Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi ein bwriad i gyflwyno cynllun ardrethi parhaol i fusnesau bach o 1 Ebrill 2018. Bydd hwn yn rhoi sicrwydd i fusnesau bach yng Nghymru, gan dorri trethi i'w helpu i ysgogi twf economaidd yn y tymor hir. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi manylion y cynllun parhaol hwnnw.
Yn 2017-18, rydym yn rhoi mwy na £110 miliwn o gymorth i fusnesau bach i'w helpu i dalu eu hardrethi. Bydd ein cynllun parhaol, a fydd ar waith o 1 Ebrill 2018, yn cynnal y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Yn unol â'n hegwyddorion treth, o dan y cynllun newydd hwn, bydd y cymorth yn cael ei dargedu'n fwy effeithiol tuag at y busnesau hynny a fydd yn elwa fwyaf. Bydd yn cefnogi swyddi a thwf ac yn cyflawni manteision ehangach ar gyfer ein cymunedau lleol.
Ymgynghorwyd yn eang â rhanddeiliaid wrth gynllunio'r cynllun parhaol hwn ac ystyriwyd hefyd safbwyntiau talwyr ardrethi, cynrychiolwyr o fyd busnes, trethdalwyr eraill ac awdurdodau lleol. Rwy'n ddiolchgar i bob un a gyfrannodd mewn modd gwerthfawr ac adeiladol i'r ymarfer hwn.
Er mwyn ein galluogi i dargedu rhyddhad ardrethi yn fwy effeithiol, bydd y cynllun newydd hwn yn cyfyngu ar nifer yr eiddo sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i ddau eiddo fesul busnes ym mhob awdurdod lleol. Mae hyn yn rhyddhau tua £7m a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi mewn meysydd eraill o ryddhad.
Bydd y cronfeydd hyn yn cael eu defnyddio fel a ganlyn:
• Rhoi cymorth ychwanegol ar gyfer y sector gofal plant, gan gynyddu’r trothwy uchaf ar gyfer hawlio rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant o £12,000 i £20,500. Bydd mwy na 100 o ddarparwyr gofal plant yn elwa ar hyn ledled Cymru.
• Darparu cefnogaeth gwerth £5 miliwn i barhau Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr i 2018-19.
• Darparu £1.3m arall o gyllid i awdurdodau lleol, er mwyn iddynt ei ddefnyddio ar gyfer arfer eu pwerau disgresiwn i roi rhyddhad wedi'i dargedu i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa fwyaf ar gymorth ychwanegol.
• Rhoi cymorth wedi'i dargedu i brosiectau ynni dŵr bach.
Bydd y cynllun rhyddhad newydd yn cael ei gyflwyno ar sail barhaol o 2018, ond byddaf yn dal i ddatblygu'r cynllun i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion Cymru yn y ffordd orau posibl.
Bydd y meysydd eraill yr ymchwilir iddynt yn cynnwys:
• Targedu cymorth at sectorau neu fathau penodol o fusnes sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, er enghraifft, gofal cymdeithasol a'r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Economaidd.
• Targedu cymorth at y sector gofal plant, gan gynnwys ystyried Adolygiad Barclay o Ardrethi Busnes a gynhaliwyd yn yr Alban yn gynharach eleni. Bydd y gwaith hwn yn helpu o ran rhoi cynllun y gweithlu gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar ar waith drwy helpu darparwyr gofal plant i weithredu mewn modd sy'n fwy cynaliadwy, ac yn unol ag uchelgais y Cynllun Gweithredu Economaidd.
• Y posibilrwydd o derfynu'r cyfnod rhyddhad cyffredinol, er mwyn ailgyfeirio adnoddau i roi mwy o help i fusnesau yn ystod y cyfnod sefydlu a thwf cynnar.
• Asesu pa mor ymarferol ydyw bod cymhwystra busnes i hawlio rhyddhad ardrethi yn cael ei gysylltu â thalu’r cyflog byw.
• Gweithio i fynd i'r afael â thwyll ac achosion o osgoi talu ardrethi annomestig.
• Ystyried lle y gellid eithrio rhai busnesau rhag cael rhyddhad ardrethi, os nad ydynt yn gweithredu’n unol ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
Rwy'n bwriadu mabwysiadu agwedd flaengar, deg a thryloyw tuag at drethi lleol yng Nghymru sy'n dal i ddarparu cyllid hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach yn allweddol i wireddu'r weledigaeth hon.