Neidio i'r prif gynnwy

Penderfyniad sydd ei angen

Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno ar y dewis y maent yn ei ffafrio.   

  • Aros am adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Tachwedd a phenderfynu ar y camau nesaf bryd hynny; neu 
  • Cytuno i sefydlu is-grŵp o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac adeiladu ar waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu er budd pob sector sy'n ymwneud â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

Mater

  1. Yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar 1 Chwefror 2024, tynnwyd sylw at effaith deallusrwydd artiffisial ar y gweithlu fel pwnc posibl ar gyfer ymchwil bellach gan y Cyngor. Gwnaed cynnig y gellid ffurfio is-grŵp o’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i ystyried y mater hwn ymhellach. 
     
  2. Gofynnir i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ystyried sut i ddatblygu'r gwaith hwn.

Cefndir

  1. Codwyd yr eitem yn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ym mis Chwefror gan Ruth Brady (RB), Ysgrifennydd Rhanbarthol GMB. Mae Ruth hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ac yn cadeirio gweithgor Cyngor Partneriaeth y Gweithlu sy'n ystyried effaith deallusrwydd artiffisial ar weithlu'r sector cyhoeddus. 
     
  2. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn strwythur partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnwys undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae'n cwmpasu'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac mae'n fforwm ar gyfer materion yn ymwneud â’r gweithlu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. 

Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

  1. Mae'r gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr undebau llafur, cynrychiolwyr cyflogwyr, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, ac aelodau cyfetholedig ychwanegol sydd ag arbenigedd technegol. 
     
  2. Mae'r gweithgor wedi drafftio a chytuno ar asesiad o’r goblygiadau i weithlu'r sector cyhoeddus, gan ystyried y bygythiadau a'r cyfleoedd y gallai AI eu cyflwyno. 
     
  3. Er mwyn helpu i gryfhau'r cyfathrebu ar draws strwythurau partneriaethau cymdeithasol ar lefel genedlaethol ac ymgorffori dealltwriaeth o'r strwythurau amrywiol, anfonir copi o'r ddogfen asesu a'r nodyn esboniadol at y fforymau canlynol er mwyn codi eu hymwybyddiaeth:
  • Fforwm Partneriaeth GIG Cymru 
  • Cyngor Cyswllt Cymru Llywodraeth Leol 
  • Grŵp y Sector Cyhoeddus Datganoledig 
  • Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion 
  1. Mae copi o'r ddogfen asesu ynghlwm er gwybodaeth (atodiad A). 
     
  2. Mae amcanion cytunedig y gweithgor wedi'u cynnwys yn atodiad B. 
     
  3. Mae'r gweithgor wedi pwysleisio'r brys o ran datblygu ymateb i'r agenda yma sy'n symud yn gyflym. Er mwyn cynorthwyo'r datblygiad hwn, mae'r grŵp wedi nodi dwy thema waith eang i gyflawni ei amcanion: 
  1. Mae busnes Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cael ei ddatblygu rhwng cyfarfodydd y Cyngor gan y Cyd-bwyllgor Gweithredol (JEC). Bydd cyfarfod nesaf y JEC yn cael ei gynnal ar 18 Medi lle bydd adroddiad drafft cyntaf yn cael ei ystyried. Yna bydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn gwneud penderfyniad ar yr adroddiad terfynol ar 13 Tachwedd. 

Materion i'w hystyried gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

  1. Mae Adran 8 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn caniatáu i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol sefydlu is-grwpiau perthnasol. Caiff is-grŵp o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (a) gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan adran 1 o'r Ddeddf a ddirprwyir iddo gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol; a (b) helpu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffordd a bennir gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. 
     
  2. Bydd synergedd cryf rhwng y themâu sy'n cael eu hystyried gan weithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ac is-grŵp y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, os caiff ei sefydlu.  Fodd bynnag, er bod gan weithgor Cyngor Partneriaeth y Gweithlu aelodaeth eang, mae'n cynnwys cyflogwyr sector cyhoeddus i raddau helaeth.  
     
  3. Byddai grŵp y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn gallu edrych ar y mater trwy lens ehangach a datblygu dealltwriaeth o anghenion y sectorau pellach ac uwch, preifat a'r trydydd sector, y dulliau ysgogi sydd ar gael i wreiddio'r defnydd cyfrifol o AI, ac unrhyw rwystrau penodol y gallai'r sectorau hyn eu hwynebu. Gallai'r grŵp ystyried deunyddiau sydd ar gael ar draws yr holl sectorau a nodwyd, yn ogystal â'r deunyddiau a'r allbynnau o weithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. 
     
  4. Ni fyddai aelodaeth o'r is-grŵp o reidrwydd yn dod o blith aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ond byddai’n cael ei gynnig ganddynt. Gallai is-grŵp hefyd ddod ag arbenigedd i mewn yn ôl yr angen i ategu ymhellach unrhyw ganfyddiadau neu gyngor y mae'n eu darparu i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a gallai gynnwys aelodau o weithgor Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. 

Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno ar y dewis sy’n cael ei ffafrio ganddynt. 

  • Aros am adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Tachwedd a phenderfynu ar y camau nesaf bryd hynny; neu 

  • Cytuno i sefydlu is-grŵp o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac adeiladu ar waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu er budd pob sector sy'n ymwneud â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. 

Y camau nesaf

  1. Os cyrhaeddir cytundeb i sefydlu is-grŵp o’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gwahodd gwirfoddolwyr ac awgrymiadau ar gyfer aelodaeth. 

Darllen pellach

Atodiad A: asesu goblygiadau AI mewn perthynas â gweithlu'r sector cyhoeddus

  1. Mewn rhai sectorau, gallai AI awtomeiddio neu ychwanegu at lawer o dasgau a rolau a gyflawnir ar hyn o bryd gan weithwyr y sector cyhoeddus, megis mewnbynnu data, prosesu, dadansoddi, gwasanaeth cwsmeriaid, a chydymffurfiaeth. Gallai hyn arwain at ddadleoli neu golli swyddi i rai gweithwyr. 
     
  2. Yn gyffredinol, bydd AI yn arwain at newid yn y sgiliau sy'n ofynnol gan weithlu'r sector cyhoeddus, ond bydd angen adolygu'r goblygiadau hirdymor yn barhaus. Mae AI yn debygol o danio'r galw am sgiliau sy’n brin ar hyn o bryd fel gwyddor data a/neu godio/datblygwyr, y mae gan bob un ohonynt bremiwm marchnad uchel, yn ogystal â sgiliau newydd i ddefnyddio offer AI fel ysgogi. Mae'r technolegau hefyd yn cyflwyno heriau llywodraethu newydd, megis tryloywder a’r gallu i ddeall a dehongli AI, sy'n allweddol i sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n defnyddio offer a gwasanaethau AI. 
     
  3. Gallai AI arwain at brinder sgiliau hirdymor mewn rolau allweddol lle mae'r defnydd o AI yn atal y gweithlu rhag rhoi elfennau o'u rôl ar waith yn ymarferol. Ni ddylai'r defnydd o offer AI fod ar draul datblygiad proffesiynol parhaus angenrheidiol. 
     
  4. Mae pryderon y gallai AI effeithio ar hawliau gweithwyr - o bosibl yn annheg - ac ychwanegu at wahaniaethu neu ragfarn, pe bai'r technolegau yn cael eu defnyddio i awtomeiddio'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch unigolion (megis ceisiadau am swyddi), neu ar gyfer gwyliadwriaeth a monitro yn y gweithle. O ran yr olaf, mae pryderon ynghylch y defnydd posibl o ddata awtomataidd i fonitro cynhyrchiant neu bresenoldeb. 
     
  5. Mae angen arweiniad a dealltwriaeth glir ar gyfer gweithwyr ar sut i wneud defnydd priodol o offer AI sydd ar gael yng nghyd-destun yr wybodaeth swyddogol a sensitif y maent yn delio â hi. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu gweithwyr rhag defnyddio'r offer hyn mewn ffyrdd amhriodol yn anfwriadol, oherwydd diffyg hyfforddiant neu wybodaeth.
     
  6. Efallai y bydd effaith anghymesur ar staff TG a digidol o fewn y gweithlu, y disgwylir iddynt ddarparu ac ymgorffori atebion AI heb gapasiti neu adnoddau ychwanegol. Mae’n bosibl hefyd na fydd yr amodau angenrheidiol o ran arbenigedd, data a diwylliant yn cael eu hymgorffori yn y sefydliadau. 
     
  7. Os yw cyflogwyr yn gweithredu atebion AI heb egwyddor "Human in the Loop" (HITL), mae’n bosibl y gallai gwallau fod yn rhan o’r system gan arwain at ganlyniadau niweidiol i ddefnyddwyr gwasanaeth/gweithwyr. 
     
  8. Mae'r holl risgiau hyn yn gwaethygu os yw cyflogwyr yn methu ag ymgysylltu â gweithwyr ynghylch cyflwyno technolegau AI yn y gweithle. Drwy wneud hynny, gallant sicrhau bod gweithwyr yn cael dweud eu dweud am sut mae'r technolegau yn cael eu defnyddio, yn gallu tynnu sylw at yr effaith ar y gweithlu a sut y gellid lliniaru risgiau. 
     
  9. Ar y llaw arall, mae AI yn cynnig buddion sylweddol o ran cynhyrchiant a allai, os cânt eu defnyddio'n briodol, wella ansawdd bywyd gwaith a llesiant y gweithlu, yn ogystal â gwella canlyniadau i ddinasyddion trwy leihau prosesau â llaw a’r cyfle am wallau dynol. 
     
  10. Drwy symleiddio ac awtomeiddio rhai elfennau o ddarpariaeth gwasanaethau, efallai y byddwn yn gallu lleihau'r galw ar wasanaethau cyhoeddus sydd dan straen a chynyddu bodlonrwydd y cyhoedd o ran sut y gellir cyrchu'r gwasanaethau hynny. 
     
  11. Gall AI gefnogi'r frwydr yn erbyn twyll yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio’r gallu i ganfod patrymau i nodi afreoleidd-dra posibl ochr yn ochr â gwaith a wneir â llaw a darparu mwy o sicrwydd i weithwyr. 
     
  12. Mae manteision ac anfanteision posibl i'r gweithle dwyieithog. Os yw'r dechnoleg yn addas i'r diben, gall hyrwyddo gwaith dwyieithog go iawn, er enghraifft, drwy gyfieithu awtomataidd mewn cyfarfodydd neu alluogi cyfieithu dogfennau o ansawdd uchel.  
     
  13. Fodd bynnag, os nad yw modelau wedi'u hadeiladu'n benodol ar gyfer y Gymraeg, gallant achosi anghywirdeb a thensiynau sylweddol wrth ddefnyddio'r iaith. Bydd angen ystyried goblygiadau ehangach awtomeiddio ar y gweithlu cyfieithu. 
     
  14. Mae potensial i AI sicrhau gwell ansawdd o ran bywyd gwaith a llesiant y gweithlu ochr yn ochr â mentrau fel yr wythnos waith fyrrach. 
     
  15. Mae manteision cydraddoldeb ac amrywiaeth posibl i AI trwy ddarparu offer sy'n cefnogi hygyrchedd ac arferion gwaith wedi'u teilwra. Er enghraifft, gellid defnyddio AI i gefnogi dulliau Dysgu a Datblygu wedi’u teilwra neu gefnogi gweithwyr niwrowahanol mewn tasgau o ddydd i ddydd. 
     
  16. Er mwyn gwireddu’n llawn y manteision posibl a gwarchod rhag risgiau AI, mae angen ffocws clir ar ddefnyddio AI yn gyfrifol, yn ddiogel ac yn foesegol. Mae hyn yn gofyn am osgoi nifer o beryglon a fydd yn effeithio'n negyddol ar weithwyr ac ansawdd y gwasanaeth. 
     
  17. Mae risg o gael systemau sy'n cael eu marchnata fel rhai sy’n defnyddio AI yn hynod o effeithiol ond sy'n methu â chyflawni'r addewid hwnnw. Yna byddai'n rhaid i weithwyr y sector cyhoeddus wneud iawn am y diffygion hynny. 
     
  18. Gellir cyflwyno systemau AI fel cynhyrchion oddi ar y silff, heb yr addasiad angenrheidiol i'r cyd-destun lleol cyn iddynt gael eu rhoi ar waith. Gall hyn arwain at feichiau ychwanegol ar weithwyr, sy'n sylweddoli nad yw'r system yn ymateb i'w hanghenion, neu sy'n gorfod dod o hyd i ffordd o gwmpas y broblem i wneud i bopeth weithio - er gwaetha'r system.  
     
  19. Byddai cynnwys proses arfarnu ac adolygu barhaus yn cydnabod natur newidiol datblygiadau technolegol a byddai'n sicrhau bod y buddion yn cael eu gwireddu a’r bygythiadau yn cael eu cyfyngu. 

Atodiad B: amcanion cytunedig y gweithgor AI

Mae amcanion cytunedig gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cynnwys: 

  1. Datblygu egwyddorion AI arfer gorau, gan gynnwys 'beth i beidio â'i wneud', yng nghyd-destun goblygiadau i’r gweithlu. 
  2. Canllawiau ar sut i ymgysylltu â gweithwyr wrth gynllunio i weithredu technolegau AI. 
  3. Meincnodi dealltwriaeth gyfredol o AI, gan gynnwys iaith a therminoleg sylfaenol. 
  4. Cytuno ar fanteision strategol mabwysiadu technolegau AI yn y gweithle gan ddefnyddio dull partneriaeth gymdeithasol. 
  5. Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn archwilio comisiynu arolwg sector cyhoeddus ar AI, a allai ddylanwadu ar rai/pob un o'r uchod. 
  6. Adolygu cynnydd Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu - Partneriaeth a Rheoli Newid: Egwyddorion Digidol.