Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwaith yn parhau ar y deunydd ategol (is-ddeddfwriaeth, canllawiau statudol, cymalau enghreifftiol a Chod y Gweithlu ac Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus – y "Cod Gweithlu") sydd ei angen i ddod â'r dyletswyddau Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol (Rhan 3) i rym.

Ers y cyfarfod CPG diwethaf mae’r ymdrechion wedi canolbwyntio ar y gweithiau cyhoeddus cymdeithasol a chymalau'r gweithlu cyhoeddus cymdeithasol a Chod y Gweithlu, ac ar y metrigau y bydd angen eu cynnwys mewn rheoliadau ac yr adroddir arnyn nhw’n flynyddol gan awdurdodau contractio.

Cymalau y Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol a Chod y Gweithlu newydd

Dyfarnwyd contract i gwmni cyfreithiol Geldards i ddatblygu Cod a chymalau drafft. Sefydlwyd tair set o grwpiau cyfeirio: y cyntaf gyda chymorth y TUC i gynnwys cynrychiolwyr undeb; yr ail gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymgysylltu â chydweithwyr caffael ac Adnoddau Dynol o'r sector cyhoeddus; a'r trydydd gyda Chymdeithas Gwasanaethau Busnes, sy'n cynnwys llawer o'r darparwyr gwasanaethau a roddir ar gontract allanol o fewn ei aelodaeth. 

Nod y gweithdai oedd ystyried adborth ar weithrediad y Cod gweithlu presennol, ystyried y newidiadau sy'n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth newydd, a rhoi sylwadau ar y Cod Drafft a’r cymalau newydd a oedd wedi'u dosbarthu ymlaen llaw. Daeth llawer ynghyd i'r holl gyfarfodydd a thrafodwyd y drafft newydd mewn cryn fanylder. Mae nifer o welliannau wedi'u gwneud, ac mae'r holl faterion a godwyd wedi'u nodi. Felly, mae'r drafft newydd yn barod ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol sy'n ofynnol o dan y Ddeddf.

Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol

Dyfarnwyd contract ar wahân i gwmni cyfreithiol Geldards i ddatblygu set ddrafft o gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn seiliedig ar y papur cynnig a ddeilliodd o ddau gylch o weithdai fu’n trafod pob un o'r chwe chategori gwella yn Nhabl 1 yn y Ddeddf. Bu partneriaid cymdeithasol yn rhan o'r gweithdai cynharach hyn, gan gyfrannu at ddatblygiad y papur cynigion. Y categorïau yw: taliadau prydlon; cyfleoedd cyflogaeth; cydymffurfio â’r gyfraith cyflogaeth; hyfforddiant; cyfleoedd is-gontractio; a'r amgylchedd.

Mae'r gwaith hwn ar y gweill ac mae'n cynnwys trafodaethau pellach gydag arbenigwyr yn y chwe chategori hyn. Rydyn ni’n gobeithio cael set ddrafft o gymalau cyn toriad yr haf, a bydd ymgynghoriad yn dilyn.

Metrigau canlyniadau llesiant

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i weinidogion gyhoeddi rheoliadau sy'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau contractio ei chasglu a'i hadrodd i ddangos eu bod yn bodloni eu hamcanion caffael a'u cyfraniad at gyflawni'r nodau llesiant. 

Datblygwyd papur cynigion dros sawl mis gyda grŵp cyfeirio yn cynnwys cydweithwyr caffael o bob rhan o'r sector cyhoeddus ac o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r papur yn cynnwys set ddrafft o tua 20 metrig. Mae contract wedi'i ddyfarnu i Cwmpas i helpu i brofi'r metrigau hyn, gydag awdurdodau contractio, partneriaid cymdeithasol a chyflenwyr. Mae cyfarfodydd i drafod hyn ar y gweill, ac rydyn ni’n gobeithio cael set o fetrigau a all fod yn sail i reoliadau o fewn y misoedd nesaf. Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar y rhain yn dilyn.