Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Mater

  1. Diweddaru aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar waith sydd ar y gweill i ddod â'r dyletswyddau caffael yn Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym, ac i sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (Rhan 1, Adran 9). 
     
  2. Er gwybodaeth yn unig. Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol nodi'r papur hwn. 

Cefndir

Sefydlu'r Is-grŵp Caffael 

  1. Nid yw adran 9 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gymryd pob cam rhesymol i sefydlu is-grŵp caffael, wedi dod i rym eto. Mae is-adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion gyhoeddi canllawiau ar gyfansoddiad yr is-grŵp, gan gynnwys at ddibenion sicrhau aelodaeth gynrychioliadol briodol, y mae'n rhaid i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol roi sylw iddo.
     
  2. Rhwng cyfarfodydd Gorffennaf a Medi y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, bydd swyddogion yn dechrau gweithio ar y canllawiau, mewn trafodaeth â phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid. 
     
  3. Cynigir sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar ôl cyfarfod mis Medi i gynghori ar gwblhau'r canllawiau hyn. Wedi hynny, bydd y gwaith yn dechrau gyda'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar y cylch gorchwyl a'r broses gwneud penodiadau. 

Diweddariad ar Is-ddeddfwriaeth, Canllawiau a Dogfennau Eraill 

  1. Er mwyn dod â'r dyletswyddau yn Rhan 3 o'r Ddeddf i rym, mae angen i beth is-ddeddfwriaeth fod ar waith, ynghyd â Chod, cymalau enghreifftiol a chanllawiau statudol. Mae cyfnod gweithredu o chwe mis hefyd wedi'i awgrymu rhwng cwblhau'r dogfennau hyn a'r dyletswyddau yn dod i rym, er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i'r trefniadau newydd. 
     
  2. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar: 
  • God Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweithlu a chymalau'r gweithlu cyhoeddus cymdeithasol (Adrannau 31 a 32) - mae drafft newydd wedi'i ddatblygu, gweler isod am fwy o fanylion. 
  • y cymal gweithiau cyhoeddus cymdeithasol – mae'r gwaith hwn bellach gyda chwmni Geldards Law, a sicrhaodd gontract i helpu i ddatblygu'r cymalau contract hyn ar gyfer contractau adeiladu mawr, a bydd drafft yn cael ei gwblhau yn fuan. 
  • y rheoliadau ar yr wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr Adroddiad Blynyddol - mae Cwmpas ar hyn o bryd yn cefnogi gwaith ar set o fetrigau drafft y bydd angen adrodd arnynt yn flynyddol. Rydym yn disgwyl adroddiad yn ystod yr haf a fydd yn llywio’r gwaith o ddatblygu rheoliadau. 
  1. Bydd ymgyngoriadau ffurfiol yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf ar bob un o'r darnau hyn o waith. 
     
  2. Mae'r holl ddatblygiadau ar y gweill ar y cyd â swyddogion yn nhîm gwaith teg Llywodraeth Cymru a'r tîm polisi caffael. Y bwriad yw y bydd gwaith ar y canllawiau statudol yn trosglwyddo i'r tîm polisi caffael, ynghyd â'r cyfrifoldeb parhaus am ddatblygiadau yn y dyfodol. Mae proses recriwtio ar y gweill, gan ganolbwyntio ar staff presennol Llywodraeth Cymru, i benodi pedwar aelod o staff i gefnogi'r gwaith hwn. 

Cod Gweithlu Drafft Newydd 

  1. Sicrhaodd cwmni Geldards Law gontract i ddatblygu Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweithlu drafft a Chymalau Gweithlu Cyhoeddus cysylltiedig, a fydd yn disodli'r Cod Gweithlu presennol y cyfeirir ato fel arfer fel y Cod Dwy Haen ar Faterion y Gweithlu. 
     
  2. Ymgynghorodd Geldards â staff caffael ac adnoddau dynol sector cyhoeddus, ag undebau a chydag aelodau o'r Gymdeithas Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n cynrychioli llawer o ddarparwyr mawr gwasanaethau wedi’u hallanoli. Mae copi o'r Cod drafft newydd, a chrynodeb o sut yr ymdriniwyd â’r materion a godwyd wrth ymgynghori, ynghlwm wrth y nodyn briffio hwn. 
     
  3. Y camau nesaf yw cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ar y Cod, fel sy'n ofynnol gan adran 32(3) y Ddeddf. 

Briffiad Technegol 

  1. Os byddai'n ddefnyddiol i aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, gellir trefnu sesiwn friffio dechnegol i drafod y materion a godwyd yn y briff hwn yn fanylach. 

Sue Hurrell 

Mehefin 2024