Neidio i'r prif gynnwy
  • 29 Chwefror: Gwahoddwyd cynrychiolwyr AD a chaffael o bob awdurdod lleol a chyrff cyhoeddus eraill (CNC, Tân ac Achub, RSL). 
  • 1 ac 8 Mawrth:   Cynrychiolwyr undeb, o TUC, Unsain, NASuWT, PCS. 
  • 18 Ebrill:  Peter Snow o'r Gymdeithas Gwasanaethau Busnes, a oedd wedi anfon copïau o'r Cod drafft a'r cymalau at aelodau am sylwadau. Mae aelodau BSA yn ddarparwyr gwasanaethau wedi’u hallanoli. 

1. Eglurder ar y dyddiad y daw’r Cod a'r Cymalau i rym a chadarnhad na fydd y Cod a'r Cymalau yn cael effaith ôl-weithredol

Teimlai cynrychiolwyr CLlLC bod angen eglurhad pellach mai dim ond i gontractau allanoli’r genhedlaeth gyntaf a fyddai’n digwydd ar ôl y dyddiad y mae'r Cod a'r Cymalau newydd yn dod i rym y byddai Cod a Chymalau'r Gweithlu yn berthnasol, ac na fyddai ail gontract allanoli neu gontract allanoli dilynol lle cafodd y gwasanaeth neu'r swyddogaeth gyhoeddus eu hallanoli o dan god blaenorol yn cael eu dal. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - mae geiriad paragraff 1.4 wedi’i wneud yn fwy eglur.

2. Perthnasedd i Ysgolion a Chynghorau Cymuned

Fel y trafodwyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur, nid yw Awdurdodau Contractio fel y'u diffinnir o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y 'Deddf') yn cynnwys Ysgolion a Chynghorau Cymuned. Mynegodd mynychwyr ym mhob cyfarfod, ac Undebau Llafur yn benodol, bryder ynghylch y ffaith eu bod y tu allan i gwmpas y Cod a'r effaith y gallai hynny ei chael ar unrhyw weithlu a allanolir.

O ran y gallu i gynnwys cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chynghorau cymuned o fewn cwmpas Cod y Gweithlu (neu o leiaf rai agweddau arno), mae'r Cod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu 2014 cyfredol yn berthnasol i wahanol gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru yn seiliedig ar wahanol ddarpariaethau statudol. O ran cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, dibynnir ar y darpariaethau yn adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. O ran cynghorau cymuned, dibynnir ar adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Gellir dadlau felly y gellir sefydlu sail statudol i ehangu cwmpas y Cod i gynnwys ysgolion a chynghorau cymuned (a hynny ar wahân i'r rhwymedigaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag Awdurdodau Contractio).  Yr unig agwedd ar God drafft y Gweithlu na allai fod yn berthnasol i ysgolion a chynghorau cymuned (oherwydd nad yw'r ddeddfwriaeth yn darparu ar ei gyfer) fyddai'r Gofynion Hysbysu o dan adran 12 y Cod Drafft. 

Dyma’r cwestiwn felly: a yw Llywodraeth Cymru o'r farn y dylid ehangu'r diffiniad o Awdurdodau Contractio at ddibenion y Cod a Chymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol i gynnwys cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chynghorau cymuned. 

  • Gweithred sy'n ofynnol (SH) - trafodaeth a chytundeb ynghylch a ddylai ysgolion a chynghorau cymuned barhau i gael eu cynnwys yn y Cod newydd, drwy'r un ddarpariaeth yn y canllawiau ag o dan y Cod blaenorol. Gan nad ydynt yn Awdurdodau Contractio, ni fyddent yn ddarostyngedig i'r gofynion hysbysu, ac mae angen penderfyniad ynghylch a ddylid parhau â'r gofyniad adrodd blynyddol a oedd yn rhan o’r Cod blaenorol. 

3. Eglurder ynghylch pa gontractau a ddaw o fewn cwmpas y Cod a'r Cymalau

Roedd cynrychiolwyr CLlLC yn teimlo y byddai eglurhad pellach yn ddefnyddiol mewn perthynas â'r contractau y mae Cod y Gweithlu yn berthnasol iddynt. Roedd hyn wedi'i gynnwys yn y diffiniad o Gontract Allanoli Gwasanaethau (sy'n adlewyrchu'r diffiniad o dan y Ddeddf). 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - mae esboniad wedi ei gynnwys ym mharagraff 2 o God y Gweithlu.

4. Amgylchiadau trosglwyddo y bydd Cod y Gweithlu yn berthnasol iddynt

Mae Datganiad Swyddfa'r Cabinet ar Faterion y Gweithlu a'r Cod Ymarfer ar Faterion Gweithlu 2014 cyfredol yn berthnasol i ad-drefniadau a throsglwyddiadau o un rhan o'r sector cyhoeddus i'r llall: 

"Mae’r Cod Ymarfer hwn (gan gynnwys cymhwyso Datganiad Swyddfa’r Cabinet a’r canllawiau ‘Fair Deal’ sy’n cyd-fynd â nhw) yn gymwys hefyd i drosglwyddo gweithgaredd gwasanaeth cyhoeddus, boed yn barhaol neu beidio, a hynny p’un a drosglwyddir i elusen neu i gorff arall yn y gwasanaeth cyhoeddus neu beidio." (para 5). Heblaw am y darpariaethau mewn perthynas ag Aelodau Newydd sy'n nodi: 

“Os yw’r darparwr gwasanaeth ei hun yn gorff cyhoeddus o fewn sgôp y Cod hwn ac os yw aelodau newydd yn cael eu cyflogi ar yr un telerau ac amodau â staff eraill y corff hwnnw, nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer aelodau newydd yn gymwys (ac yn unol â hynny ni ddylid defnyddio’r gymhariaeth “heb fod yn llai ffafriol”). 

O ran darpariaethau’r Ddeddf, ystyr "contract cyhoeddus" yw contract rhwng un neu fwy o weithredwyr economaidd ac un neu fwy o Awdurdodau Contractio; a chyflawni gwaith, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau (adran 21) yw’r amcan.  

Yn yr un modd, mae contract allanoli gwasanaethau yn golygu contract (a) lle y trosglwyddir gofyniad i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus a ddarperir gan, neu a ddarparwyd yn flaenorol gan, Awdurdod Contractio i berson arall, neu (b) lle mae person arall yn cytuno i ymgymryd ag unrhyw swyddogaeth arall a gyflawnir gan, neu a gyflawnwyd yn flaenorol gan, Awdurdod Contractio. Ar y sail bod Awdurdodau Contractio wedi'u diffinio, ni all gweithredwr economaidd neu un arall yn ôl pob tebyg fod yn Awdurdod Contractio hefyd (fodd bynnag, gallai gynnwys Cwmni Teckal neu fodel darparu gwasanaethau arall ar ran Awdurdod Contractio). I raddau, ychydig o effaith a gaiff hepgor trosglwyddo o gorff sector cyhoeddus i gorff sector cyhoeddus ar y sail y bydd diogeliad pensiwn yn cael ei ddarparu o dan y Fargen Deg neu'r Cyfarwyddyd Pensiynau ac ni fyddai'r darpariaethau ar gyfer Aelodau Newydd/Staff Eraill yn gymwys yn yr un ffordd gan eu bod wedi'u heithrio ar hyn o bryd o dan y Cod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu (fel yr amlinellir uchod). Yr unig effaith bosibl o'u heithrio o gwmpas Cod y Gweithlu yw bod TUPE yn eithrio ad-drefnu gweinyddol awdurdodau gweinyddu cyhoeddus neu drosglwyddo swyddogaethau gweinyddol rhwng awdurdodau gweinyddu cyhoeddus yn benodolGall hyn olygu na fydd TUPE yn berthnasol yn dechnegol i rai trefniadau sector cyhoeddus i sector cyhoeddus, ond ni fyddai hyn yn atal yr awdurdodau cyhoeddus dan sylw rhag diogelu telerau ac amodau staff sy’n trosglwyddo beth bynnag. 

  • Dim gweithred

5. Gwybodaeth bellach mewn perthynas ag egwyddorion y Fargen Deg a'r Cyfarwyddyd Pensiynau

Teimlwyd y dylid cynnwys esboniad ehangach ac arwyddbyst yng Nghod y Gweithlu yn amlinellu darpariaethau Bargen Deg 2013 a Chyfarwyddyd Trosglwyddo Staff Awdurdodau Cymru (Pensiynau) 2022 a'u cymhwysedd. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - mae esboniad o bob un o'r darpariaethau pensiwn hyn a'r Awdurdodau Contractio y bydd pob un ohonynt yn berthnasol iddynt wedi eu cynnwys ym mharagraff 6.2. 

6. Darpariaethau ymgynghori ag Undebau Llafur

Fe wnaethom adolygu darpariaethau ymgynghori ag Undebau Llafur o dan y Cod Drafft a gwnaed sylwadau y dylid cynnwys darpariaeth benodol yn y Cod sy'n darparu ar gyfer ymgynghoriad ag Undebau Llafur fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu a ddylid allanoli gwasanaethau neu swyddogaethau ac, yn ôl pob tebyg, cynnwys y Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol o fewn y contract allanoli gwasanaethau hwnnw. Mae darpariaethau cyfredol Cydnabod ac Ymgynghori ag Undebau Llafur y Cod yn nodi y dylid cadw at y rhwymedigaeth gwybodaeth ac ymgynghori o dan TUPE, ond byddent yn cychwyn unwaith y bydd penderfyniad i allanoli eisoes wedi'i wneud. Cyfeiriwyd at y darpariaethau o dan adran 16 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 sy'n darparu y dylai cyrff cyhoeddus, i'r graddau y bo'n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u Hundebau Llafur cydnabyddedig. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - i'r cyrff hynny sydd wedi'u cynnwys yn y dyletswyddau caffael ond heb eu cynnwys yn Adran 16 o'r Ddeddf, nid yw ymgynghori ag Undebau Llafur ar benderfyniad i allanoli yn ofyniad statudol. Fodd bynnag, mae gwneud hynny yn arfer da. Mae'r Cod wedi'i ddiweddaru i wneud hyn yn glir yn adran 2.4 

7. Hawliau cydfargeinio parhaus

Gwnaed sylwadau hefyd ynghylch yr angen i’r Cod a chontractau allanoli gwasanaethau olrhain telerau ac amodau Staff yr Awdurdod Contractio y cytunwyd arnynt ar y cyd ar gyfer staff sydd wedi trosglwyddo o ganlyniad i allanoli gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus. Byddai hyn wedyn yn cael effaith ganlyniadol ar delerau ac amodau Staff Eraill sydd hefyd yn gweithio ar y contract allanoli gwasanaethau. Fe wnaethom drafod y ffaith bod hyn yn mynd y tu hwnt i'r rhwymedigaethau cyfreithiol ar drosglwyddai ar ôl TUPE. Fodd bynnag, teimlwyd bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oedd telerau ac amodau staff a drosglwyddwyd yn cael eu herydu dros amser. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau ac y mae ei hangen - mae olrhain y telerau ac amodau dros amser yn rhan o "gymryd pob cam rhesymol" (adrannau 26(1)(c-d) a 25(c-d)).  Mae'r rhwymedigaeth hon wedi'i chynnwys yn y cymalau (adran 6), ac mae angen ei chynnwys hefyd mewn canllawiau a/neu reoliadau ynghylch Adroddiadau Caffael Blynyddol Awdurdodau Contractio 39(2)(b). 

8. Rhwymedigaethau data a monitro ychwanegol

Mynegwyd yn gryf yr angen i gael data estynedig mewn perthynas â gweithluoedd wedi’u hallanoli a gwnaed sylwadau ynghylch cynnwys data ychwanegol i Awdurdodau Contractio ofyn amdano gan Gontractwyr (ac Is-gontractwyr) fel rhan o'u hadolygiad blynyddol ar weithredu darpariaethau'r Cod a’r Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol. Dylai'r data hwn adlewyrchu'r data y mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus ei gasglu fel rhan o'u Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (e.e. rhywedd, ethnigrwydd, anabledd ac ati). Mae hyn yn cysylltu â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Gellid darparu data yn ei dro i'r Uned Gwahaniaethau o fewn Llywodraeth Cymru a ffurfio cronfa ychwanegol ddefnyddiol o ddata ar weithwyr wedi’u hallanoli. Roedd awgrym y gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r Wybodaeth Atebolrwydd Gweithwyr sy'n ofynnol o dan TUPE. Fodd bynnag, ni fyddai'r data ychwanegol a awgrymwyd yn cael ei ddal gan y darpariaethau hynny yn y ddeddfwriaeth ac felly byddai'n rhwymedigaeth ychwanegol ar Awdurdodau Contractio a Darparwyr Gwasanaethau. 

  • Dim gweithred - dim ond olrhain telerau, amodau, a threfniadau pensiwn staff sy’n trosglwyddo a staff eraill a fydd yn ofynnol gan y Cod. Fodd bynnag, mae trafodaethau ar wahân ar y gweill ynghylch a ddylid cynnwys yr angen i ddata cydraddoldeb gael ei gasglu a'i adrodd yn Adroddiadau Caffael Blynyddol Awdurdodau Contractio 39(2)(b). 

9. Mewnoli

Gallai cysoni telerau ac amodau ar gyfer gweithwyr wedi’u mewnoli â'r telerau a'r amodau a ddarperir gan Awdurdodau Contractio gyflwyno risg o ran cyflog cyfartal i Awdurdod Contractio dros amser (er y gellid dadlau y byddai amddiffyniad cychwynnol i hawliad o'r fath o ganlyniad i TUPE). Gwnaed sylwadau mewn perthynas â chynnwys trosolwg o'r risgiau hynny a chyfeiriad at atebolrwydd posibl o dan ddarpariaethau Cyflog Cyfartal Deddf Cydraddoldeb 2010 yn y Cod. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - mae nodyn wedi'i gynnwys yn y Cod (adran 13) i dynnu sylw Awdurdodau Contractio at risgiau cyflog cyfartal posibl mewn perthynas â staff wedi’u mewnoli dros amser. 

10. Data personol

Gwnaed sylwadau hefyd mewn perthynas â sicrhau, pe bai data personol gweithwyr wedi’u hallanoli yn cael ei ddefnyddio gan Ddarparwr Gwasanaeth am elw (e.e. drwy werthu data), y dylid rhoi cyfrif am unrhyw elw sy'n deillio o hynny i'r Awdurdod Contractio er mwyn osgoi senario lle gall Darparwr Gwasanaeth elwa o ddata staff sydd wedi trosglwyddo. 

  • Dim gweithred - mae'r gofynion presennol ar ddefnyddio data personol yn ddigonol. 

11. Anonymeiddio data personol

Gwnaed sylwadau drwy’r BSA hefyd mewn perthynas â sicrhau, lle mae'n ofynnol i'r contractwr ddarparu manylion telerau ac amodau yn flynyddol i fonitro cydymffurfiaeth, y dylai hyn fod yn wybodaeth wedi’i hanonymeiddio’n unig, er mwyn sicrhau nad eir yn groes i GDPR. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - mae cyfeiriad at ddarparu gwybodaeth ar ffurf wedi’i hanonymeiddio wedi ei ychwanegu at y Cod a'r cymalau. 

12. Egluro bod y cymalau hyn yn ychwanegol at ddarpariaethau TUPE eraill, ac ati

Roedd y sylwadau drwy’r BSA yn gofyn am ddiwygio'r Cod i egluro bod y cymalau hyn yn ychwanegol at unrhyw ddarpariaethau TUPE cyffredinol, h.y. mae'r cymalau hyn yn ymdrin â'r Cod yn unig ac nid ydynt yn nodi'r indemniadau TUPE arferol ac ati. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - ychwanegwyd paragraff ychwanegol yn 10.2. 

13. Cwmpas y monitro

Gofynnodd cynrychiolwyr y BSA am gael sicrhau bod yr wybodaeth y gofynnir amdani gan gontractwyr i fonitro cydymffurfiaeth wedi'i chyfyngu i'r pedwar categori a restrir yn Adran 6 y cymalau. Fe wnaethom nodi na ddylai hyn effeithio ar allu'r Awdurdod Contractio i ofyn am ragor o wybodaeth yng nghyd-destun ei rwymedigaethau adrodd ehangach o dan y Ddeddf SPPP. Cytunwyd y gellid gwneud newid bach sy'n cysylltu'r pedwar categori hyn â'r rhwymedigaethau o dan y Cod hwn. 

  • Gweithred wedi'i chwblhau - mae Adran 6 y cymalau wedi ei diwygio i gysylltu'r pedwar categori â'r rhwymedigaethau o dan y Cod hwn.