadau arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, maent wedi'u grwpio mewn perthynas â'u hadrannau fel y nodir ym mharagraff 2.2.

Ystyr safle treth arbennig

Crynodeb o'r ymatebion:

3.2 Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn cytuno bod y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn gweithio fel y bwriadwyd o ran diffinio ystyr “safle treth arbennig”, a bod y diffiniad yn gymwys i safleoedd y porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

3.3 Nododd un ymatebydd y gall llywodraeth y DU ddynodi ardaloedd gwahanol yng Nghymru yn safle treth arbennig at ddibenion lwfansau cyfalaf a mynegodd bryder y gallai'r rhain fod yn wahanol i'r safleoedd hynny sydd wedi'u dynodi'n safleoedd treth arbennig gan Weinidogion Cymru a'r Senedd. Nododd yr ymatebydd, er mwyn osgoi dryswch, y dylai Awdurdod Cyllid Cymru nodi'n glir yn ei ganllawiau nad yw tir a brynir mewn ardal arbennig ddynodedig at ddibenion lwfansau cyfalaf yn esempt rhag y Dreth Trafodiadau Tir. Nododd hefyd, gan nad oes unrhyw oddefiant arfaethedig o 10% lle mae tir y tu allan i safle treth arbennig yn cael rhyddhad (fel sy'n digwydd yn achos rhyddhad rhag Treth Dir y Dreth Stamp), y bydd angen i'r mapiau fod yn ddigon manwl i ddangos union ffiniau'r safleoedd.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.4 Mae'r pryderon a godwyd wedi'u nodi. Fodd bynnag, mae creu'r Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn uchelgais ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU ac, felly, bydd proses o gytuno ar y cyd ar yr ardaloedd sydd i'w dynodi gan lywodraeth y DU. Diffinnir yr ardal y bydd rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir yn gymwys iddi drwy gyfeirio at reoliadau dynodi llywodraeth y DU a'r mapiau cysylltiedig, sy'n dynodi ardaloedd yng Nghymru yn safleoedd treth arbennig. Dylai'r mapiau a ddefnyddir yn rheoliadau dynodi llywodraeth y DU fod yn ddigon manwl i drethdalwyr allu nodi'n rhesymol dir yn y safle treth arbennig. Felly, ni ddylai pryder yr ymatebydd godi.

Tir Cymhwysol o fewn Safle Treth Arbennig

Crynodeb o'r ymatebion:

3.5 Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn cytuno bod y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn diffinio ystyr “tir cymhwysol o fewn safle treth arbennig” yn glir, gydag un ymatebydd yn nodi eu bod yn gyson, fwy neu lai, â'r darpariaethau cyfatebol ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp.

3.6 Cododd ymatebwyr nifer o bryderon ynghylch y cynnig mai dim ond mewn perthynas â'r tir sydd o fewn ardal y safle treth arbennig dynodedig y dylid hawlio rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir. Nododd un ymatebydd y gallai mabwysiadu polisi gwahanol i'r un sydd ar waith yn Lloegr beri dryswch i drethdalwyr o ran i ba raddau y bydd rhyddhad ar gael. Nododd hefyd y gallai'r cymhlethdod ychwanegol hwn rwystro buddsoddi.

3.7 Nododd un ymatebydd fod y rheoliadau drafft yn golygu, os oedd llai na 10% o gyfanswm y tir a gaffaelwyd yn dir cymhwysol, hyd yn oed os oedd mwy na 10% o'r tir a gaffaelwyd o fewn y safle treth at ddibenion cymhwyso, na ellid hawlio'r rhyddhad.

3.8 Nododd dau ymatebydd ei bod yn bosibl, mewn rhai achosion, nad yw'r mapiau na'r cynlluniau yn dangos yn glir ble yn union mae ffin y safle treth (er enghraifft, lle nad yw llinell y ffin yn dilyn nodwedd dopograffyddol amlwg). Felly, ystyriwyd bod cael rhywfaint o hyblygrwydd, drwy ddarparu bod y rhyddhad ar gael ar gyfer tir y tu allan i'r safle dynodedig (hyd at 10% yn y rhyddhad cyfatebol rhag Treth Dir y Dreth Stamp) yn rhesymol.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.9 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Fodd bynnag, ym marn Gweinidogion Cymru, nid yw'n briodol i ryddhad ar gyfer safle treth arbennig gael ei roi ar gyfer tir y tu allan i'r safle treth arbennig, yn enwedig pan nad oes angen i'r tir gyffinio â'r ardal ddynodedig. Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud diwygiadau i'r rheoliadau er mwyn sicrhau, os defnyddir 10% neu fwy o'r tir o fewn y safle treth at ddiben cymhwysol, y bydd yn gymwys i gael rhyddhad. At hynny, ystyrir bod y mapiau a ddarperir gyda'r rheoliadau dynodi yn ddigon manwl er mwyn i drethdalwyr allu gwneud dosraniad cyfiawn a rhesymol o'r gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer y tir o fewn y safle treth arbennig a'r tu allan iddo.

Modd cymhwysol

Crynodeb o'r ymatebion:

3.10 Nid oedd tri o'r ymatebwyr yn cytuno bod y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn gweithio o ran diffinio ystyr “modd cymhwysol”. Lleisiodd ymatebwyr nifer o bryderon, yr oedd y mwyafrif ohonynt yn ymwneud â threfniadau blaengyllido.

3.11 Roedd rhai ymatebwyr o'r farn y gallai gwrthod rhoi rhyddhad ar gyfer rhai o'r trafodiadau sy'n ymwneud â threfniant blaengyllido, atal buddsoddi, a hynny'n anfwriadol. Gallai hyn danseilio nod cyffredinol y polisi o hyrwyddo buddsoddi hirdymor.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.12 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiwn hwn. Nid yw'r sefyllfa o ran trefniadau blaengyllido yn unigryw i Gymru. Yn yr Alban a Lloegr, nid yw rhyddhad ar gyfer trafodiadau sy'n ymwneud â threfniadau blaengyllido ar gael. Mae'r mater hwn yn cael ei ystyried o hyd ac, os gellir datrys y pryderon ynghylch y trefniadau, mae'n bosibl y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried ceisio cymeradwyaeth y Senedd i wneud newidiadau dilynol i'r rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig.

Rhyddhad ar gyfer llety gofalwyr a staff diogelwch

Crynodeb o'r ymatebion:

3.13 Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno y dylid darparu rhyddhad ar gyfer llety gofalwyr a staff diogelwch yn y rhyddhad llawn a rhannol ar gyfer safleoedd treth arbennig.

3.14 Ym marn un ymatebydd, nid oedd y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn darparu ar gyfer rhyddhad ar gyfer llety gofalwyr a staff diogelwch fel y bwriadwyd. Roedd o'r farn y byddai'r rhyddhad yn cael ei roi pan fo'r llety gofalwyr/staff diogelwch y tu allan i'r safle treth arbennig. Y rheswm dros hyn yw bod y ddarpariaeth yn cyfeirio at unrhyw ran o gyfanswm y tir trafodiad yn hytrach na thir trafodiad sydd wedi'i leoli o fewn y safle treth arbennig. Mae'r ymatebydd hefyd yn gofyn a oes rhaid i'r llety gofalwyr/staff diogelwch, a'r safle y mae'r gofalwyr/staff diogelwch yn gyfrifol amdano, gael ei gaffael yn yr un trafodiad tir.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.15 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Mae Gweinidogion Cymru yn diolch i'r ymatebwyr am godi'r pryderon hyn. Fodd bynnag, maent o'r farn bod y ddeddfwriaeth eisoes yn rhoi'r darlleniad priodol ac nad yw'r rheoliadau fel y'u drafftiwyd yn rhoi'r canlyniadau a awgrymwyd.

Tir ategol a masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol

Crynodeb o'r ymatebion:

3.16 Roedd yr ymatebwyr yn cytuno bod y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn gweithio fel y bwriadwyd o ran diffinio ystyr “ategol” a gwneud rhywbeth “yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol”. Awgrymodd un ymatebydd y dylai tir ategol sydd y tu allan i safle treth arbennig fod yn gymwys i gael rhyddhad. At hynny, roedd un ymatebydd o'r farn y dylai'r diffiniad o fusnes rhentu eiddo fod yn gliriach.

3.17 Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno bod y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn darparu ar gyfer rhyddhad ar gyfer tir sy'n ategol i'r tir a ddefnyddir mewn modd cymhwysol.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.18 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cadw'r diffiniad o fusnes rhentu eiddo am ei fod yn cyfateb i'r diffiniad yn y ddeddfwriaeth ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp yn Lloegr ac ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn yr Alban. At hynny, ystyrir ei fod yn gweithio fel y bwriadwyd heb orfod gwneud unrhyw newidiadau iddo.

Diffiniad o ‘renti wedi eu heithrio’

Crynodeb o'r ymatebion:

3.19 Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn cytuno ei bod yn briodol peidio ag ymestyn y rhyddhad i gynnwys safleoedd carafanau. Cododd rhai ymatebwyr y mater mai dim ond petai'n cael ei redeg fel busnes, neu'n rhannol fel busnes, y byddai'r safle carafanau yn methu â hawlio rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig. Felly, ni fyddai incwm rhenti yn unig o safle carafanau yn arwain at drin y rhenti fel rhenti wedi'u heithrio.

3.20 O ran cynnwys incwm sy'n deillio o Ymddiriedolaethau Buddsoddi mewn Eiddo Tirol (REITs) fel rhenti wedi'u heithrio at ddibenion hawlio rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig, roedd sawl ymatebydd yn amau a ddylid eu cynnwys fel rhenti wedi'u heithrio at ddibenion rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig. Yn benodol, y gallai'r hawliau gael eu trin fel un o asedau busnes rhentu eiddo ac, yn ôl ei natur, nad yw'r incwm yn deillio o'r tir a gaffaelwyd ond drwy ddal y buddiannau yn yr Ymddiriedolaeth Buddsoddi mewn Eiddo Tirol.

3.21 Mewn perthynas â'r achos lle y daw incwm i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ystod proses dirwyn i ben, gwnaeth sawl ymatebydd y pwynt petai'r rheol ynglŷn â rhenti wedi'u heithrio ar gyfer rhyddhad ar safleoedd treth arbennig “yn cynnwys yn y diffiniad y ffaith y byddai diddymu partneriaeth [atebolrwydd] cyfyngedig sy'n dal tir trafodiad yn sbarduno proses adfachu gan na fyddai'r prynwr (y partneriaid [atebolrwydd] cyfyngedig) yn defnyddio'r tir fel ffynhonnell rhenti heb eu heithrio mwyach, gan waethygu'r problemau i'r bartneriaeth [atebolrwydd] cyfyngedig.”

3.22 Nododd un ymatebydd, er bod y driniaeth a amlinellir ar gyfer y rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir yn anfanteisiol o’i gymharu â deddfwriaeth Lloegr, na ragwelir y bydd ehangu'r diffiniad yn cael unrhyw effaith negyddol ar y broses o gyflwyno'r safleoedd arbennig.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.23 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Gan fod Gweinidogion Cymru o'r farn bod y risg y caiff safle carafanau ei sefydlu o fewn y safle treth arbennig heb fod gweithgarwch masnachu arall yn cael ei gynnal yn fach iawn, ni chaiff y rheoliadau eu diwygio i gynnwys y math arall hwn o safle carafanau, sy'n darparu diffiniad symlach.

3.24 Ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd, nid ystyrir mwyach ei bod yn briodol cynnwys incwm y difidend o REITs ac incwm sy'n deillio o fuddiant atebolrwydd cyfyngedig sy'n dirwyn i ben yn y diffiniad o renti wedi'u heithrio. Felly, ni chaiff y naill na'r llall eu cynnwys o fewn ystyr rhenti wedi'u heithrio at ddibenion rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer safleoedd treth arbennig.

Rhyddhad Llawn

Crynodeb o'r ymatebion:

3.25 Roedd y mwyafrif yn cytuno bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni’r diben a fwriadwyd. Nodwyd hefyd nad oedd angen unrhyw ddiwygiadau o reidrwydd, ond roedd un ymatebydd o'r farn bod rhyddhad llawn ar gael os yw'r tir i gyd o fewn safle treth dynodedig a bod 90% o'r gydnabyddiaeth i'w phriodoli i dir y mae'r prynwr yn bwriadu ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol. Cyfeirir at fwriad y polisi yng Nghwestiwn 3 a'r drafftio yng Nghwestiwn 4 hefyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.26 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Mae'r ymatebydd yn gywir ac mae rhyddhad ar gael ar gyfer yr holl gydnabyddiaeth a roddir am y tir o fewn y safle treth arbennig os yw o leiaf 90% o'r gydnabyddiaeth i'w phriodoli i dir y mae'r prynwr yn bwriadu ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol. Rhoddir rhyddhad rhag y gydnabyddiaeth lawn a roddir am y tir o fewn y safle treth arbennig drwy fecanwaith y rheolau ynglŷn â rhyddhad rhannol gan fod llai na 100% o'r gydnabyddiaeth a roddir yn gymwys i gael rhyddhad o dan y rheolau ynglŷn â rhyddhad llawn.

Rhyddhad Rhannol

Crynodeb o'r ymatebion:

3.27 Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno bod y bwriad i ddarparu rhyddhad rhannol yn cael ei gyflawni gan y ddeddfwriaeth ddrafft. Fodd bynnag, nododd un ymatebydd nad yw paragraffau 6, 7 nac 8 o'r rheoliadau drafft yn cyflawni bwriad y polisi fel y'i disgrifir yn y cwestiwn yn llwyr. Cyfeiriodd at y sefyllfa lle’r oedd trafodiad yn cynnwys cryn dipyn o dir y tu allan i'r safle treth arbennig ond lle defnyddiwyd y tir o fewn y safle treth arbennig mewn modd cymhwysol ond lle’r oedd yn cyfateb i lai na 10% o gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd. Mewn achos o'r fath, ni fyddai'r rhyddhad ar gyfer safle treth arbennig ar gael ar gyfer y gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer y tir o fewn y safle treth arbennig. Nododd un ymatebydd hefyd y bydd angen i'r rhai sy'n hawlio'r rhyddhad ddarparu tystiolaeth am y sail dros unrhyw ddosraniad cyfiawn a rhesymol ac y byddai'n ddefnyddiol deall pa fath o dystiolaeth y byddai Awdurdod Cyllid Cymru yn disgwyl ei gweld er mwyn cyfiawnhau dosraniadau o'r fath.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.28 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Mewn perthynas â senario rhyddhad rhannol lle mae llai na 10% o gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir am y trafodiad ar gyfer tir cymhwysol o fewn safle treth arbennig, mae Gweinidogion Cymru o'r farn, er ei bod yn annhebygol iawn y bydd y senario yn codi, y caiff y rheoliadau eu diwygio er mwyn darparu rhyddhad mewn senarios fel yr un a godwyd. Mae dosraniadau cyfiawn a rhesymol o dir a'r gydnabyddiaeth a roddir amdano yn seiliedig ar ffeithiau ac mae angen nifer o ddosraniadau eraill o'r fath eisoes yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ac mewn trethi eraill. Bydd angen dosraniadau o'r fath hefyd, o dan rai amgylchiadau, ar gyfer rhyddhadau rhag Treth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar gyfer safleoedd treth arbennig gan y bydd angen i drethdalwyr gadarnhau a yw'r gydnabyddiaeth am dir y tu allan i'r safle treth arbennig yn cyfateb i fwy neu lai na 10% o gyfanswm y gydnabyddiaeth er mwyn cadarnhau a yw'r rhyddhad llawn neu'r rhyddhad rhannol yn y cyfundrefnau hynny yn gymwys. Mater i Awdurdod Cyllid Cymru yw'r canllawiau a roddir, ond bydd yn ymdrin â'r mater hwn yn ei ganllawiau.

Trafodiadau tir sy'n cynnwys tir o fewn y safle treth dynodedig a'r tu allan iddo

Crynodeb o'r ymatebion:

3.29 Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno bod y darpariaethau fel y'u drafftiwyd yn cyflawni bwriad y polisi na chaiff tir y tu allan i'r safle treth arbennig unrhyw ryddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir. Fodd bynnag, nododd un ymatebydd fod hyn yn dibynnu ar nodi ardaloedd y safleoedd yn fanwl gywir. Cyfeiriodd dau ymatebydd hefyd at ymatebion cynharach a nododd y byddai cael rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer darnau bach o dir y tu allan i'r safle treth arbennig dynodedig yn helpu i sicrhau y gellid osgoi anghydfod rhwng Awdurdod Cyllid Cymru a threthdalwyr ynghylch yr ardal a ddynodwyd a'r tir a gaffaelwyd.

3.30 Nodwyd hefyd y byddai'n ddefnyddiol cynnwys yr enghreifftiau o sut y bydd y rhyddhad llawn a'r rhyddhad rhannol yn gweithio, a roddwyd yn yr ymgynghoriad, yng nghanllawiau Awdurdod Cyllid Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.31 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Nid yw Gweinidogion Cymru o'r farn, am y rhesymau a nodwyd uchod, ei bod yn briodol i ryddhad ar gyfer tir mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig gael ei roi ar gyfer eiddo a gaffaelir y tu allan i'r ardal ddaearyddol honno. Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod, yn achos rhai trafodiadau, y gallai hyn ofyn am ymdrech ychwanegol i nodi'r ardal y mae'r rhyddhad yn gymwys iddi, ond yr ystyrir ei fod yn codi oherwydd natur rhyddhad a ddiffinnir yn ôl lleoliad.

Trefniadau cyllid eiddo amgen

Crynodeb o'r ymatebion:

3.32 Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno bod y rheolau presennol ynglŷn â threfniadau cyllid amgen a thynnu'r rhyddhad yn ôl yn addas ar gyfer rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer safleoedd treth arbennig.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.33 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiwn hwn.

Hawlio'r Rhyddhad

Crynodeb o'r ymatebion:

3.34 Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn cytuno bod y darpariaethau yn cyflawni bwriad y polisi ac y byddant yn galluogi trethdalwyr i hawlio rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig. Fodd bynnag, nododd un ymatebydd ei bod yn bwysig sicrhau bod y rhyddhad yn cyflawni ei amcanion am gost briodol a bod unrhyw feichiau gweinyddol yn cael eu lleihau cymaint â phosibl. Nododd ymatebydd arall hefyd fod adran 61A(5)(a) o Ddeddf Cyllid 2003 yn sicrhau bod rhaid i'r rhyddhad cyfatebol rhag Treth Dir y Dreth Stamp gael ei hawlio o fewn cyfnod o flwyddyn a 14 diwrnod sy'n dechrau gyda diwedd dyddiad machlud cymwys y safle treth arbennig perthnasol.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.35 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r sylwadau a wnaed. Mae Gweinidogion Cymru am sicrhau bod gan drethdalwyr yr hawl i hawlio rhyddhad lle y bo'n briodol. Bydd y rheol ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp yn golygu na fydd y trethdalwyr hynny nad ydynt yn anfon eu ffurflen (neu unrhyw ddiwygiad i'w ffurflen) o fewn y terfynau amser statudol ar gyfer cyflwyno'r ffurflen, yn gallu hawlio'r rhyddhad. Ar hyn o bryd, nid yw rheoliadau drafft y Dreth Trafodiadau Tir yn darparu terfyn amser o'r fath ac, felly, gall ffurflenni a gyflwynir yn hwyr hawlio'r rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig (fel sy'n wir yn achos rhyddhadau eraill a ddarperir yn y Dreth Trafodiadau Tir). Mae'n annhebygol iawn y caiff niferoedd mawr o ffurflenni sy'n ymwneud â thrafodiadau o fewn y safleoedd treth arbennig eu dychwelyd yn hwyr. Felly, bydd y rheolau sy'n ymwneud ag amseriad hawliadau sy'n gymwys i ryddhadau eraill hefyd yn gymwys i'r rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig.

Gwaredu cyfran sylweddol o'r buddiant economaidd mewn tir cymhwysol o fewn safle treth arbennig yn ystod y cyfnod rheoli

Crynodeb o'r ymatebion:

3.36 Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynnig y dylai'r rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer safleoedd treth arbennig ddarparu i'r rheolau ynglŷn â thynnu'n ôl beidio â bod yn gymwys pan fydd y person sydd wedi hawlio rhyddhad wedi gwaredu cyfran sylweddol o'i fuddiant economaidd yn y tir a brynwyd yn y trafodiad yn ystod y cyfnod rheoli. Roeddent yn cytuno y byddai rheol o'r fath yn helpu i symleiddio'r rhwymedigaethau a osodir ar drethdalwyr a bod y gwerth marchnadol o £40,000 yn ffigur rhesymol i gyflawni symleiddio o'r fath.

3.37 Cymysg fu'r ymateb ynghylch a fyddai unrhyw gyfleoedd osgoi yn cael eu creu drwy ddarparu'r rheol hon, gydag ymatebwyr yn nodi eu bod heb benderfynu neu nad oeddent yn credu y bydd unrhyw gyfleoedd osgoi yn cael eu creu. Pan oedd ymatebwyr heb benderfynu, gwnaethant gydnabod ei bod yn annhebygol y caiff unrhyw gyfleoedd osgoi eu creu. Serch hynny, nododd un ymatebydd ei bod yn debygol y bydd gan berson â les am rent y farchnad, fuddiant mewn tir â gwerth nominal ac, felly, y gallai ymddangos mai caffael les o'r fath yw'r ‘trafodiad terfynol’ ar ei ran ac, felly, na fyddai'n bosibl tynnu'n ôl o'r rhyddhad yn ystod y cyfnod rheoli.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.38 Mae Llywodraeth Cymru yn falch bod y bwriad i symleiddio'r rheolau ynglŷn â thynnu'n ôl pan fydd prynwr wedi gwaredu cyfran sylweddol o'i fuddiant yn yr eiddo (er enghraifft os bydd wedi rhoi les hir iawn ond ei fod wedi cadw'r buddiant rhydd-ddaliadol) wedi'i groesawu. Ym marn Gweinidogion Cymru, ni all trafodiad caffael fod yn drafodiad terfynol hefyd at ddibenion y rheolau ynglŷn â thynnu'n ôl am fod y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r cyfnod rheoli yn rhag-weld o leiaf ddau drafodiad; un trafodiad i gaffael ac un i waredu. Felly, ni all trafodiad caffael ar ei ben ei hun fod yn drafodiad caffael ac yn drafodiad terfynol. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn yn gliriach, mae diwygiad wedi'i wneud i'r ddeddfwriaeth ddrafft sy'n cyflwyno'r cysyniad o ‘drafodiad a gafodd ryddhad’ er mwyn helpu i nodi'r trafodiad y mae'r rhyddhad wedi'i hawlio ar ei gyfer.

Achosion pan fo aseinio les yn cael ei drin fel rhoi les

Crynodeb o'r ymatebion:

3.39 Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno y dylai aseinio les gael ei drin fel rhoi les pan na fydd treth wedi'i chodi ar yr elfen rhent oherwydd hawliadau blaenorol am ryddhad, ond na all y prynwr newydd hawlio rhyddhad, er enghraifft os bydd y cyfnod y mae ar gael wedi mynd heibio. Bydd hyn yn golygu bod y rheolau ynglŷn â rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig yn gymwys fel y maent yn gymwys i achosion eraill o hawlio rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ac aseinio lesoedd. Roedd yr ymatebwyr hefyd o'r farn bod y rheoliadau drafft yn cyflawni'r canlyniad a fwriadwyd.

3.40 Nid oedd dau ymatebydd yn cytuno a gwnaethant sawl pwynt i ategu eu safbwynt. Nododd un ymatebydd nad yw'r rhyddhad yn seiliedig ar nodweddion yr aseiniwr na'r aseinî ond ar nodweddion y tir ei hun a'r diben y defnyddir y tir ar ei gyfer. Hyd nes i'r dyddiad machlud fynd heibio, byddai'r aseinî yn gallu hawlio rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig ar gyfer y les a aseiniwyd, yn ôl pob tebyg. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn annhebygol y byddai'r defnydd o eiddo ar les, yn ymarferol, yn newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn (er enghraifft o ddefnydd masnachol i ddefnydd preswyl) oherwydd byddai angen cytuno ar hyn â'r landlord, mae'n debygol y byddai angen cael caniatâd yr awdurdod lleol a byddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r les gael ei diwygio (gyda Threth Trafodiadau Tir yn daladwy ar y diwygiad, o bosibl). Ar ôl y dyddiad machlud, nid yw'n bosibl i'r tir feddu ar y nodweddion cymhwysol hynny, ni waeth pa ddefnydd a wneir ohono. Felly, hyd yn oed petai'r tir yn parhau i gael ei ddefnyddio at ddiben cymhwysol, byddai tâl y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei adfer, i bob pwrpas, ar gyfer yr aseinî ond petai'r aseiniwyr wedi parhau i fod yn berchen ar y les ar ôl y dyddiad machlud, ni fyddai'r tâl yn cael ei adfer.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.41 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn. Er bod Gweinidogion Cymru yn cydnabod y bydd yn ofynnol i berson y mae les yn cael ei haseinio iddo ar ôl y cyfnod y mae rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig ar gael, dalu Treth Trafodiadau Tir ar y rhenti hyd yn oed pan fu'r rhenti yn destun hawliad am ryddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig yn flaenorol, mae Gweinidogion Cymru o'r farn mai dyna'r canlyniad cywir. Pan na fydd y rhyddhad ar gael i drethdalwyr mwyach, ystyrir ei bod yn briodol bod trethdalwyr y mae les yn cael ei haseinio iddynt, os na chodwyd tâl ar y rhenti yn flaenorol, yn talu treth ar y rhenti fel sy'n digwydd ar gyfer sefyllfaoedd eraill lle y caiff les ei haseinio, ac na ddylai rhyddhad fod ar gael i'r aseinî. Yn benodol, ymddengys na fyddai'n ganlyniad cywir petai trethdalwyr yn cael budd o ryddhad a roddwyd i berson gwahanol flynyddoedd lawer ar ôl y dyddiad pan nad yw'r rhyddhad ar gael mwyach.

Ystyriaethau o ran y Gymraeg

Crynodeb o'r ymatebion:

3.42 Nid atebodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr gwestiwn 24 na chwestiwn 25 am eu bod yn teimlo eu bod y tu hwnt i faes eu harbenigedd. Fodd bynnag, roedd un ymatebydd o'r farn y bydd y fersiynau Cymraeg o'r diwygiadau hyn yn hyrwyddo ymdeimlad o falchder a hunaniaeth ddiwylliannol ymhlith dinasyddion Cymru.

Ym marn y ddau ymatebydd a atebodd gwestiwn 25, nid oedd angen diwygio'r ddeddfwriaeth:

  • i gael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg nac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • nac i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg nac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.43 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiynau hyn.

General considerations

Crynodeb o'r ymatebion:

3.44 Awgrymwyd, os bydd y tir cymhwysol yn peidio â chael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig yn ystod y cyfnod rheoli, fod y drafft presennol o baragraff 10 o'r Atodlen ddrafft yn rhag-weld y caiff y rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig ei dynnu'n ôl yn llwyr. Gan fod rhyddhad rhannol ar gael pan gaffaelir y tir, awgrymodd yr ymatebydd y dylid darparu rheol ynglŷn â thynnu rhyddhad yn ôl yn rhannol.

3.45 Cynigiwyd hefyd y dylid rhoi eglurder ynglŷn â pharagraff 12 o'r Atodlen ddrafft oherwydd, os bydd y prynwr yn trosglwyddo'r tir cymhwysol i berson cysylltiedig ac na fydd yn cadw unrhyw fuddiant yn y tir cymhwysol hwnnw wedyn, na fydd y ddarpariaeth ar gyfer tynnu'n ôl yn gymwys mwyach.

3.46 Nododd un ymatebydd, er ei fod o blaid defnyddio diffiniadau presennol Senedd y DU o safbwynt symleiddio, fod ganddo rai amheuon ynghylch eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth ynglŷn â'r Dreth Trafodiadau Tir drwy gyfeirio at ddarpariaeth statudol y DU yn lle cynnwys y testun llawn a fabwysiadwyd.

3.47 Roedd un ymatebydd o'r farn bod y diwygiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gynhwysfawr a'u bod yn cyflawni pob un o'r canlyniadau a fwriadwyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

3.48 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymatebion i'r cwestiwn hwn. Fel yn achos y trethi trafodiadau tir eraill yn y DU, mae Gweinidogion Cymru am gadw'r rheol ynglŷn â thynnu rhyddhad yn ôl yn llwyr er mwyn sicrhau y dechreuir defnyddio tir a gaffaelwyd y caiff rhyddhad ei hawlio amdano, yn llawn ac yn gyflym er mwyn cynyddu gweithgarwch cyflogaeth a busnes o fewn y safle treth arbennig dynodedig. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn rhoi canllawiau ar y ffordd y caiff y rheolau eu cymhwyso, gan gynnwys rhoi enghreifftiau lle y caiff y rheolau ynglŷn â thynnu rhyddhad yn ôl eu sbarduno.

3.49 Mae Deddfau Trethi Cymru eisoes yn cynnwys cryn nifer o groesgyfeiriadau at ddeddfwriaeth trethi arall yn y DU. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod defnyddio croesgyfeiriadau o dan yr amgylchiadau hyn yn dderbyniol. Byddai ailddatgan y diffiniadau yn gofyn am nifer mawr o ddarpariaethau, a fyddai'n anghymesur gan nad yw'r termau hyn yn allweddol i ddeall sut mae'r rhyddhad yn gweithio. Mae hefyd yn sicrhau y caiff unrhyw newidiadau i ddiffiniadau yn Neddfau'r DU yn y dyfodol eu nodi. Mae Deddfau Trethi Cymru eisoes yn cynnwys cryn nifer o groesgyfeiriadau at ddeddfwriaeth trethi arall yn y DU.

4.0 Y camau nesaf

4.1 Mae pob un o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wedi cael eu dadansoddi a'u hystyried, ac maent wedi helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r newidiadau arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ymhellach.

Manylion yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad

Mae'r tabl canlynol yn nodi nifer yr ymatebwyr o bob un o'r categorïau a bennwyd ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.

Categori’r ymatebyddNifer yr ymatebwyr
Busnes1
Awdurdod Lleol 
Cynghorydd Awdurdod Lleol sy'n ymateb fel unigolyn 
Asiantaeth Llywodraeth / Corff Sector Cyhoeddus Arall (gan gynnwys Cynghorau Cymuned / Tref)1
Corff Proffesiynol / Grŵp â Buddiant2
Y sector gwirfoddol (grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, grwpiau hunangymorth, cydweithfeydd, mentrau, grwpiau crefyddol, sefydliadau nid-er-elw) 
Grwpiau eraill nas rhestrir uchod 
Ymateb yn breifat1