Cyfarfod, Dogfennu
Eitem Agenda 2: Defnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaith teg
Defnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaith teg - cam nesaf y polisi gwaith teg.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 113 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Penderfyniadau sydd eu hangen
Gofynnir i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno i weithio ar y tri cham a nodir isod:
- Mabwysiadu llinellau coch ar gyfer ariannu
- Ehangu a safoni'r defnydd o'r Contract Economaidd
- Adolygu'r broses weithredu
a chynghori bod y meini prawf 'llinell goch' yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet cyn gynted â phosibl.
Mater
- Darparwyd y papur hwn gan TUC Cymru ar ran ochr cynrychiolydd y gweithwyr.
- Pwrpas y papur yw datblygu'r polisi sydd y tu ôl i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i "[d]defnyddio pob dull ysgogi [sydd gan Lywodraeth Cymru] i hyrwyddo a galluogi gwaith teg, ymdrin ag achosion o gamfanteisio ar weithwyr a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern."
- Mae'n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi creu polisi yn y maes hwn, gan gynnwys y Contract Economaidd, canllawiau ar waith teg, gwaith ar gaethwasiaeth fodern, trefniadau partneriaeth gymdeithasol y sector, a diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Cefndir
- Mae partneriaid yn yr Undebau Llafur yn cydnabod nad yw'r gallu i ysgogi canlyniadau penodol o gaffael sy'n mynd y tu hwnt i’r isafswm gofynion statudol yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn credu y gallai ei orfodi’n gyfreithiol. Rydym er hynny yn deall bod llawer llai o gyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei fandadu o ganlyniad i gyllid grant ac felly rydym yn rhagweld mai dyma lle bydd y meini prawf gwaith teg mwyaf uchelgeisiol yn cael eu cyflwyno.
- Mae meini prawf hefyd y gellid eu cyflwyno nad oes angen gwariant ychwanegol ar eu cyfer, ond sy'n ceisio lleihau'r risg y bydd cyllid cyhoeddus yn y pen draw yn cyrraedd cyflogwyr nad ydynt yn cynnal hawliau dynol sylfaenol, gan gynnwys hawliau llafur, ac y dylai fod o leiaf set sylfaenol o feini prawf gwaith teg sy'n berthnasol ar draws caffael a chyllid grant.
- Mae'r papur hwn yn cynnig sut y gall y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol arwain cam nesaf y polisi gwaith teg, fel bod cam i fyny o ran gweithredu’n gyson ar draws Llywodraeth Cymru. Mae'n nodi dull tri cham, gan ddechrau gyda'r 'llinellau coch' y dylid eu cyflwyno ar draws yr holl wariant cyhoeddus datganoledig fel meini prawf contractiol i gyfyngu ar y risg y bydd gwariant cyhoeddus yn mynd tuag at arferion llafur camfanteisiol.
- Byddai gwneud yr amodau syml, rhad ac am ddim hyn yn ofyniad o bob gwariant cyhoeddus ar draws Llywodraeth Cymru (yn yr ystyr ehangaf, gan gynnwys cyrff datganoledig a sefydliadau hyd braich, fel Banc Datblygu Cymru) yn gam cyntaf o ran cyflawni'r ymrwymiad polisi 'pob dull ysgogi' a wnaed gan Lywodraeth Cymru, a gallai'r camau nesaf edrych ar sut i ddileu contractau sy’n camfanteisio (yn enwedig contractau dim oriau) mewn gweithleoedd sy'n elwa o fuddsoddiad cyhoeddus.
Cam nesaf y polisi Gwaith Teg
- Mae'r papur hwn yn ceisio dechrau’r broses o’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn cynhyrchu cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y gellir cyflawni elfen 'gwaith teg' Nod 'Cymru Lewyrchus' yn fwy effeithiol, a sut mae angen dull gweithredu llywodraeth gyfan i wneud hyn.
- Mae'n argymell mai cam cyntaf y broses o sicrhau bod polisi gwaith teg yn cael ei gymhwyso'n gynhwysfawr yw creu 'llinellau coch' ar ffurf rhwymedigaethau contractiol ar gyfer gwariant cyhoeddus. Bydd hynny’n dechrau gwireddu'r ymrwymiad i "ddefnyddio pob dull ysgogi [sydd gan Lywodraeth Cymru] i hyrwyddo a galluogi gwaith teg, ymdrin ag achosion o gamfanteisio ar weithwyr a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern”.
- Yr ail gam yw ehangu a safoni'r defnydd o'r Contract Economaidd fel porth i gyllid cyhoeddus, gan nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyflog, math o gontract ac arferion cyflogaeth eraill sy'n gwneud gwaith yn decach. Bydd yn cael ei ysbrydoli gan ddull Fair Work First a fabwysiadwyd gan Lywodraeth yr Alban, sy'n gorfodi rhai arferion cyflogaeth (fel talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol) drwy gyllid grant gan y llywodraeth. Ochr yn ochr â hyn, mae partneriaid sy’n Undebau Llafur yn awgrymu bod ymwybyddiaeth o gamfanteisio ar lafur - gan gynnwys pa sectorau a galwedigaethau y mae'n fwy cyffredin ynddynt a sut mae'n edrych - yn cael ei chodi ar draws y llywodraeth, a bod y dysgu hwn yn cael ei ymgorffori yn y dull Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol. Trwy sefydlu lefel sylfaenol o ymwybyddiaeth o sut olwg sydd ar gamfanteisio ar lafur yng Nghymru, gan gynnwys pwy sydd mewn mwy o berygl, yn seiliedig ar nodweddion unigolion, sectorau, rolau a daearyddiaeth, yn ogystal â sut y gellir mynd i'r afael â hyn yn strwythurol, gall Llywodraeth Cymru weithredu dull sy'n seiliedig ar risg ym mhob gwaith sydd â chanlyniadau i'r gweithlu.
- Y trydydd cam yw i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol adolygu’r broses weithredu, gan ddeall sut mae pob rhan o'r llywodraeth yn cyflawni mewn perthynas â gwaith teg. Mae partneriaid sy’n Undebau Llafur yn gwybod bod data eisoes yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y Dangosyddion Cenedlaethol perthnasol, ac mae data'r farchnad lafur yn cael ei ddadansoddi a'i gasglu'n rheolaidd. Byddai'r adolygiad hwn yn canolbwyntio mwy ar glywed gan swyddogion mewn gwahanol adrannau sy'n fwy tebygol o effeithio ar weithwyr sydd mewn mwy o berygl o gamfanteisio (er enghraifft, adeiladu), i ddeall y camau y maent yn eu cymryd yn eu hadran i gyflawni'r nod polisi gwaith teg, a chryfhau perthnasoedd â phartneriaid cymdeithasol.
- Mae partneriaid sy’n Undebau Llafur yn awgrymu'r dull graddol hwn gan fod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn ei ddyddiau cynnar, ac mae pob ochr yn awyddus i'w weld yn cael effaith gyflym. Felly, yn hytrach na mynd i'r afael â hyn fel adolygiad hir o bolisi gwaith teg yn gyffredinol, mae'r camau hyn yn nodi sut y gall Llywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i ddefnyddio 'pob dull ysgogi' a rhoi'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol mewn sefyllfa i gynghori ar gynnydd graddol.
Llinellau coch
- Yn gyntaf, bydd angen i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ystyried sut mae polisi gwaith teg yn lleihau'r risg o gamfanteisio ar lafur o ganlyniad i wariant cyhoeddus, cyn y gallwn ystyried sut i godi safonau cyflogaeth drwyddo.
- Bydd 'llinellau coch' contractiol yn sicrhau bod cyflogwyr sy'n agored elyniaethus i gadw at hawliau llafur sylfaenol yn cael eu hatal rhag cymryd arian cyhoeddus, a bod llwybr i adfachu cyllid os yw cyflogwr yn torri cyfraith cyflogaeth.
- Nid y Contract Economaidd yn ei ffurf bresennol yw'r dull ysgogi cywir ar gyfer y 'llinellau coch' yr ydym yn eu cynnig gan nad yw'n gysylltiedig ag amodau cyllid grant, nid yw'n cael ei ddefnyddio gan holl adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl gyllid grant, cafwyd nifer o iteriadau ohono ac mae'r geiriad yn gymharol amwys, ac mae'n drefniant dwyochrog rhwng y llywodraeth a chyflogwr. Mae partneriaid sy’n Undebau Llafur yn cydnabod ei fod yn borth i gael gafael ar gyllid, ac y gall fod yn ddull eithaf dwys o ran adnoddau gan ei fod yn mynd y tu hwnt i’r prif feini prawf ac yn ceisio gweithio gyda busnes i wella arferion penodol, ond nid ydym yn hyderus y byddai byth yn arwain at gyflogwr yn methu cael gafael ar arian cyhoeddus.
- Yn hytrach, ffordd graidd o reoli'r risg o gamfanteisio ar lafur o wariant cyhoeddus a nodi i gyflogwyr na fydd y llywodraeth yn ei oddef mewn sefydliadau y mae ganddynt drefniant ariannol â hwy yw nodi yn benodol y byddai achos o dorri cyfraith cyflogaeth y gellir ei brofi neu wrthod caniatáu mynediad i undebau llafur i weithwyr yn cael ei ystyried yn dor-cytundeb, ac felly gallai arwain at derfynu contract neu adfachu cyllid. Dylai hyn gael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru fel arfer safonol a pheidio â chael ei ystyried fel meini prawf y gall cyflogwr eu trafod – mae hon yn llinell goch o ran arian cyhoeddus yng Nghymru.
- Mae contractau ariannu eisoes yn cynnwys cyfeiriad at weithgarwch anghyfreithlon fel amod:
- (d) Ni chaniateir i chi ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid ar gyfer unrhyw fath o weithgaredd a allai ddwyn anfri arnom yn ein barn ni, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i ... (6) unrhyw fath o weithgareddau anghyfreithlon.
- Byddai hyn yn ehangu ar hyn i nodi bod tor-cyfraith cyflogaeth yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o bryderus amdano a byddai'n arwain at ganlyniadau sy'n gysylltiedig â'r trefniant contractiol sydd gan y cyflogwr gyda Llywodraeth Cymru.
- Nid oes cost ynghlwm â datganiad y byddai cyflogwr yn caniatáu ac yn galluogi mynediad i undebau llafur i'r gweithlu, ac mae'n arwydd nad yw cyflogwr yn elyniaethus i undebau. Mae gwrthod ymrwymo i hyn yn arwydd clir bod cyflogwr yn ceisio rhwystro eu gweithlu rhag cael mynediad i'w hawliau llafur sylfaenol, felly ni allwn ddychmygu bod hyn yn rhwystr i unrhyw gyflogwr y byddai Llywodraeth Cymru am iddo dderbyn arian cyhoeddus. Gellid datblygu diffiniad mwy manwl, defnyddiadwy o 'fynediad i undebau llafur' i wneud hyn yn ystyrlon trwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
- Mae partneriaid sy’n Undebau Llafur yn argymell bod y cam cyntaf yn cael ei weithredu ar frys, fel bod sail ar gyfer meini prawf 'gwaith teg' cyffredinol ar draws gwariant cyhoeddus. Rhaid i hyn gyrraedd pob rhan o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru, cyrff cyllido a phob adran.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen creu:
- Set o feini prawf llinell goch a fydd yn berthnasol i bob gwariant cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr o leiaf ymrwymo i gydymffurfio â chyfraith cyflogaeth (fel y gall achos o dor-cytundeb y gellir ei brofi arwain at dynnu contract yn ôl) a mynediad i undebau llafur fel amod contract.