Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn cynnig cyfle i fanteisio ar botensial economaidd helaeth Cymru.

Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i lunio model porthladdoedd rhydd Cymru, er mwyn cyflawni tri phrif amcan, sef:

  1. Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel
  2. Sefydlu'r Porthladdoedd Rhydd fel canolfannau cenedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang ar draws yr economi
  3. Meithrin amgylchedd arloesol

Bydd busnesau yn elwa o fod yn rhan o barth arbennig. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithdrefnau tollau symlach
  • rhyddhad ar dollau tramor
  • buddion treth

Mae'r Rhaglen yn cynnwys polisïau ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod gweithwyr:

  • yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli
  • yn gallu camu ymlaen mewn amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol, a
  • bod eu hawliau'n cael eu parchu

Ar 23 Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod ceisiadau Porthladd Rhydd Ynys Môn a Phorthladd Rhydd Celtaidd i sefydlu Porthladdoedd Rhydd wedi bod yn llwyddiannus.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r darpar borthladdoedd rhydd er mwyn sicrhau:

  • eu bod yn cael effaith gadarnhaol; 
  • y gallant ddechrau gweithredu cyn gynted â phosibl.

Bydd y ffactorau canlynol yn effeithio ar y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru:

  • heriau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd (Dr A Netherwood (2021) Evidence for the third UK Climate Change Risk Assessment (CCRA3)) a'r angen dybryd i newid i economi carbon isel er mwyn sicrhau ffyniant yn y dyfodol.
  • risgiau i'n hamgylchedd naturiol (State of Nature Partnership (2023) State of Nature) a'r cyfle i warchod bioamrywiaeth er mwyn sicrhau cadernid ecolegol Cymru
  • anghydraddoldebau hirsefydlog mewn rhai daearyddiaethau a chymunedau (Llywodraeth Cymru (2021) Gweithredu'r Ddyletswydd  Economaidd-gymdeithasol – Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd_gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau) y gellir mynd i'r afael â nhw drwy brif ffrydio cydraddoldeb a thegwch mewn polisïau a phrosesau cyflawni, gan gynnwys rhoi ystyriaeth benodol i'r cyfle i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol a geir ar hyn o bryd yn ardaloedd y Porthladdoedd Rhydd.
  • cyd-destun ehangach y galw mawr am wasanaethau iechyd (Cydffederasiwn y GIG (2023) Briefing: Current challenges facing the health and social care system in Wales) a'r angen i ddatblygu mentrau sgiliau a chyflogaeth i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd er mwyn gwella disgwyliad oes iach (Y Sefydliad Iechyd (2018) Relationship between employment and health)
  • diwylliant Cymru a'r Gymraeg y mae'n rhaid eu diogelu a'u hyrwyddo (Llywodraeth Cymru (2023) Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Papur Safbwynt) drwy ymgysylltu'n helaeth â chymunedau lleol
  • Dyletswydd Llywodraeth Cymru i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Gymru sefydlu ei hun fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae porthladdoedd rhydd yn rhan o bolisi ehangach Llywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael â gorddibyniaeth ar danwyddau ffosil drwy gefnogi'r newid i ddulliau glanach o gynhyrchu ynni (Llywodraeth Cymru (2021) Cymru Sero Net).  Mae Cymru Sero Net yn nodi, “Byddwn hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n darparu seilwaith porthladdoedd cynaliadwy ac yn sicrhau bod gwaith gyda Grŵp Porthladdoedd Cymru a phartneriaid eraill ar Strategaeth Porthladdoedd Cymru a Morol i Gymru yn cyd-fynd â'n targedau sero net. Gan edrych y tu hwnt i gwmpas y bennod hon, byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd i gefnogi'r nod ehangach o ddatgarboneiddio economi Cymru megis cynhyrchu ynni adnewydiadwy ar y môr”.

Caiff y newid hwn ei ategu gan system gynllunio a system reoleiddio amgylcheddol Cymru a fydd yn gwarchod ac yn gwella ein bioamrywiaeth drwy leihau gwastraff, y defnydd o adnoddau ac allyriadau ac, ar yr un pryd, gwella ansawdd aer a dŵr. 

Bydd y cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau yn y Porthladdoedd Rhydd yn codi safonau byw a fydd, yn ei dro, yn helpu i fynd i'r afael ag iechyd gwael sy'n gyffredin mewn llawer o ardaloedd (Y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (2023) Freeports: What are they? What do we know? And what will we know?).

Mae problemau economaidd a chymdeithasol sylfaenol yn ardaloedd Porthladdedd Rhydd yn sylweddol ar gyfer grwpiau neu gymdeithasol sydd eisoes o dan anfantais (Dr Sara MacBride-Stewart & Dr Alison Parken (2021) Anghydraddoldeb yng Nghymru’r Dyfodol: Meysydd i weithredu arnynt mewn gwaith, hinsawdd a newid demograffig).  Bydd ffocws Porthladdoedd Rhydd ar gydraddoldeb a thegwch yn helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn.

Caiff cydlyniant cymunedol ei wella hefyd yn ardaloedd Porthladdoedd Rhydd, yn enwedig y rhai â hunaniaeth Gymraeg gref lle y gall y cyfleoedd a gynigir gan Borthladdoedd Rhydd gael effaith gadarnhaol. 

Drwy sicrhau manteision lluosog bydd Porthladdoedd Rhydd yn cyfrannu at lawer o agendâu polisi Llywodraeth Cymru:

  • Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach
  • Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Allforio
  • Strategaeth Arloesi i Gymru
  • Strategaeth Ryngwladol
  • Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net:  cynllun Cymru gyfan
  • Cymru'r Dyfodol, Y Cynllun Cenedlaethol 2040
  • Polisi Cynllunio Cymru
  • Strategaeth Drafnidiaeth Cymru
  • Canllaw i waith teg
  • Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net
  • Strategaeth Cymraeg 2050 

Rhaid i Borthladdoedd Rhydd ymgorffori gwerthoedd Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a gwneud cyfraniad cadarnhaol at y saith nod a nodir yn y Ddeddf. Mae adran 2.1.3 o'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio(Llywodraeth Cymru / yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (2022) Y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio) yn nodi, ‘Anogir ymgeisydd ar gyfer Porthladd Rhydd i ddangos, drwy gydol ei gynnig, ei ymrwymiad i gefnogi Cymru i ddod yn genedl fwy cynaliadwy trwy wella lles cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru, ac yn benodol sut mae wedi cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy a luniwyd i gynyddu’r cyfraniad at gyflawni pob un o’r nodau llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hyd yr eithaf.’

Mae'r broses o ffurfio a chyflwyno Porthladdoedd Rhydd yn un gydweithredol.  Yn genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn datblygu polisi, yn ariannu, yn arwain ac yn monitro ac yn gwerthuso.  Yn rhanbarthol ac yn lleol, mae sefydlu Porthladdoedd Rhydd a'u gweithredu'n effeithiol yn dibynnu ar y dull partneriaeth gymdeithasol o weithio sy'n cynnwys llywodraeth leol, y trydydd sector, busnesau, gweithwyr a chymunedau lleol. 

Rhaid i gynigion ar gyfer Porthladdoedd Rhydd ddangos bod cefnogaeth gymunedol gref er mwyn cael cymorth gan y llywodraeth a rhaid cynnal y gefnogaeth hon drwy strategaethau ymgysylltu.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yr angen i feithrin gallu mewn cymunedau arfordirol yn elfen allweddol o raglen waith ehangach Adferiad Glas. Mae hyn wedi codi mewn ymateb i'r gwahanol heriau y mae cymunedau arfordirol ledled Cymru wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Ymadawiad y DU o'r UE, effaith cyfyngiadau Covid-19 ac effeithiau parhaus yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur; yn ogystal ag ymateb i ymyleiddio hirdymor a dirywiad mewn rhai ardaloedd arfordirol. 

Bu'r dadleuon o blaid ac yn erbyn Porthladdoedd Rhydd yn destun cryn dipyn o waith ymchwil (UK in a Changing Europe (2021) Freeports, D Webb ac I Jozepar (2023) Government Policy on Freeports, Ymchwil y Senedd (2021) Porthladdoedd rhydd yng Nghymru: cyfle neu risg?).  I grynhoi, mae'r dadleuon o blaid Porthladdoedd Rhydd fel a ganlyn:

  • maent yn sbarduno twf economaidd drwy ddenu busnesau, creu swyddi a chynyddu buddsoddiad yn yr ardaloedd dynodedig.
    • gallant arwain at greu swyddi mewn ffyrdd uniongyrchol ac anuniongyrchol, wrth i gwmnïau sefydlu gweithrediadau a chyflogi gweithwyr lleol.
    • gallent ddenu buddsoddiad tramor drwy gynnig cymhellion treth ac amgylchedd rheoleiddiol ffafriol, gan roi hwb i'r economi
    • gallant symleiddio a chyflymu prosesau masnach ryngwladol, gan leihau gwaith papur a biwrocratiaeth ac, felly, wella effeithlonrwydd masnach.
    • maent yn arwain at fuddsoddi mewn seilwaith mewn Porthladdoedd Rhydd a all wella cludiant, logisteg a chysylltedd, gan ddod â manteision i ranbarth cyfan.
    • gallant feithrin arloesedd ac annog busnesau i fabwysiadu uwch dechnolegau wrth iddynt geisio cael mantais gystadleuol. 

Mae'r dadleuon yn erbyn Porthladdoedd Rhydd fel a ganlyn:

  • gallant eu defnyddio i efadu treth, gwyngalchu arian a smyglo, sy'n ei gwneud yn anodd i lywodraethau gasglu refeniw a gorfodi rheoliadau.
    • maent o fudd i gorfforaethau mawr a'r rhai cyfoethog yn bennaf, gan waethygu anghydraddoldeb incwm a gadael gweithwyr lleol mewn swyddi â chyflog isel.
    • gallant achosi dirywiad amgylcheddol gan fod rheoliadau llac yn gallu arwain at lygredd a defnydd anghynaliadwy o adnoddau.
    • gallant ystumio cystadleuaeth drwy roi mantais annheg i fusnesau sydd wedi'u lleoli y tu mewn iddynt, a allai niweidio cystadleuwyr o'r tu allan i'r parthau hyn.
    • maent yn peri i Lywodraethau golli refeniw treth gan fusnesau sy'n gweithredu mewn Porthladdoedd Rhydd, a allai effeithio ar gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith
    • maent yn arwain at ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd a all eu gwneud yn agored i lygredd a gweithgareddau anghyfreithlon.
    • gallant ddenu gweithgarwch economaidd i ffwrdd oddi wrth ranbarthau presennol, gan greu anghydbwysedd rhanbarthol.
    • maent yn arwain at drefniadau gweinyddu a rheoleiddio cymhleth, sy'n gofyn am gryn adnoddau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ac atal camddefnydd.

Ystyriwyd y dadleuon hyn yn fanwl mewn trafodaethau rhwng swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae'r anfanteision posibl wedi'u lliniaru gan bolisi'r llywodraeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i Borthladdoedd Rhydd wneud y canlynol:

  • dilyn mesurau i leihau'r risg o efadu treth neu weithgarwch troseddol arall ar y safleoedd treth
  • cynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, llunio Cynlluniau Gwaith Teg neu ymgysylltu â gweithwyr ac undebau llafur gan gynnwys drwy Fforwm Ymgynghorol Gweithwyr 
  • cyrraedd yr un safonau amgylcheddol â phob adran arall
  • buddsoddi refeniw treth mewn seilwaith
  • monitro a gwerthuso gweithgarwch a chyhoeddi adroddiadau arno
  • gweithio'n agos gyda mentrau datblygu economaidd rhanbarthol ehangach megis Bargeinion Dinesig a Thwf

Mae Porthladdoedd Rhydd yn cael cyllid gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys:

  • cyllid refeniw i dalu costau sefydlu trefniadau llywodraethu a llunio achosion busnes; 
  • refeniw sbarduno ar gyfer crynhoi tir, adfer safle a seilwaith trafnidiaeth mewnol ar raddfa fach i gysylltu safleoedd yn y Porthladd Rhydd â'i gilydd, yr ardal gyfagos neu asesiadau economaidd eraill 

Disgwylir i Borthladdoedd Rhydd ddarparu arian cyfatebol neu rannol-gyfatebol i gyllid Llywodraeth y DU, gyda'r arian hwnnw'n dod o fuddsoddiad y sector preifat, benthyca gan awdurdodau lleol a threfniadau cyd-ariannu gyda chyrff cyhoeddus eraill lle y bo'n berthnasol.  Yn benodol, disgwylir i awdurdodau lleol ddefnyddio cynnydd mewn ardrethi annomestig i dalu costau benthyca ar gyfer seilwaith (lle y bo'n berthnasol); ailfuddsoddi yn safleoedd treth y Porthladdoedd Rhydd er mwyn ysgogi twf pellach; neu wrthbwyso effeithiau disgwyliedig adleoli gweithgarwch economaidd lleol o ardaloedd difreintiedig. 

Bydd angen rhywfaint o ddeddfwriaeth Gymreig ar gyfer Porthladdoedd Rhydd gan gynnwys diwygiadau deddfwriaethol i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Bydd y diwygiadau yn darparu rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau tir cymhwysol o fewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru am gyfnod penodol. Bydd hyn yn cynnwys trafodiadau cymhwysol ym Mhorthladdoedd Rhydd Cymru.  Caiff Asesiad Effaith Rheoleiddiol ei gwblhau ar gyfer hyn a'i gyhoeddi pan osodir y ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru.

Casgliad

Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?

Roedd y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn cynnwys rhannau gwahanol o Gymru yn gwneud cais i sefydlu Porthladd Rhydd.  Roedd y brosbectws ymgeisio yn gofyn bod yr ymgeisydd yn ymgysylltu â chymunedau lleol a phartneriaid, gan gynnwys:

  • perchnogion tir;
  • busnesau;
  • gwleidyddion lleol;
  • cynghorau tref;
  • colegau a phrifysgolion; 
  • cyrff cyhoeddus eraill.

Cafodd y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a wnaed ar gyfer y ceisiadau ei arfarnu gan Lywodraeth Cymu a Llywodraeth y DU.

Roedd y diwygiadau deddfwriaethol i'r Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn destun ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos ac ymarfer ymysylltu, a ddechreuodd ar 19 Rhagfyr 2023 ac a ddaeth i ben ar 18 Chwefror 2024. Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori, a oedd yn cynnwys yr Offeryn Statudol drafft, ar dudalennau'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru. Roedd ymatebwyr yn gallu cyflwyno eu barn a'u sylwadau. Yn ystod yr ymgynghoriad, cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o Borthladd Rhydd Ynys Môn a Phorthladd Rhydd Celtaidd ac arbenigwyr treth, er mwyn trafod y diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig

Pa effeithiau, yn gadarnhaol ac yn negyddol, fu'r rhai mwyaf arwyddocaol?

Hyrwyddo cydraddoldeb 

Bydd Porthladdoedd Rhydd Cymru o fudd uniongyrchol i unigolion o oedran gweithio a fydd yn cael cyfle i ymgymryd â'r swyddi newydd y disgwylir i Borthladdoedd Rhydd eu creu. Bydd egwyddorion gwaith teg yn sicrhau bod y swyddi newydd yn deg ac yn ddiogel, gan helpu i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol yn y poblogaethau lleol 

Bydd achosion busnes y Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn datblygu llwybrau at y gwaith newydd i bobl leol. Disgwylir i'r llwybrau hynny ddarparu i bawb sydd â nodweddion gwarchodedig gael yr un cyfle i ymgymryd â swyddi yn y gyflogaeth newydd drwy ddileu rhwystrau i gyfranogi. 

Dros amser, disgwylir i ddwy ardal y Porthladdoedd Rhydd sicrhau masnach a buddsoddiad gwerth £11 biliwn i Gymru a disgwylir i Borthladd Rhydd Celtaidd sicrhau manteision economaidd pellach sylweddol o ganlyniad i gyflwyno ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Byddai hyn yn effeithio ar yr economi ehangach ac, felly, byddai pawb sydd â nodweddion gwarchodedig ac sydd wedi'u dosbarthu i'r grwpiau economaidd-gymdeithasol is ar hyn o bryd, yn elwa. 

Mae'n ofynnol i Borthladdoedd Rhydd Cymru roi trefniadau llywodraethu ar waith sy'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, sgiliau a phrofiad, rhywedd, anabledd ac ethnigrwyd, er mwyn adlewyrchu natur yr amgylchedd lle y byddai'r Porthladd Rhydd yn gweithredu a chânt eu gwneud yng nghyd-destun y sgiliau, y wybodaeth, y profiad, y cefndir a'r annibyniaeth sydd eu hangen er mwyn i unrhyw strwythur llywodraethu allu sicrhau y caiff y Porthladoedd Rhydd yn rhoi ar waith yn effeithiol. Bydd fforymau ymgynghorol gweithwyr yn galluogi cynrychiolwyr undebau llafur i gymryd rhan er mwyn darparu mecanwaith i sicrhau ymhellach fod rhwystrau i gymryd rhan yn cael eu dileu a bod pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig yn cael yr un cyfle.

Bydd y Rhaglen Porthladdoedd yng Nghymru yn helpu i hyrwyddo adfywio mewn economïau a chymunedau lleol drwy ysgogi twf cynhwysol a chynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. 

Drwy ddwyn ynghyd sefydliadau lleol sy'n ceisio cyflawni nodau adfywio tebyg, gall cyfuno adnoddau a chreu amcanion a rennir gynnig y ffordd orau o gyflawni canlyniadau sy'n wirioneddol drawsnewidiol ar draws cymunedau. 

Bydd y Porthladdoedd Rhydd hefyd yn cefnogi gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn helpu i gyflawni'r targedau ar gyfer carbon sero net. Bydd twf economaidd gwyrdd yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau strwythurol tlodi ac amddifadedd yn yr economïau lleol a rhanbarthol gan ysgogi cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu sgiliau a chymwysterau poblogaethau preswyl. Fel rhan o'r achosion busnes terfynol, gwneir gwaith datblygu er mwyn sefydlu llwybrau clir at waith i bobl leol a busnesau lleol. Caiff y rhain eu llunio mewn ffordd sy'n dileu rhwystrau i gymryd rhan a bydd yn sicrhau bod gan bobl o grwpiau gwahanol yr un cyfle i fanteisio ar y swyddi newydd y disgwylir i'r Porthladdoedd Rhydd eu creu.

Cydlyniant cymunedol a threchu tlodi

Bydd y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn cymell busnesau preifat i fuddsoddi mewn cyfleoedd newydd yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â'r gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a sicrhau ein bod yn datgarboneiddio cymaint â phosibl. Bydd y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn adeiladu ar gryfderau lleol presennol ac yn gwneud dinasoedd, trefi a phentrefi sydd o fewn pellter teithio i'r Porthladdoedd Rhydd yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt. 

Gallai dwyn ynghyd sefydliadau lleol yn ardaloedd y Porthladdoedd Rhydd sy'n ceisio cyflawni nodau adfywio tebyg, yn cyfuno adnoddau ac yn creu amcanion a rennir, gyflawni canlyniadau sy'n wirioneddol drawsnewidiol ar draws cymunedau. 

Bydd rhai ardaloedd sy'n agos at y Porthladdoedd Rhydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig (10%) yng Nghymru. Gallai twf economaidd cynhwysol drawsnewid y cymunedau hyn a mynd i'r afael  ag achosion sylfaenol tlodi ac anfantais y mae pobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Dylai'r ymrwymiad i Waith Teg a chynaliadwyedd sicrhau y bydd swyddi newydd yn deg ac yn ddiogel.

Y Gymraeg

Gall prinder cyfleoedd gwaith lleol mewn cymunedau â lefelau uchel o siaradwyr Cymraeg arwain at allfudo, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.  Gall hyn leihau'r defnydd o'r iaith yn y cymunedau hyn.  Felly, gallai hybu amodau economaidd lleol yn ardaloedd y Porthladdoedd Rhydd sydd â chrynodiadau uchel o siaradwyr Cymraeg gyfrannu at ddiogelu'r Gymraeg drwy ddarparu mwy o swyddi, yn arbennig i bobl ifanc.

Bioamrywiaeth a Sero Net

Mae safleoedd cynhyrchu ynni presennol yn ardaloedd y Porthladdoedd Rhydd – yn enwedig yn Ne Cymru – yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, gan gynnwys o sŵn ac allyriadau CO2. Bydd cyfeirio gweithgarwch yn yr ardaloedd hyn tuag at ynni gwyrdd yn lleihau'r effaith hon, yn ogystal â helpu'r DU i bontio i economi carbon is yn y dyfodol. Mae'r gwaith o sefydlu a datblygu'r Porthladdoedd Rhydd yn cael ei lywio a'i fonitro gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau y gellir lliniaru unrhyw effeithiau ar fioamrywiaeth a gwella bioamrywiaeth. 

Bydd arwain y broses o bontio i sero net yn flaenoriaeth i ddau Borthladd Rhydd Cymru. Yn y bôn, os na fyddant yn trawsnewid eu heconomi i ynni adnewyddadwy ar raddfa sy'n debyg i'r economi bresennol sy'n defnyddio tanwyddau ffosil ac sy'n fwy na hynny, mae risg y bydd safonau byw yn gostwng ac amddifadedd yn cynyddu yn ardaloedd Ynys Môn, Port Talbot ac Aberdaugleddau/Doc Penfro. 

Mae mynd i'r afael â datgarboneiddio yn allweddol er mwyn sicrhau y gall y DU gyflawni ei tharged sero net ar gyfer 2050. Mae'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a gynigir drwy drawsnewid i ynni adnewyddadwy. Gallai'r ddau Borthladd Rhydd fod yn gyrff ynni adnewyddadwy o'r radd flaenaf.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Hirdymor

Nod y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yw hyrwyddo adfywio mewn economïau a chymunedau lleol drwy ysgogi twf cynhwysol a chynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Nod Porthladdoedd Rhydd Cymru yw cefnogi cenhadaeth Llywodraeth Cymru i greu economi ffyniannus, wyrdd a chyfartal ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol. Bydd y Porthladdoedd Rhydd yn ceisio gwella gallu Cymru i ddenu buddsoddiad a busnesau newydd ymhellach, gan ddod â thwf a ffyniant i rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. 

Bydd y Rhaglen Porthladdoedd hefyd yn ceisio helpu Cymru i fod yn wlad fwy cynaliadwy drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru, gan ddefnyddio'n benodol yr egwyddor datblygu cynaliadwy y bwriedir iddi sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl a chyflawni pob un o'r nodau llesiant fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Bydd y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yn darparu mynediad at amrywiaeth o fentrau ariannol ynghyd â threfniadau llywodraethu da a fydd yn cefnogi partneriaeth gref rhwng rhanddeiliaid lleol a rhanddeiliaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.  Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn helpu'r Porthladdoedd Rhydd i ddenu buddsoddiad a datblygu sylfeini sgiliau lleol a rhanbarthol cadarn. 

Gallai Porthladdoedd Rhydd Cymru ysgogi twf economaidd sylweddol yn eu hardaloedd lleol a'r rhanbarthau ehangach a fyddai'n gysylltiedig â diwydiannau newydd, yn arbennig yn y sector ynni gwyrdd.  Bydd hyn yn cefnogi gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol gan helpu i gyflawni'r targedau ar gyfer carbon sero net.  Bydd twf economaidd gwyrdd yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau strwythurol tlodi ac amddifadedd mewn economïau lleol a rhanbarthol gan ysgogi cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu sgiliau a chymwysterau poblogaethau preswyl. Mae'r ddau Borthladd Rhydd yng Nghymru yn cynnig cyfle unigryw i drawsnewid economïau lleol a rhanbarthol, gan atal a gwrthdroi'r effeithiau negyddol sy'n gysylltiedig â dirywiad hirdymor diwydiannau traddodiadol yn eu hardaloedd.

Atal

Mae'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn cynnig cyfle newydd i helpu Cymru i barhau i ddatblygu'n economi sy'n gystadleuol, entrepreneuraidd, gynhwysol a chynaliadwy ar lefel fyd-eang. Bydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i'r economi, gwaith teg a'r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n sicrhau manteision hirdymor er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

Mae heriau economaidd rhanbarthol y Porthladdoedd Rhydd yn gysylltiedig â newid diwydiannol hirdymor sy'n mynd rhagddo o hyd. Mae'r sail ddiwydiannol yn Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot yn dibynnu ar danwyddau ffosil sy'n peri risgiau sylweddol o ran pontio i sero net ac mae economi Ynys Môn yn anghymesur o ddibynnol ar dwristiaeth. Fel y mae ar hyn o bryd, mae risg na all y sectorau hyn gynnal swyddi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol na darparu swyddi teg a diogel i rannau helaeth o'r boblogaeth. Gallai hyn arwain at safonau byw sy'n gostwng ac amddifadedd cynyddol. 

Mae potensial Porthladdoedd Rhydd Cymru yn gyfle unigryw i gyflwyno prosiectau economaidd â chryn botensial yn gyflym yn enwedig technoleg carbon isel a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio, gan gyfrannu at yr agenda sero net.  Dylai statws Porthladd Rhydd ysgogi buddsoddiad preifat mwy sylweddol. 

Mae'r Llywodraeth yn awyddus i ddileu'r manteision y mae gwneuthurwyr tramor wedi'u sicrhau drwy gymorth gwladwriaethol, costau suddedig, ac arbedion maint a phrofiad helaeth cronedig. Mae manteision cyfunol ar ffurf tir, cymhellion treth, cydgysylltu cynllunio, seilwaith galluogi a buddsoddiad mewn sgiliau/arloesed a gynigir gan y Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn gymhellol i fusddsoddwyr.

Cydweithio a chynnwys

Mae  Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyd yn gyfrifol am bolisi a threfniadau goruchwylio Porthladdoedd Rhydd Cymru.

Ar lawr gwlad, mae consorta'r Porthladdoedd Rhydd yn cynnwys awdurdodau lleol a chyrff porthladdoedd yn cydweithio. Mae'n ofynnol iddynt feddu ar strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n cynnwys cynllun ar gyfer marchnata cyfleoedd a manteision y Porthladd Rhydd, map o randdeiliaid a chynllun manwl ar gyfer ymgysylltu â chymunedau lleol (gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol), darpar fuddsoddwyr, rhanddeiliaid strategol lleol gan gynnwys endidau sy'n gyfrifol am (is-)strategaeth economaidd ranbarthol; rhanddeiliaid gwleidyddol lleol; darparwyr addysg a sgiliau lleol.

Integreiddio

Gall Porthladdoedd Rhydd Cymru sicrhau newid sylweddol mewn buddsoddiad diwydiannol, yn arbennig mewn ynni adnewyddadwy er mwyn cefnogi'r broses bontio ddiwydiannol i garbon sero mewn ffordd sy'n gweithio i'n cymunedau drwy greu swyddi newydd, teg a diogel yn sectorau'r dyfodol a diogelu safonau byw cenedlaethau'r dyfodol.  Mae'r consortiau yn mabwysiadu dull gweithredu hirdymor a arweinir gan y gymuned, gan ystyried sut y gall y Porthladdoedd Rhydd wella ‘llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru’.

Cymru lewyrchus 

Gall Porthladdoedd Rhydd Cymru sicrhau buddsoddiad sylweddol i Gymru mewn sectorau diwydiannol modern yn arbennig mewn ynni gwyrdd, gan alluogi pobl i gael budd o'r cyfoeth a gynhyrchir drwy sicrhau gwaith teg.  Mae'r awdurdodau lleol yn bwriadu cyfuno ardrethi annomestig wedi'u hailgylchu er mwyn cefnogi'r broses drawsnewid, er enghraifft, drwy ddarpariaeth alwedigaethol ac academaidd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn rhanbarthau'r Porthladdoedd Rhydd, gan helpu i baratoi cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer swyddi y bydd eu hangen ar economi'r 21ain ganrif, yn ogystal ag uwchsgilio oedolion sydd eisoes mewn cyflogaeth.

Cymru gydnerth

Bydd y buddsoddiadau mewn technoleg y bydd y Porthladdoedd Rhydd yn eu cyflwyno, yn arbennig mewn technoleg ynni adnewyddadwy, yn y tymor canolig i'r hirdymor, yn helpu i sicrhau bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau'n gyflymach yng Nghymru. At hynny, drwy'r reoli'r broses o drawsnewid o economi sy'n defnyddio tanwyddau ffosil, bydd yn lleihau amlygiad Cymru i ysgytwadau i'r galw a'r cyflenwad sy'n gysylltiedig â diwydiannau sy'n agored i ffactorau geowleidyddol megis nwy. 

Mae llawer o leoliadau safleoedd treth y Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn lleoliadau tir llwyd sy'n bodoli eisoes i raddau helaeth, a fydd yn lleihau effaith gwaith datblygu ar fioamrywiaeth leol. Lle y caiff effeithiau eu nodi, mae'r Porthladdoedd Rhydd yn bwriadu cyflwyno mesurau lliniaru.

Cymru iachach

Gall Porthladdoedd Rhydd Cymru greu swyddi teg a diogel a chynyddu cyflogaeth a fydd yn gwella iechyd meddwl ceiswyr swyddi. Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd â chyfraddau cyflogaeth uchel yn fwy tebygol o fwy'n hirach – mae cydberthyniad cadarnhaol rhwng cyfradd cyflogaeth ardal a disgwyliad oes iach dynion a menywod.

Ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd yn arbennig, mae'r newid o diwydiannau sy'n defnyddio tanwyddau ffosil i ddiwydiannau sy'n defnyddio ynni o ffynonellau cynaliadwy yn debygol o leihau llygredd aer, gan sicrhau manteision iechyd anadlol a chardiofawsgwlaidd sylweddol i bobl leol.

Cymru fwy cyfartal 

Bydd Porthladdoedd Rhydd Cymru yn cyfeirio buddsoddiad preifat sylweddol at ardaloedd sy'n ffinio â rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Byddant yn creu cyfleoedd yn y farchnad lafur a chyfleoedd hyfforddiant (drwy fuddsoddiad preifat, ymrwymiadau perchnogion tir/datblygwyr ac ardrethi busnes wedi'u hailgylchu) i bobl leol yn y cymunedau hyn. Bydd y twf economaidd rhagamcanol o amgylch y Porthladdoedd Rhydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi hirsefydlog sy'n parhau o'r naill genhedlaeth i'r llall, gan gynyddu cynhyrchiant a chyflogau lleol. 

Bydd Cytundebau Cyflenwi Safleoedd Treth yn ymrwymo perchnogion tir a chyflogwyr i gynnig amodau gwaith teg i gyflogeion a bydd gan y Porthladdoedd Rhydd arweinydd amrywiaeth dynodedig er mwyn sicrhau bod y Porthladd Rhydd yn cael effaith gadarnhaol ar wahaniaethau economaidd-gymdeithasol yn y boblogaeth leol.

Cymru o gymunedau cydlynus 

Mae mwy o fuddsoddiad ac economi leol sy'n tyfu yn aml yn gysylltiedig â mwy o gydlyniant cymunedol. 

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu 

Bydd y Porthladd Rhydd yn diogelu ac yn cryfhau'r Gymraeg ar Ynys Môn. Bydd creu swyddi ar draws y sbectrwm sgiliau cyfan, ynghyd â darpariaeth addysg bwerus, yn darparu llwyfan cadarn i wireddu dyheadau pobl leol. Bydd hyn yn lleihau allfudo o'r Ynys – sy'n broblem benodol ymhlith yr aelodau iau o'r boblogaeth sy'n fwy tebygol o siarad Cymraeg.

Ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd, mae'r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol ardal Castell-Nedd Port Talbot yn arbennig Dyffryn Aman a Chwm Tawe ac, felly, gallai'r Porthladd Rhydd greu cyfleoedd gwaith i siaradwyr Cymraeg. 

At hynny, gall twf economaidd cynyddol gynhyrchu refeniw i'w fuddsoddi mewn diwylliant a'r celfyddydau. 

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang 

Mae'r Porthladdoedd Rhydd yn cynnig cyfle i Gymru gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel cynhyrchydd ar arloeswr pwysig yn y sector ynni adnewyddadwy.   

Lleihau Effeithiau Negyddol

Mae canllawiau'r Llywodraeth i Borthladdoedd Rhydd Cymru yn gynhwysfawr ac mae'n gofyn iddynt gyfleu eu gweledigaeth strategol gyffredinol. Rhaid i'r weledigaeth hon gynnwys crynodeb o'r canlynol:

  • sut y gall y Porthladd Rhydd sicrhau ei fod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at gyflawni nodau llesiant cenedlaethol Cymru fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 
  • sut y bydd prosesau penderfynu Corff Llywodraethu'r Porthladd Rhydd yn cyd-fynd ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

At hynny, rhaid i bob Porthladd Rhydd lunio achos busnes yn unol â'r Llyfr Gwyrdd. Rhaid i achosion busnes gynnwys achos economaidd, cynllun gwaith teg, asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, cynllun datgarboneiddio a mesurau rheoli amgylcheddol.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben? 

Caiff effaith Porthladdoedd Rhydd Cymru ei monitro a'i mesur:

  • fel rhan o Fframwaith Monitro a Gwerthuso Porthladdoedd Rhydd i'r DU gyfan 
  • drwy gynlluniau monitro a gwerthuso lleol ar gyfer Porthladdoedd Rhydd penodol.

At hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad polisi o'r Rhaglen yn 2028.

Atodiad A: Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Amcanion polisi 

Asesiad effaith ar gyfer y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yw hwn.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Yn dilyn chwiliad helaeth, ni ellid dod o hyd i unrhyw ymchwil na data perthnasol ar blant na phobl ifanc mewn perthynas â Phorthladdoedd Rhydd na mentrau adfywio economaidd yn fwy cyffredinol. Mae'r penderfyniadau terfynol ynghylch pa fusnesau a fydd yn ymsefydlu yn y Porthladdoedd Rhydd, a'r prosiectau seilwaith cysylltiedig, wrthi'n cael eu gwneud fel rhan o'r gwaith o ddatblygu achosion busnes sy'n dal i fynd rhagddo.  Bydd ffactorau ariannol a masnachol yn llywio'r broses hon er bod yn rhaid i'r buddsoddiad gyd-fynd ag amcanion y Porthladdoedd Rhydd er mwyn hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel.  Ymgysylltir â phlant a phobl ifanc pan fydd yn glir pa fuddsoddiadau y bwriedir eu gwneud a pha seilwaith y bwriedir ei gyflwyno ar gyfer pob Porthladd Rhydd er mwyn iddynt roi eu barn ar natur y buddsoddiad hwnnw a'r ffordd y caiff ei roi ar waith. 

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Mae polisi Porthladdoedd Rhydd yn rhoi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.  Un o brif nodau Porthladdoedd Rhydd yw codi safonau byw i gymunedau lleol o fewn ffin Porthladd Rhydd a'r cymunedau sy'n gysylltiedig â nhw. Mae ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011’ sy'n seiliedig ar ‘Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn’ yn cynnwys yr erthygl ganlynol a allai fod yn berthnasol yng nghyd-destun Porthladdoedd Rhydd, sef: 

  • Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.

Monitro ac adolygu

Caiff effaith Porthladdoedd Rhydd Cymru ei monitro a'i mesur:

  • fel rhan o Fframwaith Monitro a Gwerthuso Porthladdoedd Rhydd i'r DU gyfan 
  • drwy gynlluniau monitro a gwerthuso lleol ar gyfer Porthladdoedd Rhydd penodol.

Atodiad D: Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg

Cyfeirnod yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (a gwblhawyd gan Dîm Safonau'r Gymraeg, e-bost: Safonau.Standards@llyw.cymru):

A yw'r cynnig yn cysylltu'n glir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg? – Cymraeg 2050 Miliwn o siaradwyr a'r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2021-2026Rhaglen Waith Cymraeg 2050 2021-2026

Ydy, gall y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd o'r Gymraeg.  Ar Ynys Môn yn arbennig, mae'r posibilrwydd y caiff miloedd o swyddi eu creu yn golygu y bydd llai o bobl yn gadael yr Ynys (neu'n cymudo oddi arni) a bydd gan y rhai sydd eisoes wedi gadael gyfle i ddychwelyd. Bydd hyn yn helpu i greu cymunedau cydlynus a diogelu a hybu'r Gymraeg.

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg. 

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oedran (effeithiau cadarnhaol a/neu effeithiau andwyol)? 

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, sef Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn nodi pwysigrwydd cynnal a meithrin cymunedau lle ceir niferoedd mawr o siaradwyr Cymraeg. Mae cysylltiadau â'r cynnig yn hyn o beth gan y gall pobl sy'n symud i mewn i'r cymunedau hyn ac yn eu gadael gael effaith ar nifer y siaradwyr Cymraeg.

Bydd y Porthladd Rhydd yn diogelu ac yn cryfhau'r Gymraeg ar Ynys Môn. Bydd creu swyddi ar draws y sbectrwm sgiliau cyfan, ynghyd â darpariaeth addysg bwerus, yn darparu llwyfan cadarn i wireddu dyheadau pobl leol. Mae strategaeth y Gymraeg yn cyfeirio at gadw siaradwyr Cymraeg ifanc mewn cymunedau Cymraeg fel nod gan fod hyn yn hyrwyddo parhad y Gymraeg i genedlaethau'r dyfodol. Bydd hyn yn lleihau allfudo o'r Ynys – sy'n broblem benodol ymhlith yr aelodau iau o'r boblogaeth sy'n fwy tebygol o siarad Cymraeg.

At hynny, mae'n bosibl y bydd Porthladdoedd Rhydd yn golygu bod pobl ddi-Gymraeg yn symud i rai ardaloedd lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.  Lle y bydd hyn yn digwydd, dylai'r Porthladdoedd Rhydd a'u partneriaid hyrwyddo'r Gymraeg a'r cyfleoedd i'w dysgu i fewnfudwyr. 

Ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd, mae'r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol ardal Castell-Nedd Port Talbot yn arbennig Dyffryn Aman a Chwm Tawe ac, felly, gallai'r Porthladd Rhydd greu cyfleoedd gwaith i siaradwyr Cymraeg. 

At hynny, mae Adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi bod Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu yn un o'r saith nod llesiant. Mae'n ofynnol i gynlluniau busnes Porthladdoedd Rhydd Cymru nodi sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni'r saith Nod Llesiant Cenedlaethol, gan gynnwys “Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu”.

Bydd yn ofynnol i gonsortia'r Porthladdoedd Rhydd a'r busnesau y maent yn eu cefnogi gyrraedd safonau dwyieithog gan gynnwys safonau ar gyfer deunydd digidol, arwyddion a hyfforddiant a digwyddiadau cyhoeddus. 

Cafwyd tystiolaeth ar gyfer yr asesiad hwn o'r Gymraeg o'r ffynonellau canlynol:

  • yr “Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn” (Llywodraeth Cymru (2024) Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn); 
  • ymgysylltu â Phorthladdoedd Rhydd Cymru a'u hawdurdodau lleol cysylltiedig 

Caiff nifer y siaradwyr Cymraeg, a'r defnydd o'r Gymraeg, yn ardaloedd y Porthladdoedd Rhydd ei dracio er mwyn mesur effaith y Rhaglen ar yr iaith.