Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb misol o ddata perfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hwy yn cael eu harchwilio yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Mae’r mesuriadau perfformiad hyn yn erbyn yr uchelgeisiau hyn wedi’u hymgorffori gennym yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) oni nodir yn wahanol. Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Medi, gwnaethpwyd ychydig o dan 69,900 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, sef gostyngiad o tua 5,300 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. Cafodd ychydig mwy na 61,800 o’r galwadau hyn (88.5%) eu hateb. Cafwyd ychydig o dan 422,100 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd, a llenwyd ychydig o dan 11,800 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Medi, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 5,267 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 15.4% o’r holl alwadau. Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 176 o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol – 21 yn fwy nag ym mis Awst. 

Roedd 49.0% o alwadau coch wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud. Roedd hyn 2.8 pwynt canran yn is nag ym mis Awst. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 3,059 o ymweliadau ag adrannau brys, sy’n uwch o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y perfformiad yn erbyn y targed o bedair awr wedi gwaethygu o'i gymharu â’r mis blaenorol, ac roedd y perfformiad hefyd wedi gwaethygu o ran y targed o ddeuddeg awr. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys wedi cynyddu ym mis Medi o’i gymharu â’r mis blaenorol, i ddwy awr a phedwar deg dau munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Ym mis Awst, cynyddodd y nifer o ychydig dros 796,600 i ychydig o dan 800,200, sef y ffigur uchaf ar gofnod. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu mai’r sefyllfa ym mis Gorffennaf, pan oedd ychydig o dan 800,200 o lwybrau cleifion ar agor, oedd bod tua 619,200 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru, sef y ffigur uchaf ar gofnod.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 54.1% ym mis Awst. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ym mis Awst, i ychydig o dan 284,600, sef y ffigur uchaf ar gofnod. 

Roedd ychydig o dan 24,200 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, bron ddwy ran o dair (65.6%) yn is na’r ffigur uchaf, ond y pumed cynnydd ers y mis blaenorol ar ôl gostwng am bedwar mis ar hugain yn olynol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Awst 1.1 wythnos yn fwy na’r mis blaenorol, ar 23.0 wythnos.

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, gyda’r ‘rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith a oedd yn cael eu cydnabod fel rhai eithriadol o heriol hyd yn oed cyn y pandemig. Ni chyrhaeddwyd y targed ym mis Mawrth 2023 ac ym mis Awst roedd 16 o arbenigeddau eraill â llwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sef 3,264 o lwybrau, sy’n gynnydd o 13 o’i gymharu â’r mis diwethaf.

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 721,100 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 23 o lwybrau (nid cleifion) am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Awst yn 13 llwybr am bob 100 o bobl.

Roedd llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu i 79,525, sydd 22.5% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022. Ni chyrhaeddwyd y targed adfer gofal wedi’i gynllunio i ddileu’r rhain erbyn diwedd 2022.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gostyngodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros, i ychydig o dan 109,700 ym mis Awst. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 43,700. Ar gyfer therapïau, gostyngodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros, i ychydig o dan 56,500 o therapïau yn aros ym mis Awst. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 6,300. Ni chyrhaeddwyd y targedau adfer gofal wedi’i gynllunio, i ddileu amseroedd aros o fwy nag 8 wythnos ar gyfer profion diagnostig ac 14 wythnos ar gyfer therapïau erbyn Gwanwyn (Mawrth) 2024.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd 1,702 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Awst, 345 yn llai nag yn y mis blaenorol. Roedd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arno wedi gostwng i 13,589. Roedd y perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Awst i 56.5%, o’i gymharu â 55.0% yn y mis blaenorol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Medi 2024.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Gweithgaredd

Ffigur 1: Galwadau a dderbyniwyd a galwadau a atebwyd yng ngwasanaeth 111 y GIG

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod nifer y galwadau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth 111 wedi bod yn gymharol sefydlog. Cafwyd gostyngiad yn nifer y galwadau a dderbyniwyd ac a atebwyd o fewn 60 eiliad yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Gweithgarwch gwasanaeth 111 yng Nghymru, yn ôl dyddiad a mesur, ar StatsCymru

Ym mis Medi, gwnaethpwyd 69,877 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, gostyngiad o tua 5,300 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. Atebwyd ychydig mwy na 61,800 (88.5%) o’r galwadau hyn, sef cyfartaledd o ychydig o dan 2,100 o alwadau'r dydd. 

Cafodd amcangyfrif o 8,070 (11.5%) o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 3,237 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu. 

Cafodd ychydig dros 4,800 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros. 

O'r galwadau a atebwyd, nododd 1,288 o alwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad. 

Cafwyd ychydig o dan 422,100 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru, a llenwyd ychydig o dan 11,800 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Medi.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae amrywiaeth ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru a gwefan Pwyllgor Cydgomisiynu NHS Cymru 

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).

Gweithgaredd

Ffigur 2: Nifer cyfartalog y galwadau ambiwlans brys bob dydd, yn ôl math o alwad a mis, Medi 2019 i Medi 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos nifer y galwadau brys a dderbyniodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Galwad ambr yw’r alwad fwyaf cyffredin ac mae nifer y galwadau coch yn dangos cynnydd dros y blynyddoedd.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ym mis Medi, gwnaethpwyd ychydig dros 34,300 o alwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,144 o alwadau'r dydd, sef 34 galwad y dydd ar gyfartaledd yn fwy na'r mis blaenorol, ond 40 (3.4%) yn llai o alwadau'r dydd na’r un mis y llynedd.

Ar gyfartaledd, roedd 176 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ym mis Medi, sef 21 yn fwy na’r mis blaenorol.

Ym mis Medi, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 15.4%, sef 1.4 pwynt canran yn uwch nag ym mis Awst. Mae nifer y galwadau gwyrdd wedi gostwng yn gyson dros amser, ac mae nifer y galwadau coch wedi cynyddu’n gyson. Ym mis Medi, roedd nifer y galwadau coch yn uwch na nifer y galwadau gwyrdd am y tro cyntaf.

Perfformiad

Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ffigur 3: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Medi 2019 i Medi 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod y perfformiad ar gyfer galwadau ymateb brys wedi gostwng dros y tymor hir. Mae’r perfformiad yn parhau i fod yn is na’r targed o 65%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ym mis Medi, cyrhaeddwyd 49.0% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud ar ôl pennu lleoliad y claf a’r brif gŵyn. Roedd hyn 2.8 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol. 

Mae cyfran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf o’r ffigur uchaf o 80% yn 2017, ond dros yr un cyfnod mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y galwadau coch a dderbyniwyd. Er enghraifft, yn y deuddeg mis diwethaf roedd tua 60,000 o alwadau coch, mwy na dwywaith cymaint ag yn 2017 (22,000). Mae’r cynnydd cyffredinol yn y galw yn adlewyrchu dau beth i raddau helaeth; newidiadau yn y ffordd yr ymdrinnir â rhai galwadau, gan fod rhai galwadau a arferai gael eu categoreiddio fel galwadau ambr bellach yn cael eu categoreiddio fel rhai coch; a chynnydd mawr mewn cyflyrau anadlol yn ystod gaeafau diweddar. 

Ar wahân i’r galw, gall oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai effeithio ar berfformiad hefyd, pan nad yw criwiau ambiwlans yn gallu ymateb i alwadau newydd wrth aros i drosglwyddo cleifion i adrannau brys. Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn oedi wrth drosglwyddo yn y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy na phedair gwaith yn fwy o oriau’n cael eu colli yn ystod y deuddeg mis diwethaf o’i gymharu ag yn 2017. Ym mis Medi, collwyd tua 21,000 o oriau oherwydd oedi wrth drosglwyddo. Mae rhagor o ddata am oedi wrth drosglwyddo ar gael ar ddangosfwrdd Dangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Roedd yr amser ymateb canolrifol yn y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud ar gyfer galwadau coch. Ym mis Medi, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 8 munud ac 11 eiliad. Mae hyn 26 eiliad yn arafach nag yn y mis blaenorol, ac 1 eiliad yn arafach nag ym mis Medi 2023.

Mae’r rhan fwyaf o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Medi, yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambr oedd 1 awr 48 munud a 48 eiliad. Roedd hyn ychydig o dan 31 munud yn arafach nag ym mis Awst, ac ychydig o dan 25 munud yn arafach nag ym mis Medi 2023.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol, fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Ffigur 4: Nifer gyfartalog yr ymweliadau ag adrannau damweiniau, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys mawr y dydd, Medi 2019 i Medi 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos ymweliadau ag adrannau achosion brys, sydd fel arfer yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf, ond sydd fel arall yn aros yn gymharol sefydlog. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr ymweliadau yn ystod pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru, fesul band oedran, rhyw a safle, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Medi, cafwyd ychydig o dan 91,800 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,059 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 71 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.

Ym mis Medi, derbyniwyd ychydig o dan 14,200 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 2.9% yn is na’r mis blaenorol a 5.4% yn is nag yn yr un mis yn 2023.

Perfformiad
Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 5: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Medi 2019 i Medi 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau brys wedi gostwng yn ystod pandemig y coronafeirws, a bod y canran hynny wedi sefydlogi ar y cyfan ers 2021.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ym mis Medi, roedd 68.8% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn yn is na’r mis blaenorol, ac mae’n parhau’n gymharol isel mewn cyd-destun hanesyddol. 

Yn 2019, yr amser canolrifol a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd yr amser canolrifol sy’n cael ei dreulio yn yr adran wedi gostwng, i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae'r amseroedd canolrifol wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf ar gofnod, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Medi, yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 42 munud, sef 4 munud yn arafach na’r mis blaenorol.

Mae’r amser canolrifol sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr. 

Ym mis Medi, treuliodd plant (0-4 oed) gyfartaledd o 2 awr ac 12 munud mewn adrannau brys. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 5 awr a 32 munud mewn adrannau brys.

Ffigur 6: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Medi 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau brys, a oedd wedi gostwng yn sydyn yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws. Gwelwyd ychydig o ostyngiad yn ddiweddar, ar ôl tuedd hirdymor am i fyny.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed o 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ym mis Medi, roedd 9,730 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 258 (2.7%) yn fwy na’r mis blaenorol.

Gweithgarwch gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal wedi’i drefnu ar gyfer mis Awst 2024. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach yn cyhoeddi dangosfwrdd gofal eilaidd sy’n darparu data ar apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau cleifion mewnol a gweithgarwch achosion dydd yng Nghymru.

Atgyfeiriadau ac apwyntiadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Ffigur 7: Atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Awst 2019 i Awst 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny. Yn dilyn gostyngiad mawr mewn atgyfeiriadau ym mis Chwefror 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae atgyfeiriadau cleifion allanol wedi cynyddu’n raddol yn uwch na chyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeiriadau Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Atgyfeiriadau fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 3,909 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Awst 2024. Mae hyn yn ostyngiad o 15.3% (705 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Gorffennaf 2024, ac mae'n 4.9% o ostyngiad o’i gymharu â mis Awst 2023.

Perfformiad

Targedau

Ffigur 8: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Awst 2019 i Awst 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws cyn haneru i tua 50,000. Mae’r ffigur wedi cynyddu ers canol 2023. 

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn neu ddwy, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol fesul bwrdd iechyd lleol, ar StatsCymru

Ym mis Awst, roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu 4.5%, o’i gymharu â’r mis blaenorol, i 79,525. Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi ei gynllunio, ond mae wedi gostwng 22.5% ers y lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Amseroedd Aros am Wasanaethau Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Ffigur 9: Llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Awst 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos tueddiad hirdymor am i fyny yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig, gan gynnwys cynnydd sydyn ar ddechrau pandemig y coronafeirws, a nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi sydd hefyd wedi gweld tueddiad hirdymor am i fyny.

Ffynhonnell: Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Amseroedd Aros am Wasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r isafbwynt ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau wedi digwydd yn rhannol am nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth. 

[Nodyn 2]: Sylwch fod newidiadau i’r ffordd y mae’r data’n cael eu casglu wedi effeithio ar ffigurau mis Ebrill 2024 ar gyfer llwybrau therapïau. Yn benodol, nid yw llwybrau awdioleg (sydd bellach yn cael ei adrodd ar wahân ar StatsCymru) a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach. Darparwyd rhagor o fanylion am hyn yn natganiad mis Mehefin.

Ym mis Awst, roedd ychydig o dan 109,700 o lwybrau cleifion yn aros am wasanaethau diagnostig. Roedd hyn 1.9% yn llai na’r mis blaenorol.

Ym mis Awst, roedd ychydig o dan 56,500 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau. Roedd hyn 1.8% yn llai na’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 10: Llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, Awst 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos cynnydd mawr yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig ar ddechrau pandemig y coronafeirws, cyn gostwng drwy gydol 2020 ac amrywio ers hynny. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi wedi cyrraedd y lefel uchaf ym mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2022, ac ar ôl gostwng yn gyson am flwyddyn mae wedi bod yn codi ers mis Ebrill 2023. Nid yw lefelau gwasanaethau diagnostig na therapïau yn agos at y lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Amseroedd Aros am Wasanaethau Diagnostig a Therapi fesul wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Ddiwedd mis Awst, roedd ychydig mwy na 43,700 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 5.4% yn fwy na’r mis blaenorol. Ni chyrhaeddwyd y targed adfer gofal wedi’i gynllunio, i ddileu amseroedd aros o fwy nag 8 wythnos ar gyfer profion diagnostig erbyn Gwanwyn (Mawrth) 2024.

Ddiwedd mis Awst, roedd ychydig dros 6,300 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn 6.4% yn fwy na’r mis blaenorol. Ni chyrhaeddwyd y targed adfer gofal wedi’i gynllunio, i ddileu amseroedd aros o fwy nag 14 wythnos erbyn Gwanwyn (Mawrth) 2024.

Roedd yr amseroedd aros canolrifol am brofion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd yr amseroedd aros canolrifol am y ddau wasanaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau). 

Ym mis Awst, 5.7 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig, o’i gymharu â 5.0 yn y mis blaenorol. Roedd yr amser aros canolrifol am wasanaethau therapi yn 5.0 wythnos, o’i gymharu â 4.3 wythnos y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rhai sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau wedi cau yw’r rhai sydd wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros.

Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru

Mae gwybodaeth reoli wedi cael ei chyhoeddi hefyd, am nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Ffigur 11: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, Awst 2019 i Awst 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell yn dangos bod y nifer sy’n aros wedi cynyddu’n sylweddol ers pandemig y coronafeirws. Gwelwyd cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd oherwydd pandemig y coronafeirws. Er bod y niferoedd wedi bod yn gostwng ers hynny, dechreuwyd gweld cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, grwpiau o wythnosau, a cham ar y llwybr, ar StatsCymru

Ym mis Awst, roedd ychydig o dan 800,200 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn yn gynnydd o tua 3,500 o lwybrau o’i gymharu â mis Gorffennaf, a 76.3% yn uwch na mis Mai 2020. Dyma’r ffigur uchaf ar gofnod. 

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 721,100 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 23 o lwybrau (nid cleifion) am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Awst yn 13 llwybr am bob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd. Mae Grŵp Llywio Ystadegau Iechyd y DU (UKHSSG) wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar gydlyniant ystadegau iechyd ar wefan y swyddogaeth ddadansoddi.

O’r cyfanswm o 800,200 o lwybrau, roedd tua 169,700 o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn ym mis Awst. Roedd y nifer hwn 3.3% yn uwch na'r mis diwethaf. Mae hyn wedi bod yn codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac erbyn hyn dim ond 7.5% yn is na’r brig ym mis Awst 2022. Roedd bron i 24,200 yn aros mwy na dwy flynedd. Mae’r nifer hwn 1.5% yn uwch na'r mis blaenorol, ond 65.6% yn is na’r nifer uchaf ym mis Mawrth 2022. 

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cael ei asesu ar y sail bod ‘y rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith sy’n cael eu cydnabod yn rhai eithriadol o heriol, gyda niferoedd mawr yn aros hyd yn oed cyn pandemig COVID-19. Y rhain yw Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol, Offthalmoleg, Wroleg, Gynaecoleg, Orthopaedeg a Chlust, Trwyn a Gwddf. Ni chyrhaeddwyd y targed ym mis Mawrth 2023, ac ym mis Awst roedd 16 o arbenigeddau eraill o hyd â llwybrau’n aros dros ddwy flynedd, sef 3,264 o lwybrau, sy'n gynnydd o 13 o’i gymharu â’r mis diwethaf. 

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. 

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 619,200 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Awst, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) wedi adrodd bod ychydig o dan 800,200 o lwybrau cleifion ar agor. Dyma’r nifer uchaf ar gofnod. Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul bwrdd iechyd ar gael ar StatsCymru: Amcangyfrifon o Gleifion Unigryw.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, a aseswyd yn annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon.

Ffigur 12: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, Awst 2019 i Awst 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng yn sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws, a bod y perfformiad wedi sefydlogi er hynny, gan gynyddu’n araf rhwng tua 50 a 60%. 

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith ychydig o dan 800,200 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Awst, roedd 54.1% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 1.3 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 27.8 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2020.

Ffigur 13: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis ac wythnosau o aros, Awst 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 13: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws ac sydd bellach ar y lefelau uchaf ar gofnod.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser, fesul mis a grwpiau o wythnosau, ar StatsCymru

Ym mis Awst, roedd ychydig o dan 284,600 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn yn 35.6% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 8,610 (neu 3.1%) yn uwch nag yn y mis blaenorol, a dyma’r ffigur uchaf ar gofnod. 

Cyn y pandemig, rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020, yr amser aros canolrifol i ddechrau triniaeth oedd tua 10 wythnos. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrraedd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Awst, canolrif yr amser aros oedd 23.0 wythnos, sef 1.1 wythnos yn uwch na'r mis blaenorol.

Ffigur 14: Llwybrau cleifion a gaewyd, Awst 2019 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gaewyd, sydd fel arfer yn amrywio. Ar ôl gostyngiad mawr ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae nifer y llwybrau a gaewyd wedi codi’n raddol i’r lefelau yr oeddent cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl fesul mis, bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Erbyn hyn, mae’r data wedi cael eu diwygio i gynnwys llwybrau a gaewyd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd 100,013 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Awst. Roedd hyn yn gyfartaledd o 4,763 o lwybrau cleifion yn cau bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn ostyngiad o 394 o lwybrau cleifion (neu 7.6%) yn cael eu cau fesul diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithgaredd

Ffigur 15: Llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio ond yn dangos tueddiad am i fyny, a nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sydd wedi bod yn gymharol sefydlog ers dechrau cofnodi.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Awst, dechreuodd 1,702 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn 345 yn llai na’r mis blaenorol.

Cafodd 13,589 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 15.1% yn llai na’r mis blaenorol. 

Ym mis Awst, agorwyd 15,350 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn ostyngiad o 2,205 (12.6%) o’i gymharu â’r mis blaenorol, ac yn ostyngiad o 8.3% o’i gymharu â mis Awst 2023. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi amrywio, ond mae wedi sefydlogi dros y misoedd diwethaf.

Perfformiad

Targed

  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Ffigur 16: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart linell yn dangos canran y llwybrau cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf, a’r targed perfformiad o 75%. Mae’r perfformiad yn amrywio, ond cafwyd tueddiad cyffredinol am i lawr yn y blynyddoedd diwethaf. 

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cafodd y gwaith newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2020, gyda tharged perfformiad o 75%. Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.

Ym mis Awst, roedd 56.5% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 1.5 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol, ond 1.9 pwynt canran yn is na mis Awst 2023.

Sylw i Fyrddau Iechyd Lleol

  • O’r mesurau sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn, yr unig fwrdd iechyd sy’n cyrraedd unrhyw un o’r targedau perfformiad ar hyn o bryd yw Bae Abertawe, sydd heb fod ag unrhyw apwyntiad cyntaf fel claf allanol ers dros flwyddyn. Mae nifer y llwybrau sy’n aros dros yr amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi hefyd yn isel iawn ym Mae Abertawe. 
  • O ran galwadau brys am ambiwlans neu alwadau ‘coch’, Hywel Dda oedd â'r gyfran uchaf o ymatebion o fewn 8 munud ym mis Medi (56.6%). Cwm Taf Morgannwg oedd â’r gyfran isaf, ar 42.9%.
  • O ran adrannau achosion brys, Bae Abertawe oedd â’r gyfran uchaf o gleifion a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn y targed amser o 4 awr (78.7%) a Chaerdydd a’r Fro oedd â’r gyfran isaf (60.7%).
  • Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys, ar 7.2%, a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (15.8%).
  • Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf o lwybrau Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth yn hirach na blwyddyn ym mis Awst, ar 26.2% o lwybrau, a Bae Abertawe oedd â’r isaf, ar 14.3% o lwybrau. Betsi Cadwaladr hefyd oedd â’r gyfran uchaf yn aros mwy na dwy flynedd, ar 5.4%, a Bae Abertawe oedd â’r isaf, ar 1.3%. 
  • O ran apwyntiadau cyntaf fel cleifion allanol, Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn ym mis Awst (25.4% o lwybrau), a Bae Abertawe oedd â’r gyfran isaf, gan nad oedd unrhyw lwybrau wedi gorfod aros mwy na blwyddyn.
  • Ar hyn o bryd, Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (63.8% o lwybrau), a Phowys sydd â’r gyfran isaf (21.4%).
  • O ran therapïau, Hywel Dda sydd â’r gyfran uchaf sy’n aros yn hirach na’r amser targed o 14 wythnos (25.4% o lwybrau), a Phowys sydd â’r gyfran isaf (llai nag 1%).
  • O ran gwasanaethau canser, Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r pwynt amheuaeth (68.4%), a Hywel Dda sydd â’r gyfran isaf (48.1%).

Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ffigur 17: Crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, Awst a Medi 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 17: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif uwchben y ffigur.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.  

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddwyd eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, a defnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer.

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data, ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Amseroldeb y data sy’n darparu’r diweddariad mwyaf diweddar gan ddefnyddio data dibynadwy. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost i regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

21 Tachwedd 2024

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 96/2024

Image